Canllawiau

Swyddfa Eiddo Deallusol: sut i'n talu ni

Diweddarwyd 5 Tachwedd 2025

Gallwch wneud taliad i’r Swyddfa Eiddo Deallusol trwy gyfrif cadw, cerdyn, trosglwyddiad banc neu siec.

Ar gyfer taliadau rhyngwladol, dylid cyfarwyddo’r banc sy’n gwneud y trosglwyddiad ei fod i’w wneud heb godi tâl ar y buddiolwr.

Mae’r wybodaeth ganlynol hefyd yn berthnasol i unrhyw daliadau sy’n ymwneud â’r Tribiwnlys Enwau Cwmnïau.

Cyfrif cadw

Os ydych chi’n gwneud busnes gyda ni’n rheolaidd neu’n talu symiau mawr o arian i ni, gallwch dalu trwy gyfrif cadw.

Os oes angen i chi sefydlu cyfrif cadw, anfonwch e-bost at customeraccounts@ipo.gov.uk. Byddant yn eich cynghori ynghylch a yw cyfrif cadw yn addas i chi a beth sydd angen i chi ei wneud nesaf.

Os oes gennych gyfrif cadw eisoes ac mae angen i chi ychwanegu mwy o arian at eich cyfrif cadw, bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein DP2. Rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn bob tro y bydd angen i chi ychwanegu arian at eich cyfrif cadw.

Dylech ddarllen telerau ac amodau ein cyfrif cadw i ddeall sut i sefydlu a rheoli eich cyfrif cadw. Diweddarwyd y rhain ar 1 Tachwedd 2025.

Cerdyn credyd neu ddebyd

Rydym yn derbyn taliad gan Visa, MasterCard, American Express a Maestro.

Sylwch na fyddwn yn derbyn taliadau cerdyn ar gyfer:

  • ffioedd patent rhyngwladol (heblaw am y ffi drosglwyddo) sy’n daladwy o dan y Cytundeb Cydweithredu Patentau
    • ffioedd nodau masnach rhyngwladol (heblaw am y tâl trin) sy’n daladwy o dan Brotocol Madrid

Gallwch wneud taliad gyda cherdyn os oes angen i chi dalu am ffurflen neu wneud taliadau eraill i’r IPO.

Trosglwyddiad banc

Rhaid i chi nodi cyfeirnod wrth dalu drwy drosglwyddiad banc. Rhaid iddo gynnwys un o’r canlynol:

  • rhif cais (neu eich enw llawn os nad oes gennych un)
  • rhif eich cyfrif cadw IPO neu rif cyfeirnod trafodiad (os oes gennych un)  

Manylion ein cyfrif banc yw:

Barclays Bank PLC
3ydd Llawr Windsor Court
3 Windsor Place
Caerdydd
CF10 3ZL

Cod didoli: 20-18-23
Rhif cyfrif: 80531766
Cod Swift: BARCGB22
Rhif IBAN: GB92 BARC 2018 2380 5317 66

Siec

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Intellectual Property Office’. Rhaid i daliadau o dramor fod mewn sterling wedi’u tynnu ar fanc clirio’r Deyrnas Unedig.