Canllawiau

Sut i reoli gwybodaeth sensitfif mewn cystadleuaeth

Cyhoeddwyd 25 September 2014

Beth mae angen i chi a’ch staff ei wybod?

Mae gwybodaeth gyda sensitifrwydd cystadleuol yn cwmpasu unrhyw wybodaeth strategol nad yw’n gyhoeddus am bolisi masnachol busnes. Mae’n cynnwys, ond nid wedi ei gyfyngu i, gynlluniau prisio ac allbwn yn y dyfodol. Mae gwybodaeth fasnachol hanesyddol yn llawer llai tebygol o fod yn sensitif, yn arbennig os na ellir adnabod gweithgareddau masnachol busnesau unigol.

Mae cydymffurfio â chyfraith cystadleuaeth yn arfer busnes da. Mae cydymffurfiad yn y tymor hir yn arbed arian trwy osgoi’r potensial ar gyfer dirwyon a niwed sylweddol i enw da’r cwmni.

Gallai bod yn rhan o drafodaethau ar agweddau penodol o fusnes gyda chystadleuwyr a chyflenwyr arwain at risg o dorri cyfraith cystadleuaeth. Gallai trafodaethau ddigwydd mewn cyfarfodydd, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Isod mae yna nifer o bwyntiau allweddol y dylech eu hystyried yn y sefyllfaoedd hynny, sut bynnag fyddant yn codi. A chofiwch - os oes gennych unrhyw amheuon, gofynnwch am gyngor cyfreithiol.

Peidiwch â

  • thrafod dyfodol eich busnes gyda chystadleuwyr: 1. bwriadau prisio yn cynnwys ad-daliadau neu ostyngiadau 2. strategaeth fasnachol, megis beth, ac i bwy, ydych chi’n bwriadu gwerthu ac/neu ar ba delerau
  • datgelu unrhyw gynlluniau prisio eich cwsmeriaid yn y dyfodol i gwsmeriaid eraill
  • aros mewn unrhyw sefyllfa, proffesiynol neu gymdeithasol, ble mae unrhyw gystadleuwr yn trafod ei gynlluniau prisio ar gyfer y dyfodol neu wybodaeth gystadleuol sensitif arall. Gadewch a gofyn am gyngor gan gyfreithiwr

Ystyriwch cyn

  • datgelu gwybodaeth cost neu bridio cyfredol neu hanesyddol eich busnes i gystadleuwr
  • trafod amodau cyffredinol yn eich diwydiant neu dueddiadau prisio a ragwelir yn y diwydiant gyda’ch cystadleuwyr. Ni fydd trafodaethau o’r fath yn torri’r gyfraith ar bob achlysur, ond mae risg y byddant

Gallwch

  • drafod prisiau neu dueddiadau costau diwydiant hanesyddol a chronedig gyda’ch cystadleuwyr (os nad yw hyn yn caniatáu i chi adnabod prisiau neu gostau elfennau unigol). Ond byddwch yn ofalus: peidiwch â bod yn rhan o drafodaethau ar gostau na phrisiau yn y dyfodol, a pheidiwch ag aros mewn cyfarfod sy’n eu trafod
  • gael ffrindiau mewn busnesau cystadleuol - ond cofiwch gadw’r awgrymau hyn dan ystyriaeth

Pam fod hyn yn bwysig?

Gall goblygiadau torri cyfraith cystadleuaeth fod yn ddifrifol iawn i chi a’ch busnes.

Nid yw’r deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.