Cynllun Iaith Gymraeg HMPPS 2024 i 2027
Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y bydd HMPPS yn sicrhau y gall unrhyw un sy'n derbyn gwasanaethau neu'n cyfathrebu â HMPPS yng Nghymru wneud hynny naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Yn unol â Deddf Iaith Gymraeg 1993 a Mesur Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 dilynol, mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS) yn parhau i fabwysiadu’r egwyddor y bydd, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb.