Ffurflen

Pasbort Addasiad Iechyd: nodiadau cwblhau

Diweddarwyd 12 June 2023

Mae’r daflen wybodaeth hon wedi’i chynllunio i’ch helpu i gwblhau’r Pasbort Addasiad Iechyd.

1. Beth yw’r Pasbort Addasiad Iechyd ac ar gyfer pwy y mae?

Mae’r Pasbort Addasiad Iechyd yn ddogfen sy’n gallu:

  • eich cefnogi i nodi pa gymorth a newidiadau (a elwir yn addasiadau rhesymol) y gallech fod eu hangen pan fyddwch mewn gwaith neu’n symud i mewn i waith

  • eich helpu i wneud cais am gymorth gan Mynediad at Waith, a allai gynnwys:

  • cyllid ar gyfer offer arbenigol i’ch cefnogi i wneud eich swydd, a

  • cymorth i fynd i ac o’r gwaith neu gymorth pan fyddwch yn y gwaith, fel hyfforddiant swydd

  • eich helpu i siarad â chyflogwyr am addasiadau a chymorth yn y gwaith y gallech fod eu hangen

Gall cwblhau’r pasbort fod yn ddefnyddiol i bobl sy’n wynebu rhwystrau yn y gweithle oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd.

2. Sut i lenwi’r ffurflen

2.1 Amdanoch chi

Cwestiynau 1 i 3

Llenwch gyda’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.

Cwestiwn 4

Meddyliwch pam rydych eisiau gweithio yn y lleoliad hwn, a yw oherwydd:

  • mae’n agos at i gartref, ac mae angen i chi fod yn agos at eich cartref oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd?

  • ayw hyn oherwydd eich bod yn teimlo na allwch deithio oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd?

Cwestiwn 5

Meddyliwch pa fath o waith rydych am ei wneud. Gallai fod yn swydd neu sector cyflogaeth benodol. Os yw’r sector cyflogaeth rydych am weithio ynddo yn newydd i chi, ydych heb weithio ynddo o’r blaen oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd?

Nodyn defnyddiol: Ym mhob adran ddilynol, darllenwch yr awgrymiadau o dan bob cwestiwn a ticiwch un o’r blychau sydd wedi’u marcio Ydw/Oes/Do neu Na.

Rhowch fwy o fanylion yn y blwch testun os oes angen. Dylech fynd i’r cwestiwn perthnasol yn unol â’r cyfarwyddiadau ar y ffurflen.

Mae rhai pethau i’w hystyried ar gyfer pob cwestiwn testun i’w ychwanegu isod. Nid yw’r enghreifftiau a ddarperir yn gynhwysfawr.

2.2 Am eich iechyd (Cwestiynau 6 - 8)

Cwestiwn 6

Meddyliwch am sut rydych yn:

  • ymdopi gyda gweithgareddau dyddiol fel coginio neu wisgo. Gallech hefyd ystyried

  • cyfathrebu â phobl eraill, h.y., ydych chi angen rhywun i’ch cefnogi neu eich annog i ymgysylltu â pherson arall

  • symud o gwmpas, a ydych yn defnyddio cadair olwyn, neu ydych chi angen rhywun gyda chi pan yn gadael y tŷ

Oes gennych unrhyw namau sy’n effeithio ar eich golwg neu’ch clyw – os felly, sut ydych yn rheoli’r rhain? Dylech gynnwys cymaint o fanylion ag y gallwch yn y blwch testun.

Cwestiwn 7

Gall eich cyflwr iechyd amrywio, naill ai drwy’r dydd, yn ystod yr wythnos, neu’n flynyddol. Os yw hyn yn wir, yn y blwch testun meddyliwch am ba gymorth ychwanegol y gallech fod ei angen pan fydd eich cyflwr yn waeth.

Er enghraifft-

  • a yw eich cyflwr iechyd yn waeth yn y bore cyn i’ch meddyginiaeth weithio, neu

  • a yw newidiadau tymhorol yn effeithio ar eich cyflwr er enghraifft, a yw y nam ar eich golwg yn waeth yn ystod misoedd y gaeaf oherwydd ei fod yn mynd yn dywyll yn gynharach

Cwestiwn 8

Gellir defnyddio’r blwch testun yn yr adran hon i gofnodi cymorth y gallech fod wedi’i gael o’r blaen. Gallai gynnwys pethau fel:

  • cael amser ychwanegol mewn arholiadau

  • cael darllenydd personol i ddarllen cwestiynau

  • wedi cael cymorth yn y Brifysgol drwy Lwfans Myfyrwyr Anabl

  • addasiadau rhesymol a ddarparwyd mewn swydd flaenorol, fel amseroedd gwaith hyblyg neu mwy o seibiannau

2.3 Am waith (Cwestiynau 9 - 17)

Cwestiwn 9

Meddyliwch am unrhyw rwystrau y gallech eu hwynebu oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd wrth deithio i’r gwaith, neu unrhyw anawsterau sydd gennych wrth gynllunio a gwneud taith. Gallai hyn gynnwys:

  • profi gorbryder wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os ydych yn teithio yn ystod cyfnodau prysur,

  • rydych yn methu â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu

  • ni allwch yrru mwyach oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd

Cwestiwn 10

Pan fyddwch yn cyrraedd y gwaith, a oes unrhyw gymorth rydych ei angen i allu cael mynediad i’r safle gwaith? Gallai hyn gynnwys:

  • lifft

  • ramp

  • drysau wedi’u hehangu os ydych yn ddefnyddiwr cadair olwyn

  • angen arwyddion clir os oes gennych nam ar eich golwg

Cwestiwn 11

Wrth ystyried os ydych angen cymorth i ryngweithio â phobl eraill, meddyliwch am broses gyfweld. A fyddech angen rhywun i:

  • darparu cefnogaeth yn ystod cyfweliad

  • eich annog i ddarparu digon o wybodaeth neu i’ch atal rhag darparu gormod o wybodaeth

  • cymryd nodiadau ar eich rhan oherwydd eich bod yn cael trafferth cadw llawer o wybodaeth neu os nad ydych yn gallu cymryd nodiadau eich hun

A fyddai angen dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain arnoch neu efallai Siaradwr Gwefusau er mwyn i chi allu cyfathrebu ag eraill?

Cwestiwn 12

Meddyliwch am beth rydych wedi’i ddefnyddio o’r blaen. Mae rhai pecynnau meddalwedd cyffredin wedi’u rhestru ar y ffurflen, ond os ydych wedi defnyddio meddalwedd arall rhowch fanylion y feddalwedd yn y blwch testun. Os na allwch gofio enw’r meddalwedd, yna eglurwch yn fyr beth wnaeth y feddalwedd neu sut y gwnaeth eich helpu.

Cwestiwn 13

Os ydych angen meddalwedd (a nodwyd yn C12), a fyddech chi angen hyfforddiant i’w ddefnyddio? Rhestrwch pa feddalwedd y byddech angen hyfforddiant gyda.

Cwestiwn 15

Os ydych wedi defnyddio offer arbenigol o’r blaen i oresgyn rhwystrau yn y gwaith, esboniwch beth rydych wedi’i ddefnyddio yn y blwch testun.

Mae sawl math o offer arbenigol, gall hyn gynnwys:

  • caledwedd cyfrifiadurol arbenigol fel llygod, bysellfyrddau, padiau rhif neu fonitorau mawr

  • dodrefn arbenigol fel desgiau uchder addasadwy, cadeiriau ergonomig, troedleifiau, a breichiau

  • chwyddwyr, darllenwyr braille neu gymhorthion clyw a chadeiriau olwyn

Cwestiwn 16

Meddyliwch am addasiadau safonol y gallech fod wedi’u cael yn y gorffennol, ac unrhyw rai a allai fod o fudd i chi oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd. Pethau i’w hystyried:

  • lle rydych wedi eich lleoli mewn swyddfa, h.y., eistedd i ffwrdd o fynedfa neu allanfa, heb fod yn eistedd mewn sedd eil neu eistedd naill ai’n agos at doiled neu ymhell o doiled, NEU

  • addasiadau i oleuadau er enghraifft, goleuadau sydd yn gallu cael eu troi i lawr neu LED sydd ddim yn fflachio

Cwestiwn 18

Meddyliwch am y cymorth y gallai rhywun arall ei ddarparu. Gallai hyn fod yn:

  • hyfforddwr swyddi oherwydd mae’n cymryd mwy o amser i chi ddysgu rôl newydd

  • gweithiwr cymorth i’ch helpu gydag anghenion gofal personol tra byddwch yn y gwaith

  • gweithiwr cymorth i helpu gyda rhai agweddau ar swydd neu gallai fod yn Ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain

Yn ogystal, meddyliwch os ydych angen cymorth i ymgysylltu â phobl eraill, a fyddech angen rhywun i’ch helpu i reoli perthnasoedd â chydweithwyr neu eich rheolwr neu rywun i helpu i egluro rheolau i chi?

3. Gwneud cais am help – Mynediad at Waith

Mae rhan olaf y Pasbort Addasiad Iechyd yn ymwneud â Mynediad at Waith. Os ydych angen cymorth i symud i mewn i waith neu i aros mewn gwaith, gallwch wneud cais am Fynediad at Waith. Ond mae’n rhaid i chi gael cynnig swydd neu cyfweliad swydd.

Os ydych yn gwneud cais am Fynediad at Waith a bydd cymorth yn cael ei gynnig, gwnewch yn siwr eich bod yn diweddaru eich Pasbort Addasiad Iechyd gyda manylion pa gymorth a gawsoch. Gall hyn eich cefnogi os ydych yn symud swyddi neu gyflogwyr.

4. Beth ddylwn i ei wneud gyda Phasbort Addasiad Iechyd wedi’i gwblhau?

Ar ôl i chi gwblhau’r Pasbort Addasiad Iechyd, gallwch ei argraffu neu ei arbed i gyfrifiadur neu ddyfais symudol. Bydd hyn yn caniatáu i chi ei ddiweddaru neu ei ddiwygio yn y dyfodol.

Gallwch ddefnyddio Pasbort Addasiad Iechyd wedi’i gwblhau i gefnogi cais Mynediad at Waith a lleihau’r angen am asesiad sy’n galluogi rhoi cymorth ar waith yn gyflymach. Gall y pasbort hefyd gefnogi trafodaethau gyda’ch cyflogwr neu gyflogwr posibl trwy roi trosolwg i chi o’r cymorth rydych ei angen i oresgyn rhwystrau oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd.

Os oes gennych anogwr gwaith Canolfan Byd Gwaith, gallwch ei ddangos iddynt er mwyn trafod unrhyw addasiadau neu gefnogaeth resymol y gallech fod eu hangen wrth siarad am gyfleoedd gwaith.

Mae’n bwysig nodi:

  • mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Pasbort Addasiad Iechyd yn eich gwybodaeth chi, ac ni ellir ei rhannu heb eich caniatâd

  • eich cyfrifoldeb chi yw cadw’r ddogfen wedi’i chwblhau