Adroddiad corfforaethol

Brîff gwybodaeth: cyfradd dreth gychwynnol ar gyfer llog ar gynilion

Cyhoeddwyd 4 March 2015

Mae’r llywodraeth yn gwneud newidiadau i sut y trethir llog ar gynilion. O fis Ebrill 2015, bydd llai o bobl yn gorfod talu treth ar y llog maent yn ei dderbyn ar eu cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu. Disgwylir y bydd hyn yn helpu pobl sydd ar incwm isel. Mae’r brîff hwn yn egluro pwy gaiff eu heffeithio gan y ‘gyfradd gychwynnol’ newydd o 0% a sut y bydd yn gweithio.

1. Beth sy’n digwydd?

Yng Nghyllideb 2014, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai’n gostwng y ‘gyfradd gychwynnol’ o dreth ar incwm o gynilion, o 10% i 0%, er mwyn rhoi mwy o gymorth i’r rheiny sydd ar yr incwm isaf. Bydd hefyd yn codi swm yr incwm o gynilion y bydd y gyfradd newydd o 0% yn gymwys iddo, o £2,880 i £5,000.

Mae’r llywodraeth am i gymaint o bobl â phosib fod yn gymwys i dderbyn llog heb fod treth wedi’i didynnu - a thrwy hynny, osgoi’r angen i’w hadennill oddi wrth CThEM. Drwy gyflwyno’r newidiadau ar 6 Ebrill mae’n rhoi mwy o amser i fanciau, cymdeithasau adeiladu a CThEM i weithredu hyn, ac fel bod cymaint o gynilwyr â phosib yn dod i wybod am y newidiadau. Mae’r gyfradd dreth gychwynnol ar gyfer cynilion yn aros fel 10% tan hynny.

2. Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae’n golygu na fydd y rhan fwyaf o bobl sydd â chyfanswm incwm sy’n is na £15,600 yn talu treth ar eu cynilion. Gall rhywun sydd â chyfanswm incwm (fel cyflog, pensiwn, budd-daliadau ac incwm o gynilion) sy’n llai na’i lwfans personol, plws £5,000, gofrestru ar gyfer cynilion rhydd o dreth gyda’i fanc neu gymdeithas adeiladu.

Gall pobl eraill fanteisio hefyd, a chael peth o’u llog yn gymwys ar gyfer y gyfradd gychwynnol o 0% - ond dim ond os yw eu hincwm (ar wahân i log neu incwm arall o gynilion) yn llai £15,600 y flwyddyn.

Rydym wedi paratoi arweiniad manwl a chyfrifiannell i helpu pobl weithio allan a ydynt yn gymwys ar gyfer y gyfradd gychwynnol o 0%.

3. Sut fydd pobl yn gwybod a allant gofrestru ar gyfer cynilion rhydd o dreth?

Mae p’un a all rhywun gofrestru yn ddibynnol ar:

  • cyfanswm yr incwm trethadwy y mae’n disgwyl ei dderbyn rhwng 6 Ebrill 2015 a 5 Ebrill 2016

  • faint o hwn sy’n incwm o gynilion, fel llog

  • ei lwfansau personol rhydd o dreth am y flwyddyn dreth 2015 i 2016.

Rydym yn amcangyfrif y gall tua miliwn ychwanegol o unigolion gofrestru eu cyfrifon, drwy lenwi ffurflen R85 a’i rhoi i’w banc neu gymdeithas adeiladu, i dderbyn llog heb fod treth wedi’i didynnu.

Efallai y bydd eraill gyda pheth o’u llog yn gymwys ar gyfer y gyfradd gychwynnol o 0% a pheth yn drethadwy ar 20%. Mewn achosion o’r fath, caiff treth ei didynnu fel arfer, ond gall unigolion hawlio peth yn ôl oddi wrth CThEM drwy ddefnyddio ffurflen R40 neu drwy gyfrwng Hunanasesiad.

4. Sut mae’r newidiadau yn edrych yn ymarferol?

4.1 Astudiaeth achos: Dafydd

O fis Ebrill 2015 bydd Dafydd yn ennill £12,000 y flwyddyn o’i waith fel garddwr rhan amser. Mae ei lwfans personol rhydd o dreth yn £10,600. Felly, caiff £1,400 o’i gyflog ei drethu ar 20% (cyfradd sylfaenol treth incwm). Mae wedyn yn ennill incwm o £50 y flwyddyn o gynilion (llog ar ei gynilion). Drwy ychwanegu enillion Dafydd at ei incwm o gynilion mae’n llai na £15,600. Mae Dafydd, felly, yn gymwys i gofrestru ar gyfer cynilion rhydd o dreth.

4.2 Astudiaeth achos: Catrin

O fis Ebrill 2015 bydd Catrin yn ennill £25,000 o’i swydd fel prif gogydd. Mae ei lwfans personol rhydd o dreth yn £10,600. Felly, caiff £14,400 o’i chyflog ei drethu ar 20%. Mae Catrin hefyd yn ennill incwm o £80 y flwyddyn o gynilion (llog ar ei chynilion). Fodd bynnag, gan fod Catrin yn ennill mwy na £15,600 mae ei hincwm o gynilion hefyd yn cael ei drethu ar 20%.

4.3 Astudiaeth achos: Siwan

O fis Ebrill 2015 bydd Siwan yn derbyn £15,300 y flwyddyn o’i phensiwn. Mae ei lwfans personol rhydd o dreth yn £10,600. Felly, caiff £4,700 ei drethu ar 20%. Mae Siwan hefyd yn ennill incwm o £500 y flwyddyn o gynilion (llog ar ei chynilion). Mae cyfanswm ei hincwm, felly, yn £15,800. Gan fod cyfanswm incwm Siwan yn fwy na £15,600 (ei lwfans personol plws £5,000) nid yw’n gymwys i gofrestru ar gyfer cynilion rhydd o dreth. Fodd bynnag, gan fod ei hincwm nad yw’n deillio o gynilion yn llai na £15,600 gall hawlio peth o’r dreth ar ei hincwm o gynilion yn ôl. Gall wneud hyn drwy lenwi ffurflen R40 a’i hanfon i CThEM, neu drwy gyfrwng Hunanasesiad.

5. Am fwy o wybodaeth