Adroddiad Blynyddol OIM 2025 i 2026
Mae Swyddfa'r Farchnad Fewnol (OIM) wedi cyhoeddi ei hadroddiad blynyddol ar weithrediad y farchnad fewnol ar gyfer 2025 i 2026.
Dogfennau
Manylion
Dyma ein hadroddiad blynyddol ar weithrediad marchnad fewnol y DU a datblygiadau o ran effeithiolrwydd gweithrediad y farchnad honno. Mae’r adroddiad yn bodloni ein gofyniad adrodd statudol dan adran 33(5) Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020.
Mae’r adroddiad blynyddol yn cyflwyno trosolwg o ddatblygiadau yng nghyfundrefn marchnad fewnol y DU, data mewn perthynas â masnach o fewn y DU ac yn trafod datblygiadau rheoleiddiol cyfredol a rhai sydd ar y gweill sy’n effeithio, neu sydd â’r potensial i effeithio, ar farchnad fewnol y DU.
Dangosfwrdd Datblygiadau Rheoleiddiol OIM
Mae’r OIM hefyd wedi diweddaru ei ddangosfwrdd rhyngweithiol sy’n dangos gwahaniaethau rheoleiddiol posibl ym marchnad fewnol y DU y mae’r OIM yn eu holrhain, sydd ar gael drwy dudalen hafan Datblygiadau rheoleiddiol ym marchnad fewnol y DU.