Ymchwil a dadansoddi

Adroddiad Cyfnodol Swyddfa’r Farchnad Fewnol

Mae Swyddfa’r Farchnad Fewnol (OIM) wedi cyhoeddi ei hadroddiad cyfnodol ar gyfundrefn marchnad fewnol y DU.

Dogfennau

Manylion

Dyma ein hadroddiad cyfnodol cyntaf yn asesu’r trefniadau a sefydlwyd gan Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 (y Ddeddf). Mae’r adroddiad yn diwallu ein gofyniad adrodd statudol o dan a.33(6) y Ddeddf. Mae’r adroddiad yn asesu effeithiolrwydd darpariaethau yn rhannau 1 i 3 y Ddeddf, effaith gweithredu’r darpariaethau hynny ar farchnad fewnol y DU, rhyngweithiad y darpariaethau hynny â chytundebau Fframwaith Cyffredin, ac effaith cytundebau Fframwaith Cyffredin ar weithrediad a datblygiad marchnad fewnol y DU. Mae’r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau ymchwil ynghylch effeithiolrwydd yr Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad ac asesiadau o ddatblygiadau o ran cytundebau Fframwaith Cyffredin.

Cyhoeddwyd ar 22 March 2023