Skip to main content
Ymchwil a dadansoddi

Ffeithlun (Fersiwn hygyrch): Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) Bwyd a Chi 2 - Cylch 11

Cyhoeddwyd 29 Medi 2026

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd: Bwyd a Chi 2, Cylch 11 (Mai i Awst 2025).

Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB)

Roedd 91%wedi clywed o’r CSHB ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

  • Lloegr – 91%
  • Cymru – 92%
  • Gogledd Iwerddon – 93%

Roedd 62% wedi clywed amy CSHB ac yn gwybod llawer neu ychydig amdano:

  • Lloegr – 61%
  • Cymru – 72%
  • Gogledd Iwerddon – 66%

Roedd 92%wedi gweld y sticer CSHB o’r blaen:

  • Lloegr – 92%
  • Cymru – 93%
  • Gogledd Iwerddon – 96%

Gwirio sgoriau’r CSHB

Roedd 55% wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes yn ystod y 12 mis diwethaf.

  • Lloegr – 55%
  • Cymru – 64%
  • Gogledd Iwerddon – 58%

Y dulliau mwyaf cyffredin o wirio sgoriau:

  • sticer mewn busnes bwyd – 86%
  • gwefan busnes bwyd – 27%
  • gwefan neu ap archebu bwyd ar-lein – 26%
  • gwefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) – 16%

Defnyddio’r CSHB i wneud penderfyniadau

Ymhlith y rhai a oedd wedi clywed am y FHRS, roedd edi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd nad oedd yn arddangos sticer a oedd yn dangos ei sgôr hylendid bwyd.

Arddangos gorfodol o sgoriau CSHB

  • Ymhlith y rhai a oedd wedi clywed am y FHRS, roedd 94% yn meddwl y dylai fod yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar eu safle

Y sgoriau isaf a ystyrir yn dderbyniol

Ymhlith y rhai oedd wedi clywed am y CSHB, y sgoriau isaf a ystyrir yn dderbyniol yn gyffredinol oedd:

  • 5 (da iawn) – 14%
  • 4 (da) – 52%
  • 3 (boddhaol ar y cyfan) – 25%
  • 0 to 2 (angen gwella’n sylweddol neu ar frys) – 4%

Arddangos sgoriau’r CSHB ar-lein

Cytunodd mwy na 9 o bob 10 y dylid arddangos sgoriau’r CSHB yn glir ar wefannau:

  • siopau tecawê – 94%
  • bwytai a chaffis – 93%
  • cwmnïau archebu a dosbarthu bwyd – 93%
  • gwestai a llety gwely a brecwast – 92%