Ymchwilio i weithwyr proffesiynol rheoli adeiladu
Mae'r dudalen hon yn esbonio gweithdrefn y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu wrth ymchwilio i arolygwyr adeiladu cofrestredig, archwilwyr rheoli adeiladu cofrestredig ac awdurdodau lleol.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Mae’r weithdrefn hon yn nodi sut y bydd yr Awdurdod Rheoleiddio yn cynnal ymchwiliadau i’r proffesiwn rheoli adeiladu. Mae’r weithdrefn hon yn ymdrin ag ymchwiliadau i:
- camymddwyn proffesiynol ar gyfer arolygwyr adeiladu cofrestredig (RBIs)
- torri’r rheolau ymddygiad proffesiynol ar gyfer cymeradwywyr rheoli adeiladu cofrestredig (RBCAs)
- torri’r rheolau safonau gweithredol ar gyfer RBCAs ac awdurdodau lleol (ALlau)
Codau a safonau proffesiynol
Mae’n rhaid i RBIs gydymffurfio â:
- Cod ymddygiad ar gyfer RBIs wrth weithio yn Lloegr
- Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (LLYW.CYMRU) wrth weithio yng Nghymru
Mae’n rhaid i RBCAs gydymffurfio â:
- rheolau ymddygiad proffesiynol ar gyfer RBCAs wrth weithio yn Lloegr
- Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (LLYW.CYMRU) wrth weithio yng Nghymru
Mae’n rhaid i RBCAs ac Awdurdodau Lleol gydymffurfio â:
- rheolau safonau gweithredol a threfniadau monitro pan fydd y gwaith yn Lloegr
- Rheolau Safonau Gweithredol (LLYW.CYMRU) a Trefniadau Monitro Rheolau Safonau Gweithredol ( LLYW.CYMRU) pan fo’r gwaith yng Nghymru