Y Comisiwn Dŵr Annibynnol: adolygiad o'r sector dŵr
Mae crynodeb gweithredol adroddiad terfynol y Comisiwn Dŵr Annibynnol yn nodi casgliadau i wella system rheoleiddio'r sector dŵr yng Nghymru a Lloegr.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r Comisiwn Dŵr Annibynnol, dan gadeiryddiaeth Syr Jon Cunliffe, yn adolygu system reoleiddio’r sector dŵr yng Nghymru a Lloegr.
Adroddiad terfynol
Mae’r crynodeb gweithredol o adroddiad terfynol y Comisiwn Dŵr Annibynnol wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg. Bydd adroddiad terfynol llawn yn cael ei gyfieithu a’i gyhoeddi yma yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae’r adroddiad terfynol yn dilyn galwad eang y comisiwn am dystiolaeth a’r adroddiad interim cynharach. Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r meysydd lle mae’r comisiwn yn credu bod angen newid mawr ac uchelgeisiol, yn seiliedig ar ei dystiolaeth a’i ymgysylltiad.
Mae’r adroddiad terfynol yn canolbwyntio ar y themâu canlynol:
- cyfeiriad a chynllunio strategol
- fframwaith deddfwriaethol
- diwygio rheoleiddiwr
- diwygio rheoliadau
- strwythurau cwmnïau, perchnogaeth, llywodraethu a rheoli
- iechyd seilwaith ac asedau
- gweithredu
Mae’r adroddiad hwn bellach wedi’i gyflwyno i lywodraethau’r DU a Chymru. Bydd y ddwy lywodraeth yn ymateb ac yn ymgynghori ar gynigion, gan gynnwys deddfwriaeth bosibl.
Darllenwch adroddiad terfynol llawn y Comisiwn Dŵr Annibynnol (yn Saesneg).
Adroddiad interim
Mae’r adroddiad interim yn nodi ein casgliadau rhagarweiniol mewn meysydd yr ydym yn credu bod yn rhaid iddynt fod yn ganolog i ddiwygio’r system. Roedd y sylwadau’n canolbwyntio ar y themâu canlynol:
- cyfeiriad a chynllunio strategol
- fframwaith deddfwriaethol
- diwygio rheoleiddiol
- strwythurau cwmnïau, perchnogaeth, llywodraethu a rheoli
- iechyd seilwaith ac asedau
Updates to this page
-
Republished the Welsh translation of this page. Added the summary report (in Welsh) of the Independent Water Commission’s final report.
-
Added the Independent Water Commission’s final report and an executive summary. Replaced Annex A (the interim summary of responses) with the finalised summary of responses.
-
Added translation