Canllawiau

Protocol iawndal Pridiannau Tir Lleol

Diweddarwyd 21 April 2021

Protocol ar gyfer delio â cheisiadau am iawndal o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Seilwaith 2015), i nodi pwy sydd â’r atebolrwydd ac a all unrhyw iawndal a dalwyd gael ei adennill gan Gofrestrfa Tir EF o’r awdurdod lleol perthnasol.

Cytunwyd rhwng Cofrestrfa Tir EF a Chymdeithas Llywodraeth Leol.

1. Cyflwyniad

Pan fydd prynwr yn gwneud chwiliad swyddogol neu bersonol perthnasol o’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol a gedwir gan y Prif Gofrestrydd Tir cyn prynu eiddo, yn gyffredinol, bydd hawl ganddo gael iawndal, o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Seilwaith 2015, am y golled y mae wedi ei dioddef o ganlyniad i fethiant y chwiliad i ddatgelu pridiant tir lleol oedd yn bodoli ar yr adeg y cafodd y chwiliad ei wneud (ynghyd â’r costau cysylltiedig rhesymol a gafwyd).

Gyda throsglwyddo’r swyddogaeth statudol ar gyfer cadw’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol ar gyfer ei ardal o awdurdod lleol i Gofrestrfa Tir Ei Fawrhydi, yn unol â Deddf Seilwaith 2015, bydd ceisiadau ar gyfer iawndal a wnaed o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 mewn perthynas â’r ardal awdurdod lleol berthnasol yn cael eu gwneud i’r Prif Gofrestrydd Tir, a all mewn amgylchiadau penodol, adennill unrhyw iawndal a dalwyd o dan adran 10 o’r Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 o’r awdurdod cychwynnol perthnasol (yn gyffredinol, ond nid bob amser, yr awdurdod lleol fydd yr awdurdod cychwynnol perthnasol). Ceir pedair sefyllfa lle y gall iawndal a dalwyd o dan adran 10 gael ei adennill:

1. Yn unol â pharagraff 43 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015, gall y Prif Gofrestrydd Tir adennill iawndal gan awdurdod lleol y mae’r Prif Gofrestrydd Tir yn atebol i’w dalu o dan adran 10 os yw hyn yn ganlyniad i fethiant ar ran yr awdurdod lleol i gofrestru pridiant, neu gofrestru pridiant yn gywir, yn y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yr oedd yr awdurdod lleol yn ei chynnal yn ffurfiol (neu o ganlyniad i fethu â rhoi unrhyw wybodaeth am bridiant o’r fath i’r Prif Gofrestrydd Tir).

2. Gall y Prif Gofrestrydd Tir hefyd adennill iawndal o dan baragraff 43 o Atodlen 5 y mae’r Prif Gofrestrydd Tir yn atebol i’w dalu o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 lle mae hyn o ganlyniad i fethiant yr awdurdod lleol i fodloni hawl i chwilio yn ei gofrestr Pridiannau Tir Lleol ei hun a roddir gan adran 8 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975, neu o ganlyniad i hepgor pridiant lleol o dystysgrif chwiliad swyddogol a gyhoeddwyd gan yr awdurdod lleol, ar adeg pan oedd yr awdurdod lleol yn parhau i fod yr awdurdod cofrestru ar gyfer yr ardal awdurdod lleol berthnasol.

3. Yn unol ag adran 10(5) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (fel y’i diwygiwyd), gall y Prif Gofrestrydd Tir adennill iawndal a dalwyd o dan adran 10 lle mae’r atebolrwydd yn ganlyniad i’r awdurdod cychwynnol perthnasol yn methu â gwneud cais i gofrestru’r pridiant mewn pryd iddo fod yn ymarferol i’r Prif Gofrestrydd Tir osgoi cael yr atebolrwydd.

4. Yn unol ag adran 10(5A) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (fel y’i diwygiwyd), gall y Prif Gofrestrydd Tir adennill yr iawndal a dalwyd o dan adran 10 os yw’r atebolrwydd o ganlyniad i wall a wnaed gan yr awdurdod cychwynnol wrth wneud cais i gofrestru, amrywio neu ddileu pridiant.

2. Protocol

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chofrestrfa Tir EF yn cytuno bod angen cael protocol i ddelio â cheisiadau a allai godi i nodi pwy sydd â’r atebolrwydd ac unrhyw iawndal sydd i’w adennill gan Gofrestrfa Tir EF o’r awdurdod lleol perthnasol.

Y nod yw cael proses syml, deg, dryloyw a chyn belled ag y bo’n rhesymol bosibl, proses anghyfreithadwy ar gyfer delio â’r ceisiadau hyn yn fuan.

1. Mae Cofrestrfa Tir EF yn derbyn cais sy’n gorfod bod yn ysgrifenedig.

2. Mae Cofrestrfa Tir EF yn gwirio bod gwybodaeth gefnogol berthnasol wedi cael ei darparu gan yr Hawlydd.

3. Mae Cofrestrfa Tir EF yn cynnal ymchwiliad gan gynnwys a fu unrhyw golled i’r prynwr sy’n Hawlydd o ganlyniad i beidio â chofrestru’r pridiant neu chwiliad diffygiol.

4. Bydd Cofrestrfa Tir EF yn gwneud ymdrechion rhesymol i hysbysu’r awdurdod lleol perthnasol cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn cais pryd y gall geisio adennill unrhyw iawndal a dalwyd o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975, gan amlinellu’r rhesymau pam ei fod o’r farn y gall y Prif Gofrestrydd Tir fod â hawl i adennill unrhyw iawndal a delir. Dylai ceisiadau gynnwys manylion am y cais a gyflwynwyd, gwybodaeth gefnogol ac unrhyw gasgliadau cychwynnol, ynghyd â’r holl dystiolaeth a gedwir gan gynnwys dyddiadau gweithredoedd/hysbysiadau, partïon (pwy yw’r Hawlydd), copi o’r chwiliad “diffygiol” honedig (neu fanylion y pridiannau a ddatgelwyd ar yr adeg y cafodd y chwiliad personol hwnnw ei wneud, os yw cais am iawndal yn cael ei wneud o dan adran 10(1)(a) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975). Caiff yr hysbysiad ei anfon wedi ei gyfeirio at adran gyfreithiol yr awdurdod lleol perthnasol.

5. Bydd yr awdurdod lleol yn cydnabod ei fod wedi derbyn yr hysbysiad yn ysgrifenedig i Gofrestrfa Tir EF cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ac, mewn unrhyw achos, o fewn 7 diwrnod o’i dderbyn.

6. Bydd yr awdurdod lleol yn gwneud ymdrechion rhesymol i roi i’r Prif Gofrestrydd Tir cyn gynted ag y bo’n ymarferol (ac mewn unrhyw achos o fewn 6 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddwyd iddo gan Gofrestrfa Tir EF) ymateb i’r hysbysiad sy’n cynnwys y canlynol:

  • (i) Hysbysiad, yn dilyn ymgynghori â’i Gwmnïau Yswiriant, ynghylch a yw’r awdurdod lleol yn derbyn hawl yr Hawlydd i gael iawndal gan ddarparu (lle na dderbynnir yr hawl am iawndal) manylion llawn ynghylch ar ba sail y mae hawl yr Hawlydd i’r iawndal yn cael ei wrthod.
  • (ii) Cadarnhad ynghylch a yw’r awdurdod lleol yn derbyn bod yr Hawlydd wedi dioddef colled o ganlyniad i ddim cofrestriad neu chwiliad diffygiol neu’r swm a hawlir i gynrychioli’r golled a ddioddefwyd gan yr Hawlydd gan ddarparu (lle na dderbynnir yr hawl i iawndal neu swm yr iawndal) manylion ynghylch ar ba sail y mae’r hawl i swm yr iawndal a hawlir yn cael ei wrthod. Bydd yr awdurdod lleol yn darparu manylion am unrhyw ffactorau lliniaru os yw o’r farn nad yw’r golled a ddioddefwyd yn ganlyniad i’r chwiliad diffygiol neu os yw o’r farn bod yr Hawlydd neu y dylai’r Hawlydd fod wedi bod yn ymwybodol fel arall o’r pridiant perthnasol. Yn yr un modd, bydd yr awdurdod lleol yn darparu manylion am unrhyw gynigion sydd ganddo i gyfaddawdu neu unioni’r sefyllfa – er enghraifft trwy amrywio neu ddileu cofrestriad neu drwy roi ôl-gymeradwyaeth.
  • (iii) Cadarnhad ynghylch a yw’r awdurdod lleol yn derbyn hawl y Prif Gofrestrydd Tir i adennill yr iawndal a dalwyd ganddo gan ddarparu (lle mae hawl y Prif Gofrestrydd Tir i adennill yr iawndal yn cael ei wrthod) manylion ynghylch ar ba sail y mae’r awdurdod cychwynnol yn honni na fydd gan y Prif Gofrestrydd Tir yr hawl i adennill iawndal a dalwyd o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 mewn perthynas â’r cais ganddo. Os nad yr awdurdod lleol yw’r awdurdod cychwynnol mewn perthynas â’r pridiant perthnasol ac mae o’r farn bod atebolrwydd y Prif Gofrestrydd Tir yn ganlyniad i wall neu hepgorid ar ran yr awdurdod cychwynnol arall hwnnw, caiff manylion llawn ynghylch y sail ar gyfer y cais hwn eu darparu. (Cydnabyddir mewn rhai amgylchiadau na fydd awdurdod lleol yn ystyried bod unrhyw angen iddo ddarparu’r wybodaeth a fanylir yn rhan (ii) lle mae’r Awdurdod Lleol yn sicr na all unrhyw hawl i adennill iawndal ganddo godi).

7. Os nad yw’r awdurdod lleol perthnasol a Chofrestrfa Tir EF (y Partïon) mewn cytundeb cychwynnol ynghylch yr hawl ar ran y Prif Gofrestrydd Tir i adennill iawndal, bydd y Partïon yn ceisio datrys y mater rhyngddynt eu hunain trwy gyfrwng gohebiaeth a/neu gyfarfodydd o fewn cyfnod rhesymol na fydd yn fwy na 10 wythnos, a bydd yn dechrau ar y dyddiad pan fydd naill ai Cofrestrfa Tir EF neu’r awdurdod lleol perthnasol yn rhoi gwybod i’r parti arall bod y cyfnod i ddechrau.

8. Cyfryngu a’r Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod:

  • (i) Os nad yw’r Partïon wedi gallu datrys yr anghydfod rhyngddynt, dylai camau cyfreithiol fod y dewis olaf un.
  • (ii) Mae’r llysoedd hefyd yn disgwyl i gamau cyfreithiol fod y dewis olaf un, felly byddent yn disgwyl gweld bod y ddau Barti wedi ystyried a allai Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod fod yn ffordd well o ddelio â’r anghydfod.
  • (iii) Fel ffordd arall o ddelio â’r anghydfod, mae’r Partïon yn cytuno i ymgymryd â chyfryngu mewn ewyllys da i ddelio ag anghydfod o’r fath, a byddant yn gwneud hynny yn unol â Phrotocol Cyfryngu Enghreifftiol y Ganolfan Datrys Anghydfodau’n Effeithiol (CEDR) (“Cyfryngu”). Oni bai y cytunir fel arall rhwng y Partïon, o fewn 14 diwrnod gwaith o roi rhybudd o’r anghydfod, bydd y cyfryngwr yn cael ei enwebu gan CEDR.
  • (iv) I gychwyn y cyfryngu, rhaid i barti roi rhybudd ysgrifenedig (hysbysiad Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR)) i’r parti(ion) arall(eraill) i’r anghydfod, gan gyfeirio’r anghydfod at gyfryngu. Dylid anfon copi o’r atgyfeiriad at CEDR.
  • (v) Oni bai y cytunir fel arall, bydd y cyfryngu yn dechrau ddim hwyrach na 21 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad y rhybudd ADR.
  • (vi) Ar wahân i ffïoedd y cyfryngwr a gaiff eu talu gan y ddau Barti, bydd pob parti yn talu am gost y cyfryngu ei hun.

9. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fydd unrhyw setliad o gais am iawndal gan y Prif Gofrestrydd Tir cyn cytundeb rhwng y Partïon yn cael ei ystyried yn dderbyniad awtomatig o atebolrwydd gan yr awdurdod lleol am y gwall honedig a arweiniodd at y cais neu’r swm a dalwyd.

10. Bydd y protocol hwn yn cael ei adolygu o bryd i’w gilydd a’i ddiweddaru o leiaf yn flynyddol fel y bo angen, trwy ymgynghori â Chymdeithas Llywodraeth Leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.