Canllawiau

Y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol a Hysbysiadau Cyfuno — CC/FS35

Diweddarwyd 29 September 2022

Y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol a hysbysiadau cyfuno

Dylech ddarllen y daflen wybodaeth hon os ydym wedi rhoi hysbysiad cyfuno i chi o dan y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol (GAAR).

Mae’n bosibl y byddem yn rhoi hysbysiad cyfuno i chi os ydych wedi defnyddio trefniadau yr ydym yn ystyried bod y GAAR yn berthnasol iddynt.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y rhain yn nhaflen wybodaeth CC/FS34a ‘Gwybodaeth am y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol’.

Pan fo’r daflen wybodaeth hon yn cyfeirio at ‘dreth’, mae hyn yn golygu’r trethi, yr ardollau a’r cyfraniadau y mae’r GAAR yn berthnasol iddynt. Mae’r rhain wedi’u rhestru yn nhaflen wybodaeth CC/FS34a. Mae’r daflen wybodaeth hon yn un o gyfres. I weld y rhestr lawn o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem a chwilio o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Rhoi hysbysiad cyfuno gan gymryd bod mantais treth wedi codi

Pan fyddwn yn ystyried y gallai mantais treth fod wedi codi, gallwn roi hysbysiad cyfuno i chi gan gymryd eich bod yn cael mantais treth — heb i ni gytuno bod hynny yn digwydd. Mae paragraff 12 o Atodlen 43A i Ddeddf Cyllid 2013 yn caniatáu i ni wneud hyn.

Trefniadau treth cyfatebol

At ddibenion cyfuno, mae trefniadau treth yn cyfateb i’w gilydd os ydynt, ar y cyfan, yr un peth â’i gilydd, gan roi ystyriaeth i bob un o’r canlynol:

  • canlyniadau gwirioneddol y trefniadau
  • y dull o gyflawni’r canlyniadau hynny
  • y nodweddion sy’n sail i’r ddadl resymol, ym mhob achos, bod y trefniadau yn drefniadau treth ddifrïol ac, o dan y rhain, mae person wedi cael mantais treth

Ynglŷn â chyfuno

Cyfuno yw’r enw ar osod trefniadau mewn cronfa.

Gallwn osod trefniadau treth mewn cronfa pan gredwn fod dwy set neu ragor o drefniadau treth:

  • yn cyfateb i’w gilydd
  • yn arwain at fanteision treth rydym yn ystyried y dylid eu gwrthweithio o dan y GAAR

Does dim rhaid i ni gyfeirio pob set unigol o drefniadau treth at Banel Cynghori’r GAAR am eu barn. Yn hytrach, gallwn gyfeirio un set at y panel. Gelwir unrhyw drefniadau y byddwn yn eu cyfeirio at y panel yn ‘drefniadau a gyfeiriwyd’. Unwaith y byddwn wedi cael barn y panel am y trefniadau a gyfeiriwyd, gallwn arddel y farn honno i’r holl drefniadau treth cyfatebol sydd yn y gronfa.

Gallwn osod eich trefniadau mewn cronfa a rhoi hysbysiad cyfuno i chi o dan baragraff 1 o Atodlen 43A i Ddeddf Cyllid 2013, os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydym wedi rhoi hysbysiad gwrthweithio arfaethedig o fantais treth i berson mewn perthynas â’i drefniadau treth — gelwir y trefniadau treth hyn yn ‘drefniadau arweiniol’
  • mae’r cyfnod o 45 diwrnod ar gyfer gwneud sylwadau mewn perthynas â’r hysbysiad gwrthweithio arfaethedig o fantais treth wedi dod i ben
  • nid ydym wedi rhoi hysbysiad o benderfyniad terfynol mewn perthynas â’r trefniadau arweiniol, nac unrhyw drefniadau sydd eisoes mewn cronfa sydd wedi’i ffurfio drwy gyfeirio at y trefniadau arweiniol, gan nodi a ddylai’r trefniadau treth gael eu gwrthweithio ai peidio — rhoddir yr hysbysiad o benderfyniad terfynol o dan y naill neu’r llall o’r canlynol
    • paragraff 12 o Atodlen 43 i Ddeddf Cyllid 2013, mewn perthynas â threfniadau a gyfeiriwyd
    • paragraff 8 o Atodlen 43B i Ddeddf Cyllid 2013, mewn perthynas â chyfeiriad generig (darllenwch yr adran ‘Cyfeirio trefniadau treth mewn ffordd generig’ isod am ragor o wybodaeth)
  • rydym yn ystyried
    • eich bod wedi cael mantais treth drwy drefniadau treth sy’n ddifrïol
    • bod eich trefniadau treth yn cyfateb i’r trefniadau arweiniol
    • y dylai’r fantais treth gael ei gwrthweithio o dan y GAAR

Mae’r holl drefniadau treth, y rhoddwyd hysbysiadau cyfuno amdanynt oherwydd ein bod yn ystyried eu bod yn cyfateb i drefniadau arweiniol, yn yr un gronfa.

Bydd eich trefniadau treth yn aros yn y gronfa oni bai’ch bod yn cymryd y camau unioni perthnasol. Darllenwch adran ‘Cymryd camau unioni’ isod am ragor o wybodaeth.

Hysbysiadau gwrthweithio arfaethedig

Ni allwn roi hysbysiad cyfuno i chi os ydym eisoes wedi rhoi hysbysiad gwrthweithio arfaethedig o fantais treth i chi mewn perthynas â’ch trefniadau treth. Fodd bynnag, gallwn roi hysbysiad gwrthweithio arfaethedig o fantais treth i chi ar ôl i ni roi hysbysiad cyfuno i chi. Rhoddir hysbysiadau gwrthweithio arfaethedig o fantais treth o dan baragraff 3 o Atodlen 43 i Ddeddf Cyllid 2013.

Ynglŷn â hysbysiadau cyfuno

Bydd eich hysbysiad cyfuno:

  • yn rhoi gwybod i chi pa drefniadau treth y mae mewn perthynas â hwy
  • yn rhoi gwybod i chi beth yw swm y fantais treth
  • yn esbonio’r rheswm pam, yn ein barn ni, fod y trefniadau treth yn cyfateb i’r trefniadau arweiniol
  • yn esbonio’r rheswm pam, yn ein barn ni, fod mantais treth wedi codi, neu y gallai fod wedi codi, drwy drefniadau treth sy’n ddifrïol
  • yn rhoi gwybod i chi pa addasiadau sydd eu hangen i wrthweithio’r fantais treth
  • yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych am gymryd camau unioni (darllenwch adran ‘Cymryd camau unioni’ am ragor o wybodaeth am hyn)
  • yn rhoi gwybod i chi am yr hysbysiad barn trefniadau cyfuno a’ch hawl i gyflwyno achos
  • yn rhoi gwybod i chi am yr hysbysiad o benderfyniad terfynol

Bydd yr hysbysiad cyfuno yn rhoi gwybod i chi am y cyfnod pan na chewch gymryd camau unioni yn ei ystod o dan y GAAR. Sef y ‘cyfnod gwaharddedig’. Bydd hefyd yn rhoi gwybod i chi am y cosbau y gallwn eu codi arnoch os rhown hysbysiad o benderfyniad terfynol i chi yn rhoi gwybod i chi bod y fantais treth am gael ei gwrthweithio o dan y GAAR. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adrannau ‘Hysbysiad o benderfyniad terfynol’ a ‘Cosbau o dan y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol (GAAR)’.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y cyfnod gwaharddedig yn yr adran ‘Cyfnod gwaharddedig’.

Hysbysiadau diogelu ynghylch y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol (GAAR)

Mae’n bosibl y byddwn wedi rhoi un neu ragor o hysbysiadau GAAR i chi cyn i ni roi hysbysiad cyfuno i chi.

Mae hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR yn rhoi gwybod i chi am rai neu bob un o’r addasiadau sydd eu hangen, yn ein barn ni, o dan y GAAR i wrthweithio mantais treth.

Os byddwn yn ystyried bod angen addasiadau eraill i wrthweithio’r fantais treth, byddant hefyd yn cael eu cynnwys yn yr hysbysiad cyfuno.

Cymryd camau unioni

Os ydym yn rhoi hysbysiad cyfuno i chi, bydd yn rhoi gwybod i chi sut i gymryd camau unioni. Mae cymryd camau unioni yn golygu dilyn y camau a nodir isod er mwyn setlo’ch materion treth.

Gallwch gymryd camau unioni perthnasol cyn dechrau’r ‘cyfnod gwaharddedig’ drwy gymryd y 2 gam isod.

Y cam cyntaf

Cymerwch un o’r camau a ganlyn:

  • pob cam sydd ei angen i ymrwymo i gytundeb ar bapur â ni er mwyn ildio’r fantais treth honno — os cymerwch bob cam sydd ei angen ond nad ydych yn ymrwymo i’r cytundeb ar bapur, gallwn fwrw ymlaen fel petaech heb gymryd y camau unioni
  • diwygio’ch Ffurflen Dreth, neu’ch hawliad, i wrthweithio’r fantais treth a bennir yn yr hysbysiad cyfuno — ni fydd unrhyw derfyn amser statudol arall yn eich atal rhag diwygio’ch Ffurflen Dreth, neu’ch hawliad, cyn i’r gwiriad cydymffurfio ddod i ben

Yr ail gam

Rhowch wybod i ni am y canlynol:

  • eich bod wedi cymryd y cam cyntaf
  • y swm ychwanegol sydd wedi dod, neu a fydd yn dod, yn ddyledus ac yn daladwy o ganlyniad i’r cam cyntaf a gymerwyd gennych

Os byddwch yn cymryd y camau unioni perthnasol yn unol â’r hysbysiad cyfuno, cewch eich trin fel na phetaech yn y gronfa mwyach. Os na chymerwch y camau hynny, byddwch yn aros yn y gronfa.

Eich hawl i apelio os ydych yn cymryd camau unioni

Os byddwch yn diwygio’ch Ffurflen Dreth, neu’ch hawliad, i wrthweithio’r fantais treth a bennir yn yr hysbysiad cyfuno, a’n bod yn cymryd yr addasiad hwnnw i ystyriaeth pan fyddwn yn dod a’r gwiriad cydymffurfio i ben, ni chewch apelio yn erbyn y diwygiad hwnnw.

Cyfnod gwaharddedig

Os byddwn yn rhoi hysbysiad cyfuno i chi ar gyfer trefniadau treth, mae dyddiad cau ar gyfer cymryd camau unioni. Gallwch dim ond cymryd camau unioni cyn diwedd 31 diwrnod ar ôl i ni roi’r hysbysiad i chi.

Mae yna wedyn cyfnod pan na allwch wneud addasiadau sy’n ymwneud â GAAR. Gelwir y cyfnod hwn yn ‘gyfnod gwaharddedig’.

Mae’r cyfnod gwaharddedig yn dechrau 31 diwrnod ar ôl y diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad i chi, ac mae’n dod i ben y diwrnod cyn y byddwn yn rhoi un o’r canlynol i chi:

  • hysbysiad o benderfyniad terfynol o dan baragraff 8(2) o Atodlen 43A
  • hysbysiad o benderfyniad terfynol mewn perthynas â chyfeiriad generig o dan baragraff 8(2) o Atodlen 43B

Os byddwn wedyn yn gwrthweithio’r fantais treth, gallwn hefyd godi cosb arnoch. Darllenwch adran ‘Cosbau o dan y GAAR’, am ragor o wybodaeth.

Os gwnaethoch ymrwymo i’r trefniadau treth cyn 15 Medi 2016, ni allwn godi’r math hwn o gosb.

Os bydd y trethdalwr arweiniol yn cymryd camau unioni

Y trethdalwr arweiniol yw’r person sydd â’i drefniadau treth yn drefniadau arweiniol.

Os bydd y trethdalwr arweiniol yn cymryd camau unioni perthnasol cyn pen 75 diwrnod i’r dyddiad y gwnaethom roi hysbysiad gwrthweithio arfaethedig iddo, ni fyddwn yn cyfeirio’r trefniadau arweiniol hynny at y panel.

O dan yr amgylchiadau hynny, gallwn ddewis set arall o drefniadau treth cyfatebol i’w cyfeirio, o bosibl, at y panel. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn anfon hysbysiad gwrthweithio arfaethedig at y person rydym wedi dewis ei drefniadau treth. Gallech chi fod y person hwnnw. Fel arall, gallwn ystyried gwneud cyfeiriad generig at Banel Cynghori’r GAAR.

Darllenwch yr adran ‘Cyfeirio trefniadau treth mewn ffordd generig’, am ragor o wybodaeth. O dan y naill amgylchiad neu’r llall, bydd eich trefniadau treth yn aros yn y gronfa.

Hysbysiadau barn trefniadau cyfuno

Os ydym yn rhoi hysbysiad cyfuno i chi ac mae Panel Cynghori’r GAAR yn rhoi hysbysiad barn (neu hysbysiadau barn) i ni am y trefniadau treth y cyfeiriwyd atynt, byddwn yn rhoi hysbysiad barn trefniadau cyfuno i chi.

Hysbysiad ysgrifenedig yw hysbysiad barn trefniadau cyfuno sy’n rhoi gwybod i chi am farn Panel Cynghori’r GAAR am y trefniadau a gyfeiriwyd.

Dim ond un hysbysiad barn trefniadau cyfuno y gallwn ei roi i chi ar gyfer pob set o drefniadau treth.

Os byddwch wedi cymryd camau unioni perthnasol, ni fyddwn yn anfon hysbysiad barn trefniadau cyfuno atoch.

Ni allwch apelio yn erbyn hysbysiad barn trefniadau cyfuno, ond gallwch gyflwyno achos.

Mae gennych 30 diwrnod, sy’n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad, i wneud hyn.

Gallwch gyflwyno achos os ydych o’r farn nad oes mantais treth wedi codi o’ch trefniadau, neu fod eich trefniadau yn faterol wahanol i’r trefniadau y cyfeiriwyd atynt.

Hysbysiad o benderfyniad terfynol

Unwaith y byddwn wedi rhoi hysbysiad barn trefniadau cyfuno i chi, ac y byddwn wedi rhoi hysbysiad o benderfyniad terfynol atoch (o dan baragraff 12 o Atodlen 43 i Ddeddf Cyllid 2013) mewn perthynas â threfniadau a gyfeiriwyd, byddwn yn ystyried barn Panel Cynghori’r GAAR mewn cysylltiad â’ch trefniadau, ynghyd ag unrhyw sylwadau rydych wedi’u gwneud.

Byddwn yna’n penderfynu p’un ai i wrthweithio’r fantais treth o dan y GAAR. Anfonwn hysbysiad o benderfyniad terfynol atoch yn rhoi gwybod i chi’r hyn fydd yn digwydd nesaf. Mae hyn oni bai fod hysbysiad cyfuno a/neu un neu fwy o hysbysiadau diogelu ynghylch y GAAR wedi’u trin fel hysbysiad o benderfyniad terfynol. Rydym yn egluro mwy am hyn yn yr adran ‘Gwneud yr addasiadau ac apelio’.

Cyfeirio trefniadau treth mewn ffordd generig

Os yw’r camau unioni perthnasol wedi’u cymryd ar gyfer y trefniadau arweiniol, a bod o leiaf ddwy set o drefniadau yn y gronfa, gallwn ystyried cyfeirio trefniadau cyfuno mewn ffordd generig at y panel. Gallwn wneud hyn os nad ydym wedi cyfeirio unrhyw drefniadau treth yn y gronfa at Banel Cynghori’r GAAR.

Fel yn achos trefniadau cyfuno, mae cyfeiriad generig at Banel Cynghori’r GAAR yn golygu y gallwn arddel barn y panel o ran trefniadau treth cyfatebol heb angen cyfeirio pob achos unigol at y panel.

Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi os bydd hyn yn berthnasol i chi.

Cosbau o dan y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol (GAAR)

Mae’n bosibl y byddwn yn codi cosb arnoch os gwnaethoch ymrwymo i’r trefniadau treth ar neu ar ôl 15 Medi 2016, a bod yr amodau isod i gyd yn gymwys:

  • rydym wedi rhoi hysbysiad o benderfyniad terfynol i chi, yn datgan bod y fantais treth sy’n codi o drefniadau treth i’w chael ei gwrthweithio
  • rhoddwyd dogfen dreth i ni ar sail eich bod wedi cael y fantais treth yn sgil y trefniadau hynny
  • rhoddwyd y ddogfen i ni gennych chi neu gan berson arall neu o dan amgylchiadau pan oeddech yn gwybod, neu y dylech fod wedi gwybod, ei fod wedi rhoi’r ddogfen ar y sail eich bod wedi cael y fantais treth yn sgil y trefniadau hynny
  • gwrthweithiwyd y fantais treth drwy wneud addasiadau o dan y GAAR

Dim ond os caiff y fantais treth ei gwrthweithio o dan y GAAR y gallwn godi cosb GAAR. Ni allwn godi cosb os caiff y fantais treth ei gwrthweithio mewn unrhyw ffordd arall.

At y diben hwn, mae dogfen dreth yn golygu unrhyw ddogfen sydd wedi’i chyflwyno i CThEM, yn unol â darpariaethau statudol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, hawliad neu Ffurflen Dreth.

Mae’r gosb yn swm sy’n hafal i 60% o werth y fantais sydd wedi’i gwrthweithio. Yn gyffredinol, y fantais sydd wedi’i gwrthweithio yw’r swm ychwanegol sy’n ddyledus neu’n daladwy ar gyfer treth, o ganlyniad i’r addasiadau a wnaed i wrthweithio’r fantais treth.

Gwneud yr addasiadau ac apelio

Ni allwch apelio yn erbyn hysbysiad cyfuno, naill ai i ni neu i dribiwnlys neu lys.

Gallwch apelio yn erbyn yr addasiadau ar ôl i ni eu gwneud.

Addasiadau rydym wedi eu gwneud eisoes

Mae’n bosibl ein bod eisoes wedi gwneud rhai o’r addasiadau, neu’r addasiadau i gyd, a ddangosir yn yr hysbysiad cyfuno. Os felly, byddwn wedi anfon un neu ragor o hysbysiadau diogelu ynghylch y GAAR atoch. Bydd y rhain wedi esbonio’r canlynol:

  • eich hawl i wneud apêl yn erbyn yr addasiadau ar ôl i ni eu gwneud
  • yr effaith o beidio gwneud apêl yn erbyn yr addasiadau

Addasiadau y mae’n bosibl y byddwn yn eu gwneud rhwng rhoi hysbysiad cyfuno a hysbysiad o benderfyniad terfynol

Ar ôl i ni roi hysbysiad cyfuno i chi, nid oes rhaid i ni roi hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR os ydym yn gwneud unrhyw un o’r addasiadau a ddangosir yn yr hysbysiad cyfuno, cyn rhoi hysbysiad o benderfyniad terfynol i chi. Mae’r ddeddfwriaeth sy’n ein galluogi i wneud hyn yn Adran 209AB o Ddeddf Cyllid 2013. Pan ydym yn gwneud unrhyw un o’r addasiadau, byddwn yn rhoi gwybod i chi sut i wneud apêl a’r terfynau amser ar gyfer gwneud hynny.

Os:

  • na fyddwch yn gwneud apêl
  • byddwch yn apelio ac wedyn yn tynnu’ch apêl yn ôl
  • caiff eich apêl ei setlo drwy gytundeb

ac nid ydym yn rhoi hysbysiad o benderfyniad terfynol i chi, yna bydd yr hysbysiad cyfuno yn cael ei drin (at bob diben ar wahân i gosbau) fel petai’n hysbysiad o benderfyniad terfynol. Mae’r ddeddfwriaeth GAAR yn cyfeirio at hysbysiad o benderfyniad terfynol fel hysbysiad gwrthweithio GAAR terfynol. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn a olygwn gan hysbysiad gwrthweithio GAAR terfynol yn yr adran ‘Hysbysiad gwrthweithio GAAR terfynol’.

Os nad ydych yn gwneud apêl, bydd yn rhaid i chi dalu’r dreth ychwanegol sy’n codi o’r addasiadau a wnaed gennym.

Addasiadau y mae’n bosibl y byddwn yn eu gwneud ar ôl rhoi hysbysiad o benderfyniad terfynol

Mae’n bosibl fydd angen addasiadau pellach os yw hysbysiad o benderfyniad terfynol yn datgan y dylai’r fantais treth cael ei gwrthweithio o dan GAAR.

Ar ôl i ni wneud yr addasiadau pellach, byddwch yn gallu gwneud apêl yn ein herbyn. Pan fyddwn wedi gwneud yr addasiadau rhown wybod mwy i chi am sut i wneud apêl a’r terfynau amser i wneud hynny.

Hysbysiad gwrthweithio Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol (GAAR) terfynol

Hysbysiad gwrthweithio GAAR terfynol yw un o’r canlynol:

  • hysbysiad o benderfyniad terfynol ar ôl ystyried barn Panel Cynghori’r GAAR (o dan baragraff 12 o Atodlen 43 i Ddeddf Cyllid 2013)
  • hysbysiad trefniadau cyfuno o benderfyniad terfynol (o dan baragraff 8(2) o Atodlen 43A i Ddeddf Cyllid 2013)
  • hysbysiad cyfeiriad generig o benderfyniad terfynol (o dan baragraff 8 o Atodlen 43B i Ddeddf Cyllid 2013)
  • hysbysiad cytundebau rhwym o benderfyniad terfynol (o dan baragraff 9(2) o Atodlen 43A i Ddeddf Cyllid 2013) Bydd pob un o’r hysbysiadau hyn yn rhoi gwybod i chi a fydd y fantais dreth sy’n deillio o’ch trefniadau treth yn cael ei gwrthweithio o dan y GAAR.

Rhagor o wybodaeth

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.