Adroddiad corfforaethol

Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yr Asiantaeth Bwyd 2019

Mae adroddiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn seiliedig ar giplun o holl staff yr ASB ar 31 Mawrth 2019, ac mae'n adrodd ar yr hyn rydym ni’n ei wneud i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Dogfennau

Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2019

Manylion

Dyma drydydd adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yr ASB.

Mae’r ASB yn defnyddio graddau’r Gwasanaeth Sifil yn amrywio o Swyddog Gweinyddol i Uwch Was Sifil. Mae graddau’n amrywio yn ôl lefel y cyfrifoldeb sydd gan staff ac mae gan bob gradd amrediad cyflog penodol. Telir cyflogau yn ôl gradd a chaiff gwobrau ariannol blynyddol o fewn y radd eu talu waeth beth yw’r rhyw.

Mae gan bob gradd, ac eithrio’r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS), ystod gyflog Llundain ac ystod Genedlaethol.

Ar 31 Mawrth 2019, roedd 1195 o bobl yn gweithio i’r ASB ac roedd 37% ohonynt yn fenywod. Mae nifer staff yr ASB wedi cynyddu 120 ers 31 Mawrth 2018 ac aeth canran y gweithwyr benywaidd i fyny o 35%. Fodd bynnag, 27% o Uwch Weision Sifil yr ASB sy’n fenywod, i lawr o 30% yn 2018.

Cydbwysedd rhwng y rhywiau ar wahanol raddau yw un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at fwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn sefydliad. Mae dadansoddiad o gynrychiolaeth rhyw ar bob gradd i’w weld yn yr adroddiad.

Cyhoeddwyd ar 29 July 2020