Canllawiau

Cynllun Iaith Gymraeg HMPPS 2020 i 2023

Mae Cynllun Iaith Cymraeg Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yn egluro sut y bydd, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Cynllun Iaith Gymraeg HMPPS 2020 i 2023

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmppscommunications@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Nod y cynllun yw sicrhau bod Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS) yn parhau i gydymffurfio â Deddf Iaith Gymraeg 1993 trwy alluogi pawb sy’n derbyn gwasanaeth gan HMPPS yng Nghymru, neu sy’n cyfathrebu â ni, i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, yn ôl eu dewis personol.

Mae hefyd yn egluro sut y byddwn yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru fel sy’n ofynnol yn ô y ddeddf ond hefyd yn Lloegr.

Ym mis Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg yr adroddiad ‘Cymraeg yn y Carchar’ gyda 17 o argymhellion. Ymdrinnir â’r argymhellion hynny yn y cynllun hwn ynghyd ag ymateb ‘HMPPS’ i Gomisiynydd y Gymraeg.

Mabwysiadwyd y cynllun corfforaethol diwygiedig gan HMPPS wedi i Gomisiynydd y Gymraeg ei gymeradwyo ar y 10fed o Fedi 2020.

Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg yn cymryd lle:

  • Cynllun y Gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol (NOMS) 2013, a gymeradwywyd gan y Comisiynydd ar y 23ain o Fai 2013
  • Cynllun Ymddiriedolaeth Prawf Cymru, a gymeradwywyd gan y Comisiynydd ar y 12fed o Orffennaf 2011
Cyhoeddwyd ar 19 October 2020