Policy paper

Strategaeth Proffesiwn Daearyddiaeth y Llywodraeth ar gyfer 2023-2026

Updated 19 March 2024

Rhagair gan Bennaeth y Proffesiwn Daearyddiaeth – David Wood

Rwy’n falch iawn o rannu Strategaeth Proffesiwn Daearyddiaeth y Llywodraeth ar gyfer 2023-2026, sef ein cynllun i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau daearyddol ar draws y sector cyhoeddus drwy gefnogi a thyfu cymuned amrywiol o ddaearyddwyr a chynyddu effaith a dylanwad y ddisgyblaeth mewn llywodraeth a thu hwnt.

Sefydlwyd Proffesiwn Daearyddiaeth y Llywodraeth yn 2018.  Mae ein harbenigedd yn cwmpasu ehangder llawn ein disgyblaeth, gan gynnwys agweddau gwyddoniaeth ffisegol a chymdeithasol ar ddaearyddiaeth, ac mae ein haelodau wedi’u lleoli ar draws y Deyrnas Unedig.  Mae ein haelodaeth yn cynnwys pobl sy’n ymwneud â rolau dadansoddol, gwyddonol, polisi a chyflawni gweithredol.   Rydym yn gweithio ar draws y sector cyhoeddus sy’n cynnwys llywodraeth ganolog, a’u hasiantaethau, a llywodraeth leol, i hyrwyddo gwell defnydd o ddaearyddiaeth mewn llywodraeth ac i gefnogi dyheadau gyrfa a blaenoriaethau datblygu daearyddwyr yn y gwasanaeth sifil a’r sector cyhoeddus yn ehangach.

Mae daearyddiaeth a daearyddwyr yn cynnig buddion arbennig i’r llywodraeth.  Mae gwaith y Llywodraeth yn ymwneud yn barhaus â lleoedd penodol, yn aml gyda nodweddion, anghenion a chyfleoedd gwahanol iawn. Mae dadansoddi ac ymateb i’r patrymau hyn yn gofyn am ddealltwriaeth o sut a pham y mae prosesau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn datblygu yn wahanol o le i le.

Mae daearyddiaeth, disgyblaeth sy’n nodedig am ei sgiliau a’i hoffer dadansoddol gofodol, yn allweddol i’r ddealltwriaeth hon. Mae’n darparu pont bwysig rhwng gwahanol dimau, arbenigeddau a sefydliadau - gan helpu i greu ystyriaethau cyfannol o leoedd a chymunedau mewn dadansoddi, polisi a darparu.   

Ers ein sefydlu yn 2018 rydym wedi dod yn broffesiwn annibynnol sefydledig, mae ein haelodaeth wedi tyfu, mae gennym adnoddau pwrpasol ar gyfer y proffesiwn ac rydym wedi datblygu cynnig i’n holl aelodau megis ein gwobrau blynyddol a’n cynhadledd flynyddol. Mae’r rhain yn feysydd y byddwn yn parhau i’w datblygu, ond mae llawer mwy yr ydym am ei wneud, y byddwch yn ei weld yn y strategaeth hon. 

David Wood
Pennaeth Proffesiwn Daearyddiaeth y Llywodraeth

Pwy ydym ni

Ein Llywodraethiant

Fel proffesiwn rydym yn cael ein cefnogi gan gymuned ddaearyddol a dadansoddol ehangach y sector cyhoeddus trwy ein llywodraethiant. 

Noddwr adrannol Proffesiwn Daearyddiaeth y Llywodraeth (GGP) yw’r Comisiwn Geo-ofodol.  Sefydlwyd y Comisiwn Geo-ofodol yn 2018 fel pwyllgor arbenigol sy’n gyfrifol am osod Strategaeth Geo-ofodol y Deyrnas Unedig a chydlynu gweithgaredd geo-ofodol y sector cyhoeddus. Ym mis Chwefror 2023, symudodd y Comisiwn Geo-ofodol i’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, gan chwarae rôl hanfodol wrth ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus, creu swyddi newydd gyda chyflogau gwell a thyfu’r economi. Nod y Comisiwn yw datgloi’r cyfleoedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol a gynigir gan ddata lleoliad, cymwysiadau a gwasanaethau ac i hyrwyddo arbenigedd geo-ofodol byd-eang y DU.

Mae Proffesiwn Daearyddiaeth y Llywodraeth yn un o saith proffesiwn sy’n ffurfio’r Swyddogaeth Ddadansoddi.  Mae Daearyddiaeth yn rhan hanfodol o’r dull amlddisgyblaethol sydd ei angen ar y Swyddogaeth Ddadansoddi i fynd i’r afael â’r materion mawr sy’n wynebu cymdeithas. Nod y Swyddogaeth Ddadansoddi yw gweithredu fel y canolbwynt ar gyfer gwasanaethau ymchwil a dadansoddi arfer gorau o fewn y Llywodraeth.  Mae’n gydweithrediad ffederal rhwng sawl proffesiwn dadansoddol sy’n darparu ymchwil, tystiolaeth a chyngor i safon broffesiynol gyson.  Yn sicrhau gwell canlyniadau i’r cyhoedd drwy ddarparu’r dadansoddiad gorau i lywio’r broses o wneud penderfyniadau.  Fel rhan o’r Swyddogaeth Ddadansoddi, gall aelodau’r GGP gael mynediad at ystod eang o gefnogaeth a roddir gan y Swyddogaeth Ddadansoddi a’r adnoddau y maent wedi’u creu.  

Bydd Proffesiwn Daearyddiaeth y Llywodraeth yn parhau i fod yn broffesiwn cynhwysol a chroesawgar i bawb yn y sector cyhoeddus sy’n ystyried eu hunain yn ddaearyddwyr, gan gydnabod, er bod llawer o’n haelodau yn gysylltiedig â’r Swyddogaeth Ddadansoddi, y bydd daearyddwyr eraill mewn rolau ehangach ar draws y sector cyhoeddus y bydd y proffesiwn yn parhau i’w cefnogi.  Mae pob un o’n haelodau yn gweithio i safon uchel ac yn cadw at y codau ymddygiad sy’n berthnasol i’w sefydliad. 

Ein Partneriaid 

Mae’r defnydd o ddaearyddiaeth yn rhychwantu’r sector cyhoeddus ac yn ehangach, mae yna lawer o sefydliadau daearyddol sefydledig gydag amcanion sy’n cyd-fynd â rhai’r GGP.  Rydym am gydweithio â’r sefydliadau hyn i wella’r defnydd o ddaearyddiaeth yn y DU. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn datblygu perthnasoedd gwaith ac yn defnyddio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n darparu fframwaith i weithio ynddo i gydweithio’n llwyddiannus ar nodau a rennir. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo arloesedd gyda daearyddiaeth a chefnogi daearyddwyr y llywodraeth gydag adnoddau priodol. Bydd y Memoranda Cyd-ddealltwriaeth hyn yn rhoi mynediad i aelodau i ehangder a dyfnder arbenigedd ym maes daearyddiaeth ar draws y sector cyhoeddus ac yn ehangach mewn rhai achosion.  

Ein Harweinyddiaeth 

Mae Proffesiwn Daearyddiaeth y Llywodraeth yn cael ei arwain gan Uwch Was Sifil – Pennaeth y Proffesiwn Daearyddiaeth.  Maent yn gosod cyfeiriad strategol y proffesiwn ac yn goruchwylio datblygiad y proffesiwn. 

Cefnogir y rôl hon gan amrywiaeth o rolau arweinyddiaeth eraill sy’n cael eu dal gan wirfoddolwyr ar draws y sector cyhoeddus.

  • David Wood – Pennaeth Proffesiwn
  • Niamh Jefford - Rheolwr Proffesiwn

Dirprwy Bennaeth Proffesiwn

  • Claire Edwards, Carlyon Shears - Sgiliau, Hyfforddiant ac Arhrediad a Chydnabyddiaeth Broffesiynol

  • Chris Gale - Arweiniad ac Ymgysylltu Proffesiynol

  • Madeleine Hann - Piblinellau Allgymorth a Thalent

  • Patrick Rickles - Strategaeth Ddigidol a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Pennaeth Proffesiwn Sefydliadol

  • Ian Spencer - Weinyddiaeth Amddiffyn

  • Claire Edwards - Natural England

  • Brian Vinall - Environment Agency

  • David Roberts - Llywodraeth Cymru

  • Olive Powell - Swyddfa Ystadegau

  • Alistair Edwardes - Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

  • Abigail Page - Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg

Pennaeth Cymuned

  • Vacant - Arolwg Ordnans

  • Hannah Jordan - Swyddfa Dramor a Chymanwlad

  • Vacant - Llwodraeth Leol

  • Vacant - Llywodraeth yr Alban

Pennaeth Sefydliadol a Chymunedol y Proffesiwn Daearyddiaeth 

Mae’r rôl hon yn unigolyn o fewn adran o’r llywodraeth neu sefydliad sector cyhoeddus a fydd yn adeiladu’r gymuned GGP leol ac yn gynrychiolydd o’r proffesiwn ym maes llywodraethu mewnol yr adran/sefydliad.  Lle nad oes Pennaeth Proffesiwn Sefydliadol ffurfiol o fewn strwythur yr adran (yn bennaf o fewn adrannau canolog y llywodraeth) y rôl gyfatebol fydd y Pennaeth Cymuned. 

Mae’r rôl hon yn cael ei recriwtio trwy ddewis o sefydliadau sydd â nifer sylweddol o aelodau GGP.  Bydd sgyrsiau gyda’r Cyfarwyddwr Dadansoddi Adrannol neu gyfatebol yn cael eu defnyddio i gytuno ar y person mwyaf priodol ar gyfer y rôl. 

Dirprwy Bennaeth y Proffesiwn Daearyddiaeth

Mae’r rôl hon yn unigolyn sy’n gyfrifol am ddatblygu’r proffesiwn mewn maes penodol, ac mae’r rhain yn cynnwys: 

Sgiliau, Hyfforddiant ac Achrediad Proffesiynol

Mae’r rôl hon yn goruchwylio cynnig hyfforddi’r GGP a bydd yn sicrhau bod aelodau’n cael cyfleoedd i ddatblygu. Bydd hefyd yn sicrhau bod aelodau’r proffesiwn yn cael cyfle i gael eu cydnabod yn broffesiynol. Bydd y rôl yn dathlu’r gwaith y mae aelodau’n ei wneud ar draws y sector cyhoeddus.

Allgymorth a Llwybrau Talent 

Mae’r rôl hon yn goruchwylio’r gwaith y mae’r GGP yn ei wneud gyda lleoliadau addysgol ac yn hwyluso aelodau i gynnal allgymorth yn y gofod hwn, yn ogystal â meysydd nad ydynt efallai’n feysydd daearyddol traddodiadol.  Byddant yn sicrhau bod mecanweithiau ar waith i gyflwyno carfan amrywiol o dalent i rolau daearyddol ar draws y sector cyhoeddus.

Arweiniad Proffesiynol ac Ymgysylltu

Bydd y rôl hon yn sicrhau bod digon o ganllawiau ar draws y sector cyhoeddus i gefnogi gwaith daearyddwyr a galluogi’r defnydd effeithiol o egwyddorion daearyddiaeth.

Strategaeth ac Ymgysylltu Digidol a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae’r rôl hon yn goruchwylio’r gwaith o weithredu a chynnal presenoldeb digidol GGP. Bydd y rôl hon yn sicrhau bod y proffesiwn yn tyfu fel lle amrywiol a chynhwysol i gefnogi gweithwyr proffesiynol daearyddiaeth.  

Mae’r rolau hyn yn agored i bob aelod GGP ac yn cael eu llenwi trwy ymgyrch mynegi diddordeb. 

Cefnogir y rolau uchod gan; 

Rheolwr Proffesiwn Daearyddiaeth y Llywodraeth 

Mae’r rôl hon yn rôl llawn amser sy’n cefnogi holl waith y GGP, gyda’r nod o adeiladu’r gymuned GGP. Caiff y rôl hon ei llenwi drwy ymgyrch recriwtio Swyddi’r Gwasanaeth Sifil.   

Llysgennad Proffesiwn Daearyddiaeth y Llywodraeth 

Bydd Llysgennad y GGP yn arbenigwr yn eu disgyblaeth ddaearyddol. Byddant yn hyrwyddo’r GGP i’w rhwydweithiau ehangach. 

Aelod Wirfoddolwr GGP

Mae’r rhain yn gyfleoedd i aelodau GGP wirfoddoli i gefnogi agweddau penodol ar gynnig GGP.  Gallai’r rhain fod mewn meysydd fel creu cylchlythyrau neu drefnu’r gynhadledd neu’r gwobrau blynyddol.  Efallai y byddant hefyd yn cefnogi’r Dirprwy Benaethiaid y Proffesiwn yn eu meysydd gwaith penodol. 

Gall aelodau GGP gymryd rhan yng ngwaith y proffesiwn drwy anfon e-bost i flwch y proffesiwn, gyda disgrifiad byr o’r gwaith y byddai ganddynt ddiddordeb mewn cynorthwyo ag ef.

Ein Gweledigaeth

Creu a thyfu proffesiwn daearyddiaeth proffil uchel, balch ac effeithiol sy’n denu talent newydd ac sydd â lle diogel wrth wraidd gwneud penderfyniadau.

  Egwyddorion

Bydd y weledigaeth hon yn cael ei chyflawni drwy ein tair egwyddor:

Egwyddor 1: Creu’r amgylchedd i ddaearyddwyr gael yr effaith fwyaf posibl yn y llywodraeth a’r sector cyhoeddus 

Egwyddor 2: Proffesiynoli a datblygu defnydd a chymwysiadau daearyddiaeth yn y llywodraeth a’r sector cyhoeddus

Egwyddor 3: Tyfu cymuned amrywiol a chynhwysol o ddaearyddwyr o fewn y proffesiwn a’r sector cyhoeddus 

Byddwn yn gweithio i wireddu’r rhain trwy’r ffyrdd canlynol:

Egwyddor 1

Creu’r amgylchedd i ddaearyddwyr gael yr effaith fwyaf posibl yn y llywodraeth a’r sector cyhoeddus.

Bydd yr egwyddor hon yn cael ei chyflwyno drwy arweinyddiaeth gynhwysol Penaethiaid Proffesiwn Sefydliadol a Chymunedol trwy eu gwaith i gefnogi a chodi proffil daearyddwyr yn eu sefydliadau.

O fewn eu sefydliadau byddant yn;

  • Annog a hyrwyddo aelodaeth GGP ar draws eu sefydliad.
  • Datblygu cymuned leol gynhwysol ac amrywiol o ddaearyddwyr, gan roi cyfleoedd datblygu iddynt trwy wirfoddoli a chyfrannu at reoli mentrau GGP.
  • Rhannu arfer gorau daearyddol ar draws y sefydliad drwy fentrau lleol.
  • Rhannu gweithgareddau a gwersi a ddysgwyd o fentrau i arweinyddiaeth GGP.
  • Cyfrannu at sgyrsiau ehangach fel rhan o lywodraethu sefydliadol ochr yn ochr â phroffesiynau eraill.
  • Cynrychioli GGP mewn cyfarfodydd a rhwydweithiau llywodraethu sefydliadol mewnol a phroffesiwn.
  • Hyrwyddo mentrau GGP ehangach fel gwobrau GGP a gweminarau i’r gymuned leol.

Bydd y rhwydwaith o Benaethiaid proffesiwn GGP yn cyfarfod yn Chwarterol i rannu arfer gorau a chaniatáu i ddull cydgysylltiedig gael ei fabwysiadu. 

Bydd y Penaethiaid Proffesiwn Sefydliadol a Chymunedol yn defnyddio ac yn dylanwadu ar y mentrau GGP sy’n cael eu rhedeg yn ganolog i arddangos, hyrwyddo a dathlu pwysigrwydd daearyddiaeth ar draws y sector cyhoeddus, er enghraifft ymwneud â’r Gwobrau Daearyddiaeth yn y Llywodraeth. 

Egwyddor 2

Proffesiynoli a datblygu defnydd a chymwysadau daearyddiaeth yn y llywodraeth a’r sector cyhoeddus.

Bydd yr egwyddor hon yn cael ei chyflwyno drwy waith Dirprwy Bennaeth y Proffesiwn Daearyddiaeth ar gyfer Sgiliau, Hyfforddiant ac Achrediad ac Arweiniad ac Ymgysylltu Proffesiynol.

Bydd ffrwd waith ‘Sgiliau, Hyfforddiant ac Achredu’ yn goruchwylio datblygiad a gweithrediad cynnig hyfforddiant GGP a bydd yn sicrhau bod gan aelodau gyfleoedd i ddatblygu. 

Bydd ffrwd waith ‘Arweiniad Proffesiynol’ yn sicrhau bod aelodau’r proffesiwn yn cael cyfle i gael eu cydnabod yn broffesiynol o fewn eu sefydliadau.  Bydd yn hyrwyddo’r gwaith y mae aelodau’n ei wneud ar draws y sector cyhoeddus.

Er mwyn cyflawni’r egwyddor hon bydd y GGP yn;

  • Darparu cynnig sgiliau a hyfforddiant ar gyfer aelodau GGP.  Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda’n sefydliadau partner a’r Swyddogaeth Ddadansoddi ehangach. 
  • Datblygu rhaglen fentora GGP.
  • Nodi mecanweithiau i sicrhau’r un gydnabyddiaeth ar gyfer daearyddiaeth â phroffesiynau eraill o fewn y Swyddogaeth Ddadansoddi.
  • Hyrwyddo’r cyfle i aelodau ennill achrediad proffesiynol. 
  • Gweithredu mecanwaith i aelodau gydnabod y gwaith y maent yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn. 
  • Cydnabod a dathlu gwaith aelodau GGP trwy wobrau blynyddol Daearyddiaeth yn y Llywodraeth.
  • Goruchwylio datblygiad nodiadau pwnc sy’n cael eu creu mewn cydweithrediad â sefydliadau partner.
  • Nodi bylchau mewn canllawiau daearyddol ar draws y sector cyhoeddus.

  • Sicrhau bod canllawiau eraill ar draws y swyddogaeth ddadansoddol yn ymgorffori egwyddorion daearyddiaeth.

Egwyddor 3

Tyfu cymuned amrywiol a chynhwysol o ddaearyddwyr o fewn y proffesiwn a’r sector cyhoeddus.

Bydd yr egwyddor hon yn cael ei chyflwyno drwy waith Dirprwy Bennaeth y Proffesiwn Daearyddiaeth ar gyfer Allgymorth a Llwybrau Talent a Strategaeth Ddigidol a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Bydd ffrwd waith ‘Allgymorth a Llwybrau Talent’ yn sicrhau bod mecanweithiau ar waith i ddatblygu llwybrau amrywiol i dalent gael mynediad at rolau daearyddol ar draws y sector cyhoeddus. 

Bydd ffrwd waith ‘Strategaeth Ddigidol a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant’ yn goruchwylio’r waith o weithredu a chynnal presenoldeb digidol GGP.  Byddant hefyd yn sicrhau bod y proffesiwn yn tyfu fel gofod amrywiol a chynhwysol i gefnogi gweithwyr proffesiynol daearyddiaeth.

Er mwyn cyflawni’r egwyddor hon, bydd y GGP yn: 

  • Creu, tyfu, datblygu a diweddaru adnoddau y gellir eu defnyddio ar gyfer allgymorth i ysgolion, colegau a phrifysgolion.
  • Ymwneud â chynlluniau a rhwydweithiau allgymorth presennol sy’n eu hyrwyddo.
  • Monitro llwybrau mynediad ehangach i’r sector cyhoeddus a sicrhau bod daearyddiaeth yn cael ei chynrychioli (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i brentisiaethau a llwybr carlam)
  • Cynnal a pharhau i ddatblygu safle’r aelodau y gall holl aelodau GGP gael mynediad ato.
  • Gweithio gyda, ac ar draws proffesiynau a rhwydweithiau’r llywodraeth i sicrhau bod dull digidol y GGP yn gydgysylltiedig ac yn gyson.
  • Ymwneud â rhwydweithiau i wella Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y GGP.

Ein cynnig i’n haelodau 

Mae ein cynnig yn gweithio i gyflawni ein gweledigaeth a chefnogi ein haelodau. Mae ein cynnig yn cynnwys; 

  • Cynhadledd flynyddol
  • Gwobrau blynyddol
  • Cylchlythyr misol
  • Gweminarau misol
  • Adnoddau allgymorth
  • Safle pwrpasol i aelodau
  • Adnoddau hyfforddi
  • Yr adnoddau a’r cymorth ehangach sydd ar gael drwy’r Swyddogaeth Ddadansoddi

Gellir dod o hyd i fwy o fanylion am ein cynnig ar ein gwefan. 

Er mwyn cael mynediad i’r cynnig gall gweision sifil, gweision y goron a gweision cyhoeddus gofrestru trwy safle aelodau’r GGP.   

Atodiad - Amcanion y Swyddogaeth Ddadansoddi 

Fel Proffesiwn Dadansoddol, mae ein gwaith hefyd yn cyd-fynd â gwaith y Swyddogaeth Ddadansoddi ehangach a’u hamcanion y gellir eu darllen yn Strategaeth y Swyddogaeth Ddadansoddi ar gyfer 2022 i 2025.  Isod mae’n nodi lle mae’r gwaith GGP yn cyd-fynd â phob amcan AF.  

Amcan strategol 1 y Swyddogaeth Ddadansoddi:  Cefnogi dadansoddiad ymatebol o ansawdd uchel trwy gefnogaeth ganolog, arweiniad a chyngor arbenigol

Yn y maes hwn, byddwn yn: 

  • Parhau i arddangos gwaith y proffesiwn drwy ein Gwobrau Daearyddiaeth yn y Llywodraeth a Gwobrau ehangach y Swyddogaeth Ddadansoddi. Bydd hyn yn parhau drwy gydol y flwyddyn drwy greu cronfa ddata o astudiaethau achos sydd ar gael yn fewnol ac yn allanol.
  • Canfod canllawiau presennol ar draws adrannau a sefydliadau ein haelodau i sicrhau bod ein haelodau yn cael eu cefnogi yn y gwaith y maent yn ei wneud.  Lle bo angen, byddwn yn gweithio gyda’n haelodau a’n partneriaid i ddatblygu canllawiau penodol.
  • Datblygu cynnig mentora a hyfforddiant i gefnogi datblygiad proffesiynol ein haelodau.
  • Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau daearyddol a chynnig arbenigedd ar draws y Swyddogaeth Ddadansoddi.
  • Gweithio drwy Benaethiaid Proffesiwn a Phenaethiaid Cymuned Sefydliadol i ddarparu rhwydweithiau ar lefel leol lle mae gan aelodau gefnogaeth yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Amcan strategol 2 y Swyddogaeth Ddadansoddi: Hyrwyddo dadansoddiad effeithiol ac effeithlon trwy offer a thechnegau arloesol

Yn y maes hwn, byddwn yn: 

  • Ymgysylltu ag aelodau sy’n gweithio yn y maes hwn i hyrwyddo’r gwaith ar draws y proffesiwn a chaniatáu i aelodau ddatblygu eu hunain yn y maes.

Amcan strategol 3 y Swyddogaeth Ddadansoddi: Cefnogi dadansoddwyr drwy osod a gwella ymwybyddiaeth o safonau dadansoddol

Yn y maes hwn, byddwn yn:

  • Ymwneud â phroffesiynau eraill i hyrwyddo safonau y gellir eu cymhwyso i’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn rolau daearyddol.
  • Creu lle i aelodau ddefnyddio polisi ac arweiniad gwahanol i hyrwyddo arfer gorau a rhannu gwybodaeth.

Amcan strategol 4 y Swyddogaeth Ddadansoddi: Galluogi dadansoddiad cydgysylltiedig trwy adeiladu cymuned amrywiol a gweithgar

Yn y maes hwn, byddwn yn:

  • Ymgysylltu â’n haelodau trwy amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys y safle i aelodau a’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Datblygu mentrau i ganiatáu i aelodau rwydweithio a ffurfio eu cysylltiadau/cylchoedd proffesiynol.
  • Ymgysylltu ag aelodau ar lefel leol i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi yn eu hadrannau a’u sefydliadau.

Amcan strategol 5 y Swyddogaeth Ddadansoddi: Sicrhau bod gennym bobl fedrus yn y lle iawn ar yr adeg iawn

Yn y maes hwn, byddwn yn:

  • Parhau i ymwneud â phroffesiynau dadansoddol eraill i sicrhau bod daearyddwyr yn cael eu cydnabod yn broffesiynol.

Amcan strategol 6 y Swyddogaeth Ddadansoddi: Darparu arweinyddiaeth ddadansoddol ddylanwadol, cydgysylltiedig ac ymatebol

Yn y maes hwn, byddwn yn: 

  • Tyfu arweinyddiaeth GGP i ymgorffori arbenigedd ehangder y sector sy’n ymgorffori rolau ar lefel fwy lleol (sefydliadol neu ddatblygiadol).
  • Creu rhwydwaith ar gyfer Penaethiaid Proffesiwn a Phenaethiaid Cymuned Sefydliadol i rannu gwybodaeth arfer orau.

Mae mwy o wybodaeth am sut mae’r Swyddogaeth Ddadansoddi yn datblygu yn y maes hwn i’w gweld yn Strategaeth y Swyddogaeth Ddadansoddi.