Papur polisi

Dewis Lleoedd i fod yn Barthau Buddsoddi yng Nghymru

Cyhoeddwyd 8 April 2024

Yn berthnasol i Gymru

Cyflwyniad

Mae’r broses o nodi Parthau Buddsoddi yng Nghymru wedi cael ei chyd-ddatblygu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i adlewyrchu’r cyd-destun polisi penodol, y trefniadau llywodraethu, a’r dirwedd economaidd yng Nghymru a’r DU.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth er mwyn datblygu cynnig polisi ar gyfer Parthau Buddsoddi yng Nghymru, sydd wedi’i deilwra at anghenion a chyfleoedd Cymru. Mae Prosbectws y Polisi ynghylch Parthau Buddsoddi a gyhoeddwyd ar 15 Mawrth 2023 yn nodi tair egwyddor ynglŷn ag ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a bennwyd drwy gydweithio blaenorol ar raglenni, megis Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru:

  • Partneriaeth: bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn chwarae rôl gydradd wrth gyd-lunio, gwneud penderfyniadau a goruchwylio’r broses o gyflwyno Parthau Buddsoddi.
  • Cydraddoldeb: bydd y cynnig cyffredinol yng Nghymru yn hafal i werth y cynnig cyffredinol fesul Parth Buddsoddi yn Lloegr.
  • Yn Cyd-fynd yn Strategol: bydd Parthau Buddsoddi yn cyd-fynd â fframweithiau polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan gynnwys Strategaeth Arloesi Cymru Llywodraeth Cymru. Dylent hefyd gyd-fynd yn dda â’r dirwedd lywodraethu ac economaidd ranbarthol ac adlewyrchu’r setliad datganoli.

Drwy ymgysylltu o’r fath, daeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gytundeb, gan gyhoeddi ar y cyd y bydd dau Barth Buddsoddi yng Nghymru, ar yr amod bod y cynigion yn bodloni gofynion penodol a bod pob parti yn cytuno arnynt. Y lleoedd sy’n cynnig y potensial mwyaf i gynnal y rhain yw:

  • Ardaloedd Teithio i’r Gwaith Caerdydd a Chasnewydd[footnote 1] (a weithredir gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru);
  • Ardal Teithio i’r Gwaith Wrecsam a Sir y Fflint[footnote 2] (a weithredir gan Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru)

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn bwriadu cydweithio â’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig i gyd-ddatblygu cynigion ar gyfer Parthau Buddsoddi, gan gynnig cymorth a chyngor drwy gydol y broses. Mae’n rhaid i Barthau Buddsoddi gael eu sefydlu ar sail partneriaeth a chydweithio yn yr hirdymor – rhwng cyfranwyr rhanbarthol mewn lle, a rhwng pob lefel o’r llywodraeth – er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad a’r ymyriad cydgysylltiedig mor effeithiol â phosibl. Drwy’r fath ymrwymiad a phartneriaeth a rennir, bydd Parthau Buddsoddi yn cefnogi twf hirdymor clystyrau â photensial mawr ar y daith tuag at ddod yn arwyddocaol yn genedlaethol ac, ymhen amser, arwain yn fyd-eang.

Disgwylir y bydd Parthau Buddsoddi yn gallu manteisio i’r eithaf ar ysgogiadau a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU ac ysgogiadau datganoledig Llywodraeth Cymru.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi rhagor o wybodaeth am y model polisi yng Nghymru a sut y cafodd y lleoedd eu dewis. Caiff rhagor o fanylion am baramedrau’r broses gyd-ddatblygu a’r canllawiau i’r lleoedd hyn ddatblygu eu cynigion eu cyhoeddi maes o law.

Amcanion a’r Model Polisi

Sectorau â Blaenoriaeth

Yn unol â’r dull gweithredu a amlinellwyd eisoes gan Lywodraeth y DU yn Lloegr, ac ar y cyd â Llywodraeth yr Alban yn yr Alban, bydd Parthau Buddsoddi yng Nghymru yn canolbwyntio ar bum sector â blaenoriaeth, eang eu cwmpas, lle mae’r DU mewn sefyllfa dda i chwarae rôl arweiniol yn fyd-eang – digidol a thechnoleg; diwydiannau gwyrdd; gwyddorau bywyd; gweithgynhyrchu uwch; a’r diwydiannau creadigol. Mae’r sectorau hyn yn cyd-fynd yn agos â phump o’r chwe blaenoriaeth arloesi a nodwyd yn Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru – trawsnewid digidol; Sero Net a datgarboneiddio; iechyd y boblogaeth a biodechnoleg; deunyddiau a gweithgynhyrchu; a’r diwydiannau creadigol a’r cyfryngau. Bydd angen i Barthau Buddsoddi ganolbwyntio ar dyfu clystyrau sy’n cyd-fynd ag un neu fwy o’r sectorau hyn, er mwyn rhoi hwb i gystadleurwydd Cymru a’r DU yn y diwydiannau mawr eu potensial hyn.

Bydd y rhwystrau i dwf clystyrau o weithgarwch sy’n datblygu yn edrych yn wahanol rhwng sectorau a rhwng gwahanol rannau o Gymru a’r DU. Mae hyn yn golygu nad oes un model sy’n addas i bawb, gan y bydd angen ymyriadau gwahanol ar bob rhanbarth, yn dibynnu ar yr hyn sydd eisoes ar waith ac ysgogwyr twf ar gyfer clystyrau penodol.

Amlen Gyllido

Ar yr amod bod y cynigion yn bodloni gofynion penodol a bod pob parti yn cytuno arnynt, gall pob Parth Buddsoddi yng Nghymru gael cyfanswm amlen gyllido o hyd at £160 miliwn am hyd at 10 mlynedd, a all gael ei ddefnyddio’n hyblyg rhwng gwariant, a chynnig treth deng mlynedd unigol, y gellir addasu ei raddfa yn seiliedig ar nifer y safleoedd a’u maint. Byddai hyn yn cynnwys:

  • Gwariant hyblyg, wedi’i rannu 40:60 rhwng gwariant adnoddau (RDEL) a gwariant cyfalaf (CDEL), i’w ddefnyddio mewn portffolio o ymyriadau yn seiliedig ar gyfleoedd pob clwstwr;
  • Cymhellion treth, sydd ar gael am ddeng mlynedd, a gynigir dros hyd at 600 hectar rhwng hyd at dri safle, nad ydynt yn fwy na 200 hectar yr un, yn ddelfrydol. Os bydd lle yn dewis peidio â derbyn rhyddhadau treth i’r graddau llawn ag sydd ar gael, bydd amlen wariant fwy o faint ar gael iddo. Mae egwyddor hyblygrwydd yn rhan annatod o’r cynnig polisi, a bydd yn ymateb i flaenoriaethau rhanbarthol a ddangosir, sy’n adlewyrchu’r ffaith mai partneriaid rhanbarthol sy’n adnabod eu heconomi orau.

Yn dilyn Datganiad Hydref 2023, a’r bwriad i ymestyn y rhaglen Parthau Buddsoddi o 5 mlynedd i 10 mlynedd a chynyddu’r cyllid sydd ar gael i leoedd o £80 miliwn i £160 miliwn, bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio sut y gall gynnig ysgogwyr treth datganoledig dros gyfnod o 10 mlynedd. Caiff rhagor o fanylion eu cyhoeddi maes o law.

Gwariant Hyblyg

O fewn yr amlen gyllido gyffredinol, caiff yr amlen wariant ei rhannu 40:60 rhwng cyllid adnoddau a chyfalaf. Gellir defnyddio cyllid ar gyfer Ymchwil ac Arloesi, Sgiliau, Seilwaith, Menter Ranbarthol a Chymorth i Fusnesau, a Chynllunio a Datblygu.

Cymhellion Cyllidol

Ar yr amod bod cynigion yn bodloni gofynion penodol a bod pob parti yn cytuno arnynt, rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cynnig pob un o’r rhyddhadau treth canlynol, neu gyfuniad o rai ohonynt, mewn safleoedd treth dynodedig o fewn pob Parth Buddsoddi. Lle y bo’n gymwys, rhagwelir y bydd y rhain ar gael am hyd at 10 mlynedd ac y byddant yn cynnwys:

  • Rhyddhad Treth Trafodion Tir
  • Rhyddhad Ardrethi Annomestig
  • Lwfans Cyfalaf Uwch
  • Lwfans Strwythurau ac Adeiladau Uwch
  • Rhyddhad Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr

Bydd angen i unrhyw safleoedd treth gael eu diffinio’n fanwl a’u lleoli ar dir wedi’i danddatblygu.

Cadw Ardrethi Annomestig

Bwriedir i’r awdurdod neu’r awdurdodau yn y Parthau Buddsoddi hefyd gael budd o gadw twf (mewn ardrethi annomestig) o fewn ardal y safleoedd treth.

Wrth lunio cynigion ar gyfer Parthau Buddsoddi, bydd angen i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ddangos sut y byddai cadw ardrethi annomestig yn darparu ar gyfer twf economaidd cynhwysol yn y rhanbarth, yn cefnogi o leiaf un o’r sectorau â blaenoriaeth yn y Parthau Buddsoddi ac yn cynnig gwerth am arian i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Cymorth gan y Llywodraeth

Ochr yn ochr â’r cyllid, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhagweld y byddant yn rhoi cymorth i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ddatblygu eu cynigion er mwyn sicrhau eu bod yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cyflawni amcanion y rhaglen. Byddai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn croesawu tystiolaeth sy’n dangos sut mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn bwriadu sicrhau bod eu cynigion ar gyfer Parthau Buddsoddi yn cyd-fynd â buddsoddiad cyhoeddus a phreifat, sy’n bodoli eisoes ac sydd yn yr arfaeth, yn yr ardal, gan gynnwys cynlluniau seilwaith presennol a rhai yn y dyfodol, fel y gellir cyflawni nodau strategol rhanbarthol a chenedlaethol.

Dylai pob cynnig gynnwys arian cyfatebol sydd wedi cael ei sicrhau ac arian cyfatebol disgwyliedig gan y sector preifat a phartneriaid mewn sefydliadau ymchwil.

Daearyddiaethau Cyflawni

Mae ffiniau’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn dilyn ffiniau bargeinion dinesig a thwf sy’n bodoli eisoes ac maent yn ardaloedd daearyddol economaidd a gweinyddol cydlynol. Mae’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cynnig strwythur llywodraethu democrataidd a statudol cydlynol i helpu awdurdodau lleol i gydweithio er mwyn cyflwyno ymyriadau economaidd strategol. O ystyried graddfa a chwmpas Parthau Buddsoddi, mae gweithio mewn partneriaethau ar draws ffiniau gweinyddol yn hanfodol, ac mae rhanbarthau wedi sefydlu strwythurau cydweithio i hwyluso’r model gwaith hwn. Mae hyn yn gyson â’r dull gweithredu yn Lloegr a’r Alban lle roedd Awdurdodau Cyfunol Maerol yn Lloegr a Phartneriaethau Economaidd Rhanbarthol yn yr Alban wedi cael eu defnyddio fel awdurdodau gweinyddol ar draws daearyddiaethau economaidd gweithredol y gall llywodraethau cenedlaethol weithio gyda nhw i gyd-lunio a chyflwyno Parthau Buddsoddi.

Dewis Lleoedd

Aeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ati i gyd-ddatblygu dull pwrpasol o nodi ardaloedd Parthau Buddsoddi yng Nghymru er mwyn adlewyrchu tirwedd bolisi, llywodraethu ac economaidd benodol Cymru.

Egwyddorion Craidd

Mae methodoleg y Parthau Buddsoddi yn seiliedig ar set o egwyddorion craidd y mae’r ddwy lywodraeth wedi cytuno arnynt. Mae’r rhain wedi llywio’r broses o ddatblygu’r dull gweithredu.

a. Amcanion: Dylai’r fethodoleg a’r meini prawf a ddefnyddir i nodi’r ardaloedd mwyaf addas ar gyfer sefydlu Parth Buddsoddi ddeillio’n uniongyrchol o’r amcanion polisi. Nod Parthau Buddsoddi yw bod yn ymyriad wedi’i dargedu sydd wedi’i anelu at ddewis ardaloedd sy’n gallu manteisio ar gryfderau ymchwil lleol er mwyn hybu cynhyrchiant a sicrhau mwy o arloesedd. Byddant yn canolbwyntio ar dyfu clystyrau gwybodaeth-ddwys sy’n gysylltiedig â sefydliadau ymchwil ac sy’n adeiladu ar gryfderau lleol presennol. Bydd angen hefyd i Barthau Buddsoddi sicrhau buddiannau i gymunedau y tu hwnt i’r bartneriaeth uniongyrchol â sefydliadau a chlystyrau, a chydnabod eu bod yn chwarae rôl ehangach i gefnogi ffyniant yng Nghymru a’r DU.

b. Yn Cyd-fynd yn Strategol: Dylai Parthau Buddsoddi gyd-fynd â fframweithiau polisi priodol y ddwy lywodraeth. Dylent hefyd gyd-fynd â’r dirwedd lywodraethu ac economaidd ranbarthol ac adlewyrchu’r setliad datganoli.

c. Wedi’i lywio gan le: Dylid mabwysiadu dull gweithredu sydd wedi’i lywio gan le er mwyn nodi a dewis ardaloedd sydd â’r potensial i gefnogi amcanion polisi Parthau Buddsoddi, ac sy’n meddu ar y nodweddion sylfaenol i greu’r amgylchedd lle gall y sector preifat a chlystyrau gwybodaeth-ddwys ffynnu.

d. Daearyddiaeth: Defnyddir Ardaloedd Teithio i’r Gwaith[footnote 3] fel y sail i lywio’r broses ddewis, am fod gweithgarwch economaidd yn gweithredu ar draws ffiniau gweinyddol. Mae’r Ardaloedd Teithio i’r Gwaith wedi cael eu haddasu i adlewyrchu’r data sydd ar gael ac ystyriaethau trawsffiniol er mwyn cydnabod y berthynas â lleoedd yn Lloegr[footnote 4].

Yn ogystal â’r uchod, mae ffactorau eraill hefyd wedi cael eu hystyried, sy’n cynnwys sicrhau cydbwysedd buddsoddi ledled Cymru.

Yn amodol ar y cyfyngiadau o ran data a gwybodaeth sy’n bodoli o ran economi Cymru a’i heconomïau rhanbarthol, cymhwyswyd yr egwyddorion uchod i asesu’n wrthrychol yr ardaloedd yng Nghymru a all gael y budd mwyaf o fod yn Barth Buddsoddi a’u nodi. 

Cam 1: Nodi’r lleoedd sydd â’r potensial i gael budd o fod yn Barthau Buddsoddi.

Mae’r Ardaloedd Teithio i’r Gwaith wedi bod yn sail i nodi lleoedd a’u gosod yn eu trefn. Cafodd pob Ardal Teithio i’r Gwaith ei hasesu yn unol â’r meini prawf canlynol er mwyn cadarnhau’r potensial i le(oedd) gael budd o fod yn Barth Buddsoddi:

1. Potensial economaidd: mae hyn yn canolbwyntio ar yr uchelgais i hybu cynhyrchiant. Un ffordd o gyflawni hyn yw canolbwyntio ar ardaloedd poblog iawn sydd â’r potensial i wella cynhyrchiant a ‘dal i fyny’ â rhannau eraill o’r economi. Felly, mae’r maen prawf hwn yn targedu Parthau Buddsoddi tuag at leoedd sydd â’r cyfle mwyaf i gynyddu cynhyrchiant ac allbwn.

2. Potensial i arloesi: mae hyn yn canolbwyntio ar lefelau o fabwysiadu arloesedd. Mae’n cydnabod bod cynyddu lefelau arloesi a mabwysiadu syniadau newydd yn un o’r ysgogwyr allweddol i sicrhau mwy o gynhyrchiant a ffyniant yn yr hirdymor. Felly, mae’r maen prawf hwn yn targedu Parthau Buddsoddi tuag at leoedd sydd â dynameg fusnes gadarn (h.y. mabwysiadu arloesedd) a gweithlu hyfedr.

3. Amddifadedd: mae hyn yn canolbwyntio ar lefelau presennol o amddifadedd. Un o ganlyniadau eraill y polisi ynglŷn â Pharthau Buddsoddi yw cynnig buddiannau ehangach i gymunedau, gan gynnwys pocedi o amddifadedd, y tu hwnt i’r bartneriaeth uniongyrchol â sefydliadau ymchwil a chlystyrau gwybodaeth-ddwys. Felly, mae’r maen prawf hwn yn targedu lleoedd sydd hefyd yn cynnwys ardaloedd o amddifadedd mawr.

Cymhwyswyd dau drothwy arall hefyd wrth asesu Ardaloedd Teithio i’r Gwaith er mwyn hepgor ardaloedd llai addas, gan gynnwys:

Isafswm maint: mae lleoedd o fewn yr Ardaloedd Teithio i’r Gwaith lleiaf yng Nghymru yn annhebygol o fod yn ddigon mawr neu gynnig màs critigol i gefnogi datblygiad clystyrau gwybodaeth-ddwys sydd wedi’u targedu gan y polisi hwn. Mae llai o bobl yn byw mewn ardaloedd o’r fath, ac felly byddai buddiannau Parthau Buddsoddi hefyd yn cael llai o effaith. O ganlyniad, mae’r ardaloedd lleiaf, h.y., y rhai sydd ymhlith y 30% isaf o Ardaloedd Teithio i’r Gwaith yn ôl poblogaeth yng Nghymru a Lloegr, yn cael eu hepgor ar y cam hwn.

Cynhyrchiant Cyfartalog: mae’n bosibl bod gan leoedd sydd â photensial i wella cynhyrchiant lefel gymharol uchel o gynhyrchiant yn barod. Nid yw lleoedd o’r fath yn cael eu targedu gan y polisi hwn, o ystyried y ffocws ar ymdrin â chyfyngiadau ar gynhyrchiant a gwahaniaethau rhwng rhanbarthau. Felly, mae pob ardal lle mae cynhyrchiant uwchlaw cynhyrchiant cyfartalog y DU wedi cael ei hepgor. Mae hyn yn golygu bod y rhestr o Ardaloedd Teithio i’r Gwaith yn cael ei mireinio ymhellach.

Metrigau Meintiol

Meini prawf neu drothwy Metrigau Sylwadau
Potensial economaidd Gwerth ychwanegol gros fesul gweithiwr islaw’r cyfartaledd x y boblogaeth sy’n gweithio yn yr Ardal Teithio i’r Gwaith (gan ddefnyddio data ar gyfer y DU gyfan) Mae’r metrig hwn yn cofnodi perfformiad economaidd cymharol lle, ac felly, ar lefel uchel, y cyfle i wella os caiff cyfyngiadau ar dwf cynhyrchiant eu lliniaru.
Potensial i Arloesi Cyflogeion busnesau gwybodaeth-ddwys fel % o gyfanswm y cyflogeion.
% y busnesau twf uchel sy’n cyflogi mwy na 10 o bobl.
Mae’r metrigau hyn yn brocsi dros asesu dynameg fusnes a sgiliau’r farchnad lafur fel elfennau allweddol ar gyfer arloesi. Ystyrir bod crynodiad presennol o weithwyr hyfedr yn arwydd da y bydd cyflenwad o sgiliau yn y dyfodol o bosibl ar gyfer Parth Buddsoddi. Mae llafur hyfedr yn aml yn cael ei ddenu i leoedd sydd â lefelau uchel o arloesedd.
Amddifadedd Cyfuniad o fetrigau sy’n cwmpasu:
% o’r boblogaeth sydd wedi ennill cymhwyster NVQ3+ – cyfartaledd dros 3 blynedd (2019-21)
Disgwyliad Oes Iach – cyfartaledd dros 3 blynedd (2016/17-2018/19)
Cyfanswm cyflog wythnosol canolrifol (gros) (£) cyfartaledd dros 3 blynedd (2020-22)
Gwerth ychwanegol gros fesul awr a weithir – cyfartaledd dros 3 blynedd (2018-20)
Sgôr Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
Mae’r metrigau hyn yn asesu lleoedd yn ôl ffactorau economaidd-gymdeithasol lefel uchel megis lefelau addysg, disgwyliad oes, enillion a chynhyrchiant.
Trothwy isafswm maint Lleoedd sydd ymhlith y 30% isaf o Ardaloedd Teithio i’r Gwaith yn ôl poblogaeth yng Nghymru a Lloegr Mae’r metrig hwn yn nodi lleoedd sydd ymhlith y 30% lleiaf o Ardaloedd Teithio i’r Gwaith yn ôl poblogaeth. Maent yn cael eu hepgor er mwyn sicrhau mai dim ond lleoedd sy’n gallu tyfu yn unol â’r anghenion sy’n cael eu hystyried.
Trothwy cynhyrchiant uchaf Lleoedd sydd â chynhyrchiant uwch na’r cyfartaledd yn y DU (gwerth ychwanegol gros fesul awr a weithir) Mae lleoedd sydd â chynhyrchiant uwchlaw cyfartaledd y DU yn cael eu hepgor.

Cam 2: Nodi’r nodweddion sydd eu hangen i gefnogi Parth Buddsoddi llwyddiannus a chael yr effaith fwyaf

Caiff dau faen prawf ansoddol arall eu cymhwyso wrth asesu pa ardaloedd sydd hefyd yn meddu ar y nodweddion sydd eu hangen i gefnogi Parth Buddsoddi llwyddiannus a chael yr effaith fwyaf: 

Presenoldeb angor gwybodaeth: mae lleoedd sydd â sefydliadau ymchwil-ddwys yn bwysig o ran datblygu clwstwr a manteisio ar gryfderau ymchwil lleol i ledaenu buddiannau arloesi ar draws yr economi ehangach. Felly, mae’r maen prawf hwn yn targedu Parthau Buddsoddi tuag at leoedd sydd â sefydliadau ymchwil-ddwys cadarn, megis prifysgolion, catapyltiau, a sbardunwyr arloesi, er mwyn hybu’r gallu i arloesi a chynyddu potensial cynhyrchiol ardaloedd.

Cryfder Sector: un o amcanion craidd y rhaglen yw cefnogi twf sectorau allweddol lle maent eisoes yn bodoli. Felly, mae’r maen prawf hwn yn gweithredu fel trothwy er mwyn sicrhau bod lle yn gallu dangos tystiolaeth o gryfder sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys sut mae cryfderau o’r fath yn cyd-fynd â phriod sectorau â blaenoriaeth y ddwy lywodraeth.

Meini Prawf Ansoddol

Meini prawf neu drothwy Metrigau Sylwadau
Presenoldeb Angor Gwybodaeth 2 – Prifysgol Grŵp A-C Dull Tryloyw o Ymdrin â Chostau (TRAC) / Prifysgolion yn y ddwy haen uchaf o ran cyllid sy’n gysylltiedig ag ansawdd (QR) A Chatapwlt Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru / Innovate UK (IUK) o fewn ffin yr Ardal Teithio i’r Gwaith.
1 – Prifysgol A-C TRAC/ Prifysgolion yn y ddwy haen uchaf o ran cyllid sy’n gysylltiedig ag ansawdd (QR) NEU Gatapwlt Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru / Innovate UK (IUK) o fewn ffin yr Ardal Teithio i’r Gwaith.
0 – Dim prifysgol A-C TRAC, Prifysgolion yn y ddwy haen uchaf o ran cyllid sy’n gysylltiedig ag ansawdd (QR) na Chatapwlt Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru / Innovate UK (IUK) o fewn ffin yr Ardal Teithio i’r Gwaith.
Mae’n ofynnol i Ardaloedd Teithio i’r Gwaith gynnwys prifysgol ymchwil-ddwys a/neu un o Gatapyltiau IUK (hwb ymchwil ac arloesi sy’n canolbwyntio ar sector ac sy’n darparu cymorth i fusnesau, deillio/gallu ehangu yn ôl yr anghenion a mabwysiadu arloesedd). Os bydd ardal yn cynnwys y ddau mae hynny’n awgrymu cyfleoedd ychwanegol ar gyfer ymchwil a masnacheiddio arloesedd felly bydd yn sgorio’r pwyntiau uchaf.
Cryfderau Sector 2 – Cynrychiolaeth lefel uchel o gyflogaeth o gymharu â chyfartaledd Cymru mewn sawl sector â blaenoriaeth a/neu glwstwr gwynt ar y môr.
1 – Cynrychiolaeth lefel uchel o gyflogaeth o gymharu â chyfartaledd Cymru mewn un sector neu glwstwr gwynt ar y môr.
0 – Dim cynrychiolaeth lefel uchel o gyflogaeth o gymharu â chyfartaledd Cymru mewn unrhyw sector.
Caiff cryfderau eu hasesu yn unol â chrynodiad sector (Digidol, Diwydiannau Creadigol, Gwyddorau Bywyd, Gweithgynhyrchu Uwch) ym mhob lle. Mae’r fethodoleg yn defnyddio cyfrannau cyflogaeth. Yn ogystal â hyn, oherwydd daearyddiaeth economaidd Cymru, mae cyniferyddion lleoliadau wedi cael eu hystyried er mwyn cofnodi i ba raddau y mae cynrychiolaeth gymharol uchel mewn ardal o’i chymharu â chyfartaledd Cymru. Nid oes unrhyw newid yn y canlyniadau.
Defnyddir presenoldeb clwstwr gwynt ar y môr fel procsi am ddiwydiannau gwyrdd yn niffyg data cywir ar gyfrannau cyflogaeth twf gwyrdd.

Cam 3: Rhestr Fer o Leoedd

Cafodd y canlynol ei ystyried hefyd er mwyn canfod yr Ardaloedd Teithio i’r Gwaith cryfaf i fod yn Barth Buddsoddi:

Dosbarthiad Daearyddol:

  • Sicrhau dosbarthiad daearyddol o fuddsoddiadau ledled Cymru a chydnabod perthynas Parth Buddsoddi â strwythur rhanbarthol Cymru, gan ystyried y gwahaniaethau rhwng y gogledd a’r de.

Capasiti a Galluogrwydd:

Sicrhau bod capasiti a galluogrwydd rhanbarthol ymhlith partneriaid lleol i gyflwyno Parth Buddsoddi. Ystyried, o dan amgylchiadau eithriadol, lle y dangoswyd tystiolaeth neu lle y hunangofnodwyd bod pryderon dilys ynglŷn â chapasiti neu alluogrwydd partneriaid lleol. Mae gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig bŵer eang i hyrwyddo llesiant economaidd eu hardal, ochr yn ochr â dyletswyddau ym maes cynllunio defnydd tir a thrafnidiaeth ranbarthol. Maent yn gyrff economaidd a gweinyddol cydlynol, sy’n cynnig strwythur llywodraethu sy’n atebol yn ddemocrataidd y gellir ymgysylltu â nhw ar ymyriadau economaidd strategol.

O ystyried graddfa a chwmpas Parthau Buddsoddi, mae gweithio mewn partneriaethau ar draws ffiniau gweinyddol yn hanfodol, ac mae rhanbarthau wedi sefydlu strwythurau cydweithio i hwyluso’r model gwaith hwn. Mae hyn yn gyson â’r dull gweithredu yn Lloegr a’r Alban lle y defnyddiwyd Awdurdodau Cyfunol Maerol yn Lloegr a Phartneriaethau Economaidd Rhanbarthol yn yr Alban fel awdurdodau gweinyddol y gellir gweithio gyda nhw i gyd-lunio a chyflwyno Parthau Buddsoddi. Mae arweinwyr pob cyngor cyfansoddol yn aelodau o’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ac yn gwneud y penderfyniadau yn y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar ran y cynghorau y maent wedi’u hethol i’w cynrychioli. Gall Cyd-bwyllgorau Corfforedig hefyd ymgysylltu ag eraill a’u cynnwys yn eu gwaith drwy gyfethol. Felly, gwahoddir Cyd-bwyllgorau Corfforedig i ddatblygu cynigion ar gyfer Parthau Buddsoddi mewn Ardaloedd Teithio i’r Gwaith llwyddiannus.

Canlyniadau

Ar sail cymhwyso’r meini prawf ar gamau 1, 2 a 3, pennwyd yr ardaloedd canlynol fel y ddwy ardal gryfaf i fod yn Barth Buddsoddi yng Nghymru:

  • Ardal Teithio i’r Gwaith Caerdydd a Chasnewydd (a weithredir gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru);
  • Ardal Teithio i’r Gwaith Wrecsam a Sir y Fflint (a weithredir gan Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru)

Troednodiadau

  1. Pennwyd Ardaloedd Teithio i’r Gwaith drwy Ddata’r SYG ac Adolygiad Deaton 

  2. Fel uchod. 

  3. Diffinnir Ardaloedd Teithio i’r Gwaith gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol drwy ddefnyddio data’r Cyfrifiad ar gymudo rhwng wardiau, yn seiliedig ar wahanol leoliadau cyfeiriadau cartref a gwaith unigolion. Casgliad o wardiau yw Ardal Teithio i’r Gwaith, lle mae o leiaf 75%, o blith y boblogaeth economaidd-weithgar breswyl, yn gweithio yn yr ardal ei hun, a hefyd, lle mae o leiaf 75% o bawb sy’n gweithio yn yr ardal, yn byw yn yr ardal ei hun. Pennwyd Ardaloedd Teithio i’r Gwaith drwy Ddata’r SYG ac Adolygiad Deaton (gweler troednodiadau 1 a 2). 

  4. Er enghraifft, mae Ardal Teithio i’r Gwaith Caer yn rhychwantu’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac mae awdurdod lleol Sir y Fflint (Cymru) yn rhan o Ardal Teithio i’r Gwaith Caer. Mae awdurdod lleol Sir y Fflint wedi cael ei ailddyrannu i Ardal Teithio i’r Gwaith Wrecsam (Cymru). Mae’r ffactorau hyn wedi cael eu hystyried fel rhan o’r asesiad a gynhaliwyd.