Corporate report

Brîff Gwybodaeth CThEM: Cyfrifo bwlch treth 2012 i 2013

Updated 16 October 2014

Mae’r bwlch treth yn rhoi darlun bras i CThEM o’r dreth y dylid, mewn egwyddor, ei chasglu o’i chymharu â’r hyn sydd yn cael ei chasglu mewn gwirionedd. Esbonia’r brîff hwn pam rydym yn cyfrifo’r bwlch treth a sut mae’n dylanwadu ar y ffordd rydym yn gweithio i gasglu trethi.

1. Beth yw’r bwlch treth?

Y bwlch treth yw’r gwahaniaeth rhwng swm y dreth sy’n ddyledus a’r swm sy’n cael ei gasglu mewn gwirionedd. Mae’n amhosib casglu bob ceiniog o dreth sydd yn ddyledus mewn egwyddor, felly bydd ‘bwlch treth’ bob amser yn bodoli. Er enghraifft, ni allwn yn gyfreithlon gasglu trethi oddi wrth gwmnïau sydd arnynt dreth ac sy’n fethdalwyr.

1.1 Y bwlch treth a chanran y rhwymedigaethau: 2005-06 i 2012-13

Graff yn dangos symiau'r bwlch treth, a chanran o gyfanswm y rhwymedigaethau treth, o   2005 i 2013.

2. Pam yr ydym yn ei fesur

Mae’r bwlch treth yn ystadegyn swyddogol. Rydym yn amcangyfrif y bwlch treth am ei fod yn dwlsyn defnyddiol ar gyfer deall maint a natur gymharol diffyg cydymffurfio.

Ni ellir defnyddio cyfrifiadau bwlch treth ar gyfer rheoli perfformiad tra-chywir am ystod o resymau. Er enghraifft, mae rhai elfennau o’r bwlch treth yn cymryd cryn amser i’w cyfrifo, nid yw’r amcangyfrifon yn ddigon manwl gywir, a gall y ffigurau newid pan fydd data newydd ar gael.

Rydym yn cyhoeddi ffigurau bwlch treth er mwyn dangos tueddiadau eang o ran cydymffurfio, ac oherwydd ein bod am fod yn dryloyw yn ein ffordd o feddwl ynghylch y mater pwysig hwn sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd.

3. Cyfrifiadau diweddaraf

Rydym yn amcangyfrif bod y bwlch treth yn 2012 i 2013 yn 6.8% o gyfanswm y dreth a’r tollau sy’n ddyledus, sy’n hafal i £34 biliwn, ar ôl i ni ddidynnu’r arian rydym yn ei gasglu drwy ein gweithgareddau cydymffurfiad. Roedd y bwlch treth yn dangos tuedd disgynnol hir dymor rhwng 2005 i 2006 a 2011 i 2012, gan godi ychydig yn 2012 i 2013.

Mae newidiadau yn y cyfraddau treth a ffactorau allanol eraill, megis twf economaidd, yn effeithio ar y bwlch treth hefyd, felly mae’n fwy priodol i’w ddangos fel cyfran o gyfanswm rhwymedigaethau treth. Tueddodd canran y bwlch treth i ddisgyn o 8.5% yn 2005 i 2006 (y flwyddyn gyntaf y cafodd ei grynhoi) i 6.6% yn 2011 i 2012 (sydd wedi’i addasu i lawr o 7% yng nghyhoeddiad y llynedd), ac yna 6.8% yn 2012 i 2013.

Ers 2005 i 2006, mae’r cwymp yn y bwlch treth yn gyfystyr â £43 biliwn ychwanegol mewn treth gronnus a gasglwyd.

Mae’r cynnydd bychan yn y bwlch treth drwyddo draw yn 2012 i 2013 o ganlyniad, yn bennaf, i’r cynnydd yn y bwlch TAW, o 10.4% i 10.9%, a chynnydd yn y bwlch treth tybaco o 12.0% i 14.2%.

Y rheswm pam y tyfodd y bwlch TAW yw oherwydd ni chynyddodd y derbynebau TAW yn 2012 i 2013 mor gyflym ag yr oedd y data economaidd ynghylch gwariant yn awgrymu y dylent fod wedi gwneud. Rydym wedi edrych yn fanwl ar y data ac ni allwn weld unrhyw batrwm newydd sylweddol mewn diffyg cydymffurfio sy’n peri pryder penodol i ni. Mae’r data dros dro ar gyfer 2013 i 2014 yn dweud wrthym fod y bwlch TAW wedi lleihau y flwyddyn ddilynol.

Roeddem yn disgwyl y byddai cynnydd mewn prisiau a thollau yn effeithio ar y bwlch treth tybaco.

Mae prisiau uchel a chyfraddau tollau uchel yn creu cymhelliant i smyglo, ond nid yw lefel y trethiant ar dybaco yn unig yn egluro’r lefelau smyglo - mae smyglo’n gyffredin iawn mewn rhai gwledydd sydd â chyfraddau tollau cymharol isel. Ni fyddai gostwng cyfraddau tollau yn helpu’n sylweddol yr ymdrechion i atal smyglo cynhyrchion ffug.

4. Cywirdeb y cyfrifiadau

Mae’r cyfrifiadau bwlch treth yn gyfres gymhleth o fesuriadau - sy’n rhannol esbonio pam nad yw nifer o wledydd eraill yn darparu amcangyfrif o’r bwlch treth. Oherwydd bod gennym ddata sy’n cwmpasu bron bob ffynhonnell dreth, ac rydym wedi cael ein cyfrifiadau wedi’u hadolygu a’u hardystio gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol, rydym yn hyderus bod ein cyfrifiadau mor gywir ag y gallant fod, a bod yr amcangyfrifon yn cael eu gwneud ar sail ‘tebyg am debyg’ bob blwyddyn.

Er mwyn rhoi’r bwlch treth o £34 biliwn yn ei gyd-destun, casglom £475.6 biliwn mewn trethi yn ystod 2012 i 2013. Mae’r ffigurau, ynghyd â’n hymchwil cwsmeriaid ein hunain, yn dangos bod y mwyafrif helaeth – 93% - o drethdalwyr y DU yn cydymffurfio trwy dalu eu trethi, gydag ond lleiafrif bach yn dewis plygu neu dorri’r rheolau.

5. Ein dull o fynd i’r afael â’r bwlch treth

Mae cyfrifo’r bwlch treth yn ein helpu i ddatblygu strategaethau sy’n cael eu haddasu at ymddygiad ein grwpiau gwahanol o gwsmeriaid. O ganlyniad i’r dull hwn sydd wedi’i deilwra, gwnaethom gasglu refeniwiau cydymffurfiad o £20.7 biliwn yn 2012 i 2013 (a oedd yn record ar y pryd). Rhagorwyd ar y swm hwn yn 2013 i 2014 gyda £23.9 biliwn wedi’i gasglu (sy’n record newydd). Golyga’r gwelliant hwn mewn perfformiad bod mwy o arian ar gael i’r Trysorlys oherwydd rydym wedi casglu treth na fyddai fel arall wedi’i thalu.

Mae ychydig o dan hanner y ffigur o £23.9 biliwn yn ymwneud â diogelu refeniw rhag diffyg cydymffurfio. Golyga hyn ein bod yn stopio swm y dreth a gasglwn rhag disgyn, ond nid yw hyn yn gostwng y bwlch treth; nid oes cyswllt syml rhwng refeniwiau ychwanegol a gostyngiad yn y bwlch treth.

Mae ein dull ar gyfer delio gydag ymosodiadau troseddol wedi’u trefnu - er enghraifft, ar y systemau TAW neu ecseis - yn cyfuno elfennau gorau busnes modern gyda galluoedd asiantaeth fodern sy’n gorfodi’r gyfraith, wrth ddatblygu systemau sy’n wrthwynebol i dwyll.

Mae ein strategaeth gwrth-arbed yn tanategu ein dull o fynd i’r afael ag arbed treth ar gyfer pob un o’n grwpiau o gwsmeriaid. Trwy atal arbed treth o’r dechrau pan fo’n bosib, ei ganfod yn gynnar a’i wrthweithio’n effeithiol drwy her gyfreithiol neu newid mewn deddfwriaeth, mae ein strategaeth yn darparu llwyddiannau sylweddol yn erbyn y rhai hynny sy’n arbed treth a’r rhai hynny sy’n hyrwyddo cynlluniau arbed treth. Mae’r llywodraeth wedi gwneud 42 o newidiadau ar wahân i ddeddfwriaethau treth, gan gau bylchau a chyflwyno diwygiadau i system dreth y DU, ers mis Ebrill 2010. Gallwn weld bod y farchnad ar gyfer cynlluniau arbed treth yn lleihau - syrthiodd y nifer o gynlluniau sy’n agored i reolau Datgelu Cynlluniau Arbed Treth (DOTAS) gan fwy na 75% o 116 yn 2009 i 2010 i ddim ond 28 yn 2013 i 2014.

Mae cwsmeriaid sy’n fusnesau mawr yn talu’r rhan fwyaf o dreth gorfforaeth, a chanran fawr o drethi TAW a TWE. Ein hagwedd tuag at fusnesau mawr yw gwella datgelu drwy gadw golwg agos, adnabod meysydd sy’n peri risg uchel o ddiffyg cydymffurfiad a chreu tasgluoedd arbennig i fynd i’r afael â’r achosion mwyaf difrifol. Mae nifer cymharol fychan o risgiau treth yn cynhyrchu cyfran fawr o’r refeniw ychwanegol a godir.

Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o fentrau busnes bach a chanolig (MBaCh) am dalu’r swm cywir o dreth, ond rydym yn amcangyfrif bod y grŵp hwn o gwsmeriaid yn gyfrifol am bron i hanner gwerth y bwlch treth. Gwneud gwallau a methu â chymryd gofal rhesymol wrth ddelio â ni yw’r prif resymau pam fod y bwlch ar gyfer y grŵp hwn o gwsmeriaid yn parhau. Rydym eisoes yn darparu ystod eang o gymorth wedi’i deilwra a’i dargedu er mwyn helpu cwsmeriaid i gael pethau’n iawn ar adegau allweddol yn ystod eu cylch busnes.

Rydym yn buddsoddi’n drwm mewn offer a gwasanaethau digidol. Byddant yn cynnig gwasanaethau sydd wedi’u targedu’n well ac sy’n fwy personol, i bob busnes. Mae hyn yn cynnwys datblygu cyfrif digidol - Eich Cyfrif Treth - sy’n rhoi hafan unigol y gall busnesau ac unigolion gyrchu popeth sydd eu hangen arnynt er mwyn rheoli eu materion treth ar-lein. Rydym hefyd yn datblygu cymorth a chefnogaeth ddigidol, megis gweminarau a fideos YouTube, yn ogystal â gweithio â darparwyr meddalwedd ar apiau cadw cofnodion all helpu busnesau i gadw’r cofnodion sydd eu hangen arnynt er mwyn cael eu treth yn gywir.

Gall ein cwsmeriaid i gyd wneud gwallau, sy’n rhan sylweddol o’r bwlch treth, felly rydym eisoes yn darparu ystod eang o gymorth wedi’i deilwra a’i dargedu er mwyn eu helpu i’w gael yn iawn.

Mae ein hymgyrchoedd yn targedu grwpiau penodol o gwsmeriaid fel bod ganddynt y cyfle i roi trefn ar eu materion treth. Ond rydym hefyd yn benderfynol na fyddwn yn goddef osgoi treth; mae dadansoddiadau bwlch treth yn awgrymu bod hwn yn risg sylweddol ymhlith lleiafrif bach o MBaCh. Rydym wedi buddsoddi’n helaeth yn ein system paru data strategol, Connect, ac mewn staff cydymffurfiad ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â hyn. Rydym hefyd yn defnyddio tasgluoedd arbennig i fynd i’r afael ag osgoi treth mewn rhanbarthau a sectorau penodol sy’n peri risg uchel.

Rydym wedi casglu dros £213 miliwn ers 2011 i 2012, gan ddefnyddio 83 o dasgluoedd.

Cesglir y rhan fwyaf o drethi a delir gan gwsmeriaid unigol gan eu cyflogwyr, felly un flaenoriaeth yw cefnogi cyflogwyr a’i gwneud hi’n haws i unigolion gysylltu â ni ynglŷn ag addasiadau i’w materion treth. Mae cyflwyno Gwybodaeth Amser Real ar gyfer TWE wedi arwain at welliannau sylweddol o ran cywirdeb, a bydd yn lleihau’r angen i gwsmeriaid gysylltu â ni i roi trefn ar eu materion treth.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch mesur y bwlch treth.