Adroddiad corfforaethol

Adroddiad blynyddol a chyfrifon OPG 2022 i 2023 (Fersiwn HTML)

Diweddarwyd 18 September 2023

Applies to England and Wales

Trosolwg

Diben y trosolwg yw rhoi crynodeb o waith Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG), ein pwrpas, y prif risgiau rydym yn eu hwynebu, a sut rydym wedi perfformio yn ystod y flwyddyn.

Mae’r trosolwg yn cynnwys:

  • datganiad y Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan roi ei safbwynt ar ein perfformiad yn ystod 2022 i 22023

  • disgrifiad o bwrpas Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yr hyn rydym yn ei wneud, ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid, ein perthynas gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r prif risgiau a materion y gwnaethom eu rheoli yn ystod y flwyddyn

  • crynodeb o berfformiad, gan amlinellu sut y gwnaethom berfformio yn erbyn ein nodau darparu gwasanaeth

Mae esboniad manylach o’n perfformiad ac atebolrwydd yn nhudalennau dilynol yr adroddiad hwn.

Roedd y prif risgiau a gafodd eu rheoli yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2022 i 2023 yn cynnwys:

  • darparu’r lefel ddisgwyliedig o wasanaeth i gwsmeriaid a phartneriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

  • rheoli’r ystad bresennol a strategaeth ystadau’r dyfodol i gyflawni busnes Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

  • adennill costau yn ystod y flwyddyn a chynaliadwyedd ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y dyfodol

Mae rhagor o fanylion ynghylch y risgiau hyn a’r risgiau eraill a reolwyd yn ystod y flwyddyn o dudalen 49 ymlaen.

Datganiad gan y Prif Weithredwr a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Ym mis Medi 2022, cefais y fraint o ymuno â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel Prif Weithredwr, ac fel Gwarcheidwad Cyhoeddus Cymru a Lloegr. Fel sefydliad, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ymrwymo i gefnogi pawb i wneud y penderfyniadau y mae angen iddyn nhw eu gwneud, gan helpu pobl i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer eu hiechyd a’u sefyllfa ariannol, a thrwy ein gwaith goruchwylio a diogelu hanfodol, cefnogi’r rheini nad ydynt yn gallu gwneud y penderfyniadau hynny mwyach.

Roedd hon yn flwyddyn heriol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Fe wnaethom barhau i fynd i’r afael â’r ôl-groniad sylweddol o geisiadau atwrniaethau arhosol a achoswyd yn ystod y pandemig, ac a effeithiodd ar ein gallu i ddarparu ar gyfer ein cwsmeriaid i’r safon yr hoffem fod wedi gwneud. Ar yr un pryd, fe wynebom alw mawr am ein gwasanaethau ac, am y tro cyntaf, cafwyd dros filiwn o geisiadau atwrneiaeth arhosol (LPA) mewn blwyddyn. Mae hyn i’w groesawu ac mae’n rhan o’n huchelgais i sicrhau bod atwrneiaeth arhosol ar gael i bawb, ac mae’n awgrymu bod y cyhoedd yn cydnabod pwysigrwydd blaengynllunio os byddant hwy neu eu hanwyliaid yn colli eu galluedd meddyliol. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi manylion ein llwyddiannau a’n heriau wrth ymateb i’r cyd-destun hwnnw yn ystod 2022 i 2023.

Gwnaethom gynnydd o ran lleihau’r ôl-groniad o geisiadau am atwrniaethau arhosol, a dechreuodd amseroedd aros i gwsmeriaid am atwrniaethau arhosol ostwng hanner ffordd drwy’r flwyddyn ar ôl cyrraedd uchafbwynt ym mis Hydref. Ond mae gwaddol y pandemig, a chynnydd parhaus yn nifer y ceisiadau rydyn ni’n eu cael, wedi effeithio ar ba mor gyflym y gallwn ni brosesu ceisiadau newydd. O ganlyniad, mae’r amser a gymerir i gofrestru a chymeradwyo atwrniaethau arhosol yn dal yn uwch na’n targed o wyth wythnos ar gyfartaledd. Er mwyn dychwelyd i lefel o wasanaeth sy’n bodloni ein disgwyliadau, fe roddom gynllun adfer ar waith gydag oriau gweithredu hirach, staff ychwanegol, ac arbedion effeithlonrwydd yn y broses. Mae’r cynllun hwn wedi dechrau llwyddo, er ein bod yn cydnabod yn llwyr fod angen gwneud mwy o gynnydd o hyd.

Mae ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ac rydym wedi cymryd camau drwy gydol y flwyddyn i wella ein gwasanaeth i gwsmeriaid. Fe gyflwynom ‘gwestiynau cyffredin’ ar ein llinellau ffôn, er mwyn cael atebion i’n cwsmeriaid yn gyflym. Nawr, anfonir llythyrau cydnabod at gwsmeriaid sy’n talu gyda siec i gynnig sicrwydd bod eu ceisiadau’n mynd rhagddynt. Rydym wedi rhoi cynlluniau adfer ar waith i glirio ein hôl-groniad o gwynion, a dylem gyflawni hyn ddechrau blwyddyn ariannol 2023-2024.

Mae gwella ein gwasanaeth yn ymwneud â mwy na dim ond prosesu ceisiadau am atwrneiaeth arhosol. Rydym wedi ceisio gwella ar draws ein holl swyddogaethau, gan gynnwys goruchwyliaeth. Fe wnaethom ryddhau safonau dirprwyo diwygiedig ar ôl ymgysylltu â rhanddeiliaid i’w gwneud yn fwy eglur a hygyrch a sicrhau am y tro cyntaf, eu bod ar gael i bob math o ddirprwyon. Fe fabwysiadom feddalwedd bancio newydd i wella effeithlonrwydd ein hymchwiliadau ariannol. Dim ond rhai enghreifftiau yw’r rhain, ac wrth galon pob un ohonynt mae ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o’r ansawdd rydym ni a’n cwsmeriaid yn eu disgwyl.

Mae ein pobl yn ganolog i gyflawni ein huchelgais. Er gwaethaf yr heriau y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u hwynebu, mae ymroddiad ein staff wedi gwneud i mi deimlo’n wylaidd dro ar ôl tro yn ystod fy nghyfnod fel Gwarcheidwad Cyhoeddus . Maen nhw’n cyflawni eu swyddi a’u cyfrifoldebau gyda phroffesiynoldeb a thosturi, gan wybod bod llawer o’n cwsmeriaid yn wynebu amgylchiadau personol anodd. Rwy’n falch iawn o arwain y tîm hwn.

Er ein bod yn canolbwyntio’n benodol ar y gwasanaeth mae ein cwsmeriaid yn ei gael heddiw, rydym hefyd wedi dechrau rhaglen uchelgeisiol i wneud ein gwasanaethau’n addas ar gyfer y dyfodol. Rydym am i’r galw mawr a adlewyrchir yn yr adroddiad hwn barhau a gwyddom y bydd ein hangen ar fwy o bobl yn y dyfodol. Mae ein cwsmeriaid eisiau gwasanaeth atwrneiaeth arhosol symlach, mwy cyfleus a mwy hygyrch.

Bydd cefnogaeth y llywodraeth i’r Bil Atwrniaethau yn gwneud ein cynlluniau i foderneiddio atwrniaethau arhosol yn bosibl. Bydd cael proses ddigidol newydd, ochr yn ochr â chael proses well ar bapur, yn trawsnewid profiad cwsmeriaid o’n gwasanaethau, gan ei gwneud yn broses haws, gyflymach a mwy cyfleus, a hefyd yn amddiffyn yn well rhag twyll. Rydym eisoes yn cynllunio ac yn datblygu’r gwasanaethau newydd hyn ac rwy’n gynhyrfus iawn am y gwelliant i’r ffordd y gallwn ddarparu’r gwasanaeth hwn i’r cyhoedd.

Hoffwn ddiolch i’n staff ymroddedig, ein partneriaid yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac i’n rhanddeiliaid am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i’n gwaith. Rwy’n credu’n angerddol bod atwrniaethau arhosol ar gyfer pawb, ac ym mhwysigrwydd ein gwaith goruchwylio a’r swyddogaeth diogelu y mae ein hymchwiliadau’n ei darparu. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn darparu gwasanaethau hanfodol, ac rwyf i a gweddill y tîm gweithredol wedi ymrwymo i wneud cynnydd ar draws ein meysydd perfformiad yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Dymuniadau gorau,

Amy Holmes
Prif Weithredwr a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Gwybodaeth am Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Cyflwyniad

Yr Arglwydd Ganghellor sy’n penodi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o dan Adran 57 Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Swyddfa, mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn atebol yn bersonol i’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder am weithredu’r asiantaeth yn effeithiol, gan gynnwys y ffordd mae’r asiantaeth yn gwario arian cyhoeddus ac yn rheoli ei asedau.

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael cymorth gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni ei swyddogaethau statudol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r swyddogaethau ychwanegol o dan Ddeddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017. Mae cyfrifoldebau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymestyn ledled Cymru a Lloegr. Mae trefniadau ar wahân ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gweinidogion y llywodraeth a oedd yn gyfrifol am Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod y cyfnod adrodd hwn (1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023) oedd:

  • y Gwir Anrhydeddus Dominic Raab AS, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder (rhwng mis Ebrill 2022 a mis Medi 2022, ac o fis Hydref 2022 ymlaen)

  • y Gwir Anrhydeddus Brandon Lewis CBE AS, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder (o fis Medi 2022 tan fis Hydref 2022)

  • Tom Pursglove AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder a Mynd i’r Afael â Mewnfudo Anghyfreithlon (tan fis Gorffennaf 2022)

  • Simon Baynes AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder (rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Medi 2022)

  • Rachel Maclean AS, Gweinidog Gwladol dros Gyfiawnder (rhwng mis Medi 2022 a mis Hydref 2022)

  • Mike Freer AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder (o fis Hydref 2022)

Fel asiantaeth weithredol, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhan o grŵp adrannol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a chaiff ein canlyniadau eu cyfuno yn adroddiad blynyddol a chyfrifon grŵp y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Beth mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei wneud?

Sefydlwyd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ym mis Hydref 2007. Rydym yn cefnogi ac yn galluogi pobl i gynllunio fel bod rhywun yn gofalu am eu hiechyd a’u materion ariannol os byddant yn colli galluedd. Rydym hefyd yn diogelu buddiannau pobl nad oes ganddynt y gallu meddyliol i wneud penderfyniadau penodol drostynt eu hunain.

Ein prif gyfrifoldebau yw:

  • cofrestru atwrniaethau arhosol ac atwrniaethau parhaus

  • goruchwylio dirprwyon a benodwyd gan y Llys Gwarchod (CoP)

  • goruchwylio gwarcheidwaid a benodwyd gan yr Uchel Lys

  • cadw cofrestrau cyhoeddus o ddirprwyon, gwarcheidwaid, atwrniaethau arhosol ac atwrniaethau parhaus, ac ymateb i geisiadau i chwilio’r cofrestrau

  • ymchwilio i sylwadau (gan gynnwys cwynion) am y ffordd y mae atwrneiod, dirprwyon a gwarcheidwaid yn arfer eu pwerau

Ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid

Ein cwsmeriaid yw’r rheini sy’n gofyn am ein cymorth o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu Ddeddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017 neu sydd angen ein cymorth, gan gynnwys:

Rhoddwyr
Pobl sydd wedi gwneud atwrniaethau arhosol neu atwrniaethau parhaus i drefnu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud am eu lles, eu heiddo neu eu materion ariannol os byddant yn colli galluedd meddyliol yn y dyfodol.

Cleientiaid (a elwir yn‘P’)
Pobl sydd wedi colli galluedd meddyliol ac y mae eu lles, eu heiddo neu eu materion ariannol yn destun achos gerbron y Llys Gwarchod.

Unigolion coll
Pobl sydd ar goll neu’n absennol ac y mae eu materion yn cael eu rheoli gan warcheidwad a benodwyd gan yr Uchel Lys

Rydym yn cydnabod mai ein diben hefyd yw cefnogi eraill sy’n ymwneud â phrif bwrpas atwrniaethau parhaus, atwrniaethau arhosol, dirprwyaethau a gwarcheidiaeth, gan gynnwys:

Atwrneiod
Pobl sydd wedi cael eu penodi gan roddwyr i reoli eu lles, eu heiddo neu eu materion ariannol os byddant yn colli galluedd yn y dyfodol.

Dirprwyon
Unigolion lleyg neu broffesiynol neu awdurdodau (fel cyfreithwyr neu awdurdodau lleol) sydd wedi cael eu penodi gan y Llys Gwarchod i reoli lles neu faterion ariannol y cleient.

Gwarcheidwaid
Unigolion sydd wedi cael eu penodi gan yr Uchel Lys i reoli eiddo a materion ariannol unigolyn sy’n absennol neu sydd ar goll.

Rhanddeiliaid eraill
Perthnasau i gleient neu roddwr, meddygon teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill, elusennau, a’r sectorau ariannol a chyfreithiol.

Prif faterion, risgiau ac ansicrwydd

Mae’r risgiau a wynebwyd gennym yn 2022 i 2023 wedi’u nodi o dudalen 49 ymlaen. Y prif risgiau oedd yr ôl-groniad o geisiadau am atwrniaethau arhosol a achoswyd gan gynnydd ehangach yn y galw am wasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ac effaith COVID-19 yn y dyfodol, a’r effaith y mae hyn wedi’i chael ar wasanaethau i gwsmeriaid. Yn y cyd-destun hwn, rydym wedi rhoi cynlluniau adfer ar waith i wella ein gwasanaethau, ac wedi edrych ar sut y gallwn foderneiddio yn y dyfodol.

Dadansoddi perfformiad

Mesur ein perfformiad

Yn ystod 2022 i 2023, fe wnaethom roi argymhellion yr archwiliad mewnol ar waith o ran sut rydym yn mesur, yn cofnodi ac yn gweithredu ar ein perfformiad. Mae’r gwaith hwn wedi ein galluogi i fireinio’r ffordd rydym yn adrodd ar berfformiad yn fewnol, gan sicrhau ein bod yn mesur y pethau iawn ar yr adeg iawn, gyda data clir, cywir a chyson. Rydym hefyd wedi adolygu ein cenhadaeth, ein canlyniadau strategol a’n dangosyddion perfformiad allweddol i sicrhau eu bod yn cefnogi’n glir y gwaith o gyflawni ein strategaeth ac yn cysylltu â’n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Sut oedd ein perfformiad yn ystod 2022 i 2023?

Mae perfformiad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn erbyn ein targedau o ran dangosyddion gwasanaeth i gwsmeriaid wedi’i nodi isod, ynghyd â’r lefelau baich gwaith mwyaf arwyddocaol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae rhagor o fanylion ynghylch yr ystod lawn o dargedau, perfformiad a sut cânt eu mesur wedi’u nodi yn yr atodiad.

Mae heriau’r ôl-groniadau a ddatblygodd yn ystod y pandemig ynghyd â chynnydd sylweddol yn y galw wedi effeithio ar ein gallu i gyflawni llawer o’n targedau perfformiad.

Drwy gydol y flwyddyn rydym wedi canolbwyntio ar wella ein gwasanaeth i gwsmeriaid ym mhob maes a lleihau’r ôl-groniadau. Mae cynlluniau adfer ar waith ac rydym yn dechrau gweld gwahaniaeth gyda gostyngiad yn yr amseroedd aros misol ers mis Hydref 2022 ar gyfer ceisiadau am atwrniaethau arhosol, a disgwylir y byddwn yn clirio’r ôl-groniad o gwynion ddechrau blwyddyn ariannol 2023-2024.

Fe wnaethom gyflawni nifer o fentrau i ddarparu ar gyfer lles a datblygiad ein 1,600+ o staff, a ddangosodd eu gallu i addasu yn enwedig wrth i ni symud i’n swyddfa newydd yn Birmingham. Fe wnaethom hefyd ddechrau edrych tua’r dyfodol, wrth i ni geisio moderneiddio’r ffordd y gall ein cwsmeriaid wneud ceisiadau am atwrniaethau arhosol. Gan ragweld y bydd fframwaith deddfwriaethol newydd ar waith, dechreuom ddatblygu sut beth fyddai proses well ar bapur a’n gwasanaeth digidol newydd.

Nodir ein perfformiad cyffredinol yn erbyn ein targedau isod, ac mae rhagor o fanylion ar gael yn yr atodiad.

Dangosyddion perfformiad a llwyth gwaith

58,194
llwyth achosion goruchwylio
1,073,032
cais am atwrneiaeth arhosol
6,850,834
cais am atwrneiaeth arhosol ac atwrneiaeth parhaus ar y gofrestr

Yn erbyn yr ôl-groniad hwnnw, dyma y cyflawnwyd:

91 diwrnod
Amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd ar gyfer ceisiadau am atwrneiaeth
Targed: 40 diwrnod
34 diwrnod
Amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol
Targed: 40 diwrnod
14 diwrnod
Amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol
Targed: 15 diwrnod
86%
% yr asesiadau risg diogelu a gynhaliwyd o fewn 2 ddiwrnod
Targed: 95%

Cofnodwyd bod lefel y perfformiad ar gyfer y targed hwn yn 86% oherwydd problem TG dechnegol yn ystod y flwyddyn a barodd am dri mis, gan effeithio ar ein gallu i gofnodi’n gywir yn erbyn y targed hwn. Fe wnaethom wiriadau â llaw i sicrhau ein bod yn asesu risg achosion a’u brysbennu o fewn y targed, ac nad oedd neb mewn perygl. Aseswyd risg cyfanswm o 2,700 o bryderon yn ystod y cyfnod o dri mis. Ar ôl i’r system TG gael ei thrwsio, cofnodwyd ffigurau misol o 98%, sy’n uwch na’r lefel perfformiad a dargedwyd sef 95%.

78 diwrnod
Amser cyfartalog i gwblhau ymchwiliadau
Targed: 70 diwrnod
31%
% y galwadau a atebwyd o fewn 5 munud
Targed: 90%
60%
% y cwsmeriaid sy’n fodlon â’r gwasanaethau atwrneiaeth
Targed: 80%
75%
% y cwsmeriaid sy’n fodlon â’r gwasanaethau dirprwyaeth
Targed: 80%
21%
% y cwynion yr ymatebwyd yn llawn iddynt o fewn y terfyn amser o 10 diwrnod
Targed: 90%
89%
Sgôr bodlonrwydd ar gyfer y gwasanaeth ‘defnyddio atwrneiaeth arhosol’ digidol
86%
Sgôr bodlonrwydd ar gyfer y gwasanaeth ‘gwneud atwrneiaeth arhosol’ digidol
80%
Sgôr bodlonrwydd ar gyfer y gwasanaeth ‘cwblhau adroddiad dirprwy’ digidol

Cofnodwyd bod lefel y perfformiad ar gyfer y targed hwn yn 86% oherwydd problem TG dechnegol yn ystod y flwyddyn a barodd am dri mis, gan effeithio ar ein gallu i gofnodi’n gywir yn erbyn y targed hwn. Fe wnaethom wiriadau â llaw i sicrhau ein bod yn asesu risg achosion a’u brysbennu o fewn y targed, ac nad oedd neb mewn perygl. Aseswyd risg cyfanswm o 2,700 o bryderon yn ystod y cyfnod o dri mis. Ar ôl i’r system TG gael ei thrwsio, cofnodwyd ffigurau misol o 98%, sy’n uwch na’r lefel perfformiad a dargedwyd sef 95%.

Atwrniaethau

Cofrestru ceisiadau am atwrneiaeth yw un o wasanaethau allweddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae Atwrniaethau Arhosol yn caniatáu i unigolion ddewis pwy maent yn dymuno i wneud penderfyniadau ar eu rhan os daw adeg pan na allant wneud y penderfyniadau hynny drostynt eu hunain.

Y prif dargedau gwasanaeth i gwsmeriaid yn y maes hwn yw’r canlynol:

  • cofrestru atwrniaethau mewn 40 diwrnod ar gyfartaledd

  • ateb 90% o alwadau o fewn pum munud

  • ymateb i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith

Bu dwy brif her eleni. Y cyntaf oedd clirio ôl-groniad o gofrestriadau atwrneiaeth arhosol a gronnodd dros y ddwy flynedd diwethaf, gan ddelio hefyd â lefelau cynyddol o waith yn dod i mewn. Rydym wedi adolygu’n fewnol ac wedi gofyn am sicrwydd allanol am ein prosesau i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio mor effeithlon â phosibl. Rydym wedi rhoi cynllun adfer cadarn ar waith, gan gynnwys cael staff ychwanegol, i ddelio â’r galw sy’n dod i mewn ac i fynd i’r afael â’r ôl-groniad.

Yr ail her a gafwyd oedd recriwtio a chadw staff sy’n hanfodol i’n gallu i ddarparu ein gwasanaeth. Mae marchnadoedd swyddi cystadleuol iawn yn Nottingham a Birmingham. Mae’r camau a gymerwyd gennym y llynedd i wella ein prosesau recriwtio a chadw staff wedi cael effaith. Gwellodd ein cyfradd athreuliad i 9.8% eleni o’i gymharu ag 16.3% y flwyddyn flaenorol. Rydym yn parhau i gynnal arolygon ymadael i ganfod y rhesymau pam fo staff yn gadael ac i lywio’r ffordd rydym yn gwella ein lefelau cadw staff. Cynyddodd nifer y staff yn ein tîm gwasanaethau atwrneiaeth o 979.6 o staff cyfwerth ag amser llawn ym mis Ebrill 2022 i 1,109 o staff cyfwerth ag amser llawn ym mis Mawrth 2023. Mae hynny’n golygu bod 129 yn fwy o staff yn helpu i brosesu ceisiadau am atwrniaethau arhosol, ac rydym yn parhau i recriwtio mwy o staff.

Gwelliannau i’r gwasanaethau

Rydym wedi edrych ar bob agwedd ar ein gwasanaeth i wneud yn siŵr ei fod mor effeithlon â phosibl. I fod yn sicr ein bod wedi cymryd pob cam posibl i sicrhau effeithlonrwydd yn ein system bresennol ar bapur, rydym wedi comisiynu adolygiad annibynnol o’n prosesau. Rhoddodd yr adolygiad hwn sicrwydd o’r camau a gymerwyd eisoes ac roedd yn cefnogi cyflwyno lefelau staffio uwch fel rydym wedi gwneud drwy gydol y flwyddyn.

Rydym wedi:

  • cynyddu lefelau staffio i’n galluogi i glirio’r ôl-groniadau a ddatblygodd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf (byddwn yn talu am y cynnydd hwn mewn staff drwy wireddu incwm gohiriedig wrth i ni glirio’r ôl-groniad)

  • ymestyn yr oriau gwaith yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan gynnig shifftiau dydd, shifftiau gyda’r nos a mwy o oramser sydd hefyd wedi rhoi mynediad i ni at gronfa ehangach o weithwyr posibl

  • nodi’r ymholiadau mwyaf cyffredin yr oedd cwsmeriaid yn ffonio ein canolfan gyswllt yn eu cylch a chwarae atebion i’r ymholiadau hyn i’r unigolion a oedd yn aros ar y llinell ffôn, gan roi’r atebion i’n cwsmeriaid yn gyflym a lleihau nifer y galwadau sydd angen mynd at gynghorydd cwsmeriaid

  • cyflwyno llythyrau cydnabod sy’n cael eu hanfon at gwsmeriaid sy’n talu gyda siec i gynnig sicrwydd bod eu ceisiadau’n cael eu prosesu

Rydym yn monitro amseroedd adfer ôl-groniadau a gwasanaeth i gwsmeriaid yn agos i olrhain perfformiad, ac yn cymryd camau os bydd cynnydd mewn risg, fel newidiadau mewn cyfraddau recriwtio a chyfraddau colli staff.

Ar ei anterth, ym mis Awst 2022, roedd ôl-groniad o 234,5000 o geisiadau am atwrniaethau arhosol a oedd yn aros i gael eu cofrestru. Ym mis Mawrth 2023, roedd hyn wedi gostwng i 223,000. Er mai’r amser cyfartalog i gofrestru ceisiadau atwrneiaeth yn ystod 2022 i 2023 oedd 91 diwrnod gwaith, mae dadansoddiad misol yn dangos ein bod wedi gwneud cynnydd, o’r penllanw o 102 diwrnod gwaith ym mis Hydref 2022 gan ostwng i 87 diwrnod gwaith ym mis Mawrth 2023. Mae hon yn duedd i’w chroesawu wrth i ni weithio tuag at ddychwelyd i’n targed o 40 diwrnod gwaith.

Yn ein hadroddiad blynyddol diwethaf (2022 i 2023), fe wnaethom gyfeirio at ein gwaith i gefnogi ymgynghoriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gynlluniau i foderneiddio atwrniaethau arhosol. Bydd moderneiddio atwrniaethau arhosol yn galluogi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddiwallu anghenion y dyfodol, gan sicrhau ein bod yn fwy cadarn ac yn gallu delio’n well ag unrhyw heriau yn y dyfodol, ac yn gallu diwallu anghenion ein cwsmeriaid yn y dyfodol.

Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd y llywodraeth ei hymateb i’r ymgynghoriad. Roedd yr ymateb yn nodi’n glir bod angen deddfwriaeth sylfaenol i roi trefniadau atwrneiaeth arhosol mwy modern ar waith. Ar 15 Mehefin 2022, cyflwynodd Stephen Metcalfe AS fesur aelod preifat o’r enw’r Bil Atwrniaethau. Ei nod yw rhoi ar waith y cynigion a nodir yn ymateb y llywodraeth. Adeg cyhoeddi’r adroddiad hwn, mae’r bil wedi gorffen mynd drwy Dŷ’r Cyffredin, ac mae wrthi’n mynd drwy Dŷ’r Arglwyddi.

Ar ôl cyflwyno’r bil a gwneud newidiadau angenrheidiol i is-ddeddfwriaeth, bydd gennym y fframwaith deddfwriaethol sydd ei hangen arnom i ddigideiddio ein prosesau mewnol, gan ganiatáu i atwrneiaeth arhosol gael eu gwneud yn ddigidol ac ar bapur. Yn y pen draw, bydd hwn yn brofiad trawsnewidiol i’n holl gwsmeriaid.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i wneud i hyn ddigwydd, gyda phrofion helaeth â defnyddwyr a datblygu prosesau ar bapur a digidol i wneud a chofrestru atwrniaethau arhosol. Rydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i baratoi’r newidiadau y bydd eu hangen i’r is-ddeddfwriaeth i weithredu’r gwasanaeth newydd.

Goruchwyliaeth

Mae’r llwyth achosion goruchwylio wedi cynyddu o 56,862 ar ddiwedd 2022 i 2023 i 58,194 ddiwedd eleni. Mae llwyth achosion goruchwylio yn cyfeirio at nifer y P y mae gorchymyn dirprwyaeth gweithredol yn cael ei oruchwylio ar eu cyfer.

Yn ystod eleni, cyflwynwyd 63% o adroddiadau blynyddol yn ddigidol, o’i gymharu â 56% yn 2022 i 2023. Mae hyn wedi arwain at nifer o fanteision, a gall dirprwyon ychwanegu gwybodaeth at eu hadroddiad digidol yn ystod y flwyddyn yn hytrach nag aros tan ddiwedd y flwyddyn i gasglu’r holl wybodaeth berthnasol.

Roeddem wedi bwriadu cyflwyno trefn o anfon biliau ar gyfer ffioedd goruchwylio unwaith y flwyddyn ond ni fu’n bosibl gwneud y newidiadau angenrheidiol i systemau TG ac i’r ddeddfwriaeth. Yn lle hynny, rydym wedi gwella ein swyddogaeth bilio a byddwn yn gwella ein systemau TG cyn ystyried trefn o filio unwaith y flwyddyn yn y dyfodol.

Gwelliannau i’r gwasanaethau

Rydym wedi gwneud nifer o welliannau a newidiadau i wasanaethau eleni. Yn adroddiad blynyddol y llynedd, fe eglurom ein bod am sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar ddiogelu ‘P’ a rhoi’r gefnogaeth briodol i ddirprwyon. I’r perwyl hwn, fe wnaethom adolygu a rhyddhau fersiwn ddiwygiedig o’r safonau dirprwyon. Mae’r safonau diwygiedig yn fyrrach, yn fwy penodol ac maent yn berthnasol i bob math o ddirprwy am y tro cyntaf, gan gynnwys dirprwyon lleyg. Datblygwyd y safonau diwygiedig gyda mewnbwn gan ein rhanddeiliaid i sicrhau eu bod nhw a’r canllawiau sydd ynghlwm â nhw yn glir, yn hygyrch ac yn darparu gwell cefnogaeth i bob dirprwy.

Rydym hefyd wedi gwneud gwaith i sicrhau bod P bob amser wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud drwy adolygu ein proses diffyg cydymffurfio. Mae hyn yn golygu bod rhesymau clir pam dros ystyried nad yw dirprwyaeth yn cydymffurfio, a bod yna broses uwchgyfeirio amserol a phriodol ar gael pan fo angen, gan gynnwys ceisio rhyddhau’r dirprwy er mwyn diogelu P.

Rydym wedi bod yn gwella’r ffordd rydym yn goruchwylio ac yn cefnogi dirprwyon lleyg – er enghraifft, drwy gyflwyno system sy’n sicrhau bod gan ddirprwyon lleyg un gweithiwr achos sy’n delio â phob agwedd ar eu goruchwyliaeth.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i wneud cynlluniau i adnewyddu’r panel dirprwyon. Mae hwn yn brosiect pwysig i sicrhau bod y panel yn gynaliadwy yn y tymor hwy, a byddwn yn ymgysylltu ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol wrth ddatblygu a rhoi’r prosiect ar waith.

Cynllun Ad-daliadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder

Mae’r cynllun ad-dalu ffioedd atwrniaethau hanesyddol dan arweiniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y bumed blwyddyn o ymgyrch chwe blynedd ac eleni cafodd cwsmeriaid ad-daliadau gwerth cyfanswm o £3,494.81.

Rydym hefyd yn parhau i weinyddu’r cynllun i ad-dalu ffioedd dirprwyaeth a ordalwyd, a chafodd cwsmeriaid gyfanswm o £610.79 eleni.

Unigolion coll

Eleni, fe wnaethom oruchwylio wyth gorchymyn gwarcheidiaeth, ar ôl goruchwylio chwech yn 2022 i 2023. Er bod y niferoedd yn dal yn isel, mae’r gorchmynion a geir gan yr Uchel Lys yn hanfodol i deuluoedd sydd ag anwyliaid ar goll, ac maent yn eu helpu i ddelio â materion ariannol yn ystod cyfnod sydd eisoes yn drawmatig.

Ymchwiliadau

Awdurdodwyd y Gwarcheidwad Cyhoeddus i ymchwilio i honiadau o gam-drin gan atwrneiod neu dirprwyon a benodwyd gan y llys lle mae atwrneiaeth gofrestredig neu orchymyn llys ar waith. Os bydd y rhoddwr neu P yn marw, neu os bydd yr atwrneiaeth neu’r gorchymyn llys yn cael eu diddymu, yna bydd pwerau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ymchwilio hefyd yn dod i ben. Rydym yn cynnal ymchwiliad os oes sail i awgrymu nad yw buddiannau gorau’r rhoddwr neu P yn cael eu diwallu.

Eleni, cynyddodd nifer yr ymchwiliadau i 2,849 o’i gymharu â 2,464 yn 2022 i 2023. Mae pob ymchwiliad yn arwain at adroddiad sy’n rhoi crynodeb o’r ymchwiliad a, lle bo angen, yn argymell camau gweithredu. Mae’r adroddiadau’n cael eu cytuno a’u llofnodi gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus neu’r rheini yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig i lofnodi ar ran y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Targed Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer cwblhau a sicrhau llofnod y Gwarcheidwad Cyhoeddus ar yr adroddiadau hyn yw dim mwy na 70 diwrnod. Eleni, ni lwyddom i gyrraedd y targed hwn ac roedd y cyfnod aros yn 78 diwrnod oherwydd bod mwy o ymchwiliadau, swyddi gwag, a hyfforddiant i ymchwilwyr newydd. Rydym yn recriwtio mwy o ymchwilwyr gyda chynllun adfer ar waith i fynd â ni yn ôl o fewn y targed.

Fe wnaethom gau 2,504 o ymchwiliadau yn ystod 2022 i 2023 o’i gymharu â 2,411 yn 2022 i 2023. Roedd gennym 1,034 o ymchwiliadau gweithredol ar 31 Mawrth 2023 o’i gymharu â 702 ar yr un pryd y flwyddyn flaenorol.

Yn y rhan fwyaf o’r ymchwiliadau a gynhaliwyd, nid oedd angen cymryd unrhyw gamau (72%). Defnyddiom fesurau ychwanegol ar gyfer 7% o ymchwiliadau. Dyw’r rhain ddim yn fesurau sy’n mynd i’r llys, fel gofyn i atwrnai ail-gyfrifo mewn ychydig fisoedd i ddangos eu bod yn glynu wrth y cod ymarfer. Arweiniodd 21% o’r ymchwiliadau at gamau gweithredu’r Llys Gwarchod yn ystod 2022 i 2023, o’i gymharu â 19% yn y flwyddyn flaenorol.

Gwelliannau i’r gwasanaethau

Fe wnaethom fabwysiadu meddalwedd bancio newydd sydd wedi arwain at welliant sylweddol yn effeithlonrwydd ein gwaith o ddadansoddi cyllid.

Rydym wedi gweithio’n galed i wella’r ffordd rydym yn delio â chwynion cwsmeriaid er mwyn sicrhau cysondeb yn ein hymatebion a cheisio adborth i ddysgu gwersi o unrhyw faterion a godir.

Yn dilyn y cynllun peilot a gynhaliom i benderfynu ar yr amser gorau i gael cyngor cyfreithiol yn ystod ymchwiliad, aethom ati i gyflwyno newidiadau parhaol. Profodd y cynllun peilot fanteision ymgysylltu’n llawer cynharach â’r tîm cyfreithiol.

Enghraifft o achos a aeth i’r llys

Roedd y rhoddwr yn byw mewn cartref gofal ac roedd ganddynt ddau atwrnai. Mynegodd yr awdurdod lleol bryderon nad oedd cyfraniad y rhoddwr tuag at ffioedd gofal yn cael ei dalu. Dangosodd dadansoddiad ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus nifer o drosglwyddiadau ariannol i un o’r atwrneiod ac nad oedd digon o arian yng nghyfrif y rhoddwr i dalu ffioedd y cartref gofal.

Dywedodd yr atwrnai a oedd yn derbyn y trosglwyddiadau wrth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fod arian y rhoddwr wedi cael ei ddefnyddio i helpu sefyllfa ariannol anodd yr atwrnai ei hun yn ystod pandemig COVID-19 ac nad oedd wedi ad-dalu’r rhoddwr eto. Nid oedd yr ail atwrnai wedi cyfrannu at reoli cyllid y rhoddwr, a chyflwynodd Weithred Ymwadiad i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Gwnaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gais i’r Llys Gwarchod am dynnu’r atwrneiod oddi ar atwrneiaeth arhosol y rhoddwr, ac am benodi dirprwy i’r panel a allai weithio i adennill arian y rhoddwr.

Enghraifft o achos lle nad oedd angen cymryd camau pellach

Roedd perthynas y rhoddwr wedi cysylltu’n uniongyrchol â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan nodi pryderon am gamreoli ariannol gan atwrnai’r rhoddwr. Cyn gynted ag y daethom i’r casgliad bod gennym awdurdodaeth i ymchwilio, gwnaed ymholiadau. Roedd y rhain yn cynnwys cysylltu â’r cartref gofal lle’r oedd y rhoddwr yn byw i sicrhau bod darpariaeth ar gael iddynt ac nad oeddynt mewn perygl o gael eu troi allan, ac ymgysylltwyd â’r awdurdod lleol a meddyg teulu’r rhoddwr i gael unrhyw dystiolaeth o alluedd a chofnodion gofal. Fe roddom gyfarwyddyd i ymwelydd arbennig a oedd wedi ymweld â’r rhoddwr ac a allai ddarparu trosolwg annibynnol o allu’r rhoddwr, yn ogystal â chael cipolwg ar unrhyw ddymuniadau a theimladau a allai fod yn berthnasol i ganlyniad yr ymchwiliad. Fel sy’n digwydd yn aml yn ein hymchwiliadau, canfuwyd fod gan y rhoddwr ddiffyg galluedd meddyliol a gallai’r ymwelydd arbennig nodi yn ystod pa gyfnod roedd yn debygol iddynt golli’r galluedd hwnnw.

Drwy gydol yr ymchwiliad, cadwodd ein hymchwilydd gysylltiad â’r sawl a fynegodd y pryder, yr atwrnai sy’n destun yr ymchwiliad a banc y rhoddwr, a lluniodd adroddiad cynhwysfawr yn seiliedig ar y wybodaeth a gafwyd gan bob parti. Rhoddwyd esboniad am rai o drafodion cychwynnol yr atwrnai a oedd yn peri pryder drwy geisiadau pellach am dderbynebau. Roedd y derbynebau’n dangos bod y trafodion er lles gorau’r rhoddwr, yn rhesymol o ran y symiau a wariwyd, a bod y wybodaeth a ddarparwyd gan yr atwrnai yn gywir. Nid oedd yn ofynnol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gymryd unrhyw gamau pellach. Rhoddwyd gwybod i’r partïon am y canlyniad ac atgoffwyd yr atwrnai o’u cyfrifoldebau.

Ymweliadau

Rydym yn gweithio gyda’n hymwelwyr o’r Llys Gwarchod i ymweld â chleientiaid, rhoddwyr, atwrneiod a dirprwyon. Pan fo angen, bydd ymwelydd meddygol arbenigol yn ymweld. Yn ystod 2022 i 2023, comisiynodd y tîm ymweliadau 13,141 o ymweliadau o’i gymharu ag 11,213 yn 2022 i 2023.

Mae ymweliadau’n caniatáu i ni wneud y canlynol:

  • gwneud yn siŵr bod pobl yn deall ac yn cyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol

  • gwneud yn siŵr bod y rheiny sydd angen cymorth yn ei gael

  • gofyn am wybodaeth fel rhan o ymchwiliadau

Ers diddymu cyfyngiadau COVID-19 rydym wedi gallu cynnal mwy o ymweliadau wyneb yn wyneb ac mae tua 65% o’n hymweliadau bellach yn digwydd wyneb yn wyneb. Rydym yn disgwyl i’r ganran hon gynyddu ym mlwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Yn 2022 i 2023 fe wnaethom y canlynol:

  • dyrannu 99% o gomisiynau ymweliadau safonol o fewn pum diwrnod gwaith

  • dyrannu 97% o gomisiynau ymweliadau brys o fewn dau ddiwrnod gwaith

  • prosesu 99% o’r holl adroddiadau ymweliadau a gwblhawyd o fewn pum diwrnod gwaith

Rydym yn chwilio am ffyrdd o wella ein hymweliadau drwy roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar ymwelwyr i gwblhau eu hymweliadau cyn gynted â phosibl. Byddwn hefyd yn recriwtio mwy o ymwelwyr i sicrhau bod gennym ddigon ohonynt i ateb y galw cynyddol.

Diogelu

Er bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i ymgysylltu a gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys awdurdodau lleol a’r Rwydwaith Prif Weithwyr Cymdeithasol, rydym wedi ymrwymo i wneud y broses o godi pryderon yn fwy hygyrch i’r cyhoedd a’r sefydliadau proffesiynol. Ar ôl lansio ffurflen OPG130, rydym wedi gallu casglu rhagor o wybodaeth ar ddechrau’r broses codi pryderon, gan ein helpu i adnabod y rheini sydd o fewn ein hawdurdodaeth yn well a’r rheini sydd angen eu cyfeirio at sefydliadau priodol.

Yn 2022 i 2023 fe wnaethom y canlynol:

  • cwblhau 86% o asesiadau risg ynghylch unrhyw bryderon diogelu o fewn dau ddiwrnod gwaith, yn erbyn targed o 95%

  • brysbennu 85% o bryderon o fewn pum diwrnod gwaith, yn erbyn targed o 95%

cofnodwyd lefel y perfformiad ar gyfer y targedau hyn yn 86% a 85% oherwydd problem TG dechnegol yn ystod y flwyddyn a barodd am dri mis, gan effeithio ar ein gallu i gofnodi’n gywir yn erbyn y targedau hyn. Fe wnaethom wiriadau â llaw i sicrhau ein bod yn asesu risg achosion a’u brysbennu o fewn y targed, ac nad oedd neb mewn perygl. Aseswyd risg cyfanswm o 2,700 o bryderon yn ystod y cyfnod o dri mis. Ar ôl i’r system TG gael ei thrwsio, cofnodwyd ffigurau misol o 98%, sy’n uwch na’r lefel perfformiad a dargedwyd sef 95%.

Sicrwydd cyfreithiol a gwybodaeth

Mae’r tîm sicrwydd gwybodaeth a chyfreithiol yn darparu’r gwasanaethau cyfreithiol angenrheidiol i alluogi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni ei swyddogaethau statudol. Mae’r tîm hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad cyfreithiol a sicrwydd gwybodaeth i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer cyflawni a mentrau strategol – fel newidiadau i brosesau i wella effeithlonrwydd neu ddatblygu’r gwasanaeth atwrneiaeth arhosol digidol.

Cynhaliodd y tîm ymgyfreitha effeithiol ar ran y Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn. Drwy wneud ceisiadau amserol i’r Llys Gwarchod, llwyddom i amddiffyn y rheini oedd ag atwrneiod neu ddirprwyon a oedd wedi gweithredu’n amhriodol. Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom 704 o geisiadau goruchwylio ac ymchwilio i’r Llys Gwarchod.

Fe wnaeth y tîm hefyd ymgyfreitha i ddatrys ansicrwydd o ran effeithiolrwydd cyfreithiol darpariaethau mewn atwrniaethau arhosol, er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu buddiannau gorau’r rhoddwr. Yn ystod y flwyddyn, gwnaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 875 o geisiadau i’r Llys Gwarchod i geisio datrys ansicrwydd o’r fath.

Cafodd y disgwyliadau o ran yr amser a gymerwyd i gyflwyno achosion i’r llys eu bodloni’n gyfforddus. Mewn perthynas ag ymchwiliadau, ein nod yw 35 diwrnod o ddyddiad derbyn yr argymhelliad y dylid cymryd camau yn y llys er mwyn cychwyn achos llys. Eleni, byddwn yn cychwyn achos llys mewn 31.6 diwrnod gwaith ar gyfartaledd, gan gyfuno ein hadferiad o’r ôl-groniad o waith achos cyfreithiol a welwyd y llynedd.

Cwynion

Rydym yn rheoli cwynion cwsmeriaid drwy broses gwyno haenog. Y maes busnes cyfrifol dan sylw sy’n ystyried cwynion Haen 1 ac yn ymateb iddynt. Os yw cwsmer yn anfodlon â’r ymateb, gellir uwchgyfeirio’r gŵyn i’r tîm cwynion haen 2. Ar y cam hwn, bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adolygu’r gŵyn, a’r ffordd y caiff ei thrin, neu bydd aelod o’r uwch dîm arwain yn gwneud ar ei rhan. Bydd cwynion gan ASau yn cael eu trin fel cwynion haen 2. Cawsom 659 darn o ohebiaeth gan Aelodau Seneddol eleni, o’i gymharu â 204 yn 2021 i 2022.

Os bydd y cwsmer yn dal yn anfodlon, gall ofyn i’w AS gyfeirio ei gŵyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd er mwyn cynnal adolygiad annibynnol. Ar gyfer ei adolygiad, gall yr ombwdsmon wedyn wneud ymholiadau pellach gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, cyn penderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad ffurfiol. Ni dderbyniodd yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd unrhyw achosion i ymchwilio iddynt yn ystod 2022 i 2023. Penderfynodd yr ombwdsmon ymchwilio i ddau achos yn ystod 2021 i 2022 a chyhoeddi eu penderfyniad i ni yn ystod y flwyddyn. Yn y ddau achos, cadarnhaodd yr ombwdsmon y cwynion yn rhannol ac argymhellodd y dylai Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ymddiheuro a thalu iawndal. Mae’r argymhellion hyn yn bwysig i ni ac rydym wedi bod wrthi’n edrych ar sut y gellir gwella ein prosesau i ymgorffori canfyddiadau’r ombwdsmon.

Rydym wedi parhau i wynebu heriau wrth ddelio â chwynion o fewn ein hamserlenni disgwyliedig gan fod oedi mewn rhannau eraill o’r busnes wedi effeithio ar lefel y cwynion. Mae hyn wedi creu heriau sylweddol i haen 1 a haen 2 o ran cyflawni eu targedau ar gyfer cwynion. Yn erbyn targed o ymateb i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod, fe ymatebom i 21% o gwynion yn ystod y cyfnod hwn, ac rydym yn benderfynol o wella’ ffigur hwn.

Gwelliannau i’r gwasanaeth

Mae timau haen 1 a haen 2 wedi rhoi cynlluniau adfer ar waith i sicrhau eu bod yn gallu clirio’r ôl-groniad o gwynion, ac rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed ddechrau’r flwyddyn ariannol newydd.

Mae’r ddau dîm wedi cynyddu nifer y staff i helpu i gyflawni hyn ac wedi gwneud gwelliannau i brosesau i sicrhau eu bod mor effeithlon â phosibl. Er enghraifft, mae’r tîm haen 2 bellach yn cysylltu â chwsmeriaid dros y ffôn lle bo hynny’n briodol, sy’n golygu bod cwsmeriaid yn cael ymateb cyflymach ac yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a chael esboniad llawn.

Mae cwynion yn cael eu cydnabod ar ôl eu derbyn fel bod cwsmeriaid yn gwybod bod eu cwyn wedi dod i law ac y byddwn yn ei hateb cyn gynted â phosibl. Rydym wedi symleiddio’r broses gwyno ac rydym yn sicrhau ei bod yn haws olrhain a monitro’r cwynion. Rydym hefyd wedi cynyddu nifer y staff yn ein timau cwynion. Rydym yn parhau i ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd o gwynion i wella ein gwasanaeth i gwsmeriaid.

Mae’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd wedi adolygu a diweddaru’r safonau newydd ar gyfer cwynion trawslywodraethol. Gwnaethom asesiad cychwynnol yn erbyn y safonau hynny ac rydym wedi rhoi cynllun gweithredu ar waith i fwrw ymlaen â gwelliannau fel ein bod yn parhau i wella’r ffordd mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymdrin â chwynion.

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda’n cydweithwyr ym maes cwynion ar draws y Weinyddiaeth Gyfiawnder drwy gyfnewid syniadau ar gyfer gwella’r broses gwyno i gwsmeriaid a staff, a sicrhau bod gan staff y sgiliau priodol i ymateb yn effeithiol i gwynion a’u bod wedi cael hyfforddiant priodol.

Enghraifft o gŵyn

Cawsom ddau gais atwrneiaeth arhosol ar gyfer rhoddwr. Pan oeddem yn cynnal archwiliadau, nodwyd bod yr atwrneiaeth arhosol iechyd a lles yn annilys ac nad oedd modd ei chofrestru. Roedd hyn oherwydd nad oedd y dudalen am driniaeth cynnal bywyd wedi’i chwblhau’n gywir. Ni allwn gofrestru’r atwrneiaeth arhosol os oes unrhyw wallau neu hepgoriadau ar y dudalen hon. Fe ysgrifennom at y rhoddwr i egluro y byddai angen creu atwrneiaeth arhosol newydd, ac os gwnaed hyn o fewn tri mis, byddent yn gymwys i dalu ffi ostyngol o £41, yn hytrach na’r ffi lawn o £82.

Ar gyfer atwrneiaeth arhosol sy’n cael ei dychwelyd, byddem fel arfer yn ei phostio ar ddyddiad ein llythyr ategol, ond yn yr achos hwn bu oedi cyn i ni bostio’r ffeil yn ôl at y rhoddwr. Yn y pen draw, pan wnaethom ei bostio’n ôl, roedd y rhoddwr yn digwydd bod i ffwrdd ar wyliau ac ni chawsant yr atwrneiaeth arhosol nes iddynt ddychwelyd. Roeddent yn siomedig eu bod wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer cael gostyngiad yn y ffi. Yn dilyn hynny, gwnaeth y rhoddwr atwrneiaeth arhosol gais newydd a thalu’r ffi lawn, a chwynodd hefyd am y ffordd y gwnaethom ddelio â’r cais annilys gwreiddiol.

Mewn ymateb i’r gŵyn, cytunom y byddem, fel arwydd o ewyllys da, yn ad-dalu £41 o’r ffi o £82 a dalwyd am y cais newydd. Cofrestrwyd yr atwrneiaeth arhosol newydd a’i hanfon at y rhoddwr heb drafferth.

Yn ystod 2022 i 2023, cawsom gyfanswm o 6,551 o gwynion. O’r rhain, cafwyd 5,726 o gwynion gan ein tîm cwynion atwrneiaeth Haen 1. Pan roedd y tîm yn wynebu cyfnod o alw mawr, blaenoriaethwyd yr ymatebion ar gyfer cwsmeriaid a oedd yn dal i bryderu, ar ôl yr ymchwiliad. O’r rhain, datryswyd 1,755 o gwynion am atwrneiaeth Haen 1 gan nad oedd angen ymateb ar y cwsmer mwyach neu os datryswyd eu cwyn drwy ddulliau eraill, er enghraifft, os llwyddwyd i gofrestru eu cais am atwrneiaeth arhosol. Roedd hyn yn golygu bod 3,971 o gwynion am atwrniaethau heb eu datrys, a rhoddwyd ymateb llawn i bob un ohonynt.

Ar gyfer pob cwyn am atwrneiaeth Haen 1 oedd heb eu datrys, a phob cwyn yr ymatebodd timau eraill iddynt, anfonwyd ymatebion mewn 75 diwrnod ar gyfartaledd. Mae hyn y tu hwnt i’n targed o ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith, ac rydym wedi rhoi cynlluniau adfer ar waith i gyrraedd ein targed ym mlwyddyn ariannol newydd 2023 i 2024.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cael

6,551
o gwynion o’i gymharu â 5,521
yn 2021 i 2022
21%
Cyfran y cwynion yr ymatebwyd iddynt o fewn 10 diwrnod
Targed: 90%
75 diwrnod
Yr amser cyfartalog a gymerwyd i ymateb i gwynion sydd heb eu datrys
Targed: 10

Roedd dau brif faes i’r cwynion, sef:

5,726
Gwasanaethau atwrneiaeth
221
Gwasanaethau dirprwyo

Dyma’r tair prif gŵyn am wasanaethau atwrneiaeth:

  • cyswllt â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – mae hyn yn cynnwys yr hyn sydd yn ein llythyrau, a sut a phryd rydym yn cysylltu â chwsmeriaid
  • dogfennau ar goll
  • oedi wrth gofrestru atwrniaethau

Dyma’r tair prif gŵyn am wasanaethau dirprwyaeth:

  • cyswllt â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – mae hyn yn cynnwys yr hyn sydd yn ein llythyrau, a sut a phryd rydym yn cysylltu â chwsmeriaid
  • yn ymwneud â dirprwyon
  • yn ymwneud â ffioedd

Ein pobl

Rydym eisiau i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fod yn lle gwych i weithio ynddi, ac mae ein Haddewid i Bobl yn cynnwys pum thema rydym eisiau eu gwreiddio ar draws y profiad mae ein staff yn ei gael:

  • perthyn
  • teimlo’n dda
  • datblygu ein hunain
  • arweinwyr gwych ar bob lefel
  • addas ar gyfer y dyfodol

Er mwyn rhoi ein thema ‘perthyn’ ar waith, fe lansiom strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant newydd, darparu hyfforddiant Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i reolwyr, cynnal sesiynau “Dewch i drafod…” yn canolbwyntio ar hil, a gwreiddio arferion recriwtio cynhwysol, ymysg camau gweithredu eraill. Ar gyfer ein thema ‘teimlo’n dda’, fe lansiwyd ein hyb llesiant ar-lein newydd, sy’n gyson wedi cael dros 500 o ymweliadau’r mis. Fe gynyddon fynediad at swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl, a darparu sesiynau ymwybyddiaeth o’r menopos i reolwyr.

Er mwyn annog ‘datblygu ein hunain’, aethom ati i ddarparu hyfforddiant cynefino i staff newydd a hyfforddiant rheoli i reolwyr newydd a rhai sydd eisoes yn rheolwyr. Fe wnaethom hefyd lansio Academi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel cartref ar gyfer amrywiaeth eang o adnoddau cymorth gyrfa, a sicrhau lleoedd i’n staff ar raglenni talent y Weinyddiaeth Gyfiawnder a rhai trawslywodraethol. I gefnogi ‘arweinwyr gwych ar bob lefel’, fe gyhoeddom flogiau’n tynnu sylw at sut mae ein harweinwyr yn arddangos gwerthoedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac fe gyflwynom sesiynau ‘Gofynnwch i AD’ ar gyfer rheolwyr canol. Yn olaf, er mwyn ein helpu i fod yn ‘addas ar gyfer y dyfodol’, aethom ati i ddiwygio ein canllawiau gweithio hyblyg a hybrid ar gyfer staff, a datblygu strategaeth recriwtio a chadw staff fel bod gennym bobl â’r sgiliau cywir ar yr adeg iawn.

Bob blwyddyn mae ein staff yn cymryd rhan mewn arolwg pobl. Yn 2022 i 2023, cawsom gyfradd ymateb wych o 76% (5% yn uwch nag yn 2021 i 2022). At ei gilydd, sgôr mynegai ymgysylltu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus oedd 63%, gostyngiad o’r 65% yn 2021 i 2022. Mae’r sgoriau hyn yn adlewyrchu blwyddyn arall o newid a her i’n staff a’n sefydliad. Yn erbyn pwysau cynyddol o ran costau byw, mynegwyd pryder gan gydweithwyr am gyflogau a gwobrwyo yng nghanlyniadau’r arolwg eleni, gyda gostyngiad o 11% yn nifer y bobl sy’n teimlo’n gadarnhaol am eu cyflogau a’u buddion.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd o ran mynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu. Yn 2018, dywedodd 17% o’n staff eu bod wedi cael profiad o fwlio ac aflonyddu, a dywedodd 21% eu bod wedi cael profiad o wahaniaethu. Yn 2022, gwellodd y ffigurau hyn i 10% ac 11% yn y drefn honno.

Er bod y gwelliant hwn i’w groesawu, rydym yn bryderus o weld bod cynnydd o 2% yn nifer y staff a gafodd brofiad o fwlio ac aflonyddu yn 2022 o’i gymharu â 2021, a chynnydd o 1% yn nifer y staff a gafodd brofiad o wahaniaethu. Mae mynd i’r afael â hyn yn dal yn flaenoriaeth bwysig i’r Swyddfa. Rydym wedi gwerthuso a gwella ein Rhwydwaith Ymgynghorwyr Ymddiried i gefnogi staff a allai fod wedi cael eu heffeithio gan hyn. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gydag uned ymddygiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gynllun ehangach i fynd i’r afael ag ymddygiad o’r fath.

2022

Cynhwysiant a thriniaeth deg: 76%

Profiad o fwlio ac aflonyddu: 10%

Profiad o wahaniaethu: 11%

Camau a gymerwyd:

  • creu mannau diogel i’n pobl rannu eu profiadau bywyd drwy ein sesiynau ‘beth am drafod’ ar bynciau fel hil

  • darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth i uwch arweinwyr ar ein cyfrifoldebau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

  • creu proses i gofnodi ac adrodd ar asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb er mwyn sicrhau na fydd unrhyw newidiadau i bolisïau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn effeithio’n anfwriadol ar grwpiau penodol

  • digwyddiadau dathlu amrywiaeth, cynhwysiant a lles drwy gydol y flwyddyn

2021

  • Cynhwysiant a thriniaeth deg 77%

  • Profiad o fwlio ac aflonyddu: 8%

  • Profiad o wahaniaethu: 10%

Camau a gymerwyd:

  • wedi cwblhau adolygiad llawn o gynghorwyr ymddiried ac ymgynghorwyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac wedi cyflwyno’r argymhellion i’r Pwyllgor Pobl i gryfhau a hybu cefnogaeth

  • mae gwaith yn cael ei wneud gyda Rhwydwaith Gallu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i adolygu lefelau uchel o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu a adroddir gan bobl ag anableddau yn adroddiad Grŵp Gweithredu Anabledd y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae adolygiad o brosesau addasu’r gweithle wedi cael ei ymgorffori yn Addewid i Bobl y Swyddfa

  • mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi dechrau hyrwyddo ac ymgorffori ymdeimlad o berthyn yn y ffordd rydym yn ymgysylltu â staff ac yn eu grymuso

  • mae canllawiau sgwrsio i reolwyr a phecyn fideo wedi cael eu rhyddhau i gefnogi sgyrsiau cadarnhaol ac adeiladol am les

Gweithlu

Mae sicrhau bod gennym y lefelau staffio cywir yn bwysig er mwyn i ni allu darparu ein gwasanaethau. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i recriwtio a denu niferoedd digonol o staff wrth geisio cadw i fyny â throsiant a lliniaru heriau o ran cadw staff. Fe gynhaliom 80 o ymgyrchoedd recriwtio yn ystod 2022 i 2023. Mae’r ffigurau isod yn dangos nifer y staff newydd a recriwtiwyd gennym, a nifer y staff a adawodd. Fe wnaethom leihau ein dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth a llwyddwyd i ddenu mwy o weision sifil er gwaethaf marchnad recriwtio gystadleuol.

Ffigurau recriwtio a nifer y staff a adawodd yn ystod 2022 i 2023

  Staff wedi’u recriwtio Staff wedi gadael
Gweision Sifil, gweithwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 322 162
Gweithwyr asiantaeth 61 193

Ystadegau amrywiaeth

Mae ein data yn dangos bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn sefydliad amrywiol. Gan adlewyrchu’r dinasoedd y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i leoli ynddynt, mae 56% o’n gweithlu yn fenywod, mae 51% yn dod o gefndiroedd ethnig leiafrifol, mae gan 20% anabledd, ac mae 6% yn ystyried eu hunain yn lesbiaidd, deurywiol a hoyw. Mae gennym hefyd nifer o rwydweithiau staff sydd ag uwch noddwyr. Er enghraifft, rhwydweithiau ar gyfer staff LHDT+, hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, grwpiau ffydd, a staff ag anableddau, ymysg eraill.

Symudedd cymdeithasol

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn manteisio ar fentrau symudedd cymdeithasol ehangach yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ond mae ganddi hefyd uwch hyrwyddwr symudedd cymdeithasol i hybu’r cynnydd, gan gynnwys cynyddu cyfraddau datgan. Mae’r Swyddfa’n parhau i gymryd rhan yn y cynllun interniaeth Cefnogi Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal a’r Academi Gwaith Seiliedig ar Sector wrth recriwtio staff. Rydym hefyd bellach yn gweithio’n agos gyda chanolfan waith dinas Birmingham.

Dysgu a datblygu

Er mwyn parhau i fuddsoddi yng ngallu ein staff a’u datblygiad, fe wnaethom lansio Academi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, sy’n darparu cyfeiriadur ar-lein o wersi a ddysgwyd sydd ar gael a llyfrgell o ddeunyddiau cysylltiedig. I gefnogi ein rheolwyr llinell, rydym wedi diwygio eu hyfforddiant ac wedi darparu cefnogaeth barhaus drwy ddeunyddiau a grŵp cefnogi rheolwyr llinell. At ei gilydd, darparodd ein tîm dysgu a datblygu hyfforddiant cynefino ar gyfer 423 o staff.

Mae cefnogi grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i symud i swyddi arwain yn dal yn flaenoriaeth. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhedeg ‘Bridges’, rhaglen ar gyfer staff o leiafrifoedd ethnig ar raddfeydd EO ac HEO. Cynigir cynlluniau ychwanegol hefyd sydd naill ai’n cael eu rhedeg gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder neu ar draws y llywodraeth; y cynllun ‘Luminate’ ar gyfer staff o leiafrifoedd ethnig ar Raddau 6 a 7, y cynllun ‘Beyond Boundaries’ ar gyfer yr holl staff ar raddau AA i SEO, ac Ysgol Arweinyddiaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ymysg eraill.

Perfformiad ariannol

Rhagweld galw ac incwm

Rydym wedi parhau i weithio gyda chydweithwyr cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â’n rhagolygon galw ac incwm ac roedd y gwaith hwn yn hanfodol wrth ddatblygu’r cynllun adfer ar gyfer yr ôl-groniad o geisiadau atwrniaethau arhosol. Rydym wedi cymryd camau sylweddol i ddechrau clirio’r ôl-groniad o geisiadau atwrniaethau arhosol yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac mae hyn wedi ein galluogi i adennill 97.8% o gostau ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023 – gwelliant sylweddol ar y ganran o 88.7% yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

Perfformiad ariannol

Mae’r adran hon yn cynnwys sylwadau i gefnogi’r datganiadau ariannol a’n perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r datganiadau ariannol wedi’u nodi ar adran Datganiadau ariannol. Mae Nodyn 2 ar y datganiadau ariannol yn nodi’r ffioedd a’r taliadau ar gyfer yr incwm isod, ac mae Nodiadau 3 a 4 yn cynnwys mwy o fanylion ynghylch y gwariant ar draws y Swyddfa. Isod ceir uchafbwyntiau perfformiad ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn 2022 i 2023.

Adennill costau97.8%
I fyny o

88.7 %

Incwm atwrniaethau
Gwell perfformiad wrth gofrestru atwrniaethau.
£75.3 miliwn, cynnydd (31%)

Incwm goruchwylio
Mae incwm goruchwylio wedi gostwng
£10.3 million, gostyngiad (6%)

Costau staff
Cynnydd yn sgil recriwtio rhagor o staff i gefnogi ein hadferiad.
£57.5 miliwn, cynnydd (11%)

Adroddiadau ymwelwyr proffesiynol
Ailgyflwyno ymweliadau wyneb yn wyneb a chynnydd yn nifer yr ymweliadau meddygol â chleientiaid.
£2.8 miliwn, cynnydd (33%)

Postio
Cynnydd oherwydd y cynnydd yn nifer y ceisiadau atwrneiaeth a gafwyd ac a gofrestrwyd, a hefyd chwyddiant prisiau.
£5.1 miliwn, cynnydd (38%)

Adroddiad cynaliadwyedd

Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar y byd naturiol. I wneud hyn, rydym yn mesur ein heffaith ar yr amgylchedd ac yn gweithio i leihau ein defnydd o adnoddau cyfyngedig, allyriadau nwyon tŷ gwydr a theithio diangen.

Llywodraethu

Ystyrir effaith ein prosiectau portffolio ar gynaliadwyedd a’r amgylchedd wrth ddatblygu achosion busnes, sy’n destun craffu gan y Bwrdd Portffolio a Newid. Er enghraifft, cofnodir effaith amgylcheddol Moderneiddio Atwrniaethau Arhosol yn yr achos busnes, gan gynnwys y gostyngiad disgwyliedig mewn derbyniadau papur, defnydd o ynni ac ôl-troed yr ystadau. Mae cynaliadwyedd hefyd yn cael ei ystyried wrth flaenoriaethu prosiectau yn y portffolio. Gweinyddir adolygiadau gateway ffurfiol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac maent hefyd yn ystyried cynaliadwyedd, er nad oedd angen adolygiadau o’r fath yn ystod 2022 i 2023.

Casglu data a chwmpas adroddiadau

Rydym yn adrodd ar y cyfleustodau a ddefnyddiwyd, teithiau a wneir a’r gwastraff a gynhyrchir. Mesurir y rhain yn erbyn blynyddoedd blaenorol ac ar y cyd â thargedau Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth sy’n nodi’r camau y bydd adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth yn eu cymryd i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Diwygiwyd y rhain yn 2021 ac maent yn berthnasol tan 2025.

Mae ein data yn cael ei gymryd yn uniongyrchol o fesuryddion cyfleustodau, cyflenwyr a chontractwyr gwaredu gwastraff. Os ydym yn rhannu adeiladau a chyflenwad cyfleustodau, rydym yn seilio ein ffigurau defnydd ar y gofod a ddefnyddir.

Nid oes gennym gerbydau fflyd, ac mae milltiroedd cerbydau personol a ddefnyddir ar gyfer teithiau busnes yn cael eu nodi yn yr hawliadau am dreuliau.

Dim ond ar ddefnydd swyddfa gefn o bapur y mae’n rhaid i ni adrodd arno. Fodd bynnag, rydym yn defnyddio llawer iawn o bapur wrth ddarparu pecynnau atwrneiaeth arhosol i gwsmeriaid, felly er mwyn bod yn dryloyw rydym yn adrodd ar y rhain hefyd. Yn 2020 cyflwynwyd trefniadau argraffu oddi ar y safle a phostio uniongyrchol, sydd wedi disodli rhan fawr o’r gwaith argraffu yn y swyddfa. Mae’r ffigurau ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u cynnwys yn yr adroddiadau ar ddefnydd papur.

Caiff ein data ei grynhoi hefyd yn adroddiad blynyddol a chyfrifon adrannau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Gwybodaeth am ein hystadau

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham. Ffigurau ar gyfer y flwyddyn 2017 i 2018 osododd y llinell sylfaen flaenorol sydd wedi cael ei defnyddio i fesur y blynyddoedd i ddod yn fewnol. Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2021 i 2022, symudodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus eu swyddfeydd yn Birmingham i safle mwy modern, llai gan ddefnyddio model gweithio hybrid. Rhaid i gymariaethau â blynyddoedd blaenorol ystyried hyn, a bydd newidiadau ym mherfformiad adeiladau yn y dyfodol yn defnyddio blwyddyn ariannol 2022 i 2023 fel llinell sylfaen.

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus nifer fach o staff sy’n gweithio yn adeiladau eraill y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn gan mai’r Weinyddiaeth sy’n adrodd y ffigurau ar gyfer y safleoedd hyn.

Ein targedau

Mae targedau Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth a pherfformiad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’w gweld yn y tablau isod.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyrraedd y targed papur oherwydd y cynnydd parhaus yn y llwyth gwaith a nifer y staff ers y blynyddoedd llinell sylfaen. Trafodir y meysydd hyn yn fanwl isod. Mae moderneiddio atwrniaethau arhosol a defnyddio mwy ar arloesi digidol yn rhoi cyfleoedd i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wella perfformiad yn erbyn ein targedau cynaliadwyedd, a byddwn yn ceisio manteisio i’r eithaf ar hyn dros y blynyddoedd nesaf er mwyn cyrraedd ein targedau.

Cyrhaeddwyd y targed ar gyfer faint o wastraff a anfonwyd i safleoedd tirlenwi. Roedd allyriadau carbon deuocsid ar y trywydd iawn i fodloni Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth tan y flwyddyn bresennol pan fu cynnydd mewn allyriadau unwaith eto. Caiff hyn ei drafod hyn isod.

Aethpwyd ar gyfanswm o dair taith awyren ddomestig oherwydd tarfu ar y rheilffyrdd.

Sylwch wrth gymharu’r tablau isod â’r blynyddoedd blaenorol y dylid ystyried newidiadau i’r blynyddoedd llinell sylfaen.

Ymrwymiad Gwyrdd y Llywodraeth
Targed y Weinyddiaeth Gyfiawnder hyd 2025 Ein sefyllfa ar 31 Mawrth 2023
Canlyniad
Allyriadau nwyon tŷ gwydr Gostyngiad o 41% rhwng 2017 a 2018 Gostyngiad o 3% Heb ei fodloni
  Gostyngiad o 23% mewn allyriadau uniongyrchol Cynnydd o 265% Heb ei fodloni
Teithiau hedfan domestig Gostwng teithiau hedfan domestig o 30% o’i gymharu â 2017 i 2018 Gwnaed 3 taith hedfan ddomestig Amh
Gwastraff Gostyngiad o 15% yn y cyfanswm gwastraff o’i gymharu â 2017 i 2018 Cynnydd o 3% Heb ei fodloni
  Llai na 5% i safleoedd tirlenwi 0% Wedi’i fodloni
  Cynyddu ailgylchu a rhagori ar lefelau 2017 i 2018 (70%) 100% Wedi’i fodloni
Dŵr Gostyngiad o 8% o’i gymharu â 2017 i 2018 Gostyngiad o 41%. Wedi’i fodloni
Papur Gostyngiad o 50% o’i gymharu â 2017 i 2018 Cynnydd o 41% mewn termau absoliwt Heb ei fodloni
    Gostyngiad o 47% yn y defnydd fesul achos Heb ei fodloni

Isod, dangosir ffigurau cyfanswm defnydd ac allyriadau, ynghyd â gwariant, os yw’r wybodaeth ar gael

Ffynonellau CO2 Swm Tunelli o CO2e Gwariant
Nwy (cwmpas 1) 2,274,000 kWhr 409 Anhysbys fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau
Trydan (cwmpas 2) 744,283 kWhr 132 Anhysbys fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau
Teithio (cwmpas 3)      
Rheilffyrdd (gan gynnwys y London Underground) 163,053 km 5.8 £40,831
Fflyd lwyd (ceir) 30,442 km 5.2 £13,718
Awyr 3 taith hedfan 0.218 Amh
Adnoddau cyfyngedig Swm Gwariant
Gwastraff Cyfanswm: 78.2 tunnell
Wedi’i ailgylchu: 70%
Ynni o wastraff: 30%
Anhysbys fel rhan o’r tâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau
Water 4,529 metr ciwbig Anhysbys fel rhan o’r tâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau
Paper 13,850 rîm (swyddfa gefn)
35,578 rîm allanol
7,211 fel pecynnau atwrneiaeth arhosol
£73,446

Gwastraff

Mae gennym gontractau gwaredu gwastraff ‘dim i safleoedd tirlenwi’ ar gyfer ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham. Cafodd ein holl wastraff yn ystod 2022 i 2023 ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio drwy ei droi’n olew tanwydd ac ailgylchwyd 100% o’n gwastraff papur a chardfwrdd mewn dolen gaeedig, sy’n golygu bod ein cyflenwyr wedi ei ailbrosesu’n gynnyrch newydd o bapur.

Yn 2022 i 2023, bu cynnydd o 36% yn y gwastraff cyffredinol a gynhyrchwyd yn y ddwy swyddfa o’i gymharu â 2021 i 2022. Fodd bynnag, o gymharu â llinell sylfaen 2017 i 2018, er bod cynnydd o 50% yn nifer y staff, mae gwastraff swyddfa ond wedi codi 3%, i 78.3 tunnell (40 tunnell heb gynnwys gwastraff papur). Mae hyn yn ostyngiad sylweddol yn y gwastraff a gynhyrchir fesul person.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Nottingham wedi gwahanu ffrydiau gwastraff yn llawn i wydr, cerdyn a phapur, ailgylchu cymysg sych, a bwyd a deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu. Mae ein swyddfa yn Birmingham wedi dechrau’r broses o sefydlu contractau a chasgliadau ar gyfer gwastraff sydd wedi cael ei wahanu.

Gall ymgeiswyr ofyn am becyn atwrneiaeth arhosol gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’r rhain yn cael eu hanfon mewn bagiau post bioddiraddadwy wedi’u gwneud o wastraff câns siwgr i leihau’r defnydd o betrocemegion ac atal gwastraff nad yw’n pydru rhag mynd i safleoedd tirlenwi.

Dŵr

Pennwyd y targedau blaenorol ar gyfer defnyddio dŵr ar sail ‘cyfwerth ag amser llawn’. Mae’r targedau newydd ar gyfer gostyngiad absoliwt. Ers blwyddyn llinell sylfaen 2017-018, mae defnydd dŵr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi gostwng 41% i 4,529 metr ciwbig. Bydd rhywfaint o’r gostyngiad hwn yn sgil staff yn gweithio gartref sy’n anodd rhoi cyfrif amdano. Os bydd nifer y bobl sy’n defnyddio swyddfeydd yn aros ar lefelau tebyg yn y dyfodol, gellir gwneud cymariaethau ystyrlon mewn adroddiadau blynyddol yn y dyfodol.

Defnyddio papur

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi methu’r targed o ostwng y defnydd o bapur swyddfa gefn o 50%, oherwydd y twf yn y galw am ein gwasanaethau. Bu cynnydd o 42% yn y defnydd o bapur o’i gymharu â llinell sylfaen 2017 i 2018. Roedd cynnydd o 28% yn y defnydd o bapur o’i gymharu â 2021 i 2022 a bu cynnydd o 15% yn y papur a ddefnyddiwyd fesul achos, a’n huchelgais yw lleihau hyn.

Wrth i’r nifer sy’n defnyddio ein gwasanaeth ar-lein gynyddu, mae nifer y pecynnau atwrneiaeth arhosol papur sy’n cael eu hanfon at ymgeiswyr wedi parhau i ostwng, gyda gostyngiad o 10% ers 2021 i 2022.

Bydd y gallu i ddigideiddio ein prosesau yn helpu i sbarduno gostyngiad sylweddol yn nefnydd yr asiantaeth o bapur.

Teithio

Cynyddodd cyfanswm y pellter a deithiwyd ychydig eleni mewn termau absoliwt, wrth i ni barhau i wneud defnydd helaeth o gyfarfodydd rhithwir.

Mae cyfanswm y pellter a deithiwyd, 193,495km ac allyriadau CO2 cysylltiedig yn 17% o’r lefelau yn 2019 i 2020. Mae ymgyrchoedd recriwtio bellach yn cael eu cynnal yn genedlaethol yn ddiofyn ar gyfer swyddi addas, sy’n golygu bod rhai staff wedi’u lleoli mewn lleoliadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wahân i Birmingham a Nottingham, gyda phellteroedd teithio hirach nag aelodau eraill o staff pan fyddant yn dod i’r swyddfeydd hyn. Gallai hyn effeithio ar gyfanswm y pellter a deithir yn y blynyddoedd i ddod.

Er bod ymwelwyr â’r Llys Gwarchod wedi cynyddu eu hymweliadau wyneb yn wyneb, maent yn parhau i ddefnyddio ‘ymweliadau rhithwir’ ac er bod cynnydd o 1005 yn eu teithiau o’i gymharu â 2021 i 2022, mae’n dal i fod yn 25% o’r pellter a deithiwyd yn 2019 i 2020.

Rydym yn gweithio’n agos gyda chynghorau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth i alluogi staff i fanteisio ar docynnau bws am bris is yn ogystal â chyfleusterau parcio a theithio. Mae’r cynllun beicio i’r gwaith yn cael ei hyrwyddo’n helaeth ac mae cyfleusterau newid a storfa ddiogel i feiciau’n cael eu darparu. Mae opsiynau teithio llesol hefyd yn cael eu hyrwyddo fel rhan o agenda lles Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus er mwyn annog ymarfer corff a ffyrdd iach o fyw.

Cyfleustodau eraill

Er gwaethaf cynnydd cyffredinol yn nifer y staff sy’n gweithio yn y swyddfa, gostyngodd y defnydd o drydan yn 2022 i 2023, o’i gymharu â 2021 i 2022. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y symud i adeilad llawer mwy modern ac effeithlon yn Birmingham sydd ag ôl troed llai. Yn erbyn y flwyddyn llinell sylfaen 2017 i 2018, mae allyriadau trydan wedi gostwng o 35%. Fodd bynnag, bu cynnydd o 265% yn y defnydd o nwy ar gyfer gwresogi yn Birmingham o’i gymharu â 2017 i 2018. Y rheswm am hyn oedd ein bod wedi recriwtio staff ychwanegol i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o geisiadau am atwrniaethau arhosol, ac mae staff hefyd yn gweithio goramser ac ar draws nifer o batrymau shifft. Felly, mae nwy ar gyfer gwresogi a dŵr poeth yn ein swyddfa yn Birmingham yn cael ei redeg am oriau llawer hirach ac yn cael ei ddefnyddio gan fwy o staff. Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr cyffredinol o gyfleustodau yn unig wedi gostwng o 3% o’i gymharu â 2017 i 2018.

Cwblhawyd y gwaith o osod paneli solar yn ein swyddfa yn Nottingham ddechrau 2022, ac fe wnaethant gynhyrchu 60,310kWhr yn ystod 2022 i 2023. Roedd hyn yn 14% o ddefnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o drydan yn Nottingham (8% o gyfanswm y Swyddfa), gan arbed 10.6 tunnell o allyriadau CO2. Nid yw to ein swyddfa yn Birmingham yn addas ar gyfer gosod paneli solar.

Gwreiddio cynaliadwyedd yn ein dyfodol

Mae llawer o’r gwersi a ddysgwyd a’r ffyrdd newydd o weithio yn sgil pandemig COVID-19 wedi cael eu cynnal yn ein gweithrediadau. Er enghraifft, mae teithio rhwng safleoedd yn dal i leihau, ac yn cael ei ddisodli gan fideo-gynadledda a mathau eraill o gyfarfodydd rhithwir.

Yn ystod y flwyddyn nesaf, rydym yn disgwyl cynnal digwyddiadau eto ar gyfer Diwrnod y Ddaear, trefnu sesiwn Doctor Beiciau i annog teithio llesol, a chynnal BioBlitz arall yn edrych ar natur lleol.

Amy Holmes
Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus
6 Gorffennaf 2023

Adroddiad atebolrwydd

Adroddiad llywodraethu corfforaethol

Cyflwyniad

Diben yr adroddiad llywodraethu corfforaethol yw egluro cyfansoddiad a threfniadaeth ein strwythurau llywodraethu a sut maent yn helpu i gyflawni amcanion ein corff.

Mae ein dogfen fframwaith yn nodi’r trefniadau ar gyfer llywodraethu, atebolrwydd, cyllido, staffio a gweithrediadau. Gellir darllen y ddogfen yn llawn ar GOV.UK.

Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n gyfrifol am ddefnydd y Swyddfa o adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau fel yr amlinellir yn y ddogfen fframwaith. Mae Rheoli Arian Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Drysorlys ei Fawrhydi, hefyd yn cyflwyno cyfrifoldebau swyddog cyfrifyddu.

Rwy’n gyfrifol yn bersonol am: amddiffyn y cronfeydd cyhoeddus yr wyf yn gyfrifol amdanynt, sicrhau priodoldeb a chysondeb wrth ymdrin â chronfeydd cyhoeddus, a gweithrediadau a rheolaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ddydd i ddydd. Ar ben hynny, mae’n rhaid i mi sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyffredinol yn cael ei rhedeg yn unol â safonau, a hynny mewn perthynas â llywodraethu, gwneud penderfyniadau a rheoli arian.

Mae fy adroddiad yn amlinellu’r trefniadau llywodraethu sydd ar waith i reoli’r risgiau o beidio â chyflawni’r amcanion a’r targedau y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cytuno arnynt. Mae hefyd yn darparu trosolwg a rheolaeth effeithiol dros adnoddau ac asedau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’n cynnwys y canlynol:

  • adroddiad y cyfarwyddwr
  • datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu
  • datganiad llywodraethu

Adroddiad y Cyfarwyddwr

Cyflwyniad

Mae strwythurau bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, y pwyllgor archwilio a risg, a’r tîm gweithredol, ar gael isod. Maent yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ogystal â monitro perfformiad yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt.

Datganiad o fuddiannau

Mae gofyn i aelodau anweithredol ddatgan unrhyw gyfarwyddiaethau a gwrthdaro rhwng buddiannau adeg eu penodi i’r swydd. Mae gofyn hefyd i bob aelod o’r bwrdd ddatgan unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau cyn dechrau pob cyfarfod. Roedd dau ddatganiad o fuddiant rhwng 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023.

Jackie Craissati: gwnaeth ddatganiad ym mhwyllgor archwilio a sicrwydd risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ar 25 Ionawr 2023, ei bod wedi cael ei phenodi’n gadeirydd cenedlaethol Crohn’s and Colitis UK.

Martyn Burke: gwnaeth ddatganiad yng nghyfarfod bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 7 Mawrth 2023 bod ei rôl ym maes Tai Trefol a Gwledig wedi newid i fod yn ddarpar-gadeirydd, ac y byddai’n cael ei benodi’n ffurfiol yn gadeirydd y bwrdd o fis Medi 2023 ymlaen. Byddai’r rôl hefyd yn ei benodi’n ffurfiol yn gyfarwyddwr anweithredol ar fwrdd grŵp sy’n berchen ar Town and Country Housing – cymdeithas dai Peabody Trust – dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Bob Kerslake, arglwydd am oes yn Nhŷ’r Arglwyddi a chyn-bennaeth y Gwasanaeth Sifil.

Digwyddiadau yn ymwneud â data personol

Ystyriwyd a oedd unrhyw ddigwyddiad yn cynnwys data personol mor ddifrifol fel bod angen rhoi gwybod i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth amdano. Ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau o’r fath. Mae’r datganiad llywodraethu yn rhoi ystyriaeth bellach i arferion sicrhau gwybodaeth a diogelwch data yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Iechyd a diogelwch

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ei chyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles ei gweithwyr a’r holl bobl sy’n defnyddio ei safleoedd.

Aelodaeth y bwrdd

Rhai o aelodau bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2022 i 2023 oedd:

Gwarcheidwad Cyhoeddus (cadeirydd)

Amy Holmes – o fis Medi 2022 ymlaen

Uwch weision sifil Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

  • Julie Lindsay – Dirprwy Gyfarwyddwr (Gweithrediadau) a Phrif Swyddog Gweithredu
  • Stuart Howard – Dirprwy Gyfarwyddwr (Cyfreithiol a Sicrwydd Gwybodaeth)
  • Ruth Duffin – Dirprwy Gyfarwyddwr (Strategaeth a Gwasanaethau Canolog)

Cyfarwyddwyr anweithredol

  • Alison Sansome
  • Karin Woodley
  • Martyn Burke

Cynrychiolwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Abigail Plenty/Laura Beaumount (rhannu swydd)

Cynrychiolydd cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder

  • Georgia Bottomley (tan fis Mai 2022)
  • Ann Owen (o fis Gorffennaf 2022 ymlaen)

Datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu

O dan adran (7)2 Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000, mae Trysorlys EF wedi cyfarwyddo Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i baratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf a’r sail a nodwyd yn y Cyfarwyddyd Cyfrifyddu. Caiff y cyfrifon eu paratoi ar sail croniadau ac mae’n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Swyddfa a’i hincwm a’i gwariant, ei datganiad o sefyllfa ariannol a llif arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi’r cyfrifon, mae gofyn i’r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth ac yn benodol:

  • glynu wrth y Cyfarwyddyd Cyfrifyddu a gyhoeddir gan Drysorlys EF, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu priodol yn gyson
  • gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
  • datgan a yw’r safonau cyfrifyddu perthnasol sydd wedi’u nodi yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth wedi cael eu dilyn, a datgelu ac esbonio unrhyw wyriadau o bwys yn y datganiadau ariannol
  • paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes byw
  • cadarnhau bod yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol dros yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon a’r dyfarniadau sy’n ofynnol er mwyn penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Mae Prif Swyddog Cyfrifyddu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dynodi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel Swyddog Cyfrifyddu’r Swyddfa. Mae cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros briodoldeb a chysondeb y cyllid cyhoeddus y mae’r swyddog cyfrifyddu yn atebol amdanynt, cadw cofnodion cywir ac amddiffyn asedau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, wedi’u nodi yn Rheoli Arian Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Fel y Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n cadarnhau’r canlynol:

  • nid oes unrhyw wybodaeth berthnasol nad yw archwilwyr y Swyddfa’n ymwybodol ohoni, ac rwyf wedi cymryd yr holl gamau y dylwn eu cymryd i sicrhau fy mod yn ymwybodol o wybodaeth archwilio berthnasol a sicrhau bod archwilwyr y Swyddfa’n ymwybodol o’r wybodaeth honno
  • mae’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, ac rwy’n cymryd cyfrifoldeb personol dros yr adroddiad a’r cyfrifon blynyddol a’r dyfarniadau sy’n ofynnol er mwyn penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Amy Holmes
Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus
6 Gorffennaf 2023

Datganiad llywodraethu

Mae’r datganiad hwn yn esbonio sut rwyf i, Amy Holmes, fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, wedi cyflawni fy nghyfrifoldeb o reoli adnoddau’r Swyddfa yn ystod y flwyddyn. Cyn 26 Medi 2022, Stuart Howard oedd y Gwarcheidwad Cyhoeddus a Swyddog Cyfrifyddu. Cymerais yr awenau gan Stuart Howard fel Gwarcheidwad Cyhoeddus a Swyddog Cyfrifyddu o 26 Medi 2022 ymlaen.

Mae Stuart Howard wedi rhoi sicrwydd i mi, bod ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfrifyddu wedi cael eu cyflawni’n briodol yn ystod 2022, ac mae trefniadau llywodraethu wedi bod ar waith drwy gydol y cyfnod fel y disgrifir isod. Mae’r datganiad hwn yn disgrifio trefniadau llywodraethu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac yn cyflwyno asesiad o’r modd rwyf i a Stuart Howard wedi mynd ati i gydbwyso risg, sicrwydd a rheolaeth drwy gydol 2022 i 2023.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflawni fy nghyfrifoldeb i ddarparu adroddiad blynyddol i’r Arglwydd Ganghellor am gyflawni swyddogaethau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn unol ag adran 60 Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Cyflwyniad

Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw Prif Swyddog Cyfrifyddu’r adran.

Mae cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu wedi’u nodi ym mhennod tri Rheoli Arian Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu wedi fy nynodi fel Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer gwariant gweinyddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ac mae wedi diffinio fy nghyfrifoldebau a’r berthynas rhwng Swyddog Cyfrifyddu a Phrif Swyddog Cyfrifyddu’r Swyddfa.

Deilydd swydd statudol yw’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor o dan Adran 57 Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Cyfunir y swydd statudol hon â swydd y swyddog cyfrifyddu, ac fel arfer gyda rôl weinyddol y prif swyddog gweithredol. Fodd bynnag, rhannwyd swydd y prif weithredwr rhwng tîm arwain y dirprwy gyfarwyddwr o fis Mawrth 2022, nes penodi Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr parhaol o 26 Medi 2022 ymlaen. Nodir hyn yn nogfen fframwaith y Weinyddiaeth Gyfiawnder/Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i sicrhau bod y prosesau a’r rheolaethau ar gyfer gweithgareddau pob maes busnes yn gadarn ac yn effeithiol ac y gellir dangos tystiolaeth ohonynt. Yn benodol, mae wedi monitro materion ariannol a risg a pherfformiad yr asiantaeth yn rheolaidd, gan roi cyfleoedd ar waith i wella gwasanaeth i gwsmeriaid. Gall aelodaeth y bwrdd ddarparu sicrwydd ar gyfer y cyfnod hwn hefyd. Nid oes unrhyw un wedi gadel y bwrdd, ac mae ein fframwaith llywodraethu yn ystyried y cod ymarfer o’r enw ‘Llywodraethu corfforaethol yn adrannau llywodraeth ganolog: cod ymarfer da’.

Fframwaith llywodraethu

Mae effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu, rheoli risg a system rheolaeth fewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u nodi yn y datganiad llywodraethu hwn. Adolygwyd y fframwaith llywodraethu hwn yn ystod y flwyddyn yn erbyn y codau perthnasol, fel ‘Llywodraethu corfforaethol yn adrannau llywodraeth ganolog: cod arferion gorau’, i sicrhau ei fod yn addas i’r diben.

Mae’r datganiad yn cynnwys yr asesiad gofynnol o gydymffurfiad â chod llywodraethu corfforaethol Trysorlys Ei Fawrhydi. Er bod y cod yn canolbwyntio ar adrannau gweinidogol, pan fo’n berthnasol, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio’r egwyddorion maent yn ystyried sy’n gymesur â’i maint, ei statws a’i fframwaith cyfreithiol.

Fframwaith llywodraethu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Dangosir strwythurau’r bwrdd a’r pwyllgorau ar hyn o bryd isod:

Fframwaith llywodraethu Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi bod yn adolygu ei threfniadau llywodraethu yn ystod y flwyddyn ac o ganlyniad bydd rhai newidiadau i’r strwythur uchod yn ystod y flwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Mae Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn: Darparu arweiniad a chyfeiriad strategol, gan gefnogi’r gwaith o gyflawni’r amcanion sydd yn y cynllun busnes.

Pwyllgor Gweithredol: Yn atebol i’r Prif Weithredwr. Sicrhau rheolaeth effeithiol o gyllid, perfformiad, risg, y gweithlu, Adnoddau Dynol, cwynion, cyflenwi busnes, arweinyddiaeth a dathlu llwyddiant.

Pwyllgor archwilio a sicrwydd risg: Yn rhoi barn annibynnol i’r Prif Weithredwr o ddulliau llywodraethu, rheoli risg a sicrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Bwrdd portffolio a newid: Yn adrodd i’r pwyllgor gweithredol a’r bwrdd. Yn gyfrifol am fonitro cynnydd rhaglen trawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025 a phrosiectau o fewn ei chylch gwaith, gan adolygu, datrys a/neu uwchgyfeirio risgiau a materion a allai beryglu cyflawni a gwireddu buddion yn amserol.

Pwyllgor iechyd a diogelwch: Yn cynorthwyo’r Prif Weithredwr â’i chyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lle diogel ac iach i weithio ynddo.

Pwyllgor polisi, ymarfer a chanllawiau: Darparu fforwm gwneud penderfyniadau wedi’i chydlynu ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn perthynas â pholisi, ymarfer a chanllawiau yn y Swyddfa o fewn y lefelau gwneud penderfyniadau y cytunwyd arnynt gan y pwyllgor gweithredol.

Pwyllgor pobl: Yn gyfrifol am gydlynu’r gweithgareddau sy’n ymwneud â phobl i gefnogi rhaglen a phrosiectau trawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025.

Yr hyn mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei wneud

Yn 2022 i 2023, roedd y bwrdd yn arwain Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn strategol ac yn weithredol. Roedd hefyd yn herio ac yn craffu ar faterion a oedd yn effeithio ar ein perfformiad a’n polisïau. Mae gan y bwrdd saith prif faes cyfrifoldeb, gan gynnwys:

  • darparu cyfeiriad strategol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, cytuno ar nodau busnes, amcanion a chynllunio, gan bennu targedau ar gyfer y sefydliad a gwireddu’r weledigaeth
  • monitro perfformiad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, cyfathrebu â staff ynghylch gwerthoedd ac ymddygiad gan oruchwylio gweithrediadau a rheoli risg
  • cymeradwyo dyraniad y gyllideb flynyddol ac unrhyw newidiadau sylweddol iddi yn ystod y flwyddyn
  • cefnogi’r broses o gynnal perthynas waith gadarn rhwng staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r sefydliadau partner
  • cymeradwyo fframwaith llywodraethu corfforaethol a rheolaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a monitro sut maent yn gweithredu bob chwarter
  • sicrhau bod gwaith cynllunio, perfformiad a rheolaeth ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei wneud yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn agored a thryloyw, a chyfrannu at ddatblygu a chymeradwyo cynllun busnes blynyddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • goruchwylio’r ffordd y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyflawni dyletswyddau statudol gan gynnwys iechyd a diogelwch, a chydraddoldeb ac amrywiaeth

Prif lwyddiannau ac effeithiolrwydd

Yn ogystal â derbyn papurau am gyllid, perfformiad a risg ym mhob cyfarfod, roedd y bwrdd yn gwneud y canlynol:

  • adolygu gwybodaeth ariannol, perfformiad a risg yn rheolaidd ac yn gallu gofyn am wybodaeth ychwanegol os oes angen
  • adolygu a phennu ei archwaeth risg strategol, ei oddefgarwch a defnyddio’r rhain yn y fframwaith rheoli risg
  • parhau i ddarparu cyfeiriad strategol ar gyfer prif gynlluniau newid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i sicrhau dealltwriaeth glir o’r prif flaenoriaethau ar gyfer cyflawni ledled yr asiantaeth
  • darparu’r penderfyniadau strategol angenrheidiol i sicrhau bod cyllid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn aros o fewn y gyllideb
  • darparu cyfeiriad strategol ar gyfer y mesurau a roddwyd ar waith i glirio’r ôl-groniad o gofrestriadau atwrneiaeth arhosol a herio’r asiantaeth i feddwl am yr holl gamau y gellid eu cymryd i wella perfformiad
  • adolygu a chytuno ar y newidiadau i fframwaith llywodraethu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer gweithredu o fis Ebrill 2023 ymlaen

Ein his-bwyllgorau a’r pwyllgor cynghori annibynnol

Mae gan y bwrdd ddau is-bwyllgor: y pwyllgor gweithredol a’r pwyllgor portffolio a newid. Mae’r pwyllgor archwilio a risg yn bwyllgor cynghori annibynnol i’r bwrdd.

Y pwyllgor gweithredol

Mae’r pwyllgor hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflawni busnes gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ddydd i ddydd, gan gynnwys cyllid, perfformiad, risg, gweithlu, newid a chynllunio, cwynion, Adnoddau Dynol (rheoli presenoldeb a recriwtio), cyflenwi busnes, arweinyddiaeth, ymgysylltu â gweithwyr a dathlu llwyddiant.

Cadeirydd

  • Cyn 26 Medi 2022: Stuart Howard, Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • O 26 Medi 2022 ymlaen: Amy Holmes, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr

Materion allweddol a ystyriwyd gan y pwyllgor gweithredol yn ystod 2022 i 2023

  • Canolbwyntio ar berfformiad a chlirio’r ôl-groniad o atwrniaethau arhosol a oedd angen eu cofrestru.
  • Adolygu’r cerdyn sgorio cytbwys a’r dangosyddion perfformiad allweddol drwy gydol y flwyddyn.
  • Canolbwyntio ar gyllid i sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dod mor agos â phosibl at adennill ei chostau’n llawn o’r ffioedd a gymerwyd. Mae’r sefyllfa diwedd blwyddyn yn dangos bod 97.8% o gostau wedi cael eu hadennill yn 2022 i 2023, gwelliant sylweddol o ganran o 88.7% yn 2021 i 2022.
  • Grymuso is-bwyllgorau i wneud yr holl benderfyniadau perthnasol ac adolygu eu cylch gorchwyl a’u haelodaeth gyda newidiadau i’w rhoi ar waith ym mis Ebrill 2023.

Bwrdd portffolio a newid

Yn adrodd i’r pwyllgor gweithredol a’r bwrdd. Yn gyfrifol am oruchwylio prosiectau’n strategol a newid ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’r bwrdd portffolio a newid yn rhoi cymeradwyaeth i sefydlu prosiectau ac adolygiadau, yn datrys a/neu’n uwchgyfeirio risgiau a materion a allai beryglu amser, costau, ansawdd neu wireddu buddion prosiectau yn y portffolio.

Cadeirydd

Ruth Duffin, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Gwasanaethau Canolog.

Materion allweddol a ystyriwyd gan y bwrdd portffolio a newid yn ystod 2022 i 2023

  • Adolygu portffolio trawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan ychwanegu ‘strategaeth data’ newydd a chau ‘rheoli dogfennau’ a ‘symud i safle newydd yn Birmingham’.
  • Arwain gwaith ar ddylunio sefydliadol yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • Adrodd yn gyffredinol ar bortffolio trawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan gynnwys prosiectau allweddol fel rhoi cynllun Moderneiddio Atwrniaethau Arhosol ar waith.
  • Sicrhau ffocws ar sbarduno gwelliannau i’n gwasanaeth i gwsmeriaid ar draws yr asiantaeth.
  • Cynhaliodd Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth archwiliad o’r portffolio a darparodd argymhellion.

Y pwyllgor archwilio a sicrwydd risg

Mae’r pwyllgor yn cefnogi Swyddog Cyfrifyddu a bwrdd y Swyddfa yn eu cyfrifoldeb dros reoli risg, yn rhoi cyngor ar sut gellir hwyluso gwelliannau, ac yn pennu’r cynnydd a wneir ar ymatebion rheolwyr i unrhyw risgiau a nodir. Mae’n cymeradwyo gwaith yr archwiliadau mewnol ac allanol.

Rhaid i’r pwyllgor gytuno ar bolisïau cyfrifyddu cywir a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n briodol mewn perthynas â thrafodion y sefydliad. Mae’n darparu argymhellion i’r Swyddog Cyfrifyddu ar bob mater y mae’r pwyllgor yn ei ystyried yn angenrheidiol.

Cadeirydd

Martyn Burke, Cyfarwyddwr Anweithredol.

Materion allweddol a ystyriwyd gan y pwyllgor archwilio a sicrwydd risg yn ystod 2022 i 2023

  • Parhau i ddarparu sicrwydd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ran rheoli’r fframwaith risg cyfan, risgiau unigol penodol a’u camau lliniaru canlyniadol.
  • Gweithio gyda’r pwyllgor gweithredol a bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i sicrhau adolygiad trylwyr o’r archwaeth risg.
  • Adolygu strategaeth a pholisïau gwrth-dwyll.
  • Cymeradwyo adroddiad blynyddol a chyfrifon Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2022 i 2023.
  • Edrych yn fanwl ar feysydd perthnasol gan gynnwys trefniadau iechyd a diogelwch yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a disgyblaethau rheoli dyledion.

Cylch gorchwyl

Mae cylch gorchwyl bwrdd a phwyllgorau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unol â Chanllawiau ar effeithiolrwydd byrddau’r Cyngor Adrodd Ariannol (Mawrth 2011) a ‘Safon llywodraethu da ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus’, a gyhoeddwyd gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth a’r Swyddfa Rheolaeth Gyhoeddus Cyf, i sicrhau bod y trefniadau llywodraethu yn cael eu hadlewyrchu yn y cylch gorchwyl.

Rydym wedi adolygu fframwaith llywodraethu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer ei roi ar waith yn y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd yr un pwyllgorau ac is-bwyllgorau yn parhau ond bydd newidiadau i’w haelodau, amlder eu cyfarfodydd a’r cadeiryddion. Dechreuom hefyd ar y gwaith o adolygu’r cytundeb fframwaith rhwng y Swyddfa a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Archwilio mewnol

Un o swyddi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw sefydlu a chynnal trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau archwilio mewnol gan Asiantaeth Archwilydd Mewnol y Llywodraeth yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’r rhain yn cyd-fynd â’r amcanion a’r safonau ar gyfer archwilio mewnol a nodir yn ‘Safonau archwilio mewnol y sector cyhoeddus’ Trysorlys EF. Mae hyn yn golygu bod modd gwerthuso perfformiad rheoli o ran cyflawni trefniadau effeithiol ar gyfer llywodraethu, rheoli risg a rheolaethau mewnol mewn ffordd annibynnol a gwrthrychol.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn derbyn copïau o gynlluniau archwilio mewnol blynyddol ac adroddiad blynyddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gennyf i. Bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa’r Cabinet yn cael gwybod am unrhyw dwyll neu afreoleidd-dra o fewn y diffiniad a nodir gan Drysorlys EF.

Cynhaliodd Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth chwech archwiliad ar ran Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2022 i 2023. Roedd canlyniadau’r aseiniadau archwilio mewnol a gwblhawyd wedi cael un o dri sgôr sef sylweddol, cymedrol neu cyfyngedig.

Archwiliad

  • Perfformiad y CMS* (cam 1) - Sgôr sef sylweddol
  • Moderneiddio Atwrniaethau Arhosol - Sgôr sef Cymedrol
  • Perfformiad y CMS* (cam 2) - Sgôr sef Sylweddol
  • Seiberddiogelwch - Sgôr sef Cymedrol
  • Llywodraethu Corfforaethol - Sgôr sef Cymedrol
  • Change portfolio - Sgôr sef Cyfyngedig

*CMS = system rheoli achosion

Presenoldeb ar fwrdd a phwyllgorau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fis Ebrill 2022 tan fis Mawrth 2023

    Bwrdd OPG   Pwyllgor
gweithredol
  Pwyllgor archwilio
a sicrwydd risg
  Portffolio
a bwrdd newid
  Nifer y
cyfarfodydd
a fynychwyd
Nifer y
cyfarfodydd
cymwys
Nifer y
cyfarfodydd
a fynychwyd
Nifer y
cyfarfodydd
cymwys
Nifer y
cyfarfodydd
a fynychwyd
Nifer y
cyfarfodydd
cymwys
Nifer y
cyfarfodydd
a fynychwyd
Nifer y
cyfarfodydd
cymwys
Amy Holmes – Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (o fis Medi 2022) 2 3 7 7 2 2 4 5
Stuart Howard - Gwarcheidwad Cyhoeddus (hyd at fis Awst 2022) a Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfreithiol a Sicrhau Gwybodaeth 6 6 9 11 4 4 9 10
Julie Lindsay – Dirprwy Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredu 6 6 11 11     10 10
Ruth Duffin – Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog (Ionawr 2022) 6 6 9 11 3 4 9 10
Georgia Bottomley – Dirprwy Gyfarwyddwr Partneriaethau Busnes Cyllid 1 1     1 1 1 2
Ann Owen – Dirprwy Gyfarwyddwr Partneriaethau Busnes Cyllid 4 5     3 3 3 3
Abigail Plenty - Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Bregusrwydd, y Weinyddiaeth Gyfiawnder 5 6            
Louisa Harrison – Uwch Bartner Busnes Cyllid     7 11     3 3
Alison Sansome - Aelod Anweithredol o’r Bwrdd 6 6         10 10
Karin Woodley - Aelod Anweithredol o’r Bwrdd 5 6     4 4    
Martyn Burke - Aelod Anweithredol o’r Bwrdd 6 6     4 4    
Jackie Craissati - Aelod Annibynnol         3 4    
Gulsen Gray – Pennaeth Cynllunio, Datblygu Busnes a Data             8 10
Jane Tiffany – Dirprwy Gyfarwyddwr Masnachol             8 10
Su Morgan – Pennaeth Digidol a Thechnoleg             9 10
Gayle Douglas – Pennaeth Cyfathrebu             7 7

Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2022 i 2023 mae’r pennaeth archwilio mewnol wedi rhoi barn flynyddol gymedrol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg.

Diffinnir barn gymedrol fel ‘mae angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg’.

Canfuwyd bod gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fframwaith rheoli da ar waith. Roedd y farn gymedrol a sylweddol gan mwyaf yn adlewyrchu hyn. Er mwyn gwella, mae angen i ni gryfhau strwythurau sicrwydd, llywodraethu a rheolaeth mewn rhai meysydd penodol. Roedd gwendidau wrth gynnal polisïau a chanllawiau cyfredol, ynghyd â sicrhau bod gweithgareddau sicrhau ac adrodd yn cael eu trefnu, yn ganfyddiadau cymharol gyffredin ac yn feysydd ffocws ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Rheoli risg, rheolaeth a sicrwydd

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynnal dull cyson o ran rheoli risg. Defnyddir dulliau rheoli risg i dynnu ein sylw at fygythiadau go iawn neu faterion sy’n dod i’r amlwg ac sy’n debygol o effeithio ar y gallu i gyflawni ein hamcanion.

Mae parodrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i dderbyn risg yn cael ei lunio gan ddyletswyddau statudol y Gwarcheidwad Cyhoeddus i sicrhau y rhoddir llais i’r rheini rydym yn gweithio gyda nhw. Rhoddir manylion y prif risgiau a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn isod

Risg allweddol

Yn ystod 2022 i 2023, gwnaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus lawer iawn o waith mewn perthynas â rheoli risg i sicrhau bod y gofrestr risg gorfforaethol lefel uchel yn adlewyrchu ac yn rheoli risgiau allweddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn ffordd sy’n caniatáu i ni fwrw ymlaen â’n strategaeth. Mae rheoli risg a risg wedi bod yn rhan allweddol o’r pwyllgor archwilio a sicrwydd risg yn ystod y flwyddyn, gan helpu i wella a mireinio’r ffordd y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cofnodi ei risgiau.

O ganlyniad, mae risgiau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi newid wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, ond dyma rai o’r prif risgiau sydd wedi cael eu rheoli

Methiant i ddarparu’r lefel o wasanaeth disgwyliedig i gwsmeriaid a phartneriaid sy’n defnyddio gwasanaethau/cynnyrch y Swyddfa.

Prif effeithiau:

Gwasanaeth gwael i gwsmeriaid.

Mwy o alwadau i’r ganolfan gyswllt.

Mwy o gwynion.

Effaith niweidiol ar enw da Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Lliniaru risgiau:

Rhoi cynllun adfer ar waith.

Recriwtio staff ychwanegol i glirio’r ôl-groniadau.

Canolbwyntio ar well gwasanaeth i gwsmeriaid.

Effaith y mesurau lliniaru:
O ran y dadansoddiad misol o’r amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd, roedd gostyngiad o’r penllanw o 102 diwrnod gwaith (Hydref 2022) i 87 diwrnod gwaith (Mawrth 2023).

Lleihad yn yr ôl-groniad o benllanw o 23,500 (Awst 2022) i 223,000 (Mawrth 2023).

Rheolaeth annigonol o’r ystad bresennol a strategaeth ystadau’r dyfodol i gyflawni busnes Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Prif effeithiau:
Anallu i ddarparu amgylchedd gwaith ddiogel a chynhyrchiol.

Costau heb eu cyllidebu yn deillio o newidiadau i ofynion adeiladau ac atgyweirio ystadau.

Nid yw’r gofod desgiau a gweithio yn ddigonol ar gyfer staff sydd angen mynediad i swyddfeydd, gan arwain at arferion gweithio aneffeithlon.

Lliniaru risgiau:
Gweithio gyda’r landlord ac Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth i fynd i’r afael yn gyflym ag unrhyw broblemau gydag ystad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cynllunio gofod i wneud defnydd effeithiol o’r gofod sydd ar gael.

Datblygu strategaeth ystadau i nodi anghenion ystadau yn y dyfodol, gan gynnwys effaith prosiectau trawsnewidiol, a gweithio’n agos â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Effaith y mesurau lliniaru:
Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus weithle sy’n caniatáu iddi wneud ei gwaith mewn amgylchedd diogel.

Mae strategaeth ystadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer y dyfodol yn ystyried lefel y newid a’r trawsnewid a fydd yn digwydd yn ystod y 2 i 3 blynedd nesaf.

Methiant i adennill costau yn ystod y flwyddyn a chynaliadwyedd ariannol

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y dyfodol.

Prif effeithiau:
Anallu i ddelio ag amrywiadau tymhorol yn y galw am wasanaethau’r Swyddfa.

Rhagolygon rhy optimistaidd (gwario mwy na’r gwirionedd).

Gorwario/ adennill annigonol.

Llai o incwm.

Diffyg ystyriaeth i’r darlun ehangach (effaith ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder).

Diffyg gweithredu i wireddu cyfleoedd.

Lliniaru risgiau:
Mae angen achosion busnes cyn hysbysebu swyddi gwag neu ymgymryd â gwariant dewisol arall.

Adolygiad chwarterol o ragolygon incwm, cyfarfodydd cyllid misol, a chyfarfodydd herio chwarterol ar gyfer dirprwy gyfarwyddwyr ar eu cyllidebau a’u gwariant.

Cytunwyd ar gyllideb ar gyfer yr adnodd sydd ei hangen arnom.

Mynd ati’n rheolaidd i edrych yn fanwl ar wybodaeth ariannol.

Llunio cofrestr o risgiau a chyfleoedd ar gyfer ein sefyllfa ariannol.

Effaith y mesurau lliniaru:
Galluogodd y mesurau lliniaru hyn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i reoli ei chyllid ar adeg pan oedd clirio ôl-groniadau a chynnydd mewn gwaith a oedd yn dod i mewn yn ei gwneud yn anoddach na’r arfer i wneud rhagolygon.

Yn dilyn hynny, llwyddwyd i adennill 97.8% o gostau yn 2022 i 2023, gwelliant sylweddol ar y ganran o 88.7% yn 2021 i 2022.

Colli hyder ym mrand Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan arwain at ddifrodi enw da.

Prif effeithiau:
Colli hyder y cyhoedd/cwsmeriaid/rhanddeiliaid yng ngwasanaethau’r Swyddfa.

Mwy o gwynion gan gwsmeriaid a thraffig i’n canolfan gyswllt.

Derbyn llai o geisiadau am atwrniaethau arhosol, gan arwain at golli incwm a methiant gan y Swyddfa i adennill costau’n llawn.

Efallai y bydd angen i’r Swyddfa ofyn am gymorth ariannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Posibilrwydd o her gyfreithiol i adennill colledion twyll cwsmeriaid y Swyddfa.

Effaith andwyol ar forâl staff.

Lliniaru risgiau:
Dadansoddi tueddiadau adborth cwsmeriaid er mwyn gwella gwasanaeth i gwsmeriaid a sbarduno gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd i wella gwasanaeth i gwsmeriaid.

Ymgysylltu’n rhagweithiol â grwpiau partneriaid a rhanddeiliaid.

Sefydlu tîm strategol i ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod y Swyddfa’n gweithio’n agos gyda’i rhanddeiliaid.

Mae cynlluniau adfer ar waith ar gyfer ôl-groniadau o gwynion.

Effaith y mesurau lliniaru:
Mae’r mesurau lliniaru wedi caniatáu i’r Swyddfa geisio gwella’r gwasanaeth i gwsmeriaid ar yr un pryd â chlirio’r ôl-groniadau o geisiadau cofrestru atwrniaethau arhosol.

Mae cyfathrebu clir â chwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill wedi sicrhau eu bod yn gwybod yn iawn beth yw’r amserlenni presennol.

Cynnydd yn y galw am wasanaethau’r Swyddfa yn ystod 2022 i 2023.

Methiant i ddenu, datblygu a chadw gweithlu medrus i gefnogi’r gwaith o ddarparu amcanion busnes a phontio Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus rwy drawsnewid.

Prif effeithiau:
Cynigion cyflog uwch gan y Swyddfa a’r sector preifat.

Methiant i ddeall gofynion allweddol o ran gallu’r gweithlu a’u diogelu at y dyfodol.

Nid yw’r ddarpariaeth dysgu a datblygu yn ddigonol i ddatblygu a pharatoi staff ar gyfer swyddi presennol a rhai yn y dyfodol.

Lliniaru risgiau:
Mae strategaethau a chynlluniau gweithredu sylfaenol ar waith.

Hyb Llesiant y Swyddfa, Cynghreiriaid Iechyd Meddwl a Chynghorwyr Ymddiried.

Newid yr hyfforddiant ymwybyddiaeth cyn trawsnewid.

Ymgyrchoedd recriwtio treigl a.

Defnyddio llwybrau eraill i fyd gwaith.

Effaith y mesurau lliniaru:
Mae mesurau lliniaru wedi arwain at well cyfraddau gadael ac ymgyrchoedd recriwtio llwyddiannus.

Mae gweithlu sydd â’r sgiliau a’r gallu angenrheidiol yn ei le i gyflawni’r amcanion busnes presennol a’r trawsnewid sydd ei angen.

Methiant llwyfannau TG sy’n hanfodol i gyflawni busnes Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Prif effeithiau:
Tarfu ar wasanaethau statudol y Swyddfa neu anallu llwyr i’w darparu.

Ôl-groniadau a niwed i enw da yn sgil hynny.

Difrod posibl neu beryglu systemau TG.

Lliniaru risgiau:
Cynlluniau adfer ar ôl trychineb a chynlluniau wrth gefn ar waith.

Hyfforddi staff i adnabod gwe-rwydo a mathau eraill o ymosodiadau.

Canllawiau a pholisïau diogelwch ar waith.

Buddsoddi yn seilwaith Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Effaith y mesurau lliniaru:
Mae gan y Swyddfa lwyfannau TG dibynadwy i ddarparu gwasanaethau a gallant sicrhau adferiad cyflym ar ôl unrhyw darfu.

Nid yw’r Swyddfa wedi etifeddu unrhyw systemau TG.

Anallu i gyflawni’r holl drawsnewid sydd ei angen er mwyn gwneud Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn addas ar gyfer y dyfodol.

Prif effeithiau:
Ddim yn gallu cyflawni’r holl fanteision a fwriadwyd drwy drawsnewid.

Ymatebion llai strategol a mwy adweithiol. Dyblygu, camddyrannu adnoddau a chostau uwch.

Lliniaru risgiau:
Adolygu ac ailosod gweledigaeth, strategaeth a blaenoriaethau presennol y Swyddfa.

Parhau i fonitro’r cynnydd deddfwriaethol drwy’r Senedd.

Modelau wedi’u cynllunio i adlewyrchu’r galw yn y dyfodol.

Effaith y mesurau lliniaru:
Rheoli a llywodraethu’r portffolio yn effeithiol.

Proses drawsnewid ddealladwy gyda’r adnoddau angenrheidiol yn eu lle i’w chyflawni.

Gweithgarwch twyllodrus gan staff sy’n arwain at golled ariannol a niwed i enw da.

Prif effeithiau:
Methu cydymffurfio â pholisi a gweithdrefnau.

Diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfrifoldebau atal twyll a sut i gwblhau hynny.

Archwiliadau rheoli annigonol.

Lliniaru risgiau:
Polisi gwrth-dwyll a chynllun ymateb i hynny.

Dysgu gorfodol.

Strategaeth ymwybyddiaeth o atal twyll.

Effaith y mesurau lliniaru:
Staff gwybodus sy’n dilyn polisïau.

Llwybr clir i staff roi gwybod am dwyll a’r camau sydd i’w cymryd.

Mae’r Swyddfa’n nodi bod risgiau ar lefel strategol. Mae rheoli risg yn cyd-fynd ag amcanion ein sefydliad ac yn cysylltu â’r prif egwyddorion allweddol a nodir yn Llyfr Oren Llywodraeth EF (‘Rheoli Risg – Egwyddorion a Chysyniadau’).

Mae’r gofrestr risg strategol yn cael ei hadrodd a’i thrafod gyda phwyllgor gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bob mis er mwyn rhoi sicrwydd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ynghylch camau lliniaru a rheoli risgiau. Mae’r tîm risg a sicrwydd yn casglu diweddariadau gan berchnogion risg o bob rhan o’r sefydliad. Maent yn ein dwyn i gyfrif lle bo angen ac yn defnyddio gwybodaeth a phrofiad o risg i gefnogi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy roi cyngor ac arweiniad ynghylch rheoli risg, i sicrhau bod y Swyddfa’n rheoli risg yn dda.

Mae cynrychiolwyr y Swyddfa hefyd yn trafod rheoli risg mewn cyfarfodydd misol rheolaidd gyda Phartneriaid Busnes Risg ehangach y Weinyddiaeth Gyfiawnder a bob chwarter blwyddyn yng ngrŵp cynghori risg y Weinyddiaeth, dan gadeiryddiaeth Canolfan Ragoriaeth Risg y Weinyddiaeth. Mae gan y fforymau hyn gynrychiolwyr o bob rhan o’r Weinyddiaeth, gan gynnwys cyrff hyd braich, ac maent yn cwrdd i drafod arferion gorau a newidiadau i arferion neu weithdrefnau, yn ogystal ag at ddibenion cydweithredol.

Rydym yn parhau i gyflwyno adroddiadau risg bob chwarter i bwyllgor gwaith y Weinyddiaeth Gyfiawnder fel rhan o fframwaith rheoli risg ehangach yr adran. Mae cefnogaeth y pwyllgor gwaith i’r rhaglen newid tymor hwy yn bwysig er mwyn lliniaru’r risgiau hyn. Dyma’r prif risgiau yr adroddwyd amdanynt yn ystod y flwyddyn:

  • cynnydd deddfwriaeth sy’n caniatáu i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddarparu atwrneiaeth arhosol ddigidol, sy’n hanfodol i gynaliadwyedd y Swyddfa yn y blynyddoedd i ddod
  • risg i enw da Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn sgil yr oedi wrth gofrestru atwrniaethau arhosol ac atwrniaethau arhosol a wnaed drwy dwyll
  • effaith yr ôl-groniad o geisiadau atwrniaethau arhosol ar wasanaeth i gwsmeriaid a chyllid
  • parhad busnes yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn enwedig mewn perthynas â’r sganwyr a ddefnyddir i fewnbynnu ceisiadau atwrniaethau arhosol papur i system gyfrifiadurol Sirius

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn annog arloesi ac mae ganddi agwedd gytbwys tuag at risg. Er enghraifft, mae ganddi fwy o oddefiant risg ar gyfer datblygu galluoedd digidol i wella cynnyrch Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ond un is mewn meysydd fel sicrhau bod pryderon yn cael eu hasesu a’u hymchwilio iddynt er mwyn diogelu pobl agored i niwed a’u hasedau.

Fframwaith llywodraethu a sicrwydd y Swyddfa

Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymwneud â phennu’r cyfeiriad strategol a’r fframwaith ar gyfer gweithrediadau ac mae’n gyfrifol am sicrhau llywodraethu corfforaethol o safon uchel bob amser. Mae’n pennu archwaeth risg yr asiantaeth ac yn sicrhau bod fframwaith rheoli priodol ar waith sy’n rhoi sicrwydd ar asesiadau risg.

Pwyllgorau’r Bwrdd


Y pwyllgor archwilio a sicrwydd risg
Yn rhoi cyngor a sicrwydd i’r bwrdd ar risg, rheolaeth a llywodraethu.

Bwrdd portffolio a newid
Yn goruchwylio ac yn craffu ar risgiau sy’n benodol i brosiectau a rhaglenni.

Pwyllgor Gweithredol
Cyfrifoldeb o ddydd i ddydd dros fonitro risg.

Pwyllgor iechyd a diogelwch
Goruchwylio a chraffu ar risgiau mewn perthynas ag iechyd a diogelwch.

Fforwm risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddu
Yn ystyried y risgiau strategol a’r risgiau sy’n is na’r lefel honno, a hefyd yn hwyluso dysgu am risg ar draws yr asiantaeth.

Perchnogion a noddwyr risg
Yn gyfrifol am sicrhau bod dealltwriaeth briodol o risgiau strategol, a’u bod yn cael eu rheoli’n weithredol, eu hadrodd arnynt a’u monitro.

Grŵp cynghori ar risg y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Mae’n edrych ar risgiau ar draws y Weinyddiaeth Gyfiawnder, asiantaethau a chyrff hyd braich, ac yn sicrhau bod risgiau a rennir yn cael eu hadrodd fel un risg a bod modd uwchgyfeirio risgiau asiantaethau yn ôl yr angen.

Archwiliadau mewnol Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth
Mae archwiliadau mewnol yn adlewyrchu ac yn digwydd yn y meysydd lle mae’r risg strategol uchaf, ac yn darparu goruchwyliaeth a chipolwg ychwanegol.

Diwygio swyddogaethau

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn darparu swyddogaethau corfforaethol a phroffesiynol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan gynnwys: gwasanaethau dadansoddi, masnachol, cyfathrebu, gwrth-dwyll, dyledion, digidol, cyllid, grantiau, pobl, cyflawni prosiectau, eiddo a diogelwch.

Asesir aeddfedrwydd swyddogaethau drwy ‘archwiliad iechyd’ chwarterol, a gefnogir gan hunanasesiadau blynyddol neu asesiadau ddwywaith y flwyddyn gan ddefnyddio fframweithiau asesu gwelliant parhaus Swyddfa’r Cabinet, y cyhoeddwyd llawer ohonynt am y tro cyntaf eleni. Mae’r raddfa aeddfedrwydd yn amrywio o ‘dda’, sy’n dangos cydymffurfiaeth ag elfennau gorfodol y safon swyddogaethol, i ‘gwell’, a ‘gorau’.

Drwy gydol 2022 i 2023, mae dealltwriaeth y swyddogaethau o ofynion eu safonau swyddogaethol wedi aeddfedu ac mae eu dealltwriaeth o weithrediad fframweithiau rheoli i sicrhau mwy o gydymffurfiad yn gwella.

Adroddiadau chwythu’r chwiban

Nid oedd unrhyw achosion chwythu’r chwiban yn y flwyddyn ariannol hon. Mae chwythu’r chwiban yn ymwneud â datgelu gwybodaeth yn fewnol neu’n allanol er mwyn amlygu camweddau neu gamweddau posibl mewn sefydliad yn y gorffennol neu ar hyn o bryd. Os gofynnir i unigolyn wneud rhywbeth, neu os yw’n ymwybodol o weithredoedd pobl eraill sydd, yn eu barn nhw, yn sylfaenol anghywir, yn anghyfreithlon, neu a allai beryglu eraill neu fynd yn groes i werthoedd Cod y Gwasanaeth Sifil, dylent godi pryder drwy chwythu’r chwiban. Rhoddir cyhoeddusrwydd mewnol i staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am y broses ar gyfer mynegi pryder drwy chwythu’r chwiban.

Rheolau Penodiadau Busness

Mae Gweision Sifil, ar bob lefel, yn rhwym wrth reolau ynghylch derbyn penodiadau allanol ar ôl gadael y Gwasanaeth Sifil. Pwrpas y Rheolau Penodiadau Busnes yw osgoi’r canlynol:

  • y risg y gallai cyflogwr gael mantais amhriodol drwy benodi cyn-swyddog sydd â gwybodaeth am eu cystadleuwyr, neu am bolisi sydd ar y gweill gan y llywodraeth
  • unrhyw amheuaeth y gallai penodiad fod yn wobr am ffafrau yn y gorffennol
  • y risg bod cyn swyddog yn ymelwa’n amhriodol ar fynediad breintiedig at gysylltiadau yn y llywodraeth
  • cwestiynu annheg neu feirniadaeth ar uniondeb cyn gweision sifil

Gall staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus weld manylion llawn am y Rheolau Penodiadau Busnes, pryd maent yn berthnasol a’r broses ymgeisio ar fewnrwyd y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn ystod 2022 i 2023, ni chafwyd unrhyw geisiadau gan weithwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn perthynas â’r rheolau hyn. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r Rheolau Penodiadau Busnes, adnewyddwyd cynnwys y fewnrwyd, rhoddwyd gwybod i uwch arweinwyr, a diweddarwyd geiriad y llythyrau rheoli ymadawiadau.

Parhad busnes

Eleni fe wnaethom y canlynol:

  • sicrhau bod y rhan fwyaf o gynlluniau parhad busnes Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gael ar adnodd parhad busnes y Weinyddiaeth Gyfiawnder a bod gwaith yn parhau i fireinio’r rhain a sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau yn y Swyddfa
  • sicrhau bod cynlluniau parhad busnes ar gael ar gyfer ein holl safleoedd – gan gynnwys datblygu cynllun ar gyfer safle Victoria Square House

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi parhau i weithio’n agos â chyflenwyr a chydweithwyr digidol y Weinyddiaeth Gyfiawnder i edrych ar gynlluniau parhad busnes posibl rhag ofn y bydd problemau gydag un o sganwyr y Swyddfa – sy’n allweddol i gyflawni ein busnes. Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi sicrhau bod unrhyw ddilyniant a roddir ar waith hefyd yn cynnig gwerth am arian o’i gymharu â lefel y risg y bydd y digwyddiad yn digwydd.

Diogelwch a sicrwydd gwybodaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae pennaeth y Gyfarwyddiaeth Gyfreithiol a Gwybodaeth yn cyflawni rôl uwch-berchennog risg gwybodaeth ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac mae uwch unigolyn o bob cyfarwyddiaeth busnes yn ymgymryd â rôl perchennog asedau gwybodaeth ar gyfer eu maes. Mae pob perchennog asedau gwybodaeth ac uwch-berchennog risg gwybodaeth yn cwrdd yn rheolaidd i reoli risgiau gwybodaeth, ac mae’r tîm sicrhau gwybodaeth yn gweithio i’w cefnogi gydol y flwyddyn.

Cafodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 59 o geisiadau rhyddid gwybodaeth yn 2022 i 2023, a chwblhaodd 95% o’r rhain o fewn 20 diwrnod gwaith o’i gymharu â tharged o 90%. Cafodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 66 cais testun y data, a chwblhawyd 100% o’r rhain o fewn un mis calendr o’i gymharu â tharged o 90%.

Mae’r asesiad o risgiau preifatrwydd yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei reoli gan y tîm sicrhau gwybodaeth, sy’n cynnwys cefnogi’r busnes i gwblhau asesiadau o’r effaith ar ddiogelu data lle bo angen. Mae aelodau’r tîm yn hyrwyddo preifatrwydd yn ôl y bwriad, ac ymgynghorir â’r tîm fel mater o drefn ynghylch preifatrwydd ar ddechrau cynnig.

Digwyddiadau (colli/peryglu) gwybodaeth

Roedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyfrifol am 1,423 achos o golli gwybodaeth a/neu dorri diogelwch gwybodaeth yn ystod 2022 i 2023, ac ystyriwyd bod 15 ohonynt yn ‘niweidiol iawn’. Roedd y mwyafrif o’r achosion o golli gwybodaeth wedi digwydd oherwydd camgyfeirio’r post. Prosesodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus tua 7 miliwn darn o bost yn ystod 2022 i 2023, sy’n golygu mai dim ond mewn 0.02% o achosion y collwyd gwybodaeth (o’i gymharu â 0.02% yn 2021 i 2022, 0.01% yn 2020 i 2021 a 0.02% yn 2019 i 2020).

Ni ystyriwyd bod unrhyw achos o golli gwybodaeth yn ddigon difrifol i gyfiawnhau camau gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i hysbysu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd camau i leihau’r achosion o golli gwybodaeth, mae tîm sicrhau gwybodaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i weithio gyda’r busnes i ddarparu hyfforddiant, addysg ac ymwybyddiaeth i staff ynghylch diogelu data a diogelwch gwybodaeth.

Rheoli cofnodion

Fel rhan o brosiect gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i wella’r gwaith o reoli asedau a chofnodion gwybodaeth yn barhaus yn yr adran, fe wnaethom gynnal adolygiad cynhwysfawr a diweddaru ein cofrestr asedau gwybodaeth yn 2022 i 2023. Rydym wedi defnyddio hyn i fwrw ymlaen â gweithgareddau cydymffurfio eleni, gan gynnwys cyflawni rhaglen o archwiliadau cofnodion ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac iteriad pellach o’r amserlen cadw a gwaredu cofnodion.

Cydymffurfiaeth cyflenwyr

Mae contractau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu rheoli’n ganolog gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, felly tîm masnachol canolog y Weinyddiaeth sy’n sicrhau cydymffurfiaeth cyflenwyr

Iechyd a diogelwch

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ei chyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles ei gweithwyr a’r holl bobl sy’n defnyddio ei safleoedd. Rydym yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a’r holl reoliadau a deddfwriaethau perthnasol eraill fel sy’n briodol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cefnogi’r busnesau i ddelio â’r amgylchedd gwaith sy’n newid yn barhaus. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r tîm iechyd a diogelwch wedi cefnogi tîm prosiect i symud i swyddfa newydd, symud offer a dychwelyd staff i amgylchedd swyddfa newydd.

Rydym wedi parhau i ddarparu offer sgrin arddangos i staff i’w galluogi i weithio gartref ac yn y swyddfa. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, rydym wedi cwblhau 1,141 o asesiadau cyfarpar sgrin arddangos ar gyfer staff. Mae hyn wedi parhau i gynyddu oherwydd bod staff yn dychwelyd i swyddfa newydd a bod yr adolygiadau treigl bob tair blynedd yn cael eu cwblhau yn ystod y cyfnod hwn.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod bod angen i elfennau allweddol fod ar waith er mwyn rheoli iechyd a diogelwch yn effeithiol. Mae canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar reoli iechyd a diogelwch yn nodi’r elfennau hyn fel polisi, trefnu, cynllunio, mesur perfformiad, archwilio ac adolygu. Cynhaliwyd cyfanswm o 380 o sesiynau cynefino iechyd a diogelwch ar gyfer staff eleni.

Adolygir polisïau iechyd a diogelwch Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bob blwyddyn neu pan fyddant yn cael eu newid. Mae gennym strategaeth iechyd a diogelwch ar waith sy’n cyd-fynd â’r amcanion busnes, ac mae’n cael ei datblygu i wella iechyd a diogelwch galwedigaethol yn ogystal â diogelwch tân. Mae cofrestr risg iechyd a diogelwch yn cael ei chymeradwyo gan ddeiliad dyletswydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac mae’n seiliedig ar asesiad risg lleol. Caiff y gofrestr hon ei chynnal a’i hadolygu yn y pwyllgor iechyd a diogelwch chwarterol, a’i rannu â phwyllgor iechyd a diogelwch tân corfforaethol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae’n cael cyhoeddusrwydd ar ein mewnrwyd. Mae’r ffigurau damweiniau, digwyddiadau a damweiniau a fu bron â digwydd eleni wedi cynyddu o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod mwy o staff yn dychwelyd i’r swyddfa. Yn 2022 i 2023, cafwyd adroddiadau am 13 o ddamweiniau, 48 o ddigwyddiadau (28 ohonynt yn ymwneud ag iechyd cyffredinol), a 2 ddamwain fu bron â digwydd. Mae hyn o’i gymharu â 7 damwain, 21 digwyddiad, a 3 damwain a fu bron â digwydd yn ystod 2021 i 2022.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ymrwymo i wella iechyd a diogelwch yn barhaus. Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn parhau i fonitro ac adolygu nifer yr ymatebwyr brys sydd gennym ar waith i sicrhau bod digon o staff ar gael ar holl safleoedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Rydym wedi cynllunio a threfnu hyfforddiant ar gyfer wardeiniaid tân, swyddogion rheoli digwyddiadau, gweithredwyr cadeiriau achub a hyfforddiant cymorth cyntaf.

Eleni, mae’r tîm wedi gweithio gyda’r tîm dysgu a datblygu i sicrhau cymwysterau cydnabyddedig ar gyfer rhagor o swyddogion cymorth cyntaf (30), aseswyr offer sgrin arddangos (15), aseswyr risg (18), a rheolwyr iechyd a diogelwch (22) ar gyfer staff ym mhob maes busnes.

Un tîm iechyd a diogelwch sy’n rholi ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham. Mae’r ddau safle yn codi eu heriau eu hunain, ond drwy hyfforddiant effeithiol, cyfathrebu, glynu wrth ddeddfwriaeth ac ymgysylltu rhagweithiol, gall y tîm reoli a datrys problemau wrth iddynt godi.

Casgliad y Swyddog Cyfrifyddu

Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd system rheolaeth fewnol y Swyddfa, gan gynnwys y fframwaith rheoli risg. Mae fy adolygiad yn seiliedig ar waith yr archwilwyr mewnol a’r rheolwyr gweithredol o fewn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Maent yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fframwaith rheolaeth fewnol ac ymateb yn briodol i sylwadau a wneir gan yr archwilwyr allanol yn eu llythyr rheoli ac mewn adroddiadau eraill. Mae’r system rheolaeth fewnol wedi bod ar waith, gyda mân addasiadau, ar gyfer y flwyddyn 2022-23, a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon.

Yn eu hadroddiad blynyddol, mae ein harchwilwyr mewnol wedi rhoi lefel sicrwydd cyffredinol o ‘gymedrol’, sy’n golygu bod angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg. Rwyf wedi cael cyngor ar oblygiadau canlyniadau fy adolygiad gan y bwrdd a’r pwyllgor archwilio a sicrwydd risg. Rwy’n fodlon bod cynllun i fynd i’r afael â gwendidau yn y system rheolaeth fewnol, a sicrhau bod y system yn gwella’n barhaus, yn ei lle. Rwyf hefyd yn fodlon fod yr holl risgiau perthnasol wedi’u nodi, a bod y risgiau hynny’n cael eu rheoli’n briodol drwy ein cofrestr risg.

Amy Holmes
Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus
6 Gorffennaf 2023

Adroddiad tâl a staff

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi polisi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar dâl aelodau a chyfarwyddwyr anweithredol y bwrdd gweithredol. Mae hefyd yn darparu manylion y costau gwirioneddol a’r trefniadau cytundebol. Paratowyd yr adroddiad tâl a staff yn unol â gofynion y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM.

Polisi tâl – uwch weision sifil

Y Prif Weinidog sy’n gosod tâl uwch weision sifil ar ôl cael cyngor annibynnol gan y Corff Adolygu ar Gyflogau Uwch-swyddogion.

Wrth wneud ei argymhellion, mae’r Corff Adolygu ar Gyflogau Uwch wedi ystyried y canlynol:

  • yr angen i recriwtio, cadw a chymell pobl sydd â’r gallu a’r cymwysterau priodol i gyflawni eu cyfrifoldebau gwahanol

  • amrywiadau rhanbarthol a lleol mewn marchnadoedd llafur a’u heffaith ar recriwtio a chadw staff

  • polisïau’r llywodraeth i wella gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gofyniad ar Adrannau i gyrraedd y targedau allbwn ar gyfer darparu gwasanaethau Adrannol

  • yr arian sydd ar gael i adrannau fel y nodir yn nherfynau gwariant adrannol y llywodraeth

  • targed chwyddiant y llywodraeth

Mae’r Corff Adolygu ar Gyflogau uwch yn ystyried y dystiolaeth y mae’n ei chael am ystyriaethau economaidd ehangach a fforddiadwyedd ei argymhellion

Polisi tâl – gweision sifil

Mae pecynnau tâl yn dod o dan y cynlluniau a weithredir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac maent yn dilyn canllawiau polisi’r llywodraeth ar gyfer cyflogau’r sector cyhoeddus. Mae perfformiad yn cael ei gydnabod drwy bolisïau rheoli perfformiad a gwobrwyo a chydnabyddiaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae staff ar bob gradd yn gymwys i gael eu gwobrwyo yn ystod y flwyddyn a ddefnyddir i gydnabod staff yn brydlon drwy gydol y flwyddyn ariannol.

Contractau gwasanaethau

Mae Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 yn mynnu bod penodiadau’r Gwasanaeth Sifil yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod a hynny wedi’i seilio ar gystadleuaeth deg ac agored.

Oni nodir yn wahanol isod, mae’r swyddogion a gwmpesir gan yr adroddiad hwn yn dal penodiadau agored. Byddai terfynu swydd, ac eithrio am gamymddwyn, yn golygu y byddai’r unigolyn yn cael iawndal fel y nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil.

Tâl uwch reolwyr (yn amodol ar archwiliad)

Tâl aelodau gweithredol y bwrdd

          2022 i 2023         2021 i 2022
  Cyflog Taliadau bonws Budd trethadwy (£100 agosaf) Buddion cysylltiedig â phensiwn (£1,000 agosaf) Cyfanswm Cyflog Taliadau bonws Budd trethadwy (£100 agosaf) Buddion cysylltiedig â phensiwn (£1,000 agosaf) Cyfanswm
  £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000
Amy Holmes
Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus 1
50-55 FYE 105-110 - - (1) 50-55 - - - - -
Stuart Howard
Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyfraith a Gwybodaeth, a Gwarcheidwad Cyhoeddus Dros Dro 2
90-95 5-10 - (20) 75-80 80-85 0-5 - 2 85-90
Julie Lindsay
Prif Swyddog Gweithredu
75-80 - - (23) 50-55 75-80 10-15 - 72 155-160
Ruth Duffin
Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog
75-80 0-5 - 25 100-105 15-20 FYE 75-80 - - 2 20-25
Ann Owen
Dirprwy Cyfarwyddwr Gweithrediadau Busnes Gwasanaethau Cyllid Partneriaethau 3
70-75 FYE 80-85 - - (3) 65-70 80-85 0-5 - 16 95-100
Georgia Bottomley
Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau Busnes Gwasanaethau Cyllid Partneriaethau 4
10-15 FYE 80-85 - - 13 20-25 80-85 0-5 - 16 95-100

1 O 26 Medi 2022. 2 Y Gwarcheidwad Cyhoeddus Dros Dro cyn 26 Medi 2022. 3 O 16 Mai 2022. Mae Ann Owen yn gweithio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r Weinyddiaeth sy’n talu ei chyflog. 4 Hyd at 15 Mai 2022. Mae Georgia Bottomley yn gweithio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r Weinyddiaeth sy’n talu ei chyflog.

Tâl aelodau anweithredol o fyrddau

    2022 to 2023   2021 to 2022
  Ffioedd Buddion trethadwy (£100 agosaf) Ffioedd Buddion trethadwy (£100 agosaf)
  £000 £000 £000 £000
Martyn Burke 5-10 - 5-10 -
Jackie Craisatti 5 0-5 - 0-5 -
Alison Sansome 5-10 0.5 5-10 0.3
Karin Woodley 5-10 - 5-10 -

5 Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Archwilio a Risg.

Nid oes gan yr un o aelodau anweithredol y bwrdd hawliau pensiwn gyda’r adran, ac nid ydynt yn derbyn taliadau bonws.

Cyflog

Mae’r cyflog yn cynnwys cyflog gros, goramser, ac unrhyw lwfans arall i’r graddau y mae’n ddarostyngedig i drethiant y DU.

Taliadau bonws

Mae taliadau bonws yn amodol ar berfformiad yn ystod y flwyddyn, gan ddilyn canllawiau Swyddfa’r Cabinet. Mae’r polisi ar gyfer tâl perfformiad heb ei gyfuno yn parhau i nodi y dylid cyfyngu taliadau o’r fath i’r 25% sy’n perfformio orau.

Mae’r bonysau a gofnodwyd yn 2022 i 2023 yn ymwneud â pherfformiad yn 2022 i 2023 ac mae’r bonysau cymharol a gofnodwyd ar gyfer 2022 i 2023 yn ymwneud â pherfformiad yn 2020 i 2021.

Buddion o fath arall

Mae gwerth ariannol unrhyw fuddion o fath arall yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarparwyd gan yr adran ac sy’n cael ei drin gan Gyllid a Thollau EF fel enillion trethadwy.

Buddion pensiwn

Cyfrifir gwerth y buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel (y cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn wedi’i luosi ag 20) a’r (cynnydd gwirioneddol mewn unrhyw gyfandaliad) llai (y cyfraniadau a wneir gan yr unigolyn). Nid yw’r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys cynnydd oherwydd chwyddiant nac unrhyw gynnydd neu ostyngiad oherwydd trosglwyddo hawliau pensiwn.

Buddion pensiwn (yn amodol ar archwiliad)

Buddion pensiwn aelodau gweithredol y bwrdd

  Pensiwn cronedig a chyfandaliad cysylltiedig ar oedran pensiwn ar 31 Mawrth 2023 Cynnydd real mewn CETV pensiwn a chyfandaliad cysylltiedig ar oed pensiwn ar 31 Mawrth 2023 ar 31 Mawrth 2022 Cynnydd/ (gostyngiad) gwirioneddol mewn CETV 6
  £000 £000 £000 £000 £000
Amy Holmes- Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus 35-40

cyfandaliad 55–60
0–2.5

dim cyfandaliad
477 466 (8)
Stuart Howard- Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyfraith a Gwybodaeth, a Gwarcheidwad Cyhoeddus Dros Dro 45–50

cyfandaliad 110-115
dim

cyfandaliad
1,016 932 (33)
Julie Lindsay- Prif Swyddog Gweithredu 40–45

cyfandaliad 90-95
dim

cyfandaliad
848 788 (32)
Ruth Duffin- Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog 10-15

dim cyfandaliad
0-2.5

dim cyfandaliad
122 106 7
Ann Owen- Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau Busnes Gwasanaethau Cyllid Partneriaethau 35-40

cyfandaliad 90-95
0-2.5

dim cyfandaliad
863 788 (13)
Georgia Bottomley- Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau Busnes Gwasanaethau Cyllid Partneriaethau 30-35

cyfandaliad 5-10
0-2.5

cyfandaliad 0-2.5
469 456 9

6 Gan ystyried chwyddiant, bu gostyngiad mewn termau real yn y Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod (CETV) a ariennir gan y cyflogwr.

Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – sef Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill neu alpha - sy’n darparu buddion yn seiliedig ar gyfartaledd gyrfa gydag oedran pensiwn arferol sy’n cyfateb i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr aelod (neu 65 os yw’n uwch). O’r dyddiad hwnnw, roedd pob gwas sifil newydd, ynghyd â’r rhan fwyaf o’r bobl sydd eisoes mewn swydd, yn ymuno ag alpha. Cyn hynny, roedd gweision sifil yn rhan o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS). Mae pedair rhan i brif gynllun pensiwn y gwasanaeth sifil: tair sy’n rhoi buddion ar sail cyflog terfynol (clasurol, premiwm neu clasurol a mwy) gydag oed pensiwn arferol o 60; ac un sy’n rhoi buddion ar sail gyrfa gyfan (nuvos) gydag oed pensiwn arferol o 65.

Nid yw’r trefniadau statudol hyn wedi’u cyllido ac mae cost y buddion yn cael ei thalu gan swm a benderfynir drwy bleidlais gan y Senedd bob blwyddyn. Mae pensiynau sy’n daladwy dan y cynlluniau clasurol, premiwm, clasurol a mwy, nuvos ac alpha yn cael eu cynyddu’n flynyddol yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Arhosodd aelodau sy’n rhan o’r prif gynllun pensiwn y gwasanaeth sifil a oedd o fewn 10 mlynedd o’u hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn y cynllun pensiwn ar ôl 1 Ebrill 2015. Newidiodd y rhai oedd rhwng 10 mlynedd a 13 mlynedd a 5 mis o’u hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 i alpha rywbryd rhwng 1 Mehefin 2015 ac 1 Chwefror 2022. Oherwydd bod y llywodraeth yn bwriadu dileu’r gwahaniaethu a nodwyd gan y llysoedd yn y ffordd y cyflwynwyd diwygiadau pensiwn 2015 ar gyfer rhai aelodau efallai y bydd gan aelodau cymwys sydd â gwasanaeth perthnasol rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 hawl i wahanol fuddion pensiwn mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw (a gallai hyn effeithio ar y gwerthoedd trosglwyd o sy’n gyfwerth ag arian parod yn yr adroddiad hwn – gweler isod). Bydd buddion pob un o aelodau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n newid i gynllun alpha yn cael eu ‘bancio’, gyda’r rheini sydd â buddion cynt yn un o adrannau cyflog terfynol y Prif Gynllun yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael cynllun alpha. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd yn y Prif Gynllun neu alffa – fel sy’n briodol. Os oes gan y swyddog fuddion yn y Prif Gynllun ac alpha, y ffigur a nodir yw gwerth cyfun eu buddion yn y ddau gynllun.) Gall aelodau sy’n ymuno o Hydref 2002 ymlaen ddewis naill ai’r trefniant buddion diffiniedig priodol neu gyfraniad wedi’i ddiffinio, pensiwn (pryniant arian parod) gyda chyfraniad cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth).

Mae cyfraniadau’r gweithiwr yn gysylltiedig â chyflog ac maent yn amrywio rhwng 4.6% a 8.05% ar gyfer aelodau’r cynllun clasurol, premiwm, clasurol a mwy, nuvos ac alpha. Mae’r buddion yn y cynllun clasurol yn cronni ar gyfradd o 1/80fed o enillion pensiynadwy terfynol am bob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, telir cyfandaliad sydd gyfwerth â thair blynedd o bensiwn cychwynnol pan fydd cyflogai’n ymddeol. Gyda’r cynllun premiwm, mae’r buddion yn cronni ar gyfradd o 1/60 fed o enillion pensiynadwy terfynol am bob blwyddyn o wasanaeth. Yn wahanol i’r cynllun clasurol, nid oes dim cyfandaliad awtomatig. Mae Clasurol a Mwy yn ei hanfod yn gynllun hybrid gyda buddion yng nghyswllt gwasanaeth cyn 1 Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo’n fras fel y cynllun Clasurol, a buddion am wasanaeth ar ôl mis Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo fel yn y cynllun Premiwm. Mewn nuvos mae aelod yn cronni pensiwn yn seiliedig ar eu henillion pensiynadwy yn ystod cyfnod eu haelodaeth o’r cynllun. Ar ddiwedd blwyddyn y cynllun (31 Mawrth) mae c frif pensiwn a enillwyd yr aelod yn cael ei gredydu gyda 2.3% o’i enillion pensiynadwy’r cynllun yn y flwyddyn honno ac mae’r pensiwn cronedig yn cael ei gynyddu yn ôl deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Mae’r buddion yn alpha yn cronni mewn ffordd debyg i nuvos, ond mae’r gyfradd gronni yn 2.32%. Ym mhob achos, gall aelodau ddewis rhoi rhan o’u pensiwn heibio (cyfnewid) i gael cyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004.

Y pensiwn cronedig a ddyfynnir yw’r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i’w gael pan fydd yn cyrraedd oed pensiwn, neu’n syth ar ôl peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os yw wedi cyrraedd oed pensiwn neu dros yr oedran hwnnw. 60 yw’r oedran pensiwn ar gyfer aelodau cynlluniau clasurol, premiwm a chlasurol a mwy, a 65 ar gyfer aelodau nuvos, a 65 oed neu Oed Pensiwn y Wladwriaeth, pa bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau cynllun alpha. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd ym Mhrif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil neu alffa – fel sy’n briodol. Os oes gan y swyddog fuddion yn y Prif Gynllun ac alpha, mae’r ffigur a ddyfynnir yn gyfystyr â gwerth cyfunol y buddion yn y ddau gynllun, ond sylwer y gallai rhan o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o oedrannau gwahanol.)

Mae manylion pellach am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gael yn www.civilservicepensionscheme.org.uk

Gwerthoedd trosglwyddo sy’n gyfwerth ag arian parod

Gwerth trosglwyddo sy’n cyfateb i arian parod (CETV) yw gwerth buddion y cynllun pensiwn wedi’i gyfalafu a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Buddion a gronnwyd gan yr aelod yw’r buddion a brisir ynghyd ag unrhyw bensiwn wrth gefn i briod sy’n daladwy o’r cynllun. CETV yw taliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i sicrhau buddiannau pensiwn mewn cynllun pensiwn neu drefniant arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddiannau y mae wedi eu cronni yn ei gynllun blaenorol. Mae’r ffigurau pensiwn a nodir yn ymwneud â buddion y mae’r unigolyn wedi eu cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth yn y cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae’r datgeliad yn berthnasol iddo.

Mae’r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi ei drosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd i’r aelod o ganlyniad iddo prynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygio) 2008 ac nid yw’n ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i Dreth Lwfans Oes a allai fod yn daladwy pan gymerir buddion pensiwn.

Mae ffigurau CETV yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio’r canllawiau ar gyfraddau gostyngol ar gyfer cyfrifo cyfraddau cyfraniadau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus heb eu hariannu a oedd yn bodoli ar 31 Mawrth 2023. Cyhoeddodd Trysorlys EM ganllawiau wedi’u diweddaru ar 27 Ebrill 2023; bydd y canllawiau hyn yn cael eu defnyddio wrth gyfrifo ffigurau CETV 2023-24.

Cynnydd real mewn CETV

Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd yn y CETV sy’n cael ei ariannu gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys cynnydd yn y pensiwn cronedig oherwydd chwyddiant na chyfraniadau’r gweithiwr (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Datgeliad cyflog teg (yn amodol ar archwiliad)

Mae’n ofynnol i gyrff adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng tâl y swyddog gweithredol sy’n cael y cyflog mwyaf yn eu sefydliad â thâl chwartel isaf, canolrifol a chwartel uchaf gweithlu’r sefydliad.

Bandiau cyflog teg a chymarebau

  2022-23 2021-22
  £000 £000
Swyddog gweithredol sy’n cael y cyflog uchaf 105-110 100-105
Cyflog yr aelod o staff sy’n cael y cyflog isaf 15-20 15-20
  £ £
Cyflog chwartel isaf 21,775 20,965
Cyfanswm taliadau chwartel isaf 21,775 20,965
  2022-23 2021-22
  £000 £000
Cyflog chwartel canolrifol 21,775 20,975
Cyfanswm taliadau chwartel canolrifol 23,602 21,488
Cyflog chwartel uchaf 25,827 25,118
Cyfanswm taliadau chwartel uchaf 26,055 25,118
  Cymhareb7 Cymhareb
Chwartel isaf 4.9:1 5.6:1
Chwartel canolrifol 4.6:1 5.5:1
Chwartel uchaf 4.1:1 4.7:1

7 Rhwng cyfanswm tâl y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf a chyfanswm tâl ar y chwartelau isaf, y canolrif a’r chwartel uchaf.

Yn 2022 i 2023 a 2022 i 2023, ni dderbyniodd unrhyw weithwyr dâl mwy na’r swyddog gweithredol sy’n derbyn y cyflog mwyaf.

Mae’r cyfanswm tâl yn cynnwys cyflog, taliadau goramser, tâl seiliedig ar berfformiad heb ei gyfuno, a buddion o fath arall. Nid yw’n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr na gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian pensiynau.

Mae’r cyflog chwartel isaf a’r cyflog chwartel canolrifol yr un fath, gan fod nifer sylweddol o staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael yr un cyflog.

Newid canrannol blynyddol yng nghyfanswm y taliadau a thaliadau bonws

  Cyflog a lwfansau % Taliadau bonws %
Cyfartaledd staff 6.5 (74.4)
Y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf 3.2 (100.0)

Yn 2020 i 2021, yn dilyn cymeradwyaeth gan Swyddfa’r Cabinet a Thrysorlys EM, cyflwynwyd cytundeb cyflog tair blynedd ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan gynnwys gweithwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’r cytundeb tâl tair blynedd yn rhedeg o 1 Awst 2020 tan 31 Gorffennaf 2023. Drwy roi’r dyfarniad cyflog ar waith, cynyddwyd y tâl cyfartalog ar gyfer staff.

Adroddiad staff

Costau a niferoedd staff (yn amodol ar archwiliad)

Costau staff

      2022-23 2021-22
  Staff a
gyflogir
yn barhaol
Eraill Cyfanswm Cyfanswm
  £000 £000 £000 £000
Cyflogau 38,006 6,755 44,761 40,995
Costau nawdd cymdeithasol 3,528 - 3,528 2,898
Costau pensiwn 9,209 - 9,209 7,895
Costau gros 50,743 6,755 57,498 51,788
Llai asedau adferadwy mewn perthynas â secondiadau i’r tu allan - - - (65)
Cyfanswm 50,743 6,755 57,498 51,723

Pecynnau ymadael y Gwasanaeth Sifil a phecynnau ymadael eraill (yn amodol ar archwiliad)

Telir costau dileu swydd a chostau ymadael eraill yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, sy’n gynllun statudol a luniwyd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Cyfrifir y costau ymadael yn llawn yn y flwyddyn ymadael berthnasol. Pan fydd yr adran wedi cytuno ar ymddeoliadau cynnar, mae’r costau ychwanegol yn cael eu talu gan yr adran ac nid gan Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae costau ymddeol oherwydd salwch yn cael eu talu gan y cynllun pensiwn ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn y tablau uchod.

Yn ystod 2022 i 2023 a 2022 i 2023 ni thalwyd am unrhyw becynnau ymadael. Ddiwedd 2022 i 2023, cafwyd un ymddeoliad ar sail iechyd. Bydd cyfanswm y rhwymedigaeth pensiwn ychwanegol a gronnwyd yn £0.001 miliwn, a bydd yn cael ei gydnabod yn natganiadau ariannol 20 i 22024.

Costau ymgynghori ac ymgysylltu oddi ar y gyflogres

Yn ystod 2022 i 2023, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi adolygu ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres lle mae’n rhaid i ni ystyried cyfryngwyr, deddfwriaeth (IR35) gan ddefnyddio canllawiau Cyllid a Thollau EF a dangosydd statws ar-lein. Rydym wedi hysbysu unrhyw gorff contractio ynghylch canlyniad y penderfyniadau ar statws fel bod didyniadau treth yn cael eu gwneud, lle bo hynny’n briodol, yn y tarddiad o daliadau a wneir mewn perthynas ag ymgysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Yn ystod 2022 i 2023, codwyd £0.096 miliwn ar gyfer costau ymgynghori (2022 i 2023: dim).

Niferoedd staff (yn amodol ar archwiliad)

Roedd nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogwyd ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn:

  2022-23 2021-22
Staff a gyflogir yn barhaol 1,422 1,291
Eraill 204 232
Cyfanswm 1,626 1,523

Cyfansoddiad staff

Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd nifer y staff, ac eithrio staff yr Uwch Wasanaeth Sifil fel a ganlyn:

  31 Mawrth 2023 31 Mawrth 2022
Gwryw 718 639
Benyw 930 797
Cyfanswm 1,648 1,436

Uwch weision sifil

Mae aelodau’r bwrdd yn cynnwys un fenyw ar raddfa SCS2 (prif weithredwr), a dwy fenyw ac un gwryw ar raddfa SCS1 (dirprwy gyfarwyddwyr).

Absenoldeb salwch

Nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd ar gyfartaledd eleni oedd 8.9 diwrnod (2022 i 2023: 10.8 diwrnod).

Trosiant staff

Yn 2022 i 2023, roedd trosiant staff yn 9.8% (14.6% yn 2022 i 2023). Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i fonitro cyfraddau trosiant ac yn cefnogi cynlluniau i gynnal lefel trosiant iach. Mae Arolwg Pobl blynyddol y Gwasanaeth Sifil ynghyd â darnau eraill o ymchwil, yn ein helpu i ddeall profiad ein pobl o weithio yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac i gymryd camau priodol i wella effeithiolrwydd, gan gynnwys pan fydd trosiant yn creu problemau.

Ymgysylltu â staff

Mae ein cyfradd ymateb o 76% i’r Arolwg Pobl yn rhoi darlun da o brofiadau pawb yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Ein mynegai ymgysylltu oedd 63%, gostyngiad bach o 65% yn ystod 2022 i 2023. O’n naw thema ymgysylltu craidd, fe wnaethom gynyddu ein sgôr ar gyfer y thema ‘dysgu a datblygu’. Fe wnaeth ein sgoriau ar gyfer ‘fy rheolwr’, ‘fy nhîm’ ‘amcanion a diben sefydliadol’, ‘cynhwysiant a thriniaeth deg’ i gyd aros yr un fath â’r flwyddyn flaenorol.

Polisïau staff a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydymffurfio â pholisi anabledd y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â recriwtio, hyfforddi a datblygu staff ag anableddau. Rydym yn recriwtio, hyfforddi a datblygu pobl ar sail eu sgiliau, eu cymhwyster a’u gallu i wneud y swydd.

Fel rhan o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, rydym yn gweithredu yn unol ag amrywiaeth o bolisïau, gweithdrefnau ac arferion adnoddau dynol, sy’n cynnwys:

  • gweithio’n hyblyg

  • bwlio ac aflonyddu

  • cyfryngu

  • recriwtio a dethol

  • cydraddoldeb ac amrywiaeth

  • rheoli presenoldeb (mae gennym nifer o staff ag anabledd lle cytunwyd ar addasiadau rhesymol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau)

  • rheoli perfformiad

  • hyfforddiant

Amser cyfleuster undebau llafur

Nifer y gweithwyr a oedd yn swyddogion undeb perthnasol yn ystod 2022 i 2023 8
Faint o weithwyr a oedd yn swyddogion undeb perthnasol yn ystod y cyfnod perthnasol a dreuliodd a) 0%, b) 1-50%, c) 51-99% neu d) 100% o’u horiau gwaith ar amser cyfleuster b) 8
Canran cyfanswm y bil cyflogau a dreuliwyd ar amser cyfleuster 0.05%
Amser a dreuliwyd ar weithgareddau undebau llafur â thâl fel canran o gyfanswm oriau amser cyfleuster gyda thâl 0

Amy Holmes
Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus
6 Gorffennaf 2023

Atebolrwydd Seneddol ac adroddiad archwilio

Cyflenwad Seneddol

Ariennir Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder o’i chyflenwad seneddol, a chan incwm sy’n deillio o ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol.

Yn yr un modd ag asiantaethau eraill y llywodraeth, rhaid i gyllid ar gyfer y dyfodol gael ei gymeradwyo gan ein hadran noddi, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a chan y Senedd. Mae cymeradwyaeth eisoes wedi cael ei rhoi ar gyfer 2023 i 2024 ac nid oes rheswm dros gwestiynu cyllid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y dyfodol. Felly, mae datganiadau ariannol wedi cael eu paratoi ar sail busnes byw at ddibenion adrodd ariannol a phrisio asedau.

Rheoleidd-dra gwariant (yn amodol ar archwiliad)

Nid oedd materion rheoleidd-dra i sôn amdanynt.

Ffioedd a thaliadau (yn amodol ar archwiliad)

Y ffi am gofrestru atwrneiaeth yw £82.00. Mae hon yn ffi uwch o dan adran 180 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, sy’n caniatáu i’r Arglwydd Ganghellor, gyda chydsyniad Trysorlys EF, i osod ffi sy’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth hwnnw. Defnyddir y ffi uwch i dalu am gostau eithrio a dileu ffioedd ac i roi cymhorthdal tuag at y costau gweithredu i ddarparu goruchwyliaeth a gwasanaethau eraill.

Mae costau llawn darparu gwasanaethau’r asiantaeth a’r ffioedd a godir mewn perthynas â hyn wedi’u nodi yn y tabl isod.

  Incwm gros Cost lawn Cost uned Gor-dâl /
croes-gymhorthdal
  £000 £000 £ £000
Atwrniaethau Arhosol 73,885 64,409 62 9,476
Atwrniaethau Parhaus 512 651 62 (138)
Goruchwylio dirprwyon 9,414 18,260 304 (8,846)
Penodi dirprwyon 868 3,222 331 (2,354)
Copïau swyddfa 418 604 26 (186)

Nid yw’r tabl uchod yn cynnwys incwm o ffioedd gwarcheidiaeth oherwydd y nifer isel o achosion.

Ffioedd a ddilëwyd (yn amodol ar archwiliad)

Cafodd 98,218 o ffioedd eu dileu neu eu heithrio. Cyfanswm y gwerth oedd £7.039 miliwn (2022 i 2023: 97,112 o achosion – £6.609 miliwn fel y disgrifir yn Nodyn 2). Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys hawlildiad o ffioedd.

Costau adennill (yn amodol ar archwiliad)

Nid ydym wedi cyflawni ein hamcan o adennill costau’n llawn, ond mae’r perfformiad wedi gwella’n sylweddol, sef 97.8%, ac mae o fewn ein targed goddefiant o 5% (2022 i 2023: 88.7%) (gweler nodyn 4 yn y datganiadau ariannol). Rydym yn disgwyl gweld gwell sefyllfa o ran adfer costau ar gyfer 2023 i 2024 wrth i’r busnes barhau i weithio drwy geisiadau am atwrniaethau a ddaw i law yn ystod 2022 i 2023.

Colledion a thaliadau arbennig (yn amodol ar archwiliad)

    2022-23   2021-22
  Nifer £000 Nifer £000
Taliadau arbennig 59 5 4 16
Ildio ffioedd 7,246 902 4,898 608
Symiau a ddiddymir 4,550 546 960 63
Taliadau ex gratia 259 7 256 17
Cyfanswm 12,114 1,460 6,118 704

Adroddwyd am yr holl golledion a thaliadau arbennig ar sail croniadau.

Ildio ffioedd yn ôl disgresiwn

Rhoddir hawlildiad o ffioedd yn unol â’r offeryn statudol pan nad yw’r rhoddwr na’r cleient yn gymwys i gael esemptiad neu ddileu ffi ond y byddai talu’r ffi, ym marn y Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn achosi caledi mawr.

Rhwymedigaethau digwyddiadol o bell (yn amodol ar archwiliad)

Ar 31 Mawrth 2023, nid oes unrhyw rwymedigaethau digwyddiadol o bell (31 Mawrth 2022: dim).

Amy Holmes
Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus
6 Gorffennaf 2023

Tystysgrif ac adroddiad y Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol i Dŷ’r Cyffredin

Barn ar y datganiadau ariannol

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.

Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys datganiadau canlynol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus:

  • Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol ar 31 Mawrth 2023;

  • Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, Datganiad Llifoedd Arian a Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; ac

  • y nodiadau cysylltiedig gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu pwysig.

Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r datganiadau ariannol yw’r gyfraith berthnasol a’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU.

Yn fy marn i, mae’r datganiadau ariannol:

  • yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr materion Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 31 Mawrth 2023 a’i gwarged net gweithredol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw; ac

  • wedi’u paratoi’n briodol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a gyhoeddwyd dan y ddeddf.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob ffordd o bwys mae’r incwm a’r gwariant a gofnodir yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion y’u bwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodir yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Sail y farn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (y DU) a Nodyn Ymarfer 10 Archwilio Datganiadau Ariannol a Rheoleidd-dra Cyrff Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig (2022). Caiff fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yng nghyfrifoldebau’r Archwilydd er mwyn archwilio adran datganiadau ariannol fy nhystysgrif.

Mae’r safonau hynny’n ei gwneud yn ofynnol i mi a fy staff gydymffurfio â Safon Moesegol Diwygiedig y Cyngor Adrodd Ariannol 2019. Rwyf yn annibynnol ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad a’r datganiadau ariannol yn y DU. Mae fy staff a minnau wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn.

Credaf fod y dystiolaeth rwyf wedi’i chasglu o’r archwiliad yn ddigonol ac yn briodol er mwyn rhoi sail ar gyfer fy marn.

Casgliadau’n ymwneud â busnes byw

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o sail cyfrifyddu busnes byw wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.

Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd o bwys sy’n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i barhau fel busnes byw am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o’r adeg yr awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol.

Disgrifir fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes byw yn adrannau perthnasol y dystysgrif hon.

Mae’r sail cyfrifyddu busnes byw ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei mabwysiadu wrth ystyried y gofynion a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth Trysorlys EF, sy’n mynnu bod endidau’n mabwysiadu’r sail cyfrifyddu busnes byw wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle’r rhagwelir y byddai’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau i’r dyfodol.

Gwybodaeth arall

Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys gwybodaeth sydd yn yr Adroddiad Blynyddol, ond nid yw’n cynnwys y datganiadau ariannol na thystysgrif ac adroddiad fy archwilydd arnynt. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall.

Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cynnwys yr wybodaeth arall ac eithrio i’r graddau a nodir yn benodol yn fy nhystysgrif, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar hynny.

Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall a, drwy wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â’r datganiadau ariannol neu fy ngwybodaeth a gafwyd yn yr archwiliad neu sydd yn ymddangos fel camddatganiad sylweddol fel arall.

Os byddaf yn canfod anghysonderau o bwys neu gamddatganiadau o bwys amlwg o’r fath, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad o bwys yn y datganiadau ariannol eu hunain. Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, os byddaf yn dod i’r casgliad bod camddatganiad o bwys o’r wybodaeth arall hon, mae’n rhaid i mi adrodd ar y ffaith honno.

Nid oes gennyf ddim i’w adrodd i’r perwyl hwn.

Barn ar faterion eraill

Yn fy marn i, mae’r rhannau o’r Adroddiad Tâl a Staff sydd i’w harchwilio wedi’i pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a wnaed o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon 2000 y Llywodraeth;

Yn fy marn i, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad:

  • mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd sy’n destun archwiliad wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a wnaed dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon 2000 y Llywodraeth;

  • mae’r wybodaeth yn yr Adroddiadau Perfformiad ac Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r datganiadau ariannol wedi’u paratoi ar ei chyfer yn cyd-fynd â’r datganiadau ariannol ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad

Yng ngoleuni fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’i hamgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi dod o hyd i unrhyw gamddatganiadau materol yn yr Adroddiad Perfformiad na’r Adroddiad Atebolrwydd.

Nid oes gennyf ddim i’w adrodd yng nghyswllt y materion canlynol lle mae’n ofynnol i mi roi gwybod i chi os ydw i’n credu:

  • Nad oes digon o gofnodion cyfrifyddu wedi’u cadw gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu os nad oes ffurflenni perthnasol i’n harchwiliad wedi cael eu cyflwyno gan ganghennau nad yw ein staff wedi ymweld â nhw; neu

  • nid wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad; neu

  • os nad yw’r datganiadau ariannol a rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a fydd yn destun archwiliad yn cyd-fynd â’r cofnodion cyfrifyddu a’r ffurflenni; neu

  • nid yw rhai o’r taliadau a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth gan Drysorlys EF wedi cael eu gwneud neu nid yw rhannau o’r Adroddiad Tâl a Staff sydd i’w harchwilio yn cyd-fynd â’r ffurflenni a’r cofnodion cyfrifyddu; neu

  • nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EF.

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu dros y datganiadau ariannol

Fel yr eglurir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am y canlynol:

  • cadw cofnodion cyfrifyddu priodol;

  • rhoi mynediad i’r Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol at yr holl wybodaeth y mae’r rheolwyr yn ymwybodol ei bod yn berthnasol i baratoi’r datganiadau ariannol fel cofnodion, dogfennau a materion eraill;

  • rhoi’r wybodaeth a’r esboniadau ychwanegol sydd eu hangen ar y Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol ar gyfer ei archwiliad;

  • rhoi mynediad digyfyngiad i’r Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol i unigolion yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus y mae’r archwilydd yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol cael tystiolaeth archwilio ganddynt;

  • sicrhau bod rheolaethau mewnol o’r fath ar waith yn ôl yr angen er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol nad ydynt yn cynnwys camddatganiadau o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad;

  • sicrhau bod y datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg a’u bod yn cael eu paratoi yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys EF a wnaed o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000;

  • sicrhau bod yr adroddiad blynyddol sy’n cynnwys yr Adroddiad Tâl a Staff , yn cael ei baratoi yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a wnaed dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon 2000 y Llywodraeth; ac

  • asesu gallu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i barhau fel busnes byw, gan ddatgelu, fel y bo’n berthnasol, faterion sy’n gysylltiedig â busnes byw a defnyddio’r sail cyfrifyddu busnes byw oni fo’r Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan y Swyddfa yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.

Cyfrifoldebau’r Archwilydd dros archwilio’r datganiadau ariannol

Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, a rhoi tystysgrif sy’n cynnwys fy marn i. Mae sicrwydd rhesymol yn golygu lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw hynny’n gwarantu bod archwiliad sy’n cael ei gynnal yn unol ag ISA (DU) bob amser yn canfod camddatganiadau sylweddol. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wallau ac maent yn cael eu hystyried yn gamddatganiadau o bwys os, yn unigol neu gyda’i gilydd, y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr sydd wedi’u gwneud ar sail y datganiadau ariannol hyn.

I ba raddau yr ystyriwyd bod yr archwiliad yn gallu canfod achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll

Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â fy nghyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol yng nghyswllt peidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll. Nodir isod fanylion ynghylch i ba raddau y gall fy ngweithdrefnau ganfod achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll.

Canfod ac asesu risgiau posibl sy’n gysylltiedig â diffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll

Wrth ganfod ac asesu risgiau camddatganiadau perthnasol yng nghyswllt peidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll, fe wnes i:

  • ystyried natur y sector, yr amgylchedd rheoli a pherfformiad gweithredol gan gynnwys dyluniad polisïau cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus;

  • holi rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol sy’n ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n ymwneud â’r canlynol:
    • nodi, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau;
    • canfod ac ymateb i risgiau o dwyll; ac
    • rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau gan gynnwys rheolaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n ymwneud â chydymffurfiad y Swyddfa â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a Rheoli Arian Cyhoeddus;
  • holi rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, os oeddynt:
    • yn ymwybodol o unrhyw enghreifftiau o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau.
    • yn gwybod am unrhyw dwyll gwirioneddol, amheuaeth o dwyll neu dwyll honedig,
  • yn trafod gyda’r tîm ymgysylltu ynghylch sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll.

O ganlyniad i’r gweithdrefnau hyn, ystyriais y cyfleoedd a’r cymhellion a allai fodoli yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer twyll a nodais fod y posibilrwydd mwyaf ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw, postio cyfnodolion anarferol, trafodion cymhleth a rhagfarn yn amcangyfrifon y rheolwyr. Yn yr un modd â phob archwiliad o dan ISAs (y DU), mae’n ofynnol i mi ddilyn gweithdrefnau penodol i ymateb i’r risg y bydd rheolwyr yn diystyru rheolaethau.

Cefais ddealltwriaeth o fframwaith awdurdod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae’r Swyddfa’n gweithredu ynddynt. Canolbwyntiais ar y cyfreithiau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar symiau a datgeliadau sylweddol yn y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Rhai o’r cyfreithiau a’r rheoliadau allweddol a ystyriais yn y cyd-destun hwn oedd Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000, Rheoli Arian Cyhoeddus, cyfraith cyflogaeth a deddfwriaeth pensiynau a threth.

Ymateb yr archwiliad i risg a nodwyd

Ymateb i’r risgiau a nodwyd sy’n deillio o’r gweithdrefnau uchod:

  • Adolygais ddatgeliadau’r datganiadau ariannol a phrofi dogfennau ategol i asesu cydymffurfiad â darpariaethau’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a ddisgrifir uchod fel eu bod yn cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol;

  • Holais reolwyr a’r Pwyllgor Archwilio a Risg ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl;

  • Adolygais gofnodion cyfarfodydd y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Bwrdd ac adroddiadau archwilio mewnol; ac

  • wrth fynd i’r afael â’r risg o dwyll oherwydd bod rheolwyr yn diystyru rheolaethau, profais briodoldeb cofnodion mewn dyddlyfrau ac addasiadau eraill; asesais a yw’r penderfyniadau ar amcangyfrifon yn arwydd o ragfarn bosibl; a gwerthusais rhesymeg busnes unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu’r tu allan i drefn arferol busnes.

Rwyf hefyd wedi cyfleu’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a nodwyd a’r risgiau posibl o dwyll i holl aelodau’r tîm ymgysylltu, ac roeddwn yn dal yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.

Mae disgrifiad pellach o fy nghyfrifoldebau dros archwilio’r datganiadau ariannol ar gael ar wefan y Cyngor Adroddiadau Ariannol yn: www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o fy nhystysgrif.

Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd

Mae’n rhaid i mi gael tystiolaeth sy’n ddigon i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm sydd wedi’u cofnodi yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod trafodion ariannol y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Rwyf yn cyfathrebu â’r rheini sydd yn gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymysg materion eraill, cwmpas ac amseriad yr archwiliad a chanfyddiadau pwysig yr archwiliad, gan gynnwys unrhyw ddiffygion sylweddol mewn rheolaeth fewnol rwy’n dod o hyd iddynt yn ystod fy archwiliad.

Adroddiad

Nid oes gennyf sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Gareth Davies
Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol
7 Gorffennaf 2023

Swyddfa Archwilio Genedlaethol
157-197 Buckingham Palace Road Victoria
Llundain SW1W 9SP

Datganiadau ariannol

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Datganiad o wariant net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023

2022 i 2023 2021 i 2022
  Nodyn £000 £000
Refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid 2 (85,245) (68,576)
Cyfanswm incwm gweithredu   (85,245) (68,576)
       
Costau staff 3 57,498 51,723
Costau gweithredu eraill 3 25,348 22,875
Taliadau dibrisiant, amorteiddiad ac amhariad 3 4,302 2,721
Cyfanswm gwariant gweithredu 87,148 77,319  
Diffyg ariannol net   1,903 8,743
Gwariant cynhwysfawr arall
     
Eitemau na chânt eu hailgategoreiddio i’r gwariant gweithredu.      
(Enillion)/colledion net ar ailbrisio asedau anniriaethol 5 (234) 8
Enillion net ar ailbrisio eiddo, offer a chyfarpar 6 (149) (28)
Cyfanswm gwariant net cynhwysfawr   1,520 8,723

Ni ysgwyddwyd unrhyw wariant cynhwysfawr arall yn ystod y flwyddyn.

Mae’r holl incwm a gwariant yn deillio o weithrediadau parhaus.

Mae’r nodiadau ar dudalennau 87 i 109 yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn.

Datganiad o’r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2023

    31 Mawrth
2023
31 Mawrth
2022
 
  Nodyn £000 £000  
Asedau anghyfredol        
Asedau anniriaethol 5 8,570 7,544  
Eiddo, offer a chyfarpar 6 2,797 2,049  
Asedau hawl i ddefnyddio 7 7,185 9,150  
Cyfanswm asedau anghyfredol   18,552 18,743  
Asedau cyfredol        
Masnach a symiau derbyniadwy eraill 9 11,337 10,328  
Arian parod a chyfwerth ag arian parod 10 14,108 8,490  
Cyfanswm asedau cyfredol   25,445 18,818  
Cyfanswm asedau   43,997 37,561  
Rhwymedigaethau cyfredol        
Masnach a symiau taladwy eraill 11 (41,448) (36,218)  
Rhwymedigaethau ariannol eraill 12 (2,707) (2,828)  
Darpariaethau 13 - (235)  
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol   (44,155) (39,281)  
Cyfanswm yr asedau llai’r rhwymedigaethau cyfredol   (158) (1,720)  
Rhwymedigaethau anghyfredol        
Rhwymedigaethau ariannol erailles 12 (4,203) (6,553)  
Darpariaethau 13 (2,622) (2,051)  
Cyfanswm rhwymedigaethau anghyfredol   (6,825) (8,604)  
Cyfanswm yr asedau llai’r rhwymedigaethau   (6,983) (10,324)  
Ecwiti trethdalwyr        
Y gronfa gyffredinold   (7,420) (10,405)  
Y gronfa ailbrisio wrth gefn   437 81  
Cyfanswm ecwiti trethdalwyr   (6,983) (10,324)  

Mae’r nodiadau yn yr adran Datganiadau Ariannol yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn.

Amy Holmes
Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus
6 Gorffennaf 2023

Datganiad llif arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023

    2022
i 23
2021
i 22
 
  Nodyn £000 £000  
Llif arian o weithgareddau gweithredol        
Diffyg ariannol net   (1,903) (8,743)  
Addasiadau ar gyfer trafodion tybiannol a rhai nad ydynt yn arian parod 3 14,696 14,083  
Cynnydd mewn symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill 9 (250) (1,437)  
Cynnydd mewn symiau masnach a symiau taladwy eraill 11 6,466 6,356  
Symudiad mewn symiau taladwy drwy fasnach ar les 11 - 302  
Cynnydd/(gostyngiad) mewn rhwymedigaethau ariannol eraill 12 (2,471) 9,381  
Llai cydnabyddiaeth IFRS 16 i gredydwr prydles 7 - (2,441)  
Llai symudiadau yn y symiau taladwy sy’n berthnasol i eitemau nad ydynt yn mynd drwy’r datganiad gwariant net cynhwysfawr 7 2,471 (6,940)  
Llog prydles – nad yw’n arian parod 7 - 46  
Mewnlif arian parod net o weithgareddau gweithredol   19,009 10,607  
Llif arian parod o weithgareddau buddsoddi        
Prynu eiddo, offer a chyfarpar 6 (926) (1,401)  
Cynnydd/(gostyngiad) mewn croniadau cyfalaf 11 (1,236) 1,212  
All-lif arian parod net o weithgareddau buddsoddi   (2,162) (189)  
Llif arian o weithgareddau ariannu        
Ildio arian dros ben i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder   (8,758) (8,357)  
Ad-dalu cyfalaf ar lesoedd 7 (2,471) -  
All-lif arian parod net o weithgareddau cyllido   (11,229) (8,357)  
Cynnydd net mewn arian parod a symiau cyfwerth ag arian parod yn y flwyddyn 10 5,618 2,061  
Arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod ar ddechrau’r flwyddyn 10 8,490 6,429  
Arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y flwyddyn 10 14,108 8,490  

Mae’r nodiadau yn yr adran Datganiadau Ariannol yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn.

Datganiad newidiadau yn ecwiti trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023

    Y Gronfa
gyffredinold
Ailbrisio cronfa
wrth gefn
Cyfanswm      
  Nodyn £000 £000 £000      
Balans ar 01 Ebrill 2022   (10,405) 81 (10,324)      
Diffyg gweithredol net am y flwyddyn   (1,903) - (1,903)      
Ildio arian parod dros ben i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder   (8,758) - (8,758)      
Addasiadau nad ydynt yn arian parod              
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ailgodi tâl tybiannol 3 11,079 - 11,079      
Ffi archwilio allanol tybiannol 3 74 - 74      
Trosglwyddo asedau o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder 5 2,466 - 2,466      
Enillion net ar ailbrisio              
Asedau anniriaethol 5 - 234 234      
Eiddo, offer a chyfarpar 6 - 149 149      
Trosglwyddiad ailbrisio   27 (27) -      
Balans ar 31 Mawrth 2023   (7,420) 437 (6,983)      
Balans ar 01 Ebrill 2021   (13,014) 87 (12,927)      
Diffyg gweithredol net am y flwyddyn   (8,743) - (8,743)      
Ildio arian parod dros ben i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder   (8,357) - (8,357)      
Addasiadau nad ydynt yn arian parod              
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ailgodi tâl tybiannol 3 11,324 - 11,324      
Ffi archwilio allanol tybiannol 3 67 - 67      
Trosglwyddo asedau o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder 5 8,292 - 8,292      
(Enillion)/colledion net ar ailbrisio              
Asedau anniriaethol 5 - (8) (8)      
Eiddo, offer a chyfarpar 6 - 28 28      
Trosglwyddiad ailbrisio   26 (26) -      
Balans ar 31 Mawrth 2022   (10,405) 81 (10,324)      

Mae’r nodiadau yn yr adran Datganiadau Ariannol yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn.

Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023

1. Datganiad polisïau cyfrifyddu

Mae’r datganiadau ariannol hyn wedi cael eu paratoi yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth 2022 i 2023 (FReM) a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Mae’r polisïau cyfrifo a gynhwysir yn FReM yn defnyddio Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y’u haddaswyd neu y’u dehonglwyd ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus.

Pan fydd FReM yn caniatáu dewis o bolisi cyfrifyddu, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dewis y polisi sydd orau am gyflwyno safbwynt cywir a theg. Mae polisïau cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u rhoi ar waith yn gyson wrth ymdrin â’r eitemau a ystyriwyd yn berthnasol yng nghyswllt y cyfrifon.

1.a. Sail paratoin

Cyflwynir y datganiadau ariannol mewn punnoedd sterling wedi eu talgrynnu i’r mil agosaf (£000) oni nodir yn wahanol. Paratowyd y cyfrifon hyn dan y confensiwn cost hanesyddol.

Paratowyd y datganiadau ariannol, ynghyd â’r nodiadau ar dudalennau 87 i 109, ar sail gronnus yn unol â’r cyfarwyddyd cyfrifyddu a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.

Wrth gyflawni ei swyddogaeth statudol, ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol sy’n bennaf gyfrifol am ariannu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Fodd bynnag, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd yn cael cyllid gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer buddsoddiad cyfalaf o gyflenwad seneddol y Weinyddiaeth.

Pe bai diffyg gweithredol, byddai Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael cyllid gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder pe bai angen. Ni fu angen unrhyw gymorth ariannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer unrhyw ddiffygion gweithredol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn wir, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi parhau i drosglwyddo arian parod dros ben yn ôl i’r Weinyddiaeth. Nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl y bydd diffyg gweithredol yn 2023-24, ond os bydd un yn digwydd, cafwyd sicrwydd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder y byddai cyllid yn cael ei ddarparu pe bai angen.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn asiantaeth i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n cyflawni swyddogaeth statudol. Nid oes unrhyw gynlluniau gan y llywodraeth ar hyn o bryd i roi’r gorau i’r swyddogaeth honno na’i throsglwyddo i sefydliad arall. Gan hynny, ystyriwyd ei bod yn briodol mabwysiadu’r sail busnes byw ar gyfer paratoi’r datganiadau ariannol hyn.

1.b. Penderfyniadau sylweddol a ddefnyddiwyd wrth gynhyrchu’r datganiadau ariannol ar Amhariad symiau derbyniadwy

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod bod disgwyliad y bydd yn colli credyd mewn perthynas â symiau masnach derbyniadwy ac asedau contract. Darperir manylion y dechneg amcangyfrif a’r canrannau amhariad a ddefnyddiwyd, a dadansoddiad o sensitifrwydd, yn Nodyn 9, Symiau masnach derbyniadwy a symiau derbyniadwy eraill.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd yn darparu ar gyfer ceisiadau llwyddiannus tebygol yn y dyfodol am ffioedd dileu ac esemptiadau a godir, ar sail lefelau dileu ac esemptiadau hanesyddol. Rhoddir rhagor o fanylion yn Nodyn 9, Symiau masnach derbyniadwy a symiau derbyniadwy eraill.

Lesoedd

Pan fydd les wedi’i hymgorffori mewn contract ar gyfer gwasanaethau, y swm i’w gydnabod fel yr ased hawl i ddefnyddio a rhwymedigaeth y brydles ddylai fod pris annibynnol elfen y les yn unig. Lle nad oes modd gweld hyn yn rhwydd, bydd penderfyniad yn cael ei wneud drwy gyfeirio at ddata gweladwy arall, fel gwerth teg asedau tebyg neu bris contractau ar gyfer cydrannau tebyg nad ydynt ar les.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi penderfynu ar delerau’r les drwy asesu lefel y sicrwydd ynghylch a fydd opsiynau terfynu neu ymestyn yn cael eu defnyddio.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi penderfynu bod y model cost yn brocsi rhesymol ar gyfer gwerth teg, oherwydd bod y rhenti sy’n daladwy yn cyd-fynd â chyfraddau’r farchnad agored.

1.c. Newidiadau i bolisïau cyfrifyddu a datgeliadau

Safonau newydd a diwygiedig a fabwysiedir

Nid oes unrhyw safonau newydd na diwygiedig wedi cael eu mabwysiadu yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022.

Cyhoeddwyd safonau, diwygiadau a dehongliadau newydd ond nid ydynt yn weithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2022 ac ni chawsant eu mabwysiadu’n gynnar

Mae Contractau Yswiriant IFRS 17 yn gofyn am ddull sy’n defnyddio llif arian wedi’i ddisgowntio yng nghyswllt cyfrifyddu ar gyfer contractau yswiriant. Mabwysiadodd yr UE y safon ym mis Tachwedd 2021, ond mae’r bwrdd cynghori ar adroddiadau ariannol wedi cytuno i ohirio mabwysiadu’r safon orfodol tan 2025-26 a dylid ei chynnwys yn FReM ar gyfer 2025-26 ar y cynharaf. Gellir caniatáu mabwysiadu IFRS 17 yn gynnar fesul achos, fel y cytunwyd gyda Thrysorlys EF. Er mwyn asesu effaith y safon, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adolygu contractau sy’n bodloni’r diffiniad o gontractau yswiriant.

Nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn credu y bydd unrhyw safon neu ddehongliad arall newydd neu ddiwygiedig yn cael effaith sylweddol.

1.1. Ariannu

Telir am weithgareddau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn bennaf drwy ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol, ond gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd gael cyllid ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a chyllid i gwrdd ag unrhyw ddiffyg a gynhyrchir, os oes angen.

Fel y cytunwyd gyda Thrysorlys EF ac yn unol â’r gyllideb a ddirprwywyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, amcan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw adennill 100% o’i gostau (o fewn goddefiant o 5%). Rhoddir manylion y perfformiad yn erbyn yr amcan hwn yn Nodyn 4, Adennill costau.

Pan fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynhyrchu gwarged arian parod, caiff hyn ei ildio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Caiff trosglwyddiadau cyllid i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac oddi wrthi eu cydnabod yn y gronfa gyffredinol ac yn y datganiad llif arian o dan y teitl ‘cyllido’.

1.2. Adroddiadau segmentol

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus un segment gweithredu i’w hadrodd o dan IFRS 8. Felly, nid yw’n paratoi dadansoddiad manwl fesul segment.

1.3. Incwm

Mae refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid yn cynnwys ffioedd am wasanaethau sy’n cael eu pennu ar sail adennill costau llawn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae incwm o ffioedd yn cynnwys symiau am wasanaethau atwrneiaeth, goruchwyliaeth, a chopïau o dystysgrifau atwrneiaeth, a ddarperir. Mae incwm yn cael ei gydnabod yn unol ag IFRS 15 Refeniw o Gontractau gyda Chwsmeriaid.

Atwrniaethau arhosol a atwrniaethau parhaus

Mae ffioedd atwrniaethau yn daladwy ar ôl derbyn y cais ond, yn unol ag IFRS 15, ni fydd incwm sy’n deillio ohonynt yn cael ei gydnabod nes cwblhau’r gwasanaeth a ddarperir, naill ai wrth gofrestru’r atwrneiaeth neu os bydd camau prosesu’n dod i ben cyn cofrestru. Pan fydd cwsmeriaid yn talu ffioedd atwrniaethau ar-lein cyn cyflwyno eu cais, mae’r cronfeydd hyn hefyd yn cael eu dal mewn rhwymedigaethau contract. Os na dderbynnir cais ar-lein ar ôl i’r cwsmer dalu, caiff y swm a dalwyd ei ad-dalu.

Goruchwylio dirprwyon

Cydnabyddir incwm goruchwylio bob dydd ar gyfer pob achos gweithredol. Mae incwm goruchwylio yn cael ei anfonebu ar gylch blynyddol hyd at y dyddiad y daw gwaith goruchwylio achos i ben, wedi’i gyfrifo ar sail pro rata.

Cydnabyddir incwm fel ased contract. Mae darpariaeth drwgddyled yn cael ei chyfrifo, ar sail y model colled credyd disgwyliedig, ac mae’n cael ei netio oddi ar asedau contract, naill ai pan fydd ffioedd yn cael eu hanfonebu neu wrth iddynt gronni.

Esemptiadau a dileu ffioedd

Mae incwm ffioedd yn cael ei gydnabod net o esemptiadau a dileu ffioedd. Mae’r cynllun dileu ffioedd wedi’i ragnodi yn Rheoliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (Ffioedd, ac ati) 2007 a gymeradwywyd gan y Senedd, ac ni chesglir ffioedd a ddilëwyd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Rhaid gwneud cais am esemptiad neu ddileu ffi gyda’r cais cychwynnol i gofrestru atwrneiaeth neu, ar gyfer ffioedd goruchwylio, rhaid ei gyflwyno o fewn chwe mis i ddyddiad hawlio’r ffi.

Yn yr achosion lle nad yw cais am esemptiad neu ddileu ffi yn cael ei wneud adeg hawlio’r ffi, mae’n rhaid cyflwyno cais wedi’i gwblhau am esemptiad neu ddileu ffi o fewn chwe mis o anfonebu.

Pan fydd ffi wedi’i thalu ac y cytunir ar esemptiad neu ddileu ffi wedi hynny, rhoddir ad-daliad.

1.4. Buddion gweithwyr

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cronni ar gyfer cost ddisgwyliedig gwyliau blynyddol ei gweithwyr yn unol ag IAS 19 Buddion Gweithwyr. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd yn cronni ar gyfer bonysau perfformiad a ddyfarnwyd ond nad ydynt wedi cael eu talu eto.

1.5. Pensiynau

Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn gynllun buddion diffiniedig nas cyllidir, lle nad yw’r Swyddfa’n gallu nodi ei chyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol. Yn unol â’r FReM, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyfrif am hwn fel cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod cyfraniadau sy’n daladwy i gynlluniau cyfraniadau diffiniedig fel traul yn y flwyddyn y’i codir, ac mae’r rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol wedi’i chyfyngu i’r swm y mae’n cytuno i’w gyfrannu at y gronfa.

1.6. Ad-daliadau tybiannol

Mae’r ad-daliad tybiannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynrychioli defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o wasanaethau corfforaethol.

Mae’r ffi archwilio dybiannol yn cynrychioli cost yr archwiliad allanol blynyddol a gyflawnir gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar ran y Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol.

1.7. Cyfrifo treth ar werth

Priodolir TAW na ellir ei hadennill i’r categori gwariant perthnasol neu, os yw’n briodol, wedi’i chyfalafu gydag ychwanegiadau i asedau anghyfredol. Fel arall, dangosir incwm a gwariant heb gynnwys TAW

1.8. Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu

Bydd asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu’n cael eu prisio ar sail eu cost hanesyddol o fewn eiddo, offer a chyfarpar ac asedau anniriaethol fel y bo’n briodol, ac ni fydd y rhain yn cael eu dibrisio na’u hamorteiddio. Ni fydd ased yn cael ei chategoreiddio’n ased sydd wrthi’n cael ei hadeiladu pan fydd yn barod i’w defnyddio. Yna, bydd ei gwerth cario’n cael ei dynnu o’r asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu a’u trosglwyddo i’r categori asedau perthnasol. Bydd y dibrisio neu’r amorteiddio wedyn yn cael ei briodoli i’r ased yn unol â’r polisi cyfrifyddu datganedig.

Caiff gwariant ei gyfalafu lle gellir ei briodoli’n uniongyrchol i ddod ag ased i gyflwr gweithio.

1.9. Asedau anniriaethol

Cydnabyddiaeth gychwynnol

Mae asedau anniriaethol yn cynnwys meddalwedd gyfrifiadurol a ddatblygwyd yn fewnol (gan gynnwys asedau sy’n cael eu creu) a thrwyddedau meddalwedd a brynwyd.

Mae costau datblygu y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i ddylunio a phrofi cynnyrch meddalwedd adnabyddadwy ac unigryw, fel costau contractwyr allanol a chostau gweithwyr perthnasol, yn cael eu cydnabod fel asedau anniriaethol pan fyddant yn bodloni meini prawf y FReM, sydd wedi cael ei addasu o IAS 38 Asedau Anniriaethol. Mae gwariant arall nad yw’n bodloni’r meini prawf hyn yn cael ei nodi fel gwariant fel mae’n codi.

Rheolir meddalwedd a ddatblygir yn fewnol gan dîm digidol y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Nes bydd wedi’i gwblhau, caiff y costau eu cynnwys yng nghyfrifon y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ar ôl eu cwblhau, trosglwyddir yr asedau i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’u cydnabod yng nghyfrifon y Swyddfa.

Trothwy cyfalafu prosiectau meddalwedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw £10,000 (gan gynnwys TAW na ellir ei hadennill).

Prisio dilynol

Ar ôl cael eu cydnabod i gychwyn, caiff asedau anniriaethol eu cydnabod ar sail eu gwerth defnydd presennol. Gan nad oes marchnad weithredol yn bodoli ar gyfer asedau anniriaethol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, asesir bod y gwerth presennol yn gost amnewid llai unrhyw amorteiddiad cronedig a cholledion yn sgil amhariadau. Bydd asedau anniriaethol yn cael eu hailbrisio ar bob dyddiad adrodd gan ddefnyddio Mynegai Prisiau’r Cynhyrchwyr a baratoir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Amorteiddiad

Mae oes ddefnyddiol meddalwedd a ddatblygir yn fewnol yn amrywio rhwng dwy a saith mlynedd. Yn unol ag IAS 38 (Asedau Anniriaethol), mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adolygu oes economaidd ddefnyddiol ei hasedau anniriaethol ym mhob blwyddyn ariannol, ac yn asesu am amhariad.

Priodolir amorteiddiad ar sail llinell syth ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu gwerth asedau llai’r amcangyfrif o’r gwerth gweddilliol dros oes economaidd ddefnyddiol yr ased.

1.10. Eiddo, offer a chyfarpar

Cydnabyddiaeth gychwynnol

Caiff asedau eiddo, offer a chyfarpar sy’n costio mwy na’r trothwy cyfalafu o £10,000 (gan gynnwys TAW na ellir ei hadennill) eu trin fel asedau cyfalaf. Pan fydd eitem yn costio llai na’r trothwy cyfalafu ond yn rhan o ased neu ased wedi’i grwpio, y mae cyfanswm ei werth yn fwy na’r lefel gyfalafu, bydd yr eitem yn cael ei thrin fel ased cyfalaf.

Prisio dilynol

Ar ôl cael eu cydnabod i gychwyn, mae pob ased ar wahân i asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu’n cael eu datgan ar sail eu gwerth presennol ac yn cael eu hailbrisio ar bob dyddiad adrodd gan ddefnyddio Mynegai Prisiau’r Cynhyrchwyr a baratoir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Caiff enillion sy’n codi yn sgil ailbrisio eu credydu i’r gronfa ailbrisio wrth gefn a’u dangos yn y gwariant net cynhwysfawr arall, oni bai eu bod yn gwrthdroi gostyngiad ailbrisio ar yr un ased. Caiff gwrthdroadau eu credydu i’r datganiad o wariant net cynhwysfawr i’r un graddau â’r swm blaenorol sydd wedi’i osod fel treuliau, a chaiff unrhyw swm dros ben ei gredydu i’r gronfa ailbrisio wrth gefn.

Mae gostyngiad ailbrisio (ac eithrio yn sgil lleihad parhaol) yn cael ei wrthdroi yn erbyn unrhyw swm presennol a gedwir yn y gronfa ailbrisio wrth gefn mewn perthynas â’r un ased, gydag unrhyw ostyngiad gweddilliol yn cael ei gymryd i’r costau gweithredu net yn y datganiad o wariant net cynhwysfawr.

Bob blwyddyn, mae’r gwahaniaeth rhwng dibrisiant ar sail swm cario wedi’i ailbrisio’r ased a godir ar y Datganiad o wariant net cynhwysfawr a dibrisiant ar sail cost wreiddiol yr ased yn cael ei drosglwyddo o’r gronfa ailbrisio wrth gefn i’r gronfa gyffredinol.

Dibrisiant

Priodolir dibrisiant ar sail llinell syth ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu gwerth asedau llai’r amcangyfrif o’r gwerth gweddilliol yn gyson dros eu hoes ddefnyddiol.

Mae amcangyfrifon o oes ddefnyddiol asedau o fewn yr ystodau a ganlyn:

  • gwelliannau lesddaliad – gweddill cyfnod y les
  • dodrefn a ffitiadau – 10 mlynedd
  • offer a chyfarpar – 5 i 7 mlynedd
  • technoleg gwybodaeth – 3 i 7 mlynedd

Adolygir oes ddefnyddiol asedau a chategorïau asedau bob blwyddyn.

1.11. Lesoedd

Cwmpas a gwaharddiadau – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad

Yn unol ag IFRS 16 Lesoedd, mae contractau, neu rannau o gontractau, sy’n cyfleu’r hawl i reoli’r defnydd o ased am gyfnod o amser, yn cael eu hystyried fel lesoedd.

Caiff contractau ar gyfer gwasanaethau eu gwerthuso i benderfynu a ydynt yn cyfleu’r hawl i reoli’r defnydd o ased a ddynodwyd, gan ymgorffori’r hawl i gael yr holl fanteision economaidd yn sylweddol o’r ased ac i gyfeirio’r defnydd ohono. Os felly, caiff y rhan berthnasol o’r contract ei thrin fel les.

Mae IFRS 16, fel y’u haddaswyd gan FReM, wedi cael eu cymhwyso i lesoedd sydd â dim ystyriaeth neu ystyriaeth nominal (hynny yw, yn is o lawer na gwerth y farchnad) a threfniadau ar gyfer llety rhwng adrannau’r llywodraeth.

Wrth wneud yr asesiadau uchod, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eithrio dau fath o les. Yn gyntaf, y rheini sy’n gysylltiedig ag eitemau gwerth isel, y mae’n eu hystyried fel y rheini lle byddai’r ased sylfaenol yn costio llai na £10,000 yn newydd, ar yr amod nad yw’r eitemau hynny’n ddibynnol iawn ar eitemau eraill neu wedi’u hintegreiddio â nhw. Yn ail, contractau sy’n para llai na 12 mis (sy’n cynnwys y cyfnod na ellir ei ganslo ynghyd ag unrhyw opsiynau ymestyn y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhesymol sicr o’u harfer ac unrhyw opsiynau terfynu y mae’r Swyddfa’n gymharol sicr o beidio â’u hymarfer).

Cydnabyddiaeth gychwynnol – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad

Ar ddechrau les, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ased hawl i ddefnyddio ac atebolrwydd prydles. Mae rhwymedigaeth y les yn cael ei mesur yn ôl gwerth gweddill y taliadau les, a ddiystyrir naill ai gan y gyfradd llog sydd ymhlyg yn y les, neu lle nad oes modd pennu hyn yn rhwydd, cyfradd fenthyca Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Argymhellir y gyfradd hon yn flynyddol gan Drysorlys EF ac mae’n berthnasol i lesoedd sy’n dechrau neu sy’n cael eu hailfesur yn y flwyddyn honno. Trosglwyddodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i IFRS16 yn 2022 i 2023, a gostyngwyd y lesoedd a gyfalafwyd ar gyfradd Trysorlys EF yn 2021, sef 0.91%.

Os yw’r les yn cynnwys opsiynau ymestyn neu derfynu, bydd taliadau’r les ar gyfer y cyfnod na ellir ei ganslo ynghyd ag unrhyw opsiynau ymestyn neu derfynu y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhesymol sicr o’u hymarfer/ o beidio â’u hymarfer. Os bydd contract les wedi dod i ben ond bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i feddiannu wrth drafod ar gyfer cyfnod newydd, mae cyfnod y les wedi cael ei fesur fel yr amcangyfrif o’r amser tan y cytunir ar y contract newydd.

Nid yw mesur taliadau prydles yn cynnwys unrhyw TAW sy’n daladwy, ac mae TAW na ellir ei hadennill yn cael ei gwario ar y pwynt y mae’n ddyledus yn unol â Lifiau IFRIC 21. Pan fydd Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth yn trosglwyddo cost TAW sy’n daladwy i brif landlord, ond nad yw wedi dewis trethu’r eiddo, ni fydd y gost TAW a drosglwyddir yn cael ei chynnwys – mae wedi’i chynnwys yn y rhwymedigaeth lesoedd a gwerth asedau y mae hawl i’w defnyddio.

Mae’r ased hawl i ddefnyddio yn cael ei fesur ar sail gwerth rhwymedigaeth y les, wedi’i addasu ar gyfer: unrhyw daliadau les a wnaed cyn y dyddiad cychwyn; unrhyw gymhellion les a gafwyd; unrhyw gostau cynyddrannol o gael y les; ac unrhyw gostau o gael gwared â’r ased ac adfer y safle ar ddiwedd y les. Fodd bynnag, pan fo’r les yn gofyn am ddim ystyriaeth neu ystyriaeth nominal (a elwir fel arfer yn les ‘rad’), bydd yr ased yn cael ei fesur yn lle hynny ar ei werth defnydd presennol, gyda’r gwahaniaeth rhwng swm cario ymlaen yr ased hawl i ddefnyddio a rhwymedigaeth y les yn cael ei drin fel incwm tybiannol (neu wrth drosglwyddo, credyd i’r Gronfa Gyffredinol).

Mesur dilynol – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad

Bydd rhwymedigaeth y les yn cael ei haddasu ar gyfer cronni llog, ad-daliadau, ailasesiadau ac addasiadau. Mae ailasesu yn golygu ailarfarnu tebygolrwydd yr opsiynau a roddir gan gontract y les bresennol. Er enghraifft, lle nad ydym bellach yn disgwyl ymarfer opsiwn ymestyn, mae addasiadau yn newidiadau i gontract y les. Cyfrifir am ailasesiadau ac addasiadau drwy ddiystyru’r llifoedd arian diwygiedig: defnyddio cyfradd ddisgownt ddiwygiedig pan fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn weddol sicr o arfer neu beidio ag arfer opsiwn ymestyn neu derfynu, neu bod y les yn cael ei haddasu i ddiwygio’r cyfnod pan na ellir ei chanslo, newid cyfnod y les, newid y gydnabyddiaeth neu’r cwmpas; neu ar y gyfradd ostyngol bresennol pan fo symudiad mewn mynegai neu gyfradd a fydd yn addasu’r llifoedd arian, neu bod y swm sy’n daladwy o dan warant gwerth gweddilliol yn newid.

Ar ôl y gydnabyddiaeth gychwynnol, defnyddir y model gwerth teg i fesur yr asedau hawl i’w defnyddio. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried bod y model costau (gan gyfeirio at rwymedigaeth y les) yn brocsi rhesymol ar gyfer gwerth teg, yn achos lesoedd nad ydynt ar gyfer eiddo, ac ar gyfer lesoedd eiddo sy’n llai na phum mlynedd neu lle adolygir rhent yn rheolaidd. Ar gyfer lesoedd eraill, bydd yr ased yn cael ei gario ar swm wedi’i ailbrisio.

Bydd gwerth yr ased yn cael ei addasu ar gyfer amorteiddiad ac amhariad dilynol, ac ar gyfer ailasesu ac addasu rhwymedigaeth y les fel y disgrifir uchod. Os yw swm gostyngiad i’r ased yn fwy na gwerth cario ymlaen yr ased, cydnabyddir y swm dros ben mewn gwariant.

Mae gwariant ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn cynnwys llog ar y rhwymedigaeth lesoedd a thâl amorteiddiad llinell syth ar yr ased hawl i ddefnyddio dros oes y les, ynghyd ag unrhyw amhariad ar yr ased hawl i ddefnyddio ac unrhyw newid mewn taliadau les amrywiol, na chafodd eu cynnwys wrth fesur taliadau’r les yn ystod y cyfnod y digwyddodd y digwyddiad sbarduno. Mae taliadau rhent mewn perthynas â lesoedd eitemau gwerth isel, neu gyda chyfnod o lai na 12 mis, hefyd yn cael eu gosod fel treuliau.

Cyllid a lesoedd gweithredol – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesydd

Pan fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gweithredu fel lesydd, bydd y trefniant yn cael ei asesu i benderfynu a yw’n les cyllid, sef pan fydd y risgiau a’r manteision sy’n gysylltiedig â pherchnogaeth o ased sylfaenol yn cael eu trosglwyddo’n sylweddol i’r lesydd. Ar gyfer y lesoedd hyn, mae’r ased yn cael ei ddadgydnabod ac mae swm derbyniadwy yn cael ei gydnabod, gyda’r llog sydd wedi cronni yn cael ei drin fel incwm dros ei oes. Ar gyfer pob les arall, cydnabyddir incwm rhent ar sail llinell syth.

1.12. Offerynnau ariannol

Offerynnau Ariannol IFRS 7: Mae datgeliadau’n gofyn am ddatgelu’r rôl y mae offerynnau ariannol wedi’i chwarae yn ystod y flwyddyn o ran creu neu newid y risg a wynebir gan endid wrth gyflawni ei fusnes. Nodir hyn yn Nodyn 8 y datganiadau ariannol hyn.

1.13. Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Mae arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod yn cynnwys balansau banc sy’n cael eu dal gyda banciau masnachol, gan gynnwys y rheini a weinyddir drwy Wasanaeth Bancio’r Llywodraeth.

1.14. Darpariaethau

Mae’r darpariaethau’n rhwymedigaethau lle mae’r amseriad neu’r swm yn ansicr. Mae darpariaethau’n cael eu cydnabod pan fydd rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol gyfredol ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, o ganlyniad i ddigwyddiadau yn y gorffennol, y mae’n debygol y bydd angen all-lif o fuddion economaidd i setlo’r rhwymedigaeth, ac y gellir gwneud amcangyfrif dibynadwy ohono ar gyfer swm y rhwymedigaeth. Mae’r darpariaethau’n adlewyrchu’r amcangyfrif gorau o’r gwariant sy’n ofynnol i setlo’r rhwymedigaeth. Os yw’r effaith yn sylweddol, diystyrir yr amcangyfrif o’r llif arian. Priodolir effaith disgownt yn uniongyrchol i’r datganiad o wariant net cynhwysfawr.

2. Incwm

  2022
i 2023
2021
i 2022
  £000 £000
Incwm ffioedd gros    
Atwrniaethau arhosoly 79,434 61,147
Atwrniaethau parhaus 522 577
Goruchwylio dirprwyon 11,636 12,623
Penodi dirprwyon 1,029 893
Arall 565 553
  93,186 75,793
Esemptiadau neu ddileu ffioedd    
Atwrniaethau arhosol (4,646) (4,038)
Atwrniaethau parhaus (10) (10)
Goruchwylio dirprwyon (2,222) (2,392)
Penodi dirprwyons (161) (169)
Ildio ffioedd yn ôl disgresiwn (902) (608)
  (7,941) (7,217)
Cyfanswm 85,245 68,576

3. Costau staff a chostau eraill

  2022
i 23
2021
i 22
  £000 £000
Costau staff    
Cyflogau wythnosol a misol 44,761 40,930
Costau nawdd cymdeithasol 3,528 2,898
Costau pensiwn eraill 9,209 7,895
57,498 51,723  
Costau gweithredu eraill    
Gwasanaethau ymwelwyr 2,770 2,143
Postio 5,134 3,698
Gwasanaethau a rennir 1,485 391
Adeiladau, cynnal a chadw a chyfleustodau 2,531 2,630
Lesoedd gwerth isel a thymor byr (1) 1,107
Llog lest 67 46
Nwyddau traul y swyddfa 466 258
Gwasanaethau proffesiynol 437 233
Hyfforddiant a chostau eraill sy’n gysylltiedig â staff 262 182
Teithio, cynhaliaeth a lletygarwch 129 57
Diddymu symiau masnachu a symiau derbyniadwy eraill na ellir eu casglu 546 63
Costau eraill 1,128 705
Costau nad ydynt yn arian parod    
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ailgodi tâl tybiannol 11,079 11,324
Ffi archwilio allanol tybiannol 74 67
Cynnydd/(gostyngiad) mewn darpariaeth drwgddyledion (759) 419
Symudiad yn y ddarpariaeth ar gyfer costau cyfreithiols - (448)
  25,348 22,875
Taliadau dibrisiant, amorteiddiad ac amhariad    
Amorteiddiad asedau anniriaethol 1,674 1,319
Dibrisiant eiddo, offer a chyfarpar 406 202
Amorteiddiad asedau hawl i ddefnyddio 2,301 1,105
Ailbrisio gwrthdroad amhariadau blaenorol (79) -
Amhariad ar asedau anniriaethol - 95
4,302 2,721  
Cyfanswm 87,148 77,319

4. Adennill costau

Mae’n rhaid i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn unol â Rheoli Arian Cyhoeddus, ddatgelu canlyniadau ar gyfer meysydd y gweithgareddau a wnaeth yn ystod y flwyddyn ariannol, lle codwyd ffioedd a thaliadau. I gael manylion am ffioedd a chymorthdaliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd ar gael i gwsmeriaid, ewch i www.gov.uk/government/organisations/office-of-the-public-guardian.

Darperir cymhorthdal er mwyn gwneud yn siŵr na wrthodir gwasanaethau i gleientiaid am nad ydynt yn gallu fforddio’r ffioedd gofynnol.

  2022
i 23
2021
i 22
  £000 £000
Incwm (85,245) (68,576)
Gwariant 87,148 77,319
Diffyg ariannol net 1,903 8,743
  % %
Adennill costau 97.8 88.7
(Tan-adennill)/gor-adennill yn erbyn goddefiant o 5% 2.8 (6.3)

Mae Adran 180 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn caniatáu i’r Arglwydd Ganghellor, gyda chydsyniad Trysorlys EF, i osod ffi sy’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth hwnnw. Ers mis Ebrill 2017, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi defnyddio’r pŵer hwn i godi ffi uwch ar gyfer cofrestru atwrniaethau i dalu am gostau dileu ffioedd ac esemptiadau rhag talu ffioedd ac i sybsideiddio costau gweithredu gwasanaethau goruchwylio.

Mae rhagor o wybodaeth am berfformiad yn erbyn y targed adennill costau (fel y cytunwyd arno gyda Thrysorlys EF ac yn unol â dirprwyaeth y gyllideb gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder) ar gael yn yr adroddiad atebolrwydd ac archwilio seneddol.

5. Asedau anniriaethol

       
Meddalwedd Asedau
wrthi’n cael
eu hadeiladu
Cyfanswml  
  £000 £000 £000
Cost neu brisiant      
Ar 1 Ebrill 2022 18,625 - 18,625
Trosglwyddiad o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder - 2,466 2,466
Ail-gategoreiddio 2,466 (2,466) -
Gwarediadau (1,935) - (1,935)
Ailbrisio 537 - 537
Ar 31 Mawrth 2023 19,693 - 19,693
Amortisation      
Ar 1 Ebrill 2022 11,081 - 11,081
Priodolwyd yn ystod y flwyddyn 1,674 - 1,674
Gwarediadau (1,935) - (1,935)
Ailbrisio 303 - 303
Ar 31 Mawrth 2023 11,123 - 11,123
Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2023 8,570 - 8,570

Yr unig ased anniriaethol unigol sylweddol sy’n cael ei ddal gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw Sirius, system rheoli gwaith achos y Swyddfa. Gan fod yr ased hwn yn cael ei ddatblygu’n fewnol ac wedi esblygu dros amser, cyfalafwyd nifer o wahanol gydrannau.

Ar 31 Mawrth 2023, gwerth net cydrannau Sirius ar y llyfrau oedd £5.7m. Mae cyfnod amorteiddio o bum mlynedd yn weddill ar y brif gydran.

  Meddalwedd Asedau
wrthi’n cael
eu hadeiladu
Cyfanswml
  £000 £000 £000
Cost neu brisiant      
Ar 1 Ebrill 2021 10,586 - 10,586
Trosglwyddiad o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder - 8,292 8,292
Ail-gategoreiddio 8,292 (8,292) -
Ailbrisio (8)   (8)
Amhariad (245) - (245)
Ar 31 Mawrth 2022 18,625 - 18,625
Amorteiddiad      
Ar 1 Ebrill 2021 9,912 - 9,912
Priodolwyd yn ystod y flwyddyn 1,319 - 1,319
Amhariad (150)   (150)
Ar 31 Mawrth 2022 11,081 - 11,081
Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2022 7,544 - 7,544

6. Eiddo, offer a chyfarpar

    Gwelliannau
les
Offer
TG
Dodrefn,
ffitiadau
ac offer
Asedau
wrthi’n cael
eu hadeiladu
Cyfanswml
    £000 £000 £000 £000 £000
Cost neu brisiant            
Ar 1 Ebrill 2022   300 1,198 1,087 1,352 3,937
Ychwanegiadau   - 194 - 732 926
Ail-gategoreiddios   2,032 - 52 (2,084) -
Gwarediadau   - - (312) - (312)
Ailbrisio   62 34 91 - 187
Ar 31 Mawrth 2023   2,394 1,426 918 - 4,738
Dibrisian            
Ar 1 Ebrill 2022   - 1,162 726 - 1,888
Priodolwyd yn ystod y flwyddyn   281 28 97 - 406
Gwarediadau   - - (312) - (312)
Ailbrisio   (127) 33 53 - (41)
Ar 31 Mawrth 2023   154 1,223 564 - 1,941
Gwerth net ar y
llyfrau ar 31 Mawrth 2023
  2,240 203 354 - 2,797

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n berchen ar y holl eiddo, offer a chyfarpar, ac nid yw’n eu prydlesu.

    Gwelliannau
les
Offer
TG
Dodrefn,
ffitiadau
ac offer
Asedau
wrthi’n cael
eu hadeiladu
Cyfanswml
    £000 £000 £000 £000 £000
Cost neu brisiant            
Ar 1 Ebrill 2021 2021   386 1,214 1,006 - 2,606
Ychwanegiadau   - - 49 1,352 1,401
Ailbrisio   (86) (16) 32 - (70)
Ar 31 Mawrth 2022   300 1,198 1,087 1,352 3,937
Dibrisiant            
Ar 1 Ebrill 2021   - 1,168 616 - 1,784
Priodolwyd yn ystod y flwyddyn   104 10 88 - 202
Ailbrisio   (104) (16) 22 - (98)
Ar 31 Mawrth 2022   - 1,162 726 - 1,888
Gwerth net ar
y llyfrau ar 31 Mawrth 2022
  300 36 361 1,352 2,049

7. Lesoedd

Asedau hawl i ddefnyddio

  2022
i 23
2021
i 22
  £000 £000
Cost neu brisiant    
Ar 1 Ebrill 10,255 2,139
Ychwanegiadau 336 8,116
Ar 31 Mawrth 10,591 10,255
Amorteiddiad    
Ar 1 Ebrill 1,105 -
Priodolwyd yn ystod y flwyddyn 2,301 1,105
Ar 31 Mawrth 3,406 1,105
Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 7,185 9,150

Mae asedau hawl i ddefnyddio Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lesoedd ar y swyddfeydd yn Nottingham a Birmingham. Daw’r lesoedd hyn i ben ym mis Medi 2025 a mis Mawrth 2026 yn y drefn honno.

Rhwymedigaethau lesu

    31 Mawr
2023
31 Mawrth
2022
    £000 £000
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn   2,754 2,895
Yn hwyrach na blwyddyn a heb fod yn hwyrach na phum mlynedd   4,233 6,630
Rhwymedigaethau gros   6,987 9,525
Llai elfen llog   (77) (144)
Gwerth presennol y rhwymedigaethaus   6,910 9,381

Yn Nodyn 12, cyflwynir dadansoddiad o lif arian gostyngol sy’n ymwneud ag atebolrwydd lesoedd, rhwng rhwymedigaethau cyfredol ac anghyfredol.x

Symiau a gydnabyddir yn y datganiad o wariant net cynhwysfawr

  2022
i 23
2021
i 22
  £000 £000
Amorteiddiad 2,301 1,105
Costau llog 67 46
Cyfanswm 2,368 1,151

Symiau a gydnabyddir yn y datganiad llifau arian

  2022
i 23
2021
i 22
  £000 £000
Ad-dalu cyfalaf ar lesoedd 2,471 -
Costau llog o fewn y gost gweithredu 67 46
Costau llog addasiad nad yw’n arian parod - (46)
Cyfanswm 2,538 -

8. Offerynnau ariannol

Offerynnau Ariannol IFRS 7: Mae datgeliadau’n gofyn am ddatgelu’r rôl y mae offerynnau ariannol wedi’i chwarae yn ystod y flwyddyn o ran creu neu newid y risg a wynebir gan endid wrth gyflawni ei fusnes.

Gan fod gofynion arian parod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu bodloni drwy’r broses amcangyfrifon, nid yw offerynnau ariannol yn chwarae cymaint o rôl wrth greu a rheoli risg ag y byddent mewn corff heb fod yn y sector cyhoeddus.

Caiff symiau derbyniadwy eu prisio o dan y model colli credyd disgwyliedig a nodir yn IFRS 9. Cydnabyddir symiau derbyniadwy ar sail amhariad a cholled oes (cam tri o dan IFRS 9). Nodir y dechneg amcangyfrif a ddefnyddir i brisio symiau derbyniadwy yn Nodyn 9, ynghyd â dadansoddiad o sensitifrwydd.

Mae’r holl arian parod yn cael ei ddal yng Ngwasanaeth Bancio’r Llywodraeth. Pan fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynhyrchu gwarged arian parod, caiff hyn ei ildio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystod y flwyddyn.

Mae gwerth cario ymlaen asedau a rhwymedigaethau ariannol, ac eithrio symiau derbyniadwy a symiau taladwy gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder fel a ganlyn:

    31 Mawrth
2023
31 Mawrth
2022
    £000 £000
Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod – Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth   14,108 8,490
Masnach a symiau derbyniadwy eraill   11,155 10,046
Masnach a symiau taladwy eraill   (40,278) (34,650)
Rhwymedigaethau ariannol eraill   (6,910) (9,381)
Cyfanswm   (21,925) (25,495)

Mae £31.858 miliwn o rwymedigaethau contract wedi cael eu cynnwys mewn symiau masnach taladwy a symiau taladwy eraill, sy’n cyfrif am incwm atwrneiaeth sydd wedi’i ohirio gan nad yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi prosesu’r ceisiadau cysylltiedig eto (31 Mawrth 2022: £25.838 miliwn).

9. Masnach a symiau derbyniadwy eraill

  31 Mawrth
2023
31 Mawrth
2022
  £000 £000
Symiau masnach derbyniadwy 4,907 4,101
Asedau contracts 11,327 11,607
Amhariad ar gyfer drwgddyledion a dyledion amheus (5,746) (6,455)
10,488 9,253  
Symiau TAW derbyniadwy 81 77
Symiau derbyniadwy staff 490 415
Swm sy’n ddyledus gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder 182 282
Symiau sy’n ddyledus gan adrannau eraill y llywodraeth 29 280
Rhagdaliadau 67 21
Cyfanswm 11,337 10,328

Gellir casglu holl symiau derbyniadwy Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fewn blwyddyn.

Mae’r amhariad ar ddrwgddyledion a dyledion amheus fel a ganlyn:

  31 Mawrth
2023
31 Mawrth
2022
  £000 £000
Drwgddyledion a dyledion amheus 4,392 5,150
Darpariaeth canslo ffioedd 132 93
Darpariaeth dileu ffioedd ac esemptiadau 1,222 1,212
Cyfanswm 5,746 6,455

Codir tâl am y symudiad yn y ddarpariaeth dileu ffioedd ac esemptiadau yn erbyn incwm.

Amhariad ar gyfer drwgddyledion a dyledion amheus

Mae amcangyfrif y ddarpariaeth ar gyfer drwgddyledion a dyledion amheus yn cynnwys:

  • dyledion sy’n heneiddio ar sail yr anfoneb gynharaf nad yw’r cwsmer wedi’i thalu
  • grwpio dyledion ar sail statws yr achos fel rhai ‘byw’ neu ‘wedi’u ‘terfynu’
  • amharu ar grwpiau dyledion yn ôl canrannau sy’n adlewyrchu gweithgarwch yn y gorffennol a disgwyliadau o ran perfformiad wrth gasglu dyledion yn y dyfodol

Dyma’r grwpiau oedran dyled a’r canrannau amhariad a ddefnyddiwyd:

  Mwy na thair
blynedd
Rhwng dwy
a thair
blynedd
Rhwng
blwyddyn a
dwy flynedd
Llai na
blwyddyn
Achosion byw        
31 Mawrth 2023        
Lleyg 65 25 25 7.5
Goruchwylwyr Corff Proffesiynol, 50 10 10 5
Corff cyhoeddus 65 30 30 12.5
31 Mawrth 2022 100 50 37.5 10
Achosion a derfynwyd        
31 Mawrth 2023 90 80 80 70
31 Mawrth 2022 100 100 90 50

Adolygir y grwpiau a’r canrannau hyn yn flynyddol. Mae’r canrannau a gymhwyswyd yn seiliedig ar y data sydd ar gael a gwybodaeth y rheolwyr am y sylfaen cwsmeriaid. Er mwyn asesu colledion credyd disgwyliedig yn y dyfodol, rhaid defnyddio technegau amcangyfrif a barn rheolwyr: efallai na fydd y colledion credyd gwirioneddol yr un fath â’r ddarpariaeth a wnaed.

Pe bai canrannau’r amhariadau ar 31 Mawrth 2022 wedi cael eu cymhwyso i’r dyledion a ddaliwyd ar 31 Mawrth 2023, byddai’r amhariad wedi bod yn £6.721 miliwn, cynnydd yn erbyn yr amhariad o £1.252 miliwn ar 31 Mawrth 2023. Pe bai canrannau’r amhariadau ar 31 Mawrth 2023 wedi cael eu cymhwyso i’r dyledion a ddaliwyd ar 31 Mawrth 2022, byddai’r amhariad wedi bod yn £5.325 miliwn, gostyngiad yn erbyn yr amhariad o £1.130 miliwn ar 31 Mawrth 2022.

Cynhaliwyd dadansoddiad o sensitifrwydd, gan ddangos yr effeithiau posibl canlynol o ran cynnydd/(gostyngiad) yn y canrannau amhariad:

Cynnydd/(gostyngiad) yn y ganran amhariad -10%* -5% +5% +10%
Cynnydd/(gostyngiad) yn y ddarpariaeth £miliwn £miliwn £miliwn £miliwn
Achosion byw (0.9) (0.6) 0.6 1.1
Achosion a derfynwyd (0.3) (0.2) 0.2 0.3
Cyfanswm (1.2) (0.8) 0.8 1.4

*Darperir achosion byw ar gyfer dirprwyon lleyg a phroffesiynol o dan un flwyddyn yn erbyn llai na 10%. Mae’r cyfrifiad hwn yn tybio na ddarperir ar eu cyfer.

Darpariaeth esemptiadau a dileu ffioedd

Bydd ceisiadau i ddileu ffioedd ac esemptiadau yn cael eu derbyn a’u caniatáu ar gyfer rhai o’r ffioedd y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi anfonebu neu wedi eu cronni. Felly, mae darpariaeth yn cael ei chydnabod yn y symiau derbyniadwy ar sail lefelau dileu ffioedd ac esemptiadau a ganiatawyd yn y gorffennol.

Tybir bod nifer yr achosion hanesyddol o ddileu ffioedd ac esemptiadau yn gynrychioliadol o nifer yr achosion yn y dyfodol.

10. Arian parod a chyfwerth ag arian parod

  2022
i 23
2021
i 22
  £000 £000
Ar 1 Ebrill 8,490 6,429
Newid net yn y balans 5,618 2,061
Ar 31 Mawrth 14,108 8,490

Mae holl arian parod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei ddal yng Ngwasanaeth Bancio’r Llywodraeth.

11. Masnach a symiau taladwy eraill

  31 Mawrth
2023
31 Mawrth
2022
  £000 £000
Symiau masnach taladwy 316 221
Trethi a nawdd cymdeithasol sy’n daladwy 776 739
Swm sy’n ddyledus i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder 1,170 1,568
Symiau taladwy eraill 1,576 1,547
Croniadau 5,752 6,305
Rhwymedigaethau contract 31,858 25,838
Cyfanswm 41,448 36,218

Mae’r holl symiau taladwy i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ddyledus o fewn blwyddyn.

Mae croniadau’n cynnwys croniadau cyfalaf o £0.007 miliwn (2022 i 2023: £1.243 miliwn).

Roedd symudiadau atebolrwydd contract drwy gydol y flwyddyn fel a ganlyn:

  2022
i 23
2021
i 22
  £000 £000
Ar 1 Ebrill 25,838 11,573
Incwm atwrneiaeth a gydnabuwyd yn ystod y flwyddyn (75,300) (57,676)
Incwm gohiriedig atwrniaethau 81,320 71,941
Ar 31 Mawrth 31,858 25,838

12. Rhwymedigaethau ariannol eraill

  31 Mawrth
2023
31 Mawrth
2022
  £000 £000
Rhwymedigaethau lesoedd – cyfredol 2,707 2,828
Rhwymedigaethau lesoedd – anghyfredol 4,203 6,553
Cyfanswm 6,910 9,381

Mae rhagor o wybodaeth am rwymedigaethau lesoedd a’r asedau hawl i ddefnyddio cysylltiedig ar gael yn Nodyn 7.

13. Darpariaethau

  Dadfeiliadau Arall Cyfanswm
  £000 £000 £000
Ar 1 Ebrill 2022 2,051 235 2,286
Darparwyd yn ystod y flwyddyn 336 - 336
Symiau a wrthdrowyd heb eu defnyddio - - -
Ar 31 Mawrth 2023 2,387 235 2,622
Ar 1 Ebrill 2021 1,249 263 1,512
Darparwyd yn ystod y flwyddyn 1,222 - 1,222
Symiau a wrthdrowyd heb eu defnyddio (420) (28) (448)
Ar 31 Mawrth 2022 2,051 235 2,286

Dyma’r amseroedd disgwyliedig ar gyfer llif arian:

  Dadfeiliadau Arall Cyfanswm
  £000 £000 £000
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn - - -
Rhwng un a phum mlynedd 2,387 235 2,622
Ar 31 Mawrth 2023 2,387 235 2,622
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn - 235 235
Rhwng un a phum mlynedd 2,051 - 2,051
Ar 31 Mawrth 2022 2,051 235 2,286

Dadfeiliadau

Mae’r ddarpariaeth dadfeiliadau yn ymwneud ag amcangyfrif o gostau dadfeiliadau ar swyddfeydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Nottingham a Birmingham ar ddiwedd telerau eu les.

Arall

Mae darpariaethau eraill yn cynnwys darpariaeth ar gyfer hawliadau cyfreithiol. Mae darpariaeth wedi’i gwneud ar gyfer pob hawliad hysbys lle mae cyngor cyfreithiol yn dangos ei bod yn fwy tebygol na pheidio y bydd yr hawliad yn llwyddiannus ac y gellir amcangyfrif swm yr hawliad yn ddibynadwy.

14. Ymrwymiadau

  31 Mawrth
2023
31 Mawrth
2022
  £000 £000
Ymrwymiadau cyfalaf - 1,567

Ar 31 Mawrth 2023, nid oedd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus unrhyw ymrwymiadau sylweddol o dan gontractau eraill nad oes modd eu canslo (31 Mawrth 2022: dim).

15. Rhwymedigaethau ac asedau digwyddiadol

Ar 31 Mawrth 2023, nid oedd unrhyw rwymedigaethau digwyddiadol (31 Mawrth 2022: dim).

16. Trafodion partïon cysylltiedig

Un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Ystyrir y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn barti cysylltiedig. Yn ystod y cyfnod, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cael nifer o drafodion sylweddol gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’r trafodion sylweddol hyn yn cael eu datgelu ar wahân yn y prif ddatganiadau a’r nodiadau.

Mae ad-daliad y Weinyddiaeth Gyfiawnder a ddatgelwyd yn Nodyn 3 yn ddosraniad o orbenion gan gynnwys Adnoddau Dynol, cyllid, TG ac ystadau i holl adrannau ac asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar sail dybiannol.

Roedd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus drafodion hefyd gydag adrannau ac endidau eraill y llywodraeth, gan gynnwys trafodion gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi a Phrif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil mewn perthynas â chyfraniadau yswiriant gwladol a phensiwn cyflogwyr.

Nid oes unrhyw aelod o fwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, staff rheoli allweddol na phartïon cysylltiedig eraill wedi cynnal unrhyw drafodion o bwys gyda’r Swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol.

17. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Yn unol â gofynion IAS 10 Digwyddiadau ar ôl y Cyfnod Adrodd, ystyrir digwyddiadau hyd at y dyddiad yr awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol, a ddehonglir fel dyddiad tystysgrif ac adroddiad y Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol.

Nid oedd materion perthnasol i sôn amdanynt.

Atodiad

Targedau perfformiad

Dangosydd effaith: amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd ar gyfer atwrniaethau

Y targed gwirioneddol o ran amser clirio cyfartalog yw 40 diwrnod gwaith.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn cyfrifo nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd a gymerir i gofrestru ac anfon pob atwrneiaeth mewn cyfnod adrodd penodol. Dyma’r amser a gymerir rhwng dyddiad y cais a’r dyddiad anfon.

Dull cyfrifo

O’r holl atwrniaethau gyda dyddiad anfon o fewn cyfnod adrodd, caiff nifer y diwrnodau gwaith (ac eithrio gwyliau banc a phenwythnosau) rhwng y ‘dyddiad anfon’ a’r ‘dyddiad derbyn’ eu cyfrif ac yna cynhyrchir cyfartaledd ar sail nifer y ceisiadau.

‘Dyddiad derbyn’ yw’r diwrnod y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y cais ynghyd â thaliad dilys, neu, fel arall, dyddiad y penderfyniad ar gyfer cais llwyddiannus am esemptiad neu ddileu ffi. Dyma’r adeg y bydd yr OPG yn dechrau prosesu’r cais.

‘Dyddiad anfon’ yw’r dyddiad y caiff yr atwrneiaeth gofrestredig ei hanfon fel rhan olaf y broses, sydd wedyn yn dangos bod y cais wedi’i gofrestru ar ein systemau rheoli achosion mewnol.

Ffynhonnell data

Systemau rheoli achosion mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2023

Cyfartaledd amser clirio gwirioneddol o 91 diwrnod gwaith (ar gyfer Atwrniaethau Arhosol ac Atwrniaethau Parhaus) yn erbyn targed o 40 diwrnod gwaith.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: canolfan cyswllt cwsmeriaid

Y ganran darged ar gyfer galwadau a atebir o fewn pum munud yng nghanolfan cyswllt cwsmeriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw 90%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn mesur cefnogaeth ac arweiniad amserol a chywir ar gyfer holl wasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a chyfeirio at wasanaethau’r Llys Gwarchod lle bo hynny’n briodol.

Dull cyfrifod

Nifer y galwadau a atebwyd o fewn pum munud a nifer y galwadau a gafodd eu gadael o fewn pum munud wedi’u rhannu â chyfanswm y galwadau a atebwyd a chyfanswm nifer y galwadau a gafodd eu gadael. Mae galwadau sy’n cael eu hailgyfeirio y tu allan i’r cwmpas yn cael eu tynnu o gyfanswm y galwadau er mwyn osgoi eu cyfrif ddwywaith gan fod y rhain yn cael eu hadrodd ar wahân pan fo angen

Ffynhonnell data

System rheoli data teleffoni Swyddfa’r Gwarcheidwaid Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2023

Canran y galwadau a atebwyd o fewn pum munud oedd 31% yn erbyn targed o 90%.

Dangosydd effaith: Arolygon digidol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fodlonrwydd cwsmeriaid

Y ganran darged o gwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â gwasanaethau digidol Swyddfa’r Gwarchiedwad Cyhoeddus yw 80%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd effaith hwn yn helpu i sicrhau ein bod yn datblygu ein gwasanaethau digidol i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.

Dull cyfrifo

Nifer y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau digidol wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg sy’n ateb y cwestiwn hwn.

Ffynhonnell data

Arolwg boddhad cwsmeriaid - adnodd digidol atwrniaethau arhosol.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2023

Sgôr arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 89% ar gyfer ein gwasanaeth ‘defnyddio Atwrneiaeth Arhosol’, 86% ar gyfer ein gwasanaeth ‘Gwneud Atwrneiaeth Arhosol’, ac 80% ar gyfer ein gwasanaeth ‘cwblhau adroddiad dirprwy’.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – gwasanaethau atwrneiaeth

Canran darged y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau atwrneiaeth yw 80%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn ein helpu i ddeall anghenion ein cwsmeriaid a chanfod tueddiadau er mwyn i ni allu gwella gwasanaethau’n barhaus.

Dull cyfrifo

Nifer sydd wedi ymateb eu bod yn ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg.

Ffynhonnell data

Arolygon o fodlonrwydd cwsmeriaid – atwrniaethau arhosol.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2023

Sgôr yr arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 60%.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – gwasanaethau dirprwyaeth

Canran darged y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau dirprwyaeth yw 80%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn ein helpu i ddeall anghenion ein cwsmeriaid a chanfod tueddiadau er mwyn i ni allu gwella gwasanaethau’n barhaus.

Dull cyfrifo

Nifer sydd wedi ymateb eu bod yn ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg.

Ffynhonnell data

Arolygon o fodlonrwydd cwsmeriaid - dirprwyaeth.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2023

Sgôr yr arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 75%.

Dangosydd effaith: goruchwylio dirprwyon

a) Mae’r targed amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol o fewn 40 diwrnod gwaith.

b) Mae’r targed amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol o fewn 15 diwrnod gwaith . c)Mae’r targed ar gyfer adroddiadau blynyddol heb eu cwblhau am dros 98 diwrnod calendr yn 4.5% neu lai.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu cefnogaeth gymesur a phriodol i bob dirprwy

Dull cyfrifo

a) Nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd rhwng ‘dyddiad dyledus’ yr adroddiad (40 diwrnod gwaith ar ôl pen-blwydd y gorchymyn llys) a’r dyddiad y daeth yr adroddiad i law Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

b) Nifer cyfartalog y diwrnodau gwaith rhwng y dyddiad y daeth adroddiad blynyddol i law a’r dyddiad y cafodd ei adolygu.

c) Nifer yr achosion gydag o leiaf un adroddiad heb ei gwblhau am fwy na 98 diwrnod, neu nifer yr achosion sydd wedi cael o leiaf un adroddiad heb ei gwblhau.

Ffynhonnell data

Systemau rheoli achos mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2023

a) Amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol oedd 34 diwrnod gwaith.

b) Adolygwyd pob adroddiad blynyddol o fewn 15 diwrnod, gyda chyfartaledd o 14 diwrnod gwaith.

c) Roedd 2.66% o adroddiadau blynyddol heb eu cwblhau am dros 98 diwrnod calendr.

Dangosydd effaith: ymchwiliadau

a) Y targed yw asesu risgiau 95% o bryderon a leisiwyd cyn pen dau ddiwrnod gwaith.

b) Y targed yw i 95% o asesiadau risg diogelu gyrraedd canlyniad terfynol cyn pen pum diwrnod gwaith.

c) Y targed yw cwblhau pob ymchwiliad cyn pen 70 diwrnod gwaith.

d) Y targed yw’r amser cyfartalog a gymerir i roi camau sy’n eiddo i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar waith o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle barnwyd bod angen achos llys o fewn 35 diwrnod gwaith.

e) Y targed yw’r amser cyfartalog a gymerir i roi camau sy’n eiddo i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar waith o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle barnwyd nad oes angen achos llys o fewn 25 diwrnod gwaith.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn canolbwyntio ar gyfrifoldeb Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddiogelu oedolion agored i niwed. (a) a (b) bydd y Swyddfa yn cynnal proses asesu risg i benderfynu ar y canlynol:

i) a oes gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus awdurdodaeth iymchwilio i bryderon ac, os nad oes ganddo, i gyfeirio’r pryder at yr asiantaeth berthnasol

ii) a yw’r person agored i niwed mewn perygl uniongyrchol o ran eu lles personol, eu cyllid neu eu heiddo, a pha gamau y mae angen eu cymryd ar unwaith

iii) a ellir ymchwilio i’r pryder dros gyfnod hwy

c) Mae ymchwiliad yn cael ei ystyried yn un sydd wedi dod i ben os:

i) oes adroddiad ysgrifenedig ffurfiol wedi’i lofnodi gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus

ii) cytunir i gymeradwyo cais llys (lle mae hyn cyn adroddiad gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus

Dull cyfrifo

a) Mae dau ddiwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder. Diwrnod un yw’r diwrnod gwaith y daw’r pryder i law.

b) Mae pum diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Swyddfa yn derbyn y pryder. Diwrnod un yw’r diwrnod gwaith y daw’r pryder i law.

c) Mae’r cyfnod o 70 diwrnod gwaith yn dechrau ar y dyddiad y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder sy’n arwain at ymchwiliad.

d) Mae’r cyfnod o 35 diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo’r adroddiad. Diwrnod un fydd y diwrnod mae’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

e) Mae’r cyfnod o 25 diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo’r adroddiad. Diwrnod un fydd y diwrnod mae’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

Ffynhonnell data

Asesir risg pob cwyn a phryder ac ystyrir awdurdodaeth y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Cofnodir atgyfeiriadau ac maent yn cynnwys y canlynol:

  • y dyddiad y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder

  • y dyddiad y mae’r tîm ymchwilio yn derbyn y pryder

  • dyddiad yr asesiad risg

  • amser yr asesiad risg

  • dyddiad cwblhau’r ymchwiliad

  • canlyniad y cais i gyfnod y Llys Gwarchod (diwrnodau gwaith)

  • cyfnod ymchwilio (cyn yr adroddiad)

  • cyfnod ymchwilio (ar ôl yr adroddiad)

  • argymhellion- dyddiad cymeradwyo ei gau

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2023

a) roedd 86% o bryderon yn destun asesiad risg o fewn dau ddiwrnod gwaith. 7

b) roedd 85% o bryderon yn cyrraedd y canlyniad terfynol cyn pen pum diwrnod gwaith. 8

c) Yr amser cyfartalog i gwblhau pob ymchwiliad oedd 78 diwrnod gwaith.

d) Yr amser cyfartalog i gwblhau pob argymhelliad lle mae achos llys wedi cael ei ystyried yn angenrheidiol oedd 31.6 diwrnod gwaith.

e) Yr amser cyfartalog i gwblhau pob argymhelliad lle na farnwyd bod achos llys yn hanfodol oedd 16.2 diwrnod gwaith.

  1. cofnodwyd lefel y perfformiad ar gyfer y targedau hyn yn 86% a 85% oherwydd problem TG dechnegol yn ystod y flwyddyn, am gyfnod o dri mis, gan effeithio ar y gallu i gofnodi’n gywir yn erbyn y targedau hyn. Fe wnaethom wiriadau â llaw i sicrhau ein bod yn asesu risg achosion, eu brysbennu o fewn y targed, ac nad oedd neb mewn perygl. Aseswyd risg cyfanswm o 2,700 o bryderon yn ystod y cyfnod o dri mis. Ar ôl i’r system TG gael ei thrwsio, cofnodwyd ffigurau misol o 98%, sy’n uwch na’r lefel perfformiad a dargedwyd sef 95%.

Pwrpas

iii) mae rheolwr cydymffurfiaeth yn cytuno i ddirwyn yr ymchwiliad i ben oherwydd credir bod adroddiad i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ddiangen

iv) bydd y cleient yn marw (a’r rheolwr cydymffurfiaeth yn penderfynu bod digon o waith wedi’i wneud ar yr achos i fod yn deilwng o ddosbarthiad)

(d) ac (e) Mae argymhelliad yn cael ei ystyried yn un sydd wedi dod i ben os:

i) gwneir cais i’r Llys Gwarchod, lle bod hyn o ganlyniad i argymhelliad a gymeradwywyd gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus ii) mae achos yn cael ei gymeradwyo ar gyfer ei gau dan yr amgylchiadau canlynol:

  • ni fernir bod angen achos llys

  • mae’r ymchwilydd yn rhannu canlyniad yr ymchwiliad ac unrhyw ofynion pellach i’r atwrnai/dirprwy - ni fydd hyn yn cynnwys monitro’r achos yn ddiweddarach

  • mae’r dirprwy yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: cwynion

Y targed yw ymateb i 90% o holl gwynion cwsmeriaid cyn pen 10 diwrnod gwaith o’u derbyn.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig o ran helpu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddeall i ba raddau rydym yn cyflawni disgwyliadau ein cwsmeriaid.

Dull cyfrifo

Bob mis, mae rheolwr cwynion haen 2 yn coladu nifer y cwynion y dylid delio â nhw yn ystod y mis (‘cyfanswm gyda tharged yn y mis’) a nifer y cwynion a gwblhawyd yn unol â’r targed (‘cyfanswm yr ymatebwyd iddynt yn unol â’r targed’).

Cyfrifir y dangosydd gyda chymorth y fformiwla ganlynol:

Cwynion a gwblhawyd yn unol â’r targed/cwynion y dylid delio â nhw x 100.

Ffynhonnell data

Gwybodaeth reoli o bob maes busnes unigol.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2023

Ymatebwyd i 21% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith o’u derbyn.

Y targed yw i 30% o gwsmeriaid ddewis cwblhau eu ceisiadau atwrneiaeth arhosol gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig o ran helpu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i wella’r offer digidol i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau ar-lein.

Dull cyfrifo

Canran y derbyniadau digidol:

Nifer yr atwrniaethau arhosol ar-lein a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod adrodd/cyfanswm y ceisiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod adrodd x 100.

Ffynhonnell data

Systemau rheoli achos mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2023

Cafodd 32.53% o geisiadau atwrniaethau arhosol eu cwblhau drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.

Dangosydd pobl: ymgysylltu â staff

a) Y targed yw sicrhau sgôr ymgysylltu â staff o 62%.

b) Y targed ar gyfer % y staff sydd wedi cael eu bwlio neu y mae rhywun wedi aflonyddu arnynt yn y gweithle yw 11% neu lai.

c) Y targed ar gyfer % y staff sydd wedi dioddef gwahaniaethu yn y gweithle yw 11% neu lai.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i greu lle gwych i weithio a chefnogi agwedd dim goddefgarwch tuag at fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn y gweithle.

Dull cyfrifo

a) Mae pob un o’r pum cwestiwn ymgysylltu yn yr arolwg wedi’u pwysoli gyda sgôr o 100 -0 yn dibynnu ar eu hymateb. Mae’r sgoriau sy’n deillio o hyn yn cael eu rhoi at ei gilydd a’u rhannu â 5 (nifer y cwestiynau) i greu sgôr y mynegai ymgysylltiad.

b) Cyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer yr ymatebwyr sy’n datgan profiad o fwlio a/neu aflonyddu â chyfanswm yr ymatebwyr.

c) Cyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer yr ymatebwyr sy’n datgan profiad o wahaniaethu â chyfanswm yr ymatebwyr.

Ffynhonnell data

Arolwg Blynyddol (ymgysylltu â staff) ac Arolwg Clyfar (Smart Survey).

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2023

a) Y sgôr ymgysylltu â staff oedd 63%.

b) roedd 10% o staff wedi cael profiad o fwlio ac aflonyddu.

c) roedd 11% o staff wedi cael profiad o wahaniaethu.

Dangosydd pobl: data gweithlu

a) Y targed ar gyfer trosiant staff yw 10% neu lai.

b) Y targed yw sgôr o 7.5 diwrnod gwaith neu lai sy’n cael eu colli oherwydd absenoldeb salwch.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn helpu ein penderfynwyr i sicrhau bod gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddigon o adnoddau, a fydd yn galluogi’r Swyddfa i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, cyflawni ei gweledigaeth ac ymdrechu i gadw at werthoedd y Swyddfa ym mhopeth a wnawn.

Dull cyfrifo

a) Cyfrifir y dangosydd drwy rannu cyfanswm nifer y rhai sy’n gadael mewn cyfnod treigl o 12 mis â chyfanswm nifer y staff ar gyfartaledd dros gyfnod treigl o 12 mis.

b) Cyfrifir y dangosydd drwy rannu cyfanswm y diwrnodau gwaith a gollwyd mewn cyfnod â blynyddoedd staff mewn cyfnod.

Ffynhonnell data

Darperir y data gan dîm gwasanaethau dadansoddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n lawrlwytho’r data o SOP, system rheoli achos Adnoddau Dynol y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2023

a) Y trosiant staff oedd 9.8%

b) Cyfartaledd y diwrnodau gwaith a gollwyd oedd 8.9 diwrnod gwaith.

Dangosydd pobl: amser cyfartalog i recriwtio

Y targed yw 52 diwrnod gwaith.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn helpu ein penderfynwyr i sicrhau bod gan y Swyddfa ddigon o adnoddau, a fydd yn galluogi’r Swyddfa i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, cyflawni ei gweledigaeth ac ymdrechu i gadw at werthoedd y Swyddfa ym mhopeth a wnawn.

Dull cyfrifo

Cyfrifir cyfanswm y diwrnodau gwaith a gymerir i gyflogi drwy gyfrif nifer y diwrnodau gwaith rhwng dyddiad ‘hysbysebu’r swydd’ a dyddiad dechrau’r contract ar gyfer pob cyflogai newydd yn y cyfnod adrodd. Yna fe’u rhoddir at ei gilydd. Cyfrifir cyfartaledd cymedrig ar y ffigur uchod. Bydd hyn yn rhoi’r amser cyfartalog i recriwtio (diwrnodau gwaith).

Ffynhonnell data

System rheoli achosion recriwtio’r Weinyddiaeth Gyfiawnder

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2023

Yr amser cyfartalog i recriwtio yw 55 diwrnod gwaith o’r data diwethaf a adroddwyd sydd ar gael.

Geirfa

Atwrnai

Yr unigolyn sydd wedi cael ei ddewis i weithredu dros rywun arall ar atwrneiaeth barhaus neu atwrneiaeth arhosol.

Atwrneiaeth arhosol (LPA)

Dogfen gyfreithiol a ddefnyddir i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan. Mae dau fath o atwrneiaeth arhosol:

  • iechyd a lles

  • eiddo a materion ariannol

Rhaid cofrestru’r ddau fath o atwrneiaeth arhosol gyda’r Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn bod modd eu defnyddio.

Atwrneiaeth barhaus (EPA)

Disodlwyd gan atwrniaethau arhosol ym mis Hydref 2007. Fel atwrneiaeth arhosol, mae’n ddogfen gyfreithiol sy’n cael ei defnyddio i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan pe byddech yn colli galluedd meddyliol. Mae atwrniaethau parhaus sydd wedi’u llofnodi a’u dyddio cyn 1 Hydref 2007 yn dal yn ddilys a gellir eu cofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus pan fydd y rhoddwr yn dechrau colli, neu wedi colli, galluedd meddyliol.

Budd pennaf

Rhaid i unrhyw benderfyniadau a wneir, neu gamau a gymerir, ar ran rhywun sydd wedi colli galluedd meddyliol fod er ei fudd pennaf. Mae camau safonol i’w dilyn wrth benderfynu ar fudd pennaf rhywun. Mae’r rhain wedi’u nodi yn Adran 2 o god ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Defnyddiwr

Unrhyw un sy’n defnyddio gwasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Gallai hyn gynnwys rhoddwyr, atwrneiod, dirprwyon, pobl sy’n destun gorchmynion dirprwyaeth, partneriaid neu gyfryngwyr. Mae hefyd yn cynnwys staff sy’n defnyddio system Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Dirprwy

Unigolion lleyg neu broffesiynol neu awdurdodau cyhoeddus (fel cyfreithwyr neu awdurdodau lleol) sydd wedi cael eu penodi gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran pobl heb alluedd.

Galluedd meddyliol

Y gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud. Gallwch ddod o hyd i ddiffiniad cyfreithiol o alluedd meddyliol yn Adran 2 y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

P

Unigolion sy’n destun achosion yn y Llys Gwarchod, a/neu y gwnaed trefniadau am benderfyniadau ynghylch eu lles personol neu eu heiddo a’u materion ariannol ar eu rhan – boed hynny drwy atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus, neu o dan orchymyn dirprwyaeth.

Rhoddwr

Rhywun sydd wedi gwneud Atwrneiaeth Barhaus neu Atwrneiaeth Arhosol. Cyfeirir atynt fel rhoddwyr am eu bod wedi rhoi rhai pwerau gwneud penderfyniadau i rywun arall.

Ymchwiliadau

Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gynnal ymchwiliad i weithredoedd dirprwy, atwrnai cofrestredig, neu rywun a awdurdodir gan y Llys Gwarchod i berfformio trafodiad ar ran rhywun nad yw’r galluedd ganddo, ac adrodd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu’r Llys Gwarchod. Bydd yr argymhellion yn adroddiad yr ymchwiliad wedyn yn cael eu hystyried gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus, sy’n cymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau eu bod er budd pennaf y rhoddwr neu’r cleient, ac yna’n cymeradwyo’r adroddiad. Mae hyn yn rhan hanfodol o rôl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ran diogelu oedolion sydd mewn perygl.