Skip to main content
Canllawiau

Rheoliadau deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd

Cyhoeddwyd 24 Ebrill 2018

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Rydym yn gyfrifol am ddiogelu’r cyhoedd yn erbyn cemegion a allai drosglwyddo i fwyd o’r deunyddiau y maent yn dod i gysylltiad â nhw, er enghraifft deunydd pecynnu ac offer. Rydym yn helpu i orfodi rheolaethau yn seiliedig ar waith ymchwil a gwyliadwriaeth.

Rheoliadau Cenedlaethol 2012

Mae’r Rheoliadau’n cynnwys darpariaethau ar gyfer deunyddiau ac eitemau y disgwylir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd neu drosglwyddo eu cynnwys i fwyd, er enghraifft, deunyddiau fel inciau argraffu a labeli gludiog. Nid yw hyn yn cynnwys sylweddau sy’n gorchuddio’r bwyd ac sy’n rhan o’r bwyd ac y gellir eu bwyta, fel croen selsig.

Mae Rheoliadau cenedlaethol 2012 yn darparu un pwynt cyfeirio ar gyfer busnesau ac awdurdodau gorfodi trwy ddod â thair prif Offeryn Statudol ynghyd ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, fel eu bod yn un set o reoliadau. Mae’r rheoliadau cyfunol yn sicrhau parhad y darpariaethau gorfodi ar gyfer deddfwriaeth bresennol sy’n berthnasol yn uniongyrchol i ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd.

Cymru

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

Lloegr

The Materials and Articles in Contact with Food (England) Regulations 2012

Gogledd Iwerddon

The Materials and Articles in Contact with Food Regulations (Northern Ireland) 2012

Mae rheoliadau 2012 yn nodi:

  • pa achosion o ddiffyg cydymffurfio sy’n droseddau ac sy’n destun cosbau
  • beth yw awdurdod cymwys

Polisi preifatrwydd ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd