Skip to main content
Adroddiad corfforaethol

Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yn yr ASB yn 2025

Dyma nawfed adroddiad yr ASB ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau. Mae’n seiliedig ar gipolwg o holl staff yr ASB ar 31 Mawrth 2025 ac mae’n bodloni ein gofynion adrodd.

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Dogfennau

Manylion

Mae’r adroddiad yn dadansoddi’r ffigurau’n fanylach ac yn nodi’r hyn yr ydym yn ei wneud i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sefydliad.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn defnyddio graddau’r Gwasanaeth Sifil, sy’n amrywio o Swyddog Gweinyddol i Uwch Was Sifil. Mae’r graddau’n amrywio yn ôl lefel y cyfrifoldeb sydd gan staff, ac mae gan bob gradd amrediad cyflog penodol. Telir cyflogau yn ôl gradd, a chaiff gwobrau ariannol blynyddol o fewn y radd eu talu ni waeth beth yw rhywedd y staff.

Mae gan bob gradd, ac eithrio’r Uwch-wasanaeth Sifil (SCS), ystod cyflog ar gyfer Llundain ac ystod cyflog genedlaethol.

Ar 31 Mawrth 2025, roedd 1,587 o bobl yn gweithio i’r ASB, sef cynnydd o 9 ers y flwyddyn flaenorol, gyda 51% o weithlu’r ASB yn fenywod.

Un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at fwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn sefydliad yw cydbwysedd rhwng y rhywiau ar wahanol raddau. Ceir dadansoddiad o gynrychiolaeth y rhywiau ar bob gradd yn yr adroddiad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Mehefin 2026

Argraffu'r dudalen hon