Skip to main content
Ymchwil a dadansoddi

Organeddau a addaswyd yn enetig: Lallemand UK Limited (GM/26/01)

Cais gan Lallemand UK Limited i farchnata burum a addaswyd yn enetig yng Nghymru (cyfeirnod GM/26/01W).

Yn berthnasol i Gymru

Dogfennau

Manylion

Er mwyn diogelu iechyd pobl a’r amgylchedd a sicrhau dewis i ddefnyddwyr, mae deddfwriaeth lem ar waith sy’n rheoleiddio rhyddhau organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i’r amgylchedd.

Rhoddir caniatâdau ar gyfer rhyddhau organeddau a addaswyd yn enetig at ddibenion ymchwil a marchnata gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 111 a 112 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002.

Mae Lallemand UK Limited (yn cynrychioli Danstar Ferment A.G.) wedi cyflwyno cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd i farchnata yng Nghymru furum a addaswyd yn enetig ar gyfer bragu cwrw sur.

Mae ceisiadau am ganiatâd i farchnata’r organedd hwn hefyd wedi’u cyflwyno yn Lloegr ac yn yr Alban. Gweler pob organedd a addaswyd yn enetig: cymwysiadau, penderfyniadau a rhybuddion (yn Saesneg).

Mae’n ofynnol inni asesu’r cais hwn gan ddefnyddio cyngor gwyddonol gan y Pwyllgor Cynghori ar Ryddhau i’r Amgylchedd (ACRE). Ar ôl cwblhau’r asesiad, byddwn yn ei gyhoeddi ac yn gwahodd sylwadau ynghylch unrhyw risg o niwed i’r amgylchedd a allai ddeillio o’r rhyddhad y gwneir cais amdano.

Cedwir y gofrestr o geisiadau am ganiatâd, fel y’i nodir yn Rhan VIII o Reoliadau 2002, yn swyddfeydd:

Llywodraeth Cymru
Rhodfa Padarn
Aberystwyth
SY23 3UR

Gellir archwilio’r gofrestr yn bersonol yn ystod oriau swyddfa, sef rhwng 08:30am a 5pm.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â gm-regulation@llys.cymru.

Argraffu'r dudalen hon