Ymchwil a dadansoddi

Map Ffordd Strategaeth Ddata Swyddfa’r Farchnad Fewnol

Mae Swyddfa’r Farchnad Fewnol (OIM) wedi cyhoeddi map ffordd strategaeth ddata.

Dogfennau

Manylion

Gall ystadegau’n ymwneud â masnach rhwng gwledydd y DU chwarae rhan bwysig o ran helpu’r OIM a’i phartneriaid i ddeall sut mae marchnad fewnol y DU yn gweithredu. Fodd bynnag, nid oes data’n ymwneud â masnach o fewn y DU ar gael ar hyn o bryd ar gyfer bob un o’r pedair gwlad, ac nid yw data pob gwlad yn gymaradwy. Mae’r OIM wedi cydweithio â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, adrannau yn Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau Datganoledig i ddatblygu map ffordd yn pennu’r prosiectau sydd ar y gweill i wella data masnach o fewn y DU, pa welliannau yn y data y gallwn ddisgwyl eu gweld, ac erbyn pa bryd.

Cyhoeddwyd ar 22 March 2023