Skip to main content
Canllawiau

Hylendid llaeth a gweddillion gwrthfiotig

Cyhoeddwyd 26 Ionawr 2018

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Mae deddfwriaeth hylendid bwyd yn nodi dyletswydd busnesau bwyd i gynhyrchu bwyd yn ddiogel.

Pwysig:Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.

Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsorar gael ar GOV.UK.

Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

1. Canllawiau ar gyfer cynhyrchwyr llaeth

Mae ein canllawiau ar gyfer cynhyrchwyr llaeth yn helpu cynhyrchwyr llaeth i gyflawni’r safonau hylendid sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth, fel y maent yn berthnasol i ddaliadau cynhyrchu llaeth.

Maent yn cynnwys:

  • gwybodaeth am eich rhwymedigaethau cyfreithiol
  • canllawiau ar arfer da
  • Dyddiadur Cynnyrch Llaeth i’ch helpu i gofnodi a chynnal cofnodion effeithiol

2. Profi llaeth am weddillion gwrthfiotig

Mae’n rhaid i gynhyrchwyr llaeth sicrhau nad yw llaeth amrwd  o anifeiliaid sy’n cael eu trin â gwrthfiotigau neu yn y cyfnod cadw’n ôl yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd.

Rhaid i fusnesau bwyd brofi llaeth am wrthfiotigau ar wahanol bwyntiau yn y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys ar y fferm. Os canfyddir fod llaeth yn cynnwys gweddillion gwrthfiotig yn uwch na’r uchfaswm gweddillion a ganiateir, mae’n rhaid i fusnesau bwyd gychwyn gweithdrefnau i sicrhau nad yw llaeth amrwd yn cael ei roi ar y farchnad.

Mae ein canllawiau ar brofi llaeth am weddillion gwrthfiotig yn egluro:

  • gofynion cyfreithiol
  • beth mae methu prawf sgrinio gwrthfiotigau yn ei olygu a pha gamau y mae gofyn eu cymryd
  • pwy y dylid eu hysbysu os oes prawf yn methu

Darllenwch ein canllawiau a gwybodaeth ar brofi llaeth am weddillion gwrthfiotig.