Adroddiad corfforaethol

Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd 2022

Dyma chweched adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Mae’n seiliedig ar gipolwg ar holl staff yr ASB ar 31 Mawrth 2022 ac mae’n bodloni ein gofynion adrodd.

Dogfennau

Manylion

Mae’r adroddiad yn dadansoddi’r ffigurau’n fanylach ac yn nodi’r hyn rydym yn ei wneud i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sefydliad.

Mae’r ASB yn defnyddio graddau’r Gwasanaeth Sifil sy’n amrywio o Swyddog Gweinyddol i Uwch Was Sifil. Mae graddau’n amrywio yn ôl lefel y cyfrifoldeb sydd gan staff ac mae gan bob gradd amrediad cyflog penodol. Telir cyflogau yn ôl gradd, a chaiff gwobrau ariannol blynyddol o fewn y radd eu talu ni waeth beth fo’r rhyw.

Mae gan bob gradd, ac eithrio’r Uwch Wasanaeth Sifil, ystod gyflog Llundain ac ystod Genedlaethol.

Ar 31 Mawrth 2021, roedd 1310 o bobl yn gweithio i’r ASB, sef cynnydd o 45 ers 31 Mawrth 2020. Arhosodd canran y menywod ar 40%. Gwnaeth nifer yr Uwch Weision Sifil sy’n fenywod ostwng o 42% i 41%.

Un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at fwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn sefydliad yw cydbwysedd rhwng y rhywiau ar wahanol raddau. Ceir dadansoddiad o gynrychiolaeth rhywedd ar bob gradd yn yr adroddiad.

Cyhoeddwyd ar 27 March 2023