Corporate report

Blwyddyn yn ddiweddarach: moderneiddio TWE gyda gwybodaeth mewn amser real

Published 8 April 2014

Mae nawr angen i bob cyflogwr anfon gwybodaeth cyflogres mewn amser real. Caiff hyn ei adnabod fel Gwybodaeth Amser Real, neu RTI, ac mae wedi bod yn gweithredu’n llawn am flwyddyn. Mae bron pob cofnod TWE unigol nawr yn cael eu hysbysu fel mater o drefn mewn amser real, gyda’r mwyafrif o gyflogwyr yn gweld RTI yn hawdd ac yn hysbysu arno ar amser a heb unrhyw drafferth. Mae’r briff hwn yn esbonio’r budd i gyflogwyr, CThEM a’r Siecr o ganlyniad i RTI a sut yr ydym yn cefnogi cyflogwyr fel y maent yn dod i arfer â’r ffordd newydd o hysbysu.

1. Pam y newidiwyd yr hysbysu o wybodaeth TWE

Roedd y gyfundrefn TWE wedi mwy neu lai aros yr un fath dros y 70 mlynedd diwethaf, er bod patrymau cyflogi wedi newid yn sylweddol, gyda miliynau’n fwy o bobl yn newid swydd bob blwyddyn, neu’n gweithio i fwy nag un cyflogwr. Roedd hyn yn ei gwneud yn anoddach i ni gadw cofnod cyflogaeth unigolyn i’r funud.

Mae hysbysu gwybodaeth TWE mewn amser real yn golygu bod cyflogwyr yn anfon gwybodaeth TWE atom bob tro y maent yn talu eu cyflogeion, yn hytrach nag ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Mae hyn yn gwneud TWE yn gyflymach, hawsach ac yn fwy cywir. Mae’r gyfundrefn newydd yn buddio cyflogwyr, cyflogeion a’r Siecr.

Mae cyflogwyr wedi gweld budd yn syth o anghenion hysbysu symlach ar gyfer cyflogeion sy’n ymuno neu’n gadael yn ystod y flwyddyn. Bydd RTI hefyd yn ein helpu i wella cywirdeb codau treth yn ystod y flwyddyn. Hefyd bydd cyflogeion yn elwa gan y bydd angen i lai o bobl dalu treth ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn dreth, a bydd unrhyw ordaliadau neu dandaliadau yn is o ran eu gwerth. Mae disgwyl i’r arbedion mwyaf sylweddol ar gyfer cyflogwyr ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn dreth, gan nad oes angen iddynt gwblhau ffurflen TWE blynyddol.

Bydd RTI hefyd o fudd i’r Siecr, gan gyflymu’r casglu o’r biliynau o bunnoedd yr ydym yn ei amcangyfrif sy’n ddyledus gan gyflogwyr ar unrhyw un adeg. Rydym hefyd yn defnyddio RTI i leihau colledion o ordaliadau, twyll a chamgymeriadau credydau treth, ac o Ebrill 2014, bydd data RTI yn cael ei ddefnyddio i gyflymu’r broses adnewyddu ar gyfer 1.7 miliwn o geisiadau am gredydau treth.

2. Cefnogaeth ar gyfer cyflogwyr

Mae symud i hysbysu gwybodaeth TWE mewn amser real yn newid enfawr ac rydym yn ymwybodol bydd angen amser ychwanegol ar rai cyflogwyr i addasu. Rydym wedi gweithio gyda nifer o grwpiau a sefydliadau sy’n cefnogi neu’n cynrychioli cyflogwyr i’w helpu i wneud y newidiad hwn.

Fel rhan o hyn, cyflwynwyd ymlaciad dros dro ym mis Ebrill 2013 i roi fwy o amser i gyflogwyr bach i addasu i hysbysu gwybodaeth amser real ‘ar neu cyn’ y diwrnod talu. Daw’r ymlaciad hwn i ben ar 5 Ebrill 2014. Rydym hefyd:

  • yn datblygu ein TG ac yn gwella ein harweiniad wrth barhau i fanwl gyweirio ein cyfundrefnau
  • yn atgoffa’r cyflogwyr hynny a ddylai fod yn hysbysu TWE mewn amser real, ond sydd heb ddechrau eto, gan amlygu’r ystod o gefnogaeth sydd ar gael ar ein tudalennau we, gan gynnwys arweiniad, fideos YouTube a weminarau byw ac sydd eisoes wedi recordio (seminarau ar-lein)
  • yn cyflwyno pecyn cefnogaeth ar gyfer cyflogwyr micro sydd a naw neu lai o gyflogeion, i roi mwy o amser iddynt addasu i’r ffordd newydd o hysbysu. Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys arweiniad gwell, gan gynnwys senarios arfer gorau a gwaith sy’n parhau gyda’r diwydiant meddalwedd i ddatblygu ffyrdd newydd i hysbysu gwybodaeth TWE, er esiampl drwy ddefnyddio ap ar gyfer ffonau symudol

Rydym hefyd wedi helpu cyflogwyr drwy ein hagwedd tuag at gydymffurfiad. Yn ystod 2013-14, ni roddwyd cosbau cyflwyno’n hwyr o fewn y flwyddyn ar gyfer RTI tra bod cyflogwyr a CThEM yn cyfarwyddo i’r ffordd newydd o hysbysu. Ein bwriad gwreiddiol, yn dilyn ymgynghoriad llawn, oedd cyflwyno cosbau awtomataidd newydd o fis Ebrill 2014 ar gyfer taliadau hwyr a chyflwyno’n hwyr.

Ar ôl gwrando ar adborth cwsmeriaid i roi fwy o amser i gyflogwyr, ein staff a’n cyfundrefnau i addasu, rydym yn darwahanu’r dechreuad o gyflogwyr i dderbyn cosb newydd os ydynt yn talu’n neu gyflwyno’n hwyr. Mae’r cosbau cyflwyno’n hwyr yn dechrau o’r 6 Hydref 2014 a bydd y cosbau am dalu’n hwyr yn dechrau o fis Ebrill 2015. Hyd nes y cyflwynir y cosbau newydd, byddwn yn parhau i godi cosbau fel yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.

Mae’r mwyafrif o gyflogwyr yn talu ar amser ac, i gefnogi’r casglu o arian sydd yn wir ddyledus gan gyflogwyr, byddwn yn cyflwyno llog o fewn y flwyddyn ar drethi cyflogres sy’n cael ei dalu’n hwyr o’r 6 Ebrill 2014.

Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i addasu i’r cyflogwyr sydd ei hangen, gan gynnwys y cyflogwyr hynny sydd yn hysbysu mewn amser real am y tro cyntaf o fis Ebrill 2014. Bydd hefyd yn ein galluogi i sicrhau bod y gwelliannau yn gweithio’n iawn a rhoi gwell cefnogaeth cwsmer i gyflogwyr sydd angen fwy o amser i addasu. Mae’r gwelliannau yn cynnwys:

  • y cyflwyniad o’r ‘rheswm am hysbysu’n hwyr’ newydd - fel y gall cyflogwr ddweud wrthym os oes ganddynt reswm da i hysbysu’n hwyr.
  • sicrwydd mewnol newydd, megis gwelliannau i gywiro’n awtomatig rhai mathau cyffredin o gamgymeriadau cyflogwyr

3. Cyflwyniadau terfynol cyflogwyr ar gyfer y flwyddyn

Gan fod cyflogwyr bellach yn hysbysu mewn amser real, nid oes angen iddynt anfon P35 neu P14 ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Yn hytrach gallant anfon eu cyflwyniad TWE amser real terfynol yn ôl yr arfer gan ateb rhai cwestiynau ychwanegol. Mae’r un terfynau amser yn gymwys, felly dylai’r rhan fwyaf o gyflogwyr anfon eu cyflwyniad terfynol ar neu cyn dyddiad talu diwethaf eu cyflogai yn y flwyddyn dreth (neu erbyn 19 Ebrill os ydynt yn anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr). Bydd meddalwedd cyflogres y cyflogwr yn dweud wrthynt p’un ai bod eu cyflwyniad yn llwyddiannus, felly nid oes angen i gyflogwyr i gysylltu â ni i ofyn a ydym wedi derbyn eu cyflwyniadau.

4. RTI a Chredyd Cynhwysol

Mae RTI yn cefnogi Credyd Cynhwysol drwy ddarparu’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) gyda gwybodaeth i’r funud ynghylch enillion hawlwyr oddi wrth gyflogwyr a phensiynau sy’n agored i TWE, gan alluogi DWP i gyfrifo taliadau Credyd Cynhwysol yn fisol, heb yr angen i hawlwyr i ddarparu’r wybodaeth hon.

5. Lwfans Cyflogaeth

O’r 6 Ebrill 2014 bydd cyflogwyr yn gallu hawlio Lwfans Cyflogaeth drwy eu cyflwyniad RTI arferol gan ddefnyddio meddalwedd cyflogres neu ein Offer TWE Sylfaenol. Gall cyflogwyr cymwys cael hyd at £2,000 wedi’i dynnu i ffwrdd o’u bil Yswiriant Gwladol Cyflogwr Dosbarth 1 drwy hawlio’r Lwfans Cyflogaeth.

6. I gael mwy o wybodaeth

Ewch i’n gwefan yn XXX