Canllawiau

Bywyd partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC)

Diweddarwyd 7 November 2017

1. Deddfwriaeth berthnasol

Mae’r canllaw hwn yn ateb llawer o gwestiynau mynych ac yn cynnig gwybodaeth ar ffeilio’r mathau mwyaf cyffredin o wybodaeth yn y maes hwn. Nid ydym wedi drafftio’r canllaw gyda thrafodion anarferol na chymhleth mewn golwg. Mae’n bosibl y bydd angen gofyn am gyngor proffesiynol arbenigol o dan yr amgylchiadau hynny.

Mae’r brif ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig fel a ganlyn:

Ni fydd y canllaw hwn yn delio â phob digwyddiad a fydd yn codi yn ystod oes eich PAC. Bydd yn rhoi syniad da i chi o’ch cyfrifoldebau, ac esbonio beth mae’n rhaid anfon atom ni yn ystod oes eich PAC. Os na fyddwch yn ffeilio dogfennau blynyddol eich PAC, h.y. datganiad cadarnhau a chyfrifon, efallai byddwn yn gymryd nad yw’r PAC yn parhau gyda’i busnes mwyach neu nad yw’n weithredol mwyach, gan gymryd camau i’w dileu o’r gofrestr. Os bydd y cofrestrydd yn dileu PAC o’r gofrestr, bydd honno’n peidio â bod ac fe ddaw ei hasedion yn eiddo i’r Goron.

Pan fo PAC yn weithredol, gallai’r aelodau dynodedig gael eu herlyn oherwydd eu bod nhw yn gyfrifol, ar lefel bersonol, am sicrhau eu bod yn cyflwyno dogfennau blynyddol y PAC mewn pryd. Mae methu gwneud hynny yn cyfateb â throsedd. Ceir cosb sifil awtomatig am gyflwyno cyfrifon yn hwyr.

Trwy gydymffurfio â’ch gofynion blynyddol a sicrhau bod cofnod cyhoeddus eich PAC yn cynnwys y newidiadau diweddaraf o fewn eich PAC, byddwch yn osgoi unrhyw gamau yn cael eu cymryd yn erbyn PAC neu ei haelodau, a bydd hyn yn cynnig y darlun diweddaraf o’ch PAC i chwilwyr.

2. Aelodau ac aelodau dynodedig

Trafodir y gwahaniaeth rhwng aelod ac aelod dynodedig, a chyfrifoldebau aelodau PAC, yn ein canllaw Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig Corffori ac Enwau.

2.1 Newidiadau i’r aelodau

Rhaid i’r PAC gadw cofrestrau sy’n cynnwys manylion am ei holl aelodau. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • y gofrestr aelodau
  • cofrestr cyfeiriadau preswyl aelodau

Cedwir y cofrestrau hyn o ddyddiad corffori eich PAC neu, os corfforwyd eich PAC cyn 1 Hydref 2009, o’r dyddiad hwnnw. Pryd bynnag y bydd manylion aelod yn newid, neu pan fo’r PAC yn penodi neu’n terfynu penodiad aelod, rhaid i chi ddiweddaru’r cofrestrau hyn.

Yna, bydd yn rhaid i i chi cyflwyno’r ffurflen briodol cyn pen 14 diwrnod i’r newid. Mae’r ffurflenni fel a ganlyn:

  • Penodi aelod unigol – LL AP01c
  • Penodi aelod corfforaethol – LL AP02c
  • Newid manylion aelod unigol – LL CH01c
  • Newid manylion aelod corfforaethol – LL CH02c
  • Terfynu penodiad aelod – LL TM01c

Cewch roi gwybod am y newid hwn ar-lein trwy WebFiling; gan ddefnyddio pecyn Ffeilio Meddalwedd addas, neu drwy anfon dogfennau papur aton ni drwy’r post.

2.2 Gwahaniaethau rhwyng y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau a’r cyfeiriad prewyl arferol

Mae’r cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn un y gall aelod ei ddefnyddio i dderbyn gohebiaeth gan drydydd partïon mewn perthynas â’r bartneriaeth. Gall y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau fod yr un fath â chyfeiriad preswyl yr aelod neu gyfeiriad swyddfa gofrestredig y PAC, neu gall fod yn rhywle arall.

Y cyfeiriad preswyl arferol yw cyfeiriad cartref arferol aeolod y PAC o dan sylw. Mae angen ei ffeilio gyda’r Cofrestrydd o hyd, ond ni fydd ar gael ar y cofnod cyhoeddus i bawb ei weld. Caiff ei gadw ar gofrestr breifat a dim ond sefydliadau a bennir ymlaen llaw gaiff weld y gofrestr hon.

2.3 Gwahaniaeth rhwyng y gofrestr aelodau a’r gofrestr cyfeiriadu preswyl aelodau

Mae’r gofrestr aelodau yn cynnwys ar gyfer pob aelod sy’n unigolyn:

  • ei enw ef neu hi, ynghyd ag unrhyw gyn-enw
  • cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau (y gellir datgan ei fod yr un fath â “swyddfa gofrestredig y PAC”)
  • y wlad neu wladwriaeth neu’r rhan o’r Deyrnas Unedig lle mae ef/hi fel arfer yn byw
  • p’un ai aelod dynodedig ydyw

Ar gyfer aelodau sy’n aelodau corfforaethol neu’n ffyrmiau, bydd y gofrestr aelodau yn cynnwys:

  • ei enw corfforaethol neu enw’r ffyrm
  • ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa
  • yn achos cwmni AEE, ymhle y cafodd ei gofrestru a’i rif cofrestru; fel arall, ffurf gyfreithiol y cwmni neu’r ffyrm a’r gyfraith sy’n ei llywodraethu a, lle bo hynny’n gymwys, ble y cafodd ei gofrestru a’i rif cofrestru
  • p’un ai aelod dynodedig yw’r aelod

Mae’r gofrestr o gyfeiriadau preswyl yr aelodau yn cynnwys cyfeiriad preswyl arferol pob aelod sy’n unigolyn. (Ar yr amod nad yw cyfeiriad cyflwyno-hysbysiadau’r aelod yr un fath â swyddfa gofrestredig y PAC, yna gall y cofnod fod i’r perwyl bod y cyfeiriad preswyl arferol yr un fath â’r cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau).

Rhaid cadw’r gofrestr aelodau ar gael i’w harchwilio; rhaid peidio â datgelu’r wybodaeth sydd ar y gofrestr o gyfeiriadau preswyl yr aelodau. Dim ond i gyfathrebu â’r aelod ac i gyflwyno gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau er mwyn diweddaru’r cofnodion sy’n cael eu cadw yno y gall y PAC ddefnyddio gwybodaeth y gofrestr hon. Ni all y PAC ddefnyddio’r wybodaeth hon at unrhyw ddiben arall oni bai bod y llys yn mynnu.

2.4 Cyfeiriadau preswyl

Ni fydd cyfeiriadau preswyl yn ymddangos yn y cofnod cyhoeddus ar yr amod eich bod yn eu nodi yn rhan gywir y ffurflenni penodi neu newid manylion. Ar gyfer ffurflenni papur, bydd hon yn dudalen ar wahân; ar gyfer trefniadau ffeilio electronig,bydd y rhain yn feysydd cyfeiriad ychwanegol.

Dim ond i Asiantaethau Cyfeirio Credyd ac Awdurdodau Cyhoeddus Penodedig y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu gwybodaeth am gyfeiriadau preswyl.

Mae gwybodaeth bellach yn ein canllaw ynghylch Cyfyngu ar datgelu’ch cyfeiriad os ydych mewn perygl difrifol.

2.5 Newid statws aelodau

Gallwch ddiwygio’r sefyllfa ar unrhyw adeg. Os dewisoch fod yr holl aelodau yn aelodau dynodedig ar gorffori, neu ar ddyddiad wedi hynny, ond eich bod yn dymuno i aelodau penodedig yn unig fod yn aelodau dynodedig erbyn hyn, bydd angen i chi hysbysu Tŷ’r Cwmnïau o’r newid hwn trwy ddefnyddio LL DE01c.

Os dewisoch y byddai aelodau penodedig yn aelodau dynodedig yn unig pan gorfforwyd y PAC, neu ar ddyddiad wedi hynny, ond eich bod yn dymuno i’r holl aelodau fod yn aelodau dynodedig nawr, bydd angen i chi hysbysu Tŷ’r Cwmnïau o’r newid trwy ddefnyddio LL DE01c. Bydd angen cyflwyno gwybodaeth ynghylch y ffaith bod manylion aelod yn newid gyda hyn, ar LL CH01c neu LL CH02c ar gyfer unrhyw aelod nad yw’n aelod dynodedig eisoes. Bydd angen i’r aelod hwnnw nodi eu bod yn rhoi eu caniatâd iddynt fod yn aelod dynodedig.

Ni fydd aelod dynodedig nad yw’n aelod mwyach, yn aelod dynodedig mwyach, a bydd hyn yn digwydd yn awtomatig.

Os bydd nifer yr aelodau dynodedig yn gostwng i un, neu ddim un, bydd y gyfraith yn barnu bod yr holl aelodau yn aelodau dynodedig. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn gwaredu’ch gofynion ffeilio gyda ni.

Cewch roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am y newid hwn ar-lein trwy WebFiling; gan ddefnyddio pecyn Ffeilio Meddalwedd addas, neu drwy anfon dogfennau papur aton ni drwy’r post.

3. PROOF (PROtected On-line Filing)

Ein cynllun “PROtected On-line Filing” yw PROOF. Mae’n cynnig diogelwch ychwanegol wrth ddarparu manylion ynghylch aelodau a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig ar gyfer dogfennau a gyflwynir ar ffurf electronig:

Weithiau, defnyddir cofnodion a gedwir yn Nhŷ’r Cwmnïau er mwyn archwilio cyfreithlondeb PAC a’i haelodau cyn y rhoddir credyd neu fenthyciadau iddo. Felly, mae’n bwysig bod y cofnodion yn gywir. Mae PACau yn agored i dwyll os bydd y bobl anghywir yn cofnodi eu bod yn aelodau PAC neu os bydd cyfeiriad swyddfa gofrestredig ffug yn cael ei ffeilio.

Er mwyn trechu twyllwyr sy’n dynwared aelodau go iawn, rydym yn cynnig system hollol electronig a diogel i PACau, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, er mwyn eu galluogi i hysbysu unrhyw newidiadau o ran yr aelodau a newidiadau i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig. Os byddwch yn dewis hysbysu’r newidiadau hyn ar ffurf electronig yn unig, byddant yn cael eu diogelu gan godau electronig ac ni fyddwn yn derbyn hysbysiadau a gyflwynir gan eich PAC mewn unrhyw ffurf arall.

Gallwch ymuno â’r cynllun yn electronig, gan ddefnyddio cod dilysu’r PAC i gyrchu’r tudalennau gwe priodol ar ein gwasanaeth WebFiling. Cyn ymuno, mae’n rhaid ichi gytuno hefyd ag amodau a thelerau’r cynllun. Dim ond newidiadau i fanylion aelodau neu newidiadau i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig a gyflwynir trwy gyfrwng y dull electronig diogel a fydd yn cael eu derbyn gennym, a byth rhai a gyflwynir ar bapur.

Mae’r telerau a’r amodau ar gael oddi ar ein gwefan neu drwy ffonio 0303 123 4500.

Mae’r gwasanaeth hwn yn wasanaeth gwirfoddol. Gallwch roi’r gorau iddo ar unrhyw adeg, a byddwn yn mynd yn ôl i drefniant derbyn hysbysiadau gan eich PAC a gyflwynir ar ffurf electronig neu ar ffurflenni papur unwaith eto.

4. Pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)

PRhA yw unrhyw un sy’n bodloni un neu ragor o’r amodau a restrir yn Rheoliadau Partneriaeth Ateborlwydd Cyfyngedig (Pobl â Rheolaeth Arwyddocaol) 2016. Gall PAC feddu ar fwy nag un PRhA. PRhA yw person sy’n:

  • sy’n dal, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, hawliau i gael cyfran fwy na 25% o asedau dros ben y PAC os caiff ei dirwyn i ben
  • sy’n dal, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, mwy na 25% o’r hawliau i bleidleisio ar faterion sydd i gael eu penderfynu gan bleidlais o aelodau’r PAC
  • sy’n dal, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yr hawl i benodi neu ddiswyddo’r mwyafrif o’r bobl sydd â hawl i gymryd rhan yn y gwaith o reoli’r PAC
  • sydd fel arall â’r hawl i arfer, neu sy’n arfer mewn gwirionedd, ddylanwad neu reolaeth arwyddocaol dros y PAC
  • sy’n dal yr hawl i arfer, neu sy’n arfer mewn gwirionedd, ddylanwad neu reolaeth arwyddocaol dros weithgareddau ymddiriedolaeth neu gwmni nad yw’n endid cyfreithiol, ond a fyddai ei hun yn bodloni unrhyw un o’r pedwar amod cyntaf pe bai’n unigolyn

4.1 Cofrestr y PRhA

Rhaid i’r holl PAC gadw cofrestr o’u PRhA. Mae hyn yn ogystal â chadw gwybodaeth arall, fel cofrestr o aelodau. Mae gofyn i chi bennu pwy sydd â buddiant rheoli yn eich PAC, a chofnodi’r wybodaeth honno ar eich cofrestr.

Gellir gweld gwybodaeth i helpu PAC i adnabod eu PRhA yn y canllawiau ar lein.

Rhaid i PACau beidio â nodi manylion unigolion sy’n PRhA yn eu cofrestr PRhA nes bod yr unigolyn wedi cadarnhau’r manylion hynny. Gellir nodi manylion endidau eraill ar y gofrestr PRhA cyn gynted ag y bo’r manylion hynny ar gael i’ch PAC.

Mewn sefyllfaoedd lle nad oes PRhA gan y PAC, neu lle na allant ddarparu manylion eu PRhA wedi eu cadarnhau, rhaid cofnodi un o nifer o ddatganiadau posibl ar y gofrestr PRhA. Os yw’ch cofrestr PRhA yn cynnwys un neu ragor o’r datganiadau hyn, rhaid rhoi’r wybodaeth honno inni.

Mae’r datganiadau fel a ganlyn:

  • mae’r PAC yn gwybod, neu mae ganddi achos rhesymol i gredu nad oes unrhyw berson cofrestradwy neu endid cyfreithiol perthnasol cofrestradwy mewn perthynas â’r PAC
  • mae’r PAC yn gwybod, neu mae ganddi achos rhesymol i gredu bod yna berson cofrestradwy mewn perthynas â’r PAC, ond nid yw’r PAC wedi clustnodi’r person cofrestradwy
  • mae’r PAC wedi clustnodi person cofrestradwy mewn perthynas â’r PAC, ond nid yw holl fanylion gofynnol y person hwnnw wedi cael eu cadarnhau
  • nid yw’r PAC wedi gorffen cymryd camau rhesymol i ganfod a oes unrhyw un sy’n berson cofrestradwy neu’n endid cyfreithiol perthnasol cofrestradwy mewn perthynas â’r PAC hyd yn hyn
  • mae’r PAC wedi cyflwyno hysbysiad o dan adran 790D o’r Ddeddf, ac ni chydymffurfiwyd ag ef
  • mae’r person a enwir wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd gan y cwmni o dan adran 790E o’r Ddeddf
  • mae’r PAC wedi anfon hysbysiad cyfyngiadau o dan baragraff 1 o Atodlen 1B i’r Ddeddf.

Mae hefyd yn ofynnol i PAC nodi yn eu cofrestr PRhA pan nad yw’r datganiadau uchod yn berthnasol mwyach, oherwydd bod eu hamgylchiadau mewn perthynas â’u PRhA wedi newid. Rhaid i’r dyddiad y cofnodir y datganiadau ar y gofrestr neu nad ydynt yn berthnasol mwyach gael ei nodi ar y gofrestr hefyd.

Rhaid i’r rhain gael eu hanfon atom ar y ffurflenni priodol.

4.2 Categorïau o PRhA

Mae 3 math o endid o dan y gyfraith lle rhaid nodi eu manylion ar gofrestr PRhA y PAC, a rhaid i PACau nodi manylion pa un bynnag sy’n berthnasol iddyn nhw. Y categorïau yw unigol, endid cyfreithiol perthnasol cofrestradwy (ECP) a pherson cofrestradwy arall (PCA). Mae rhagor o wybodaeth am y gwahanol gategorïau hyn yn y canllawiau Saesneg ar PRhA. Rhaid darparu’r wybodaeth ganlynol am bob un:

Am berson unigol â rheolaeth arwyddocaol:

  • y dyddiad pan ddaeth yr unigolyn hwnnw yn berson cofrestradwy
  • enw, gwlad/gwladwriaeth breswyl a chenedligrwydd yr unigolyn
  • cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau’r unigolyn
  • cyfeiriad preswyl arferol yr unigolyn (ni fydd hyn yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus)
  • dyddiad geni llawn yr unigolyn (ni fydd hyn yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus) oni bai bod etholiad mewn grym ar gyfer cofrestr y PRhA
  • natur eu rheolaeth dros y PAC
  • Y dyddiad y cofnodwyd y wybodaeth ar y gofrestr

Am endid cyfreithiol perthnasol (ECP) cofrestradwy (fel cwmni):

  • y dyddiad pan ddaethant yn ECP cofrestradwy
  • eu henw corfforaethol
  • eu cyfeiriad
  • gwlad/gwladwriaeth (os yw’n berthnasol)
  • ffurf gyfreithiol y corff corfforaethol
  • y gyfraith llywodraethu y cofrestrwyd yr ECP odano
  • ymhle y cofrestrwyd yr ECP (os yw’n berthnasol)
  • rhif cofrestru’r ECP (os yw’n berthnasol)
  • natur eu rheolaeth dros y PAC
  • Y dyddiad y cofnodwyd y wybodaeth ar y gofrestr

Am berson cofrestradwy arall (PCA) (fel unig gorfforaeth neu awdurdod lleol):

  • eu henw
  • eu prif swyddfa
  • ffurf gyfreithiol y person, a’r gyfraith sy’n ei lywodraethu
  • y dyddiad pan ddaethant yn berson cofrestradwy
  • natur eu rheolaeth dros y PAC
  • Y dyddiad y cofnodwyd y wybodaeth ar y gofrestr

4.3 Gwybodaeth am PRhA

Rhaid i PAC roi inni’r wybodaeth am eu PRhA wrth gorffori. Rhaid anfon unrhyw newidiadau i’r gofrestr PRhA atom cyn pen 14 diwrnod gan ddefnyddio’r ffurflenni canlynol:

  • Hysbysiad am berson â rheolaeth arwyddocaol unigol (LLPSC01)
  • Hysbysiad am endid cyfreithiol perthnasol (ECP) â rheolaeth arwyddocaol (LLPSC02)
  • Hysbysiad am berson cofrestradwy arall (PCA) â rheolaeth arwyddocaol (LLPSC03)
  • Hysbysiad newid manylion person â rheolaeth arwyddocaol unigol (LLPSC04)
  • Hysbysiad newid manylion endid cyfreithiol perthnasol (ECP) â rheolaeth arwyddocaol (LLPSC05)
  • Hysbysiad newid manylion person cofrestradwy arall (PCA) â rheolaeth arwyddocaol (LLPSC06)
  • Hysbysiad rhoi’r gorau i fod yn berson unigol,endid cyfreithiol perthnasol (ECP) neu person cyfrieithio arall (PCA) â rheolaeth arwyddocaol (LLPSC07)
  • Hysbysiad datganiadau PRhA (LLPSC08)
  • Hysbysiad diweddaru datganiadau PRhA (LLPSC09)

Cewch roi gwybod i ni am unrhyw un o’r newidiadau hyn ar-lein drwy ddefnyddio ein gwasanaeth WebFiling neu wasanaeth Software Filing, neu drwy anfon dogfen bapur aton ni drwy’r post.

Gellir gweld gwybodaeth i helpu PAC i adnabod eu PRhA yn y canllawiau ar lein.

4.4 Cyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth PRhA

Amddiffynnir gwybodaeth PRhA rhai PACau. Gallai hyn olygu naill ai bod y cyfeiriad preswyl arferol (CPA) yn cael ei amddiffyn fel nad yw’n cael ei ddatgelu i asiantaethau gwirio credyd (AGC) (amddiffyniad a790ZF), bod holl wybodaeth y PRhA yn cael ei hamddiffyn rhag ei datgelu ar y cofnod cyhoeddus (amddiffyniad a790ZG), neu’r ddau. Mae rhagor o wybodaeth ar gyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth PRhA ar gael ar GOV.UK.

Os oes amddiffyniad mewn grym rhag datgelu CPA PRhA eich cwmni i AGC, cewch ffeilio ffurflen berthnasol (LLPSC01c a LLPSC04c) fel arfer, yn ddigidol neu ar bapur Mae blwch ar y ffurflen y dylech ei dicio os gwnaed cais am amddiffyniad, neu os caniatawyd cais o’r fath. Mae’r blwch ar y ffurflen yn cyfeirio at eithriad o dan adran 790ZF o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Os oes PRhA gennych sydd wedi gwneud cais am amddiffyniad, neu sydd wedi cael amddiffyniad o’r fath, sy’n golygu na ellir datgelu unrhyw fanylion am y PRhA hwnnw ar y gofrestr gyhoeddus (amddiffyniad a790ZG), bydd angen i chi ffeilio’r ffurflen berthnasol (LLPSC01c, LLPSC04c, LLPSC07c, LLPSC08c a LLPSC09c) ar bapur. Defnyddir fersiwn wahanol o’r ffurflen berthnasol at y diben hwn, ac mae hon ar gael gan ein tîm cofrestri diogel. Gellir gwneud cais am ffurflen trwy e-bostio’r tîm ar secureforms@companieshouse.gov.uk, neu trwy roi galwad iddynt ar 02920 348354.

5. Swyddfa gofrestredig

5.1 Sut i newid y swyddfa gofrestredig

Os bydd eich PAC yn dymuno newid cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, rhaid i chi hysbysu Tŷ’r Cwmnïau o’r cyfeiriad newydd ar LL AD01c.

Na fydd cyfeiriad eich swyddfa gofrestredig newydd yn dod i rym nes i ni ei nodi yn ein cronfa ddata.

Rydym yn defnyddio cronfa ddata gyfeiriadau Swyddfa’r Post i gadarnhau cyfeiriadau. Er mwyn osgoi unrhyw oedi, a fyddech cystal â sicrhau eich bod yn defnyddio’r cyfeiriad cywir, gan gynnwys y cod post llawn yn yr holl ffurflenni a dogfennau a anfonir i’w cofrestru.

Rhaid i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig fod yn yr un sefyllfa â’r sefyllfa y corfforwyd y PAC ynddi e.e. rhaid i swyddfa gofrestredig PAC a gofrestrwyd yn Lloegr a Chymru fod yn Lloegr a Chymru, nid yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.

Cewch roi gwybod i ni am y newid hwn ar-lein trwy WebFiling; gan ddefnyddio pecyn Ffeilio Meddalwedd addas, neu drwy anfon dogfennau papur aton ni drwy’r post.

6. Cofnodion PAC

6.1  Cofnodion PAC y bydd angen i chi sicrhau eu bod ar gael i’w harchwilio

Rhaid i PAC gadw a chynnal cofrestr o’i haelodau. O 6 Ebrill 2016 mae’n rhaid i PAC gadw cofrestr o PRhA .Os bydd y PAC yn dosbarthu dyledebau, rhaid iddi gadw cofrestr dyledebwyr. Os bydd yn ymrwymo i arwystl, rhaid iddi gadw cofrestr arwystlon, ynghyd â’r offeryn sy’n creu’r arwystl.

Rhaid i’r holl gofrestrau hyn fod ar gael i’w harchwilio.

Yn ogystal, rhaid i PAC gynnal cofrestr o gyfeiriadau preswyl aelodau, ond ni fydd modd i’r cyhoedd archwilio hon.

6.2 Beth fydd angen i chi ei gyflwyno i ni

Os na fyddwch yn cadw’ch holl gofnodion yn swyddfa gofrestredig y PAC, bydd angen i chi ein hysbysu o gyfeiriad eich lleoliad archwilio amgen, neu unrhyw newid i’r cyfeiriad hwnnw yn LL AD02c. Yn ogystal, bydd angen i chi nodi pa gofnodion yr ydych yn eu cadw yno, yn LL AD03c a phryd y bydd unrhyw rai o’r cofnodion yn cael eu dychwelyd i’r swyddfa gofrestredig, yn LL AD04c.

Cewch roi gwybod i ni am y newid hwn ar-lein trwy WebFiling; gan ddefnyddio pecyn Ffeilio Meddalwedd addas, neu drwy anfon dogfennau papur aton ni drwy’r post. Dim ond ar bapur gall newidiadau yn lleoliad y gofrestr o bobl â rheolaeth arwyddocaol cael eu anfon i ni.

7. Dull arall i gadw cofnodion PAC

O 30 Mehefin 2016 ymlaen, caiff PAC ddewis peidio â chadw rhai cofrestri statudol. Gall PACau anfon y wybodaeth sy’n ofynnol yn y cofrestri hynny at y cofrestrydd cwmnïau iddi gael ei gosod ar y cofnod cyhoeddus.

Dyma’r cofrestri mae hyn yn berthnasol iddynt:

  • cofrestr aelodau PAC
  • cofrestr cyfeiriadau preswyl arferol aelodau y PAC
  • Cofrestr PRhA y PAC

Ceir wybodaeth, yn Saesneg, am gadw’ch cofrestri gyda ni yn y canllaw ar y cynllun cofrestri.

8. Arwystlon

Ernes y mae PAC yn ei roi am fenthyciad yw arwystl. Gall y PAC sy’n creu’r arwystl (neu unrhyw berson â buddiant yn yr arwystl) gyflwyno’r datganiad o fanylion, gyda chopi ardystiedig o offeryn yr arwystl (os oes un) a’r ffi perthnasol, i’r cofrestrydd i’w gofrestru.

Rhaid i PACau a gofrestrwyd yn Lloegr a Chymru neu yng Ngogledd Iwerddon gyflwyno’r copi gwreiddiol o’r arwystl yn hytrach na chopi ardystiedig os crëwyd yr arwystl cyn 6 Ebrill 2013.

Os bydd PAC yn creu arwystl ac nad yw’n cyflwyno’r dogfennau angenrheidiol a’r ffi i’r cofrestrydd i’w cofrestru cyn pen y cyfnod a ganiateir, ac os bydd y PAC yn methdalu wedyn, caiff yr arwystl ei ddirymu o safbwynt y datodydd neu’r gweinyddydd ac unrhyw un sy’n gredydwr i’r PAC. Mae hyn yn golygu y bydd y ddyled y rhoddwyd yr arwystl mewn perthynas ag ef yn daladwy o hyd, ond bydd yn ddyled ansicredig. Os na ddaeth arwystl i law Tŷ’r Cwmnïau mewn da bryd, y llys yn unig a gaiff roi estyniad o ran yr amser a ganiateir i’w gofrestru.

Caniateir cyfnod o 21 diwrnod i gyflwyno arwystlon – mae’r manylion yn y tabl isod.

Un drefn sydd yna ledled y DU i gofrestru arwystlon a grëwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl PACau sy’n gofrestredig yn y DU yn cyflwyno’r un ffurflenni i Dŷ’r Cwmnïau. Yr unig ffurflen sy’n dal i fod yn berthnasol yn benodol yn yr Alban ar gyfer arwystlon a gofrestrwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach yw Ffurflen LLP466 - Manylion offeryn i ddiwygio arwystl ansefydlog.

8.1 Cofrestru Arwystlon a grëwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach

Gellir cofrestru unrhyw arwystlon, oni bai eu bod wedi cael ei heithrio’n benodol. Dyma’r arwystlon sy’n cael eu heithrio:

  • Arwystl er budd landlord ar ernes arian parod a roddwyd fel gwarant wrth brydlesu tir
  • Arwystl a grëwyd gan aelod o Lloyd’s (yn ystyr Deddf Lloyd’s 1982) i ddiogelu ei rwymedigaethau mewn perthynas â’i fusnes tanysgrifennu yn Lloyd’s
  • Arwystl y mae unrhyw Ddeddf arall yn pennu eithriad penodol rhag ei gofrestru (er enghraifft, Rheoliadau Trefniadau Cyllid a Gwarantau Cyfochrog (Rhif 2) 2003)

8.2 Ffurflenni ar gyfer arwystlon a grëwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach

Rhif y ffurflen Teitl A yw’r terdyn amser o 21 diwnrod i gyflwyno’r ffurflen yn gymwys (Y/N)
LLMR01 Manylion arwystl a grëwyd gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) Y
LLMR02 Manylion arwystl y mae Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) wedi caffael eiddo neu ymgymeriad mewn cysylltiad ag ef N
LLMR03 Manylion cofrestru arwystl i ddiogelu cyfres o ddyledebau gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) Y
LLMR04 Datganiad bodloni arwystl yn llwyr neu’n rhannol gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) N
LLMR05 Datganiad bod rhan o’r eiddo neu’r eiddo cyfan wedi cael ei ryddhau o’r arwystl neu nad yw’n eiddo i’r Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) mwyach N
LLMR06 Datganiad bod Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) yn gweithredu fel ymddiriedolwr N
LLMR07 Manylion diwygiad i arwystl (manylion gwystl negyddol) ar gyfer Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) N
LLMR08 Manylion arwystl a grëwyd gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) lle nad oes unrhyw offeryn Y
LLMR09 Manylion arwystl y caffaeliwyd eiddo mewn cysylltiad ag ef lle nad oes unrhyw offeryn gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) N
LLMR10 Manylion cofrestru arwystl i ddiogelu cyfres o ddyledebau lle nad oes unrhyw offeryn gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) Y
LLRM01 Hysbysiad am benodi derbynnydd gweinyddol, derbynnydd neu reolwr N
LLRM02 Hysbysiad am roi’r gorau i weithredu fel derbynnydd gweinyddol, derbynnydd neu reolwr N

8.3 Ffeilio electronig

Gellir cyflwyno’r ffurflenni LLMR01, LLMR02, LLMR04 ac LLMR05 yn electronig gan ddefnyddio WebFiling neu Software Filing. Dyma’r dull cyflymaf, rhataf a mwyaf hwylus i ffeilio dogfennau.

Webfiling

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer WebFiling. Oni bai bod y PAC yn ffeilio’r arwystl ei hunain bydd rhaid i chi wneud cais am god dilysu benthyciwr (LAC). Bydd Tŷ’r Cwmnïau’n creu LAC, ynghyd â chod adnabod a chod dilysu ar gyfer y cyflwynydd.

Gall PACau ffeilio arwystlon eu PAC hunain gan ddefnyddio cod dilysu’r PAC ac ni fydd angen LAC yn hynny o beth.

Software filing

Os ydych chi am ffeilio dogfennau trwy software filing, bydd angen gwneud cais am gyfrif a naill ai defnyddio’ch meddalwedd eich un neu un o’r cyflenwyr meddalwedd canlynol.

8.4 Pethau i’w cofio wrth ffeilio Ffurflen LLMR01

Y Ffurflen LLMR01 yw’r ffurflen arwystlon sy’n cael ei anfon atom yn amlaf. (Rhaid ffeilio ffurflen MR08 yn hytrach os nad oes offeryn). Mae’n bwysig gweithredu cyn gynted â phosibl, a chofiwch:

  • llenwi’r ffurflen gywir a’i chyflwyno i’r swyddfa gofrestru gywir (wrth ffeilio ar bapur) gan ddilyn unrhyw nodiadau perthnasol ar y ffurflen hefyd
  • cyflwyno’r copi ardystiedig o’r offeryn sy’n creu neu’n tystiolaethu’r arwystl gyda’r ffurflen
  • sicrhau bod y manylion ar y ffurflen yn gywir a’u bod yn gyson â’r wybodaeth a roddir yn yr offeryn
  • cynnwys y ffi cofrestru cywir (£15 yn electronig. £23 ar bapur)

8.5 Os yw offeryn yr arwystl yn cynnwys gwybodaeth bersonol

Cewch ddileu rhai manylion personol o’r copi ardystiedig o’r offeryn cyn ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Dyma’r wybodaeth y cewch ei dileu:

  • gwybodaeth bersonol am unigolyn (ac eithrio enw’r unigolyn)
  • rhif neu fanylion adnabod cyfrif banc neu gyfrif ernesau’r cwmni neu’r unigolyn
  • llofnod

Chi sy’n dewis sut i fynd ati i ddileu’r wybodaeth hon.

8.6 Caffael eiddo sydd eisoes yn destun arwystl

Os byddwch chi’n caffael eiddo sydd eisoes yn destun arwystl, ac nad yw’r arwystl yn un sydd wedi ei eithrio o’r gofynion cofrestru, cewch gofrestru’r arwystl hwnnw. Dylai’r PAC (neu unrhyw berson sydd â buddiant yn yr arwystl) lenwi ffurflen LLMR02 a’i chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau, ynghyd â chopi ardystiedig o’r offeryn sy’n creu neu sy’n tystiolaethu’r arwystl.

Rhaid cyflwyno ffurflen LLMR09 os nad oes unrhyw offeryn.

8.7 Bodloni Arwystlon

Pan mae’r PAC wedi bodloni’r ddyled

Nid oes angen i’r PAC hysbysu ei fod wedi talu’r ddyled yn llwyr neu’n rhannol. Fodd bynnag, er budd y PAC ei hun, mae’n bwysig bod darpar-fuddsoddwyr a benthycwyr yn ymwybodol ei fod wedi bodloni’r ddyled yn llwyr neu’n rhannol. Os ydych chi’n dymuno hysbysu Tŷ’ Cwmnïau, dylech gyflwyno ffurflen LLMR04.

Os yw’r eiddo sydd o dan arwystl, yn peidio â bod yn destun arwystl neu’n peidio â bod yn eiddo i’r PAC.

Nid oes unrhyw ofyniad i PAC hysbysu bod eiddo wedi cael ei ryddhau o arwystl neu nad yw’n eiddo i’r PAC mwyach. Fodd bynnag, er budd y PAC ei hun, mae’n bwysig bod darpar-fuddsoddwyr a benthycwyr yn ymwybodol o hyn. Os ydych am ddweud wrthym, dylech gyflwyno ffurflen LLMR05.

Gellir weld rhagor o wybodaeth am gofrestru arwystlon a grëwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2013 yn Adran 25 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Ddeddf Cwmnïau 2006 (Diwygio Adran 25) 2013 (fel y’i cymhwysir at PACau gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009).

8.8  Cofrestru arwystlon a grëwyd cyn 6 Ebrill 2013

Dyma’r mathau o arwystlon y mae’n rhaid i PACau a gorfforwyd yn Lloegr a Chymru, Cymru a Gogledd Iwerddon, eu cofrestru:

  • arwystl ar dir neu unrhyw fuddiant mewn tir, ac eithrio arwystl am unrhyw rent neu unrhyw swm cyfnodol arall a delir am ddyrannu tir
  • arwystl a grëwyd neu a dystiolaethwyd gan offeryn y byddai angen ei gofrestru fel bil gwerthiant pe bai’n cael ei gyflawni gan unigolyn
  • arwystl at ddibenion diogelu unrhyw ddyledebion a ddosberthir
  • arwystl ar ddyledion llyfr y PAC
  • arwystl ansefydlog ar eiddo neu ymgymeriadau’r PAC
  • arwystl ar long neu awyren, neu unrhyw gyfrannau mewn llong
  • arwystl ar ewyllys da neu ar unrhyw eiddo deallusol

Yn achos PACau a gorfforwyd yn yr Alban, dyma’r arwystlon y mae’n rhaid eu cofrestru:

  • arwystl ar dir neu unrhyw fuddiant yn mewn tir o’r fath, ac eithrio arwystl am unrhyw rent neu unrhyw swm cyfnodol arall sy’n daladwy mewn perthynas â’r tir
  • ernes am long neu awyren neu unrhyw gyfran mewn l
  • arwystl anse
  • ernes dros eiddo symudol y gellir ei gorffori yn unrhyw un o’r categorïau canlynol:
    • ewyllys da
    • patent neu drwydded o dan batent
    • nod masnach
    • hawlfraint neu drwydded o dan hawlfraint
    • dyluniad cofrestredig neu drwydded mewn perthynas â dyluniad o’r fath
    • hawl dynlunio neu drwydded o dan hawl dylunio
    • y dyledion llyfr (boed yn ddyledion llyfr y PAC neu’n rhai a seiniwyd iddo)

8.9 Ffurflenni ar gyfer arwystlon a grëwyd cyn 6 Ebrill 2013

Teitl Rhif y ffurflen
Manylion arwystl LLMG01 (neu LLMG01s i gwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban)
Manylion arwystl y caffaeliwyd eiddo men cysylltiad ag ef LLMG06 (neu LLMG06s i gwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban)
Manylion cofrestru arwystl er mwyn diogelu cyfres o ddyledebion LLMG07 (neu LLMG07s i gwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban)
Manylion dosbarthu dyledebion a ddiogelwyd mewn cyfres LLMG08 (neu LLMG08s i gwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban)

9. Ansawdd dogfennau

9.1 Dogfennau a anfonir atom

Byddwn yn sganio’r dogfennau a’r ffurflenni papur y byddwch yn eu cyflwyno i ni er mwyn creu delwedd electronig. Yna, byddwn yn storio’r dogfennau papur gwreiddiol, gan ddefnyddio’r ddelwedd electronig fel y ddogfen waith.

Pan fydd cwsmer yn chwilio’r cofnod cyhoeddus, byddant yn gweld y ddelwedd electronig wedi’i hatgynhyrchu ar-lein. Felly, mae’n bwysig bod y ddogfen wreiddiol yn ddarllenadwy, a’i bod yn gallu creu copi clir hefyd.

Pan fyddwch yn cyflwyno dogfen yn electronig, byddwn yn creu delwedd electronig o’r data a ddarparwyd gennych yn awtomatig.

9.2 Gosod dogfennau

Dogfennau sy’n cael eu cyflwyno yn electronig

Rhaid i ddogfennau sy’n cael eu cyflwyno yn electronig gydymffurfio gyda’r manylebion a bennwyd gan y cofrestrydd yn ei reolau ynghylch ffeilio electronig. Cynhwysir y diwyg ar gyfer Software Filing a webfiling yn y rheolau a gyhoeddir ar y wefan, ac mae’n gwefan yn cynnwys yr holl ddiwygiau y bydd eu hangen arnoch er mwyn ffeilio trwy gyfrwng y dull hwnnw. Mae llawer o’r busnesau a enwir ar ein rhestr o ddarparwyr meddalwedd yn darparu gwasanaethau ar y we ac yn dibynnu faint o ddogfennau rydych chi’n disgwyl eu ffeilio, efallai y byddai’n fwy ymarferol i chi ddefnyddio eu gwasanaethau nhw.

Caiff ceisiadau electronig eu prosesu’n gynt na’r rhai sy’n cael eu ffeilio ar bapur. Ein nod yw prosesu dogfennau electronig cyn pen 24 awr ar ôl iddynt ddod i law

Dogfennau papur

Yn gyffredinol, rhaid i bob dogfen bapur a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau nodi enw a rhif cofrestru y PAC mewn man amlwg. Ceir rhai eithriadau i’r rheol hon, a nodir yn rheolau cyhoeddedig y cofrestrydd.

Dylai dogfennau papur fod ar bapur gwyn plaen A4, a gorffeniad di-sglein. Dylai’r testun fod yn ddu, yn eglur, yn ddarllenadwy a dylai’r dwysedd fod yn unffurf. Rhaid i lythrennau a rhifau fod yn eglur ac yn ddarllenadwy er mwyn sicrhau bod modd i ni baratoi copi derbyniol o’r ddogfen.

Pan fydwch yn llenwi ffurflen papur:

  • defnyddio inc du neu deip du
  • defnyddio llythrennau trwm (bydd rhai pennau ysgrifennu ac wynebau teip tenau a chain yn creu copïau o ansawdd gwael)
  • ni ddylech anfon copi carbon
  • ni ddylech ddefnyddio matrics-argraffydd
  • cofiwch – gall llungopïau roi arlliw llwyd na fydd yn sganio’n dda
  • y dylech ddefnyddio papur A4 gydag ymyl hael
  • eu darparu ar ffurf diwyg portread (hynny yw, yr ymyl byrraf ar draws y brig)
  • cynnwys rhif ac enw’r PAC

Cyfrifon sglein

Os ydych chi’n cynhyrchu cyfrifon wedi eu hargraffu mewn lliw gyda lluniau ar bapur sglein, cadwch y rhain ar gyfer eich cyfranddeiliaid a phobl eraill a fydd yn eu gwerthfawrogi. Mae arnom angen y cyfrifon mewn print du ar gefndir gwyn â gorffeniad matt. Byddai fersiwn o broflen yr argraffydd wedi ei deipio ond heb ei rwymo yn ddelfrydol, ar yr amod bod y llofnodion angenrheidiol arni.

Bob blwyddyn, mae rhyw 6,000 set o gyfrifon yn cael eu gwrthod am nad ydynt yn ddigon darllenadwy. Dyma’r 3 rheswm pennaf am hyn:

  • bod y cyfrifon ar bapur sglein
  • am fod graddliwio dros y ffigurau e.e. i wahaniaethu rhwng y flwyddyn ariannol o dan sylw a’r flwyddyn flae
  • print o ansawdd gwael

Am arweiniad pellach, e-bost enquiries@companieshouse.gov.uk neu ffonio 0303 1234 500.

10. Gwybodaeth bellach

10.1 Cyflwyno gwybodaeth i ni

Am fanylion llawn am yr holl ffyrdd o gyflwyno dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau, yn electronig neu ar bapur, a fyddech cystal â throi at reolau’r cofrestrydd sy’n ymddangos ar ein gwefan. Y ffordd fwyaf diogel o gyflwyno gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw trwy ddefnyddio ein gwasanaethau ffeilio ar-lein. Ein nod yw prosesu dogfennau electronig cyn pen 24 awr ar ôl iddynt ddod i law.

Am ragor o wybodaeth a manylion cofrestru, trowch at ein gwefan.

Os ydych yn anfon dogfennau papur yn y post, gyda negesydd, gyda’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu Bost Cyfreithiol (yn yr Alban), ac os hoffech gael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu nodyn cydnabod os byddwch yn cynnwys copi o’ch llythyr esboniadol gydag amlen â chyfeiriad a stamp arni er mwyn ei dychwelyd. Byddwn yn nodi cod bar ar eich copi o’r llythyr, gan nodi’r dyddiad y’i cyflwynwyd, a’i ddychwelyd atoch yn yr amlen a ddarparwyd.

Nid yw nodyn sy’n cydnabod bod dogfen wedi cyrraedd, yn golygu bod dogfen wedi cael ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfennau statudol trwy gyfrwng neges ffacs, PDF (ac eithrio copïau ardystiedig o offerynnau arwystl sy’n cael eu ffeilio’n electronig) neu e-bost.

10.2 Talu i ffeilio dogfennau

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi am nifer o’r dogfennau y bydd yn rhaid i chi eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau, ond bydd angen talu ffi ar gyfer rhai ac ni fyddwn yn eu derbyn er mwyn eu cofrestru heb y ffi hon. Am fanylion llawn, dylech droi at ein gwefan.

10.3 Ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill

Fel arfer, mae’r gyfraith yn mynnu eich bod yn ffeilio dogfennau a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau yn Saesneg. Ceir eithriadau i’r rheol hon, fel y nodir isod. Gallwch baratoi a chyflwyno dogfennau yn Gymraeg os lleolir swyddfa gofrestredig eich PAC yng Nghymru.

Gall PACau gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os anfonir cyfieithiad Saesneg ardystiedig o’r ddogfen hefyd:

  • ar gyfer PAC a gynhwysir yng nghyfrifon grwpiau mwy o fewn yr AEE Ardal Economaidd Ewrop) neu grwpiau nad ydynt yn dod o’r AEE, y cyfrifon grŵp ac adroddiad blynyddol y rhiant-ymgymeriad
  • offerynnau arwystlon (neu gopïau o offerynnau arwystlon)
  • Gorchmynion Llys

Yn ogystal, gall PACau ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol unrhyw ddogfen sy’n rhwym i Reoliad 1078 Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • dogfennau cyfansoddiadol h.y dogfen gorffori PAC; unrhyw hysbysiad dan adran 8(4) Deddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 neu hysbysiad newid enw PAC
  • hysbysiad o unrhyw newidiadau i aelodaeth PAC neu fanylion yr aelodau
  • cyfrifon, adroddiadau a datganiadau cadarnhau
  • hysbysiad o unrhyw newidiadau i swyddfa gofrestredig PAC
  • dogfennau dirwyn i ben Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol ymwneud â dogfen a gyflwynwyd i Dŷ’r Cwmnïau ar neu ar ôl 1Hydref 2009. Dim ond yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd y bydd modd ffeilio cyfieithiadau gwirfoddol ynddynt, ac mae’n rhaid cyflwyno Ffurflen LL VT01 gyda nhw, a fydd yn cysylltu’r cyfieithiad gyda’r ddogfen wreiddiol.