Skip to main content
Canllawiau

Cylch gorchwyl

Cyhoeddwyd 15 Hydref 2026

Trosolwg

Caiff y Panel Cynghori Annibynnol ar Anabledd ei gadeirio gan Zara Todd, sy’n atebol i’r Gweinidog dros Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd.

Caiff y Panel ei arwain gan y model cymdeithasol o anabledd, a bydd yn mabwysiadu dull croestoriadol, gwrth-hiliol.

Rydym wedi ymrwymo i gynnal amgylchedd diogel a pheidio â gwneud unrhyw niwed drwy’r gwaith hwn.

Bydd y Panel yn rhedeg am 12 mis, ac ar ôl hynny bydd y model yn cael ei werthuso cyn bwrw ymlaen ag unrhyw banel cynghori yn y dyfodol.

Diben

Diben y Panel hwn yw hwyluso fforwm strategol sy’n cynghori’r Adran ar bolisïau a strategaethau iechyd ac anabledd. Yn y cylch gorchwyl hwn, cyfeirir ar DWP fel ‘yr adran’.

Bydd y Panel yn mabwysiadu dull cydweithredol, gan weithio mewn partneriaeth â’r Ysgrifenyddiaeth.

Amcanion

Mae gan y Panel 4 nod:

  1. Hwyluso fforwm strategol i rannu canllawiau, adborth ac argymhellion ynghylch y camau cynnar o ddatblygu polisi a’i gyflawni’n barhaus
  2. Gwella canlyniadau polisi ar gyfer y gymuned iechyd ac anabledd
  3. Hyrwyddo profiad bywyd fel tystiolaeth wrth lunio polisïau
  4. Defnyddio profiadau bywyd a phroffesiynol i lywio ymchwil yn y dyfodol, prosesau cyfathrebu adrannol a strategaethau ymgysylltu, gan gynnwys y modd yr ydym yn cysylltu â chymunedau mwy ymylol.

Cwmpas

Grŵp cynghori yw hwn, a Gweinidogion fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol.

Ystyr cyngor yw adborth megis barn, awgrymiadau a chwestiynau sydd wedi’u llywio gan dystiolaeth ac sy’n seiliedig ar brofiad bywyd. Mae cyngor yn amodol, yn anghyfrwymol, a gall esblygu dros amser.

Mae holl bolisïau iechyd ac anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau o fewn cwmpas y Panel, gan gynnwys y polisïau hynny sy’n rhan o Gyd-gyfarwyddiaeth Gwaith ac Iechyd yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yr unig faes nad yw o fewn y cwmpas yw Adolygiad Timms o’r Taliad Annibyniaeth Personol.

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth a’r Cadeirydd yn gweithio gyda’r Panel a’r adran i gytuno ar feysydd blaenoriaeth.

Egwyddorion y Panel

Mae’r Cadeirydd, Aelodau’r Panel a’r Ysgrifenyddiaeth wedi cytuno ar yr egwyddorion canlynol:

  • Hygyrch – bydd Ysgrifenyddiaeth y Panel yn sicrhau bod yr holl anghenion o ran mynediad yn cael eu diwallu fel y gall yr aelodau gymryd rhan lawn

  • Cyfranogol – bydd y gweithdai yn rhyngweithiol ac yn gydweithredol. Bydd aelodau’r Panel yn cytuno ar feysydd ffocws ar y cyd â’r timau polisi

  • Amlygu Parch – bydd pob cyfranogwr, gan gynnwys aelodau’r Panel a’r Ysgrifenyddiaeth, yn parchu barn a phrofiadau eraill ac yn parhau i fod yn agored i ddysgu o safbwyntiau gwahanol

  • Ystyrlon – bydd y Panel yn canolbwyntio ei amser a’i adnoddau ar bynciau lle mae cyfle gwirioneddol i gyfrannu’n ystyrlon

Cyfartal – mae pob barn yn bwysig. Rydym yn gwerthfawrogi pob cyfraniad, heb ystyried statws neu lefel o brofiad

  • Cynhwysol – mae’r Panel yn adlewyrchu ystod amrywiol o safbwyntiau ac mae wedi ymrwymo i ddull croestoriadol

  • Ystyriol o Drawma – bydd y Panel yn gweithredu ac yn llunio ei argymhellion mewn modd sy’n ystyriol o drawma

  • Gwrth-hiliol – bydd y Panel yn gweithredu ac yn llunio ei argymhellion mewn modd gwrth-hiliol

  • Wedi’i arwain gan dystiolaeth – bydd gwaith y Panel yn cael ei arwain gan dystiolaeth feintiol ac ansoddol, a bydd y Panel yn hyrwyddo profiad bywyd fel tystiolaeth mewn lleoliadau ehangach

  • Tryloyw – bydd yr Ysgrifenyddiaeth a’r adran yn rhannu gwybodaeth yn agored er mwyn galluogi cyngor cynhwysfawr. Bydd yr adran yn ystyried holl argymhellion y Panel ac yn rhoi adborth ar y modd y gellir neu na ellir bwrw ymlaen â’r rhain

  • Atebol – mae’r Panel wedi ymrwymo i gynnal Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus — a elwir hefyd yn Egwyddorion Nolan

  • Myfyriol – bydd y Panel yn parhau i fyfyrio ar y ffordd orau ymlaen, gan fod yn agored i safbwyntiau a dulliau newydd

Rolau’r Panel

Cadeirydd

Cafodd y Cadeirydd, Zara Todd, ei phenodi ym mis Awst 2025 ac mae wedi arwain datblygiad y Panel.

Rôl y Cadeirydd yw:

  • cynghori’r adran ar iechyd ac anabledd
  • arwain y Panel a chadeirio pob gweithdy a chyfarfod
  • llywio, llunio a chytuno ar agendâu’r gweithdai gyda’r Ysgrifenyddiaeth
  • cefnogi aelodau’r Panel yn eu rôl
  • hwyluso adborth a’r broses werthuso

Aelod o’r Panel

Cafodd aelodau’r Panel eu recriwtio drwy ddatganiad agored o ddiddordeb. Disgwylir i’r aelodau gymryd rhan am 12 mis gan ddechrau ym mis Ionawr 2026.

Eu rôl yw - cynghori’r adran a chydweithio ar y gwaith o ddatblygu polisïau’n barhaus - mynychu gweithdai misol - cyfeirio at randdeiliaid ehangach a chyfleoedd i ymgysylltu - rhoi adborth i helpu i arwain y broses ymgysylltu yn y dyfodol.

Ysgrifenyddiaeth y Panel

Cynorthwyir y Panel gan dîm mewnol o weision sifil, a elwir yn Ysgrifenyddiaeth. Mae’r tîm wedi’i leoli ar draws yr Adran, er mwyn galluogi dull cyfannol.

Rôl y tîm yw:

  • cefnogi a galluogi’r Cadeirydd ac aelodau’r Panel o ran agweddau ymarferol eu rôl;
  • rhoi diweddariadau amserol i aelodau’r Panel a chynnal prosesau cyfathrebu clir a chyson
  • cysylltu’r Panel â’r adran a chefnogi’r timau polisi i weithio gyda’r Panel
  • casglu adborth a chynnal y gwerthusiad

Cynnal y gweithdai

Bydd y Panel yn cyfarfod unwaith y mis. Bydd pynciau polisi naill ai’n cael eu nodi gan y Panel neu gan yr adran.

Rhaid i bolisïau a gynigir gan yr adran ateb y cwestiynau canlynol cyn i’r Cadeirydd gytuno arnynt

  • ar ba gam o’r cylch polisi y mae’r polisi hwn ar hyn o bryd?
  • a yw dal yn bosibl i bobl roi arweiniad neu adborth ystyrlon ar y polisi hwn?
  • a all yr adran ddangos i’r Panel y modd y mae ei hadborth neu ei mewnbwn wedi dylanwadu ar y polisi?

Byddwn hefyd yn cyflwyno cwestiynau strategol ehangach i’r Panel i gael ei fewnbwn ac ysgogi trafodaeth, er mwyn llywio ein strategaeth tymor hwy.

Bydd y Cadeirydd yn cytuno ar ddilyniant y pynciau ar y cyd â’r Ysgrifenyddiaeth.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd gweithdai’r Panel naill ai’n agored neu’n gaeedig.

1. Agored (Rheolau Cyfarfod Safonol)

Gall yr aelodau ddefnyddio’r wybodaeth y maent yn ei chlywed mewn cyfarfod, ond ni allant ddatgelu pwy a’i mynegodd.

Gall yr aelodau rannu’r syniadau a drafodwyd, ond ni allant ddweud pwy a’u mynegodd na pha sefydliad y mae’n perthyn iddo.

Yn achos gweithdai agored, gall aelodau’r Panel rannu cwestiynau o fewn eu rhwydweithiau a rhannu tystiolaeth a dysgu ehangach.

Bydd nodyn cryno ac argymhellion o’r cyfarfod yn cael eu rhannu.

2. Caeedig (Cyfrinachol)

Mae’r ymrwymiad cyfrinachedd ar waith ac ni all yr aelodau rannu’r hyn a drafodwyd.

Mae cyfrinachedd yn golygu cadw gwybodaeth yn breifat ac yn ddiogel, a’i rhannu â phobl sydd wedi’u hawdurdodi i’w derbyn yn unig. Mae’n egwyddor graidd mewn safonau proffesiynol, cyfreithiol a moesegol.

Dim ond pan fydd y polisi ar gael i’r cyhoedd y bydd yr argymhellion o’r cyfarfod hwn yn cael eu rhannu.

Cyngor cyfunol

Bydd aelodau’r panel yn cydweithio i ddatblygu cyngor sy’n adlewyrchu barn gyfunol y grŵp, yn hytrach na safbwyntiau unigol.

Nid oes rhaid i’r Panel gytuno, a gall gyflwyno cyngor cymhleth.

Bydd pob safbwynt yn cael ei ystyried wrth gytuno ar gyngor, gan sicrhau bod yr argymhellion yn gytbwys, yn gynhwysol, ac yn adlewyrchu trafodaethau’r grŵp.

Nid yw cyngor gan y Panel yn gyfystyr â chymeradwyo polisi.

Anghydfodau ac anghytundebau

Bydd y pynciau sy’n cael eu trafod weithiau o natur sensitif, ac ni fydd pob aelod o’r Panel yn cytuno. Yn achos anghytundebau na ellir eu datrys yn y cyfarfod, rhoddir proses uwchgyfeirio ar waith drwy Gadeirydd y Panel.

Y Cadeirydd yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw bryderon sydd gan yr aelodau.

Monitro a gwerthuso

Bydd y Panel yn gweithredu am gyfnod o 12 mis, ac ar ôl hynny bydd ei fodel a’i ddull yn cael eu hadolygu’n ffurfiol.

Drwy gydol y cyfnod hwn, bydd aelodau’r Panel yn gallu rhoi adborth parhaus i’r Ysgrifenyddiaeth. Bydd aelodau’r Panel a’r timau polisi yn cael eu gwahodd i gwblhau arolwg ar-lein ar adegau priodol er mwyn cofnodi eu profiadau, y gwersi a ddysgwyd ganddynt, a’r canlyniadau canfyddedig.

Yn ogystal, bydd gan Ysgrifenyddiaeth y Panel, y Cadeirydd, yr aelodau, a’r timau polisi yr opsiwn i gyfrannu rhagor o wybodaeth drwy grwpiau ffocws neu gyfweliadau manwl. Bydd yr adborth hwn yn llywio asesiad o’r modd y mae’r Panel wedi gweithredu, yn ogystal â gwerthusiad o’i effaith gyffredinol.

Cylch Gorchwyl

Bydd y grŵp yn adolygu’r cylch gorchwyl yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben.