Guidance

Welsh: Lwfans Ceisio Gwaith: sut i gadw eich taliad budd-dal

Updated 27 November 2019

1. Sut mae Lwfans Ceisio Gwaith yn gweithio?

Mae Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) yn fudd-dal i’ch helpu chi pan fyddwch yn ddi-waith ac yn chwilio am waith.

Pan fyddwch yn hawlio JSA, byddwch yn cyfarfod ag un o’n anogwyr gwaith yn y Ganolfan Gwaith a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i waith. Byddant yn cael gwybod am eich sefyllfa a:

  • helpu i nodi beth sy’n rhaid i chi ei wneud i ddod o hyd i waith a chadarnhau hynny yn eich Ymrwymiad Hawlydd - weithiau gelwir hyn yn Cytundeb Ceisio Gwaith
  • eich cyfarfod yn rheolaidd i adolygu eich cynnydd

Efallai y bydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i gymryd rhan mewn cynllun cyflogaeth. Mae cynlluniau cyflogaeth yn cael eu darparu gan sefydliadau arbenigol i’ch helpu i ddod o hyd i ac aros mewn gwaith. Efallai y bydd eich darparwr cynllun hefyd yn nodi pethau y mae’n rhaid i chi ei wneud i ddod o hyd i waith.

Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i waith. Yn gyfnewid, byddwch yn cael eich taliad budd-dal a’n cefnogaeth.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud popeth o fewn eu gallu. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallai eich taliad budd-dal gael ei atal (sancsiynu) neu gallai eich cais gael ei gau.

2. Beth sy’n rhaid i mi ei wneud i gadw fy nhaliad budd-dal?

Bydd y rheswm pam wnaeth eich swydd ddiwethaf ddod i ben bob amser yn cael ei wirio, a gall budd-dal gael ei atal os cawsoch eich diswyddo am gamymddwyn, neu eich bod wedi gadael heb reswm da. Unwaith y byddwch yn dechrau cael taliad budd-dal, bydd hyn yn parhau cyn belled eich bod:

  • ar gael i weithio ac yn cytuno i wneud y pethau yn eich Ymrwymiad Hawlydd (Cytundeb Ceisio Gwaith)
  • mynd i gyfarfodydd ar amser gyda’ch anogwr gwaith a chymryd rhan mewn cyfweliadau
  • gwneud cais am swyddi addas mae eich anogwr gwaith yn dweud wrthych amdanynt
  • gwneud popeth mae eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i’w wneud i ddod o hyd i waith, fel mynychu cwrs hyfforddiant neu ddiweddaru eich CV
  • cymryd rhan mewn cynlluniau cyflogaeth pan fydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i wneud hynny - bydd angen i chi:
    • gyfarfod â’ch darparwr cynllun cyflogaeth ar amser a gwneud y pethau y maent yn dweud wrthych ei wneud i ddod o hyd i waith
    • parhau i gyfarfod â’ch anogwr gwaith a gwneud yr hyn y maent yn dweud wrthych i’w wneud
  • gwneud popeth y gallwch i ddod o hyd i waith

Os nad ydych yn gallu gwneud, neu heb wneud y pethau hyn, dywedwch wrth eich anogwr gwaith neu ddarparwr cynllun cyflogaeth pam ar unwaith.

Byddwch yn cael eich taliad budd-dal os gallwch ddangos bod gennych reswm da dros beidio â gwneud yr hyn y dywedwyd wrthych i’w wneud. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch, cyn gynted ag y bo modd. Er enghraifft, ffoniwch eich anogwr gwaith cyn gynted â phosibl cyn cyfweliad os nad ydych yn gallu bod yn bresennol. Dywedwch wrthynt pam. Gall eich anogwr gwaith ddefnyddio’r amser hwn i helpu eraill i ddod o hyd i waith, a byddwch yn dal i gael eich taliad budd-dal os byddwn yn penderfynu bod gennych reswm da dros beidio â mynd.

Os nad ydych yn gwneud y pethau hyn, ac nid oes gennych reswm da, gallai eich taliad budd-dal gael ei atal neu gallai eich cais gael ei gau. Mae’n bwysig eich bod yn deall popeth y mae angen i chi ei wneud i gael eich taliad budd-dal a beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn ei wneud. Gofynnwch i’ch anogwr gwaith i egluro os nad ydych yn siwr.

3. Pa mor hir y gallai fy nhaliad budd-dal gael ei atal os nad oes gennyf reswm da?

Efallai y gall atal eich taliad budd-dal am rhwng 4 wythnos a 26 wythnos (tua 6 mis). Gelwir hyn yn sancsiwn. Mae 3 lefel o sancsiwn; lefel is, canolradd neu uwch. Mae lefel a hyd eich cosb yn dibynnu ar:

  • y rheswm rydych yn hawlio JSA - er enghraifft, os cawsoch eich diswyddo am gamymddwyn o’ch swydd ddiwethaf, neu ei adael heb reswm da
  • beth nad ydych wedi’i wneud i ddod o hyd i waith
  • p’un a ydych wedi derbyn sancsiwn cynharach yn y flwyddyn ddiwethaf, neu bod eich cais wedi cael ei gau, a’r rheswm(rhesymau) dros hynny

Sancsiynau lefel is a chanolradd

Efallai y byddwch yn cael sancsiwn lefel is (4 neu 13 wythnos) os:

  • nad ydych yn mynd i gyfarfodydd ar amser gyda’ch anogwr gwaith neu gymryd rhan mewn cyfweliadau
  • nad ydych yn gwneud yr hyn mae eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i’w wneud i ddod o hyd i waith, fel mynychu cwrs hyfforddi neu ddiweddaru eich CV
  • nad ydych yn cymryd rhan mewn cynlluniau cyflogaeth pan fydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i wneud hynny
  • nad ydych yn cyfarfod eich darparwr cynllun cyflogaeth ar amser neu gymryd y camau maent yn dweud wrthych i’w cymryd
  • rydych yn colli lle ar gynllun cyflogaeth trwy camymddygiad neu roi’r gorau i lle ar gynllun yn wirfoddol.

Efallai y byddwch yn cael cosb lefel canolradd (4 neu 13 wythnos), ac efallai y bydd eich cais yn cael ei gau, os:

  • nad ydych ar gael i weithio ac wrthi’n chwilio am waith

Am faint o amser fydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal

Sancsiwn Am faint o amser fydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal
1. Y sancsiwn lefel is neu ganolradd cyntaf ym mhob cyfnod o 52 wythnos 4 wythnos
2. Pob sancsiwn ar yr un lefel yn y 2 wythnos nesaf 4 wythnos
3. Unrhyw sancsiwn pellach ar yr un lefel o fewn 52 wythnos o’r un olaf 13 wythnos (tua 3 mis)

Sancsiynau lefel uwch

Byddwch yn cael sancsiwn lefel uwch (13 i 26 wythnos) os:

  • cawsoch eich diswyddo am gamymddwyn o’ch swydd ddiwethaf
  • gadawsoch eich swydd ddiwethaf heb reswm da
  • nad ydych yn gwneud cais am swyddi addas mae eich anogwr gwaith neu ymgynghorydd cynllun cyflogaeth yn dweud wrthych amdanynt
  • nad ydych yn cymryd swydd y mae eich anogwr gwaith neu ymgynghorydd cynllun cyflogaeth wedi dweud wrthych amdano os caiff ei gynnig i chi

Am faint o amser fydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal

Sancsiwn Am faint o amser fydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal
1. Sancsiwn lefel uwch cyntaf ym mhob cyfnod o 52 wythnos 13 wythnos (tua 3 mis)
2. Pob sancsiwn lefel uwch yn y 2 wythnos nesaf 13 wythnos (tua 3 mis)
3. Sancsiwn lefel uwch arall yn y 52 wythnos nesaf 26 wythnos (tua 6 mis)
4. Pob sancsiwn lefel uwch yn y 2 wythnos nesaf 26 wythnos (tua 6 mis)
5. Sancsiwn lefel uwch arall o fewn 52 wythnos o’ch un olaf 26 wythnos (tua 6 mis)

Noder

Mae’r daflen ffeithiau hon yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am sancsiynau. Gall pa mor hir mae sancsiwn yn parhau a sut mae eich taliad yn cael ei effeithio newid yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os ydych yn cael sancsiwn, byddwch yn cael gwybod beth mae hyn yn ei olygu i chi.

4. Beth os nad wyf yn cytuno y dylai fy nhaliad budd-dal gael ei atal neu y dylai fy nghais gael ei gau?

Cam 1: Rhowch y wybodaeth llawn i ni

Os dywedir wrthych efallai y bydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal, neu efallai y bydd eich cais yn cael ei gau, dylech ddarparu gwybodaeth newydd ar unwaith am pam nad ydych wedi gwneud y pethau y dywedwyd wrthych i’w gwneud.

Bydd swyddog penderfyniadau o’r Adran Gwaith a Phensiynau, yn hytrach na’ch anogwr gwaith neu ddarparwr cynllun cyflogaeth, yn penderfynnu os oes gennych reswm da. Os byddant yn penderfynu nad oes gennych reswm da, byddant yn penderfynu am faint o amser i atal eich taliad budd-dal, neu i gau eich cais.

Gallwch ofyn i ni pam y mae penderfyniad wedi ei wneud trwy ffonio 0800 328 1744.

Cam 2: Gofyn i ni ailystyried y penderfyniad

Os ydych yn credu bod penderfyniad yn anghywir, gallwch ofyn i ni edrych arno eto o fewn 1 mis iddo gael ei wneud.

Os ydych wedi gofyn i ni am ddatganiad ysgrifenedig o resymau bydd gennych 14 diwrnod ychwanegol i ofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto.

Eglurwch pam fod y penderfyniad yn anghywir a dangoswch unrhyw dystiolaeth sydd gennych. Pan fyddwn wedi edrych ar yr hyn rydych wedi’i ddweud wrthym, byddwn yn anfon llythyr i ddweud wrthych yr hyn sydd wedi’i benderfynu a pham.

Rydym yn galw’r llythyr hwn yn ‘Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol’.

Cam 3: Apêl

Os ydych yn anghytuno â’r Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol, gallwch apelio i dribiwnlys. Mae’n rhaid i chi aros am yr Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol cyn i chi ddechrau apêl.

Lawrlwythwch ffurflen apêl SSCS1.

5. Beth ddylwn ei wneud os yw fy nhaliad budd-dal yn cael ei atal neu mae fy nghais yn cael ei gau?

Gwnewch popeth y gallwch i ddod o hyd i waith

Os bydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal, dylech barhau i wneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i waith, gan gynnwys mynychu cyfweliadau gyda’ch anogwr gwaith. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallai eich taliad budd-dal gael ei atal am gyfnod hirach neu gallai eich cais gael ei gau.

Ail hawlio JSA

Os yw eich cais yn cael ei gau, gallwch wneud cais am JSA eto ar unwaith, ar yr amod eich bod yn barod i wneud popeth y gallwch i ddod o hyd i waith. Efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei atal am gyfnod ar ddechrau’r cais newydd.

Budd-dal Tai a threth cyngor

Efallai y bydd eich cyngor lleol angen gwybodaeth gennych er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich gostyngiad Budd-dal Tai a threth y cyngor. Os bydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal, neu bod eich cais yn cael ei gau, dylech gysylltu â hwy ar unwaith.

6. Taliadau caledi

Os bydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal, ac nid oes gennych ddigon o arian i fyw arno, efallai y byddwch yn gallu cael taliad caledi. Mae hwn yn swm llai o JSA.

Ffoniwch 0800 328 1744 os ydych eisiau deall mwy am daliadau caledi a ph’un a allwch chi wneud cais. Byddwch ond yn gallu cael taliad caledi os nad yw eich cais wedi’i gau ac rydych chi’n gwneud popeth y gallwch i ddod o hyd i waith.