Guidance

Gofalu am ein pobl: Pecyn gweithwyr y Gwasanaeth Carchardai

Updated 1 December 2023

Applies to England and Wales

1. Eich datblygiad: Ymsefydlu a Gyrfaoedd

Mae gweithio yn y Gwasanaeth Carchardai yn cynnig her unigryw. Dyna pam rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod unrhyw un sy’n ymuno â’r gwasanaeth yn meddu ar y sgiliau cywir, ac yn cael y lefel briodol o gymorth o’i ddiwrnod cyntaf yn y swydd a thrwy gydol ei yrfa gyda ni. Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o’r hyfforddiant a’r cymorth y byddwch yn eu cael wrth ymuno â ni, ynghyd ag opsiynau i ddatblygu eich gyrfa ymhellach.

1.1 Cynllun Pobl a Strategaeth yr MoJ / HMPPS 

Strategaeth Fusnes HMPPS

Rydym ar fin cyhoeddi Strategaeth Dwy Flynedd, a fydd yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer tair rhan ein hasiantaeth ac yn canolbwyntio ar gryfhau gwasanaethau rheng flaen. Byddwn yn gwneud hyn drwy ein hymrwymiad i gyflawni nodau pendant a fydd yn:

  • galluogi ein pobl i fod ar eu gorau drwy recriwtio a hyfforddi’r bobl sydd eu hangen arnom a’ch cefnogi yn eich gweithle
  • moderneiddio ein hystadau a’n technoleg i wneud tasgau’n haws ac ehangu a gwella cyflwr ein hystadau
  • trawsnewid drwy bartneriaethau - yn fewnol drwy ein rhaglen One HMPPS, ac yn allanol, drwy ein partneriaethau â sefydliadau eraill yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i leihau aildroseddu
  • ymgorffori diwylliant agored sy’n dysgu, a datblygu tystiolaeth i wneud penderfyniadau gwell er mwyn gwella ein gwasanaethau

Ochr yn ochr â’r Strategaeth Dwy Flynedd, rydym wedi datblygu addewid (People Promise) i’r rheini sy’n gweithio ar draws maes carchardai, y gwasanaeth prawf a’r Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa (YCS). Byddwn yn sicrhau ein bod yn myfyrio ar y cyd-destunau gwaith penodol ar draws HMPPS ac yn eich cefnogi yn eich gwaith i gyflawni hyd eithaf eich gallu, gyda’r adnoddau a’r dyraniad amser sydd eu hangen arnoch. Mae hyn yn pwysleisio ein hymrwymiad i gynnal y safonau proffesiynol uchaf, ac i gynnig a sicrhau cyfleoedd a chanlyniadau cyfartal.

Cynllun Pobl

Mae’r Cynllun Pobl yn cael ei ddefnyddio fel traciwr mewnol i fonitro cynnydd yn erbyn ein hymrwymiadau o 2023 i 2025. Mae’r cynllun yn nodi camau gweithredu allweddol er mwyn gwella profiad pobl a hybu lefelau cadw a recriwtio. Mae’n seiliedig ar y ddwy flaenoriaeth genedlaethol y cytunwyd arnynt gan Dîm Arwain HMPPS ar ôl dadansoddi canlyniadau Arolwg Pobl 2022. Sef:

  • gosod safonau proffesiynol uchel i sicrhau ein bod yn trin pawb yn deg a gyda pharch
  • gwneud HMPPS yn lle gwych i weithio ynddo

One HMPPS

Mae rhaglen One HMPPS yn helpu i sicrhau bod staff rheng flaen y Gwasanaeth Prawf a Charchardai yn cael y gefnogaeth iawn i allu darparu’r gwasanaethau gorau.

Rydym ni eisiau adeiladu ar yr hyn sydd gennym eisoes a dod â HMPPS yn nes at ei gilydd i sicrhau canlyniadau gwell i ddioddefwyr, cymunedau a throseddwyr.

Mae hyn yn cynnwys:

  • strwythur Pencadlys sy’n rhoi mwy o ffocws a chefnogaeth i gydweithwyr sy’n gweithio ym maes gweithrediadau
  • model ardal a fydd yn dod â charchardai a’r gwasanaeth prawf yn nes at ei gilydd
  • yr offer a’r cytundebau priodol sy’n sicrhau bod gofynion HMPPS yn cael eu gwasanaethu gan MoJ (ac fel arall)

Mae manteision One HMPPS yn cynnwys:

  • taith fwy cydlynol i droseddwyr o’r dechrau i’r diwedd
  • profiad gwell o’r HMPPS i droseddwyr, staff a rhanddeiliaid
  • arbenigedd a rennir ar draws swyddogaethau’r carchardai, y gwasanaeth prawf a’r pencadlys, gyda llai o weithio ar wahân
  • y cydbwysedd cywir rhwng gwasanaethau rhanbarthol a chysondeb cenedlaethol
  • effaith ranbarthol gryfach drwy wneud penderfyniadau datganoledig

1.2 Ymsefydlu a Hyfforddiant Cychwynnol

Fel aelod newydd o’r Gwasanaeth Carchardai, byddwch yn cael cynnig pecyn hyfforddi wedi’i deilwra. Er enghraifft, fel swyddog carchar newydd, byddwch yn cymryd rhan mewn dysgu digidol ochr yn ochr â gweithgareddau carchar ac ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn cynnwys pythefnos o hyfforddiant cychwynnol mewn carchar, a fydd yn cynnwys dysgu wyneb yn wyneb yn y sefydliad, a dysgu digidol seiliedig ar wybodaeth y gellir ei wneud o bell. Yn ystod y bythefnos gyntaf, gallwch ddisgwyl ymweld â’r gwahanol adrannau i arsylwi ar amrywiaeth o weithgareddau. Byddwch yn cwrdd â’ch rheolwr llinell a’ch cydweithwyr, ac yn dysgu am ddiogelwch, gan gynnwys rheoli a defnyddio allweddi. Bydd y dysgu digidol yn eich galluogi i ddewis eich offer a’ch amgylchedd dysgu eich hun, ac yn eich galluogi i ddefnyddio technoleg dysgu datblygol, gan gynnwys podlediadau, darlithoedd TED, e-ddysgu, fideos a llawer mwy. Mae dyfeisiau symudol ar gael i’r rheini sydd heb fynediad at ddyfais bersonol.

Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant cychwynnol, byddwch yn cwblhau pum wythnos arall o ddysgu yn un o’n lleoliadau dysgu ac, yn dibynnu ar y lleoliad, gall hyn fod yn gyfnod preswyl. Yn ystod y bum wythnos, gallwch ddisgwyl ymgymryd ag amrywiaeth o bynciau dysgu a fydd yn cynnwys hyfforddiant diogelwch. Bydd yr elfen hon o hyfforddiant hefyd yn ymdrin â phwysigrwydd cyfathrebu a chreu diwylliant adsefydlu yn ystod sawl sesiwn sgiliau rhyngbersonol. Yn ogystal â’r cwricwlwm craidd, byddwch hefyd yn cwblhau hyfforddiant Defnyddio Grym dwy wythnos o hyd.

Mae staff anweithredol HMPPS yn hanfodol i sicrhau bod carcharorion a staff yn aros yn ddiogel, gyda hyfforddiant yn dibynnu ar arbenigedd pob rôl. Er enghraifft, ar gyfer Dadansoddwyr Diogelwch Band 3, mae’r hyfforddiant yn ffocysu ar roi’r sgiliau, yr offer a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddarparu data cadarn a chymorth dadansoddol i garchardai. Rôl Dadansoddwr Diogelwch yw cefnogi’r Pennaeth Diogelwch i ddatblygu dealltwriaeth o risgiau, themâu a thueddiadau mewn sefydliad. Fel Dadansoddwr Diogelwch, byddwch hefyd yn helpu arweinwyr dalfeydd mwy diogel i ddarparu ‘system wybodaeth a deallusrwydd fwy diogel sy’n canolbwyntio ar y ddalfa’ effeithiol, gan weithio ochr yn ochr â thimau diogelwch i sicrhau bod ffocws yn cael ei roi ar faterion sy’n gysylltiedig â dalfeydd mwy diogel.

Mae hyfforddiant i unigolion ar Raddfa Cymorth Gweithredol (OSG) yn cynnwys pythefnos o hyfforddiant gorfodol, ac yna trydedd wythnos o hyfforddiant dewisol. Yn Wythnos 1 yr hyfforddiant, byddwch yn cael hyfforddiant ar ddiogelwch ac atal llygredigaeth, sgiliau rhyngbersonol, cyflwyniad i radios a goruchwylio carcharorion, dalfeydd mwy diogel, ac ysgrifennu adroddiadau. Nod elfen diogelwch yr hyfforddiant yw rhoi trosolwg o ddiogelwch yn amgylchedd y carchar. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant ar y gwahaniaethau rhwng diogelwch gweithdrefnol a ffisegol a chategoreiddio diogelwch.

Yn Wythnos 2, byddwch yn cael hyfforddiant ar reoli ymddygiad carcharorion a hawliau carcharorion, sut mae delio â digwyddiadau difrifol (gan gynnwys sefyllfaoedd dal gwystlon), chwilio corfforol ac asesu ymarferol, hyfforddiant eithafiaeth ar y cyd, hyfforddiant hebrwng cerbydau, a gwasanaethau porth. Daw Wythnos 2 i ben gyda chwis diwedd y cwrs a fydd yn cael ei asesu, a rhoddir cyfle i’r dysgwyr gael adborth. Bydd y rheini sydd â sgoriau isel yn cael rhagor o gefnogaeth.

1.3 Cyfleoedd Dysgu a Ariennir

Mae’r MoJ yn cynnig amrywiaeth o raglenni dysgu sy’n cael eu hariannu’n llawn, sy’n cwmpasu amrywiaeth o feysydd pwnc er mwyn i bob gweithiwr ddatblygu ei sgiliau, ac sy’n helpu i broffesiynoli’r busnes. Mae dros 40 o raglenni ar gael i ddewis ohonynt mewn meysydd fel gweinyddu, rheoli, cyllid, digidol, rheoli prosiectau a pholisi, sy’n amrywio o Lefel 2 i Lefel 7 (lefel gradd). Bydd y rhaglen sy’n addas i chi yn dibynnu ar y rôl rydych chi’n ei chyflawni ar hyn o bryd a lefel y cyfrifoldeb sydd gennych chi, gan fod yr astudiaethau’n cael eu teilwra i’ch rôl drwy raglen brentisiaeth.

Mae rhai o’r rhaglenni sydd ar gael yn addas i’r rheini sy’n newydd i’r swydd er mwyn helpu i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiad drwy raglen ddysgu, sydd wedi’i theilwra i’ch rôl. Mae angen rhywfaint o brofiad arnoch er mwyn gwneud cais am raglenni eraill yr MoJ. Rydym yn eich annog i drafod eich nodau dysgu gyda’ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf, ond os hoffech siarad ag aelod o’r tîm Cymwysterau ac Achredu, gallwch anfon neges e-bost at ApprenticeshipInfo@justice.gov.uk.

1.4 Mentora a Chyfeillio

Ar draws ein hystâd, rydym ni wedi cyflwyno rôl Mentor Cydweithwyr Newydd (NCM) a Chynlluniau Cyfeillio. Mae’r cynlluniau hyn yn cefnogi cydweithwyr newydd a phresennol drwy sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael croeso a chefnogaeth, eu bod yn gallu cyflawni eu rolau â hyder, yn enwedig yn gynnar yn ystod eu taith gyda ni. Drwy ddarparu amgylchedd lle y gall ein cydweithwyr ffynnu, rydym yn cefnogi’r gwaith o feithrin amgylcheddau carchar sy’n weddus ac yn ddiogel, ac sydd felly’n helpu ein carcharorion i adsefydlu.

Prif nod rôl yr NCM yw bod yn gyswllt cefnogol drwy gydol y cyfnod ymsefydlu, gan sicrhau bod cydweithwyr newydd yn cael profiad ymsefydlu o safon, a hwyluso’r broses o drosglwyddo i’n hamgylcheddau carchar. Byddant yn cefnogi cydweithwyr newydd ymhellach i ymgyfarwyddo â’u hamgylchedd gwaith a gweithio gyda chydweithwyr newydd er mwyn helpu i feithrin hyder a gwydnwch. Bydd NCMs yn darparu cymorth a chyngor parhaus, yn bennaf yn ystod y flwyddyn gyntaf yn y swydd.

Fel rhan o’u rôl, bydd NCMs yn arwain y gwaith o weithredu a chynnal Cynllun Cyfeillio lleol ym mhob carchar, a fydd yn darparu cymuned cymorth cymar-i-gymar sy’n targedu cydweithwyr newydd yn bennaf er mwyn cynnig cymorth anffurfiol. Mae’n helpu i leddfu unrhyw orbryder ac yn sicrhau bod cydweithwyr newydd yn teimlo bod y sefydliad yn buddsoddi yn eu llesiant. Mae hefyd yn galluogi cydweithwyr newydd i ddeall diwylliant, nodau a dynameg tîm HMPPS yn eu carchar.

Mae cynllun cyfeillio wedi cael ei lansio ar draws HMPPS yn dilyn treial gan Raglen Gweithredu ar Hil HMPPS. Mae’r cynllun yn cefnogi staff o leiafrifoedd ethnig drwy’r broses recriwtio a dyrchafu drwy eu paru â ‘chyfeillion’ sy’n gallu darparu arweiniad a chefnogaeth. Mae’r cynllun yn cefnogi ymgeiswyr drwy dasgau recriwtio. Er enghraifft, sut i wneud cais am rôl, gwneud cyflwyniad, a datblygu sgiliau cyfweld. Mae’r cyfaill a’r ymgeisydd yn gweithio gyda’i gilydd i gytuno lle mae angen cymorth penodol a chytuno ar sut a phryd y byddant yn cyfarfod.

I ymuno â’r cynllun, bydd angen i staff lenwi’r ffurflen gais berthnasol sydd ar gael drwy’r dudalen ‘Cynllun cyfeillio’ ar fewnrwyd HMPPS.

1.5 Gyrfa lwyddiannus

Mae opsiynau ar gael i’r holl staff ddatblygu eu sgiliau yn y Gwasanaeth Carchardai, i ddatblygu eu gwybodaeth a’u profiad, ac i dyfu yn eu rôl bresennol neu i wneud cynnydd yn eu gyrfa gyda ni. Mae hyn yn cynnwys:

  • cylchdroi o fewn yr un rôl i wahanol rannau o’r sefydliad, megis symud o’r ystâd oedolion i weithio gyda phlant yn y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa (YCS). Mae hyn yn helpu i gynnal profiad a sgiliau proffesiynol
  • secondiadau lle y gall staff ehangu eu sgiliau, er enghraifft, gweithio ar brosiectau newid neu helpu i lywio polisïau. Mae ystod o raglenni arweinyddiaeth a thalent, yn ogystal â chymorth i ennill yr achrediadau sy’n ofynnol er mwyn cael dyrchafiad, ar gyfer rolau gweithredol a rolau sy’n gysylltiedig â’r pencadlys

Fel un o asiantaethau’r MoJ, nid dim ond yn y Gwasanaeth Carchardai y bydd opsiynau gyrfa ar gael i chi; rydym yn gweithio ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Prawf felly rydym yn cynnig cyfleoedd gyrfa ym mhob rhan o’r sefydliad, yn ogystal â’r posibilrwydd o arallgyfeirio eich gyrfa i rannau eraill o’r MoJ.

1.6 Llwybrau gyrfa

Mae’r Gwasanaeth Carchardai yn cynnig cyfleoedd i ddilyn gyrfaoedd hir ac amrywiol, mewn rolau gweithredol ac anweithredol. Y llynedd, fe wnaethom nodi y byddem yn cyhoeddi fframwaith llwybr gyrfa rhyngweithiol a fyddai’n galluogi pob gweithiwr i weld yr opsiynau gyrfa a’r swyddi sydd ar gael ar draws carchardai, y gwasanaeth prawf, y ddalfa ieuenctid a’r pencadlys. Fe wnaethom gyhoeddi hwn ym mis Chwefror 2023, ac mae’n cynnwys:

  • gwybodaeth ac adnoddau a all eich helpu i gyflawni eich dyheadau gyrfaol;
  • cyfeiriadau at deuluoedd swyddi a phroffiliau grŵp i’ch helpu i ddeall sut y gallwch symud ymlaen ar hyd eich llwybr gyrfa o ddewis
  • gwybodaeth helaeth am y cyfleoedd dysgu a datblygu sydd ar gael i’ch helpu i ddatblygu
  • gwybodaeth ychwanegol i staff o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys cymorth amrywiaeth a chynhwysiant
  • adnodd hunanwerthuso sy’n eich galluogi i weld y cyfleoedd datblygu sydd ar gael i’ch helpu i gyrraedd eich nodau gyrfa, beth bynnag y bônt

Mae’r wybodaeth hon ar gael drwy Fewnrwyd HMPPS, ynghyd â sianel Microsoft Teams ‘Llwybrau Gyrfa’, sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth berthnasol.

1.7 Portffolios Datblygu

Fel rhan o’r Broses Asesu Dyrchafiadau, gofynnir i ymgeiswyr gwblhau Portffolio Datblygu sy’n cynnwys tair rhan: ‘Arwain Fi’, ‘Arwain Eraill’, ‘Arwain HMPPS’, ac mae’n cynnwys ystod o ymarferion, ymarfer myfyriol, a gwaith darllen. Mae’r Portffolio Datblygu wedi disodli’r Llyfr Gwaith ac mae’n cynrychioli’r cam cyntaf o ran datblygu a pharodrwydd ar gyfer asesu (ar gyfer graddau Rheolwr Carchar, Pennaeth Swyddogaeth a Dirprwy Lywodraethwr). Cynghorir ymgeiswyr i gwblhau’r Portffolio Datblygu 6-12 mis cyn asesiad a gyda chymorth eu Rheolwr Llinell, gan y bydd hyn yn eu helpu i baratoi ar gyfer dyrchafiad. Mae’r Portffolio Datblygu bellach yn cael ei asesu fel rhan o sgôr gyffredinol y Ganolfan Asesu, ac mae’n adnodd datblygu cynhwysfawr sy’n galluogi aelodau o staff i ddatblygu eu sgiliau, eu cryfderau a’u galluoedd mewn ffordd strwythuredig. Mae hefyd yn annog ac yn galluogi llwybr parhaus o ddysgu a datblygu, cyn ac ar ôl yr asesiad.

1.8 Cynnal asesiadau dyrchafu yn amlach

Rydym yn deall pa mor bwysig yw’r cyfleoedd i ddatblygu a gwneud cynnydd i’n staff. Y llynedd, gwnaethom ymrwymo i dreialu cynnal asesiadau dyrchafu yn amlach ar gyfer rhai graddau (ar gyfer y rheini sy’n dymuno symud ymlaen i rolau Rheolwr Carchar, Pennaeth Swyddogaeth, Dirprwy Lywodraethwr a Llywodraethwr Llywodraethu). Ers dogfen y llynedd, rydym wedi dechrau cynllun peilot ar gyfer dwy ymgyrch asesu Rheolwyr Carchar, ein hymgyrch hyrwyddo fwyaf ar gyfer 2023. Bydd asesiadau ddwywaith y flwyddyn yn annog ein pobl i wneud cais am ddyrchafiad pan fyddant yn barod ac felly byddant yn cael y cyfle gorau i lwyddo. Byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd cynllun peilot ddwywaith y flwyddyn y Ganolfan Asesu ar gyfer Rheolwyr Carchar ar ddechrau 2024, gyda’r bwriad o archwilio dichonoldeb mabwysiadu’r model asesu hwn ar gyfer Rheolwyr Carchar a graddau eraill yn dilyn y gwerthusiad hwnnw.

1.9 Trosi unigolion ar Raddfa Cymorth Gweithredol (OSG)

Fel rhan o’n hymrwymiad i ddatblygu staff, rydym wedi’i gwneud yn symlach ac yn gyflymach nag erioed o’r blaen i OSGs ddod yn swyddogion carchar a gweithwyr cyfiawnder ieuenctid. Gyda’r holl hyfforddiant, cymorth a gwaith tîm y bydd eu hangen ar staff, mae’r cynllun carlam hwn yn cynnig cyfle i ddefnyddio profiad blaenorol i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.

Credwn mai ein OSGs sy’n gwneud rhai o’n swyddogion carchar a’n gweithwyr cyfiawnder ieuenctid gorau oherwydd eu profiad unigryw o’r carchar a’r ddealltwriaeth sydd ganddynt o weithio ochr yn ochr â’n swyddogion carchar presennol. I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn, siaradwch â’ch rheolwr llinell, a gweld OSG to PO fast track HMPPS i wneud cais.

1.10 Rolau Arbenigol

Credwn na ddylai gyrfa yn y Gwasanaeth Carchardai fod yn gyfyngedig i ddim ond un math o rôl neu ganolbwyntio’n llwyr ar rolau gweithredol. Rydym yn awyddus i gefnogi’r rheini sy’n dymuno datblygu eu gyrfaoedd mewn rolau anweithredol yn ogystal â rolau arbenigol ar draws y gwasanaeth. Mae cyfleoedd ar raddfeydd anweithredol yn cynnwys: 

  • diwydiannau a rolau arlwyo – mae gweithwyr proffesiynol sydd â sgiliau galwedigaethol a rheolaethol yn darparu hyfforddiant, sgiliau newydd a chefnogaeth i garcharorion i’w galluogi i gael gwaith ar ôl eu rhyddhau, ac felly’n lleihau’r siawns o aildroseddu
  • caplaniaid – darparu gofal ysbrydol a chymorth bugeiliol i garcharorion a staff
  • rolau rheoli – o fand 5 i fand 12, gan gynnig gyrfaoedd gwobrwyol a gwerth chweil mewn amrywiaeth o feysydd
  • rolau arbenigol – mae arbenigeddau ar gael ar amrywiaeth o raddfeydd (band 4-12) ac maent yn cynnwys: dadansoddwyr gwybodaeth a diogelwch, seicolegwyr, hwyluswyr ymyriadau, yn ogystal â rolau ym maes iechyd, diogelwch a thân. Mae’r arbenigeddau hyn yn galluogi staff i ddatblygu eu gyrfaoedd ac yn cynnig cyfleoedd iddynt ar draws y sefydliad ehangach

Mae pob carchar yn unigryw, a bydd profiad aelod o staff mewn carchar Categori A diogelwch uchel yn wahanol iawn i’w brofiad mewn carchar agored Categori D, er enghraifft. Yn dibynnu ar anghenion busnes, rydym yn annog pob aelod o staff i ennill profiad drwy drosglwyddo o un sefydliad i’r llall er mwyn eu helpu i ddatblygu’n broffesiynol ac i ehangu eu sgiliau.

Mae rhagor o wybodaeth am yr uchod ar gael drwy fewnrwyd HMPPS. Os mai newydd gael eich recriwtio ydych chi, cewch fynediad i’r fewnrwyd ar ôl ymuno â’r gwasanaeth.

2. Eich trin yn deg: Gwerthoedd a chynwysoldeb

Yr hyn sydd wrth wraidd y Gwasanaeth Carchardai a HMPPS yw ymrwymiad i degwch, cydraddoldeb a chynwysoldeb ym mhopeth a wnawn. Fel sefydliad, rydym yn gwbl ymrwymedig i ddileu gwahaniaethu a sicrhau bod y Gwasanaeth Carchardai yn lle cynhwysol i weithio i bawb. Mae’r adran hon yn dangos rhywfaint o’r gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud ym mhob rhan o HMPPS / MoJ i gyflawni a chynnal ein gwerthoedd craidd.

2.1 Gwerthoedd HMPPS (gan gynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant)

Mae ein gwerthoedd (a amlinellir isod) yn bwysig i ni; maent yn llywio’r hyn a wnawn, ac yn ein hysbrydoli i wneud ein gorau glas dros ein gilydd a’r rhai rydym yn eu rheoli. Maent yn ein hatgoffa bod y gwaith a wnawn wir yn bwysig. Maent yn ein huno yn ein diben cyffredin.

Diben

Mae cyfiawnder yn bwysig. Rydym yn falch o wneud gwahaniaeth i’r cyhoedd a wasanaethwn.

Dyngarwch

Rydym yn trin eraill â dyngarwch fel yr hoffem gael ein trin ein hunain. Rydym yn gwerthfawrogi pawb, gan eu cefnogi a’u hannog i fod y gorau y gallant fod.

Bod Yn Agored

Rydym yn arloesi, yn rhannu ac yn dysgu. Rydym yn ddewr ac yn chwilfrydig, yn mynd ar drywydd syniadau’n ddygn i wella’r gwasanaethau a ddarparwn.

Gyda’n Gilydd

Rydym yn gwrando, yn cydweithio ac yn cyfrannu, gan weithredu gyda’n gilydd i gyflawni dibenion cyffredin.

Ein gweledigaeth yw i HMPPS gydweithio i amddiffyn y cyhoedd a helpu pobl i fyw bywydau cadarnhaol sy’n parchu’r gyfraith. Caiff y weledigaeth hon ei chefnogi gan bedair egwyddor:

  • galluogi pobl i fod ar eu gorau;
  • cynnal diwylliant dysgu agored;
  • trawsnewid drwy bartneriaethau;
  • moderneiddio ein hystâd a’n technoleg.

Mae HMPPS, fel rhan o’r MoJ, yn ymdrechu i greu sefydliad o’r radd flaenaf sy’n agored, yn gynhwysol ac sy’n rhoi gwerth gwirioneddol ar amrywiaeth ei weithlu, beth bynnag fo cefndir cymdeithasol, rhywedd, oedran, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, credoau, anableddau neu gyfrifoldebau gofalu neu salwch hirdymor ei staff.

2.2 Uned Mynd i’r Afael ag Ymddygiad Annerbyniol (TUBU)

Mae pob un ohonom yn haeddu gweithio mewn gwasanaeth carchardai lle gallwn fod ar ein gorau a bod yn falch o gynrychioli. Er gwaethaf hyn, rydym i gyd yn gwybod bod ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys gwahaniaethu, bwlio, aflonyddu ac erledigaeth, yn gallu digwydd mewn unrhyw weithle.

Nid oes lle i unrhyw fath o ymddygiad annerbyniol yn y Gwasanaeth Carchardai. Mae ymddygiad o’r fath yn groes i’n gwerthoedd craidd ac ni fydd yn cael ei oddef. Cafodd yr Uned Mynd i’r Afael ag Ymddygiad Annerbyniol (TUBU) ei chreu i helpu i sicrhau bod safonau ymddygiad proffesiynol yn cael eu cynnal ac i ddarparu cymorth i bobl sy’n dangos ymddygiad sy’n disgyn islaw’r safonau disgwyliedig.

Os ydych chi’n profi neu’n dyst i fwlio, aflonyddu neu wahaniaethu, gallwch ofyn am gymorth. Gall siarad â rhywun nad yw’n gysylltiedig â’r digwyddiad fod yn fuddiol, er enghraifft, rheolwr, cydweithiwr, cynrychiolydd Undeb Llafur, neu linell gymorth TUBU. Gallwch geisio datrys y broblem yn anffurfiol drwy ei galw allan neu drwy gyfryngu, neu mae gennych hawl i gwyno’n ffurfiol. Does dim rhaid i chi ddioddef ar eich pen eich hun, bydd TUBU yn cymryd eich pryderon o ddifrif. Os nad ydych chi’n siŵr beth rydych chi eisiau ei wneud neu beth yw eich opsiynau, siaradwch â TUBU yn gyfrinachol.

Pa wasanaethau y mae TUBU yn eu cynnig?

  • Llinell Gymorth Gyfrinachol – Mae’n darparu gwasanaeth cyfrinachol i gefnogi staff sy’n profi ymddygiad annerbyniol. I gysylltu â Llinell Gymorth TUBU, ffoniwch 0300 131 0052, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm (ac eithrio Gwyliau Banc)
  • Cyfryngu - Bydd y gwasanaeth hwn yn ceisio datrys gwrthdaro yn y gweithle. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gael mynediad i’r gwasanaeth, ar gael ar y tudalennau cyfryngu ar y fewnrwyd
  • Asesiadau Hinsawdd – Bydd y rhain yn asesu’r hinsawdd mewn carchardai unigol drwy edrych ar brofiadau go iawn staff (e.e. y canfyddiadau a’r agweddau) er mwyn canfod unrhyw broblemau yn y carchardai hynny
  • Ymchwiliadau – Mae TUBU yn darparu gwasanaeth ymchwilio arbenigol er mwyn galluogi rheolwyr i ddefnyddio ymchwilwyr hyfforddedig sydd ag arbenigedd ym maes bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, a / neu gael cyngor neu gael eu cyfeirio ar gyfer achosion mwy cymhleth a difrifol
  • Rhaglen Newid Ymddygiad Annerbyniol – Mae TUBU yn darparu rhaglen o sesiynau ymwybyddiaeth i wella dealltwriaeth o sut i adnabod, adrodd a mynd i’r afael ag ymddygiad annerbyniol a chreu amgylcheddau lle mae’n teimlo’n ddiogel i godi llais os nad yw rhywbeth yn iawn

2.3 Rhwydweithiau Staff

Mae ein rhwydweithiau staff yn ein helpu i greu amgylchedd cynhwysol a diogel lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, lle mae ymdeimlad o berthyn, a lle mae pob llais yn cael ei glywed. Gall staff HMPPS ymgysylltu’n uniongyrchol ag arweinwyr ardal y rhwydwaith staff. Mae gennym nifer o rwydweithiau staff y mae’r holl staff yn cael eu hannog i ymuno â nhw, ac mae’r rhain yn cynnwys:

  • DAWN (Disability, Advocacy, Wellbeing Network) i roi cymorth i staff ag anableddau a chynghreiriaid
  • PiPP (Pride in Prison and Probation) i roi cymorth i staff LHDTRh+ a chynghreiriaid
  • RISE (Racial Inclusion & Striving for Equality) i roi cymorth i staff Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a chynghreiriaid
  • SWIM (Supporting the Workplace in Menopause) i gynnig cymorth i unrhyw un sy’n mynd drwy neu’n wynebu effeithiau’r perimenopos (y blynyddoedd cyn y menopos) neu’r menopos, a’r rheini sy’n mynd drwy’r cyfnod ar ôl y menopos
  • Rhwydwaith Gofalwyr sy’n rhoi cymorth, arweiniad a chyngor i staff o fewn teulu’r MoJ sydd â chyfrifoldebau gofalu

Mae nifer o rwydweithiau eraill ar gael i gefnogi staff, ac mae rhagor o fanylion am y rhain ar gael drwy’r dudalen ‘Rhwydweithiau Staff’ ar Fewnrwyd HMPPS.

2.4 Hyrwyddwyr Amrywiaeth

Mae Hyrwyddwyr Amrywiaeth yr MoJ a HMPPS yn chwarae rhan bwysig ym mhob agwedd ar amrywiaeth a chynhwysiant. Maen nhw’n defnyddio eu gallu i arwain, eu profiad a’u hangerdd i gefnogi canlyniadau strategol a chyflawniadau busnes yr MoJ a’r Gwasanaeth Sifil, a sut rydym ni’n cefnogi ein pobl.

Mae eu rôl yn cyfrannu at greu diwylliant yn y gweithle sy’n cefnogi ein pobl, yn datblygu timau amrywiol, yn hyrwyddo cyfle cyfartal ac yn galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u croesawu, a’u bod yn ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hunaniaeth. Mae hyn, yn ei dro, yn helpu i ddarparu gwasanaethau teg a hygyrch i bawb sy’n eu defnyddio.

2.5 Hyrwyddo Menywod yn y Gweithle

Rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd hawliau ac anghenion menywod yng ngweithlu’r HMPPS, ac felly rydym ni wedi lansio’r prosiect Hyrwyddo Menywod yn y Gweithle. Mae hwn yn edrych ar brofiadau menywod sy’n gweithio yn HMPPS ac yn gwerthuso sut gallwn ni gefnogi menywod yn briodol. Amcan y prosiect hwn yw deall yn llawn profiadau cadarnhaol a negyddol menywod yn y gweithle ac yn y gwaith. Bydd yn sicrhau bod menywod sydd wedi dewis adeiladu eu gyrfaoedd yn HMPPS yn cael eu cefnogi i gyflawni eu nodau a bod yn nhw eu hunain. Mae tîm arbennig wedi dwyn polisïau ynghyd sy’n ymwneud â menywod sy’n gweithio yn HMPPS a chysylltiadau allanol a all fod yn ddefnyddiol i bobl. Mae’r rhain i gyd ar gael drwy fewnrwyd y staff neu drwy gysylltu â’r blwch post swyddogaethol yn: cww@justice.gov.uk.

Rydym ni wedi dechrau sicrhau bod cynnyrch mislif ar gael mewn toiledau gyda biniau glanweithiol. Rydym ni eisiau normaleiddio sgyrsiau am y mislif, nawr ac yn y dyfodol, gan sicrhau mynediad urddasol at gynnyrch pan fydd angen.

2.6 Undebau Llafur

Rydym yn parhau i sicrhau yr ymgynghorir â staff ein carchardai ar faterion a fydd yn effeithio ar eu bywyd gwaith; mae’r broses hon yn sicrhau bod ein staff yn hyderus wrth ymrwymo i’r Gwasanaeth Carchardai. Mae ein hundebau cydnabyddedig wedi’u hamlinellu isod, gyda NTUS yn gweithredu fel yr ysgrifenyddiaeth ar gyfer pum undeb sy’n rhan ohono:

  • Cymdeithas y Swyddogion Carchar (POA) – ar gyfer OSGs, Swyddogion Carchar Bandiau 3-5, a Rheolwyr Gweithredol Bandiau 7-8;
  • Cymdeithas y Llywodraethwyr Carchardai (PGA) – ar gyfer Rheolwyr Gweithredol Bandiau 7-12;
  • NTUS (PCS, Prospect, GMB, Unite, FDA) – ar gyfer y graddau canlynol:

  • PCS: ar gyfer hyfforddwyr sifil, graddau gweinyddol, bandiau anweithredol 5-11; bandiau gweithredol 7-11;
  • PROSPECT: ar gyfer seicolegwyr a chaplaniaid, bandiau anweithredol 4-11;
  • GMB: ar gyfer arlwywyr sifil, rheolwyr arlwyo, gradd B2 mewn Rheoli Gwastraff;
  • UNITE: ar gyfer arlwywyr sifil, rheolwyr arlwyo, gradd B2 mewn Rheoli Gwastraff;
  • FDA: ar gyfer graddau rheoli anweithredol uwch, band 9 ac uwch.

Mae gan y Gwasanaeth Prawf (fel rhan o HMPPS) dri undeb llafur cydnabyddedig ychwanegol:
- Cymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf (NAPO) ac UNISON: Bandiau cyflog 2 i 6. - GMB/SCOOP a NAPO: Bandiau Cyflog A i D.

Mae ein holl Undebau Llafur cydnabyddedig yn cefnogi gwerthoedd a safonau proffesiynol HMPPS ac maent wedi ymrwymo i Gyd Brotocol Safonau Proffesiynol 2023 i gefnogi ymgysylltiad rhwng HMPPS ac Undebau Llafur Cydnabyddedig.

2.7 Arolwg Staff

Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil yw’r cyfle mwyaf i staff roi adborth ar weithio i HMPPS. Mae’n gofyn cwestiynau am bob agwedd ar fywyd gwaith er mwyn creu darlun cynhwysfawr o sut mae staff yn teimlo. Mae’r data a gesglir yn fesur pwysig o ymgysylltedd gweithwyr ac mae’n galluogi uwch arweinwyr i ffocysu gwelliannau yn y meysydd sy’n bwysig i staff. Mae’r arolwg yn cefnogi ymrwymiad HMPPS i wneud y sefydliad yn lle gwych i weithio a sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg a gyda pharch. Ar lefel leol, mae timau’n defnyddio eu canlyniadau i adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda ac i fynd i’r afael â’r hyn nad yw’n gweithio’n dda. Mae’r mewnwelediad hwn wedyn yn eu helpu i ymgorffori’r camau hyn yn eu cynlluniau busnes lleol. Cynhelir yr arolwg drwy gydol yr hydref bob blwyddyn.

3. Eich Lles: Eich cefnogi chi fel gweithiwr

Ein nod yw creu amgylchedd gwaith sy’n cefnogi iechyd a llesiant gweithwyr ac sy’n eich grymuso i ofalu am eich hiechyd. Rydym ar ein mwyaf cynhyrchiol ac yn ymroi’n llawn yn y gwaith pan fyddwn yn iach, yn hapus ac yn gallu bod yn ni ein hunain. Mae’r Gwasanaeth Carchardai yn cydnabod manteision cael gweithlu iach ac ymroddedig.

3.1 Iechyd Galwedigaethol

Gall staff y Gwasanaeth Carchardai fanteisio’n llawn ar ein gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol i staff. Mae canllawiau llawn ar gael ar fewnrwyd HMPPS ar sut i wneud atgyfeiriad Iechyd Galwedigaethol drwy borth diogel, ynghyd ag awgrymiadau i reolwyr ar ba wybodaeth i’w rhoi er mwyn cael y budd gorau o’r atgyfeiriad. Mae ein Polisi Gofal ar ôl Digwyddiad newydd yn cynnwys gwybodaeth ymarferol i’n holl weithwyr, er mwyn iddynt fod yn glir ynghylch y camau diogel i’w cymryd i fynd i’r afael â thrawma ar ôl digwyddiad.

Caiff y rolau a’r cyfrifoldebau eu hamlinellu gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys uwch-arweinwyr, rheolwyr, adrannau iechyd a diogelwch ac adnoddau dynol, grwpiau cymorth gan gymheiriaid, Arweinwyr Cymorth Staff, Caplaniaeth, undebau llafur, Iechyd Galwedigaethol a’r Rhaglen Cymorth i Weithwyr (EAP) ar wefan ‘MyHub’ SSCL HMPPS.

Mae Llwyfan Llesiant yn y Gweithle Iechyd Galwedigaethol, sy’n cael ei gynnal gan Optima Health (darparwr HMPPS) yn darparu cyngor iechyd cyffredinol a gweithle i reolwyr a gweithwyr. Mae’r llwyfan yn cyfeirio mynediad at yr EAP a rhwydweithiau staff, ac mae’n cynnig arweiniad ar ystod o faterion fel niwroamrywiaeth, y menopos, rheoli arian, llesiant meddyliol, a mwy. Gall staff archwilio pynciau cyfredol sy’n ymwneud ag iechyd drwy fideos, cyrsiau dysgu byr a phodlediadau: hmpps.workplacewellbeing.com/.

3.2 Cyfeiriadur o wasanaethau llesiant

Rydym yn cydnabod y gall gweithio mewn carchardai fod yn heriol yn aml. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi llesiant staff, sy’n cynnwys:

  • Sesiynau Myfyriol – Mae sesiynau myfyriol rheolaidd ar gael i staff er mwyn sicrhau nad yw’r gwaith hwn yn effeithio ar eu bywyd personol na’u llesiant emosiynol
  • Polisi Gofal ar ôl Digwyddiad – Mae hwn yn rhoi canllawiau i gefnogi pob gweithiwr sy’n wynebu risg o ddigwyddiadau trawmatig yn y gweithle a’r rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigwyddiadau o’r fath
  • Llwyfan Llesiant yn y Gweithle – HMPPS (workplacewellbeing.com) - gallwch gael gafael ar wasanaethau iechyd galwedigaethol a llesiant, ac archwilio pob math o adnoddau i gefnogi iechyd a llesiant yn gyffredinol, yn ogystal â chael cymorth gan sgwrsfot rhyngweithiol ac ap ar gyfer dyfeisiau symudol
  • Hyrwyddo Iechyd a Llesiant – Rheoli fy Nghyflwr Iechyd. Gall staff gael gafael ar asesiadau iechyd drwy Linell Gymorth Cyflyrau Iechyd HMPPS (Diabetes, Asthma, materion y galon) rhwng 9am a 4pm ar 0330 0084336 - neu 24/7 ar ffonau symudol drwy’r safle ar-lein [My Health Condition Management HMPPS (workplacewellbeing.com)](https://hmpps.workplacewellbeing.com/health-condition-mgmt/)
  • Mynediad at gymorth Iechyd Galwedigaethol – Ar gael drwy atgyfeiriad gan reolwr llinell ar y Porth Iechyd Galwedigaethol. Mae cymorth ar gyfer Syndrom ar ôl Covid a Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ar gael
  • My Physio Checker – Dull ar-lein o gael cymorth uniongyrchol ar gyfer eich cyflwr. Ar gael 24/7 ar eich dyfais symudol, fel arfer mae’n cymryd llai na 10 munud i’w wneud ac mae’n eich cyfeirio at y driniaeth gywir yn yr un ffordd ag y byddai clinigwr yn ei wneud
  • Mynediad at Wasanaethau Cymorth EAP – Llinell Gymorth 0800 019 8988, gwasanaeth cwnsela a chyngor PAM Assist drwy’r llinell gymorth. Gellir cael mynediad at CBT (Therapi Ymddygiad Gwybyddol) cyfrifiadurol os yw’n briodol yn glinigol
  • Cymorth Trawma – Mynediad at ymarferydd TriM (Rheoli’r Risg o Drawma) mewn Carchardai. System cymorth gan gymheiriaid sy’n canolbwyntio ar drawma yw TriM, a’i nod yw helpu pobl sydd wedi profi digwyddiad trawmatig neu a allai fod yn drawmatig
  • Cyfeiriadur Cefnogi Staff – Mae’n cynnwys manylion cynhwysfawr am y cymorth lles sydd ar gael i staff, sydd ar gael drwy’r dudalen ‘Lles a Chymorth’ ar y fewnrwyd

Gall staff hefyd gael gafael ar y gwasanaethau canlynol i gefnogi eu llesiant ymhellach:

Mae Timau Gofal yn darparu cymorth i staff drwy gyfeirio at y gwasanaethau a fydd o fudd iddynt. Maen nhw wedi cael eu hyfforddi i roi cymorth i unrhyw aelod o staff sy’n ymwneud â digwyddiad yn y carchar neu wrth gyflawni dyletswyddau swyddogol, fel mynd i Lys y Crwner. Mae timau gofal hefyd yn cynnig cymorth cynnil a chyfrinachol ar amrywiaeth o faterion lles a phersonol, yn ogystal ag ar gyfer unigolion sy’n cymryd absenoldeb tymor hir oherwydd salwch.

Cynghreiriaid Iechyd Meddwl, sef grŵp o wirfoddolwyr a arweinir gan staff sydd wedi’u hyfforddi i fod yn ffynhonnell o wybodaeth a chymorth cyfrinachol i staff a rheolwyr. Mae cynghreiriaid yn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, yn herio stigmâu cysylltiedig, ac yn annog pobl i ddefnyddio hunangymorth a chwilio am gymorth proffesiynol priodol. Nod y cynghreiriaid yw creu gwell diwylliant o fod yn agored ynghylch materion iechyd meddwl yn ein gweithle.

Mae’r Gaplaniaeth yn cynnig cymorth ysbrydol a bugeiliol i staff a all fod wedi dioddef colled neu brofedigaeth, neu sydd am siarad yn gyfrinachol am faterion sy’n ymwneud â pherthnasoedd, profiadau gwaith neu unrhyw bryderon eraill. Yn ogystal, mae’r Gaplaniaeth yn cynnig cymorth yn enwedig yn dilyn digwyddiadau trawmatig yn y gwaith.

Mae’r MoJ wedi ymrwymo i gefnogi gweithwyr sydd â salwch angheuol gydag urddas, parch a thosturi, gan gydnabod bod anghenion pawb yn wahanol. Mae dau becyn cymorth ar gyfer salwch angheuol wedi cael eu datblygu (un ar gyfer gweithwyr sydd wedi cael diagnosis ac un ar gyfer eu rheolwyr) i helpu staff drwy’r cyfnod anodd hwn, gan ddarparu gwybodaeth allweddol a chyfeiriadau at gymorth mewn un lle. Mae’r wybodaeth a ddarperir yn cynnwys sgyrsiau, cymorth lles, opsiynau ar gyfer aros yn y gwaith neu adael y gwaith, ac ystyriaethau ariannol. Mae’r rhain i’w gweld ar Fewnrwyd HMPPS.

3.3 Diogelwch staff

Gwyddom fod perthynas dda rhwng staff a charcharorion yn hanfodol i gynnal diogelwch yn ein carchardai. Mae’r model Rheoli Troseddwyr yn y Ddalfa (OMiC) wedi gwella’r ffordd rydym yn cefnogi ac yn rheoli carcharorion drwy eu dedfrydau ac mae’n parhau i chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o wneud carchardai’n llefydd mwy diogel i fyw a gweithio ynddynt.

Rydym yn cydnabod y gall gorlenwi mewn carchardai effeithio ar y berthynas rhwng staff a charcharorion. Mae lefelau gorlenwi yn cael eu hadolygu’n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r HMPPS hefyd yn defnyddio proses herio capasiti ffurfiol, lle mae uwch arweinwyr gweithredol yn asesu ac yn cytuno ar gyfleoedd diogel a chynaliadwy ar gyfer gorlenwi ar draws yr ystâd. Fel rhan o’r broses ffurfiol hon, ystyrir nifer o ffactorau, gan gynnwys diogelwch, sefydlogrwydd, recriwtio a chadw staff, ac effeithiau ar drefn, gweithgareddau ac ategolion.

Nid ydym yn diystyru’r heriau y mae staff carchardai yn eu hwynebu. Ni fyddwn yn goddef unrhyw drais yn erbyn staff, ac mae’n rhaid iddynt allu disgwyl amgylchedd gwaith diogel a gweddus. Bydd carcharorion sy’n dreisgar tuag at ein cydweithwyr yn wynebu canlyniadau llawn eu gweithredoedd ac ymdrinnir â nhw’n gyflym ac yn effeithiol.

Caiff ymosodiadau difrifol ar staff carchardai eu hatgyfeirio at yr heddlu o dan y Cytundeb Atgyfeirio Troseddau yn y Carchar. Cytundeb aml-asiantaeth yw hwn rhwng HMPPS, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Nod y cytundeb yw sicrhau bod gweithredoedd troseddol sy’n digwydd mewn carchardai yn cael sylw priodol yn y system cyfiawnder troseddol, lle bo carchardai’n penderfynu nad yw gweithdrefnau disgyblu mewnol yn ddigonol, a’r amgylchiadau’n awgrymu bod erlyniad troseddol yn briodol. Mae’n sefydlu dealltwriaeth gyffredin o rolau a chyfrifoldebau pob asiantaeth bartner a’i nod yw sicrhau perfformiad gwell a chyson wrth ymchwilio i droseddau a gyflawnir mewn carchardai, a’u herlyn.

Rydym wedi creu’r Tasglu Troseddau mewn Carchardai i wella ein gallu i amharu ar droseddu a sicrhau bod ein tystiolaeth a’n hymchwiliadau’n arwain at fwy o ganlyniadau cyfiawnder troseddol i’r rheini sy’n troseddu mewn carchardai. Amcan y Tasglu yw cynnwys staff mewn prosesau troseddu mewn carchardai drwy hyrwyddo newid diwylliannol yn y ffordd y mae troseddu’n cael ei ystyried a’i reoli, ac felly, cryfhau ein perthynas waith â phartneriaid yr heddlu. Drwy gefnogaeth briodol i ddioddefwyr, nod y Tasglu yw meithrin hyder yn ein gallu i fynd i’r afael â throseddu’n briodol ac i’r gorau o’n gallu. Daeth y Ddeddf Ymosod ar Weithwyr Brys (Troseddau) i rym ym mis Tachwedd 2018 a dyblodd y gosb uchaf, o 6 mis i 12 mis o garchar, i’r rheini sy’n ymosod ar weithwyr brys, gan gynnwys swyddogion carchar. O 28 Mehefin 2022 ymlaen, cynyddodd Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd y gosb uchaf ymhellach, i ddwy flynedd o garchar. Rydym yn parhau i bwyso am gyhuddiadau am droseddau mwy difrifol fel gwir niwed corfforol, niwed corfforol difrifol, neu ymgais i lofruddio, lle bo hynny’n briodol.

Rydym yn ymrwymedig i wneud carchardai’n lleoedd diogel i weithio ynddynt a rhoi’r cymorth, yr hyfforddiant a’r adnoddau priodol i swyddogion carchardai er mwyn eu grymuso i wneud eu gwaith. Rydym wedi cyflwyno system Camerâu a Wisgir ar y Corff newydd, sydd wedi cynyddu nifer cyffredinol y camerâu ar draws carchardai’r sector cyhoeddus i dros 13,000, gan alluogi pob swyddog Band 3-5 ar sifft i wisgo camera. Gellir defnyddio’r camerâu hyn i gasglu tystiolaeth hanfodol er mwyn sicrhau euogfarnau i garcharorion sy’n ymosod yn ddifrifol ar ein cydweithwyr neu ar garcharorion eraill.

Er mwyn amddiffyn staff a charcharorion mewn ymosodiadau difrifol iawn, rydym yn cyflwyno PAVA, chwistrell pupur synthetig, i’w defnyddio gan swyddogion carchar yn yr ystâd oedolion gwrywaidd os bydd trais difrifol neu risg uniongyrchol neu ymddangosiadol o hynny. Mae PAVA yn rhan o becyn diogelwch personol ehangach i roi amrywiaeth o sgiliau i’n cydweithwyr rheng flaen i ddatrys a lleddfu digwyddiadau.

4. Arwain a chefnogi ein pobl yn y gwaith: Gweithio’n hyblyg, arweinyddiaeth a rheolaeth llinell

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd arweinyddiaeth, sy’n hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi’n briodol yn y gweithle. Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o’r cynlluniau sydd gennym ar waith i ddatblygu ein harweinwyr, ochr yn ochr â detholiad o opsiynau sydd ar gael i chi i wneud y Gwasanaeth Carchardai yn lle hyblyg i weithio sy’n ystyriol o deuluoedd.

4.1 Gweithio’n hyblyg

Mae’r Gwasanaeth Carchardai yn ymrwymedig i ddiwallu ei angen busnes yn fwy effeithiol drwy greu gweithleoedd modern sy’n galluogi trefniadau gweithio’n hyblyg yn unol â’r angen busnes. Rydym yn cydnabod y gall gweithio’n hyblyg fod yn offeryn defnyddiol i wella cydbwysedd bywyd a gwaith a llesiant gweithwyr, ac felly rydym yn cynnig cyfleoedd i weithio’n hyblyg i’r holl staff, beth bynnag fo hyd eu gwasanaeth. Rydym yn awgrymu y dylid ystyried pob cais fel y bo’n briodol, gan gynnwys:

  • gweithio’n rhan-amser
  • patrymau sifft gwahanol (cylchoedd byrrach/patrymau sefydlog)
  • trefniadau gweithio oriau blynyddol (gweithio yn ystod y tymor ayb)
  • oriau cywasgedig
  • dyddiau gorffwys sefydlog
  • rhannu swyddi
  • contractau Isafswm Oriau a chontractau deuol

Caiff ceisiadau i weithio’n hyblyg eu hystyried ar lefel leol, yn amodol ar ofynion busnes lleol. Mae cyngor ar yr opsiynau gweithio hyblyg sydd ar gael a sut y gellir eu cymhwyso ar gael i sefydliadau gan arweinwyr polisi, y Tîm Cymorth Rheoli Adnoddau, a hefyd gan dîm y rhaglen Llunio Cynnig Newydd i Weithwyr drwy’r blwch post swyddogaethol canlynol - shapinganewemployeeoffer@justice.gov.uk.

4.2 Absenoldeb am resymau teuluol

Rydym yn cefnogi rhieni drwy gynnig amrywiaeth o fuddion hael o ran absenoldeb am resymau teuluol, gan gynnwys:

  • absenoldeb Mamolaeth a Mabwysiadu (hyd at 52 wythnos o absenoldeb a hyd at 26 wythnos o gyflog contractiol)
  • absenoldeb Rhiant a Rennir (gan ganiatáu i staff sydd ar absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu rannu hyd at flwyddyn o absenoldeb a hyd at 26 wythnos o gyflog contractiol â’u partneriaid)
  • absenoldeb Cymorth Mamolaeth (Tadolaeth) (hyd at bythefnos o absenoldeb ar gyflog contractiol)
  • amrywiaeth o absenoldeb arbennig gyda thâl a heb dâl i gefnogi rhieni a gofalwyr

4.3 Disgwyliadau o ran arweinyddiaeth

Yn 2020, lansiodd HMPPS y Cod Arweinyddiaeth fel adnodd i ysbrydoli ymddygiad arwain a darparu cyfeiriad ar gyfer yr hyn y dylai gweithwyr ei ddisgwyl gan eu harweinwyr. Mae’r gwaith o adnewyddu’r Cod Arweinyddiaeth i ddiwallu anghenion heddiw a’i wneud yn fwy hygyrch a chynhwysol wedi cael ei gwblhau, ac mae ei gylch gwaith wedi ehangu i gynnwys yr MoJ yn ei gyfanrwydd a’i hasiantaethau. Mae’r Cod Arweinyddiaeth yn nodi pa fathau o ymddygiad fydd yn gwneud arweinwyr yn gryfach ac yn fwy galluog yn yr MoJ. Mae’n seiliedig ar feysydd allweddol i’w datblygu: Arwain Fi, Arwain Eraill, ac Arwain y Sefydliad. Fel rhan o lansiad y Cod, mae pecyn e-ddysgu ar gael i’r holl staff, gydag awgrymiadau cryno ar sut i wella eich sgiliau arwain, sy’n cyd-fynd â’r cod a’i ymddygiadau.

Mae’r Cod Arweinyddiaeth diweddaraf yn nodi naw safon o ran sut beth yw arweinyddiaeth dda yn y sefydliad. Rydym yn ymrwymedig, drwy hyfforddiant a chymorth, i sicrhau bod ein holl arweinwyr yn arddel yr ymddygiadau a’r camau gweithredu hyn wrth arwain a rheoli staff.

Arwain fi:

  • bod yn hunanymwybodol
  • gwybod eich cryfderau a’ch effaith
  • bod yn chwilfrydig
  • datblygu eich hun

Arwain eraill:

  • credu mewn pobl
  • cyfathrebu gyda phwrpas
  • bod yn esiampl o ymddygiad cynhwysol
  • dangos eich bod yn poeni

Arwain y sefydliad:

  • cyfrannu at weledigaeth a rennir
  • gweld y darlun ehangach
  • croesawu arloesedd

Llawlyfr Rheoli Pobl HMPPS

Cafodd Llawlyfr Rheoli Pobl HMPPS ei greu a’i lansio ym mis Gorffennaf 2023 fel adnodd cyfeirio allweddol ar gyfer pob rheolwr llinell HMPPS. Mae’r llawlyfr wedi’i gynllunio fel un ddogfen sy’n meithrin gallu rheoli llinell drwy gynyddu hyder a chymhwysedd mewn pynciau rheoli pobl allweddol. Mae’r adnodd yn cynnwys dolenni i’r holl bolisïau rheoli pobl a chanllawiau ar sut i lywio drwy’r rhain yn llwyddiannus. Bydd y ddogfen yn cael ei diweddaru ddwywaith y flwyddyn i sicrhau ei bod yn berthnasol.

4.4 Hyfforddiant arweinyddiaeth / nawdd

Llwybr 1 Y Daith Arweinyddiaeth

Fe wnaethom ddatblygu’r Rhaglen Taith Arweinyddiaeth fel datrysiad strategol i gynyddu gallu arweinyddiaeth, effeithiolrwydd arweinyddiaeth, a’r diwylliant dysgu. Mae’r diwylliant hwn yn cael ei ddatblygu drwy arloesedd ym maes datblygu arweinyddiaeth, gyda dull newydd sy’n cynnwys pob lefel o arweinyddiaeth ac fel One HMPPS ar draws carchardai a’r gwasanaeth prawf. Mae’r dull wedi cael ei dreialu mewn 13 safle ar draws Swydd Efrog a gogledd-ddwyrain Lloegr; mae hefyd yn cael ei alw’n ‘Llwybr 1’. Roedd y cynllun peilot yn cynnwys sesiynau fertigol (dysgu gyda’ch gilydd yn eich sefydliad) a sesiynau llorweddol (dysgu ar draws grwpiau cymheiriaid o nifer o sefydliadau). Daeth y cynllun peilot i ben ddiwedd mis Gorffennaf 2023, wedi’i ddilyn gan gyfnod o werthuso’r rhaglen yn fanwl.

Cynnig Arweinyddiaeth a Rheolaeth Newydd HMPPS

Ar ôl cwblhau cynllun peilot y Daith Arweinyddiaeth, rydym wedi dechrau datblygu dull strategol newydd ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer pob arweinydd yn HMPPS.

Mae’r dull newydd yn symud i becynnau sy’n seiliedig ar rolau ar gyfer pob arweinydd ar draws Carchardai, y Gwasanaeth Prawf a’r YCS. Bydd cynnwys pob pecyn yn mynd i’r afael â gallu rheoli a phob elfen o arweinyddiaeth fel y nodir yn Llawlyfr Rheoli Pobl HMPPS a’r Cod Arweinyddiaeth newydd. Bydd hefyd yn diwallu anghenion sy’n amrywio ar sail rôl a’r cyd-destunau penodol ar draws HMPPS, gan wreiddio arferion sy’n seiliedig ar seicoleg drwy gydol y broses. Mae’r rhaglen newydd yn cael ei datblygu a bydd yn cael ei chyflwyno ddechrau 2024.

Llwybr 2 Y Daith Arweinyddiaeth

Fe wnaethom ddatblygu Llwybr 2 y Daith Arweinyddiaeth a’i gyflwyno yn yr 20 safle ledled Cymru a Lloegr gyda’r risg uchaf o ran cadw staff. Ynghyd â mynd i’r afael â’r risg, bwriad Llwybr 2 yw datblygu’r arweinyddiaeth a’r gwaith tîm yn y safleoedd hyn. Roedd yr ymyriadau ar gyfer pob safle yn seiliedig ar weithgarwch diagnostig a gwblhawyd gyda’r safleoedd, ac roedd yr ymyriadau pwrpasol yn seiliedig ar feysydd blaenoriaeth i’w datblygu. Cafodd y gwaith o gyflawni ar y safleoedd hyn ei gwblhau ym mis Mai 2023.

Ysgol Arweinyddiaeth

Mae gan bob un ohonom y potensial i fod yn arweinydd gwych. Dyna pam ein bod yn ysbrydoli ac yn datblygu ein gweithwyr bob blwyddyn drwy ddwy Ysgol Arweinyddiaeth: un yn Daventry ym mis Mehefin, a’r llall ym Manceinion ym mis Hydref. Bydd y cyfranogwyr yn clywed gan arbenigwyr ym maes arweinyddiaeth, yn cael amser i nodi ac ystyried eu harddull arwain eu hunain a chanolbwyntio ar ba ymddygiadau arwain y maent yn rhagori ynddynt ac yn eu modelu, a hefyd yn archwilio’r rhai yr hoffent eu meithrin er mwyn gwella eu heffaith. Gall unrhyw un sy’n arwain yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder wneud cais ac eleni, yn 2023, cawsom dros 900 o geisiadau am 400 o lefydd, gyda 200 o gydweithwyr yn bresennol ym mis Mehefin a 200 arall ym mis Hydref.

Mae’r ysgol yn dechrau gyda sesiwn rithwir lle mae’r cyfranogwyr yn cwrdd â’i gilydd mewn 10 grŵp dysgu. Ar ddiwrnodau dau, tri a phedwar, mae cyfranogwyr yn cwrdd wyneb yn wyneb ac yn archwilio beth mae arweinyddiaeth yn ei olygu iddyn nhw, gyda chymorth siaradwyr gwadd, sesiynau hyfforddi, gweithdai arbenigol, ac amser myfyrio. Nid dyna ddiwedd y dysgu; fel rhan o garfan cyn-fyfyrwyr yr ysgol, cefnogir y cyfranogwyr trwy gydol y flwyddyn ganlynol gyda gweithgareddau i’w helpu i roi eu dysgu ar waith, dangos esiampl o arweinyddiaeth wych a gwneud gwahaniaeth. Gyda phedigri da, mae Ysgol Arweinyddiaeth yr MoJ wedi dod yn ddigwyddiad eiconig ar y calendr dysgu. Cadwch lygad am hysbysebion i wneud cais ar gyfer ysgolion 2024 ym mis Mawrth 2024.

Dysgu i Arwain (Arweinwyr Dyheadol gynt)

Mae Dysgu i Arwain yn rhaglen i gefnogi’r holl staff ar draws yr MoJ i ddeall eu potensial a’u cryfderau, sut i lywio eu gyrfaoedd, ac i ddatblygu hyder a chymhwysedd personol. Mae wedi’i anelu at y staff hynny nad ydynt mewn swyddi rheoli/arwain ar hyn o bryd, ond a allai fod yn ystyried cyfleoedd yn y dyfodol. Gan gydnabod maint yr angen hwn, mae’r rhaglen wedi cael ei dylunio i gynnwys llwyfan digidol, gweminarau a darpariaeth wyneb yn wyneb.

Bydd llwyfan ddigidol gychwynnol yn eich cyfeirio at nifer o adnoddau, gan gynnwys darlithoedd TED, cyngor ac awgrymiadau i annog hunan-ddysgu a myfyrio. Yna, bydd dysgu wyneb yn wyneb yn cael ei ddarparu i staff sy’n llwyddo i basio drwy broses ddethol ac, felly, sydd wedi dangos dawn ac agwedd ar gyfer cymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd. Bydd y sesiynau wyneb yn wyneb yn cynnwys asesiad personol sy’n seiliedig ar gryfder a dosbarthiadau mewn meysydd a ddewisir yn benodol gan gyfranogwyr. 

Bydd y cyflawni’n digwydd fesul cam. Mae adnoddau sylweddol eisoes ar gael ar ein tudalennau ar y fewnrwyd i gefnogi’r rheini sy’n chwilio am ddyrchafiad neu ddatblygiad personol. Bydd Cam 1 yn ychwanegu at hyn ac yn creu llwyfan ddigidol lle mae’r adnoddau uchod yn cael eu cyfuno â gwybodaeth newydd a dysgu rhyngweithiol. Rhagwelir y bydd y llwyfan ddigidol ar gael o fis Rhagfyr 2023 ymlaen. Bydd Cam 2, i’w gyflwyno ym mis Chwefror, yn cyflwyno’r cyfle wyneb yn wyneb, a byddwn yn gofyn a oes gennych ddiddordeb i fod yn bresennol yn yr agoriad hwn ym mis Tachwedd 2023.

Trosi i fod yn Rheolwr Gweithredol

Rydym yn datblygu cynllun i alluogi staff anweithredol i ymgymryd â rolau gweithredol yn y Gwasanaeth Carchardai. Y nod yw darparu mwy o lwybrau datblygu i gydweithwyr anweithredol ar yr un pryd â llenwi swyddi gweithredol gyda phobl sydd ag amrywiaeth o brofiadau. Bydd y rhaglen yn agor ar gyfer ceisiadau yng Ngwanwyn 2024 ar gyfer y garfan gychwynnol.

Spark

Mae Spark yn gynllun talent llwybr carlam sy’n galluogi staff presennol sydd â photensial arwain uchel i gyflymu drwy’r graddau i safle Pennaeth Swyddogaeth drwy ddatblygu sgiliau ac ymddygiadau arwain.

Luminate

Mae Luminate yn gynllun nawdd lle mae unigolion Band 9 i Fand 11 o gefndiroedd ethnig heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu paru â noddwyr Uwch Wasanaeth Sifil (SCS). Ei nod yw buddsoddi mewn talent amrywiol a chynyddu cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig mewn rolau Uwch Wasanaeth Sifil. Ochr yn ochr â’r elfen noddi, mae’r cynllun hefyd yn cynnwys setiau dysgu gweithredol, diwrnodau dysgu cymunedol, a mathau eraill o gymorth datblygu.

4.5 Rheoli Perfformiad

Mae sgyrsiau gonest ac agored rhwng staff a’u rheolwyr llinell yn ganolog i’n dull rheoli perfformiad. Bydd y sgyrsiau hyn yn digwydd bob wyth wythnos ac yn gyfle i drafod amcanion/nodau, dyheadau, datblygiad, cryfderau, llesiant ac unrhyw rwystrau sy’n atal pobl rhag perfformio. Caiff y broses rheoli perfformiad ei hategu gan ddefnydd rheolaidd o gydnabod a gwobrwyo, a chyfeirir at hyn yn yr adran ‘gwerthfawrogi eich gwaith’. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r uchod, holwch eich rheolwr llinell neu ewch i fewnrwyd HMPPS.

5. Gwerthfawrogi eich gwaith: Ystod o fuddion i weithwyr

Rydym yn cydnabod y gwaith gwych y mae ein staff yn ei wneud o ddydd i ddydd – mae nifer o fuddion ar gael i chi sy’n mynd y tu hwnt i gyflog. Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o’r buddion hynny, y gobeithiwn y bydd staff yn manteisio arnynt.

5.1 Cyflog (gan gynnwys y broses dyfarniad cyflog)

Fel gweithluoedd eraill y sector cyhoeddus, fel yr Heddlu, athrawon, neu’r GIG, pennir cyflogau’r rhan fwyaf o staff y gwasanaeth carchardai drwy broses cylch cyflog blynyddol. Yn y broses hon, mae’r Llywodraeth yn darparu argymhellion i gorff adolygu cyflogau annibynnol. Bydd argymhellion Corff Adolygu Cyflogau’r Gwasanaeth Carchardai (PSPRB) yn seiliedig ar dystiolaeth a gyflwynwyd gan Undebau Llafur cydnabyddedig. Mae’r PSPRB yn ystyried ffactorau fel chwyddiant a chostau byw, marchnadoedd swyddi a chyflogau tebyg, a fforddiadwyedd. Bydd hefyd yn gwneud ei waith ymchwil ei hun o ran y gweithlu carchardai.

5.2 Potensial i ennill cyflog yn y dyfodol

Mae cyfleoedd gwych i wneud cynnydd o ran eich cyflog yn y gwasanaeth carchardai. Bydd staff sy’n cyrraedd y safonau perfformiad a gallu gofynnol yn gymwys i gamu ymlaen o fewn eu band cyflog, sy’n golygu cynnydd blynyddol yn eu cyflog. Er enghraifft, o fewn dwy flynedd, bydd Swyddog Carchar ar y gyfradd gyflog genedlaethol ar gyfer 2023/24 (£30,902) yn ennill £32,539.

5.3 Cynllun Gwobrwyo a Chydnabyddiaeth

Mae’r polisi Gwobrwyo a Chydnabyddiaeth yn gyfle i gydnabod cydweithwyr yn unigol neu fel tîm am eu cyfraniadau eithriadol.

Gall gwobrau fod ar ffurf bonysau arian parod a thalebau electronig drwy lwyfan gwobrwyo gweithwyr o’r enw Vivup. Gellir gwobrwyo gweithwyr gydag e-dalebau ar gyfer eu hoff fanwerthwyr neu gallant ddewis gwneud cyfraniad elusennol.

5.4 Porth buddion i weithwyr

Gall gweithwyr y Gwasanaeth Carchardai fanteisio ar nifer mawr o ostyngiadau i weithwyr, sy’n cynnwys bargeinion ar siopa, biliau/band eang, costau teithio ac adloniant.

Gall gweithwyr fwynhau gostyngiadau mewn miloedd o fanwerthwyr blaenllaw, yn amrywio o fwytai ac archfarchnadoedd i deithiau a gweithgareddau hamdden, siopau mawr ar-lein ac ar y stryd fawr, a siopau lleol. Dyma’r tri phrif fath o ostyngiad: e-dalebau/cardiau y gellir eu hail-lwytho, codau disgownt ar-lein, ac arian yn ôl.

Dydy hi erioed wedi bod yn haws cael gafael ar eich buddion gweithwyr, ac mae popeth ar gael mewn un lle drwy lwyfan Vivup. Gallwch hefyd arbed arian wrth fynd, trwy ddefnyddio ap Vivup. Mae’r ap yn darparu mynediad at dalebau disgownt ar unwaith y gellir eu defnyddio wrth dalu wrth siopa a’r gallu i ychwanegu at dalebau y gellir eu hail-lwytho’n gyflym wrth fynd, gan wneud arbedion rheolaidd yn haws.

5.5 Cynlluniau Aberthu Cyflog - gan gynnwys Beicio i’r Gwaith ac Aelodaeth Campfa

Rydym yn rhan o’r cynllun beicio i’r gwaith, sy’n gallu arbed hyd at 47% i weithwyr ar gost beic ac ategolion. Nid ydych yn talu dim ymlaen llaw, a thynnir taliadau o gyflogau misol gros gweithwyr, gan arwain at arbedion ar dreth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Gall gweithwyr ymuno â’r cynllun aelodaeth campfa, sy’n eich galluogi i fwynhau aelodaeth ostyngol mewn dros 3,000 o glybiau sy’n cymryd rhan (gan gynnwys campfeydd, clybiau iechyd, stiwdios ioga, a mwy) ledled y wlad. Mae’r Cynllun Aelodaeth Campfa yn gynllun didynnu cyflog net, lle cymerir didyniad o’ch cyflog Net ac, felly, nid yw’n effeithio ar eich cyfraniadau Treth neu Yswiriant Gwladol.

5.6 Buddion pensiwn

Mae gweithwyr y Gwasanaeth Carchardai yn aelodau o Gynllun Pensiwn ‘Alpha’ y Gwasanaeth Sifil, sy’n gynllun â buddion wedi’u diffinio (sy’n golygu y bydd staff yn cael amcangyfrifon blynyddol o’r buddion y gallent eu cael pan fyddant yn cyrraedd oed pensiwn). Mae hyn yn darparu pensiwn diogel am oes heb unrhyw ansicrwydd buddsoddi (fel sy’n wir am gynlluniau galwedigaethol eraill). Mae cynlluniau’r sector cyhoeddus yn dal ymhlith y cynlluniau pensiwn galwedigaethol gorau sydd ar gael. Y cyfraniad a wnewch i’r cynllun yw un o’r isaf o blith cynlluniau’r sector cyhoeddus (tua 4.6% o’ch cyflog ar hyn o bryd) ac rydym yn gwneud cyfraniad sylweddol fel cyflogwr i’r pensiwn (27% o’ch cyflog ar hyn o bryd). Gall staff hefyd ychwanegu at y pensiwn y byddant yn ei gronni drwy Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol neu drwy wneud taliadau ychwanegol i’r cynllun.

Mae gan weithwyr yr opsiwn i gymryd cyfandaliad di-dreth pan fyddant yn ymddeol. Mae’r cynllun hefyd yn cynnig pecyn o fuddion sy’n daladwy i briod/partner a/neu ddibynyddion y gweithiwr, gan gynnwys cyfandaliad di-dreth, pe bai’r gweithiwr yn marw’n gynnar. Mae manylion cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gael drwy glicio ar y ddolen ganlynol: Hafan - Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

5.7 Tâl salwch

Rydym yn credu mewn creu amgylchedd gwaith sy’n cefnogi llesiant ac sy’n grymuso staff i ofalu am eu hiechyd. Mae HMPPS yn cydnabod y gall gweithwyr fod yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch o bryd i’w gilydd yn ystod eu cyflogaeth. Yn ystod absenoldebau o’r fath, rydym yn darparu’r holl gymorth a chefnogaeth bosibl i weithwyr er mwyn eu hannog i wella’n gyflym ac i ddychwelyd i’r gwaith. Mae hawliau tâl salwch yn amrywio o un grŵp busnes i’r llall ac maent yn dibynnu ar b’un a yw staff ar Delerau ac Amodau wedi’u moderneiddio neu wedi’u moderneiddio ymlaen llaw.

Ar gyfer staff sy’n newydd i HMPPS, ar Delerau ac Amodau wedi’u moderneiddio, mae hawl i dâl salwch yn amodol ar hyd gwasanaeth gweithiwr hyd at uchafswm o 10 mis o dâl salwch mewn cyfnod treigl o bedair blynedd. Bydd hawliau’n amrywio, er enghraifft maent yn wahanol yn y Gwasanaeth Prawf. I gael rhagor o wybodaeth, holwch eich rheolwr llinell .

5.8 Gwyliau blynyddol ac Amser i Ffwrdd o’r Gwaith yn Lle Tâl (TOIL)

Mae gan weithwyr newydd i’r Gwasanaeth Carchardai hawl i gymryd 25 diwrnod o wyliau blynyddol (yn codi i 30 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth) wyth gŵyl gyhoeddus ac un diwrnod braint ychwanegol. Am fod rolau gweithredol, o ran eu natur, ar waith bob awr o’r dydd a phob diwrnod o’r wythnos, disgwylir i staff yn y swyddi hyn weithio ar rai gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus. Os bydd gŵyl gyhoeddus neu ŵyl y banc yn digwydd ar ddiwrnod gwaith, bydd gan weithwyr hawl i gymryd yr absenoldeb ar ddiwrnod gwahanol.

O bryd i’w gilydd, efallai y gofynnir i staff weithio oriau ychwanegol, neu gallant wneud hynny’n wirfoddol, er mwyn cefnogi trefn y carchar neu gynnal amgylchedd diogel a gweddus i staff a charcharorion. Pan fydd gofyn i staff weithio mwy na’u horiau sydd wedi’u pennu, fel arfer mae’n bosibl iddynt ddewis rhwng cael tâl (tâl ychwanegol) a chael amser i ffwrdd o’r gwaith yn lle tâl (TOIL), sy’n gweithio mewn ffordd debyg iawn i drefniadau oriau hyblyg, gan y gellir bancio’r oriau ychwanegol a’u defnyddio’n nes ymlaen (gydag amser i ffwrdd o’r gwaith). Gall staff gronni TOIL a chymryd yr oriau yn ôl ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw ac i’r carchar. Ni fydd oriau a gaiff eu bancio gan ddefnyddio’r cyfleuster TOIL yn dod i ben ac, yn amodol ar argaeledd, gellir eu cronni neu eu cymryd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

5.9 Cynllun Cerdyn Golau Glas

Gall gweithwyr y Gwasanaeth Carchardai ddefnyddio’r Cynllun Cerdyn Golau Glas, sef gwasanaeth disgowntiau i’r gwasanaethau brys, sy’n cynnig miloedd o ddisgowntiau anhygoel i aelodau ar-lein ac ar y stryd fawr. Am £4.99, gall aelodau’r gymuned Golau Glas gofrestru i gael mynediad am ddwy flynedd at fwy na 15,000 o ddisgowntiau, o fanwerthwyr cenedlaethol mawr i fusnesau lleol, mewn categorïau fel gwyliau, ceir, diwrnodau allan, ffasiwn, rhoddion, yswiriant, ffonau a llawer mwy. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Croeso i’r Cerdyn Golau Glas.

5.10 Costau teithio

Gall gweithwyr sydd angen teithio i’r gwaith i fynychu hyfforddiant, cyfarfodydd, digwyddiadau, neu sy’n cyflawni dyletswyddau eraill, wneud hynny drwy archebu teithiau drwy’r contract Teithio Busnes. Mae’r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys archebion trên, gwestai a llety, tacsis, hedfan, llongau fferi, a’r Eurostar. Ein nod yw sicrhau nad oes angen i staff hawlio gwariant yn ôl drwy dreuliau; dylai defnyddio’r porth archebu leihau’r pwysau ariannol ar staff wrth iddynt gyflawni eu rolau.

Mae gweithwyr yn dal i allu hawlio rhywfaint o’r costau teithio, neu’r holl gostau teithio, os oes angen iddynt archebu y tu allan i’r cyflenwr, fel yr amlinellir ym mholisïau Teithio a Chynhaliaeth HMPPS (PSI 15/2012 a PI 17/2015), sydd ar gael ar y Fewnrwyd.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyflenwr Teithio Busnes, cyfraddau neu’r polisi Teithio a Chynhaliaeth, cyfeiriwch at Fewnrwyd HMPPS a thudalennau MyHub SSCL.

5.11 Buddion eraill i weithwyr

  • mae’r Gwasanaeth Carchardai yn rhan o’r cynllun benthyciadau blaendal rhent eiddo, sy’n caniatáu i weithwyr fenthyca rhywfaint o’u cyflog ymlaen llaw i dalu am flaendaliadau rhent. Mae hyn wedyn yn cael ei ad-dalu o daliadau cyflog dros hyd at flwyddyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Miloedd o denantiaid i elwa o fenthyciadau blaendal - GOV.UK
  • os ydych yn gweithio mewn rôl sy’n eich rhoi mewn mwy o berygl o ddal clefyd fel y ffliw, yna byddwch yn gymwys i gael brechiad ffliw blynyddol am ddim
  • fel un o weithwyr y Gwasanaeth Carchardai, bydd gennych hawl i ddefnyddio campfa am ddim ar y safle yn eich sefydliad, lle y bo ar gael
  • Bydd gweithwyr sy’n defnyddio Cyfarpar Sgrin Arddangos yn rheolaidd yn gymwys i gael prawf llygaid am ddim yn Specsavers. Mae gwybodaeth am y broses ymgeisio ar gael ar SOP, a gallwch gael e-daleb drwy Ceisiadau VDU MoJ

6. Gwella ein cynnig – beth nesaf?

Er bod y ddogfen hon, gobeithio, yn rhoi trosolwg defnyddiol o’n cynnig presennol i’r rhai sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Carchardai, rydym yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn lle gwych i weithio yn y dyfodol. I gyflawni hyn, mae’r adran yn gweithio’n galed i ddatblygu mentrau pellach sy’n gwella’r cynnig hwn. Isod ceir detholiad o’r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd i gyflawni hyn.

6.1 Cynllun trosglwyddo lefel Swyddog Carchar

Rydym yn datblygu cynlluniau i’w gwneud yn haws i swyddogion carchar Band 3 drosglwyddo ar yr un lefel i sefydliadau gwahanol o’u gwirfodd bob blwyddyn. Bydd cael hyn nid yn unig yn galluogi gweithwyr i ddysgu a datblygu sgiliau newydd, ond bydd hefyd yn rhoi cyfle iddynt gael profiad craff a fydd yn rhoi’r hyder iddynt wneud eu gwaith. Ar ôl gwaith ymgynghori ac ymgysylltu helaeth, cafodd y cynllun peilot ei roi ar waith ar 2 Hydref 2023.

6.2 Dull Hyfforddi a Mentora

Mae gan bob arweinydd a gweithiwr gwych hyfforddwyr a mentoriaid i’w helpu i weithio drwy faterion anodd a datblygu eu gyrfaoedd. Mae gan hyfforddi a mentora lawer o fanteision, gan gynnwys cynyddu hyder a gallu’r sawl sy’n darparu’r mentora neu’r hyfforddiant, a’r sawl sy’n ei dderbyn. Yn nes ymlaen yn 2023, bydd yr MoJ yn lansio llwyfan hyfforddi a mentora newydd i weithwyr allu gwneud cais am hyfforddwr neu fentor. Bydd hyfforddwyr cymwysedig ar gael i weithio gyda chi ar-lein neu ar sail un-i-un i gefnogi eich datblygiad.

Mae’r sesiynau hyn fel arfer yn para awr, a byddwch yn cael hyd at chwe sesiwn hyfforddi; mae mentora’n tueddu i fod yn berthynas tymor hwy, sy’n eich tywys drwy gyfleoedd gyrfa ac yn cynnig cyngor gan bobl brofiadol yn eich maes gwaith. Byddwn yn anfon hysbyseb atoch yn nes ymlaen eleni i gofrestru ar gyfer hyfforddwr neu fentor. Os ydych chi’n hyfforddwr neu’n fentor cymwys, gallwch gynnig eich gwasanaethau i eraill sy’n defnyddio’r cynllun hwn, ac i’r rheini sydd eisiau bod yn hyfforddwyr, rydym ni’n cynnig cynllun prentisiaethau 18 mis sy’n cael ei ariannu’n llawn gan yr MoJ.

6.3 Arloesi ym maes Iechyd Galwedigaethol

Fel rhan o’r gwaith o arloesi ein gwasanaethau, mae darparwr Iechyd Galwedigaethol HMPPS wedi datblygu adnodd digidol i alluogi gweithwyr i gael ymyriad ffisiotherapi rhithiol llwybr carlam. Mae’r dull newydd hwn yn golygu y gall gweithwyr atgyfeirio eu hunain ac mae’n pontio’r bwlch rhwng dechrau symptomau cyhyrysgerbydol a’r angen am ffisiotherapi wyneb yn wyneb.

6.4 Gwella ein cynnig gweithio’n hyblyg

Fel rhan o’r rhaglen newydd i ‘lunio cynnig newydd i weithwyr’, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn bwriadu moderneiddio trefniadau gweithio drwy gyflwyno mwy fyth o ffyrdd o weithio’n hyblyg sy’n ystyriol o deuluoedd, a hynny’n seiliedig ar adnodd amserlennu newydd. Bydd y trefniadau gweithio modern yn berthnasol i’r holl staff, gan gynnwys staff gweithredol, sydd ar hyn o bryd yn wynebu cyfyngiadau o ran gweithio’n hyblyg.

Bydd hyn yn helpu’r MoJ i gyflawni ei huchelgeisiau, sy’n cynnwys:

  • gwneud yr MoJ yn gyflogwr modern sy’n cynnig ffyrdd o weithio sy’n ystyriol o deuluoedd i’r holl staff;
  • Agor y drws i amrywiaeth o gontractau a phatrymau gweithio amgen y gellir eu cynnig i staff newydd a staff presennol;
  • gwella cyfraddau cadw staff drwy ganiatáu i staff weithio’n fwy hyblyg;
  • cynyddu cynhyrchiant drwy leihau absenoldeb oherwydd salwch a gwella llesiant o ganlyniad i fwy o gyfleoedd i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith;
  • gwella canlyniadau i droseddwyr a defnyddwyr gwasanaethau eraill a sicrhau amgylcheddau gwaith gwell/mwy diogel i weithwyr drwy ddarparu gwasanaethau/gweithdrefnau llawnach a mwy cyson; a
  • chynyddu effeithlonrwydd ariannol drwy ddefnyddio’r gweithlu’n fwy effeithiol a gwella cyfraddau cadw staff, a lleihau gweithgarwch recriwtio o ganlyniad i hynny.

Bydd adnodd amserlennu newydd yn gweithredu fel galluogwr i ehangu gweithio hyblyg. Yn ogystal â chefnogi’r gyfres bresennol o opsiynau gweithio hyblyg, bydd hefyd yn hwyluso cyflwyno ffyrdd newydd o reoli a defnyddio’r gweithlu, gan gynnwys defnyddio:

  • patrymau gweithio blynyddol – a fydd yn caniatáu i nifer yr oriau a weithir mewn unrhyw wythnos/mis penodol amrywio, gan gyflwyno gweithio yn ystod y tymor a bodloni’r angen am y math hwn o weithio hyblyg ar gyfer unrhyw ddigwyddiad neu amgylchiad arall yn eich bywyd
  • system Amserlennu Hyblyg sy’n cael ei harwain gan Alw (DLFR) – a fydd yn gweithredu fel dewis amgen i’r ‘sifftiau sefydlog’ presennol a’r modelau ‘Hunan- amserlennu ar sail Tîm’ (TBSR) ar gyfer defnyddio’r gweithlu. Nod DLFR yw mynd i’r afael â natur anhyblyg y model sifftiau sefydlog a chyflwyno rhywfaint o hyblygrwydd y TBSR ar yr un pryd â chynnal cydbwysedd yn erbyn blaenoriaethau cyflawni

6.5 Safonau ac Ymddygiadau Proffesiynol

Mae HMPPS wedi ymrwymo i gynnal safonau uchel o ymddygiad proffesiynol sy’n galluogi pobl i fod ar eu gorau. Bydd strwythurau newydd y Pencadlys ac One HMPPS yn dwyn ynghyd amrywiaeth o gefnogaeth a gwaith ar safonau ac ymddygiadau proffesiynol mewn Grŵp newydd. Bydd y Grŵp Safonau ac Ymddygiadau Proffesiynol yn cynnig cefnogaeth ymatebol a gweithredol i nodi a mynd i’r afael ag ymddygiad annerbyniol gan staff tuag at eraill (gan adeiladu ar waith cyfredol yr Uned Mynd i’r Afael ag Ymddygiad Annerbyniol). Bydd hefyd yn cynnig cymorth ac arbenigedd ymarferol i helpu arweinwyr a thimau i feithrin gallu, sbarduno newid mewn ymddygiad, a chodi safonau ac ymddygiad proffesiynol ar draws HMPPS. Bydd cynhwysiant wrth galon ein grŵp newydd, a bydd gennym gymorth cynhwysiant arbenigol i ddeall a chyflawni ein dyletswyddau cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus ynghyd â’n gofynion cyfreithiol a pholisi. Ar ben hynny, byddwn yn cynnig cymorth arbenigol sy’n ymwneud â safonau ac ymddygiad proffesiynol mewn lleoliad cyfiawnder troseddol.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn gwneud gwaith i edrych ar sut rydym yn defnyddio ein polisïau a’n harferion mewn perthynas â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu. Bydd hyn yn ein galluogi i nodi pa gamau sydd eu hangen i sbarduno rhagor o newid cadarnhaol mewn diwylliant, ac adeiladu ar y cynnydd rydym yn ei wneud i wella hyder ac ymddiriedaeth pobl yn y system, a chodi llais pan nad yw pethau’n iawn.