Gwella eich cais i awdurdodi cynnyrch a wneir drwy feithrin celloedd
Cyhoeddwyd 10 Gorffennaf 2026
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i wybod beth mae angen i chi ei gynnwys mewn cais cryf, ac yn amlinellu problemau cyffredin gyda cheisiadau i awdurdodi bwydydd newydd sy’n gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (CCPs). Bydd y cyngor hwn yn cefnogi paratoi ceisiadau o ansawdd uchel i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) neu Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ar gyfer CCPs. Bydd cais cryf yn cael ei brosesu’n gyflymach ac yn lleihau ceisiadau am wybodaeth bellach.
1. Gofynion ceisiadau i awdurdodi cynhyrchion i’w rhoi ar y farchnad
Cyflwyniadau gwyddonol manwl yw ceisiadau i awdurdodi cynhyrchion i’w rhoi ar farchnad Prydain Fawr. Rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth dechnegol, wyddonol a gweinyddol sy’n angenrheidiol i reoleiddwyr allu asesu diogelwch y bwyd newydd.
Dylai eich cais ddangos yr wybodaeth wyddonol sydd ei hangen er mwyn i’r ASB benderfynu a yw’r bwyd newydd yn ddiogel o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Ar gyfer pob cais i awdurdodi bwyd newydd, mae’r gofynion o ran math ac ansawdd yr wybodaeth wyddonol yn cael eu hegluro yng Nghanllawiau 2016 Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) ar Fwydydd Newydd, a gefnogir gan ganllawiau atodol yr ASB ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd.
Os nad yw’ch cais yn cynnwys yr wybodaeth angenrheidiol a ddisgwylir gan yr ASB ac FSS, gallai’r cais gymryd mwy o amser neu gallai gael ei nodi’n annilys.
Dylech sicrhau bod eich cais:
- yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol
- wedi’i strwythuro’n glir
- yn cynnwys tystiolaeth ategol
Caiff addasrwydd ceisiadau i’r ASB ac FSS ei werthuso cyn eu dilysu, er mwyn sicrhau bod y cais yn gyflawn ac yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen i wneud yr asesiad risg. Mae’r ASB ac FSS wedi nodi sawl argymhelliad drwy asesu ceisiadau CCP, sydd wedi’u cynnwys i’ch helpu i baratoi ceisiadau yn y dyfodol.
2. Sut i baratoi’r cais
Cyflwynir rhai ceisiadau i’r ASB ac FSS ar ffurf ar gyfer systemau rheoleiddio nad ydynt yn Ewropeaidd. Mae hyn wedi arwain at fethu â chynnwys yr wybodaeth angenrheidiol sy’n ofynnol yn ôl rheoliadau bwyd newydd yr ASB ac FSS. Dylech baratoi eich cais i awdurdodi bwyd newydd yn unol ag Erthygl 10 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283, gan sicrhau bod pob adran yn gyflawn, wedi’i chroesgyfeirio’n glir, ac wedi’i hategu gan dystiolaeth wyddonol briodol.
Dylai’r rhai sy’n ceisio awdurdodiad i roi cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd ar y farchnad hefyd ddefnyddio canllawiau technegol 2016 EFSA ar gyfer paratoi cais i awdurdodi bwyd newydd. Gellir defnyddio canllawiau technegol EFSA ar fwydydd newydd, a ddiweddarwyd ar gyfer 2024, hefyd fel canllaw i ymgeiswyr.
Fel rhan o’r rhaglen blwch tywod ar gyfer rheoleiddio cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, bydd yr ASB ac FSS yn cyhoeddi canllawiau atodol (trwy hyb arloesi’r ASB ac FSS) ar y gofynion rheoleiddiol a gwyddonol i’ch helpu trwy’r broses awdurdodi cynhyrchion i’w rhoi ar farchnad Prydain Fawr.
Mae’r canllawiau’n rhoi cyngor, sy’n benodol i gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, ar sut i fodloni gofynion y rheoliadau a gymathwyd ynghylch bwyd newydd a chanllawiau 2016 ar fwydydd newydd. Maen nhw’n egluro’r gofynion data a’r ystyriaethau risg i gefnogi’r asesiad risg.
3. Prif ystyriaethau ar gyfer cais cryf
Mae’r rhestr hon yn nodi’r hyn y dylech chi ei gynnwys er mwyn ysgrifennu cais clir, strwythuredig a hawdd ei ddilyn. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.
3.1 Cais wedi’i strwythuro’n dda, a naratif cyson drwyddo draw
Dylech ddefnyddio canllawiau 2016 EFSA ar fwydydd newydd i helpu i strwythuro eich cais, a chynnwys prif bynciau fel hunaniaeth, prosesau cynhyrchu, data cyfansoddol, a thocsicoleg, er enghraifft. Dylai cais sydd wedi’i strwythuro’n dda gyfeirio at ddata crai a chynnwys atodiadau wedi’u labelu’n glir, wedi’u huwchlwytho gydag enwau a ffeiliau.
Bydd hyn yn helpu aseswyr risg i nodi pa setiau data sy’n perthyn i ba brawf ac, yn bwysicach byth, pam yr ystyriwyd bod angen y profion a’r rhesymau dros eu cynnwys.
Mae naratif cryf drwy gydol y cais yn bwysig er mwyn deall y cynnwys mewn trefn resymegol. Bydd yn helpu i esbonio eich strategaeth gwerthuso diogelwch ac yn helpu i sicrhau na fydd y prif bwyntiau ar ddiogelwch neu liniaru risgiau yn mynd ar goll yn y manylion technegol.
Dylai’r data fod yn glir, gan nodi pa ddeunyddiau, gweithdrefnau a thechnegau profi sydd wedi’u defnyddio, ynghyd â chyfiawnhad gwyddonol dros eu defnyddio ac esboniad clir o ganlyniadau’r profion a’u harwyddocâd ar gyfer diogelwch. Bydd hyn yn helpu’r asesydd i ddeall y rhesymau dros gynnwys neu eithrio gwybodaeth neu astudiaethau penodol.
3.2 Gwybodaeth ategol ar gyfer dulliau dadansoddi
Dylai asesiadau diogelwch gael eu hategu gan dystiolaeth wyddonol i sicrhau bod casgliadau’n ddibynadwy ac yn addas, ac y gellir eu hatgynhyrchu. Dylai profion gael eu cynnal gan labordai achrededig, gan ddefnyddio dulliau a ddilyswyd yn genedlaethol neu ddulliau a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Dylid disgrifio’r dulliau dadansoddi perthnasol, gan gynnwys unrhyw gyfeiriadau – er enghraifft, terfyn adnabod (LOD) neu derfyn meintioli (LOQ). Dylai’r cais ddarparu data crai ac esboniad o’r data, a dylai gyfiawnhau’n glir y rhesymau dros gynnal profion neu beidio.
Pan ddefnyddir dull nad yw’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, rhaid darparu disgrifiad llawn o’r dull yn y cais. Anogir defnydd o ganllawiau’r Sefydliad ar gyfer Cydweithredu a Datblygu Economaidd (OECD) ar Arferion Da mewn Labordy (GLP) a phrofion cemegol, lle bo’n berthnasol. Fel arall, gellir defnyddio dulliau mewnol wedi’u dilysu’n llawn gyda rheolaethau priodol, ar yr amod bod cyfiawnhad gwyddonol drostynt.
Dylid cynnwys y dulliau hyn yn y cais, ochr yn ochr â dilysiad a thystiolaeth i ategu bod y sgiliau perthnasol gan y rhai sy’n defnyddio’r dulliau hyn.
Pan fo profion wedi’u cynnal, dylid darparu tystysgrifau achredu’r labordy neu wybodaeth am arbenigedd y labordy. Mae hyn yn cynnwys unrhyw dystysgrifau dadansoddi priodol a gyhoeddwyd gan y labordy. Rhaid darparu tystysgrifau i’r ASB ac FSS yn Gymraeg neu Saesneg.
3.3 Cynnwys data crai
Dylid darparu data crai ar gyfer pob dull dadansoddi i ategu’r casgliadau yn y cais. Er nad oes ffordd benodol o gyflwyno data crai, rhaid i chi wneud y canlynol:
- sicrhau bod y data’n hawdd ei lywio a’i ddeall
- cyflwyno setiau data mewn fformatau hygyrch cydnabyddedig, fel delweddau neu PDFs
- cynnwys atodiadau gyda dolenni clir o fewn prif gorff y cais
- cynnwys crynodeb o’r data, gwerthusiad, a dehongliad clir o’r canlyniadau
3.4 Proses gynhyrchu
Dylai’r cais gynnwys crynodebau cyfrinachol a rhai nad ydynt yn gyfrinachol o’r prosesau cynhyrchu a ddefnyddir i wneud y bwyd newydd, gan gynnwys siartiau llif. Dylai fod digon o fanylion i sicrhau bod y dulliau hyn yn gallu cael eu hatgynhyrchu.
Mae hyn yn ofynnol er mwyn i’r asesydd risg ddeall y peryglon yn llawn drwy gydol y broses gynhyrchu. Cyhoeddir y fersiwn nad yw’n gyfrinachol o’r broses gynhyrchu fel rhan o’r asesiad risg wedi’i gwblhau.
Rhaid i’r cais gynnwys gwybodaeth am yr holl ddeunyddiau mewnbwn a ddefnyddir yn y broses gynhyrchu. Gall hyn gynnwys cyflwr ac ansawdd y deunyddiau mewnbwn a chopïau o dystysgrifau dadansoddi. Gall yr ymgeisydd sefydlu cyfathrebu uniongyrchol rhwng yr ASB a chyflenwr trydydd parti er mwyn galluogi’r ASB i gael yr wybodaeth gyfrinachol angenrheidiol.
3.5 Rheoli diogelwch bwyd
Gwnewch yn siŵr bod eich cais yn cynnwys cynllun rheoli diogelwch bwyd manwl, yn ddelfrydol un sy’n dilyn egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP). Mae hyn yn ofynnol ar gyfer busnesau sy’n cynhyrchu bwyd ar gyfer marchnad Prydain Fawr. Dylech ddarllen y canllawiau ar gymhwyso egwyddorion HACCP i gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, a gyhoeddwyd gan yr ASB ac FSS. Mae HACCP yn berthnasol i’r raddfa cynhyrchu masnachol bresennol a’r bwyd newydd arfaethedig.
Dylai’r asesiad:
- gynnwys nodi peryglon ym mhob cam o’r broses gynhyrchu
- disgrifio’r pwyntiau rheoli critigol a’r mesurau unioni sydd ar waith
- cyfiawnhau pob mesur, gan gynnwys egluro pam mae’r cynnyrch yn ddiogel i ddefnyddwyr
4. Problemau cyffredin a sut i’w hosgoi
Mae ceisiadau anghyflawn neu aneglur yn achosi oedi ac yn arwain at geisiadau am ragor o wybodaeth.
Dyma rai o’r rhesymau mwyaf cyffredin dros ofyn am wybodaeth bellach:
4.1 Methu â defnyddio’r canllawiau sydd ar gael
Rhaid i chi fynd i’r afael â’r holl feysydd a nodir yn y canllawiau presennol – hynny yw, naill ai rhoi’r wybodaeth berthnasol, neu roi cyfiawnhad gwyddonol dros beidio â chyflwyno unrhyw wybodaeth o gwbl.
Defnyddiwch y canllawiau canlynol:
- Canllawiau EFSA ar Fwydydd Newydd (2016)
- Canllawiau wedi’u teilwra gan yr ASB ac FSS ar yr Hyb Arloesi
- Canllawiau i fusnesau ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd
4.2 Methu â disgrifio’r cynnyrch terfynol yn glir
Rhaid i chi ddisgrifio’r bwyd newydd terfynol a gaiff ei fwyta ym Mhrydain Fawr. Canolbwyntiwch ar yr hyn y bydd y defnyddiwr yn ei fwyta ‘mewn gwirionedd’, gan mai dyma’r hyn a gaiff ei ddefnyddio er mwyn gwirio a yw’r cynnyrch yn ddiogel i’w fwyta. Mae angen i’r cais gynnwys diffiniad clir o’r cynnyrch bwyd terfynol ac nid dim ond y mewnbynnau.
Rhaid i chi ddisgrifio:
- beth yw’r bwyd
- sut mae’n cael ei wneud
- pam mae’n ddiogel
Disgrifiwch y bwyd
Rhaid cynnwys:
- hunaniaeth y bwyd newydd
- y mathau o gelloedd sy’n bresennol
- statws gwahaniaethu
- cyfansoddiad a nodweddion
- fformiwleiddiad (er enghraifft, celloedd yn unig neu gelloedd wedi’u cyfuno â chynhwysion eraill)
Disgrifiwch sut mae’n cael ei wneud
Rhaid darparu:
- trosolwg llawn o’r broses
- pob cam, o gaffael y celloedd i’r cynnyrch terfynol
Dangoswch ei fod yn ddiogel
Mae’n rhaid i chi:
- gysylltu nodweddion y cynnyrch â thystiolaeth
- ystyried y defnydd arfaethedig
- ystyried gwahanol grwpiau poblogaeth
4.3 Methu ag ystyried y raddfa bresennol
Dylai’r cais adlewyrchu’n gywir raddfa fasnachol bresennol y broses gynhyrchu, a chynrychioli proses a chynnyrch terfynol. Ni ddylai hyn newid yn sylweddol yn ystod y broses asesu risg. Mae’r asesiad yn seiliedig ar raddfa arfaethedig y broses gynhyrchu fel y’i disgrifir yn y cais.
Gallai cynnydd yng ngraddfa’r dulliau cynhyrchu – er enghraifft, newid yng nghyfaint bioadweithyddion – newid y proffil risg, ac felly efallai y bydd unrhyw newidiadau i’r raddfa yn y dyfodol yn galw am wneud cais i’r ASB ac FSS i newid yr amodau.
Pan fo gwaith datblygu cynnyrch neu broses ar y gweill o hyd, dylech ystyried manteision naill ai aros nes bod y gwaith datblygu wedi’i orffen neu gyflwyno cais dilynol ar wahân yn gofyn am newid i’r amodau defnyddio. Efallai mai dim ond pan fo newidiadau’n cyflwyno gwahaniaeth neu pan fo peryglon newydd yn cael eu nodi y bydd angen i gais newydd gynhyrchu data newydd.
Defnyddiwch y Gwasanaeth Cymorth Busnes ar gyfer newidiadau i amodau’r cais.
4.4 Data anghyflawn neu ar goll
Mae gwybodaeth sydd ar goll neu’n anghyflawn yn y cais yn arwain at atal ac oedi proses asesu risg yr ASB ac FSS.
Mae problemau cyffredin yn cynnwys:
- tystysgrifau dadansoddi ar goll
- setiau data crai anghyflawn
- disgrifiadau aneglur o’r broses gynhyrchu
- nodweddion cynnyrch anghyflawn
Rhaid i chi sicrhau bod eich cais yn gyflawn cyn ei gyflwyno.
4.5 Strwythur gwael i’r ddogfen, ac olrheiniadwyedd gwael
Dylai’r cais fod wedi’i strwythuro’n glir gyda gwybodaeth sy’n hawdd ei chanfod. Gwnewch yn siŵr bod pob adran wedi’i hysgrifennu’n glir, bod yr atodiadau wedi’u labelu’n glir a bod corff y testun yn cyfeirio atynt yn gyson.
Wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth, esboniwch eich ymateb yn glir a dangoswch sut mae’n cysylltu â’ch cyflwyniad gwreiddiol.
4.6 Methu â defnyddio’r gwasanaeth cymorth busnes
Dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Cymorth Busnes yn gynnar i gael eglurhad a chanllawiau pellach.
Gall y gwasanaeth hwn:
- egluro’r gofynion
- ateb cwestiynau penodol
- rhoi adborth ar eich cais
Mae’r gwasanaeth peilot yn rhedeg tan fis Chwefror 2027 ac mae’n rhoi’r cyfle i chi dderbyn adborth wedi’i deilwra, sy’n benodol i’r cynnyrch, gan aseswyr risg yr ASB ac FSS ar gwestiynau uniongyrchol sy’n ymwneud â’ch cais (cyn neu ar ôl ei gyflwyno).