Corporate report

Brîff Gwybodaeth: Crynodebau Treth

Updated 3 November 2014

Bydd tua 24 miliwn o bobl yn cael eu Crynodeb Treth Blynyddol cyntaf, sy’n esbonio sut y cyfrifwyd eu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’u treth incwm ar gyfer y flwyddyn dreth 2013 i 2014, a sut y gwariwyd yr arian gan y Llywodraeth. Mae’r brîff hwn yn esbonio pam y’u cyflwynwyd a phwy fydd yn eu derbyn.

1. Beth sy’n rhaid i drethdalwyr wneud?

Mae’r crynodebau treth er gwybodaeth yn unig. Nid oes raid i dderbynwyr gysylltu â Chyllid a Thollau EM ynglŷn â hwy; gall y rhai hynny sydd am wneud sylwadau ar y grynodeb treth, cyfraddau treth neu sut y gwariwyd eu trethi, wneud hynny ar-lein: www.gov.uk/annual-tax-summary

2. Pam fod crynodebau treth yn bwysig?

Mae’r Llywodraeth am ei wneud yn haws i drethdalwyr weld a deall faint o dreth maent wedi talu, beth yw eu cyfradd gyffredinol o dreth incwm, a sut y’i cyfrifwyd.

Bydd pob crynodeb treth unigol yn dangos yn glir beth mae’r Llywodraeth wedi ei gasglu gan drethdalwyr, ac yn dangos sut y gwariwyd eu harian.

Mae’r Llywodraeth yn credu taw’r ffordd orau o sicrhau bod y cyhoedd yn fwy hysbys a bod y Llywodraeth yn fwy atebol am ei phenderfyniadau ar wariant cyhoeddus a threth, yw drwy dynnu’r wybodaeth hon at ei gilydd mewn un man a’i hanfon at drethdalwyr. Fel awdurdod treth y DU, CThEM sydd yn y lle gorau i anfon y datganiadau hyn ar ran y Llywodraeth.

3. Pwy fydd yn cael un?

Bydd tua 24 miliwn o drethdalwyr unigol yn derbyn crynodeb treth personol yn y flwyddyn gyntaf hon. Anfonir yr 16 miliwn o grynodebau cyntaf drwy’r post i bobl y diweddarwyd eu cofnodion treth yn ddiweddar gan CThEM. Dyma’r trethdalwyr a dderbyniodd cod treth neu gyfrifiad wedi’i ddiweddaru yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Ni fydd unigolion yn y grŵp hwn yn derbyn crynodeb treth os na dalwyd unrhyw dreth incwm ganddynt yn y flwyddyn a aeth heibio, neu pan nad yw CThEM wedi cwblhau eu sefyllfa dreth ar gyfer y flwyddyn dreth 2013 i 2014. Er enghraifft, pan rydym yn aros am wybodaeth gan y cyflogwr, megis newid cyfeiriad, neu wybodaeth TWE wedi’i diweddaru.

Bydd wyth miliwn o drethdalwyr pellach sy’n cwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad yn gallu edrych ar eu crynodeb yn ddigidol, os ydynt wedi ymrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEM. Yn y dyfodol, bydd CThEM yn rhoi cyfrif treth digidol personol i bawb, a fydd yn cynnwys eu crynodeb treth unigol.

Gall y rhai hynny nad ydynt yn derbyn crynodeb treth ddefnyddio ein cyfrifiannell dreth ar unrhyw adeg i weld sut y cyfrifwyd eu trethi a sut mae hyn yn cyfrannu tuag at wariant cyhoeddus. Mae fersiwn app symudol o’r gyfrifiannell eisoes wedi’i lawrlwytho dros 300,000 o weithiau.

4. Beth sydd yn y grynodeb treth?

Bydd pob crynodeb treth yn dangos sut y cyfrifwyd treth incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol unigolyn ar gyfer y flwyddyn dreth gyflawn ddiwethaf. Felly, mae’r crynodebau ar gyfer y flwyddyn hon yn dangos ffigurau ar gyfer y flwyddyn dreth 2013 i 2014.

Mae’r crynodebau treth yn dangos ffynonellau trethadwy o incwm, gan gynnwys incwm o gyflogaeth, incwm pensiwn a budd-daliadau trethadwy’r wladwriaeth pan fod yr wybodaeth honno wedi’i rhoi i CThEM. Nid ydynt yn cynnwys ffigurau ar gyfer unrhyw fudd-daliadau a dderbyniwyd, sydd yn cael eu cyfrifo fesul cartref yn hytrach nag ar sail unigol.

Mae tu cefn y grynodeb treth wedi’i gynllunio er mwyn dangos yn fras sut y gwariwyd trethi personol unigolyn, gyda ffigurau blynyddol ar wariant cyhoeddus wedi’u cynhyrchu gan Drysorlys EM. Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys holl wariant y sector cyhoeddus, sy’n cwmpasu’r gweinyddiaethau datganoledig yn ogystal â gwariant gan awdurdodau lleol a chorfforaethau cyhoeddus.