Adroddiad corfforaethol

Adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio 2024 i 2025: Adroddiad perfformiad

Diweddarwyd 15 Awst 2025

Yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Senedd yn unol ag adran 60(6) o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994.

Y cyfrifon wedi’u cyflwyno i’r Senedd yn unol â pharagraff 15(4) o Atodlen 1 i Ddeddf y Diwydiant Glo 1994.

Wedi’i orchymyn gan Dŷ’r Cyffredin i’w hargraffu ar 17 Gorffennaf 2025.

HC 1108

© Hawlfraint y Goron 2025

ISBN 978-1-5286-5754-9

1. Ein llywodraethiant

Mae gennym fwrdd annibynnol sy’n gyfrifol am osod ein cyfeiriad strategol a’n dwyn i gyfrif.

Mae’r bwrdd yn sicrhau bod ein dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni’n effeithiol a’n bod yn gwireddu ein cenhadaeth, ein pwrpas a’n gwerthoedd.

Mae gan ein cadeirydd ac aelodau’r bwrdd brofiad perthnasol i gefnogi ein gwaith.

Caiff cyfarwyddwyr anweithredol eu recriwtio a’u penodi i’r bwrdd gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net.

Caiff cyfarwyddwyr gweithredol eu recriwtio i’w swyddi gan y bwrdd ac yna caiff rhai ohonynt eu penodi i’r bwrdd, hefyd gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net.

2. Trosolwg

Mae’r Awdurdod Adfer Mwyngloddio yn gorff cyhoeddus anadrannol ac yn sefydliad partner i’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net.

2.1 Ein cenhadaeth

Creu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.

2.2 Ein pwrpas

  • rydym yn cadw pobl yn ddiogel ac yn darparu tawelwch meddwl

  • rydym yn amddiffyn ac yn gwella’r amgylchedd

  • rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus

  • rydym yn creu gwerth ac yn lleihau cost i’r trethdalwr

Rydym yn defnyddio ein sgiliau i ddarparu gwasanaethau i adrannau ac asiantaethau llywodraeth eraill, llywodraethau lleol a phartneriaid masnachol.

Rydym yn gweithio gydag adrannau ar draws llywodraeth y DU i gyflawni cenadaethau llywodraeth y DU, gan gynnwys rhoi hwb i dwf economaidd, gwneud Prydain yn uwch-bŵer ynni glân a chwalu rhwystrau i gyfleoedd.

Rydym hefyd yn cyfrannu at flaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach llywodraethau Cymru a’r Alban.

Drwy rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd, rydym yn eu cefnogi nhw a’n partneriaid i greu cenhedloedd mwy diogel, glanach a gwyrddach i ni i gyd.

2.3 Ein gwerthoedd

Dibynadwy:

  • rydym yn gweithredu gydag uniondeb

  • rydym yn agored ac yn dryloyw

  • rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau

Cynhwysol:

  • rydym yn hyrwyddo diwylliant o barch i’r ddwy ochr

  • rydym yn cydnabod bod ein gwahaniaethau yn ein gwneud yn gryfac

  • rydym yn gweithio gydag eraill i gyflawni ein cenhadaeth

Blaengar:

  • rydym yn feddwl agored ac yn arloesol

  • rydym yn cydnabod y gall y gorffennol ein helpu i lunio’r dyfodol

  • rydym yn gwrando ac yn dysgu

3. Y gwaith rydyn ni’n ei wneud

Yn ystod 2024 i 2025, ar draws y 3 gwlad rydyn ni’n eu gwasanaethu:

3.1 Fe wnaethon ni gadw pobl yn ddiogel a rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw

Cynhaliwyd 10,554 o archwiliadau mynediad i fwyngloddiau

Ymchwiliwyd ac aseswyd 1,000 o beryglon mwyngloddio, hawliadau ymsuddiant a galwadau brys

Cynhaliwyd 932 o archwiliadau ar domenni rwbel sy’n eiddo i’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio a’n partneriaid

3.2 Fe wnaethom ddefnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus

126,700 o adroddiadau mwyngloddio wedi’u cyflwyno

1,491 o drwyddedau wedi’u darparu i groesdorri glo

8,482 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio wedi’u darparu

3.3 Fe wnaethon ni amddiffyn a gwella’r amgylchedd

232 biliwn litr – y capasiti a wnaethom ei greu neu ei gynnal i drin dŵr mwyngloddiau

3,682 tunnell o haearn wedi’i atal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr

2.5% o’r gwastraff solet ocr a haearn a gynhyrchwn oedd yr unig beth a anfonwyd i safle tirlenwi

3.4 Fe wnaethon ni greu gwerth a lleihau cost i’r trethdalwr

£10 miliwn o incwm wedi’i gynyhyrchu drwy ein gwasanaethau cynghori

£215,000 wedi’i gynhyrchu drwy werthiannau sgil-gynhyrchion

10 safle â gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol ychwanegol wedi’u creu trwy ein gwaith

4. Rhagair y Cadeirydd gan Jeff Halliwell

Mae’n bleser gen i gyflwyno ein hadroddiad blynyddol cyntaf fel yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio.

Mae’r newid enw hwn yn tanlinellu ein ffocws gwirioneddol ar edrych tua’r dyfodol, a pharhau i addasu a bod yn berthnasol i ddiwallu anghenion y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ledled Prydain Fawr.

Drwy 2024 i 2025 rydym wedi parhau i alluogi twf ac arloesedd drwy gyflawniad cryf a chydnabod y cyfraniad pwysig y gallwn ei wneud i’r economi ar draws ardaloedd mwyngloddio drwy ein gwaith, ac wedi parhau i wneud cynnydd clir tuag at uchelgeisiau ein gweledigaeth ar gyfer 2032.

Fe wnaethon ni ddathlu 30 mlynedd o’r Awdurdod Glo ar 31 Hydref 2024 drwy gydnabod y gwaith hanfodol a wneir i gadw pobl, dŵr yfed a’r amgylchedd yn ddiogel rhag effeithiau etifeddiaeth ein treftadaeth gloddio.

Ar 28 Tachwedd 2024 daethom yn Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, sy’n adlewyrchu’n well rôl 24/7 y sefydliad i reoli effeithiau mwyngloddio hanesyddol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a’n gwaith i chwilio am gyfleoedd carbon isel a chyfleoedd twf eraill o’n treftadaeth mwyngloddio ar gyfer y dyfodol.

Cymeradwywyd y newid enw gweithredol gan yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) a bydd yn cael ei newid mewn deddfwriaeth pan fydd cyfle.

Mae’r enw newydd hefyd yn adlewyrchu gwaith ehangach sydd eisoes wedi’i wneud ar atal llygredd mwyngloddiau metel a diogelwch tomenni, ffocws cynyddol ar adferiad amgylcheddol a thrin dŵr mwyngloddiau, a gwaith i ddod o hyd i gyfleoedd carbon isel ar gyfer cymunedau fel gwres dŵr mwyngloddiau o’r asedau gwladoledig.

Wrth i ni edrych tua’r dyfodol a’n gwaith yn canolbwyntio fwyfwy ar adferiad, galluogi twf a chyfleoedd carbon isel cyffrous fel gwresogi dŵr mwyngloddiau, mae’n briodol newid ein henw i adlewyrchu’r gwaith pwysig sydd o’n blaenau.

Yn dilyn etholiadau llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf 2024, fe wnaethom ysgrifennu at bob AS etholedig ar draws ardaloedd mwyngloddio i rannu manylion ein gwaith yn eu hetholaethau, ac at bob maer awdurdod cyfunol perthnasol.

Rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda swyddogion a gweinidogion yn ein DESNZ sy’n ein noddi, ac roeddem wrth ein bodd yn croesawu’r Gweinidog Ynni Michael Shanks i ymweld â’n swyddfa ym Mansfield a chynllun trin dŵr mwynglawdd lleol ym mis Medi 2024.

Mae ein gwaith yn helpu i gyflawni Cynllun ar gyfer Newid llywodraeth y DU, yn benodol, y cenadaethau canlynol.

Sbarduno twf economaidd drwy:

  • ein gwaith i amddiffyn dŵr yfed ar gyfer tai presennol a thai yn y dyfodol rhag triniaeth dŵr mwyngloddiau

  • ein gwaith ar ddiogelwch y cyhoedd ac ymsuddiant a chyda’n hadroddiadau cloddio data a gwybodaeth a’n gwaith gyda’r sector ariannol i ategu hyder ym marchnad dai’r maes glo

  • ein gwaith draenio ymsuddiant i amddiffyn cartrefi, eiddo a thir cynhyrchiol rhag llifogydd

  • ein gwaith diogelwch cyhoeddus ac ymsuddiant i gadw ffyrdd, rheilffyrdd a seilwaith mawr arall yn weithredol

  • ein gwaith cynllunio a thrwyddedu i gyfrannu’n uniongyrchol at alluogi twf a datblygiad mewn ardaloedd meysydd glo, gan gynnwys galluogi datblygiad 465,193 hectar o dir yn 2024 i 2025

Chwalu rhwystrau i gyfleoedd drwy:

  • ein gwaith fel cyflogwr a thrwy ein prentisiaethau mewn ardaloedd mwyngloddio

  • darparu gwaith i fentrau bach a chanolig (SME) au mewn ardaloedd diwydiannol

  • galluogi datblygu sgiliau a swyddi drwy gyfleoedd gwresogi dŵr mwyngloddiau

  • galluogi datblygiad diogel ar gyfer cartrefi a swyddi drwy ein gwaith trwyddedu a chynllunio mewn ardaloedd mwyngloddio Gwneud Prydain yn uwch-bŵer ynni glân drwy:

  • ein gwaith trin dŵr mwynglawdd i amddiffyn dŵr glân a natur

  • cefnogi datgarboneiddio, pŵer glân a chartrefi cynnes trwy alluogi gwresogi dŵr mwyngloddiau a’n defnydd o ynni adnewyddadwy ar ein safleoedd

  • gwella gwydnwch drwy ein hymateb brys a’n gwaith parhad busnes

  • amddiffyn natur drwy ein gwaith cynaliadwyedd

Rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda gweinidogion a swyddogion yn llywodraethau Cymru a’r Alban, a chyda ASau ac ASAau ar draws ardaloedd mwyngloddio.

Gallwch ddarllen mwy am ein gwaith yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yn ein hastudiaethau achos, sy’n cynnwys amrywiaeth o enghreifftiau o’n gwaith, yn ogystal ag ystadegau penodol ar gyfer pob gwlad.

Rydym yn ddiolchgar i’n cadwyn gyflenwi a’n partneriaid ar draws pob un o’r 3 gwlad a wasanaethwn, sy’n ein helpu i gyflawni canlyniadau yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Mae cwsmeriaid wrth wraidd ein gwaith, ein cynllun busnes a’n gweledigaeth, ac roeddem wrth ein bodd i dderbyn Achrediad ServiceMark gan y Sefydliad Gwasanaeth Cwsmeriaid ym mis Ionawr 2025.

Mae ein cynllun cwsmeriaid yn nodi ein hymrwymiadau a’n taith barhaus i wrando a dysgu er mwyn parhau i wella profiad ein cwsmeriaid ar draws pob agwedd ar ein gwaith.

Mae hyn yn cynnwys parhau i gofleidio technoleg newydd, deallusrwydd artiffisial (AI) a chyflenwi digidol i yrru cynhyrchiant, effeithiolrwydd a gwasanaeth cwsmeriaid gwell, gan sicrhau bod cyfarfodydd wyneb yn wyneb a gwasanaethau ffôn yn parhau i fod yn effeithlon ac yn hygyrch i’r rhai sy’n eu ffafrio.

Mae ein cynllun data a gwybodaeth yn darparu rhagor o wybodaeth am ein dull digidol, ac rydym yn parhau i chwilio am ffyrdd i’n data a’n gwybodaeth gefnogi gwaith eraill i’w helpu i wneud penderfyniadau da a chadw pobl yn ddiogel.

Byddwn yn parhau i ddatblygu a thyfu sgiliau, systemau a thechnolegau newydd wrth i ni esblygu a pharhau i ganolbwyntio ar gefnogi, gwerthfawrogi a datblygu ein pobl; a chymryd camau i alluogi lles a chynhwysiant ar draws yr Awdurdod Adfer Mwyngloddio i sicrhau ein bod yn lle gwych i weithio ynddo.

Mae hyn yn ein galluogi i fynd i’r afael â’r heriau cymhleth sy’n ein hwynebu, a darparu’r gwasanaeth gorau y gallwn i gymunedau ar draws ardaloedd mwyngloddio Prydain Fawr.

Mae 2024 i 2025 wedi bod yn flwyddyn arall o gyflawniad cryf ac mae’n dod â’n cynllun busnes 3 blynedd 2022 i 2025 i ben.

Rydw i’n falch o’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion uchelgeisiol hyn, ac mae’r dysgu a wnaed yn ystod y cyfnod hwn wedi llywio ein cynllun busnes 2025 i 2028 nesaf wrth i ni barhau i wneud cynnydd yn erbyn uchelgeisiau ein gweledigaeth 10 mlynedd hyd at 2032.

Rydym wedi parhau i ystyried y gwerth amgylcheddol a chymdeithasol y gallwn ei gyflawni, ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr a sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i wneud y mwyaf o’r hyn y gellir ei gyflawni.

Yn ystod 2024 i 2025, fe wnaethom benderfynu ar nifer fach o geisiadau am drwyddedau mwyngloddiau glo yn dilyn y profion penodol a nodir yn Neddf y Diwydiant Glo 1994, a chan ystyried polisi llywodraethau’r DU a Chymru (ar gyfer trwyddedu glo) a llywodraethau’r DU, yr Alban a Chymru (trwy bolisi cynllunio).

Rydym yn cydnabod bod hwn yn parhau i fod yn faes sensitif yn wleidyddol ac yn gyhoeddus ac yn anelu at fod mor dryloyw ag y gallwn fod, gan fod angen cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol.

Rydym yn parhau i ddarparu cyngor a gwybodaeth weithredol i’r llywodraeth i helpu i lywio eu dyfarniadau polisi, ac rydym yn gweithio i lywio agweddau ymarferol ar ddeddfwriaeth yn y dyfodol i gefnogi’r gwaharddiad arfaethedig ar gloddio glo a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024.

Rydym yn parhau i gefnogi a chyfrannu at y broses cyn-gwêst barhaus i drychineb mwynglawdd Gleision yn 2011. Mae ein meddyliau’n parhau gyda theuluoedd y glowyr a gollwyd yn y drasiedi hon.

Wrth ddarllen ein cyfrifon fe sylwch fod balans ein darpariaethau, sy’n adlewyrchu’r gost i’r dyfodol o ddatrys effeithiau cloddio glo yn y gorffennol, wedi newid eto eleni, gan gynyddu £0.1 biliwn o £1.6 biliwn i £1.7 biliwn ym mis Mawrth 2025.

Cyfrifir y balans hwn drwy gymhwyso rhagdybiaethau Trysorlys EF ar werth arian ar wahanol adegau yn y dyfodol, i ragolwg o lif arian parod ar brisiau heddiw.

Mae ein rhagolwg o’r llifau arian sylfaenol hyn wedi cynyddu £0.3 biliwn i £4.1 biliwn, yn bennaf yn adlewyrchu cynnydd yng nghost adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw ein cynlluniau dŵr mwyngloddiau, a’r duedd barhaus dros y blynyddoedd diwethaf o reoli nifer cynyddol o ddigwyddiadau diogelwch cyhoeddus cymhleth.

Rydym yn disgwyl i effeithiau addasu i newid hinsawdd gynyddu’r darpariaethau dros amser wrth i ni ymgymryd â mwy o ymchwil.

Rydym hefyd yn ymwybodol o oblygiadau posibl y gwaith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd i ddeall effaith adfer dŵr hallt yn Lloegr yn well.

Rydym yn parhau i geisio effeithlonrwydd, dysgu a phartneriaeth i wrthbwyso costau a lleihau’r effeithiau hyn lle bynnag y bo modd, ochr yn ochr ag arloesedd a defnyddio technoleg.

Mae’r cynnydd gweithredol eleni wedi’i wrthbwyso’n fras gan newidiadau i gyfraddau disgownt Trysorlys EF, sy’n lleihau’r ddarpariaeth ariannol £0.2 biliwn.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn yr adolygiad ariannol a nodyn 13.3 i’r cyfrifon.

Cawsom ein hadolygu’n ffurfiol ddwywaith yn ystod 2024. Cynhaliwyd ein hadolygiad o effeithiolrwydd y bwrdd dros yr haf, dan arweiniad yr adolygydd allanol, y ddynes fusnes o Brydain, y cadeirydd profiadol a’r cyfarwyddwr anweithredol, Lesley Cowley OBE.

Daeth i’r casgliad bod ‘bwrdd yr awdurdod yn effeithiol ac yn perfformio’n dda iawn. Mae’r bwrdd yn nodedig o gydlynol ac wedi’i alinio â pherthnasoedd ymddiriedus, cefnogol a chadarnhaol rhwng holl aelodau’r bwrdd a’r mynychwyr.’

Mae pob cam gweithredu bach a nodwyd wedi cael ei ystyried a’i ddatblygu i gefnogi ein diwylliant dysgu.

Cyhoeddwyd ein hadroddiad cam 1 o adolygiad cyrff cyhoeddus ym mis Tachwedd 2024, a daeth i’r casgliad bod ‘yr awdurdod mewn iechyd da ac nad oes angen adolygiad llawn ar hyn o bryd.’ Nodwyd wyth cam gweithredu bach a gwblhawyd erbyn 31 Mawrth 2025.

Mae’r adolygiadau hyn wedi parhau i ddangos ein bod yn sefydliad cymesur, sy’n seiliedig ar risg, sy’n darparu gwerth am arian wrth gyflawni gwaith rheng flaen ar draws yr ystod o risgiau rydym yn eu rheoli a’r gweithgareddau rydym yn gyfrifol amdanynt.

Rydw i’n ddiolchgar i’r bwrdd am eu harweinyddiaeth o’r sefydliad dros y flwyddyn ddiwethaf. Hoffwn ddiolch i Naomi Stenhouse am ei chyfraniadau rhagorol o dan raglen Prentisiaeth Ystafell y Bwrdd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau rhwng Ionawr a Rhagfyr 2024, a chroesawu Carys Mills a ymunodd â ni am flwyddyn o dan y rhaglen ym mis Ionawr 2025.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r bwrdd a’r sefydliad ehangach yn y flwyddyn nesaf.

5. Adroddiad y prif weithredwr gan Lisa Pinney MBE

Mae’r flwyddyn hon wedi canolbwyntio ar gyflawniad cryf yn erbyn ein cynllun busnes ar gyfer 2022 i 2025, a chynllunio a pharatoi ar gyfer y 3 blynedd nesaf yng nghyd-destun ein gweledigaeth 10 mlynedd hyd at 2032.

Mae hyn yn cynnwys ystyried yr heriau cynyddol gymhleth yr ydym yn eu hwynebu, megis effeithiau etifeddol y mwyngloddiau mawr yn Lloegr a gaeodd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, a’r effeithiau parhaus ar ymateb i ddigwyddiadau ac agweddau eraill ar ein gwaith o ganlyniad i newid hinsawdd a thywydd eithafol.

Rydym wedi parhau i wrando a dysgu gan ein cwsmeriaid a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, yn ogystal â’n cydweithwyr.

Mae ein henw newydd yn adlewyrchu adborth rydyn ni wedi’i glywed a’i archwilio dros nifer o flynyddoedd, a bydd yn ein helpu i greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.

Rydym wedi parhau i gyflawni gwaith rheng flaen ac ymateb brys effeithlon ac effeithiol ac i sicrhau gwerth i’r trethdalwr, ynghyd â gwneud y mwyaf o’r cyfle i gyflawni gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ledled Prydain Fawr.

Yn ystod 2024 i 2025 rydym wedi cynnal a gweithredu ein 82 cynllun trin dŵr mwyngloddiau fel y gallwn drin o leiaf 232 biliwn litr o ddŵr mwyngloddiau i atal llygredd dŵr yfed, afonydd a’r môr.

Rydym wedi ymgymryd â gwaith i ddeall dalgylchoedd dŵr mwyngloddiau sy’n ymwneud â’r mwyngloddiau mawr mwyaf yn Lloegr yn well, ac wedi datblygu cynlluniau i fonitro a lliniaru ymhellach y cynnydd disgwyliedig mewn dŵr mwyngloddiau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

I gefnogi hyn, rydym wedi adolygu gwydnwch ein timau caffael, sicrhau rhaglenni a chontractau i wneud yn siwr ein bod yn gallu gweithio gyda’n cadwyn gyflenwi i wynebu heriau ehangach a mwy cymhleth gyda’n gilydd.

Rydym wedi symud 5 cynllun pellach ymlaen i’r graddfeydd dylunio neu adeiladu, gyda mwy wedi’u cynllunio ar gyfer y dyfodol wrth i fonitro ddangos bod eu hangen.

Mae hyn ar gyfer glo a metelau, lle rydym yn parhau i weithio’n agos gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) ac Asiantaeth yr Amgylchedd (EA) yn Lloegr, a Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yng Nghymru, i gyflawni gwelliannau pendant i ansawdd dŵr drwy atal llygredd mwyngloddiau metel. Gallwch ddarllen mwy am ein gwaith i fynd i’r afael â llygredd dŵr mwyngloddiau yn ein hastudiaethau achos.

Rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid brys ledled Prydain Fawr. Eleni, fe wnaethom ymateb i 683 o beryglon arwyneb a adroddwyd, 266 o hawliadau ymsuddiant a 51 o alwadau brys ychwanegol.

Rydym hefyd wedi darparu 438 awr o hyfforddiant ac ymgysylltu â’r 31 fforwm cydnerthedd lleol a phartneriaethau cydnerthedd rhanbarthol sy’n cwmpasu maes glo Prydain, i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith a wnawn a chynghori ar risgiau, peryglon ac ymateb.

Rydym wedi parhau â’n gwaith i Lywodraeth Cymru fel rhan o’u tasglu diogelwch tomenni glo, i sicrhau bod pob safle risg uwch wedi’i archwilio’n rheolaidd a bod gwaith cynnal a chadw wedi’i flaenoriaethu ar gyfer gweithredu.

Yn ystod 2024 i 2025, fe wnaethom gynnal 932 o archwiliadau tomenni ledled Prydain Fawr. Mae hyn yn cynnwys y 26 tomen yr ydym yn berchen arnynt ac yn eu rheoli’n uniongyrchol yng Nghymru a Lloegr, a’r gwaith a wnawn i gefnogi cyrff cyhoeddus a thirfeddianwyr eraill.

Rydym yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddynt ddatblygu’r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir Cymru yn gyfraith ac i lywio ei weithrediad yn y dyfodol.

Rydym wedi gwneud cynnydd pellach o ran galluogi gwresogi dŵr mwyngloddiau ac o ran gweithio gyda phartneriaid i ddangos y manteision clir ohono a’r potensial ar ei gyfer.

Eleni rydym wedi gweld cynlluniau yn Seaham Garden Village (Swydd Durham, Lloegr), cynllun trin dŵr mwynglawdd Lindsay (Sir Gaerfyrddin, De Cymru) a Creswell (Swydd Derby, Lloegr) yn gwneud cynnydd pendant, ac mae cynllun gwresogi dŵr mwynglawdd Gateshead (Gogledd-ddwyrain Lloegr) yn parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned, a bydd yn cael ei ehangu ymhellach.

Mae llinell ehangach o gynlluniau ac astudiaethau dichonoldeb yn mynd rhagddi. Roeddem yn falch o gefnogi’r DESNZ gyda’u parthau rhwydwaith gwres a mapiau gwres mwyngloddiau, Llywodraeth Cymru gyda’u mapio cyfleoedd gwres mwyngloddiau ac i barhau i ymgysylltu â Llywodraeth yr Alban a phartneriaid i ddatblygu dealltwriaeth a chyfleoedd cynlluniau posibl ymhellach.

Mae darparu gwerth am arian, galluogi gwerth a chynhyrchu incwm i wrthbwyso costau i’r trethdalwr yn parhau i fod yn faes pwysig i’w ystyried.

Eleni fe wnaethon ni gynhyrchu £10 miliwn o incwm drwy ein gwasanaethau cynghori, a £0.2 miliwn drwy werthiannau sgil-gynhyrchion.

Rydym wedi parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, datblygwyr a busnesau i gefnogi a chyflawni twf mewn cymunedau.

Galluogodd y gwaith hwn rhwng 2024 a 2025 i 465,193 hectar gael eu datblygu’n ddiogel ar gyfer cartrefi lleol, busnesau a defnydd diwydiannol.

Fe wnaethon ni barhau i gefnogi hyder ym marchnad dai’r maes glo drwy ein gwaith gyda benthycwyr ariannol, yswirwyr a thrigolion lleol yn prynu a gwerthu tai.

Eleni fe wnaethon ni gyflwyno 126,700 o adroddiadau mwyngloddio a darparu data i 6 darparwr adroddiadau trydydd parti, gan gefnogi busnesau a mentrau.

2024 i 2025 oedd blwyddyn gyflawni olaf ein cynllun busnes presennol, ac rydym wedi gwneud cynnydd cryf yn ystod y flwyddyn ac ar draws y targedau 3 blynedd a osodwyd gennym ar draws y 5 thema.

Roedd y targedau hyn yn fwriadol ymestynnol ac uchelgeisiol, a lle nad ydym wedi’u cyflawni’n llawn rydym wedi dysgu pethau i wella a llywio ein dull gweithredu.

Mae hyn yn cynnwys agweddau lle sylweddolon ni y byddai cyflawni’r uchelgais yn llawn yn arwain at ganlyniadau aneffeithiol, neu na fyddai’n gost-fuddiol ar hyn o bryd.

Gallwch weld hyn o ran y targedau digidol, lle gwnaethom gamu’n ôl o symud i 100% oherwydd yr hyn a wnaethom ei ddysgu, ac adborth gan gwsmeriaid a chydweithwyr.

Yr uchelgais fwyaf heriol i’w chyflawni fu’r gostyngiad yn ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr, lle’r oeddem yn anelu at 65% ond wedi cyflawni 27%.

Mae gennym lawer mwy i’w wneud a’i gyflawni yn ystod 2025 i 2028. Un ffactor allweddol ar gyfer hyn oedd yr angen i weithio gyda’r llywodraeth i ddatblygu polisïau caffael mwy moesegol ar gyfer ynni’r haul, gan ystyried y pryderon sy’n ymwneud â chaethwasiaeth fodern yn y gadwyn gyflenwi hon.

Rydym bellach wedi gwneud cynnydd a byddwn yn adeiladu 2 gynllun solar adnewyddadwy newydd yn y flwyddyn nesaf, yn atgyweirio ac yn disodli difrod a lladrad mewn safleoedd eraill, ac yn cymryd camau pellach i weithredu ein cynllun ynni adnewyddadwy sydd wedi’i ddatblygu.

Rydym wedi gwneud cynnydd cryf yn erbyn agweddau eraill ar ein cynllun cynaliadwyedd a bydd hyn yn parhau i fod yn faes cyflawni allweddol i ni.

Rydym yn parhau i gyflawni ystod eang iawn o weithgareddau a chanlyniadau, gan reoli a lleihau risgiau cymhleth ar gyfer y 3 llywodraeth a wasanaethwn a sicrhau bod gwerth am arian, cyflawni canlyniadau lluosog a galluogi twf wedi’i wreiddio ym mhob penderfyniad a wnawn.

Rydym yn ymwybodol iawn o effaith newid hinsawdd a thywydd eithafol ar ein gwaith ac ymateb i ddigwyddiadau.

Rydym wedi gwneud cynnydd pellach eleni o ran dysgu gan eraill, a nodi a blaenoriaethu effeithiau addasu i newid hinsawdd ar ein gwaith yn well.

Bydd hyn yn cael ei ddatblygu ymhellach yn 2025 i 2026, gyda chynllun addasu wedi’i ddiffinio’n glir yn cael ei gyhoeddi.

Mae ein cynllun busnes newydd ar gyfer 2025 i 2028 yn cadw’r 5 thema ac yn parhau â’r dull cynlluniau sylfaenol.

Fel mae Jeff yn dweud, mae’r targedau a’r ymrwymiadau yn y cynllun hwn unwaith eto’n fwriadol uchelgeisiol ac yn ymestynnol.

Mae pwysigrwydd cyflwyno digidol, technoleg sy’n datblygu a deallusrwydd artiffisial yn flaenoriaeth i ni, ac rydym eisoes yn gweld manteision dulliau newydd, gan weithio gyda phartneriaid i archwilio cyfleoedd a pharhau i dreialu ffyrdd o weithio, sy’n gwella cynhyrchiant, hygyrchedd a rhwyddineb i’n cydweithwyr a’n cwsmeriaid.

Eleni rydym wedi cyflwyno ac ymgorffori offer cynhyrchiant newydd i wella cydweithio rhwng cydweithwyr a phartneriaid, a byddwn yn parhau i ddysgu a gweithio gydag eraill i wneud y mwyaf o’n heffeithiolrwydd a’r cyfleoedd o’n data a’n gwybodaeth yn y flwyddyn nesaf.

Wrth i ni ddathlu 30 mlynedd o gyflawni ar y rheng flaen fel yr Awdurdod Glo, ac yna troi ein llygaid at ein dyfodol fel yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, roedd un o’n gwerthoedd yn ein cof yn gryf – ein bod yn ‘cydnabod y gall y gorffennol ein helpu i lunio’r dyfodol’.

Mae dod yn Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn adlewyrchu’n well y gwaith pwysig a wnawn i greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio ledled Prydain Fawr, ac yn caniatáu inni barhau i ddenu pobl wych i gyflawni’r gwaith pwysig a wnawn wrth reoli etifeddiaeth glo a thu hwnt, gan gynnwys adfer mwyngloddiau metel, gwaith tomenni a chyngor i lawer o rai eraill trwy ein gwaith argyfyngau sifil a’n harbenigedd cydnabyddedig mewn adfer mwyngloddio.

Ni fydd cyfrifoldebau statudol y sefydliad yn newid gan ein bod yn parhau i fod â chyfrifoldebau sylfaenol am reoli’r asedau glo a’r etifeddiaeth fel y’u diffinnir yn Neddf y Diwydiannau Glo 1994, gan gynnwys diogelwch y cyhoedd ac ymsuddiant, a llywio datblygiad a thwf diogel ledled Prydain Fawr.

Byddwn yn parhau i gyflawni’r un gwaith rheng flaen i gefnogi cymunedau mwyngloddio, cadw pobl yn ddiogel rhag peryglon glo, amddiffyn dŵr yfed, afonydd a’r môr rhag llygredd, llywio penderfyniadau datblygu a throsglwyddo eiddo a galluogi cyfleoedd o’r asedau a reolir gennym, gan weithio’n agos gyda phartneriaid a’r gwasanaethau brys.

Mae ein pobl yn allweddol i’r gwaith gwych yr ydym wedi ac y byddwn yn ei gyflawni, ac rydw i mor falch o’u hymrwymiad parhaus i gyflawni a chanolbwyntio ar wneud gwahaniaeth i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae ein cydweithwyr wedi gwneud hyn am y 30 mlynedd diwethaf fel yr Awdurdod Glo, ac rydw i’n gwybod y byddant yn parhau i ddod â’r angerdd hwn i’n helpu i barhau i gyflawni ar gyfer y dyfodol fel yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio.

Eu gwaith caled a’u harbenigedd sy’n ein galluogi i ddatrys problemau cymhleth, cefnogi cwsmeriaid gydag empathi a gwneud y mwyaf o’r hyn y gellir ei gyflawni’n effeithiol.

Er mwyn eu cefnogi nhw a’r rhai a fydd yn ymuno â ni yn y dyfodol, rydym yn parhau â’n gwaith i fod yn lle gwych i weithio i bawb, lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi, eu datblygu a’u cynnwys.

Eleni cawsom ein sgoriau arolwg pobl uchaf erioed, gyda sgôr ymgysylltu o 75% sy’n mesur pa mor gysylltiedig y mae ein pobl yn teimlo, pa mor debygol ydyn nhw o siarad yn gadarnhaol am y sefydliad, eu hawydd i aros gyda ni a’u parodrwydd i fynd yr ail filltir.

Dydyn ni ddim yn hunanfodlon a byddwn yn parhau i wrando a dysgu, i esblygu ac i aros yn berthnasol i flaenoriaethau’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Diolch i bob un ohonoch am bopeth rydych chi wedi’i helpu i’w gyflawni gyda’n gilydd dros y flwyddyn ddiwethaf er budd cymunedau mwyngloddio ledled Prydain Fawr.

6. Ein gwaith i gadw pobl yn ddiogel

Rydym yn ymateb i ddigwyddiadau 24/7/365, gan weithio gyda’n partneriaid ymateb brys. Rydym yn delio’n uniongyrchol ag 800 i 1,000 o beryglon mwyngloddio a digwyddiadau ymsuddiant bob blwyddyn, ac mae partneriaid yn galw arnom fwyfwy i gefnogi mewn sefyllfaoedd brys ehangach lle mae ein harbenigedd yn berthnasol ac y gall helpu i gadw pobl yn ddiogel.

Agwedd allweddol yw paratoi, ac rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid argyfwng a chydnerthedd ledled Prydain Fawr i rannu gwybodaeth, cynnal hyfforddiant ac ymarferion i sicrhau y gallwn ymateb i ddigwyddiadau yn ddiogel ac yn effeithiol gyda’n gilydd.

Yn ystod 2024, buom yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Manceinion Fwyaf (GMFRS), yr Asiantaeth Tân a phartneriaid allweddol eraill i ddylunio ein hymarfer hyfforddi ymateb brys amlasiantaeth mwyaf hyd yma.

Cynhaliwyd Ymarfer Anthracite ar 7 dyddiad drwy gydol 2024 a 2025, gyda chyfanswm o 230 o ymatebwyr yn cymryd rhan.

Darparodd canolfan hyfforddi GMFRS yn Bury amgylchedd realistig i brofi ein parodrwydd a’n trefniadau ymateb yn drylwyr ar gyfer digwyddiad difrifol o ymsuddiant eiddo preswyl.

Efelychodd Ymarfer Anthracite yr heriau cymhleth a all gael eu hachosi gan weithgarwch mwyngloddio hanesyddol ac roedd yn cynnwys effeithiau ar eiddo, aflonyddwch ehangach i’r gymuned leol, trigolion agored i niwed a llygredd dŵr mwynglawdd posibl yn yr afon leol.

Roedd hyn yn caniatáu i bartneriaid a’n staff wynebu amrywiaeth o beryglon mewn amgylchedd dan bwysau uchel a dysgu er mwyn gwella sut rydym ni i gyd yn ymateb i ddigwyddiadau yn y dyfodol.

Fel ymatebydd Categori 2 o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004 (fel y’i diwygiwyd yn 2023), mae’n hanfodol i ni weithio’n agos gyda phartneriaid brys eraill ledled Prydain Fawr.

Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu gwybodaeth a hyfforddiant a mynychu cyfarfodydd fforwm cydnerthedd lleol (a phartneriaethau cydnerthedd rhanbarthol yn yr Alban).

Yn ogystal â digwyddiadau a achoswyd yn uniongyrchol neu sy’n gysylltiedig â threftadaeth mwyngloddio, gallwn hefyd ddefnyddio ein gwybodaeth, ein hystâd a’n harbenigedd i gynghori ar ddiogelwch ymatebwyr brys a’r gymuned mewn digwyddiadau ehangach, a defnyddio ein safleoedd i ddarparu dŵr neu le i ymatebwyr.

Mae enghreifftiau’n cynnwys digwyddiad nwy Cleat Hill yn 2024, dadreilio trên Morlais (De Cymru) yn 2020 a chefnogaeth i wasanaethau golau glas a oedd yn chwilio am unigolion agored i niwed mewn gweithfeydd mwyngloddio.

Eleni rydym wedi ymchwilio ac asesu 949 o hawliadau peryglon mwyngloddio ac ymsuddiant, yn ogystal â 51 o alwadau brys ychwanegol.

Rydym hefyd wedi cynnal 10,554 o archwiliadau mynediad mwyngloddiau a 932 o archwiliadau ar domenni sy’n eiddo i ni ein hunain neu i dirfeddianwyr eraill.

Fe wnaethon ni gefnogi partneriaid yn Ne Cymru yn y digwyddiad mawr yng Nghwmtyleri, Blaenau Gwent, yn dilyn glaw eithafol a arweiniodd at olchi deunydd allan o domen lo sy’n eiddo i’r awdurdod lleol.

Fe wnaethon ni fynychu a chynghori ymatebwyr brys yn ystod y digwyddiad, ac rydym wedi cefnogi’r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru trwy gynyddu arolygiadau a chyngor ar adferiad ers hynny, er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a rhoi tawelwch meddwl i’r gymuned.

Mae hyn i gyd yn rhan o’n gwaith i gadw pobl yn ddiogel. Er bod senarios ar raddfa Ymarfer Anthracite yn gymharol brin, mae’n hanfodol ein bod ni a phartneriaid yn cynnal dealltwriaeth a gallu ymateb fel ein bod yn barod i gefnogi trigolion a chymunedau pan fo angen.

Mae chwarter o’r holl gartrefi a busnesau ledled Prydain Fawr ar y maes glo. Ni fydd y mwyafrif helaeth o bobl fyth yn profi unrhyw broblemau o ganlyniad i hynny, ond i’r rhai sy’n profi problemau, rydym ni yma i helpu. Gellir cysylltu â ni 24/7/365 ar 0800 288 4242.

7. Ein gwaith yng Nghymru

Mae mwyngloddiau metel segur yn llygru tua 700km o afonydd Cymru gyda metelau fel sinc, plwm, cadmiwm a haearn. Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i adfer a lleihau’r etifeddiaeth hanesyddol hon.

Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a chymunedau i lywio atebion a chydbwyso ystyriaethau treftadaeth, amgylcheddol a thirwedd. Mae hyn yn cydnabod hanes mwyngloddio pwysig wrth leihau effeithiau llygredd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.

Mae Rhaglen Mwyngloddiau Metel Cymru yn rhaglen ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru. Dechreuodd yn 2020 i ddeall ac ymdrin ag effeithiau’r amcangyfrif o 1,300 o fwyngloddiau metel segur ledled Cymru.

Nid oes dyletswydd amgylcheddol gyfreithiol ar fwyngloddiau hanesyddol a gafodd eu gadael yn wag cyn 2000, felly mae’r rhaglen hon yn hanfodol i unioni’r broblem mewn ffordd gost-effeithiol, a blaenoriaethu’r mwyngloddiau sy’n achosi’r effeithiau mwyaf.

Eleni, fe wnaethom gyflwyno prosiect gwella ym Mwynglawdd hanesyddol Nant-y-creiau yng Nghwmrheidol, Ceredigion. Caeodd y mwynglawdd ym 1895 ac mae wedi achosi halogiad sylweddol i Afon Mynach o ddeunydd yn dianc allan o domenni rwbel ar hyd yr afon yn ystod glaw a llif uchel yr afon.

Dangosodd samplu i lawr yr afon fod y safle yn cyfrannu 1,519kg o sinc, 32kg o blwm a 5kg o gadmiwm i’r afon bob blwyddyn, a oedd yn effeithio ar ecosystem yr afon ac yn cyfrannu at fethiannau ansawdd dŵr yn afonydd Cymru.

Yn ystod mis Medi 2024, buom yn gweithio’n agos gyda CNC i ddylunio a darparu amddiffyniad rhag sgwrio ar hyd yr afon. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio matresi creigiau wedi’u llenwi ymlaen llaw i sefydlogi glan sy’n erydu, ac atal mwy o ddeunydd rhag mynd i mewn i’r afon.

Roedd y safle’n anghysbell ac o fewn Coedwig Hafod. Fe wnaethon ni gyflogi contractwr lleol a defnyddio dulliau a deunyddiau a oedd yn lleihau effaith yr adeiladu, yn lleihau’r angen i ddeunydd adael y safle, yn caniatáu gweithio diogel ac yn gallu cael eu defnyddio’n gyflym.

Roedd hyn yn caniatáu inni leihau aflonyddwch amgylcheddol yr ardal hon, lleihau ein hôl troed carbon a darparu gwerth am arian.

Rydym yn gweithio gyda chontractwyr lleol a busnesau bach a chanolig lle bynnag y bo modd i gefnogi’r economi leol, ac i ddarparu gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr.

Mae digwyddiadau glaw trwm yn dod yn fwy cyffredin wrth i ni weld tywydd mwy eithafol ac effeithiau ehangach newid hinsawdd, a all gynyddu’r risg o’r math hwn o lygredd sgwrio.

Cafodd y gwaith ei brofi’n drylwyr gan dywydd eithafol yn ystod Storm Darragh ym mis Rhagfyr 2024 a dangosodd bwysigrwydd yr ateb cadarn a gwydn, a fydd yn cael ei ddefnyddio i lywio prosiectau yn y dyfodol ledled Prydain Fawr.

Mae prosiectau fel hyn yn gwneud cyfraniad pwysig at addasu i newid hinsawdd yng Nghymru, ac yn dangos manteision gweithio mewn partneriaeth mewn cymunedau lleol i gyflawni manteision go iawn i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol ledled Cymru.

7.1 Ein blwyddyn yng Nghymru

  • fe wnaethon ni gynnal 1,608 o archwiliadau mynediad mwyngloddiau

  • fe wnaethon ni gyflwyno 8,717 o adroddiadau mwyngloddio

  • fe wnaethon ni drin 15 biliwn litr o ddŵr mwyngloddiau

  • Fe wnaethon ni ymchwilio ac asesu 171 o hawliadau perygl mwyngloddio ac ymsuddiant a galwadau brys

  • fe wnaethon ni ddarparu 1,274 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio

  • fe wnaethon ni atal 322 tunnell o solidau haearn rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr

8. Ein perfformiad

Yn ystod blwyddyn olaf ein cynllun busnes 3 blynedd presennol, rydym wedi gwneud cynnydd clir yn erbyn ein cenhadaeth o greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.

Mae ein cynllun wedi’i osod yn erbyn ein gweledigaeth 10 mlynedd, wedi’i ategu gan ein gwerthoedd ac yn canolbwyntio ar gyflawni ar gyfer y cymunedau a wasanaethwn. Mae’r cardiau sgôr canlynol yn dangos sut rydym yn mesur ac yn adrodd ar y cynnydd a wnaethom yn 2024 i 2025.

8.1 Cyflawni ar gyfer y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu

Canlyniad cerdyn sgôr: Rydym yn gwella ein gwasanaethau dosbarthu rheng flaen i’n cwsmeriaid fel ein bod yn cyflawni mwy o ganlyniadau ac yn haws gwneud busnes â ni.

Targedau cynllun busnes erbyn Ebrill 2025 Ein cyflawniadau erbyn Ebrill 2025
Byddwn yn trin 13 biliwn litr ychwanegol y flwyddyn o ddŵr mwyngloddiau i atal llygredd dŵr yfed, afonydd neu’r môr erbyn 2025. Mae hwn yn gynnydd o fwy na 10% ar y meintiau presennol (128 biliwn litr y flwyddyn) Fe wnaethom drin 13 biliwn litr ychwanegol o ddŵr (cyfanswm o 141 biliwn litr) yn 2024 i 2025, o’i gymharu â’n llinell sylfaen o 128 biliwn litr y flwyddyn yn 2022, a chyflawni ein targed. Dangosodd dysgu drwy gyfnod y cynllun busnes i ni mai targed gwell yw ‘creu’r cynhwysedd i drin 13 biliwn litr ychwanegol o ddŵr mwyngloddiau erbyn 2025’, gan nad yw hyn yn cael ei effeithio gan lawiad sy’n effeithio ar gyfaint y dŵr y mae angen i ni ei drin bob blwyddyn. Rydym wedi mesur y targed newydd hwn ochr yn ochr â’n targed gwreiddiol yn ein hadroddiadau, gan gyflawni dros 15 biliwn dros y 3 blynedd diwethaf  
Byddwn yn datrys 90% o beryglon a hawliadau ymsuddiant o fewn 12 mis Fe wnaethom ddatrys 91% o beryglon a hawliadau ymsuddiant o fewn 12 mis, a oedd yn rhagori ar ein targed
Byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth, ein gwasanaethau a’n hystâd i alluogi 300,000 hectar o adfywio a datblygiad diogel ar gyfer cymunedau lleol yn yr hen feysydd glo Trwy ein gwasanaethau cynllunio a thrwyddedu, fe wnaethom alluogi mwy na 885,000 hectar o adfywio a datblygiad diogel i alluogi twf, a oedd yn rhagori ar ein targed
Byddwn yn cyflawni achrediad ServiceMark am ein safonau gwasanaeth gan y Sefydliad Gwasanaeth Cwsmeriaid Fe wnaethom gyflawni achrediad ServiceMark am ein safonau gwasanaeth gan y Sefydliad Gwasanaeth Cwsmeriaid a chyrraedd ein targed

Mae’r Awdurdod Adfer Mwyngloddio yn sefydliad ymateb brys gweithredol 24/7/365 ymarferol sy’n cyflawni nifer o ddyletswyddau craidd, statudol ledled Prydain Fawr i helpu i gadw pobl, dŵr yfed a’r amgylchedd yn ddiogel rhag effeithiau ein hetifeddiaeth mwyngloddio.

Rydym wedi ymrwymo i wneud hyn mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a’r gymuned. Rydym yn gweithredu gyda gonestrwydd, yn gwneud yr hyn a ddywedwn y byddwn yn ei wneud ac yn gwrando ac yn dysgu fel y gallwn wella’n barhaus. Gan weithio gyda a thrwy bartneriaid, rydym yn darparu ymateb cydgysylltiedig i wneud y mwyaf o’r canlyniadau y gellir eu cyflawni. Mae hyn yn ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth i ‘greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio’.

8.2 Sicrhau cynaliadwyedd

Canlyniad cerdyn sgôr: Gwneud cynnydd clir pellach ar ein taith i gyflawni carbon sero net erbyn 2030, ac i gyflawni agweddau amgylcheddol a chymdeithasol ehangach ar gynaliadwyedd.

Targedau cynllun busnes erbyn Ebrill 2025 Ein cyflawniadau erbyn Ebrill 2025
Byddwn yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’n hystad, gweithrediadau a theithio 65% o’n llinell sylfaen 2017 i 2018 Rydym wedi lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’n hystad, gweithrediadau a theithio 27% o’n llinell sylfaen 2017 i 2018, ac nid ydym wedi cyflawni ein targed ar gyfer 2025. Mae’r targed wedi cael ei effeithio gan y grid trydan yn dod yn fwy carbon-ddwys, a’r heriau yr ydym wedi’u hwynebu gyda chaffael paneli solar moesegol. Rydym wedi gweithio gyda llywodraeth y DU i ddatrys hyn, a byddwn yn cyflwyno cam nesaf gosod paneli solar o haf 2025  
Byddwn yn gweithredu adrodd integredig sy’n defnyddio targedau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi’u mesur i ddangos ein hymrwymiad a’n cynnydd ar ein nodau cynaliadwyedd Rydym wedi adeiladu gwerth cymdeithasol ac economaidd fwyfwy i’n hachosion busnes, gwneud penderfyniadau ac adrodd, ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr. Rydym wedi cyflwyno nifer o enghreifftiau ymarferol o werth a budd cymdeithasol ychwanegol mewn cymunedau lleol fel y dangosir yn ein hastudiaethau achos gweithredol, ac wedi’i ymgorffori yn ein caffael. Rydym wedi dechrau mesur yn gliriach trwy ein rhaglenni. Mae ein targed ar gyfer 2025 wedi’i gyrraedd yn rhannol  
Byddwn yn deall ac yn cydnabod effeithiau newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol ar ein hystâd a’n gweithrediadau gyda chynllun addasu wedi’i ddiffinio’n glir Rydym wedi trafod a chytuno ar ystyriaethau addasu cychwynnol, lefel uchel ar gyfer ein sefydliad, ond wedi gohirio ein cynllun addasu tan 2026 i ganiatáu inni ymgymryd â mwy o waith ac ymgysylltu â phartneriaid. Mae ein targed ar gyfer 2025 wedi’i gyrraedd yn rhannol  
Bydd gennym gynllun adfer natur a byddwn yn dangos sut mae ein hystâd a’n gweithrediadau’n cael eu optimeiddio ar gyfer adferiad natur Rydym wedi datblygu cynllun adfer natur, sy’n cyflawni blaenoriaethau ‘bod yn gadarnhaol o ran natur’ ein cynllun cynaliadwyedd, ac wedi cyrraedd ein targed ar gyfer 2025  

Rydym wedi ymrwymo i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy ac yn defnyddio ein gwaith i helpu i gyflawni newid cadarnhaol yn y cymunedau a gefnogwn. Rydym wedi parhau i gyflawni ein cynllun cynaliadwyedd sy’n cynnwys ystyriaeth wirioneddol o werth amgylcheddol a chymdeithasol, ac wedi ymgorffori hyn ymhellach yn ein prosesau meddwl a gwneud penderfyniadau ar draws y sefydliad.

Rydym wedi parhau i weithio tuag at ddadgarboneiddio ein gweithgareddau ymhellach, ac i wneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer dal carbon ar ein safleoedd. Rydym yn cymryd camau i gefnogi natur a bywyd gwyllt gwydn trwy reoli ein safleoedd a’n hystadau ar gyfer adferiad natur.

8.3 Gweithio gydag eraill i greu gwerth

Canlyniad cerdyn sgôr: Byddwn yn cynhyrchu mwy o werth ac yn cyflawni budd amgylcheddol a chymdeithasol ehangach o’n hasedau, ein gwasanaethau a’n gwaith.

Targedau cynllun busnes erbyn Ebrill 2025 Ein cyflawniadau erbyn Ebrill 2025
Byddwn yn dylanwadu ac yn galluogi 4 cynllun gwresogi dŵr mwynglawdd gweithredol mawr ledled Prydain Fawr Fe wnaethom alluogi 3 chynllun gwresogi dŵr mwynglawdd mawr, gan gyrraedd ein targed ar gyfer 2025 yn rhannol. Ochr yn ochr â hyn rydym wedi cynyddu dealltwriaeth a gwelededd, wedi galluogi cyfleoedd yn y dyfodol, wedi datblygu mapiau cyfleoedd yng Nghymru ar gyfer Llywodraeth Cymru ac ar gyfer 10 dinas yn Lloegr ar gyfer y DESNZ, ac wedi ymgymryd â gwaith i lywio polisi a chefnogi buddsoddwyr ar gyfer rhwydweithiau gwres
Byddwn yn ailddefnyddio neu’n ailgylchu 95% o’r ocr haearn a’r solidau haearn a gynhyrchir o’n cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau i atal gwaredu mewn safleoedd tirlenwi Mae llai na 5% o’r ocr haearn a’r solidau haearn a gynhyrchwyd gennym wedi mynd i safleoedd tirlenwi. Rydym wedi cyrraedd ein targed ar gyfer 2025
Byddwn yn cynyddu ein darpariaeth gwasanaeth i bartneriaid 30% o’n llinell sylfaen o £2.49 miliwn y flwyddyn ar gyfer 2021 i 2022 Rydym wedi cynyddu ein darpariaeth gwasanaeth i bartneriaid fwy na 50% o’n llinell sylfaen ar gyfer 2021 i 2022. Rydym wedi rhagori ar ein targed ar gyfer 2025
Byddwn yn cynorthwyo’r diwydiant benthyca i wneud penderfyniadau cyflymach i brynwyr tai yn y meysydd glo Mae gennym raglen o ymgysylltu gweithredol â sefydliadau benthyca allweddol, benthycwyr morgeisi, syrfewyr ac asiantaethau tai i ddarparu gwybodaeth am ein gwaith a chefnogi hyder ym marchnad dai’r meysydd glo. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau benthyca a syrfewyr i helpu i ddatblygu’r dulliau gorau o gael mynediad at ein data a darparu gwasanaethau dehongliadol i’w helpu i wneud penderfyniadau benthyca gwybodus. Rydym wedi cyrraedd ein targed ar gyfer 2025

Mae creu gwerth (ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol) yn allweddol i’n meddwl yn yr Awdurdod Adfer Mwyngloddio, ac rydym yn chwilio’n gyson am arloesiadau ac effeithlonrwydd newydd i gyflawni canlyniadau gwell, cyfleoedd newydd ac arbedion i’r trethdalwr.

Darllenwch ein fframwaith cyfleoedd sgil-gynhyrchion a’n fframwaith cyfleoedd gwres dŵr mwynglawdd.

8.4 Creu lle gwych i weithio

Canlyniad cerdyn sgôr: Byddwn yn gyflogwr o ddewis lle mae ein pobl yn teimlo y gallant berthyn. Bydd gennym ddiwylliant cynhwysol gyda ffocws cryf ar lesiant, dysgu a datblygiad. Rydym yn ymfalchïo mewn cyflawni gwaith pwysig i’r cymunedau a wasanaethwn, ac yn byw ein gwerthoedd.

Targedau cynllun busnes erbyn Ebrill 2025 Ein cyflawniadau erbyn Ebrill 2025
Byddwn yn gwneud cynnydd amlwg tuag at sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau a wasanaethwn ledled Prydain Fawr yn fwy Gwnaethom gynnydd amlwg wrth gyflawni’r camau gweithredu yn ein cynllun amrywiaeth a chynhwysiant a’n cynllun gwrth-hiliol, ac rydym wedi cyrraedd ein targed ar gyfer 2025  
Byddwn yn cefnogi ffyniant bro drwy gymryd camau i wella symudedd cymdeithasol a darparu prentisiaethau i unigolion sy’n byw ar y maes glo ac sydd â chysylltiad teuluol â mwyngloddio Rydym wedi datblygu a gweithredu rhaglenni prentisiaeth a phrofiad gwaith ac wedi cymryd camau ymarferol i ystyried symudedd cymdeithasol a darparu cyfleoedd i unigolion sy’n byw ar y maes glo neu sydd â chysylltiad teuluol â mwyngloddio. Rydym wedi cyflawni ein targed ar gyfer 2025.
Byddwn yn cyflawni sgôr 5 seren yn Archwiliad Iechyd, Diogelwch a Llesiant 5 Seren Cyngor Diogelwch Prydain Fe wnaethom feincnodi ein dull iechyd, diogelwch a llesiant gan ddefnyddio Archwiliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol 5 Seren Cyngor Diogelwch Prydain a chyflawni sgôr 5 seren. Rydym wedi cyrraedd ein targed ar gyfer 2025
Byddwn yn cynyddu ein sgôr ymgysylltu arolwg gweithwyr 10% yn erbyn meincnod 2019 o 67% Fe wnaethom gyflawni sgôr ymgysylltu cydweithwyr o 75% yn ein harolwg pobl yn 2024, ac rydym wedi rhagori ar ein targed ar gyfer 2025

Mae pobl wych wrth wraidd yr hyn a wnawn a dim ond os gallwn eu denu, eu recriwtio a’u cadw y gallwn gyflawni’r gwaith pwysig a wnawn i gadw pobl yn ddiogel, amddiffyn dŵr yfed a’r amgylchedd a gwneud y mwyaf o gyfleoedd. I gefnogi hynny, rydym yn canolbwyntio ar fod yn ‘lle gwych i weithio’, sy’n denu talent amrywiol ledled Prydain Fawr ac yn helpu cydweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu yn eu gwaith.

Rydym yn buddsoddi yn sgiliau ein pobl gyda llawer o gyfleoedd i ddysgu, tyfu a datblygu. Rydym yn gyflogwr o ddewis sy’n fywiog, deinamig a modern ac yn hyrwyddo diwylliant cynhwysol sy’n canolbwyntio ar lesiant, ac sy’n cael ei ategu gan ein gwerthoedd.

8.5 Ein gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol

Canlyniad cerdyn sgôr: Byddwn yn datblygu systemau a phrosesau modern a gwydn sy’n addas ar gyfer y dyfodol, yn cefnogi ein pobl ac yn ei gwneud hi’n haws i’n cwsmeriaid a’n partneriaid wneud busnes gyda ni.

Targedau cynllun busnes erbyn Ebrill 2025 Ein cyflawniadau erbyn Ebrill 2025
Byddwn yn diweddaru 100% o’n systemau TG strategol ac yn eu rhedeg yn y cwmwl Fe wnaethom ddysgu drwy’r gwaith hwn ac ail-gyfnodi’r rhaglen lle byddai’n fwy effeithlon peidio â symud ychydig o systemau cefn swyddfa - er enghraifft lle rydym yn symud i gyflenwr neu system newydd ac y byddai’n aneffeithlon symud system a fydd yn fuan yn ddiangen. Mae hyn yn golygu ein bod wedi symud 90% o’n systemau i’r cwmwl ac wedi cyrraedd ein targed ar gyfer 2025 yn rhannol
Byddwn yn gwneud ein gwasanaethau a’n gwybodaeth ddigidol yn fwy hygyrch, perthnasol a chyda mwy o opsiynau hunanwasanaeth – bydd 100% o’n gwasanaethau’n ddigidol yn ddiofyn, a bydd 100% o’n systemau trafodion newydd yn dilyn safonau gwasanaeth a dylunio GOV.UK Fe wnaethom ddysgu trwy’r gwaith hwn a gwrando ar adborth gan gwsmeriaid a chydweithwyr a ddangosodd i ni ei bod hi’n fwyaf cost-effeithiol ac effeithlon canolbwyntio ar y systemau a’r gwasanaethau sydd bwysicaf i’n cwsmeriaid digidol ac ystyried a diogelu ffyrdd eraill y mae’n well gan rai cwsmeriaid ymgysylltu â ni. Mae hyn yn golygu bod 83% o’n gwasanaethau bellach yn ddigidol yn ddiofyn, a bydd ein llinell ffôn 24/7/365 yn parhau i fod y prif ddull o gofnodi digwyddiadau a chael cymorth ac ymateb brys. Bydd 100% o’n systemau trafodion newydd yn dilyn safonau GOV.UK. Mae ein targed ar gyfer 2025 wedi’i gyflawni’n rhannol
Byddwn yn gwneud cynnydd amlwg ar weithredu systemau sy’n caniatáu cydweithio symlach a gwell o fewn y sefydliad a chyda phartneriaid Rydym wedi cyflwyno ac ymgorffori offer cynhyrchiant newydd, gan gynnwys cyfres o gynhyrchion Microsoft 365, i wella cydweithio rhwng cydweithwyr a chyda phartneriaid. Rydym wedi cyflawni ein targed ar gyfer 2025
Byddwn yn gwneud cynnydd amlwg wrth wella ein sgoriau hunanasesu data y gellir eu canfod, eu cyrraedd, eu rhyngweithredu a’u hailddefnyddio (FAIR) Cyhoeddwyd cynllun data a gwybodaeth sy’n disgrifio sut rydym yn moderneiddio ac yn datblygu mynediad at ein data a’n gwybodaeth, ac yn parhau i wella ein sgoriau asesu FAIR er budd ein cwsmeriaid. Rydym wedi cyflawni ein targed ar gyfer 2025

Rydym yn gosod lefel uchel o uchelgais drwy ein gweledigaeth a’n cynllun busnes, sy’n cael eu galluogi drwy systemau a dulliau effeithiol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae’r rhain yn ein cefnogi i ddarparu’r gwasanaethau craidd sy’n amddiffyn bywyd, dŵr yfed a’r amgylchedd, ac yn caniatáu inni wneud y mwyaf o gyfleoedd i greu gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr.

Mae ein rhaglenni a’n gwelliannau digidol yn cael eu llywio gan adborth gan ein cwsmeriaid, partneriaid, contractwyr a chydweithwyr i gefnogi cydweithio a’n gwneud yn hawdd i wneud busnes â ni.

Mae ein data a’n gwybodaeth yn sail i bob darn o waith a wnawn fel sefydliad ac yn helpu eraill i wneud penderfyniadau gwybodus – gan gynnwys trosglwyddo eiddo gyda hyder ar y maes glo.

9. Adolygiad ariannol

Rydym wedi cael blwyddyn arall o gyflawniad cryf. Rydym wedi gweld cynnydd parhaus yn ein gwaith ymateb i ddigwyddiadau a diogelwch y cyhoedd i gadw pobl yn ddiogel a rhoi tawelwch meddwl iddynt, ac rydym wedi cynyddu ein buddsoddiad parhaus yn ein cynlluniau i drin dŵr mwyngloddiau a diogelu’r amgylchedd i’r dyfodol.

Rydym wedi parhau i gynyddu ein hincwm o wasanaethau cynghori wrth i ni gefnogi ein partneriaid i ddeall a rheoli eu risgiau, a darparu gwybodaeth a gwasanaethau i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus.

Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r DESNZ i gyfleu’r risgiau a’r sensitifrwydd y tu ôl i’n gofynion ariannu, ac wedi cyflawni yn unol â’n rhagolygon.

Roedd y cymorth grant a dderbyniwyd gan y DESNZ yn ystod y flwyddyn yn £75.1 miliwn (2023 i 2024: £67.1 miliwn) sy’n adlewyrchu cynnydd yng nghost net ein gweithrediadau fel yr amlinellir isod.

Eglurir a darlunnir hyn gan y tabl canlynol (nodwch fod cyfran sylweddol o’r gost hon wedi’i darparu ar ei chyfer mewn blynyddoedd blaenorol fel yr eglurir yn nodyn 13 o’r datganiadau ariannol ac nid

 yw’n cael ei chodi’n uniongyrchol i’r Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr yn y flwyddyn).

Gan weithio gyda’n partneriaid, fe wnaethom gyflwyno rhaglen gyfalaf flynyddol sylweddol i amddiffyn cyrsiau dŵr, dyfrhaenau dŵr yfed ac atal llifogydd.

Mae gwariant refeniw ar ein cynlluniau wedi cynyddu’n bennaf oherwydd ein gwaith parhaus i asesu opsiynau i amddiffyn cyrsiau dŵr a dyfrhaenau rhag problem dŵr mwyngloddiau hallt mewndirol yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol a chost-fuddiol.

Bydd ein rhaglenni effeithlonrwydd parhaus yn lleihau cost rhedeg cynlluniau dŵr mwyngloddiau yn y dyfodol drwy ddefnyddio defnyddiau arloesol ar gyfer ein sgil-gynhyrchion.

Mae hyn yn cynnwys ymestyn y defnydd o’n sgil-gynnyrch ocr yn y farchnad treulio anaerobig, a chreu effeithlonrwydd gweithredol arall dan arweiniad ein buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy i leihau costau pŵer a chyfrannu at gyflawni ein hymrwymiadau i leihau carbon.

Rydym yn disgwyl i’r gweithgareddau hyn ddarparu £4.9 miliwn ychwanegol dros y cyfnod o 5 mlynedd nesaf.

9.1 Sut wnaethon ni ddefnyddio ein harian yn 2024 i 2025

Ein hincwm o                             2023 i 2024  2024 i 2025  
Adroddiadau mwyngloddio £6.6 miliwn    £6.7 miliwn
Gwasanaethau cynghori a thechnegol £8.1 miliwn  £10 miliwn 
Sgil-gynhyrchion ac arloesedd masnachol arall       £300,000 £200,000 
Indemniadau trwyddedu a chaniatâd     £700,000   £1 miliwn
Trwyddedu data a gwybodaeth am gloddio £1.7 miliwn    £2.3 miliwn
Yn ymwneud ag eiddo                            £800,000 £1.1 miliwn
Incwm arall                                £100,000   £200,000
Cyfalaf gweithredol               -£800,000   £2.7 miliwn
Cymorth grant (DESNZ neu’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol)        £67.1 miliwn   £75.1 miliwn
Cyfanswm incwm                                £84.6 miliwn £99.3 miliwn 
Ein gwariant ar                                               2023 i 2024  2024 i 2025 
Gweithrediadau: Diogelwch cyhoeddus £20.2 miliwn £24.5 miliwn
Gweithrediadau: Cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau £24 miliwn   £28.2 miliwn
Gweithrediadau: Gorsafoedd pwmpio ymsuddiant £2.6 miliwn £2.9 miliwn 
Datblygu: Cynllunio, trwyddedu, caniatâd ac eiddo £4.9 miliwn  £5.4 miliwn 
Data a gwybodaeth                                 £4.5 miliwn  £5 miliwn 
Masnachol                                               £9.8 miliwn £11.8 miliwn
Arloesedd                                                 £2.1 miliwn  £2.5 miliwn 
Cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau (cyfalaf)                     £13.6 miliwn £15.8 miliwn
Rhaglen gorsafoedd pwmpio ymsuddiant (cyfalaf))            £300,000 £700,000
Arall (cyfalaf)                                            £2.6 miliwn £2.5 miliwn 
Cyfanswm gwariant                                           £84.6 miliwn £99.3 miliwn

Incwm o £21.5 miliwn yn ôl y datganiad o wariant net cynhwysfawr yw cyfanswm y ffigurau incwm uchod, ac eithrio cymorth grant a symudiadau cyfalaf gweithio.

Mae ein gwariant ar ddiogelwch y cyhoedd yn adweithiol a gall amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Cynyddodd gwariant 2024 i 2025 o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol, gan adlewyrchu’r gwaith rydym wedi’i wneud i ddatrys nifer o hawliadau a digwyddiadau sylweddol gan gynnwys prosiectau i adfer nodweddion mwyngloddio sy’n effeithio ar seilwaith rheilffyrdd ger Barnsley, De Swydd Efrog ac eiddo yn Wishaw, Gogledd Swydd Lanark.

Cynhyrchodd ein gwaith gwasanaethau cynghori a thechnegol incwm o £10 miliwn (2023 i 2024: £8.1 miliwn), gan adlewyrchu ein llwyddiant parhaus wrth weithio gydag eraill i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar draws y llywodraeth.

Mae hyn yn cynnwys cyflawni cynllun dŵr mwyngloddiau ar gyfer Defra yn Lloegr a Chyfoeth Naturiol Cymru, a chefnogi Llywodraeth Cymru gyda rheoli tomenni yn ddiogel.

Mae incwm o £6.7 miliwn yn ôl adroddiadau mwyngloddio yn parhau i fod yr un fath â’r llynedd (2023 i 2024: £6.6 miliwn). Mae hyn yn adlewyrchu twf yn y farchnad eiddo a chyfaint y trafodion, ond mae’n cael ei wrthbwyso gan golled fach yng nghyfran y farchnad o ganlyniad i’n polisi i sicrhau bod ein data ar gael, a thrwy hynny agor y farchnad o safle bron yn fonopoli.

9.2 Datganiadau ariannol

Mae ein datganiadau ariannol yn cael eu dominyddu gan y balans darpariaethau o £1,709 miliwn. Dangosir y rhesymeg a’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo hyn yn nodyn 13 i’r datganiadau ariannol.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol ac yn unol â’n polisi cyfrifyddu, adolygwyd y ddarpariaeth hon ar gyfer datrys effeithiau cloddio glo yn y gorffennol ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2024 i 2025. Mae’r balans hwn wedi cynyddu £98 miliwn (2023 i 2024: gostyngiad o £600 miliwn):

  • yn unol ag arfer cyfrifyddu rydym yn addasu ein llifau arian i adlewyrchu gwerth amser arian yn seiliedig ar dybiaethau a chyfraddau a ddarperir gan Drysorlys EF – mae newid cyfraddau eleni wedi arwain at ostyngiad o £59 miliwn (2023 i 2024: gostyngiad o £876 miliwn)

  • Mae ein llifau arian sylfaenol, y mae balans y darpariaethau yn cael ei gyfrifo arnynt, wedi cael eu diweddaru yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf ac wedi cynyddu £327.4 miliwn i £4,060.4 miliwn (mae hyn yn cydnabod cynnydd o ganlyniad i chwyddiant, sy’n effeithio’n benodol ar adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw ein cynlluniau dŵr mwyngloddiau, yn ogystal ag adlewyrchu’r duedd dros y blynyddoedd diwethaf o reoli nifer cynyddol o ddigwyddiadau diogelwch cyhoeddus cymhleth) – mae’r newid hwn mewn llifau arian sylfaenol, ar ôl addasu ar gyfer gwerth amser arian, yn cael yr effaith o gynyddu balans y darpariaethau o £157 miliwn.

9.3 Datganiad o wariant net cynhwysfawr

Roedd y gwariant net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025 yn £170.7 miliwn (2023 i 2024: incwm net £534.6 miliwn). Mae’r gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy flynedd yn cael ei yrru gan y symudiadau darpariaethau a amlinellwyd uchod.

Heb gynnwys y symudiadau darpariaethau hyn, roedd y gwariant net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn yn £35.5 miliwn (2023 i 2024: £33.2 miliwn), cynnydd o £2.3 miliwn. Amlinellir y rhesymau dros y symudiad hwn isod.

9.4 Cyfanswm yr incwm gweithredol

Roedd cyfanswm yr incwm gweithredol, sy’n eithrio cymorth grant, yn £21.5 miliwn (2023 i 2024: £18.3 miliwn) ac mae’n adlewyrchu ein strategaeth barhaus i gydweithio â sefydliadau’r sector cyhoeddus i’w cefnogi i reoli eu risgiau, gan hyrwyddo cystadleuaeth yn y farchnad adroddiadau mwyngloddio a galluogi eraill i ddefnyddio ein data a’n gwybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus:

  • mae ein hincwm gwasanaethau cynghori a thechnegol wedi codi £1.9 miliwn i £10 miliwn – mae hyn yn cael ei yrru’n bennaf trwy raglenni mwyngloddiau metel estynedig a gyflwynwn ar gyfer Defra a CNC

  • mae cynnydd o 16% flwyddyn ar flwyddyn ym maint y farchnad, wedi’i wrthbwyso gan golled cyfran o’r farchnad yn ystod y flwyddyn, wedi arwain at gynnydd o £0.1 miliwn yn incwm adroddiadau mwyngloddio i £6.7 miliwn, tra bod incwm trwyddedu data a gwybodaeth mwyngloddio wedi cynyddu £0.6 miliwn i £2.3 miliwn

  • mae cynnydd arall yn ein hincwm o 2023 i 2024 yn ymwneud â’r elw ar waredu eiddo (cynnydd o £0.4 miliwn) a newidiadau bach mewn indemniadau trwyddedu a chaniatâd, sgil-gynhyrchion, rhent ac incwm arall (cynnydd o £0.2 miliwn)

9.5 Gwariant

Dangosodd costau staff o £28.2 miliwn gynnydd o £5.1 miliwn o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae dyfarniad cyflog, ar 5% yn unol â chanllawiau cylch cyflog y gwasanaeth sifil, yn cyfrif am £1.1 miliwn. Mae gweddill y cynnydd hwn yn cael ei yrru gan nifer y staff sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau cynghori â thâl i’n cwsmeriaid a darparu mwy o wasanaethau rheng flaen ar gyfer y cymunedau a wasanaethwn. Mae hyn yn cynnwys diogelu’r amgylchedd trwy gyflawni ein rhaglen cynllun dŵr mwyngloddiau, a gwaith dichonoldeb i asesu opsiynau i reoli halltedd mewndirol.

Cynyddodd prynu nwyddau a gwasanaethau (heb gynnwys costau rheng flaen a ddarparwyd mewn blynyddoedd blaenorol) £1.1 miliwn i £13 miliwn. Mae’r prif ysgogwyr yn cynnwys cynnydd o £0.5 miliwn i fuddsoddiad technoleg gwybodaeth i sicrhau bod ein systemau’n parhau i fod yn wydn ac yn addas ar gyfer y dyfodol, a £0.4 miliwn o gostau cadwyn gyflenwi sy’n cefnogi’r cynnydd yn ein hincwm gwasanaethau cynghori a thechnegol.

Gostyngodd taliadau dibrisiant, ailbrisio ac amhariad £0.7 miliwn i £15.9 miliwn. Mae symudiadau allweddol yn cynnwys gostyngiad mewn amhariadau o £1.1 miliwn, wedi’i ysgogi gan ostyngiad y flwyddyn flaenorol mewn ased hawl i ddefnyddio sy’n gysylltiedig â phrydles ar gyfer hen safle pwll glo anweithredol, wedi’i wrthbwyso gan gynnydd o £0.2 miliwn mewn ailbrisiadau asedau wedi’i ysgogi gan werthuso adeiladau’r pencadlys.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodiadau 3 a 4, yn ogystal â nodiadau 6 a 7 i’r datganiadau ariannol.

9.6 Datganiad o’r sefyllfa ariannol

Cynyddodd rhwymedigaethau net o £1,696.3 miliwn o £95.8 miliwn (2023 i 2024: rhwymedigaethau net o £1,600.5 miliwn). Y ffactorau allweddol oedd:

  • Mae darpariaethau yn erbyn rhwymedigaethau yn y dyfodol wedi cynyddu £98 miliwn o ganlyniad i’r adolygiad yn y darpariaethau a amlinellwyd uchod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodyn 13 i’r datganiadau ariannol

  • mae cynnydd o £3.1 miliwn yng nghyfanswm yr asedau anghyfredol i £28.5 miliwn (2023 i 2024: £25.4 miliwn) yn cael ei yrru’n bennaf gan 2 gynllun dŵr mwyngloddiau newydd sydd wrthi’n cael eu hadeiladu

  • mae derbyniadau masnach wedi cynyddu £2 filiwn i £6.2 miliwn (2023 i 2024: £4.2 miliwn), yn bennaf oherwydd amseriad y taliad gan CNC am wasanaethau cynghori a thechnegol mewn perthynas â’u rhaglen cynllun dŵr mwyngloddiau metel ac ad-daliadau TAW sy’n ddyledus gan Drysorlys EF

  • mae arian parod ac arian cyfatebol yn £21.2 miliwn (2023 i 2024: £15.6 miliwn): gweler yr adran isod ar lif arian parod am fanylion am symudiadau

  • mae masnach a thaliadau eraill wedi cynyddu £8.7 miliwn i £43.7 miliwn (2023 i 2024: £35 miliwn), gyda’r prif ysgogydd yn wariant cronnol sy’n ymwneud â gwariant cynyddol ar gynlluniau diogelwch cyhoeddus a dŵr mwyngloddiau

9.7 Llif arian

Ar 31 Mawrth 2025 roedden ni’n dal £21.2 miliwn o arian parod (2024: £15.6 miliwn). Mae hyn yn cynnwys £1.4 miliwn (2024: £1.4 miliwn) o gronfeydd wedi’u neilltuo mewn perthynas â gwarantau a hawliwyd gan weithredwyr mwyngloddio sydd wedi’u diddymu.

Bu cynnydd net mewn arian parod yn ystod y flwyddyn o £5.6 miliwn. Rhannau cyfansoddol o’r symudiad hwn oedd:

  • derbyniad grant cymorth o £75.1 miliwn gan y DESNZ, cynnydd o £8 miliwn (2023 i 2024: derbyniad o £67.1 miliwn) – mae’r arian parod a dynnwyd i lawr o’r adran yn cwmpasu cyfalaf gweithio sy’n ymwneud â 3 phrif faes: gweithredu ein cynlluniau dŵr mwyngloddiau, rheoli hawliadau a digwyddiadau diogelwch y cyhoedd a chyflawni ein rhaglenni cyfalaf

  • all-lif arian parod net o weithgareddau gweithredol o £50.8 miliwn (2023 i 2024: £46.9 miliwn) – rydym wedi gwario £3.9 miliwn yn fwy eleni ar ein gweithrediadau a ysgogwyd gan ein rhaglenni dŵr mwyngloddiau, gan gynnwys dechrau ein gwaith manwl i gynhyrchu a gwerthuso’r opsiynau mwyaf cost-effeithiol a chynaliadwy ar gyfer trin dŵr mwyngloddiau hallt mewndirol yn y dyfodol

  • all-lif arian parod net o weithgareddau buddsoddi o £18 miliwn, cynnydd o £0.8 miliwn ar y flwyddyn flaenorol (2023 i 2024: £17.2 miliwn) – mae hyn yn ymwneud yn bennaf â phrynu eiddo, peiriannau ac offer fel rhan o’n rhaglen gynyddol i ddatblygu, adeiladu a chynnal cynlluniau dŵr mwyngloddiau a gorsafoedd pwmpio ymsuddiant, yn ogystal â buddsoddiad parhaus yn ein technoleg a’n systemau gwybodaeth

9.8 Busnes hyfyw

I’r graddau nad ydynt yn cael eu diwallu o’n ffynonellau incwm eraill, dim ond grantiau yn y dyfodol neu grantiau cymorth gan ein hadran noddi, y DESNZ, a all ddiwallu ein rhwymedigaethau. Mae hyn oherwydd, o dan y confensiynau arferol sy’n berthnasol i reolaeth seneddol dros incwm a gwariant, ni chaniateir rhoi grantiau o’r fath cyn bod eu hangen.

Mae paragraff 14(1) o Atodlen 1 i Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 yn nodi: “Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas â phob blwyddyn gyfrifyddu, yn talu i’r Awdurdod Glo y swm y gall benderfynu mai dyma’r swm sydd ei angen ar yr Awdurdod Glo i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon yn ystod y flwyddyn honno.”

Ar y sail honno, mae gan y bwrdd ddisgwyliad rhesymol y byddwn yn parhau i dderbyn cyllid er mwyn gallu bodloni ein rhwymedigaethau. Felly rydym wedi paratoi ein datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol.

10. Ein gwaith yn yr Alban

Ym mis Rhagfyr 2024, cwblhawyd gwaith adnewyddu gwerth £1 miliwn yn ein cynllun trin dŵr mwynglawdd Pitfirrane yn Dunfermline, Fife, er mwyn sicrhau y gall barhau i amddiffyn pobl leol a’u hamgylchedd yn effeithiol rhag llygredd dŵr mwynglawdd.

Comisiynwyd y cynllun gyntaf ym mis Hydref 2009, a gall drin bron i 18 miliwn litr o ddŵr bob dydd (20 pwll nofio maint Olympaidd) i amddiffyn llednant o Aber Gweryd rhag llygredd a achosir gan fwyngloddiau hanesyddol yn yr ardal leol.

Mae dŵr y mwynglawdd yn teithio trwy dwnnel draenio mwynglawdd ac yn dod allan mewn strwythur ffynnon nodedig sy’n awyru’r dŵr, gan achosi i haearn toddedig a metelau eraill galedu a gwaddodi.

Yna mae’r dŵr yn mynd trwy sianeli i 2 wely cyrs ar gyfer triniaeth naturiol bellach cyn i’r dŵr glanach gael ei ollwng yn ddiogel i Nant Lyne.

Nid yw’r system hollol oddefol hon yn defnyddio unrhyw bŵer na chemegau, ac mae’n tynnu 35kg o haearn a 26kg o fanganîs bob dydd.

Mae’r cynllun hefyd yn warchodfa i fywyd gwyllt. Mae’r 18,000 metr sgwâr o wely cyrs yn darparu cynefin i amrywiaeth o rywogaethau planhigion ac adar.

Yn 2024, nododd arolwg adar dan arweiniad y gymuned 29 o rywogaethau, gan gynnwys rhegen y dŵr a theloriaid yr hesg, a nododd y safle fel hafan glwydo i wenoliaid a drudwyod.

Mae’r safle wedi’i leoli o fewn tirwedd ehangach o goetir llydanddail.

Mae’r safle ar agor i’r cyhoedd ac rydym yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda’r cwrs golff cyfagos a’r gymuned leol i wneud y mwyaf o fanteision y safle i bobl leol a’u hamgylchedd.

Mae gwelyau cyrs yn gweithio’n bennaf trwy arafu llif dŵr y mwynglawdd ac annog yr ocr haearn solet i glystyru a rhwymo o amgylch eu system wreiddiau.

Dros amser mae’r gwelyau cyrs yn dal llawer o ocr haearn sy’n eu gwneud yn llai effeithiol ac mae angen cynnal a chadw arnynt.

Yn ystod 2024 fe wnaethon ni dorri a symud y cyrs a chloddio’r gwelyau cyrs i’w lefel wreiddiol.

Cedwir 30% o’r cyrs gwreiddiol i’w hailblannu gan fod hyn yn cyflymu’r broses adfer, ac yn lleihau cost a charbon o’r gwaith.

Fe wnaethon ni symud 8,360 tunnell o ddeunydd cyrs ac ocr a gafodd ei wasgaru fel cyfoethogwr pridd ar dir fferm lleol, sy’n ddefnydd cynaliadwy a buddiol o’r deunydd, yn cefnogi’r economi gylchol, yn lleihau gwastraff i safleoedd tirlenwi ac yn cyflawni arbedion ariannol.

Cyflawnwyd arbedion o £1.2 miliwn gan y prosiect hwn drwy weithio fel hyn.

Fe wnaethon ni gydweithio’n agos ag Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yn yr Alban (SEPA) drwy gydol y prosiect i ddylunio, cyflawni a monitro manteision y gwaith.

Roedd hyn yn cynnwys samplu gwell i fonitro a lliniaru unrhyw effeithiau amgylcheddol sydd wedi digwydd.

Mae’r gwaith wedi gwella llif y dŵr drwy’r safle sy’n sicrhau bod ganddo’r gallu i drin y cyfaint angenrheidiol o ddŵr mwynglawdd ar gyfer y tymor hir.

Rydym yn parhau i reoli’r gwelyau cyrs drwy gydol eu cyfnod ôl-ofal, er mwyn sicrhau y gall y cynllun barhau â’i rôl hanfodol wrth amddiffyn pobl yr Alban a’u hamgylchedd am flynyddoedd i ddod.

10.1 Ein blwyddyn yn yr Alban

  • fe wnaethon ni gynnal 2,237 o archwiliadau mynediad mwyngloddiau

  • fe wnaethon ni gyflwyno 53,809 o adroddiadau mwyngloddio

  • fe wnaethon ni drin 31 biliwn litr o ddŵr mwyngloddiau

  • Fe wnaethon ni ymchwilio ac asesu 123 o hawliadau perygl mwyngloddio, suddo a galwadau brys

  • fe wnaethon ni ddarparu 1,124 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio

  • fe wnaethon ni atal 782 tunnell o solidau haearn rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr

11. Lechyd, diogelwch a lles

Rydym wedi cyflawni’r rhan fwyaf o’n hamcanion a amlinellwyd yn ein cynllun ar gyfer 2022 i 2025, ac mae ein cynnydd wedi’i ategu gan gyflawni sgôr 5 seren yn archwiliad 5 seren Cyngor Diogelwch Prydain ym mis Chwefror 2025.

Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid a’n cadwyn gyflenwi i flaenoriaethu iechyd, diogelwch a lles ein cydweithwyr, contractwyr a’r cyhoedd er mwyn ceisio gwelliant parhaus ac arfer gorau yn y gwaith a wnawn.

Mae gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo diogelwch wedi parhau i fod yn ganolog i’n dull gweithredu. Rydym wedi parhau i weithio gydag Arolygiaeth Mwyngloddiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), Cymdeithas Drilio Prydain (BDA) a phartneriaid eraill i godi ymwybyddiaeth o risgiau diogelwch sy’n gysylltiedig â drilio mewn ardaloedd mwyngloddio glo.

Mae hyn yn cynnwys datblygu rhestr wirio archwilio newydd ar y cyd a chynnal archwiliadau i gasglu data a rhannu mewnwelediadau i safonau drilio i gefnogi gwelliannau i’r diwydiant yn y dyfodol.

Rydym wedi parhau â’n perthynas strategol â’r HSE, gan ddefnyddio ein profiad technegol a’n harbenigedd i roi cyngor ar fonitro nwy.

Fe wnaethon ni weithio i gefnogi Fforwm Cydnerthedd Lleol Swydd Bedford yn dilyn ffrwydrad nwy naturiol Cleat Hill i roi cyngor ar reoli nwy a diogelwch y cyhoedd, fel ymatebydd categori 2 o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004 (fel y’i diwygiwyd 2023).

Fe wnaethon ni gyflwyno papur ar reoli risgiau diogelwch y cyhoedd o fwyngloddio etifeddol i seminar diogelwch blynyddol Sefydliad Peirianwyr Mwyngloddio Canolbarth Lloegr.

Yn ystod 2024 i 2025 rydym wedi gweithio’n agos gyda’n cadwyn gyflenwi i ddysgu a rhannu arfer gorau, gwella adrodd a sicrhau ein bod yn hawdd gwneud busnes â ni.

Rydym wedi treialu ffyrdd newydd o annog adrodd am ddigwyddiadau a damweiniau bron â digwydd, ac wedi gwrando ar adborth i esblygu ein dull gweithredu.

Rydym wedi cynnal adolygiadau trylwyr a dadansoddiadau tueddiadau o feysydd allweddol gan gynnwys lifftiau pympiau a defnydd cemegau mewn cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau, ac wedi datblygu dulliau newydd sydd wedi lleihau risgiau a gwella diogelwch i bawb sy’n gysylltiedig.

Rydym wedi parhau i ymgorffori ein gweithdrefn diogelwch dŵr newydd ochr yn ochr â’n prosesau safle a diogelwch cyhoeddus, ac wedi darparu hyfforddiant wedi’i ddiweddaru ar asesu risg diogelwch cyhoeddus i bob arolygwr safle ac eiddo.

Fe wnaethon ni gwblhau cyflawni ein cynllun iechyd, diogelwch a lles (HSW) 2022 i 2025 i raddau helaeth, a chymryd dysgu i lywio cynllun 2025 i 2028.

Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau bod iechyd a lles yn cael blaenoriaeth ochr yn ochr â diogelwch.

Cefnogir hyn gan gamau ymarferol fel profion iechyd a iechyd galwedigaethol a’n rhaglen cymorth i weithwyr, ochr yn ochr â galluogi a grymuso cydweithwyr trwy ein grwpiau HSW, ymgysylltu â staff a grwpiau lles i sicrhau bod cydweithwyr yn chwarae rhan lawn wrth lunio a llywio ein dulliau.

Mae ein munudau iechyd, diogelwch a lles ar ddechrau pob cyfarfod a’n hymgyrchoedd gwybodaeth ffocws yn enghreifftiau da o sut mae lles wedi’i wreiddio ar draws y sefydliad.

Rydym wedi gwneud cynnydd o ran ymgorffori dulliau diogelwch ymddygiadol yn ein gwaith, ond mae gennym fwy i’w wneud a byddwn yn parhau i ymgorffori’r dull hwn yn ein darpariaeth fel rhan o’n cynllun 2025 i 2028.

Dangosodd ein harolwg pobl yn 2024 y byddai 98% o gydweithwyr yn adrodd am bryder ynghylch iechyd, diogelwch neu les, a theimlai 92% fod yr angen i gyflawni gwaith wedi’i gydbwyso â’r angen i weithio’n ddiogel.

Dydyn ni ddim yn hunanfodlon, ac yn parhau i gadw ymwybyddiaeth yn uchel a pharhau i ddysgu gan eraill.

Eleni rydym wedi mireinio ein system rheoli iechyd, diogelwch a lles ar-lein ymhellach i wella rheoli risg, sicrhau bod camau gweithredu a nodwyd yn cael eu datblygu’n gyflym ac i dynnu mwy o ddata a dadansoddiadau tueddiadau o’r wybodaeth, sy’n ein helpu i ganolbwyntio ein hymdrechion lle byddant yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Mae ein hystadegau ar gyfer 2024 i 2025 yn adlewyrchu adrodd rhagweithiol a phwyslais cryf ar arsylwadau cadarnhaol sy’n sicrhau y gellir cymryd camau ataliol neu ddysgu.

Mae ein system rheoli Iechyd a Diogelwch newydd wedi ein galluogi i adrodd ar gamau gweithredu Iechyd a Diogelwch am y tro cyntaf, a sicrhau ein bod yn cymryd camau gweithredu ar yr adroddiadau a dderbynnir.

Mae’r rhain yn cynnwys canfyddiadau o archwiliadau safle (a gofnodwyd yn flaenorol o dan arsylwadau), sy’n golygu bod cynnydd cyffredinol mewn arsylwadau neu gamau gweithredu a nodwyd yn 2024 i 2025 (2,304) o’i gymharu ag arsylwadau yn 2023 i 2024 (2,123).

Mae archwiliadau yn is eleni oherwydd rhaglen adeiladu cynllun llai, yn hytrach nag unrhyw ostyngiad yn y ffocws ar archwiliadau.

Cynyddodd damweiniau a digwyddiadau eleni o 10 (2023 i 2024) i 14 (2024 i 2025), er gyda llai o amser coll yn gyffredinol ac yn ystod cyfnod lle mae ein sefydliad wedi tyfu i ddarparu mwy o wasanaethau.

Rydym yn anelu at ddim damweiniau na digwyddiadau gan ein bod am i bawb aros yn ddiogel, ac rydym yn cymryd pob un o ddifrif iawn, gydag adolygiad llawn yn cael ei gynnal a dysgu wedi’i nodi a’i ymgorffori.

Roedd damwain adroddadwy Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) yn cynnwys gweithiwr i gontractwr a gafodd doriad yn ei ffêr a achoswyd gan gwymp byr wrth ddisgyn ysgol mynediad i gerbyd.

Nodwyd mai pwyslais annigonol ar ddiogelwch ysgolion a gorddibyniaeth ar brofiad oedd yr achos sylfaenol, gyda mesurau ar waith i leihau’r angen am ysgolion mynediad cerbydau lle bynnag y bo modd yn y dyfodol.

Mae ein cynllun iechyd, diogelwch a lles 2025 i 2028 yn adeiladu ar ein profiad a’n dysgu, gan ganolbwyntio ar ein gweithgareddau mwyaf risg uchel a lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf i gefnogi iechyd, diogelwch a lles ein cydweithwyr, y gadwyn gyflenwi a’r bobl a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein system reoli ochr yn ochr â thechnoleg newydd a deallusrwydd artiffisial, lle bo’n briodol, i gefnogi a gwella ein perfformiad yn barhaus.

Mesurau rhagweithiol   2024 i 2025    2023 i 2024
Sylwadau HSW – gweithredoedd neu amodau anniogel (staff a chontractwyr)   1224   1624   
Sylwadau HSW – enghreifftiau o arfer da (staff a chontractwyr)   486     499  
Arolygiadau HSW (staff)    293    483  
Camau gweithredu HSW (staff a chontractwyr)      594      dim yn berthnasol
Mesurau adweithiol   2024 i 2025    2023 i 2024
Damweiniau – dim amser wedi’i golli (staff a chontractwyr)   13    7
  Damweiniau – amser wedi’i golli (staff a chontractwyr)   0   2
  Digwyddiadau – RIDDOR (staff a chontractwyr)   1   1

12. Ein gwaith yn Lloegr

Rydym yn parhau i gymryd camau ymarferol i gefnogi twf a datblygiad diogel a galluogi adeiladu tai ledled Prydain Fawr.

Ym mis Mawrth 2025 dechreuodd y gwaith adeiladu yn ein cynllun trin dŵr mwynglawdd Dawdon yn Seaham, Swydd Durham, i adeiladu rhwydwaith gwresogi dŵr mwynglawdd o’r safle i ddarparu gwres a dŵr poeth i 750 o gartrefi newydd yn natblygiad Pentref Gardd Seaham.

Mae Pentref Gardd Seaham yn ddatblygiad cynaliadwy sy’n cael ei adeiladu i’r de o Seaham. Bydd yn cynnwys 1,500 o gartrefi, ysgol gynradd, canolfan bentref a chanolfannau arloesi a fydd yn creu cymuned newydd fywiog ar arfordir treftadaeth Durham.

Mae ein cynllun trin dŵr mwynglawdd Dawdon eisoes yn chwarae rhan hanfodol drwy amddiffyn dŵr yfed 30,000 o drigolion a’r amgylchedd lleol drwy drin dŵr mwynglawdd i atal llygredd.

Mae wedi darparu gwres i’n swyddfeydd ar y safle ers 14 mlynedd, a bydd nawr hefyd yn darparu gwres a dŵr poeth i’r cartrefi newydd hyn.

Seaham yw cynllun graddfa fawr cyntaf Prydain Fawr i ailddefnyddio cynllun trin dŵr mwynglawdd presennol ar gyfer gwresogi cymunedol.

Cefnogir y prosiect rhwydwaith gwres gan grant gan Brosiect Buddsoddi Rhwydweithiau Gwres DESNZ.

Mae’r cartrefi ar y rhwydwaith wedi’u hadeiladu gan gymdeithas tai’r gogledd, Karbon Homes, mewn partneriaeth ag Esh Group.

Mae’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad y fenter gwresogi dŵr mwynglawdd hon, gan weithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Durham, Karbon Homes a Vital Energi.

Mae Vital Energi wedi cael ei benodi i ddylunio, adeiladu a gweithredu’r system carbon isel, a fydd yn rhedeg y rhwydwaith gwres ardal am y 40 mlynedd nesaf.

Mae’r cynllun hwn yn adeiladu ar lwyddiant prosiectau gwresogi dŵr mwyngloddiau twll turio blaenorol yn Gateshead, Tyne and Wear ac yn Lanchester Wines, Felling, Swydd Durham, lle mae rhwydweithiau gwres eisoes yn gweithio’n effeithiol i ddarparu gwres a dŵr poeth diogel a lleol i gymunedau a busnesau, a chefnogi uchelgeisiau llywodraeth y DU i’r DU fod yn uwch-bŵer ynni glân.

Gydag 82 o gynlluniau trin dŵr mwyngloddiau presennol a gweithfeydd mwyngloddiau o dan 25% o gartrefi a busnesau ledled Prydain Fawr, rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat i ddatblygu piblinell o gynlluniau pellach.

Mae prosiectau cyfredol yn cynnwys Swydd Derby a safle ychwanegol yn Gateshead, yn ogystal â chyfleoedd yn yr Alban a Chymru.

Rydym yn cefnogi ystod eang o astudiaethau dichonoldeb ar gyfer prosiectau a allai ddarparu gwres carbon isel i ysbytai, canolfannau hamdden, a rhwydweithiau gwres presennol ac arfaethedig.

Yn ystod 2024 i 2025, buom yn gweithio gyda Deloitte i gynhyrchu adroddiad ar Brif Ffrydio Gwres Dŵr Mwyngloddiau, sy’n darparu dadansoddiad lefel uchel o’r cyfleoedd economaidd a ffisegol a’r heriau masnachol o ddefnyddio gwres dŵr mwyngloddiau mewn rhwydweithiau gwres ar raddfa fawr ledled Prydain Fawr.

Mae hyn yn dangos bod potensial enfawr a bod dulliau ymarferol, polisi ac ariannol a fyddai’n helpu i gynyddu hyder y diwydiant a buddsoddwyr yn y sector ymhellach.

Byddwn yn gweithio gyda’r DESNZ a phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat i symud y rhain ymlaen.

Fe wnaethon ni hefyd gyhoeddi cyfres o fapiau cyfle gwresogi dŵr mwyngloddiau ar gyfer 10 dinas yn Lloegr – Birmingham, Bryste, Coventry, Leeds, Manceinion Fwyaf, Newcastle, Nottingham, Sheffield, Stoke-on-Trent a Sunderland – a gafodd eu cynnwys yn Adroddiadau Cyfleoedd Parthau Rhwydwaith Gwres DESNZ a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2025.

Mae’r rhain yn dangos cyfleoedd daearyddol ar gyfer prosiectau gwres mawr a all ailddefnyddio treftadaeth mwyngloddio Prydain ar gyfer dyfodol glanach a gwyrddach.

12.1 Ein blwyddyn yn Lloegr

  • fe wnaethon ni gynnal 6,709 o archwiliadau mynediad mwyngloddiau

  • fe wnaethon ni gyflwyno 64,174 o adroddiadau mwyngloddio

  • fe wnaethon ni drin 95 biliwn litr o ddŵr mwyngloddiau

  • Fe wnaethon ni ymchwilio ac asesu 706 o hawliadau perygl mwyngloddio, ymsuddiant a galwadau brys

  • fe wnaethon ni ddarparu 6,084 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio

  • fe wnaethon ni atal 2,578 tunnell o solidau haearn rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr

13. Ein pobl

Rydyn ni wedi parhau i recriwtio, datblygu a thyfu ein pobl i sicrhau y gallwn ddarparu ein gwasanaethau rheng flaen hanfodol yn effeithiol, datrys yr heriau cymhleth yr ydym yn eu hwynebu wrth ymateb i ddigwyddiadau 24/7/365, cofleidio technolegau newydd a deallusrwydd artiffisial, datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd a darparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych.

Mae ein ffocws parhaus ar fod yn lle gwych i weithio i bawb yn ein galluogi i fod yn gyflogwr o ddewis, a recriwtio a chadw’r bobl fedrus sydd eu hangen arnom i gyflawni ein gwaith mewn cymunedau.

Cwblhawyd ein harolwg pobl diweddaraf ym mis Mehefin 2024 gan 86% o gydweithwyr. Cynyddodd ein sgôr ymgysylltu o 67% yn 2022 i 75%, gyda gwelliannau cadarnhaol ar draws bron pob agwedd ar yr arolwg.

Er enghraifft, mae 91% o gydweithwyr yn deall sut mae eu gwaith yn cyfrannu at ein cenhadaeth, ein pwrpas a’n gwerthoedd (i fyny o 83%), mae 74% yn credu eu bod yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud eu gwaith yn dda (i fyny o 67%), ac mae 76% yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am y gwaith maen nhw’n ei wneud (i fyny o 66%).

Dydyn ni ddim yn hunanfodlon ac yn parhau i ganolbwyntio ar wrando, cefnogi ac ymgysylltu â chydweithwyr, a chymryd camau gweithredu mewn ffordd effeithiol.

Rydyn ni’n gweithio gydag ystod eang o gwsmeriaid, cymunedau, partneriaid a chontractwyr cadwyn gyflenwi i gyflawni ein gwaith ac i alluogi blaenoriaethau llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, gan gynnwys twf a datblygiad diogel, cyfle economaidd a gwneud y DU yn uwch-bŵer ynni glân.

I wneud hyn yn dda mae angen gweithlu amrywiol arnom gydag ystod o sgiliau technegol a chymysgedd o brofiad a safbwyntiau newydd, i sicrhau y gallwn barhau i gymryd camau ymarferol ar lawr gwlad.

Rydym wedi gwneud cynnydd pellach wrth adeiladu gweithlu cynrychioliadol i adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu’n well. Mae ein system ymgeisio am swyddi yn cefnogi recriwtio effeithlon, ac rydym wedi gwneud arbedion pellach mewn hysbysebu a defnyddio darparwyr trydydd parti, wrth hysbysebu rolau’n effeithiol ar draws ystod o lwyfannau a defnyddio cyfryngau cymdeithasol hyd yn oed yn fwy effeithiol.

Fe wnaethon ni ymgorffori teclyn newydd, ReciteMe, sy’n cynyddu hygyrchedd i ymgeiswyr, gwella arferion cyflogi cynhwysol ac ehangu ein cynllun cyfweliad gwarantedig.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd symudedd cymdeithasol, ac yn ymgysylltu ag ysgolion a cholegau lleol i hyrwyddo ein lleoliadau profiad gwaith, interniaethau â thâl a phrentisiaethau, ac yn annog ceisiadau gan y rhai sy’n byw mewn cyn-ardaloedd mwyngloddio neu sydd â chysylltiad teuluol â mwyngloddio.

Rydym yn parhau i gymryd camau i leihau ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau (bylchau cyflog cymedrig a chanolrifol 16% yn 2024) ac i ystyried bylchau cyflog ethnigrwydd, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol. Gallwch ddarllen mwy yn ein hadroddiad bwlch cyflog.

Rydym wedi cyflawni ein cynllun amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant a’n cynllun gwrth-hiliol, a byddwn yn lansio cynllun cynhwysiant newydd ar gyfer 2025 i 2028 yr haf hwn. Rydym wedi parhau i gefnogi ein pobl a’u lles.

Mae hyn i gyd yn helpu i recriwtio a chadw pobl dda, gyrru perfformiad uchel cynaliadwy a chyflawni’r canlyniadau gorau y gallwn i’r cwsmeriaid a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

Ym mis Mawrth 2025, fe wnaethom lansio Core Learning, system rheoli dysgu newydd, sy’n dwyn dysgu i mewn i un lle ac yn caniatáu olrhain ac adrodd effeithlon.

Rydym hefyd yn defnyddio Campws y Llywodraeth sy’n caniatáu mynediad effeithlon, gwerth am arian i ddysgu a datblygu ar draws y sector cyhoeddus ac wedi ein galluogi i leihau’r pecynnau hyfforddi pwrpasol y mae angen i ni eu darparu.

Rydym wedi datblygu polisïau ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, wedi cyflwyno offer a systemau newydd ac wedi cynnal cynlluniau peilot i sicrhau y gall cydweithwyr lywio ein mabwysiadu effeithiol o ddeallusrwydd artiffisial a thechnolegau newydd ar draws y sefydliad.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein rhaglen Addas ar gyfer y Dyfodol wedi cyflawni gwelliannau pellach i TG, systemau a llywodraethu ar draws y sefydliad, sydd wedi’u llunio, eu llywio a’u datblygu trwy adborth gan gydweithwyr, ac a all wella cynhyrchiant a’n gwasanaeth i’r cwsmer.

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogaeth a lles ac wedi datblygu ymhellach ein dull o sicrhau bod cydweithwyr yn cael eu trin â pharch, gan lansio polisi ymddygiad annerbyniol newydd ym mis Rhagfyr 2024.

Rydym yn darparu cefnogaeth i gydweithwyr drwy ein cymorthwyr cyntaf iechyd meddwl a’n rhaglen cymorth i weithwyr.

Rydym yn annog ymgysylltiad drwy ein grŵp a’n rhwydweithiau ymgysylltu staff a galwadau cydweithwyr bob pythefnos, lle mae gwaith rheng flaen cyfredol yn cael ei rannu, negeseuon allweddol yn cael eu cyfleu ac adborth yn cael ei glywed a’i ateb.

Fe wnaeth cydweithwyr lunio a datblygu’r cynlluniau ymgysylltu a chyflenwi sy’n gysylltiedig â’n newid enw fis Tachwedd diwethaf, a chyfrannodd eu mewnbwn ar y cyd at y trosglwyddiad llyfn i gwsmeriaid a’n gweithrediadau.

Mae ein pobl yn allweddol i’n darpariaeth ledled Prydain Fawr. Byddwn yn parhau i ymdrechu i fod yn lle gwych i weithio i bawb er mwyn sicrhau bod gennym bobl sydd â’r sgiliau, yr hyder a’r empathi i gefnogi cymunedau a datrys y problemau cymhleth yr ydym yn eu hwynebu 24/7/365.

14. Ein gwaith i alluogi gwerth amgylcheddol a chymdeithasol

Yn dilyn stormydd a thywydd garw, rydym wedi bod yn rhan o brosiect cadernid llifogydd cyffrous ac arloesol gwerth miliynau o bunnoedd i leihau llifogydd dŵr wyneb ym Mansfield, Swydd Nottingham.

Gan weithio gyda Severn Trent Water, Cyngor Dosbarth Mansfield a Chyngor Sir Nottinghamshire, mae ein safle ym Mansfield wedi’i ailgynllunio fel rhan o gynllun ehangach i gynnwys systemau draenio cynaliadwy (SuDS) sydd hefyd yn gwella ansawdd dŵr a chadernid hinsawdd ar gyfer y gymuned leol.

Mae SuDS yn atebion sy’n seiliedig ar natur sy’n gweithio trwy efelychu prosesau naturiol i arafu llif dŵr a gwella gwydnwch cymunedol i newid hinsawdd a thywydd eithafol.

Maen nhw yn helpu draeniau i ymdopi trwy ohirio dŵr wyneb rhag cyrraedd ein carthffosydd a’n draeniau.

Bydd y mesurau a osodir ar ein safle yn storio 220,000 litr o ddŵr yn ystod storm, ac yn cynnwys palmant athraidd a thanciau storio o dan feysydd parcio a ffyrdd y safle, 5 biosianel (sianel wedi’i phlannu) sy’n dal glaw a dŵr ffo o’r safle a 4 plannwr pibell i ddal dŵr o do’r swyddfa.

Wrth i ni weld tywydd mwy anrhagweladwy a mwy o law, bydd y mesurau hyn yn ein helpu ni a’r gymuned i addasu a lliniaru effeithiau newid hinsawdd.

Mae’r cynllun hefyd yn helpu i wella iechyd afonydd lleol drwy atal neu arafu dŵr glaw rhag mynd i mewn i ddraeniau a’r system garthffosiaeth.

Mae hyn yn lleihau’r pwysau ar seilwaith carthffosiaeth, ac yn lleihau’r risg o garthffosiaeth amrwd yn cael ei rhyddhau i afonydd a nentydd.

Mae’r cynllun yn defnyddio atebion sy’n seiliedig ar natur ac yn ein helpu i gefnogi’r economi gylchol drwy leihau faint o ddŵr gwastraff rydyn ni’n ei gynhyrchu, ac i hybu bioamrywiaeth ac ardaloedd cynefin yn ein pencadlys drwy osod y biosianeli a’r planwyr.

Bydd y rhain yn cael eu plannu gyda rhywogaethau sy’n goddef sychder, llifogydd ac ansawdd dŵr, yn gwella’r safle ac yn darparu cynefin gwerthfawr i wenyn a pheillwyr eraill.

Mae’r gwaith hwn yn cefnogi’r uchelgeisiau a’r targedau yn ein cynllun cynaliadwyedd 2023 i 2026.

Y prosiect ar draws Mansfield yw’r mwyaf o’i fath yn Lloegr. Bydd yn gallu storio 30 miliwn litr o ddŵr wyneb yn ystod stormydd.

Costiodd £76 miliwn, creodd 390 o swyddi lleol a chafodd ei ariannu gan Severn Trent Water trwy eu Rhaglen Adferiad Gwyrdd, gyda’r nod o leihau’r risg o lifogydd, gwella bioamrywiaeth a chreu mannau gwyrddach i’r gymuned.

Rydym yn falch o fod wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn sy’n darparu gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol i ardal Mansfield.

Dros y blynyddoedd i ddod byddwn yn adeiladu ar y gwaith hwn i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd ein swyddfa ym Mansfield yn unol ag Ymrwymiadau Llywodraeth i Wyrddu’r DU.

15. Risgiau strategol

Risgiau strategol   Diweddariad a lliniaru   Sgôr gymharol a thuedd yn ystod y flwyddyn
Diogelwch y cyhoedd Mae perygl arwyneb sylweddol a achosir gan gloddio glo yn y gorffennol neu ddigwyddiad ar safle etifeddol yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn achosi anaf difrifol neu farwolaeth Rydym wedi sefydlu prosesau i reoli ein risgiau sy’n cynnwys rhaglenni arolygu a chyfathrebu rhagweithiol a llinell ymateb brys 24/7. Rydym yn mabwysiadu ymateb cymesur i reoli’r risg hon ond ni ellir ei dileu Uchel (sefydlog)    
Hinsawdd newidiol a digwyddiadau tywydd eithafol Nid ydym yn gallu deall, addasu i na lliniaru effeithiau’r hinsawdd newidiol a digwyddiadau tywydd eithafol yn ddigonol, gan effeithio ar ein hasedau a’n gallu i gyflawni ein cylch gwaith Mae ein rhaglenni adeiladu ac adnewyddu cyfalaf sylweddol wedi’u cynllunio i sicrhau bod ein cynlluniau’n lliniaru ac yn atal llygredd a llifogydd. Rydym yn parhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o effaith addasu i newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol ar ein hystâd a’n gweithrediadau, a byddwn yn defnyddio hyn i lywio ein gwaith a’n rhaglenni yn y dyfodol Uchel (sefydlog)   
Dŵr mwynglawdd hallt o feysydd glo mewndirol Mae risg, heb gamau adferol, y bydd dŵr mwynglawdd hallt heb ei drin yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd Mae dadansoddiad o’n monitro o feysydd glo mewndirol Lloegr yn dangos bod cemeg dŵr y mwynglawdd yn hynod heriol, ac yn y tymor hir bydd angen triniaeth ychwanegol i’r hyn a wneir fel arfer. Mae ein gwaith arolygu ac archwilio i ddeall graddfa a maint y mater hwn ar darged, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu opsiynau cynaliadwy i reoli’r risg Uchel (sefydlog) 
Digwyddiadau Mae graddfa neu gydamseredd digwyddiadau critigol/mawr yn effeithio ar allu’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i gyflawni ei amcanion strategol Rydym yn gweithio’n weithredol i gynnal ein gwydnwch a’n parodrwydd ymateb brys, ac yn gweithio gyda phartneriaethau gwydnwch lleol a phartneriaethau gwydnwch rhanbarthol ledled Prydain Fawr i sicrhau y gallwn ymateb i argyfyngau a digwyddiadau sy’n digwydd ar y maes glo. Rydym yn codi ymwybyddiaeth yn rhagweithiol o beryglon mwyngloddio hanesyddol, ac yn hyfforddi ac yn ymarfer gyda chwsmeriaid a sefydliadau partner. Mae hyn yn cynnwys ein rhaglen Diogelwch Mwyngloddiau Uchel (sefydlog)
Methiant seiberddiogelwch Mae hinsawdd wleidyddol y byd, dibyniaeth ddigidol gynyddol, dulliau ymosod cynyddol soffistigedig ac arloesol yn arwain at fethiant seiberddiogelwch sy’n arwain at golled ariannol neu ddata, amhariad ar wasanaeth neu ddifrod i enw da Mae’r bygythiad seiber yn parhau i fod yn sefydlog ond wedi’i gynyddu oherwydd y dirwedd risg fyd-eang. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar hyrwyddo diwylliant seiber-ymwybodol cryf, cynnal rheolaethau technegol cryf, a sicrhau bod gennym weithdrefnau ymateb i ddigwyddiadau cadarn ar waith Canolig (sefydlog)
Polisi llywodraeth Newidiadau polisi a deddfwriaeth mewn meysydd sy’n berthnasol i’n gwaith, gan gynnwys gwahaniaethau cynyddol mewn blaenoriaethau ar draws y 3 gwlad a achosir gan ddatganoli pellach, yn achosi aneffeithlonrwydd, her gyfreithiol, ansicrwydd neu effeithiau ar enw da Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda llywodraethau a phartneriaid yn y 3 gwlad a wasanaethwn i gyflawni ein gwaith mewn ffordd sy’n cefnogi eu blaenoriaethau a’u cynlluniau, ac i wneud y mwyaf o gyflawni canlyniadau’r DU a chanlyniadau cenedlaethol Canolig (sefydlog)
Data/gwybodaeth Oherwydd diffyg adnoddau neu flaenoriaethu neu arafwch wrth fabwysiadu technolegau newydd fel deallusrwydd artiffisial, nid ydym yn gallu esblygu ein data a’n gwybodaeth i ddiwallu anghenion ein busnes ein hunain a rhanddeiliaid, gan arwain at anallu i gyflawni yn erbyn ein hamcanion strategol a chreu gwerth Mae ein cynllun data a gwybodaeth, a gyhoeddwyd yn 2023 i 2024, yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i wneud y mwyaf o werth cymdeithasol ac amgylcheddol ein data ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr. Mae piblinell o waith gwella data ar y gweill a fydd yn cadw ein data yn addas at y diben. Rydym yn cynnal prosiectau peilot deallusrwydd artiffisial i ymchwilio i sut y gallai deallusrwydd artiffisial ein helpu i reoli ein data a’n gwybodaeth yn fwy effeithlon ac effeithiol Canolig (sefydlog)
Iechyd, diogelwch a lles Rydym yn methu â nodi a rheoli’n briodol risgiau iechyd a diogelwch sy’n arwain at farwolaeth, anaf, afiechyd neu lesiant gwael i unrhyw un yr effeithir arnynt gan ein gweithgareddau a/neu asedau Rydym yn parhau i flaenoriaethu iechyd, diogelwch a lles pobl ac mae gennym brosesau a gweithdrefnau cadarn a rhagweithiol ar waith. Rydym wedi cwblhau rhaglen archwilio 5 seren Cyngor Diogelwch Prydain yn llwyddiannus, gan ddangos ein hymrwymiad i reoli iechyd, diogelwch a lles yn effeithiol Canolig (sefydlog) 
Arloesi Oherwydd adnoddau mewnol cyfyngedig neu brosesau mewnol a/neu brosesau cleientiaid, gall datblygu/cyflenwi cynnyrch neu wasanaeth gymryd mwy o amser nag a gynlluniwyd, gan arwain at oedi wrth greu gwerth a/neu arbedion cost Rydym yn parhau i wneud y mwyaf o gyfleoedd i fanteisio ar ein hystadau a’n sgil-gynhyrchion i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Rydym wedi gwneud cynnydd pellach wrth alluogi cyfleoedd gwresogi dŵr mwyngloddiau, gan gydweithio’n agos â’r DESNZ, Arolwg Daearegol Prydain (BGS) a phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat Canolig (sefydlog)
Llywodraethu Mae methu ag esblygu ein fframweithiau llywodraethu mewnol yn ddigonol ar gyflymder twf a chymhlethdod sefydliadol cynyddol yn arwain at dorri rheolaeth sy’n effeithio ar enw da a hyder allanol Mae gennym fframweithiau llywodraethu ar waith, ac rydym yn cydnabod yr angen i’r rhain barhau i esblygu gyda chyflymder newid sefydliadol. Rydym yn parhau i ddatblygu a gwella ein prosesau mewnol, gan gynnwys ein galluoedd sicrwydd rheoli rhaglenni a chontractau i reoli maint a chymhlethdod cynyddol ein rhaglenni. Gweler ein datganiad llywodraethu ar am fwy o fanylion Canolig (yn lleihau)
Ymwybyddiaeth y cyhoedd a phartneriaid Mae strategaeth ymgysylltu a chyfathrebu rhanddeiliaid aneffeithiol yn arwain at randdeiliaid nad oes ganddynt ddealltwriaeth glir o’n cylch gwaith a’n gweithgareddau, gan arwain at golli cyfleoedd i wella canlyniadau i’r amgylchedd ac i’r cymunedau mwyngloddio a wasanaethwn Rydym yn parhau i wella ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid â fforymau cydnerthedd lleol a phartneriaethau cydnerthedd rhanbarthol sy’n cwmpasu’r maes glo. Rydym yn manteisio ar y cyfle a gyflwynir gan newid ein henw a datblygiad ein cynllun busnes nesaf i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’n gwaith, a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid i wella canlyniadau i’r cymunedau a wasanaethwn. Isel (sefydlog)

16. Ein gwaith i alluogi twf

Mae llawer o’n gwaith yn canolbwyntio ar alluogi twf a datblygiad diogel ar draws ardaloedd meysydd glo Prydain Fawr.

Mae hyn yn cynnwys ein gwaith fel ymgynghorai statudol, drwy drwyddedu, sicrhau hyder mewn trosglwyddo eiddo ar y maes glo, defnyddio arloesedd fel gwresogi dŵr mwynglawdd i alluogi tai newydd, a mwy.

Rydym yn cynnig gwasanaethau a dulliau pwrpasol sy’n ein galluogi i weithio’n rhagweithiol ac yn briodol gyda datblygwyr, partneriaid, seilwaith mawr ac awdurdodau lleol ar brosiectau mwy a mwy cymhleth i helpu i sicrhau bod eu cynlluniau’n ddiogel ac yn effeithiol yn y tymor hir.

Ym mis Ebrill 2024 gofynnwyd i ni gan Swyddfa Buddsoddi llywodraeth y DU i gynghori ar y safle ar gyfer buddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd mewn canolfan ddata AI newydd yn Cambois, Gogledd-ddwyrain Lloegr, gan y rheolwr asedau amgen yn yr Unol Daleithiau, Blackstone.

Bydd y ganolfan ddata yn un o’r rhai mwyaf yn Ewrop a bydd yn cyfrannu’n sylweddol at dwf economaidd lleol a chenedlaethol drwy greu 1,600 o swyddi a chyfleoedd ehangach drwy gadwyni cyflenwi ac economi ddigidol y DU.

Mae’r safle wedi’i leoli uwchben gweithfeydd mwyngloddio hanesyddol Pwll Glo Cambois. Roedd pryderon y gallai etifeddiaeth mwyngloddio neu ymsuddiant yn y dyfodol beri risg i’r datblygiad a’r offer sensitif y bydd y ganolfan ddata yn ei gynnwys.

Fe wnaethon ni ddarparu gwybodaeth, canllawiau ac arbenigedd i helpu’r datblygwr i ddeall y risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a llywio’r trwyddedau sydd eu hangen i alluogi’r gwaith adeiladu i fynd rhagddo’n ddiogel ac yn effeithlon ar yr hen safle diwydiannol.

Drwy ein gwaith cydweithredol gyda’r datblygwr, llwyddom i ddarparu trwyddedau i ddrilio 48 o dyllau turio ymchwilio safle ar draws y safle 253 hectar. Roedd y rhain ar wahanol ddyfnderoedd rhwng 50 metr a 108 metr.

Oherwydd yr ymgysylltiad cynnar, roeddem yn gallu penderfynu ar y ceisiadau am drwyddedau o fewn 5 diwrnod gwaith, a helpodd y prosiect i gadw at yr amser a sicrhau bod risgiau ac ystyriaethau mwyngloddio perthnasol wedi’u hadolygu a’u trin yn llawn.

Tra bod y gwaith ymchwilio i’r tir yn mynd rhagddo, fe wnaethom gynnal archwiliadau i roi cyngor ar safonau diogelwch ac amgylcheddol, ac i glywed adborth ar ein hamodau trwydded newydd, a ryddhawyd ym mis Mai 2024, yn dilyn ymgysylltu â’r sector.

Defnyddiodd y datblygwr y wybodaeth o’r ymchwiliad tir i lywio eu cais cynllunio, ac roedden ni’n gallu ymateb yn brydlon i’r awdurdod lleol fel ymgynghorai statudol oherwydd ein bod ni’n gyfarwydd â’r safle cymhleth a’r gwaith a wnaed.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r datblygiad gan Gyngor Sir Northumberland ym mis Mawrth 2025, gyda’r gwaith adeiladu i fod i ddechrau yn haf 2025.

Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Blackstone, Cyngor Sir Northumberland a chydweithwyr llywodraeth y DU i lywio datblygiad diogel ac effeithiol y safle a chefnogi Cynllun Newid llywodraeth y DU.

17. Ein gwaith i wella diogelwch y cyhoedd drwy ein data a’n gwybodaeth

Rydym yn dal casgliad unigryw a helaeth o ddata sy’n manylu ar etifeddiaeth mwyngloddio Prydain Fawr a’i heffaith ar yr amgylchedd.

Credwn y gall defnydd ehangach ac arloesol o’r wybodaeth hon drawsnewid sut rydym ni ac eraill yn llwyddo i greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.

Mae llawer o sefydliadau’r sector cyhoeddus yn defnyddio ein data i gefnogi eu gwaith rheng flaen, galluogi twf a datblygiad a rheoli eu hasedau’n effeithiol.

Y llynedd, fe wnaethon ni lansio ein cynllun data a gwybodaeth ar gyfer 2024 i 2027, ac roedden ni’n cynnwys ymrwymiad i gyflenwi’r data hwn yn rhad ac am ddim ar gyfer prosiectau a gweithgareddau a ariennir gan y trethdalwr.

Ers hynny mae 51 o sefydliadau’r sector cyhoeddus wedi llofnodi trwyddedau gyda ni, ac mae mwy yn cael eu trafod. Ar ôl cofrestru, gall partneriaid gael mynediad am ddim at 22 o setiau data allweddol sy’n cael eu diweddaru a’u hadnewyddu’n rheolaidd.

Ochr yn ochr â hyn, fe wnaethom ryddhau gwasanaeth data newydd ar gyfer awdurdodau cynllunio. Mae hyn yn ffrydio ein data mwyngloddio yn uniongyrchol i’r systemau y mae awdurdodau cynllunio yn eu defnyddio, ac yn integreiddio ein gwybodaeth â data o ffynonellau eraill.

Mae hyn yn eu helpu i wneud penderfyniadau gwell a chydgysylltiedig, ac yn ein helpu ni i gyd i weithio’n fwy effeithlon gyda’n gilydd drwy nodi’n glir pryd y mae’n rhaid ymgynghori â ni ar gais cynllunio risg uchel, a ble y gellir defnyddio cyngor sefydlog yn lle hynny.

Mae hyn yn sicrhau bod ymdrech yn canolbwyntio lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf, ac yn cefnogi twf a datblygiad diogel ledled Prydain Fawr.

Gellir gweld enghraifft o sut mae rhannu ein gwybodaeth yn cefnogi cynllunio a datblygu diogel ar draws y maes glo yng Nghyngor Gogledd Swydd Lanark.

Mae’r cyngor yma’n defnyddio ein data i asesu risgiau posibl o nwyon mwyngloddiau trwy offeryn ar y we, a ddatblygwyd mewn partneriaeth gan BGS a’r cwmni gwasanaethau proffesiynol WSP.

Drwy integreiddio’r wybodaeth hon i’w prosesau cynllunio, mae’r cyngor yn gallu darparu ymatebion mwy cyson, gwybodus ac effeithlon i geisiadau safonau cynllunio ac adeiladu ar gyfer cartrefi ac adeiladau newydd neu estynedig, gan sicrhau bod y risgiau sy’n gysylltiedig â nwyon pyllau glo yn cael eu hystyried yn briodol.

Yn ogystal â’n gwaith i gefnogi cynllunio diogel, rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid ymateb brys drwy’r fforymau cydnerthedd lleol yng Nghymru a Lloegr a’r partneriaethau cydnerthedd rhanbarthol yn yr Alban i ddatblygu adroddiadau lleol sy’n dangos natur a graddfa etifeddiaeth mwyngloddio a’n hasedau rheoli cyfredol, megis cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau a phwyntiau monitro.

Mae hyn yn caniatáu i bartneriaid brys wneud penderfyniadau mwy gwybodus wrth ymateb i ddigwyddiadau er mwyn cadw eu hunain a’r gymuned yn ddiogel.

Rydym yn cydnabod nad yn unig mae ein gwybodaeth yn sail i’n gweithgareddau gweithredol, ond ei bod hefyd o werth sylweddol i ystod eang o ddefnyddwyr. Rydym wedi ymrwymo i archwilio’n barhaus ffyrdd newydd y gellir rhannu a chymhwyso ein data i gefnogi dealltwriaeth ehangach, galluogi gwneud penderfyniadau mwy gwybodus a chyfrannu at ganlyniadau ystyrlon i’r cymunedau a wasanaethwn.

18. Cynaliadwyedd a’r amgylchedd

Rydym wedi gwneud cynnydd pellach yn erbyn y blaenoriaethau yn ein cynllun cynaliadwyedd 2023 i 2026 ac yn erbyn Ymrwymiadau Llywodraeth i Wyrddu llywodraeth y DU.

Lle mae ein huchelgeisiau’n heriol, rydym yn datblygu arloesiadau, yn dysgu ac yn gweithio gydag eraill i rannu arfer gorau a dylanwadu ar newid ehangach.

Yn ystod 2024 i 2025 rydym wedi gweithio gyda chydweithwyr ar draws y llywodraeth i ddylanwadu ar ganllawiau arfer gorau newydd ar gyfer caffael solar moesegol, ac wedi defnyddio hyn i gaffael 10,000 o baneli solar a fydd yn ein galluogi i ddisodli paneli sydd wedi’u difrodi a’u dwyn, a gosod cynlluniau solar newydd mewn safleoedd gweithredol yn ystod 2025 i 2026.

Rydym wedi datblygu ein cynlluniau ynni adnewyddadwy a fydd yn ein cefnogi i gymryd camau parhaus tuag at ddadgarboneiddio ein defnydd o ynni, lleihau costau biliau ynni a chefnogi’r DU i ddod yn uwch-bŵer ynni gwyrdd.

Mae ein cyfanswm allyriadau wedi aros yn fras yn unol â’r rhai a adroddwyd gennym y llynedd, ac rydym wedi parhau i wneud cynnydd ehangach tuag at leihau ein hallyriadau fel y gallwch weld yn yr adran llwyddiannau allweddol a’r tablau manwl isod.

Rydym wedi parhau i chwilio am gyfleoedd i wneud y mwyaf o werth cymdeithasol ac amgylcheddol, ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr, wrth gyflawni ein gwaith.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cyflawni mwy o werth cymdeithasol drwy ein cadwyn gyflenwi, wedi cynyddu neu wella mynediad cyhoeddus mewn 4 o’n safleoedd, ac wedi gweithio gyda phartneriaid i greu gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol ychwanegol mewn 10 safle.

Mae ein gwaith ehangach i alluogi twf, tai a datblygiad diogel ar draws y maes glo wedi galluogi datblygu 288,881 hectar er budd cymunedau a busnesau lleol.

Fe wnaethon ni ymgorffori cynaliadwyedd a gwerth cymdeithasol yn fwy trylwyr yn ein polisïau a’n prosesau caffael a rheoli prosiectau, sefydlu grŵp amgylchedd a chynaliadwyedd cydweithwyr newydd ac ymgysylltu â chydweithwyr i gyflawni ein cynllun cynaliadwyedd fel rhan o’n blaenoriaeth grymuso newid cynaliadwy.

Mae ein sefydliad wedi parhau i dyfu dros y flwyddyn ddiwethaf wrth i ni ddarparu gwasanaethau a rhaglenni ychwanegol, a arweiniodd at ddefnydd dŵr a phapur ychwanegol.

Mae ein mesurau effeithlonrwydd yn parhau i fod yn effeithiol, ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o’n llinell sylfaen wreiddiol a thros y flwyddyn ddiwethaf ar sail y pen.

Rydym yn ymdrechu i barhau i wella, a byddwn yn adolygu ac yn cymryd camau pellach lle gallwn dros y flwyddyn nesaf.

Rydym wedi gwneud cynnydd pellach gyda’n gwaith adfer natur drwy ymgorffori hyn mewn canllawiau gweithredol, cwblhau llinell sylfaen bioamrywiaeth ar draws ein hystâd cynllun trin dŵr mwyngloddiau, a chynnal mapio manwl a datblygu cynllun rheoli mewn safleoedd blaenoriaeth.

Mae adferiad natur yn broses hirdymor, a bydd deall cyflwr ecolegol ein hasedau naturiol yn y ffordd hon yn caniatáu inni weithio mewn partneriaeth i’w rheoli yn y ffordd fwyaf effeithiol yn y tymor hir.

Rydym wedi parhau â’n gwaith ar addasu i’r hinsawdd a chydnerthedd, gan gynhyrchu cynllun blwyddyn i lywio ein gwaith eleni, a’n galluogi i gyhoeddi ein cynllun addasu i newid hinsawdd cyntaf yn 2026.

Rydym yn ymgorffori dysgu a gwelliannau yn ein gwaith gweithredol wrth i ni symud y cynllun ehangach ymlaen, er enghraifft, sicrhau bod addasu i’r hinsawdd yn cael ei ystyried ar ddechrau pob prosiect a chynllun, megis ystyried effaith glawiad cynyddol yn ein cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau, a pharhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i lywio eu cynllunio ar reoli tomenni mwyngloddiau yn y tymor hir.

Yn ystod 2024 i 2025 mae llwyddiannau allweddol yn cynnwys:

  • caffael paneli solar yn foesegol i ganiatáu inni gyflwyno ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr ar ein safleoedd gweithredol

  • cynyddu cyfran y cerbydau allyriadau sero neu isel iawn yn ein fflyd i 97%

  • cwblhau ymarfer mapio cynefinoedd system gwybodaeth ddaearyddol (GIS) ym mhob un o’r 82 cynllun trin dŵr mwyngloddiau

  • ymgymryd â mapio cynefinoedd manwl mewn 22 cynllun trin dŵr mwyngloddiau a 6 safle tipio, a datblygu 2 gynllun rheoli manwl ar sail blaenoriaeth

  • gweithio gyda’n cadwyn gyflenwi i wella’r adrodd a’r olrhain data ar ddeunyddiau crai a charbon gan ddefnyddio offeryn cipio data carbon ar gyfer adeiladu cynllun trin dŵr mwyngloddiau newydd

Rydym yn parhau i wella ein casglu, dadansoddi ac adrodd data yn unol ag Ymrwymiadau Llywodraeth i Wyrddu y DU.

18.1 Ein Hymrwymiadau Llywodraeth i Wyrddu

Ein blwyddyn sylfaenol yw 2017 i 2018.

Ynni 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
Ynni a gynhyrchir trwy ein defnydd uniongyrchol o danwydd ffosil (kWh)     1,141,616       996,740     4,151,179  
Cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) o ddefnydd uniongyrchol o danwydd ffosil (tCO2e)      291.45      245.01     1,141.29  
Allyriadau nwyon tŷ gwydr pencadlys o ddefnydd uniongyrchol o danwydd ffosil (tCO2e)      8.53       8.46     13.70  

Mae hyn yn ymwneud â nwy petrolewm hylifedig (LPG) a brynwyd ar gyfer ein swyddfa ym Mansfield ar gyfer gwresogi ac olew tanwydd diesel a ddefnyddir mewn generaduron mewn safleoedd gweithredol.

Rydym yn disodli generaduron gyda chysylltiadau grid yn rhai o’n safleoedd gweithredol, a byddwn yn gweld manteision hyn yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Ynni 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
Trydan a brynwyd (kWh)    28,056,826      30,482,157    20,494,016  
Cyfanswm allyriadau GHG o drydan a brynwyd (tCO2e)    6,322.61       6,858.16    7,878.51  
Allyriadau GHG pencadlys o drydan a brynwyd (tCO2e)    217.91       243.09     364.94  

Mae’r defnydd o ynni wedi lleihau gan ein bod wedi pwmpio llai o ddŵr yn ein safleoedd gweithredol oherwydd tywydd sychach nag yn 2023 i 2024.

Ynni 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
Ynni adnewyddadwy a gynhyrchwyd (kWh)    935,694       984,539     189,966   
Ynni adnewyddadwy a ddefnyddiwyd(kWh)    639,940       671,502     165,501  
Ynni adnewyddadwy a allforiwyd i’r grid (kWh)    295,754       313,037     24,465  
Dwysedd carbon (kgCO2e/kWh)    0.222      0.221     0.364  

Rydym wedi cynhyrchu llai o ynni o’n gosodiadau solar oherwydd lladrad, a thraul oherwydd oedi cyn cynnal a chadw.

Gan ein bod bellach wedi cytuno ar lwybr caffael moesegol gyda llywodraeth y DU, byddwn yn gallu ailosod a chynnal y safleoedd hyn yn ystod 2025.

Ynni 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
Cyfanswm allyriadau GHG pencadlys sy’n gysylltiedig ag ynni (tCO2e)    226.44       251.55     378.64  

Mae allyriadau wedi lleihau ond maen nhw yn parhau’n gymharol gyson.

Ynni 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
Cyfanswm allyriadau GHG sy’n gysylltiedig ag ynni (tCO2e)   6,614.06     7,112.17   9,019.80  

Mae allyriadau wedi lleihau gan fod angen llai o bwmpio arnom oherwydd tywydd sychach.

Ynni 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
Cyfanswm y gwariant ar ddefnydd ynni    £8,546,812.21     £8,433,478.84     £4,348,855.17  

Mae gwariant yn uwch oherwydd costau ynni uwch.

Allyriadau ffo 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
  Rheweiddio ac aerdymheru (tCO2e)    9   6   6

Canfuwyd a thrwsiwyd gollyngiad yn un o’r oeryddion yn ein swyddfa ym Mansfield eleni, a arweiniodd at allyriadau ychydig yn uwch.

Teithio cysylltiedig â busnes 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
cilometrau wedi’u teithio   1,435,054    1,504,063    1,799,174    
  Nifer yr hediadau   4    0    73   
  Allyriadau nwyon tŷ gwydr (tCO2e)    184.69    207.66    305.9   
Dwyster (tCO2e/100,000km)    12.87    13.81    17   
Cyfanswm y gwariant ar deithio (domestig a rhyngwladol)    £536,652.56    £455,631.29    £354,537.00   

Mae dwyster carbon wedi lleihau ychydig oherwydd dadgarboneiddio fflyd ymhellach, a dewisiadau teithio cynaliadwy.

Cymeradwywyd dwy daith hedfan ddwy ffordd i gydweithwyr fynychu a chyflwyno yng Nghynhadledd Cymdeithas Dŵr Mwyngloddiau Rhyngwladol yn UDA.

Teithio cysylltiedig â busnes 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
  % o gerbydau fflyd sy’n gerbydau allyriadau isel iawn neu sero allyriadau (hybrid neu drydan llawn)     96.9%     75%     0%   

Rydym wedi cymryd camau pellach i ddadgarboneiddio ein fflyd.

Gwastraff 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
Cyfanswm gwastraff (tunnell)     30,871[troednodyn 1] (26,375.92)[troednodyn 2]     30,895[troednodyn 1] (26,9502[troednodyn 2])     1,417[troednodyn 3]    
  Gwastraff swyddfa Mansfield wedi’i ailgylchu (tunnell)     5.54     4.49     12    
  Gwastraff wedi’i ailgylchu (tunnell)     28,651.12     26,015       0    
  Gwastraff wedi’i gompostio/gwastraff bwyd (tunnell)    0.076    Heb ei gofnodi   Heb ei gofnodi  
  Gwastraff Wheal Jane (tunnell)     3,483     3,945     Heb ei gofnodi  
  Gwastraff swyddfa Mansfield i safleoedd tirlenwi (tunnell)     0.06     0.04     6.9    
  Gwastraff i safle tirlenwi (tunnell)     730.38     926     1,405    
  Gwastraff wedi’i losgi (ynni o wastraff) (tunnell)     6.44     4.1     0    
  Gwastraff wedi’i losgi (heb adfer ynni) (tunnell)      0      0      0    
  Gwastraff peryglus swyddfa Mansfield (tunnell)     0      0      0    

Ers 2022 i 2023 rydym wedi cynnwys gwastraff o’r mwynglawdd metel Wheal Jane yr ydym yn ei reoli ar gyfer Defra yn ein ffigurau cyfanswm gwastraff blynyddol. Rydym yn dangos y niferoedd heb Wheal Jane mewn cromfachau er mwyn cymharu’n agosach â’r llinell sylfaen.

Mae cyfanswm y gwastraff ar gyfer 2017 i 2018 yn cynnwys gwastraff o gynlluniau trin dŵr mwyngloddiau gweithredol (Dawdon ac Ynysarwed), ond nid yw’n cynnwys gwastraff trin dŵr mwyngloddiau arall na gwastraff Wheal Jane.

Mae meintiau gwastraff safle yn amrywio’n flynyddol yn dibynnu ar ein rhaglen adnewyddu a faint o ddŵr mwynglawdd sydd angen ei drin bob blwyddyn.

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar wneud y defnyddiau amgen mwyaf posibl ar gyfer ein gwastraff i’w troi’n gynhyrchion defnyddiol, a lleihau’r gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.

Yn ein swyddfa ym Mansfield rydym yn parhau i gynyddu cyfraddau ailddefnyddio ac ailgylchu a lleihau gwaredu.

Gwastraff 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
  Gwastraff TGCh (tunnell)     0.43     0     0  

Rydym yn ailddefnyddio, yn ailddefnyddio neu’n ailgylchu ein hoffer TGCh. Rhwng 2024 a 2025, darparwyd 0.41 tunnell i elusen sy’n ailddefnyddio neu’n ailwerthu’r eitemau, ac aeth 0.02 tunnell i’w hailgylchu.

Gwastraff 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
% o wastraff y pencadlys i safleoedd tirlenwi 0.5% 0.9% 37%
% o wastraff i safleoedd tirlenwi [troednodyn 4]   2.2%   3%   99.2%

Rydym yn parhau i leihau gwastraff i safleoedd tirlenwi (mae hyn yn eithrio Wheal Jane, sy’n cael ei storio mewn cyfleuster gwastraff mwyngloddio, ac ocr sy’n cael ei storio ar gyfer ei ailddefnyddio).

Gwastraff 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
Cyfanswm y gwariant ar waredu gwastraff £8,146.68 £8,157 £3175.71

Mae hyn yn ymwneud â chost gwaredu gwastraff o’n swyddfa ym Mansfield (yn unol â chanllawiau ymrwymiad y llywodraeth i wyrddu).

Gwastraff 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
Eitemau o blastigau untro defnyddwyr (CSUPau)   1,641   11,210 Heb ei gofnodi

Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar leihau plastigau untro yn ein swyddfa ym Mansfield.

Adnoddau – defnydd dŵr 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
Defnydd dŵr (m3) – swyddfa Mansfield   1069   932   1,910
Safleoedd dŵr mwyngloddiau (m3)   7,046   15,969 3,075[troednodyn 5]
Cyfanswm y gwariant ar ddŵr £77,351.06 £54,840.43 £65,259.32

Rydym wedi defnyddio mwy o ddŵr yn ein swyddfa yn Mansfield wrth i nifer ein staff dyfu i ddarparu gwasanaethau ychwanegol, ac mae mwy o bobl yn defnyddio’r swyddfa’n rheolaidd.

Mae ein mesurau effeithlonrwydd dŵr yn parhau i fod yn effeithiol.

Defnyddir dŵr yn y broses gemegol ar rai o’n safleoedd trin dŵr mwyngloddiau.

Mae’r gost uwch, er gwaethaf y defnydd is a adroddwyd, yn ymwneud â chysoni biliau amcangyfrifedig a gwirioneddol mewn safleoedd trin dŵr mwyngloddiau rhwng blynyddoedd ariannol, yn ogystal â chynnydd o 20% mewn costau dŵr.

Yn y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar wella cywirdeb data defnydd, a fydd yn ein helpu i wella effeithlonrwydd a lleihau defnydd dŵr ar y safle.

Adnoddau – defnydd papur 2024 i 2025 2023 i 2024    2017 i 2018
Defnydd papur (rimiau sy’n cyfateb i A4)   470 305 718

Rydym wedi defnyddio mwy o bapur wrth i nifer y staff gynyddu a bod mwy o bobl yn defnyddio’r swyddfa’n rheolaidd, er bod hyn yn parhau i fod ymhell islaw’r lefel sylfaenol. Byddwn yn cymryd camau i fonitro a cheisio lleihau hyn ymhellach yn ystod 2025 i 2026.

Mae’r adroddiad perfformiad hwn wedi’i gymeradwyo gan y prif weithredwr a’r swyddog cyfrifyddu, Lisa Pinney MBE, 7 Gorffennaf 2025

  1. Yn cynnwys holl wastraff cynllun trin dŵr mwyngloddiau gan gynnwys Wheal Jane.  2

  2. Yn cynnwys holl wastraff cynllun trin dŵr mwyngloddiau ac eithrio Wheal Jane.  2

  3.   Yn cynnwys gwastraff o gynlluniau trin dŵr mwyngloddiau gweithredol (Dawdon ac Ynysarwed), ond nid yw’n cynnwys gwastraff trin dŵr mwyngloddiau arall a gwastraff Wheal Jane. 

  4. Nid yw’n cynnwys Wheal Jane, sy’n cael ei storio mewn cyfleuster gwastraff mwyngloddio ac ocr sy’n cael ei storio ar gyfer ei ailddefnyddio. 

  5.   Amcangyfrifedig o ddefnydd cyfartalog.