Adroddiad corfforaethol

Cynllun Busnes Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus: 2019 i 2020 (fersiwn y we)

Diweddarwyd 1 October 2020

Applies to England and Wales

Helpu pobl i wneud penderfyniadau

Ein gweledigaeth yw bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cryfhau’r broses o helpu pobl i wneud penderfyniadau.

Byddwn yn annog rhoi’r rhyddid i wneud penderfyniadau i bawb sy’n gallu gwneud penderfyniadau, yn helpu pawb a allai wneud penderfyniadau, ac yn amddiffyn unrhyw bobl sy’n methu gwneud penderfyniadau.

Rhagair gan Edward Argar AS

Mae bywyd modern wedi ein newid ni mewn ffyrdd na fyddem byth wedi gallu eu dychmygu. Mae cymdeithas yn yr 21ain ganrif a datblygiadau ym myd technoleg wedi rhoi mwy o ddewisiadau i ni, ac wedi newid y ffordd rydym yn byw. Gall y rheini a gafodd eu geni yn ystod y 1980au ddisgwyl byw nes byddant yn 89 oed, a bydd chwarter y babanod sy’n cael eu geni heddiw yn byw nes byddant dros 100 oed.

Mae poblogaeth sy’n heneiddio a byd cymdeithasol, diwylliannol a thechnolegol sy’n newid yn cynnig cyfleoedd a heriau i’r economi, i’n gwasanaethau ac i gymdeithas.

Mae nifer y teuluoedd ar ffurf draddodiadol yn lleihau, ac mae’r cyfraddau dementia yn cynyddu. Mae’r ffactorau hyn yn cynyddu’r angen i wneud yn siŵr bod gan bawb y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain am eu materion. Mae angen i’r Llywodraeth roi cefnogaeth i’r rheini sydd angen help i wneud penderfyniadau am eu sefyllfa ariannol a’u gofal. Mae gan y Llywodraeth ddyletswydd hefyd i amddiffyn y rheini nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud hynny drostynt eu hunain. Felly, mae’n bleser gennyf gyflwyno cynllun busnes Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer 2019 i 2020, sy’n egluro nodau’r asiantaeth ar gyfer y flwyddyn.

Mae diogelu yn flaenoriaeth i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae hyn yn golygu gweithio gyda chydweithwyr mewn cyrff preifat, cyhoeddus, gwirfoddol a chymunedol. Nod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw cefnogi ac amddiffyn ein defnyddwyr yn well, gan adeiladu ar yr holl waith sy’n cael ei wneud yn barod yn y maes hwn.

Rwy’n croesawu’r camau i gynyddu ymwybyddiaeth o’r angen i drefnu atwrneiaeth arhosol. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o bobl yn gwybod sut i benodi rhywun maent yn ymddiried ynddo, i’w helpu i wneud penderfyniadau os byddant yn colli galluedd meddyliol.

Nod rhaglen trawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG 2025) yw gwneud yn siŵr bod y sefydliad yn parhau i gynnig gwasanaethau rhagorol ac effeithlon, gan alluogi ein staff i helpu pobl eraill i ddilyn egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Dyma fydd y cynllun busnes olaf i gael ei gyhoeddi o dan arweinyddiaeth Alan Eccles. Byddwn ni wir yn gweld eisiau angerdd a brwdfrydedd Alan. Rwy’n ddiolchgar iddo am ei ymrwymiad a’i wasanaeth cyhoeddus ymroddedig. Fel Gwarcheidwad Cyhoeddus Cymru a Lloegr, mae Alan wedi cynyddu ymwybyddiaeth o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac wedi cynyddu effaith y sefydliad. Mae wedi arwain y sefydliad yn llwyddiannus, ac wedi rhoi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar drywydd uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.

Edward Agar AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder.

Cyflwyniad gan Alan Eccles CBE

Mae pobl y dyddiau hyn yn byw’n hirach nag erioed o’r blaen. Yn y DU, mae 850,000 o bobl yn byw gyda dementia ar hyn o bryd. Mae’r ffigur yma’n debygol o gynyddu i dros 1 miliwn erbyn 2025, ac i 2 filiwn erbyn 2051. Mae’r Gymdeithas Strôc yn cadarnhau bod dros 1.2 miliwn o bobl sydd wedi goroesi strôc yn byw yn y DU. Roedd Headway, y gymdeithas anafiadau i’r ymennydd, wedi cofnodi bod nifer y bobl a gafodd eu hanfon i’r ysbyty gydag anafiadau i’r ymennydd wedi cynyddu 10% rhwng 2005 i 2006 a 2016 i 2017. Gyda ffigurau fel y rhain, bydd y galw am ein gwasanaethau’n cynyddu.

Mae 7 mlynedd wedi mynd heibio ers i mi ddod yn Warcheidwad Cyhoeddus Cymru a Lloegr, ac mae’r llywodraeth a chymdeithas wedi newid yn ystod y cyfnod hwnnw. Ers i ni ddechrau yn 2007, rydym wedi tyfu’n gyflym o fod yn weithlu bach yn Llundain i fod yn gyflogwr sylweddol yng Nghanolbarth Lloegr. Mae nifer y staff yn ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham wedi cynyddu i dros 1,400 i gyd.

Mae nifer yr achosion atwrneiaeth arhosol rydym yn delio â nhw wedi bod yn cynyddu o un flwyddyn i’r llall. Yn ein blwyddyn lawn gyntaf, fe wnaethom ddelio â dros 90,000 o geisiadau. Erbyn diwedd 2018, roedd dros 3.4 miliwn o atwreiaethau arhosol (LPAs) a 150,000 o atwreiaethau parhaus (EPAs) ar ein cofrestr. Ar yr un pryd, rydym wedi parhau i oruchwylio tua 59,000 o ddirprwyon sydd wedi’u penodi gan y llys.

Gyda chymaint o gynnydd a mwy o ymwybyddiaeth o’n gwaith, rydym yn disgwyl y bydd y galw am ein gwasanaethau’n cynyddu yn y dyfodol. Bydd mwy o bobl angen ein help ni i gynllunio ar gyfer eu dyfodol, neu ar gyfer cyfnod pan fydd angen iddynt helpu pobl eraill i wneud penderfyniadau.

Am y rhesymau hyn, mae’n rhaid i ni addasu, datblygu’r un mor gyflym a pharhau i gynnig y gwasanaeth o safon uchel sydd ei angen ar ein defnyddwyr.

Pwrpas ein rhaglen trawsnewid – OPG 2025 – yw newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau. Bydd yn ein helpu ni i fodloni anghenion cynyddol ein defnyddwyr, ein partneriaid a’n rhanddeiliaid. Bydd yn gwneud yn siŵr bod ein defnyddwyr yn cael gwell cefnogaeth. Yn gyffredinol, bydd yn ein helpu ni i ymateb i anghenion cymdeithas wrth iddynt newid, er mwyn i ni allu cynnig gwell cefnogaeth i oedolion sy’n wynebu risg a chreu gwasanaethau o safon uchel sy’n hwylus ac yn fforddiadwy.

I wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud y gwaith yma’n iawn, byddwn ni’n dal i roi mwy o sylw eleni i brofiadau ein defnyddwyr a’u hanghenion sy’n newid. Ac am y tro cyntaf, byddwn ni’n goruchwylio gwarcheidwaid a benodwyd gan y llys ar gyfer pobl sydd ar goll, fel y nodir yn Neddf Gwarcheidiaeth (Pobl sydd ar Goll) 2017.

Yn hytrach na bod yn sefydliad sy’n defnyddio papur yn bennaf, rydym yn ceisio anelu at ddefnyddio gwasanaethau ar-lein. Rydym eisiau prosesu achosion yn brydlon, a gallu manteisio ar gyfleoedd newydd. Rydym yn cydnabod ein bod yn darparu gwasanaethau unigryw, ac yn deall yr amgylchedd rydym yn gweithredu ynddo.

Mae’r uchelgais hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu gwasanaethau sydd ar gael i bawb, ac mae pawb yn gallu ymddiried ynddynt. Bydd OPG 2025 yn helpu i gyflawni’r nod yma.

Alan Eccles CBE, Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus Cymru a Lloegr

Ffigurau’r flwyddyn: 2018 i 2019

Disgrifiad Perfformiad Nod
Amser clirio ar gyfer atwrneiaethau 38 diwrnod gwaith 40 diwrnod gwaith
Yr amser mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i ymchwiliadau ddod i benderfyniad sydd wedi’i gymeradwyo gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus 66 diwrnod gwaith 70 diwrnod gwaith
Cysylltu â’r dirprwy am y tro cyntaf o fewn 35 diwrnod gwaith 92% 85%
Asesiad risg o fewn 2 ddiwrnod gwaith 95% 95%
Yr amser mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i gael adroddiad blynyddol 42 diwrnod gwaith 40 diwrnod gwaith
Yr amser mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i adolygu adroddiad blynyddol 11 diwrnod gwaith 15 diwrnod gwaith
Yr amser mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i ymateb i geisiadau i chwilio y gofrestr 5 diwrnod gwaith 5 diwrnod gwaith
Yr amser mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i roi camau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar waith yn unol ag argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus pan benderfynwyd bod angen mynd i’r llys 34 diwrnod gwaith 35 diwrnod gwaith
Yr amser mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i roi camau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar waith yn unol ag argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus pan benderfynwyd nad oes angen mynd i’r llys 11 diwrnod gwaith 25 diwrnod gwaith

Dangosyddion gwasanaeth cwsmeriaid

Disgrifiad Perfformiad Nod
Wedi ymateb yn llawn i gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith 80% 90%
Arolwg o foddhad cwsmeriaid – eithaf bodlon neu’n fodlon iawn â gwasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 89% 80%
Arolwg o foddhad cwsmeriaid – eithaf bodlon neu’n fodlon iawn â gwasanaethau digidol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 96% 80%
Wedi ymateb i ohebiaeth gan gwsmeriaid o fewn 10 diwrnod gwaith 97% 90%
Yr amser aros cyfartalog wrth ffonio’r ganolfan gyswllt cwsmeriaid 82 eiliad 150 eiliad
Canran o gwsmeriaid yn wneud eu ceisiadau atwrneiaeth arhosol yn ddigidol 29% 30%
Canran o ddirprwyon yn cyflwyno eu hadroddiadau blynyddol yn ddigidol 38% 35%

Ein proses drawsnewid

Alan Eccles CBE, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr:

Rydym ni eisiau i’n gwasanaethau atwrneiaeth arhosol fod yr un mor gyfarwydd i bobl â thrwyddedau gyrru – yn fforddiadwy, yn hwylus, yn hyblyg ac yn cael eu derbyn yn lle bynnag maen nhw’n cael eu defnyddio.

OPG 2025

Newid y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau – gwella bywydau gyda’n gilydd

Pwrpas ein rhaglen trawsnewid – sydd hefyd yn cael ei galw’n OPG 2025 – yw newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau, fel y gallwn ymateb i’r heriau y byddwn ni’n eu hwynebu yn y dyfodol. Bydd yn ein helpu i wireddu ein nodau hirdymor, fel y gallwn wella bywydau gyda’n gilydd. Bydd gwneud defnydd gwell o wasanaethau a chynnyrch digidol, a defnyddio ffyrdd clyfrach o weithio yn helpu i ryddhau ein hamser er mwyn i ni allu cynnig mwy o gefnogaeth a chyngor a sicrhau gwell canlyniadau i bawb.

Bydd dyfodol digidol yn gwneud ein gwasanaethau yn fwy hwylus, hyblyg a syml er mwyn i gwsmeriaid allu eu defnyddio mewn ffordd sy’n gyfleus ac yn fforddiadwy iddyn nhw. Wrth wneud hyn, byddwn ni hefyd yn sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael i’n holl gwsmeriaid.

Byddwn ni’n gweithio gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid er mwyn gofalu bod y gwasanaethau rydym yn eu datblygu yn ein rhoi yn y sefyllfa orau bosib i fodloni anghenion ein defnyddwyr. Byddwn ni’n dal i sicrhau bod diogelu yn ganolog i’n holl waith.

OPG 2025 fydd ein sylfaen ar gyfer y dyfodol.

Wrth wneud hyn, byddwn ni’n:

  • deall yn well beth yw anghenion ein defnyddwyr heddiw a beth fydd eu hanghenion yn y dyfodol, ac yn bodloni’r anghenion hynny’n well
  • cynyddu ymwybyddiaeth a sicrhau gwell dealltwriaeth o atwrneiaethau arhosol, treulio mwy o amser yn cefnogi, yn cynghori ac yn arwain pobl eraill; gan sicrhau bod unrhyw oedolion sy’n wynebu risg yn cael eu hamddiffyn yn well
  • cyflwyno gwasanaethau newydd sydd eu hangen ar ein defnyddwyr
  • sicrhau bod y sefydliad yn defnyddio a storio llai o bapur, ac yn delio â llai o bapur
  • gwneud yn siŵr ein bod yn darparu gwasanaethau fforddiadwy a chynaliadwy

Sheila Woodcock, wedi ymddeol, De Cymru:

Fe gymerodd 45 munud i mi wneud cais am atwrneiaeth arhosol ar-lein, ac roedd y broses yn gyflymach byth gyda’r ail atwrneiaeth arhosol.

Yn 2019 i 2020, byddwn ni’n:

  • gwneud gwaith ymchwil i gael gwybod pam nad oes mwy o bobl yn gwneud cais am atwrneiaeth arhosol
  • gwneud gwaith ymchwil i ddeall pa gefnogaeth mae ein defnyddwyr ei hangen gennym ni er mwyn eu helpu gyda’u rolau fel dirprwyon neu atwrneiod, neu wrth iddynt greu atwrneiaeth arhosol
  • gweld sut mae atwreiaethau arhosol wedi effeithio ar gymdeithas, a beth mae hyn yn ei olygu i’n gwasanaethau yn y dyfodol
  • datblygu cynnig i gael system ddi-bapur ar gyfer atwreiaethau arhosol
  • lansio gwasanaeth ar-lein er mwyn i atwrneiod a thrydydd partïon allu defnyddio atwrneiaeth arhosol, a fydd yn golygu eu bod yn gallu cyflawni eu rôl yn gyflymach ac yn haws – gan gynnwys fersiwn Gymraeg
  • hybu gwahanol ffyrdd o dalu am ein gwasanaethau, gan ddefnyddio llai ar sieciau
  • hyrwyddo atwreiaethau arhosol drwy ymgyrch benodol – Eich Llais Chi, Eich Penderfyniad Chi
  • cwblhau’r broses o ddatblygu ein system rheoli achosion, gan symud yr holl ddata perthnasol a dod â systemau hŷn i ben
  • edrych ar ffyrdd o leihau faint o bapur sy’n cyrraedd y sefydliad
  • cadarnhau’r cynlluniau i symud i swyddfa newydd yn Birmingham yn 2022, er mwyn ein helpu ni i ddarparu gwasanaethau gwell
  • annog ein staff i weithio mewn ffyrdd clyfrach, gan eu helpu i weithio gyda’i gilydd yn rhwydd, ac mewn ffordd fwy hyblyg a chreadigol

Ein Busnes Arferol

Julie Lindsay, Prif Swyddog Gweithredu:

Amddiffyn pobl nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud rhai penderfyniadau drostynt eu hunain. Pan nad oes gan bobl alluedd meddyliol, cefnogi’r rheini sy’n gweithredu ar eu rhan i wneud penderfyniadau da, gan oruchwylio dirprwyon sydd wedi’u penodi gan y llys ac ymchwilio i bryderon am ymddygiad atwrneiod a dirprwyon.

2019 i 2020

Paratoi at y dyfodol, gan ddarparu gwasanaeth gwych heddiw

Wrth i ni edrych tua’r dyfodol a newid y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau, fyddwn ni ddim yn anghofio pa mor bwysig yw darparu gwasanaeth gwych heddiw. Byddwn ni’n dal yn canolbwyntio ar ein hymrwymiadau gwasanaeth i gofrestru atwreiaethau, goruchwylio dirprwyon sydd wedi’u penodi gan y llys ac ymchwilio i bryderon.

Byddwn ni’n gwneud hyn drwy ein gwerthoedd:

Pwrpas

Ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gwneud gwahaniaeth i’r cyhoedd

Dyngarwch

Trin pobl eraill fel y byddem ni’n dymuno cael ein trin; gwerthfawrogi, cefnogi ac annog pawb i wneud eu gorau glas

Bod yn agored

Arloesi, rhannu a dysgu; bod yn ddewr a chwilfrydig, a bwrw ymlaen â syniadau i wella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu

Gyda’n gilydd

Gwrando, cydweithio a chyfrannu; gwneud yn siŵr ein bod yn gweithredu gyda’n gilydd i gyflawni ein nod cyffredin

Emma Quarshie, wedi ymddeol, Slough:

Gallwch chi benderfynu pwy fydd yn cael atwrneiaeth, a beth rydych chi eisiau i’r person hwnnw ei wneud ar eich rhan. Gallwch ddewis y bobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw

Yn 2019 i 2020, byddwn ni’n:

  • cynyddu ymwybyddiaeth o’n rôl diogelu
  • dechrau rhoi argymhellion ein strategaeth diogelu ar waith, er mwyn sicrhau bod oedolion sy’n wynebu risg yn cael eu hamddiffyn yn well
  • rhoi system ar waith i oruchwylio gwarcheidwaid sydd wedi’u penodi gan y llys (yn unol â Deddf Gwarcheidiaeth (Pobl sydd ar Goll) 2017)
  • cwblhau a gwerthuso’r cynllun peilot ar gyfer cyfryngu a gyflwynwyd yn 2018 – pwrpas hyn yw annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau cyfryngu yn lle achos llys i setlo anghydfodau, ac i sicrhau bod yr oedolyn sy’n wynebu risg yn cael ei amddiffyn yn well
  • cyflwyno rhagor o welliannau rydym wedi’u hadnabod ar gyfer yr adolygiad goruchwylio
  • datblygu cynigion ar gyfer strwythur ffioedd goruchwylio newydd
  • gydag ein partneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gwella dealltwriaeth o atwrneiaethau (arhosol a pharhaus) a gorchmynion llys ar gyfer dirprwyon
  • gwella’r ffordd y gall pobl wneud cais am ostyngiad yn eu ffioedd (lleihau ffi neu esemptiad)
  • parhau i gyflwyno grwpiau datblygu arweinwyr wedi’u targedu sy’n ceisio cynyddu amrywiaeth ein staff ar lefelau uwch, a sicrhau bod y gymdeithas lle rydym yn darparu ein gwasanaethau yn cael ei chynrychioli’n well
  • cefnogi amgylchedd hyblyg lle gall ein staff wneud eu gorau, gan eu hannog i ddatblygu eu sgiliau a chynnig cyfleoedd gyrfa amrywiol
  • cefnogi ein staff a datblygu arweinwyr hyderus a fydd yn ysbrydoli eraill ac yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion – rhaglen rheolwyr llinell
  • lansio strategaeth bobl newydd, sy’n pennu’r strategaeth ar gyfer datblygu gallu, amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer y dyfodol
  • parhau i gefnogi ac ehangu ein llwybrau symudedd cymdeithasol, drwy ddefnyddio nifer o gynlluniau. Er enghraifft, prentisiaethau, pobl sy’n gadael gofal a phobl sy’n dychwelyd i’r byd gwaith

Dangosyddion perfformiad

Canolbwyntio ar gwsmeriaid

Disgrifiad Nod
Arolwg o foddhad cwsmeriaid – eithaf bodlon neu’n fodlon iawn â’r canlynol gwasanaethau atwrneiaeth 80%
Arolwg o foddhad cwsmeriaid – eithaf bodlon neu’n fodlon iawn â’r canlynol gwasanaethau dirprwyaeth 80%
Arolwg o foddhad cwsmeriaid – eithaf bodlon neu’n fodlon iawn â’r canlynol gwasanaethau digidol 80%
Canran y dirprwyon sy’n dewis cyflwyno eu hadroddiadau blynyddol yn ddigidol 35%
Oedran cyfartalog y rhoddwyr llai na 74
Wedi ymateb yn llawn i gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith 90%
Canran y cwsmeriaid sy’n dewis wneud eu ceisiadau atwrneiaeth arhosol yn ddigidol 30%
Canran y galwadau a gafodd eu hateb o fewn 5 munud 95%

Cyflawni gweithredol

Disgrifiad Nod
Asesiadau risg diogelu a wneir o fewn 2 ddiwrnod gwaith 95%
Asesiadau risg diogelu sy’n cyrraedd y cam canlyniad terfynol o fewn 5 diwrnod gwaith 95%
Canran o atwreiaethau arhosol sy’n cael eu cofrestru heb gamgymeriadau 95%
Yr amser mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i ddechrau proses llys os oes angen 35 diwrnod gwaith
Yr amser mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i adolygu adroddiad blynyddol 15 diwrnod gwaith
Yr amser mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i roi camau gweithredu ar waith os nad oes angen mynd i’r llys 25 diwrnod gwaith
Yr amser mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i adroddiad ymchwiliadau gael ei gymeradwyo gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus 70 diwrnod gwaith
Yr amser mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i glirio gwasanaethau atwrneiaeth 40 diwrnod gwaith
Yr amser mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i gael yr adroddiad blynyddol 40 diwrnod gwaith
Canran y staff sydd wedi cymryd rhan mewn cyfle i ddysgu neu ddatblygu yn ystod y 3 mis diwethaf (arolwg Pulse) 80%
Sgôr ymgysylltu staff (arolwg Pulse) 62
Yr amser mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i gyflogi staff newydd 52 diwrnod gwaith
Average days lost ar gyfartaledd, nifer ydiwrnodau sy’n cael eu colli oherwydd salwch 7.5 diwrnod gwaith
Trosiant staff 10%

Ein staff

Alan Eccles CBE, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr:

Rwy’n falch iawn bod y gwaith rydym wedi’i wneud i greu’r amgylchedd gwaith iawn wedi bod o fudd i bawb sy’n gweithio yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Amdanon ni

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yng Nghymru a Lloegr yn un o gyrff y llywodraeth, ac mae’n asiantaeth weithredol i’r Weinyddiaeth Cyfiawnder (MOJ).

Rydym yn rhan o fframwaith Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Yn Llundain yr oedd y swyddfa’n wreiddiol, ond cafodd y rhan fwyaf o’r swyddogaethau eu trosglwyddo i swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham yn 2009. Rydym yn cynnig pob math o wasanaethau i’n defnyddwyr.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cofrestru atwrneiaethau parhaus ac atwrneiaethau arhosol
  • goruchwylio dirprwyon sydd wedi’u penodi gan y llys
  • cynnal cofrestrau o orchmynion llys ar gyfer dirprwyon, atwrneiaethau parhaus ac atwrneiaethau arhosol
  • ymchwilio i bryderon am ddirprwyon ac atwrneiod
  • cefnogi’r Weinyddiaeth Cyfiawnder, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i ddilyn egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Yn 2019, byddwn ni’n dechrau goruchwylio gwarcheidwaid a benodwyd gan y llys ar gyfer pobl sydd ar goll, yn unol â Deddf Gwarcheidiaeth (Pobl sydd ar Goll) 2017.

Alan Eccles CBE yw ein Gwarcheidwad Cyhoeddus a’n Prif Weithredwr ar hyn o bryd. Fe olynodd Martin John ym mis Ebrill 2012. Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd Alan ei fwriad i ymddeol ym mis Mehefin 2019. Bydd Gwarcheidwad Cyhoeddus newydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

1,564 o aelodau staff (Mehefin 2018)

306,705 o alwadau

3,753,097 o geisiadau atwrneiaeth ar y gofrestr

13,786 o ymweliadau wedi’u cynnal yn 2018 i 2019

286 o ymchwiliadau newydd Mawrth 2019 (275 wedi’u cwblhau)

Geirfa

Atwrnai

Y person sydd wedi cael ei ddewis i weithredu ar ran rhywun arall ar atwrneiaeth arhosol (LPA).

Atwrneiaeth arhosol (LPA)

Dogfen gyfreithiol sy’n cael ei defnyddio i benodi rhywun i’ch helpu chi os byddwch yn colli’r galluedd meddyliol i wneud rhai penderfyniadau eich hun.

Mae dau fath o atwrneiaethau arhosol:

  • iechyd a lles
  • eiddo a materion ariannol

Rhaid cofrestru’r ddau fath o atwrneiaethau arhosol gyda’r Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn bod modd eu defnyddio.

Atwrneiaeth barhaus (EPA)

Cafodd atwrneiaeth barhaus ei disodli gan atwrneiaeth arhosol (LPA) ym mis Hydref 2007. Fel atwrneiaeth arhosol, mae’n ddogfen gyfreithiol sy’n cael ei defnyddio i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan os byddwch chi’n colli galluedd meddyliol. Mae atwreiaethau parhaus sydd wedi cael eu llofnodi a’u dyddio cyn 1 Hydref 2007 yn dal yn ddilys, ac mae modd eu cofrestru â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus pan fydd y rhoddwr yn dechrau colli galluedd meddyliol, neu wedi colli galluedd meddyliol.

Budd pennaf

Rhaid i unrhyw benderfyniadau a wneir, neu gamau a gymerir, ar ran rhywun sydd wedi colli galluedd meddyliol fod er budd pennaf y person hwnnw. Mae camau safonol i’w dilyn wrth wneud penderfyniad am fudd pennaf person. Mae’r rhain wedi’u nodi yn adran 2 cod ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Cleient

Mae’n cyfeirio at y person rydych chi wedi cael eich penodi i weithredu ar ei ran.

Defnyddiwr

Unrhyw un sy’n defnyddio gwasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Gallai fod yn rhoddwr atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus, dirprwy, cleient, partner neu gyfryngwr. Mae hefyd yn cynnwys staff sy’n defnyddio systemau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Dirprwy

Person sydd wedi cael ei benodi gan y Llys Gwarchod i gefnogi rhywun (y cleient) sydd heb y galluedd meddyliol i wneud rhai penderfyniadau ei hun. Os bydd rhywun yn colli galluedd meddyliol ac nad yw wedi trefnu atwrneiaeth arhosol, bydd dirprwy yn cael ei benodi.

Galluedd meddyliol

Y gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen gwneud y penderfyniad hwnnw. Mae adran 2 o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cynnwys diffiniad cyfreithiol o alluedd meddyliol.

Rhoddwr

Rhywun sydd wedi creu atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus. Maent yn cael eu galw’n rhoddwyr oherwydd eu bod wedi rhoi rhai pwerau gwneud penderfyniadau i rywun arall.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad:

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (Office of the Public Guardian)
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

DX: 744240 Birmingham 79

Ffôn: 0300 456 0300 (o’r tu allan i’r DU +44 300 456 0300) Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm (dydd Mercher, 10am tan 5pm)

Ffôn testun: 0115 934 2778

Ffacs: 0870 739 5780

E-bost: customerservices@publicguardian.gov.uk