Ffurflen

Yswiriant Gwladol Gwragedd gweddw ar gyfradd is

Ildiwch eich hawl i dalu cyfraniadau ar gyfradd is neu gael copi o’ch tystysgrif dewis i ddangos eich bod yn gallu talu’r gyfradd is.

Dogfennau

Gwneud cais drwy’r post

Manylion

Os ydych yn gallu talu’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwragedd gweddw ar gyfradd is ar hyn o bryd, defnyddiwch y ffurflen hon i wneud y canlynol:

  • ildio’ch hawl i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd is
  • cael copi o’ch tystysgrif dewis i ddangos eich bod yn gallu talu’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd is

Gwneud cais drwy’r post

Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.

Dylech lenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEM.

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen hon yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly casglwch eich holl wybodaeth cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Cyhoeddwyd ar 11 August 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 April 2016 + show all updates
  1. Welsh translation added to the page.

  2. First published.