Canllawiau

Rhoi rhoddion (fersiwn y we)

Diweddarwyd 25 Chwefror 2026

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Crynodeb

Mae’r canllawiau hyn yn helpu dirprwyon ac atwrneiod i ddeall sut i fynd ati i roi rhoddion ar ran y sawl y maent yn gweithredu ar ei ran.

Pwrpas a chwmpas

Mae’r canllawiau hyn yn egluro’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer rhoi rhoddion a’r dull y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn ei ddefnyddio pan fydd dirprwyon neu atwrneiod yn mynd y tu hwnt i’w hawdurdod i roi rhoddion.

Mae’n berthnasol i bob atwrnai a benodir dan atwrneiaeth arhosol (LPA) gofrestredig ar gyfer eiddo a materion ariannol neu dan atwrneiaeth barhaus (EPA). Mae hefyd yn berthnasol i ddirprwyon a benodir gan y Llys Gwarchod i reoli eiddo a materion ariannol rhywun nad oes ganddo alluedd i wneud penderfyniadau.

Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddiwygio’r canllawiau hyn ar unrhyw adeg, yn enwedig er mwyn cydymffurfio â dyfarniadau newydd y Llys Gwarchod.

Egwyddorion rhoi

Ar gyfer dirprwy neu atwrnai, rhodd yw pan fyddwch yn symud perchnogaeth arian, eiddo neu eiddo personol oddi wrth y sawl yr ydych yn rheoli ei faterion i chi eich hun neu i bobl eraill, heb daliad llawn yn gyfnewid am hynny.

Mae penderfynu rhoi rhodd yn rhan bwysig o fod yn ddirprwy neu atwrnai. Gall rhoddion helpu i gyfleu dymuniadau a theimladau’r unigolyn. Gallant hefyd helpu i warchod y perthnasoedd gyda theulu a ffrindiau’r sawl yr ydych yn helpu i ofalu am ei gyllid.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o reolau llym rhoi rhodd. Fel dirprwy neu atwrnai, mae gennych bwerau cyfyngedig i roi rhoddion ar ran unigolyn ac efallai y bydd angen i chi ofyn am awdurdod y Llys Gwarchod pan fyddwch yn gwneud hynny. Y rheswm am hyn yw mai dim ond mewn rhai amgylchiadau y mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (‘y Ddeddf’) yn caniatáu i chi roi rhodd. Gall atwrneiod a dirprwyon roi rhoddion bach achlysurol ar achlysuron arferol i unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r unigolyn. Rhaid i roddion fod yn rhesymol, yn fforddiadwy ac er lles gorau’r unigolyn. Mae gan atwrneiod sy’n gweithredu o dan atwrneiaeth arhosol a dirprwyon a benodir gan y Llys Gwarchod ddyletswyddau gweddol debyg wrth wneud penderfyniadau ynghylch rhoi rhoddion o dan y Ddeddf neu eu gorchymyn dirprwyaeth, neu’r ddau. Mae gan atwrneiod sy’n gweithredu dan Atwrneiaethau Parhaus ddyletswyddau tebyg ond nid yr un fath. Rhaid i atwrneiod hefyd ddilyn telerau (cyfarwyddiadau) yr Atwrneiaeth Barhaus neu’r Atwrneiaeth Arhosol benodol y maent yn gweithredu yn unol â hi.

Cyn gwneud rhodd, rhaid i chi ystyried a oes gan yr unigolyn:

  • alluedd meddyliol i ddeall y penderfyniad i roi rhodd
  • fodd o gymryd rhan yn y penderfyniad

Nid oes un dull penodol o ymdrin â rhoddion. Rhaid i atwrneiod a dirprwyon wneud pob penderfyniad gan ystyried ei gyd-destun a’i amseriad ei hun. Fel gyda phob penderfyniad a wneir gan ddirprwy neu atwrnai, y prif brawf yw a yw er lles gorau’r unigolyn.

Mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi weithredu er lles gorau’r unigolyn. Rydych yn cyfrifo’r budd pennaf ar bob achlysur, gan ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol. Yn benodol, rhaid i chi ddilyn y camau a amlinellir yn adran 4 y Ddeddf.

Galluedd i wneud penderfyniad ar roi rhodd

Cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch rhoi, rhaid i chi geisio canfod a oes gan yr unigolyn y galluedd meddyliol i wneud y penderfyniad ei hun. Os oes gan yr unigolyn alluedd i roi rhodd, dylai wneud y rhodd ei hun fel arfer, yn hytrach na dweud wrthych chi am wneud y penderfyniad ar ei ran.

Dyma’r rhesymau am hyn:

  • fel dirprwy, mae eich awdurdod wedi’i gyfyngu’n llwyr i wneud penderfyniadau nad oes gan yr unigolyn alluedd i’w gwneud
  • fel atwrnai, rydych wedi’ch cyfyngu gan y terfynau cyfreithiol ar eich awdurdod rhoi rhoddion, hyd yn oed os yw’n ymddangos bod gan yr unigolyn alluedd a’i fod wedi’ch cyfarwyddo i roi rhodd ar ei ran

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn nodi sut i asesu galluedd meddyliol, proses gyda sawl cam. Er mwyn gallu gwneud penderfyniad, dywed adran 3 o’r Ddeddf fod yn rhaid i’r unigolyn allu sicrhau’r canlynol:

  • deall yr wybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad
  • cadw’r wybodaeth honno (ei chadw yn eu cof)
  • pwyso a mesur neu ddefnyddio’r wybodaeth honno
  • cyfathrebu ei benderfyniad

Mae gwybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad yn cynnwys gwybodaeth am beth allai ddigwydd os ydyn nhw’n gwneud y penderfyniad ai peidio.

Mae galluedd meddyliol yn benodol i benderfyniadau. Mae hyn yn golygu y gallai rhywun sydd â galluedd i wneud un penderfyniad fod heb alluedd i wneud penderfyniad arall.

Os ydych chi’n credu bod gan yr unigolyn alluedd i wneud penderfyniad ynghylch rhoi, dylech gadw cofnod o’r camau a gymerwyd gennych i wneud yn siŵr ei fod yn gwneud hynny. Gall y Gwarcheidwad Cyhoeddus ofyn i chi esbonio eich penderfyniad ar unrhyw adeg, neu gallai eraill eich herio yn nes ymlaen.

© Hawlfraint y Goron 3 Hyd yn oed os yw’n ymddangos bod gan yr unigolyn alluedd i roi rhodd, rhaid i chi barhau’n ofalus pan fydd yn mynegi dymuniad i wneud un. Os oes rhodd sylweddol yn gysylltiedig, efallai y bydd angen i chi geisio cyngor cyfreithiol annibynnol neu drefnu asesiad galluedd meddyliol, neu’r ddau.

Gall barn feddygol am allu’r unigolyn fod yn ddefnyddiol pan fyddwch chi neu eraill yn ansicr.

Mae rhagor o ganllawiau ar asesu galluedd ar gael ym mhennod 4 Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Cynnwys yr unigolyn yn y penderfyniad

Os yw’r gyfraith yn caniatáu i rodd gael ei rhoi (gweler ‘Beth ellir ei roi fel rhodd’), rhaid i’r dirprwy neu’r atwrnai gynnwys yr unigolyn yn y penderfyniad. Os nad oes gan yr unigolyn alluedd i benderfynu ynghylch rhodd, mae’n dal yn rhaid i chi ymgynghori ag ef neu ei annog i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau - neu’r ddau - fel ffordd o ganfod ei ddymuniadau neu ei deimladau am y rhodd.

Hyd yn oed os nad oes gan yr unigolyn allu i wneud y penderfyniad, efallai fod ganddo farn amdano a bod yn well ganddo un dewis yn hytrach nag un arall. Gall eu cynnwys helpu i ganfod beth sydd er eu lles pennaf.

Fodd bynnag, gall fod yn rhesymol rhoi llai o bwys ar ddymuniadau a theimladau’r unigolyn os nad yw gwneud hynny er lles gorau’r unigolyn. Mae’r cyfan yn dibynnu ar y penderfyniad dan sylw.

Mae Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn mynd i fwy o fanylder ym mharagraffau 5.23-5.24 ynghylch sut i gynnwys rhywun heb alluedd wrth wneud penderfyniadau.

Beth ellir ei roi fel rhodd

Mae’r rheol gyffredinol ar gyfer dirprwyon ac atwrneiod ynghylch rhoi rhoddion yn syml: ar wahân i rai eithriadau, mae’r gyfraith yn dweud na ddylech roi rhoddion o ystad yr unigolyn. Os yw atwrnai neu ddirprwy am roi rhodd sydd y tu allan i’r cyfyngiadau yn y gyfraith neu yn yr atwrneiaeth arhosol, yr atwrneiaeth barhaus neu’r gorchymyn dirprwyaeth, rhaid iddynt wneud cais i’r Llys Gwarchod am gymeradwyaeth.

Ar gyfer atwrneiod sy’n gweithredu dan Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol cofrestredig, nodir yr eithriadau hyn yn adran 12(2) y Ddeddf. I gyfrif fel eithriad, rhaid i’r rhodd fodloni’r tri phwynt isod. Rhaid iddo fod:

  1. yn cael ei roi ar achlysur arferol ar gyfer gwneud rhoddion o fewn teuluoedd neu ymysg ffrindiau a chymdeithion (er enghraifft, genedigaethau, pen-blwyddi, priodasau neu bartneriaethau sifil, Nadolig, Eid, Diwali, Hanukkah a’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd)
  2. i rywun sy’n perthyn neu’n gysylltiedig â’r unigolyn neu (os nad yw’n unigolyn) i elusen y mae’r unigolyn wedi’i chefnogi neu y gallai fod wedi’i chefnogi
  3. o werth rhesymol, gan ystyried yr amgylchiadau ym mhob achos ac, yn benodol, maint ystad yr unigolyn

Ar gyfer atwrneiod sy’n gweithredu dan atwrneiaeth barhaus, nodir yr eithriadau ym mharagraff 3(3) atodlen 4 y Ddeddf. Maent yn debyg i’r eithriadau ar gyfer atwrneiaeth arhosol ond ychydig yn fwy cyfyngedig o ran yr hyn y maent yn ei ganiatáu. Ar gyfer atwrneiod atwrneiaeth barhaus, rhaid i rodd dderbyniol fodloni’r tri phwynt isod. Rhaid iddi fod:

  1. o natur dymhorol (er enghraifft, anrheg Nadolig) neu gael ei rhoi ar ben-blwydd genedigaeth, priodas neu bartneriaeth sifil
  2. wedi’i rhoi i rywun (gan gynnwys yr atwrnai) sy’n perthyn neu’n gysylltiedig â’r unigolyn neu ag elusen yr oedd yr unigolyn yn ei chefnogi neu y gallai fod wedi’i chefnogi
  3. o werth nad yw’n afresymol, gan ystyried yr holl amgylchiadau ac, yn benodol, maint ystad yr unigolyn

Mae’r cyfyngiadau ar roddion hefyd yn berthnasol i roddion a wneir gan atwrneiod sy’n gweithredu dan atwrneiaethau parhaus heb eu cofrestru, os yw’r unigolyn yn dal i feddu ar alluedd i wneud penderfyniadau a’i fod wedi cytuno i’r atwrnai ddefnyddio’r atwrneiaeth barhaus. Byddech yn torri eich awdurdod petaech yn gweithredu yn groes i ddymuniadau rhoddwr sydd â galluedd meddyliol.

Rhaid i atwrneiod hefyd ddilyn unrhyw gyfyngiadau neu amodau a nodir yn yr atwrneiaeth barhaus neu’r atwrneiaeth arhosol ynghylch rhoddion. Sylwch mai dim ond y pwerau y mae’r gyfraith yn eu rhoi i atwrneiod y gall y sawl a wnaeth yr atwrneiaeth barhaus neu’r atwrneiaeth arhosol eu cyfyngu - ni all yr unigolyn ehangu’r pwerau hynny.

Ar gyfer dirprwyon a benodir gan y llys, nodir y pŵer i roi rhoddion yn eu gorchymyn dirprwy. Mae hyn fel arfer yn debyg i awdurdod statudol (cyfreithiol) atwrnai. Mae’r rhan fwyaf o orchmynion llys yn cynnwys ‘awdurdod cyffredinol’ sydd fel arfer wedi’i leoli yn adran 2 y gorchymyn, er bod rhai gorchmynion yn rhoi awdurdod penodol.

Mae awdurdod cyffredinol dirprwy i roi rhoddion yn debyg iawn i adran 12 y Ddeddf:

  1. rhoi rhoddion ar achlysuron arferol i bobl sy’n perthyn i’r unigolyn neu’n gysylltiedig ag ef ar yr amod nad yw gwerth y rhodd yn afresymol ac ystyried yr holl amgylchiadau ac, yn benodol, maint yr ystad
  2. rhoi rhoddion i elusennau y gallai’r unigolion fod wedi’u rhoi, ar yr amod nad yw’r rhodd yn afresymol ac ystyried yr holl amgylchiadau ac, yn benodol, maint yr ystad

Fel dirprwy neu atwrnai, does dim rhaid i chi roi unrhyw roddion a rhaid i chi beidio â gadael i bobl eraill roi pwysau arnoch chi i’w rhoi. Gall atwrneiod a dirprwyon dderbyn rhoddion, ond dim ond pan fydd adran 12(2) o’r Ddeddf neu’r gorchymyn dirprwyaeth yn caniatáu hynny.

Efallai y bydd dirprwyon ac atwrneiod yn dymuno gofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol os ydynt yn ansicr ynghylch yr hyn y gellir ei roi fel rhodd.

Beth yw rhodd resymol?

Nid yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn diffinio rhodd ‘rhesymol’ neu ‘afresymol’ pan ddaw’n fater o asesu a yw rhodd arfaethedig o fewn awdurdod atwrnai neu ddirprwy i’w rhoi. Disgwylir I chi benderfynu faint sy’n rhesymol. Ni all Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus roi ffigurau na chanllawiau manwl gywir. Os ydych chi’n poeni nad yw’r rhodd o fewn eich awdurdod i’w rhoi, rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod.

I benderfynu a yw rhodd yn rhesymol ai peidio, rhaid i chi ystyried y canlynol:

  1. Effaith y rhodd ar sefyllfa ariannol yr unigolyn. Rhaid i chi ystyried ei incwm, ei asedau, ei gyfalaf a’i gynilion nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â’i anghenion nawr ac yn y dyfodol. Ystyried a yw ei incwm yn ddigon i dalu am ei wariant arferol ac a fydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol - ac a fyddai’r rhodd yn effeithio ar hynny
  2. A fyddai gwneud y rhodd er lles gorau’r unigolyn
  3. Anghenion yr unigolyn ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, fel gofal amser llawn

Nid yw penderfyniad er lles pennaf yr un fath â gofyn beth fyddai’r unigolyn yn ei benderfynu petai ganddo alluedd. Rhaid i chi feddwl am y canlynol:

  • a oedd yr unigolyn yn arfer rhoi rhoddion neu fenthyciadau o faint penodol cyn iddo golli galluedd
  • disgwyliad oes yr unigolyn
  • y posibilrwydd y bydd yn rhaid i’r unigolyn dalu am gostau gofal neu ffioedd cartref gofal yn y dyfodol (er enghraifft, a fydd ei hawl i gyllid gofal parhaus y GIG yn cael ei adolygu ac y gellid ei ddileu os yw ei gyflwr yn debygol o wella - gweler yr adran ‘Amddifadu o asedau’ yn y canllawiau hyn)
  • swm y rhodd - dylai fod yn fforddiadwy ac ni ddylai fod yn fwy na’r swm arferol ar achlysur arferol nac ar gyfer rhodd elusennol
  • i ba raddau y gallai unrhyw roddion ymyrryd ag etifeddiaeth ystad yr unigolyn dan ei ewyllys, neu heb ewyllys os oes rhaid creu un
  • effaith treth etifeddiant ar farwolaeth yr unigolyn
  • y berthynas rhwng yr unigolyn y mae’r gorchymyn atwrneiaeth arhosol, atwrneiaeth barhaus neu ddirprwyaeth ar ei gyfer a’r unigolyn y mae’r rhodd ar ei gyfer
  • unrhyw gofnod o ddymuniadau a theimladau’r unigolyn fel ewyllys neu ddymuniadau a chyfarwyddiadau a fynegir yn ei atwrneiaeth arhosol

Nid yw hon yn rhestr gyflawn - efallai y bydd pethau eraill i’w hystyried sy’n berthnasol i amgylchiadau penodol yr unigolyn.

Ar gyfer pwy mae’r rhoddion?

Wrth benderfynu a yw rhoddion yn rhesymol, dylech hefyd ystyried y canlynol:

  • ydych chi’n trin aelodau o’r teulu’n gyfartal - os nad ydych chi, a oes rheswm da?
  • ydych chi’n manteisio ar eich sefyllfa drwy roi rhoddion i chi eich hun neu i’ch teulu yn unig a pheidio ag ystyried rhoi rhoddion i eraill
  • mae rhodd arfaethedig ar gyfer rhywun nad yw’n berthynas i’r unigolyn neu sydd â chysylltiad agos ag ef/hi - os nad yw, gall y rhodd fod y tu hwnt i’ch awdurdod oni bai ei bod i elusen y gallai’r unigolyn fod wedi cyfrannu ati

  • roedd yr unigolyn wedi rhoi rhoddion i rywun cyn iddo golli galluedd, ac felly a fyddai’n rhesymol rhoi rhoddion iddo nawr?

Byddwch yn arbennig o ofalus os ydych chi’n ystyried derbyn rhodd i chi’ch hun gan ystad yr unigolyn. Gweler ‘Rhoi rhodd i chi eich hun’.

Dymuniadau a theimladau

Mae’r rhain yn ddatganiadau ysgrifenedig o ddymuniadau’r unigolyn, fel arfer wedi’u cynnwys mewn atwrneiaeth arhosol, ewyllys neu ddatganiad arall o fwriad. Rhaid ystyried unrhyw ddymuniadau a theimladau hysbys fel rhan o unrhyw benderfyniadau er lles pennaf a gallant helpu i benderfynu a yw rhodd yn debygol o fod yn rhesymol. Fodd bynnag, nid gwneud yr hyn y byddai’r unigolyn wedi’i wneud ei hun pan oedd ganddo alluedd meddyliol yn unig yw gwneud penderfyniad er lles pennaf.

Os yw’r unigolyn wedi cofnodi dymuniad i’w arian gael ei ddefnyddio mewn ffordd benodol, dylai’r atwrnai neu’r dirprwy ystyried y dymuniadau hynny wrth wneud penderfyniadau ar ei ran. Fodd bynnag, rhaid i’r atwrnai neu’r dirprwy weithredu er lles gorau’r unigolyn bob amser a rhaid iddo bwyso a mesur dymuniadau a theimladau yn erbyn yr holl amgylchiadau perthnasol eraill megis fforddiadwyedd a rhesymoldeb. Efallai y byddwch yn penderfynu nad oes modd cyflawni dymuniadau’r unigolyn er mwyn diogelu ei lesiant.

Dewisiadau a chyfarwyddiadau

Mae atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus yn caniatáu i’r sawl sy’n eu gwneud fynegi dymuniadau a chyfarwyddiadau penodol, y cyfeirir atynt hefyd fel amodau a chyfyngiadau, ynghylch sut y dylai eu hatwrneiod weithredu. Dylai atwrneiod bob amser ddarllen dymuniadau a chyfarwyddiadau yng nghyd-destun Deddf Galluedd Meddyliol 2005 wrth ystyried penderfyniadau ynghylch rhoi rhoddion.

Cofnod ysgrifenedig o ddymuniadau a theimladau i atwrneiod atwrneiaethau arhosol eu hystyried fel rhan o’r broses gwneud penderfyniadau er lles pennaf yw dymuniadau. Gelwir dewisiadau’n amodau mewn atwrneiaeth barhaus.

Cyfarwyddiadau yw camau y mae’n rhaid i atwrneiod atwrneiaeth arhosol eu cymryd fel rhan o’u cyfrifoldebau tuag at yr unigolyn. Gelwir cyfarwyddiadau yn gyfyngiadau mewn atwrneiaeth barhaus.

Yn achos: Atwrneiaethau Arhosol Amrywiol [2019] EWCOP 40, dywedodd y Barnwr Hilder na all ‘rhoddwr’ atwrneiaeth arhosol (y term cyfreithiol ar gyfer y sawl a’i gwnaeth) gynnwys cyfarwyddyd sy’n awdurdodi rhodd na fyddai’n cael ei chaniatáu o dan y cyfyngiadau yn adran 12 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Y rheswm am hyn yw bod yn rhaid i’r atwrnai wneud penderfyniadau er lles gorau’r rhoddwr a gallai cyfarwyddiadau o’r fath eu hatal rhag gwneud hynny. Fodd bynnag,

os yw’r rhoddwr am fynegi dymuniad i’r atwrnai ddefnyddio ei arian er budd rhywun arall, gellir cynnwys hyn fel dewis. Mae hyn yn caniatáu i’r atwrnai ystyried y dewis fel rhan o wneud penderfyniad er lles pennaf, ond nid oes rhaid iddo ei ddilyn.

Dim ond cyfyngu ar bwerau’r atwrnai y gall yr unigolyn sy’n gwneud atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus ac ni all eu hehangu.

Ewyllys yr unigolyn

Gallwch ystyried cynnwys ewyllys unigolyn wrth wneud penderfyniadau ynghylch rhoi, gan ei fod yn arwydd o ddymuniadau’r unigolyn.

Fodd bynnag, nid yw ystyried yr ewyllys yn golygu y gallwch roi asedau’r unigolyn yn y ffordd y mae’r ewyllys yn dweud yn ystod ei oes.

Rhaid i’r atwrnai neu’r dirprwy weithredu er lles gorau’r unigolyn bob amser a rhaid iddo bwyso a mesur dymuniadau yn erbyn yr holl amgylchiadau perthnasol eraill megis fforddiadwyedd a rhesymoldeb.

Mae gan Gymdeithas y Cyfreithwyr a Chymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedau ac Ystadau ganllawiau ynghylch pryd y gall cyfreithiwr ddatgelu (dangos) copi o ewyllys cleient.

Darparu ar gyfer anghenion pobl eraill

Nid yw taliad cynhaliaeth yn cael ei ystyried yn rhodd dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Nid yw defnyddio arian yr unigolyn er budd rhywun arall yn rhodd pan fo rhwymedigaeth i gynnal rhywun arall.

Nid yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn dweud yn uniongyrchol y gall atwrnai atwrneiaeth arhosol fod o fudd iddo’i hun nac i bobl eraill drwy ddarparu ar gyfer ei anghenion. Fodd bynnag, mae’r Llys Gwarchod wedi cadarnhau mewn rhai achosion y gall atwrnai atwrneiaeth arhosol ddefnyddio arian yr unigolyn er budd rhywun arall pan fydd yr atwrnai dan rywfaint o rwymedigaeth i ddefnyddio’r arian yn y ffordd honno.

Yn achos Atwrneiaethau Parhaol Amrywiol [2019] EWCOP 40, dywedodd y Barnwr Hilder y gallai fod yn ofynnol i’r unigolyn gynnal rhywun arall oherwydd:

  • cyfraith gyffredinol (fel rhwymedigaethau cynnal a chadw priod) neu
  • effaith a4(6) y Ddeddf

Mae A4(6) y Ddeddf yn datgan bod yn rhaid i’r atwrnai ystyried dymuniadau a theimladau’r unigolyn yn y gorffennol a’r presennol, ac yn benodol, unrhyw ddatganiad ysgrifenedig perthnasol a wneir gan yr unigolyn pan oedd ganddo alluedd (megis mynegiant o ddymuniadau mewn atwrneiaeth barhaol).

Rhaid i’r atwrnai hefyd ystyried yn rhesymol bod taliad cynhaliaeth er lles gorau’r rhoddwr ar yr adeg y gwneir y taliad. Dyna pam ei bod yn bwysig ystyried sefyllfa ariannol yr unigolyn.

Os na all ystad y rhoddwr ddiogelu ei fuddiannau ei hun mwyach a hefyd fod o fudd i rywun arall, gall yr atwrnai ddod i’r casgliad na ellir cyflawni’r dymuniad. Dim ond dymuniadau, teimladau, gwerthoedd a chredoau’r unigolyn y mae angen i wneuthurwr penderfyniadau er lles pennaf eu hystyried. Does dim angen iddyn nhw weithredu arnyn nhw (gweler ‘Dymuniadau a theimladau’).

Fel arfer, dim ond os yw un o’r pwyntiau hyn yn berthnasol y cewch ddarparu ar gyfer anghenion pobl eraill:

  • bod yr unigolyn wedi darparu ar gyfer yr anghenion hynny yn y gorffennol
  • ei bod yn rhesymol casglu y byddai’r unigolyn wedi darparu ar gyfer yr anghenion hynny Nid yw ‘anghenion’ wedi’u diffinio yn y Ddeddf ond, yn gyffredinol, bwriedir iddynt gynnwys:
  • sefyllfaoedd fel cadw priod (gwraig, gŵr neu bartner sifil) neu berthnasau dibynnol
  • sefyllfaoedd lle ceir tystiolaeth bod yr unigolyn wedi gwneud darpariaeth ariannol ar gyfer eraill yn y gorffennol, am resymau penodol, ac y byddai’n debygol o wneud hynny eto yn y dyfodol

Dywedodd y Barnwr Hilder (ym mharagraff 68 Atwrneiaethau Arhosol Amrywiol):

Fodd bynnag, oni ddangosir credoau a gwerthoedd o’r fath yn glir, neu oni ddangosir yn benodol ddymuniadau yn yr adnodd, lle bo defnyddio arian dan ystyriaeth yn arwain at wrthdaro rhwng buddiannau ar ran yr atwrnai, dylai’r atwrnai wneud cais i’r llys am awdurdod ymlaen llaw yn unol ag adran 23(2) y Ddeddf.

Dylech wneud cais i’r Llys Gwarchod os nad yw’n glir a oes rhwymedigaeth i gadw rhywun arall (naill ai o dan gyfraith gyffredinol neu yn unol â dymuniadau a theimladau’r unigolyn) neu os nad yw’n glir a yw’r taliadau’n rhesymol.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i atwrneiod gyfeirio at Hilder’s Using Donors’ Funds to Benefit Others: An Attorney’s Decision Tree.

Gall atwrneiod atwrneiaeth barhaus gadw rhywun ar wahân i’r unigolyn a wnaeth yr atwrneiaeth barhaus os gallai’r unigolyn fod wedi darparu ar gyfer anghenion rhywun arall ei hun (gweler paragraff 3(2) atodlen 4 i’r Ddeddf). Fodd bynnag, ni all yr atwrnai wneud hyn ond i’r graddau y gellid disgwyl i’r unigolyn a wnaeth yr atwrneiaeth barhaus ddarparu ar gyfer neu ddiwallu ‘anghenion’ yr unigolyn arall, a dim pellach. Dylech wneud cais i’r Llys Gwarchod yn gyntaf os bydd y taliadau arfaethedig yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol.

Mae’r rhan fwyaf o orchmynion dirprwy yn caniatáu i ddirprwy ofalu am ‘anghenion’ unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r unigolyn.

Dylech wneud cais i’r llys os oes unrhyw amheuaeth ynghylch a allwch ddibynnu ar y ddarpariaeth hon i wneud taliadau i rywun ar wahân i’r unigolyn.

Taliadau gofal teulu

Mewn rhai sefyllfaoedd, mae’n well i aelod o’r teulu ofalu am yr unigolyn. Os nad yw’r llys wedi awdurdodi taliadau o ystad yr unigolyn am y gofal hwnnw, gall y taliadau hynny gyfrif fel rhodd heb ei hawdurdodi.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar daliadau gofal teulu.

Rhoi eiddo

Mae unrhyw rodd neu drosglwyddiad eiddo tirol (er enghraifft, tir neu dŷ) - naill ai’r eiddo cyfan neu ran ohono - bron yn sicr y tu allan i’ch pwerau fel dirprwy neu atwrnai, er gwaethaf yr hyn y gallai’r unigolyn fod wedi’i ddweud pan oedd ganddo alluedd meddyliol. I wneud rhodd o’r fath, mae’n debygol y bydd yn rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod am ganiatâd. Mae hyn yn cynnwys rhoi’r enillion (y swm a dderbynnir ar ôl gwerthu) o eiddo’r unigolyn yn rhodd.

Gallwch ddewis rhoi eiddo personol neu ddodrefn o werth bychan neu sentimental i aelodau’r teulu - er enghraifft, wrth gael gwared ar gynnwys tŷ’r unigolyn.

Ni ddylech roi eitemau sy’n werth llawer, oni bai fod y Llys Gwarchod yn awdurdodi hynny.

Rhoi benthyciadau

Ni ddylai atwrneiod a dirprwyon fanteisio ar eu swydd na rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle mae eu buddiannau personol yn gwrthdaro â’u dyletswyddau.

Nid oes gan atwrneiod a benodir dan atwrneiaeth barhaol neu atwrneiaeth barhaus awdurdod i gymryd benthyciadau o gronfeydd yr unigolyn ar eu cyfer nhw eu hunain nac unrhyw un arall. Nid yw’r awdurdod cyffredinol mewn gorchymyn dirprwy yn cynnwys awdurdod i gymryd benthyciadau ac ni chaiff dirprwyon wneud hynny oni bai fod ganddynt awdurdod penodol gan y Llys Gwarchod.

Rhaid i ddirprwyon ac atwrneiod wneud cais i’r Llys Gwarchod am awdurdodiad os ydynt yn dymuno cymryd benthyciad.

Bydd unrhyw fenthyciad a gymerir ar eich rhan chi neu ar ran unrhyw un arall o gyllid yr unigolyn heb awdurdod yn cael ei drin fel rhodd heb awdurdod gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Ni all Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gymeradwyo benthyciadau na chynlluniau ad-dalu ac efallai y byddwn yn gofyn i chi ad-dalu’r swm ar unwaith neu’n eich cyfeirio at y Llys Gwarchod i’w dynnu o’ch rôl fel atwrnai neu ddirprwy.

Gwneud cais i’r Llys Gwarchod

Os ydych chi eisiau rhoi rhodd nad oes gennych chi’r awdurdod i’w rhoi dan eich gorchymyn dirprwy neu’ch atwrneiaeth, bydd angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod. Ni all Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gymeradwyo rhodd - dim ond y llys all wneud hynny.

Dylech aros nes i chi gael ateb gan y Llys cyn rhoi’r rhodd. Isod ceir rhestr o enghreifftiau lle mae’n rhaid i ddirprwy neu atwrnai wneud cais i’r Llys Gwarchod yn gyntaf:

  • Creu ymddiriedolaeth i rywun o eiddo’r unigolyn
  • Amrywio ewyllys rhywun sydd wedi marw drwy ddefnyddio gweithred amrywio i ailgyfeirio neu ailddosbarthu cyfran yr unigolyn o’r ystad
  • Buddsoddiadau ym musnes yr unigolyn ei hun
  • Gwerthu neu brynu eiddo sy’n is na gwerth y farchnad
  • Unrhyw drafodion eraill lle ceir gwrthdaro rhwng buddiannau’r atwrnai neu’r dirprwy ei hun a buddiannau’r unigolyn

Rhaid i atwrneiod a dirprwyon hefyd wneud cais i’r llys lle gwneir taliadau eraill

nad ydynt wedi’u cynnwys yn eithriadau rhoi’r Ddeddf nac yn y gorchymyn llys am ddirprwy. Dyma rai enghreifftiau:

  • Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch a ddylai atwrneiod neu ddirprwyon atwrneiaeth arhosol wneud y penderfyniad i gadw rhywun ar wahân i’r unigolyn ai peidio
  • Gwneud benthyciad, gyda llog neu hebddo, o arian yr unigolyn, gan nad oes gan yr atwrnai neu’r dirprwy awdurdod i wneud hyn
  • Lle bo atwrnai neu ddirprwy’n dymuno gwneud taliad y gellid ei ystyried yn afresymol neu ddim er lles gorau’r unigolyn

Ni all y Llys Gwarchod roi cyngor answyddogol ynghylch a all dirprwy neu atwrnai roi rhodd. Rhaid i chi bob amser wneud cais ffurfiol i’r llys.

Llwytho ffurflenni cais y llys oddi ar y we. Neu gallwch chi ffonio’r llys ar 0300 456 4600.

Mae’r Llys Gwarchod yn cyhoeddi cyfarwyddiadau ymarfer sy’n ychwanegu at Reolau’r Llys Gwarchod 2017.

Mae’r rheolau’n dweud beth y gall y llys ei wneud.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 9A yn egluro’r broses o wneud cais i’r llys am rodd.

Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 9D yn nodi gweithdrefn fer ar gyfer ceisiadau cyffredin a syml gan ddirprwyon ac atwrneiod presennol. Mae hefyd yn rhestru sefyllfaoedd lle byddai’r weithdrefn fer hon yn briodol.

Yn y rhan fwyaf o geisiadau am awdurdod i roi rhoddion, bydd yr unigolyn yr ydych yn rheoli ei arian yn ‘ymuno fel parti’ (wedi’i gynnwys yn swyddogol yn yr achos). Bydd y Cyfreithiwr Swyddogol (rhywun sy’n cynrychioli pobl heb alluedd meddyliol) yn cael ei benodi i weithredu fel ‘cyfaill cyfreitha’ yr unigolyn i wneud penderfyniadau am y cais ar ei ran.

Rhagor o wybodaeth am gyfeillion cyfreitha.

Bydd y Cyfreithiwr Swyddogol yn ystyried y dystiolaeth ac yn cynnal ei ymchwiliadau ei hun i benderfynu a yw’r rhodd arfaethedig er lles gorau’r unigolyn. Gall ei ymchwiliad gynnwys trefnu i gwrdd â’r unigolyn i drafod ei farn am y rhodd.

Eithriadau de minimis

Mae’r Llys Gwarchod wedi cydnabod bod sefyllfaoedd lle mae rhodd yn mynd y tu hwnt i awdurdod dirprwy neu atwrnai, ond i’r fath raddau fel nad yw’n gofyn am gais i’r Llys. Mae’r rhain yn aml yn cael eu galw’n ‘eithriadau de minimis’ a dim ond os yw ystad yr unigolyn yn werth mwy na £325,000 y maent yn berthnasol.

Ffactorau eraill i’w hystyried fyddai: disgwyliad oes yr unigolyn; a yw’r rhoddion yn fforddiadwy, gan ystyried costau gofal yr unigolyn, ac ni fyddant yn effeithio’n andwyol (negyddol) ar safon ei ofal ac ansawdd ei fywyd, ac a oes unrhyw dystiolaeth y byddai’r unigolyn yn gwrthwynebu rhoddion o’r gwerth hwn yn cael eu gwneud ar ei ran.

Nid yw’r eithriadau ‘de minimis’ yn berthnasol yn yr amgylchiadau a nodir yn achos Y Gwarcheidwad Cyhoeddus v C [2013] EWCOP 2965 (22 Ionawr 2013). Dyma rai ohonynt:

  • benthyciadau i’r atwrnai neu i aelodau o’i deulu
  • buddsoddiadau ym musnes yr atwrnai ei hun
  • gwerthiannau neu bryniannau sy’n is na’r gwerth
  • unrhyw drafodion eraill lle ceir gwrthdaro rhwng buddiannau’r unigolyn a buddiannau’r atwrnai ei hun

Yn yr achos hwn, dywedodd yr Uwch Farnwr Lush y dylai atwrneiod fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau cyfreithiol ac nad oedd anwybodaeth yn esgus.

Er bod achos Y Gwarcheidwad Cyhoeddus v C yn ddyfarniad a roddwyd mewn achos atwrneiaeth arhosol, defnyddiodd yr uwch farnwr yr un egwyddorion ag a ddefnyddiwyd yn achos MJ a JM a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a oedd yn cynnwys dirprwyon.

Rhoi rhoddion heb ganiatâd

Dylech sicrhau eich bod yn cadw arian ac eiddo’r unigolyn ar wahân i’ch arian a’ch eiddo chi neu arian ac eiddo unrhyw un arall, oni bai fod gennych gyfrifon ar y cyd sydd wedi bod gennych ers tro. Cadwch gofnod o’r trafodion rydych chi’n eu gwneud ar ei ran, yn enwedig os ydych chi’n byw gydag ef ac yn rhannu unrhyw gostau neu filiau.

Dylech gadw cofnod o roddion a’i sefyllfa, er mwyn i chi allu egluro’r rhoddion os oes angen. Dylai dirprwyon gynnwys manylion rhoddion yn eu hadroddiad blynyddol y maent yn ei gyflwyno i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Ymchwiliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ymchwilio a gofyn am esboniad o unrhyw roddion neu drafodion ariannol a wnewch ar ran yr unigolyn fel dirprwy neu atwrnai.

Mae Adran 58(1)(h) o’r Ddeddf a Rheoliad 41 o Reoliadau Atwrneiaeth Arhosol, Atwrneiaeth Barhaus a Gwarcheidwad Cyhoeddus 2007 yn rhoi pŵer i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ymchwilio i gwynion a phryderon ynghylch y ffordd y mae dirprwy neu atwrnai yn cyflawni ei ddyletswyddau. Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ei gwneud yn ofynnol i’r dirprwy neu’r atwrnai ddarparu gwybodaeth a dogfennau.

Os byddwch yn rhoi rhoddion sy’n mynd y tu hwnt i’ch awdurdod heb gael cymeradwyaeth gan y Llys Gwarchod ymlaen llaw, gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wneud y canlynol:

  • gwneud cais i’r llys am gael eich tynnu o’ch rôl fel dirprwy neu atwrnai (ac, os yw’n briodol, gofyn i’r llys benodi dirprwy newydd)
  • gwneud cais i’r llys i’ch atal dros dro o’ch rôl fel dirprwy neu atwrnai ac i rewi cyfrifon yr unigolyn er mwyn ei amddiffyn
  • gwneud cais i’r llys am i fond gwarchodaeth dirprwy (math o yswiriant) gael ei alw i mewn - byddai darparwr y bond wedyn yn gofyn am ad-daliad gennych chi’n bersonol
  • eich cyfarwyddo i wneud cais i’r llys am gymeradwyaeth ôl-weithredol i’r rhodd (cymeradwyaeth ar ôl i chi ei rhoi) - dim ond mewn amgylchiadau lle mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r farn y byddai gan gais o’r fath siawns resymol o lwyddo y gwneir hyn fel arfer
  • gofyn i chi ddychwelyd y rhoddion neu geisio dychwelyd y rhoddion a roddwyd i bobl eraill
  • cyfeirio’r mater at yr heddlu neu sefydliadau eraill sydd â phwerau cyfreithiol

Efallai y bydd y llys yn trefnu gwrandawiad gerbron barnwr, lle bydd disgwyl i chi fynd i egluro eich gweithredoedd. Efallai y bydd y dyfarniad yn cael ei gofnodi ac, mewn rhai achosion, efallai y bydd eich anhysbysrwydd yn cael ei ddileu (sy’n golygu y gallech gael eich enwi’n gyhoeddus).

Efallai y bydd gan ddirprwy neu atwrnai newydd yr awdurdod i gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn i adennill yr arian a wariwyd gennych ar roddion neu’r rhoddion eu hunain.

Rhoi rhodd i chi eich hun

Byddwch yn arbennig o ofalus os ydych chi’n ystyried derbyn rhodd i chi’ch hun gan ystad yr unigolyn. Rhaid i chi beidio â manteisio ar eich swydd fel dirprwy neu atwrnai er eich budd eich hun. Ni ddylai dirprwyon ac atwrneiod ganiatáu i unrhyw ddylanwadau eraill effeithio ar y ffordd y maent yn gweithredu, a dylai penderfyniadau bob amser fod o fudd yr unigolyn.

Os byddwch chi’n derbyn rhodd i chi’ch hun, gall y Llys Gwarchod edrych yn ofalus i weld a oedd gan yr unigolyn alluedd ac efallai y bydd yn penderfynu eich bod wedi mynd y tu hwnt i’ch awdurdod.

Yn achos PG v DH [2014] EWCOP 15 (15 Gorffennaf 2014), penderfynodd y barnwr fod y ffeithiau’n cyfeirio at ‘roddwr’ atwrneiaeth (y term cyfreithiol ar gyfer yr unigolyn a’i gwnaeth) nad oedd ganddo alluedd i gytuno i fenthyciad yr oedd ei mab wedi’i gymryd ar ei heiddo. Yn yr achos hwn, roedd benthyciad y rhoddwr yn cyfrif fel rhodd i’w mab.

Dywedodd y barnwr:

“… hyd yn oed pe bai gan VH y gallu i roi’r rhodd, roedd yn resynus [anghywir] ei fod ef [yr atwrnai] wedi’i derbyn… ac mae’n dangos, wrth wynebu gwrthdaro rhwng ei fuddiannau ei hun a buddiannau ei fam, y byddai’n rhoi ei fuddiannau ei hun yn gyntaf.”

Yr Uwch Farnwr Lush

Amddifadu o asedau

Os bydd yr awdurdod lleol yn trefnu i’r unigolyn fynd i gartref gofal yn barhaol, bydd yn asesu ei incwm, ei gynilion a’i gyfalaf (mathau eraill o gyfoeth, fel eiddo a chyfranddaliadau) i weld a ddylai gyfrannu at gost ei ofal.

Nid yw trosglwyddo ased o enw’r unigolyn o reidrwydd yn ei dynnu o’r asesiad hwn. Wrth asesu a yw preswylydd yn gymwys i gael cymorth, gall yr awdurdod lleol chwilio am dystiolaeth o’r hyn a elwir yn fwriadol yn amddifadu o gyfalaf ac asedau.

Yn achos Yule v Cyngor De Swydd Lanark [2001 SC 203; 2001 SCLR 26], roedd mam yr ymgeisydd wedi trosglwyddo ei thŷ, ei hunig ased cyfalaf (sy’n golygu eitem sylweddol o eiddo), i’w hwyres heb dâl. Ar ôl damwain 16 mis yn ddiweddarach, aeth i gartref nyrsio preswyl a gwneud cais am arian cyhoeddus ar gyfer y ffioedd llety, a wrthodwyd.

Dywedodd y llys fod yr awdurdod lleol yn iawn i ddod i’r casgliad o’r wybodaeth a oedd ganddynt fod cyfalaf wedi’i waredu’n fwriadol.

Mae’r egwyddorion uchod hefyd yn berthnasol pan fydd rhywun yn defnyddio proses amddifadu o asedau i hawlio budd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd.

Dirprwyon a bondiau gwarchodaeth

Mae’r rhan fwyaf o orchmynion dirprwyon yn ei gwneud yn ofynnol i’r dirprwy gael bond gwarchodaeth. Math o yswiriant yw’r bond sy’n diogelu ystad yr unigolyn rhag camreoli ariannol gan y dirprwy.

Os byddwch yn rhoi arian ac eiddo heb awdurdod, gall y Gwarcheidwad Cyhoeddus - neu unrhyw un arall sydd â diddordeb perthnasol yn yr achos - wneud cais i’r Llys Gwarchod am orchymyn i orfodi’r bond i wneud iawn am yr hyn a wariwyd gennych.

Os bydd y llys yn gwneud gorchymyn o’r fath, bydd y cwmni yswiriant yn ad-dalu’r unigolyn (talu’n ôl iddo) ond bydd yn ceisio cael yr arian yn ôl gennych chi’n bersonol fel y dirprwy neu’r cyn ddirprwy. Gall y cwmni yswiriant gymryd camau pellach yn eich erbyn mewn llys sifil i gyflawni hyn.

Y gyfraith droseddol

Pan fydd dirprwy neu atwrnai wedi gwneud taliadau mawr heb awdurdod y maent yn honni eu bod yn rhoddion, bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried gofyn i’r heddlu ymchwilio.

Mae nifer o droseddau y gellid cyhuddo dirprwy neu atwrnai ohonynt. Er enghraifft, mae twyll drwy gamddefnyddio safle yn drosedd o dan adran 4 o Ddeddf Twyll 2006. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw un sydd mewn sefyllfa lle disgwylir iddynt ofalu am fuddiannau ariannol rhywun arall, a pheidio â gweithredu yn ei erbyn. Mae dirprwyon ac atwrneiod yn y sefyllfa hon.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn drosedd camddefnyddio’r sefyllfa honno’n anonest, lle rydych chi’n bwriadu gwneud elw i chi eich hun neu i eraill, achosi colled i’r unigolyn neu roi’r unigolyn mewn perygl o golled.

Darllenwch ddyfarniadau’r Llys Gwarchod ar-lein.

I gael rhagor o wybodaeth

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Blwch Post 16185
Birmingham B2 2WH

Ffôn: 0300 456 0300 (+44 (0)203 518 9639 y tu allan i’r DU)

Relay UK (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 0300 123 1300

Mae’r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener – 9am tan 5pm (10am tan 5pm ar ddydd Mercher)

E-bost: customerservices@publicguardian.gov.uk

Ar-lein: www.gov.uk/government/organisations/office-of-the-public-guardian.cy