Guidance

Rhagair: Michelle Jarman-Howe, Prif Swyddog Gweithredu Carchardai

Updated 1 December 2023

Applies to England and Wales

Mae gweithwyr Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS) yn dangos bob dydd pam eu bod yn rhai o’n gweision cyhoeddus gorau, ac mae eu hymdrechion i gadw carchardai ar waith ledled y wlad yn glod enfawr i ni fel sefydliad. Mae gwaith staff y carchar, yn weithredol neu’n weinyddol, yn cael ei wneud y tu allan i drem y cyhoedd i raddau helaeth, ond i’r carcharorion maent yn eu cefnogi i fyw bywydau heb droseddu ar ôl cael eu rhyddhau, mae eu gwaith yn hanfodol.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn gweld y Gwasanaeth Carchardai fel lle gwych i weithio lle gallant gyflawni eu dyheadau o ran gyrfa. Fe wnaethom lansio’r adnodd ‘Gofalu am ein pobl’ y llynedd i gyflwyno ein pecyn cyflogaeth cyffredinol i staff, i’w ddefnyddio y tu mewn a’r tu allan i’r gweithle. Mae’r ddogfen hon yn dod â phob rhan o’n cynnig cyflogaeth ynghyd, ac mae’n amlinellu rhywfaint o’r gwaith sy’n cael ei wneud ar draws HMPPS a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) i wella ein cynnig ymhellach.

Rydym wedi ymrwymo i ddiweddaru’r ddogfen hon bob blwyddyn er mwyn cofnodi elfennau esblygol ein cynnig, ac ers y llynedd rydym wedi:

  • lansio ein Fframwaith Llwybrau Gyrfa, er mwyn i weithwyr allu gweld yr opsiynau gyrfa a’r swyddi sydd ar gael iddynt ar draws carchardai, y gwasanaeth prawf a’r pencadlys;
  • dechrau’r cynllun peilot o gynyddu asesiadau dyrchafu i ddwywaith y flwyddyn;
  • a chyflwyno cynlluniau aberthu cyflog newydd lle gall staff wneud arbedion ar offer beicio a chael aelodaeth ratach o’r gampfa.

Gobeithiaf y bydd y ddogfen hon yn parhau i wasanaethu fel adnodd sy’n cydnabod y gwaith anhygoel y mae staff yn ei wneud bob dydd.