Corporate report

Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Iath Gymraeg Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MODWLS) 2020-2021

Published 10 June 2022

1. Gair am yr Adroddiad hwn

Dyma Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cynllun Iaith) i Gomisiynydd y Gymraeg, a gyflwynir yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n amlinellu ein perfformiad o ran cyflawni ein hymrwymiadau i bolisi ein Cynllun Iaith yn ystod 2020-2021.

2. Gwybodaeth am y Cynllun Iaith

Rydym wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Cynllun Iaith yn nodi sut y bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn rhoi’r ymrwymiad hwn ar waith wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.

3. Rheoli’r Cynllun Iaith

Laurence Lee, Ail Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Amddiffyn, sy’n bennaf gyfrifol am gydymffurfiad cyfreithiol yr Adran â’r Cynllun Iaith. Rheolir y Cynllun Iaith ar ei ran gan dîm Stiwardiaeth Gwybodaeth Adran Ddigidol y Weinyddiaeth Amddiffyn.

4. Adolygiad o’r Flwyddyn

Ychydig iawn o effaith a gafodd y cyfnodau clo cenedlaethol a’r cyfyngiadau lleol ar ein gwasanaeth yng Nghymru a Lloegr yn 2020-2021.

Cafodd diweddariad sylweddol i’r Cynllun Iaith ei gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg a’r Ysgrifennydd Parhaol, a chafodd ei lansio’n llwyddiannus yn 2021. Cafodd y lansiad gryn sylw o fewn yr Weinyddiaeth Amddiffyn, gan arwain at lawer o adborth ac ymgysylltiad cadarnhaol, gyda chynnydd sylweddol yn nifer yr ymholiadau e-bost at Dîm Cynllun Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Amddiffyn. Cafodd y Cynllun Iaith sylw cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn newyddion cenedlaethol hefyd.

Mae Pencampwr Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Amddiffyn (Pencampwr Iaith), sef Comodor yr Awyrlu Dai Williams, wedi bod yn amhrisiadwy yn ei rôl yn ysgogi mabwysiadu ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r Cynllun Iaith ar draws yr Adran. Mae ymrwymiad y Pencampwr Iaith i sicrhau bod y Cynllun Iaith yn cael ei roi ar waith mor eang â phosibl wedi cael ei ddangos drwy gydol y flwyddyn lle mae ei gyngor a’i arweiniad ar lansio’r Cynllun Iaith diweddaraf wedi bod yn arbennig o ddiddorol.

Rydym wedi datblygu, lansio a hyrwyddo’r Pecyn Cymorth Cynllun Iaith i sicrhau bod effaith unrhyw bolisi, rhaglen neu wasanaeth yn yr Adran a ddefnyddir yng Nghymru yn ystyried y Gymraeg a’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru ar gam cynharaf eu datblygiad. Ar hyn o bryd mae’r Pecyn Cymorth yn bodloni ein hymrwymiad i greu ‘Wici Cymraeg’ hyd nes y bydd llwyfan Wici Amddiffyn yn cael ei ddarparu. Mae’r Pecyn ar gael yn rhwydd ac mae’n arwain defnyddwyr drwy’r camau a’r asesiadau y mae angen iddynt eu gwneud i gydymffurfio â’r Cynllun Iaith.

Mae ein perthynas waith cadarnhaol gydag Uned Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM) yn parhau. Maent yn darparu gwasanaeth rhagorol, gan gyfieithu amrywiaeth eang o destunau’n brydlon a gweithredu ein gwasanaeth Llinell Gymorth Gymraeg. Rydym wedi profi rhywfaint o oedi wrth ddarparu cyfieithiadau eleni oherwydd Covid-19 a chynnydd nad oes modd ei ragweld yn llwyth gwaith Uned Iaith Gymraeg GLlTEM. Mae’r rhain wedi cael eu rheoli’n dda gan yr Uned a’u hysbysu i ni mewn da bryd.

Mae hafan y Cynllun Iaith bellach yn fyw ar gov.uk sy’n rhoi mynediad i’r cyhoedd at ddogfennau’r Cynllun Iaith, ein hadroddiadau blynyddol, gwybodaeth am y Pencampwr Iaith yn ogystal â manylion cyswllt ar gyfer Tîm Cynllun Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Rydym yn parhau i hyrwyddo’r rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’ gan annog ein staff, yn enwedig y rheini sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, i ddysgu neu wella eu gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg. Rydym yn bwriadu datblygu darpariaeth dysgu Cymraeg well yn y dyfodol.

5. Y Flwyddyn i Ddod: 2021-2022

Byddwn yn mynd ati yn frwd i hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Pecyn Cymorth newydd i sicrhau cydymffurfiad ar draws y Weinyddiaeth Amddiffyn â’r Cynllun Iaith a bod yr asesiadau a’r ystyriaethau gofynnol yn cael eu cynnal ar ddechrau’r broses o greu polisi, rhaglen a gwasanaeth.

Byddwn yn olrhain ein cynnydd yn y maes hwn ac yn gofyn am adborth i wella’r gwasanaeth a’r offer a gynigiwn yn gyson.

Ein nod yw parhau i feithrin ein perthynas â’r Ysgol Ymgysylltu Amddiffyn, y Ganolfan Amddiffyn dros Iaith a Diwylliant gyda’r bwriad o ddatblygu darpariaeth dysgu Cymraeg well ar gyfer staff y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Rydym yn paratoi i lansio Rhwydwaith Siaradwyr Cymraeg y Weinyddiaeth Amddiffyn ddechrau 2022 a fydd yn dod â siaradwyr Cymraeg at ei gilydd ar draws y Weinyddiaeth Amddiffyn. Bydd hyn yn cael ei reoli gan y Pencampwr Iaith ac yn cael ei weithredu’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn hyrwyddo cymunedau ac yn cynnig cefnogaeth a chyfleoedd i siaradwyr Cymraeg yn y Weinyddiaeth Amddiffyn.

6. Casgliad

Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i’r Cynllun Iaith; i sicrhau ein bod yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio’n llwyr ar wreiddio ein diweddariad 2021 i mewn i’r Cynllun Iaith, ar ddatblygu a hyrwyddo’r Cynllun Iaith ar draws yr Adran, ac ar gynnig canllawiau o ansawdd uchel i holl staff y Weinyddiaeth Amddiffyn. Byddwn yn parhau i ddefnyddio a datblygu’r offer a’r gwasanaethau a gynigiwn i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r Cynllun Iaith.