Y Comisiwn Dŵr Annibynnol – Galwad am Dystiolaeth
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Manylion am y canlyniad
Diolch i bawb a ymatebodd i’r alwad am dystiolaeth. Derbyniodd fwy na 50,000 o ymatebion, sy’n cael eu dadansoddi gan y Comisiwn Dŵr Annibynnol.
Mae’r Comisiwn Dŵr Annibynnol wedi cwblhau adolygiad o’r fframwaith rheoleiddio dŵr. Mae’r ymatebion hyn a thystiolaeth arall wedi llywio argymhellion a wnaed i lywodraethau’r DU a Chymru.
Mae’r argymhellion a’r crynodeb hwn o’r alwad am dystiolaeth i’w gweld yn adroddiad terfynol y comisiwn.
Yn dilyn yr alwad am dystiolaeth a’r adroddiad terfynol, bydd y ddwy lywodraeth yn ymateb ac yn ymgynghori ar gynigion, gan gynnwys deddfwriaeth bosibl.
Yr alwad wreiddiol am dystiolaeth
Disgrifiad yr alwad o dystiolaeth
Lansiwyd y Comisiwn Dŵr Annibynnol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae ei Alwad am Dystiolaeth yn amlinellu’r materion presennol yn seiliedig ar y dystiolaeth y mae’r Comisiwn wedi’i chasglu hyd yn hyn, a meysydd ar gyfer newid posibl yr hoffai’r Comisiwn eu harchwilio.
Updates to this page
-
Ychwanegwyd dolen at grynodeb gweithredol Cymraeg adroddiad terfynol y Comisiwn Dŵr Annibynnol.
-
Ychwanegwyd manylion yr adborth a gafwyd. Cafodd yr alwad am dystiolaeth fwy na 50,000 o ymatebion, sy’n cael eu dadansoddi gan y Comisiwn Dŵr Annibynnol. Ychwanegwyd dolen i’r crynodeb gweithredol o adroddiad interim y comisiwn.
-
First published.