Corporate report

Sut rydym yn delio ag unigolion cyfoethog

Published 22 October 2014

This corporate report was withdrawn on

This issue briefing has been updated by the page How HMRC collects the right tax from wealthy individuals, published in September 2022.

1. Sut rydym yn delio ag unigolion cyfoethog

Ein swydd ni yw gwneud yn siŵr bod busnesau ac unigolion yn talu’r swm cywir o dreth. I wneud hyn, rydym yn deall ac yn ymateb i risgiau yn y system dreth drwy wneud yn siŵr bod ein gwaith cydymffurfio yn cwmpasu’r ystod eang o drethi a thollau yr ydym yn eu rheoli.Mae’r briff hwn yn edrych ar sut yr ydym yn delio ag unigolion cyfoethog, er mwyn eu helpu i gydymffurfio gyda’u hymrwymiadau treth ac i herio’r rhai hynny nad ydynt yn dilyn y rheolau.

2. Beth ydym yn ei olygu gan unigolion cyfoethog?

Rydym yn golygu’r rhai hynny sydd â gwerth net o £20 miliwn neu fwy,sydd ymhlith y 6,200 o unigolion cyfoethocaf yn y DU. Mae ein Huned Gwerth Net Uchel (HNWU) yn adran arbenigol a sefydlwyd yn 2009 er mwyn mynd i’r afael â materion treth pobl gyfoethocaf y DU.Rydym yn ffocysu ein hadnoddau ar y grŵp gwerth-uchel hwn oherwydd bod eu materion treth yn gymhleth, ac am eu bod, ar y cyd, yn talu £3 i £4 biliwn bob blwyddyn mewn incwm personol a Threth Enillion Cyfalaf.

3. Ein dull o weithredu

Oherwydd bod unigolion cyfoethog yn talu biliynau o bunnoedd mewn treth bob blwyddyn, rydym yn neilltuo rheolwr cysylltiadau â’r cwsmer penodol (CRM) iddynt. Mae gan y rheolwr hwn drosolwg manwl o’u materion treth, ac mae’n delio â’u hasiantau treth ac yn datblygu gwell dealltwriaeth o p’un a oes peryg na fyddant yn talu’r hyn sydd arnynt. Golyga hyn ein bod yn siarad yn unigol ô phob cwsmer a’u hymgynghorwyr er mwyn deall eu materion treth a gwneud yn siŵr eu bod yn talu’r swm cywir o dreth ar yr amser cywir.

Caiff rheolwyr cysylltiadau â’r cwsmer eu cefnogi gan dimoedd o ymgynghorwyr technegol arbenigol, pan fo angen dadansoddiad manylach o gyfraith dreth berthnasol mewn materion cymhleth. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn gweithredu’r gyfraith mewn ffordd ddiduedd a bod anghydfodau cymhleth yn cael eu datrys yn unol â’n cod llywodraethu.

Mae gan yr uned nifer o dimoedd arbenigol, gan gynnwys:

  • Tîm Cyllid - sy’n ffocysu ar unigolion sy’n gysylltiedig â’r sector ariannol ,er enghraifft, cronfeydd rhagfantoli, ecwiti preifat ac endidau bancio
  • Tîm ‘Rising Stars’ - sy’n delio â phobl sydd â chyfoeth sy’n cynyddu’n gyflym - mae hyn yn dynodi y byddant yn cwrdd â meini cyfoeth yr HNWU yn ystod y blynyddoedd nesaf
  • Tîm Rhyddhad Treth drwy Fuddsoddiadau Busnes - sy’n delio â cheisiadau am Ryddhad Treth drwy Fuddsoddiadau Busnes gan unigolion nad ydynt yn byw yn y Deyrnas Unedig sy’n bwriadu buddsoddi mewn busnesau o fewn y DU. Ni chymeradwyir pob cais oherwydd nid yw rhai ohonynt yn bodloni’r meini prawf gofynnol
  • Uned Dadansoddi a Chudd-wybodaeth - sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio data a dadansoddiad i sicrhau ein bod yn deall ymddygiad a strwythurau ariannol unigolion cyfoethog, yn ogystal â’r hyn sydd o fudd iddynt.
  • Tîm Datrys Anghydfod – sy’n gweithio i ddatrys anghydfodau rhwng CThEM a’n unigolion cyfoethog,yn unol â’n Strategaeth Ymgyfreitha a Setlo.

4. Gwneud yn siŵr ein bod yn casglu’r swm cywir o dreth

Drwy wneud yn siŵr bod ein rheolwyr cysylltiad â chwsmeriaid yn gweithio’n agos gyda’r bobl hyn, gallwn ganolbwyntio ein hymdrechrechion, a threulio mwy o amser, ar yr unigolion cyfoethog hynny y credwn fod risg arwyddocaol na fyddant yn talu’r hyn sydd arnynt oherwydd eu bod yn osgoi neu’n arbed treth.

Rydym yn gweithredu’n uniongyrchol drwy herio’r rhai hynny sy’n methu â chyflwyno ffurflenni treth, a’r rhai hynny sydd yn cyflwyno ffurflenni treth anghywir. Rydym nawr yn anfon yr hyn a elwir yn ‘hysbysiadau dilynol’ a hysbysiadau ‘taliadau cyflymedig’, fel bo modd i’r dreth sy’n achosi’r anghydfod mewn cynllun osgoi, gael ei thalu o flaen llaw i CThEM wrth i’r anghydfod gael ei ddatrys.Rydym hefyd yn mynd ag anghydfodau i dribiwnlysoedd treth pan nad ydym yn gallu cytuno bod swm y dreth i gael ei dalu yn unol â’n Strategaeth Ymgyfreitha a Setliadau.

Ers ei ffurfio yn 2009, mae’r Uned Gwerth Net Uchel wedi casglu dros £1 biliwn mewn refeniw ychwanegol.Mae’r uned wedi cynyddu’r refeniw a gasglwyd ganddo o flwyddyn-i-flwyddyn, i £268 miliwn yn 2013 i 2014 - chwyddiant o 20 y cant ar y flwyddyn flaenorol.

Refeniw ychwanegol a gasglwyd gan yr Uned Gwerth Net Uchel:

Blwyddyn Refeniw ychwanego lTarged
2009 to 2010 £85 miliwn £80 miliwn
2010 to 2011 £162 miliwn £153 miliwn
2011 to 2012 £200 miliwn £195 miliwn
2012 to 2013 £222 miliwn £200 miliwn
2013 to 2014 £268 miliwn £210 miliwn

Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn y nifer o unigolion cyfoethog sy’n cyflwyno’u ffurflenni treth ar amser.Golyga hyn, ar ôl pum mlynedd,bod y nifer o ffurflenni treth sydd heb eu cyflwyno wedi gostwng o 11.9 y cant i 3.4 y cant. Mae cyfanswm o 96.4 y cant o unigolion cyfoethog yn cyflwyno ar-lein - cynnydd o ddeg y cant mewn pedair blynedd.

5. I gael mwy o wybodaeth

Darllenwch fwy ynghylch sut rydym yn mynd i’r afael ag osgoi talu treth.