Canllawiau

Enghreifftiau o sut i gyfrifo cyflogau’ch cyflogeion

Diweddarwyd 29 October 2021

Daeth y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws i ben ar 30 Medi 2021.

1. Cyfrifo’ch cyfnod hawlio

1.1 Enghraifft o gyfnod cyflog sy’n ymestyn ar draws deufis

Mae gan gyflogai gyfnod cyflog o 4 wythnos sydd o 20 Mai 2021 i 16 Mehefin 2021. Ni all A Cyf hawlio am hyn fel un cyfnod felly mae’n gwneud dau hawliad ar wahân:

  • 20 i 31 Mai 2021
  • 1 i 16 Mehefin 2021

Darllenwch arweiniad ar gyfnod cyflog sy’n ymestyn ar draws deufis.

2. Cyfrifo oriau arferol ac oriau ffyrlo eich cyflogai

2.1 Enghraifft o sut i gyfrifo’r oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd wedi’u contractio am nifer sefydlog o oriau os mai dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020

Mae cyflogai dan gontract i weithio 37 awr bob wythnos, ar draws 5 diwrnod gwaith. Telir y cyflogai’n wythnosol. Mae B Cyf yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau o 1 Awst 2020 tan 10 Awst 2020 (10 diwrnod calendr). Mae dau gyfnod cyflog yn rhan o’r cyfnod hawlio hwn:

  • 29 Gorffennaf i 4 Awst 2020
  • 5 Awst i 11 Awst 2020

Mae B Cyf yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y diwrnodau ym mhob cyfnod cyflog sydd yn yr hawliad.

Mae B Cyf yn cyfrifo ar sail cyfnod cyflog felly mae’n rhaid iddo dalgrynnu nifer yr oriau arferol agosaf ar gyfer pob cyfnod cyflog i fyny neu i lawr i’r rhif cyfan agosaf.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

Yn gyntaf, mae B Cyf yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y diwrnodau mae’n hawlio ar eu cyfer yn y cyfnod cyflog 29 Gorffennaf 2020 i 4 Awst 2020 (sef 1 Awst 2020 i 4 Awst 2020) fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch gyda 37 awr (yr oriau roedd y cyflogai wedi’i gontractio ar eu cyfer ar ddiwedd y cyfnod cyflog olaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai).

  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn y patrwm gwaith ailadroddiadol, gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n eu gweithio).

  3. Lluoswch â 4 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer - mae hyn yn gyfnod cyflog rhannol) = 21.14.

  4. Talgrynnwch i fyny neu i lawr i’r rhif cyfan nesaf os nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan = 21.

Nesaf, mae B Cyf yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y diwrnodau mae’n hawlio ar eu cyfer yn y cyfnod cyflog 5 Awst 2020 i 11 Awst 2020 (sef 5 Awst 2020 i 10 Awst 2020) fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch gyda 37 awr (yr oriau roedd y cyflogai wedi’i gontractio ar eu cyfer ar ddiwedd y cyfnod cyflog olaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai).

  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn y patrwm gwaith ailadroddiadol, gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n eu gweithio).

  3. Lluoswch â 6 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) mae B Cyf yn hawlio ar eu cyfer - mae hyn yn gyfnod cyflog rhannol) = 31.71.

  4. Talgrynnwch i fyny neu i lawr i’r rhif cyfan nesaf os nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan = 32.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd wedi’u contractio am nifer sefydlog o oriau.

2.2 Enghraifft o gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogai oriau sefydlog y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020 ac y mae ei gyfnod cyflog cyntaf yn dod i ben ar ôl 30 Hydref 2020

Dechreuodd cyflogai weithio i CD Cyf ar 12 Hydref 2020. Mae’n cael ei dalu ar ddiwrnod olaf pob mis, sy’n dechrau ar 31 Hydref 2020.

Daeth y Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE, sy’n nodi ei daliad cyflog cyntaf, i law CThEM ar 29 Hydref 2020, a dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 30 Hydref 2020, er bod ei gyfnod cyflog cyntaf yn dod i ben ar ôl 30 Hydref 2020.

Mae’r cyflogai wedi’i gontractio i weithio patrwm sifft o bum sifft 7 awr ym mhob wythnos. Mae’r patrwm gweithio hwn yn ailadrodd bob 7 diwrnod.

Mae’r cyflogai yn cytuno i gael ei roi ar ffyrlo o 2 Tachwedd 2020 tan 30 Tachwedd 2020 (29 diwrnod). Mae CD Cyf yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y cyfnod cyflog rhannol hwn:

  1. Dechreuwch gyda 35 awr – dyma’r oriau roedd y cyflogai wedi’i gontractio ar eu cyfer yn ei batrwm gwaith ailadroddiadol ar ddiwedd y cyfnod cyflog diweddaraf y cyflwynwyd Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE ar ei gyfer i CThEM, ac a ddaeth i law CThEM, ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai (30 Hydref 2020) – sydd, yn yr enghraifft hon, yn 7 awr wedi’u lluosi â 5 diwrnod.

  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn y patrwm gwaith ailadroddiadol, gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n eu gweithio).

  3. Lluoswch â 29 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu gyfnod cyflog rhannol) mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer) = 145.

  4. Mae canlyniad cam 3 yn rhif cyfan, felly nid oes angen ei dalgrynnu i’r rhif cyfan nesaf.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogai oriau sefydlog y mae ei gyfnod cyflog cyntaf yn dod i ben ar ôl ei ddyddiad cyfeirio.

2.3 Enghraifft o gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogai oriau sefydlog y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 2 Mawrth 2021 ac y mae ei gyfnod cyflog cyntaf yn dod i ben ar ôl 2 Mawrth 2021

Dechreuodd cyflogai weithio i gyflogwr ar 22 Chwefror 2021. Mae’n cael ei dalu bob pythefnos, a’i ddyddiad cyflog cyntaf yw 3 Mawrth 2021. Y diwrnod y mae’n cael ei dalu yw diwrnod olaf ei gyfnod cyflog.

Daeth y Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE, sy’n nodi ei daliad cyflog cyntaf, i law CThEM ar 1 Mawrth 2021, a dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 2 Mawrth 2021, er bod ei gyfnod cyflog cyntaf yn dod i ben ar ôl 2 Mawrth 2021.

Mae’r cyflogai wedi’i gontractio i weithio patrwm sifft o dair sifft 9 awr ym mhob wythnos. Mae’r patrwm gweithio hwn yn ailadrodd bob 7 diwrnod.

Mae’r cyflogai’n cytuno i gael ei roi ar ffyrlo o 7 Mai 2021 ymlaen. Y cyfnod cyflog cyntaf y mae’r cyflogwr yn hawlio grant ar ei gyfer yw’r cyfnod cyflog 6 Mai 2021 i 19 Mai 2021. Mae’r cyflogwr yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y cyfnod cyflog hwn:

  1. Dechreuwch gyda 27 awr – dyma’r oriau roedd y cyflogai wedi’i gontractio ar eu cyfer yn ei batrwm gwaith ailadroddiadol ar ddiwedd y cyfnod cyflog diwethaf y cyflwynwyd Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE ar ei gyfer i CThEM, ac a ddaeth i law CThEM, ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai (2 Mawrth 2021) – sydd, yn yr enghraifft hon, yn 9 awr wedi’u lluosi â 3 diwrnod.

  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn y patrwm gwaith ailadroddiadol, gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n eu gweithio).

  3. Lluoswch â 13 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu gyfnod cyflog rhannol) mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer) = 50.14.

  4. Talgrynnwch i fyny i’r rhif cyfan nesaf oherwydd bod y cyfrifiad ar gyfer cyfnod hawlio cyfan = 51.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogai oriau sefydlog y mae ei gyfnod cyflog cyntaf yn dod i ben ar ôl ei ddyddiad cyfeirio.

2.4 Enghraifft o sut i gyfrifo’r oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd wedi’u contractio am nifer sefydlog o oriau os mai dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020

Mae cyflogai wedi’i gontractio i weithio patrwm sifft o bedwar diwrnod 12 awr olynol ac yna cael pedwar diwrnod i ffwrdd o’r gwaith. Mae’r patrwm gweithio hwn yn ailadrodd bob 8 diwrnod. Caiff y cyflogai ei dalu bob mis calendr. Mae C Cyf yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Gorffennaf 2021 (31 diwrnod calendr). Mae’r cyfnod cyflog a’r cyfnod hawlio yn cyd-fynd a’i gilydd.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

Mae C Cyf yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer cyfnod cyflog mis Gorffennaf 2020 drwy ddilyn y camau isod:

  1. Dechreuwch gyda 48 awr (yr oriau roedd y cyflogai wedi’i gontractio ar eu cyfer yn ei batrwm gwaith ailadroddiadol ar ddiwedd y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai – sydd, yn yr enghraifft hon, yn 12 awr wedi’u lluosi â 4 diwrnod).

  2. Rhannwch â 8 (nifer y diwrnodau yn y patrwm gwaith ailadroddiadol, gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n eu gweithio).

  3. Lluoswch â 31 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu gyfnod cyflog rhannol) mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer) = 186.

  4. Mae canlyniad cam 3 yn rhif cyfan, felly nid oes angen ei dalgrynnu i’r rhif cyfan nesaf.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd wedi’u contractio am nifer sefydlog o oriau.

2.5 Enghraifft o sut i gyfrifo oriau gwaith arferol cyflogai sydd wedi’i gontractio am nifer sefydlog o oriau ac a oedd i ffwrdd o’r gwaith yn sâl neu ar absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â’r teulu ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai, os mai 19 Mawrth 2020 yw dyddiad cyfeirio’r cyflogai

Mae cyflogai’n cael ei dalu bob mis calendr a’i ddyddiad cyfeirio yw 19 Mawrth 2020. Gwnaeth cyfnod cyflog diwethaf y cyflogai sy’n dod i ben ar neu cyn ei ddyddiad cyfeirio (19 Mawrth 2020) ddod i ben ar 29 Chwefror 2020.

Yn y cyfnod cyflog a ddaeth i ben ar 29 Chwefror 2020, roedd y cyflogai i ffwrdd o’r gwaith yn sâl am 7 diwrnod. Wrth gyfrifo’r oriau roedd y cyflogai wedi’i gontractio ar eu cyfer ar ddiwedd y cyfnod cyflog olaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai, dylai’r oriau arferol gael eu cyfrifo fel pe na bai’r cyflogai wedi cymryd yr absenoldeb hwnnw.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd wedi’u contractio am nifer sefydlog o oriau

2.6 Enghraifft o sut i gyfrifo’r oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd wedi’i gontractio am nifer sefydlog o oriau os mai eu dyddiad cyfeirio yw 30 Hydref 2020

Mae cyflogai wedi’i gontractio i weithio 37 awr yr wythnos, ar draws pum diwrnod gwaith. Telir y cyflogai’n wythnosol. Mae D Cyf yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Tachwedd 2020 ac 8 Tachwedd 2020 (wyth diwrnod calendr). Mae dau gyfnod cyflog yn rhan o’r cyfnod hawlio hwn:

  • 26 Hydref i 1 Tachwedd 2020
  • 2 Tachwedd i 8 Tachwedd 2020

Mae D Cyf yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y diwrnodau ym mhob cyfnod cyflog sydd yn ei hawliad.

Mae D Cyf yn cyfrifo ar sail cyfnod cyflog felly mae’n rhaid iddo dalgrynnu nifer yr oriau arferol agosaf ar gyfer pob cyfnod cyflog i fyny neu i lawr i’r rhif cyfan agosaf.

Dechreuodd y cyflogai weithio i D Cyf ar 3 Awst 2020.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 30 Hydref 2020.

  1. Dechreuwch gyda 37 awr (yr oriau roedd y cyflogai wedi’i gontractio ar eu cyfer ar ddiwedd y cyfnod cyflog olaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai).

  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn y patrwm gwaith ailadroddiadol, gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n eu gweithio).

  3. Lluoswch â 1 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) mae D Cyf yn hawlio ar eu cyfer - mae hyn yn gyfnod cyflog rhannol) = 5.29.

  4. Talgrynnwch i fyny neu i lawr i’r rhif cyfan nesaf os nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan = 5.

Nesaf, mae D Cyf yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y diwrnodau mae’n hawlio ar eu cyfer yn y cyfnod cyflog 2 Tachwedd 2020 i 8 Tachwedd 2020, fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch gyda 37 awr (yr oriau roedd y cyflogai wedi’i gontractio ar eu cyfer ar ddiwedd y cyfnod cyflog olaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai).

  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn y patrwm gwaith ailadroddiadol, gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n eu gweithio).

  3. Lluoswch â 7 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) mae D Cyf yn hawlio ar eu cyfer - nid cyfnod cyflog rhannol yw hwn) = 37.

  4. Talgrynnwch i fyny neu i lawr i’r rhif cyfan nesaf os nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan = 37.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd wedi’u contractio am nifer sefydlog o oriau.

2.7 Enghraifft o sut i gyfrifo’r oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd wedi’i gontractio am nifer sefydlog o oriau os mai eu dyddiad cyfeirio yw 2 Mawrth 2021

Mae cyflogai wedi’i gontractio i weithio 29 awr yr wythnos, ar draws pedwar diwrnod gwaith. Mae’r cyflogai’n cael ei dalu bob pythefnos ar ddydd Gwener. Y dyddiad y mae’n cael ei dalu yw diwrnod olaf ei gyfnod cyflog. Mae’r cyflogwr yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mai 2021 ac 14 Mai 2021 (14 diwrnod calendr) sy’n gyfnod cyflog cyfan. Mae’r cyflogwr yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y cyfnod hwn.

Dechreuodd y cyflogai weithio i’r cyflogwr ar 15 Ionawr 2021.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 2 Mawrth 2021.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y diwrnodau mae’n hawlio ar eu cyfer yn y cyfnod cyflog 1 Mai 2021 i 14 Mai 2021, fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch gyda 29 awr (yr oriau roedd y cyflogai wedi’i gontractio ar eu cyfer ar ddiwedd y cyfnod cyflog olaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai).

  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn y patrwm gwaith ailadroddiadol, gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n eu gweithio).

  3. Lluoswch â 14 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu gyfnod cyflog rhannol) mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer) = 58.

  4. Mae canlyniad cam 3 yn rhif cyfan, felly nid oes angen ei dalgrynnu i’r rhif cyfan nesaf.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd wedi’u contractio am nifer sefydlog o oriau.

2.8 Enghraifft o sut i gyfrifo nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol ac y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020

Dechreuodd cyflogai weithio i E Cyf yn 2005. Mae’r cyflogai’n cael ei dalu bob pythefnos a chafodd ei roi ar ffyrlo rhwng:

  • 23 Mawrth 2020 ac 14 Gorffennaf 2020
  • 1 Tachwedd 2020 ac 31 Mawrth 2021

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

Mae E Cyf yn cyfrifo bod y cyflogai’n gweithio 1,850 o oriau rhwng 6 Ebrill 2019 a 22 Mawrth 2020 (yn gynhwysol). Mae hyn yn cynnwys unrhyw oriau y cafodd y cyflogai dâl gwyliau ar eu cyfer.

Caiff y cyflogai ei dalu ar gyfer y cyfnod cyflog 13 Mawrth 2021 i 26 Mawrth 2021, ac mae E Cyf yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer yr un cyfnod (13 Mawrth 2021 i 26 Mawrth 2021).

Mae E Cyf yn cyfrifo nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch gyda 1,850 (nifer yr oriau a weithiwyd mewn gwirionedd (neu’r oriau ar wyliau blynyddol â thâl neu absenoldeb fflecsi) ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 cyn i’r cyflogai gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf).

  2. Rhannwch â 352 (nifer y diwrnodau calendr roedd y cyflogai wedi’i gyflogi gan E Cyf ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf).

  3. Lluoswch ag 14 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu gyfnod cyflog rhannol) mae E Cyf yn hawlio ar eu cyfer) = 73.58.

  4. Talgrynnwch i fyny i’r rhif cyfan nesaf ac oherwydd bod y cyfrifiad ar gyfer cyfnod hawlio cyfan = 74.

Bydd angen hefyd i E Cyf gyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol mewn blwyddyn dreth flaenorol, a defnyddio’r ffigur uwch ar gyfer yr oriau arferol.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol ac y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020.

2.9 Enghraifft o sut i gyfrifo nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol, a oedd ar absenoldeb mabwysiadu statudol ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 ac y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020

Dechreuodd cyflogai weithio i F Cyf yn 2013. Mae’r cyflogai’n cael ei dalu bob pedair wythnos a chafodd ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf ar 31 Mawrth 2020.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

Caiff y cyflogai ei dalu ar gyfer y cyfnod cyflog 1 Gorffennaf 2021 i 28 Gorffennaf 2021, ac mae F Cyf yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer yr un cyfnod (1 Gorffennaf 2021 i 28 Gorffennaf 2021).

Mae F Cyf yn cyfrifo bod y cyflogai’n gweithio 616 o oriau rhwng 6 Ebrill 2019 a 30 Mawrth 2020 (yn gynhwysol). Mae hyn yn cynnwys unrhyw oriau y cafodd y cyflogai dâl gwyliau ar eu cyfer. Roedd y cyflogai ar gyfnod o absenoldeb mabwysiadu statudol rhwng 1 Mehefin 2019 a 14 Ionawr 2020 (yn gynhwysol) – sef 228 diwrnod.

Mae 360 diwrnod (yn gynhwysol) rhwng 6 Ebrill 2019 a 30 Mawrth 2020. Ni ddylai F Cyf gynnwys y diwrnodau pan oedd y cyflogai ar absenoldeb mabwysiadu statudol, sy’n gadael 132 diwrnod.

Mae F Cyf yn cyfrifo nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch gyda 616 (nifer yr oriau a weithiwyd mewn gwirionedd (neu’r oriau ar wyliau blynyddol â thâl neu wyliau ‘fflecsi’) ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 cyn i’r cyflogai gael ei roi ar ffyrlo).

  2. Rhannwch â 132 (nifer y diwrnodau calendr roedd y cyflogai wedi’i gyflogi gan F Cyf ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo, heb gynnwys yr amser yr oedd y cyflogai ar absenoldeb mabwysiadu statudol).

  3. Lluoswch â 28 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu gyfnod cyflog rhannol) mae F Cyf yn hawlio ar eu cyfer) = 130.66.

  4. Talgrynnwch i fyny i’r rhif cyfan nesaf oherwydd nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan ac oherwydd bod y cyfrifiad ar gyfer cyfnod hawlio cyfan = 131.

Bydd angen hefyd i F Cyf gyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol mewn blwyddyn dreth flaenorol, a defnyddio’r ffigur uwch ar gyfer yr oriau arferol.

2.10 Enghraifft o sut i gyfrifo’r oriau arferol a weithiwyd yn ystod yr un cyfnod mewn blwyddyn flaenorol ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol, ac y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020, pan fo’r cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr hawlir ar ei gyfer yn dechrau ac yn dod i ben ar yr un diwrnodau calendr â’r cyfnod cyflog a nodwyd

Mae cyflogai’n cael ei dalu bob mis calendr ac mae ganddo gyfnod cyflog o fis calendr.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

Mae G Cyf yn paratoi hawliadau ar gyfer cyfnodau cyflog mis Chwefror 2021 a mis Mawrth 2021.

Mae’r cyflogai’n gweithio oriau amrywiol felly mae angen i G Cyf gyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar yr uchaf o un o’r canlynol:

  • nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020
  • cyfnod calendr cyfatebol mewn blwyddyn flaenorol

Mae G Cyf yn cyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol mewn blwyddyn flaenorol.

Y cyfnod ‘edrych yn ôl’ ar gyfer Mis Chwefror 2021 yw Mis Chwefror 2020, felly byddai angen i’r cyflogwr ddefnyddio’r oriau y bu’r cyflogai yn gweithio yn y cyfnod cyfatebol yn 2020 yn ei hawliad ym mis Chwefror 2021.

Y cyfnod ‘edrych yn ôl’ ar gyfer mis Mawrth 2021 yw Mawrth 2019, felly byddai angen i’r cyflogwr ddefnyddio’r oriau y bu’r cyflogai yn gweithio yn y cyfnod cyfatebol yn 2019 yn ei hawliad ym mis Mawrth 2021.

Bydd angen i G Cyf hefyd gyfrifo’r oriau cyfartalog a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo’r oriau arferol a weithiwyd yn ystod yr un cyfnod mewn blwyddyn flaenorol ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol, ac y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020, pan fo’r cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr hawlir ar ei gyfer yn dechrau ac yn dod i ben ar yr un diwrnodau calendr â’r cyfnod cyflog a nodwyd.

2.11 Enghraifft o sut i gyfrifo’r oriau arferol ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol ac y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020, yn seiliedig ar yr oriau a weithiwyd mewn mwy nag un cyfnod cyflog mewn blwyddyn flaenorol

Mae H Cyf yn prosesu cyflogres wythnosol ac yn anelu at hawlio am y cyfnod 20 Gorffennaf 2020 i 26 Gorffennaf 2020 ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol. Mae’r cyflogai wedi gweithio i H Cyf ers 2017.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

Y cyfnod ‘edrych yn ôl’ ar gyfer mis Gorffennaf 2020 yw mis Gorffennaf 2019, felly mae H Cyf yn cyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol ym mis Gorffennaf 2019, sef 20 Gorffennaf 2019 i 26 Gorffennaf 2019.

Mae’r cyfnod hwnnw’n cwmpasu dau gyfnod cyflog yn 2019:

  • 15 Gorffennaf 2019 i 21 Gorffennaf 2019 (2 ddiwrnod calendr sy’n gorgyffwrdd gyda chyfnod cyflog 2020 – 20 i 21 Gorffennaf 2020)
  • 22 Gorffennaf 2019 i 28 Gorffennaf 2019 (5 ddiwrnod calendr sy’n gorgyffwrdd gyda chyfnod cyflog 2020 – 22 i 26 Gorffennaf 2020)

Yn ystod 2019, gweithiodd y cyflogai yr oriau canlynol:

  • yn y cyfnod cyflog sy’n dechrau 15 Gorffennaf 2019 - 28 awr
  • yn y cyfnod cyflog sy’n dechrau 22 Gorffennaf 2019 - 35 awr

Mae H Cyf yn cyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol mewn blwyddyn flaenorol fel a ganlyn:

2.12 Enghraifft o sut i gyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar yr oriau a weithiwyd yn ystod mwy nag un cyfnod cyflog mewn blwyddyn flaenorol ar gyfer mis Mawrth 2021 neu fis Ebrill 2021

Mae H Cyf yn prosesu cyflogres wythnosol ac yn bwriadu hawlio am y cyfnod o 1 Mawrth 2021 i 14 Mawrth 2021 ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol. Mae’r cyflogai wedi gweithio i H Cyf ers 2017. Roedd y cyflogai wedi cael taliad o enillion gan H Cyf yn ystod blwyddyn dreth 2019 i 2020, a rhoddwyd gwybod am hynny i CThEM ar Gyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) ar neu cyn 19 Mawrth 2020.

Y cyfnod ‘edrych yn ôl’ ar gyfer mis Mawrth 2021 yw mis Mawrth 2019, felly mae H Cyf yn cyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol ym mis Mawrth 2019, sef 1 Mawrth 2019 i 14 Mawrth 2019. Mae’r cyfnod hwnnw’n cwmpasu dau gyfnod cyflog yn 2019:

  1. Dechreuwch gyda 28 (nifer yr oriau a weithiwyd yn y cyfnod cyflog cyntaf a nodwyd).

  2. Lluoswch â 2 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog hwnnw sy’n cyfateb i o leiaf un diwrnod calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) mae H Cyf yn hawlio ar ei gyfer – 20 a 21 Gorffennaf).

  3. Rhannwch ag 7 (cyfanswm y diwrnodau calendr yn ystod y cyfnod cyflog a nodwyd) = 8.

Cam 4 yw bod camau 1, 2 a 3 yn cael eu hailadrodd ar gyfer pob cyfnod cyflog dilynol a nodwyd. Bydd angen i H Cyf ailadrodd camau 1, 2 a 3 ar gyfer y cyfnod cyflog nesaf:

  1. Dechreuwch gyda 35 (nifer yr oriau a weithiwyd yn y cyfnod cyflog nesaf a nodwyd).

  2. Lluoswch â 5 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog hwnnw sy’n cyfateb i o leiaf un diwrnod calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) mae H Cyf yn hawlio ar ei gyfer – 22 i 26 Gorffennaf).

  3. Rhannwch ag 7 (cyfanswm y diwrnodau calendr yn ystod y cyfnod cyflog a nodwyd) = 25.

Nid oes rhagor o gyfnodau cyflog ym mis Gorffennaf 2019 i’w hystyried, felly:

Nid oes rhagor o gyfnodau cyflog ym mis Gorffennaf 2019 i’w hystyried, felly:

  1. Ychwanegwch nhw i gyd at ei gilydd, 8 + 25 = 33.

  2. Mae’r canlyniad yn rhif cyfan, felly nid oes angen ei dalgrynnu i’r rhif cyfan nesaf.

Bydd angen i H Cyf hefyd gyfrifo’r oriau cyfartalog a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, a defnyddio’r ffigur uwch ar gyfer oriau arferol y cyflogai.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo’r oriau arferol, yn seiliedig ar yr oriau a weithiwyd mewn mwy nag un cyfnod cyflog mewn blwyddyn flaenorol, ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol ac y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020.

2.13 Enghraifft o sut i gyfrifo’r oriau arferol, yn seiliedig ar yr oriau a weithiwyd mewn mwy nag un cyfnod cyflog mewn blwyddyn flaenorol ar gyfer mis Mawrth 2021 neu fis Ebrill 2021, ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol ac y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020

Mae H Cyf yn prosesu cyflogres wythnosol ac yn bwriadu hawlio am y cyfnod o 1 Mawrth 2021 i 14 Mawrth 2021 ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol. Mae’r cyflogai wedi gweithio i H Cyf ers 2017.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

Y cyfnod ‘edrych yn ôl’ ar gyfer mis Mawrth 2021 yw mis Mawrth 2019, felly mae H Cyf yn cyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol ym mis Mawrth 2019, sef 1 Mawrth 2019 i 14 Mawrth 2019. Mae’r cyfnod hwnnw’n cwmpasu dau gyfnod cyflog yn 2019:

  • 18 Chwefror 2019 i 3 Mawrth 2019 (3 diwrnod calendr sy’n gorgyffwrdd â chyfnod cyflog 2021 – 1 Mawrth 2021 i 3 Mawrth 2021)
  • 4 Mawrth 2019 i 17 Mawrth 2019 (11 diwrnod calendr sy’n gorgyffwrdd gyda chyfnod cyflog 2021 – 4 i 14 Mawrth 2021)

Yn ystod 2019, gweithiodd y cyflogai yr oriau canlynol:

  • yn y cyfnod cyflog sy’n dechrau 18 Chwefror 2019 – 52 awr
  • yn y cyfnod cyflog sy’n dechrau 4 Mawrth 2019 – 44 awr

Mae H Cyf yn cyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol mewn blwyddyn flaenorol fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch â 52 (nifer yr oriau a weithiwyd yn y cyfnod cyflog cyntaf a nodwyd).

  2. Lluoswch â 3 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog hwnnw sy’n cyfateb i o leiaf un diwrnod calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae H Cyf yn hawlio ar ei gyfer – 1 Mawrth i 3 Mawrth).

  3. Rhannwch ag 14 (cyfanswm y diwrnodau calendr yn ystod y cyfnod cyflog a nodwyd) = 19.5.

Cam 4 yw bod camau 1, 2 a 3 yn cael eu hailadrodd ar gyfer pob cyfnod cyflog dilynol a nodwyd. Bydd angen i H Cyf ailadrodd camau 1, 2 a 3 ar gyfer y cyfnod cyflog nesaf:

  1. Dechreuwch â 44 (nifer yr oriau a weithiwyd yn y cyfnod cyflog nesaf a nodwyd).

  2. Lluoswch ag 11 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog hwnnw sy’n cyfateb i o leiaf un diwrnod calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae H Cyf yn hawlio ar ei gyfer – 4 Mawrth i 14 Mawrth).

  3. Rhannwch ag 14 (cyfanswm y diwrnodau calendr yn ystod y cyfnod cyflog a nodwyd) = 34.6.

Nid oes rhagor o gyfnodau cyflog ym mis Mawrth 2019 i’w hystyried, felly:

  1. Ychwanegwch nhw i gyd at ei gilydd, 19.5 + 34.6 = 54.1.

  2. Nid yw’r canlyniad yn rhif cyfan, felly talgrynnwch i fyny i’r rhif cyfan nesaf, sef 55.

Bydd angen i H Cyf hefyd gyfrifo’r oriau cyfartalog a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, a defnyddio’r ffigur uwch ar gyfer oriau arferol y cyflogai.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo’r oriau arferol, yn seiliedig ar yr oriau a weithiwyd mewn mwy nag un cyfnod cyflog mewn blwyddyn flaenorol, ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol ac y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020.

2.14 Enghraifft o sut i gyfrifo’r oriau arferol, yn seiliedig ar nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd, ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol ac y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020

Dechreuodd cyflogai weithio i I Cyf ar 1 Mai 2020. Mae’r cyflogai’n cael ei dalu bob pythefnos a chafodd ei roi ar ffyrlo ar 3 Tachwedd 2020.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 30 Hydref 2020, felly’r dyddiad i gyfrifo hyd ato yw’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo, ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020 (2 Tachwedd 2020 yw’r dyddiad yn yr achos hwn).

Mae I Cyf yn cyfrifo bod y cyflogai’n gweithio 1,020 o oriau rhwng 1 Mai 2020 a 2 Tachwedd 2020 (yn gynhwysol). Mae hyn yn cynnwys unrhyw oriau y cafodd y cyflogai dâl gwyliau ar eu cyfer.

Caiff y cyflogai ei dalu ar gyfer y cyfnod cyflog 15 Tachwedd 2020 i 28 Tachwedd 2020, ac mae I Cyf yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer yr un cyfnod (15 Tachwedd 2020 i 28 Tachwedd 2020).

Mae I Cyf yn cyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd o 1 Mai 2020 hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020, fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch gyda 1,020 (nifer yr oriau a weithiwyd mewn gwirionedd (neu’r oriau ar wyliau blynyddol â thâl neu wyliau ‘fflecsi’) o 1 Mai 2020 (gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio) hyd at (a chan gynnwys) 2 Tachwedd 2020.

  2. Rhannwch â 186 (nifer y diwrnodau calendr roedd y cyflogai wedi’i gyflogi gan I Cyf o 1 Mai 2020 – gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio hyd at (a chan gynnwys) 2 Tachwedd 2020).

  3. Lluoswch ag 14 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu gyfnod cyflog rhannol) mae I Cyf yn hawlio ar eu cyfer) = 76.77.

  4. Talgrynnwch i fyny i’r rhif cyfan nesaf oherwydd nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan ac oherwydd bod y cyfrifiad ar gyfer cyfnod hawlio cyfan = 77.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo oriau arferol eich cyflogeion a’u horiau ffyrlo.

2.15 Enghraifft o sut i gyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd o 6 Ebrill 2020 a hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo, ar neu ar ôl 1 Mai 2021

Dechreuodd cyflogai weithio i’w gyflogwr ar 1 Chwefror 2021. Mae’r cyflogai’n cael ei dalu bob mis calendr a chafodd ei roi ar ffyrlo ar 4 Mai 2021.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 2 Mawrth 2021, felly’r dyddiad i gyfrifo hyd ato yw’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo, ar neu ar ôl 1 Mai 2021 (3 Mai 2021 yw’r dyddiad yn yr achos hwn).

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo bod y cyflogai wedi gweithio 520 awr rhwng 1 Chwefror 2021 a 3 Mai 2021 (yn gynhwysol). Mae hyn yn cynnwys unrhyw oriau y cafodd y cyflogai dâl gwyliau ar eu cyfer.

Caiff y cyflogai ei dalu ar gyfer y cyfnod cyflog 1 Mai 2021 i 31 Mai 2021, ac mae’r cyflogwr yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer yr un cyfnod (1 Mai 2021 i 31 Mai 2021).

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd o 1 Chwefror 2021 hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Mai 2021, fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch gyda 520 (nifer yr oriau a weithiwyd mewn gwirionedd (neu’r oriau ar wyliau blynyddol â thâl neu wyliau ‘fflecsi’) o 1 Chwefror 2021 hyd at (a chan gynnwys) 3 Mai 2021).

  2. Rhannwch â 92 (nifer y diwrnodau calendr roedd y cyflogai wedi’i gyflogi gan y cyflogwr o 1 Chwefror 2021 – gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio – hyd at (a chan gynnwys) 3 Mai 2021).

  3. Lluoswch â 31 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer) = 175.22.

  4. Talgrynnwch i fyny i’r rhif cyfan nesaf oherwydd nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan ac oherwydd bod y cyfrifiad ar gyfer cyfnod hawlio cyfan = 176.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo oriau arferol eich cyflogeion a’u horiau ffyrlo.

2.16 Enghraifft ar gyfer cyfrifo nifer yr oriau ffyrlo

Caiff cyflogai ei roi ar ffyrlo hyblyg o 1 Awst 2021 ymlaen. Mae J Cyf, ei gyflogwr, yn hawlio’n wythnosol, yn unol â phan mae’n prosesu ei gyflogres.

Mae J Cyf yn anelu at hawlio ar gyfer y cyflogai ar gyfer y cyfnod 9 Awst 2021 i 15 Awst 2021 (1 wythnos). Mae’r cyflogwr yn cyfrifo mai 37 awr yw oriau arferol y cyflogai ar gyfer y cyfnod hwn. Nid yw’r cyflogai’n cymryd gwyliau yn y cyfnod hwn.

Mae’r cyflogai a J Cyf yn cytuno y byddai’r cyflogai’n gweithio 10 awr yn y cyfnod 9 Awst 2021 i 15 Awst 2021. Mae’r cyflogai’n gweithio 10 awr yn y cyfnod hwnnw.

Mae J Cyf yn cyfrifo nifer o oriau ffyrlo y cyflogai fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch gyda 37 (oriau arferol y cyflogai).

  2. Didynnwch 10 (nifer yr oriau y mae’r cyflogai wedi gweithio mewn gwirionedd yn ystod y cyfnod hawlio).

Mae’r cyflogai’n cael ei roi ar ffyrlo am 27 allan o’i 37 awr arferol.

Darllenwch arweiniad ar gyfrifo nifer yr oriau ffyrlo.

2.17 Enghraifft o gyfrifo’r uchafswm cyflog am ran o gyfnod cyflog

Mae K Cyf yn talu ei holl gyflogeion bob wythnos ar ddydd Gwener ac yn rhoi ei holl gyflogeion ar ffyrlo o ddydd Mercher, 2 Mehefin 2021 tan ddydd Mercher, 30 Mehefin 2021.

Mae’r cyfnod cyflog cyntaf yn ystod y cyfnod hawlio yn dod i ben ar ddydd Gwener, 4 Mehefin 2021. Roedd y cyflogeion ar ffyrlo am 3 diwrnod yn unig yn ystod y cyfnod cyflog hwn, felly bydd angen i K Cyf gyfrifo’r uchafswm cyflog gan ddefnyddio’r cyfrifiad dyddiol. £83.34 yw hwn wedi’u lluosi â 3 diwrnod, sef £250.02.

Ar gyfer y cyfnod cyflog nesaf, 5 Mehefin 2021 i 11 Mehefin 2021, yr uchafswm yw £576.92 oherwydd bod y cyfnod cyflog yn wythnos gyfan, a bod y cyflogai wedi bod ar ffyrlo bob dydd.

Mae’r cyfnodau cyflog canlynol – 12 Mehefin 2021 i 18 Mehefin 2021, ac 19 Mehefin 2021 i 25 Mehefin 2021 – hefyd yn wythnosau cyfan, felly’r uchafswm ar gyfer pob un o’r cyfnodau hynny yw £576.92.

Nid yw’r rhan o’r cyfnod hawlio sy’n weddill, sef 26 Mehefin 2021 i 30 Mehefin 2021, yn wythnos gyfan, felly bydd angen i K Cyf gyfrifo’r uchafswm cyflog gan ddefnyddio’r cyfrifiad dyddiol. £83.34 yw hwn wedi’u lluosi â 5 diwrnod, sef £416.70.

Mae K Cyf yn gwneud hawliad ar gyfer 2 Mehefin 2021 i 30 Mehefin 2021. Yr uchafswm cyflog yw cyfanswm y symiau ar gyfer pob cyfnod cyflog: £250.02 + £576.92 + £576.92 + £576.92 + £416.70 = £2,397.48.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo’r uchafswm cyflog.

3. Cyfrifo 80% o gyflog arferol eich cyflogai

3.1 Enghraifft o gyfrifo’r uchafswm cyflog am ran o gyfnod cyflog

Mae K Cyf yn talu ei holl gyflogeion bob wythnos ar ddydd Gwener ac yn rhoi ei holl gyflogeion ar ffyrlo ar ddydd Mercher, 8 Ebrill 2020.

Bydd angen i K Cyf gyfrifo uchafswm y cyflog gan ddefnyddio’r cyfrifiad dyddiol ar gyfer y cyfnod cyflog cyntaf sy’n dod i ben ar ddydd Gwener, 10 Ebrill 2020. £83.34 yw hwn wedi’u lluosi â 3 diwrnod, sef £250.02.

Ar gyfer y cyfnod cyflog nesaf, 11 Ebrill 2020 i 17 Ebrill 2020, yr uchafswm yw £576.92 oherwydd bod y cyfnod cyflog yn wythnos gyfan, a bod y cyflogai wedi bod ar ffyrlo bob dydd.

Mae K Cyf yn gwneud hawliad ar gyfer 8 Ebrill 2020 i 17 Ebrill 2020. Yr uchafswm cyflog yw’r ddau swm wedi’u hychwanegu at ei gilydd, sef £826.94.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo’r uchafswm cyflog.

3.2 Enghraifft ar gyfer cyfrifo 80% o gyflogau ar gyfer cyflogeion amser llawn neu ran-amser ar gyfradd sefydlog ac ar gyflog os mai 19 Mawrth 2020 yw dyddiad cyfeirio’r cyflogai

Dechreuodd cyflogai weithio i L Cyf ym 1997 ac mae cyflog misol sefydlog yn cael ei dalu’n rheolaidd iddo ar ddiwrnod olaf pob mis. Cytunodd y cyflogai i gael ei roi ar ffyrlo o 23 Mawrth 2020 ymlaen. Talwyd £2,400 i’r cyflogai ar gyfer y cyfnod cyflog misol llawn ddiwethaf cyn 19 Mawrth 2020. Mae 9 diwrnod rhwng 23 Mawrth a 31 Mawrth (yn gynhwysol).

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

Mae L Cyf yn cyfrifo 80% o gyflog y cyflogai:

  1. Dechreuwch gyda £2,400 (y cyflog sy’n daladwy i’r cyflogai yn ystod y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai).

  2. Rhannwch â 31 (cyfanswm nifer y diwrnodau yn y cyfnod cyflog y mae’r cyflogwr yn cyfrifo ar ei gyfer).

  3. Lluoswch â 9 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer).

  4. Lluoswch ag 80% – sef £557.42.

3.3 Enghraifft ar gyfer cyfrifo 80% o gyflogau ar gyfer cyflogeion amser llawn neu ran-amser ar gyfradd sefydlog ac ar gyflog os mai’r dyddiad cyfeirio yw 30 Hydref 2020

Dechreuodd cyflogai weithio i M Cyf ar 1 Ebrill 2020 ac mae cyflog misol yn cael ei dalu’n rheolaidd iddo ar ddiwrnod olaf pob mis. Cytunodd y cyflogai i gael ei roi ar ffyrlo o 2 Tachwedd 2020 ymlaen. Talwyd £2,400 i’r cyflogai ar gyfer y cyfnod cyflog misol llawn ddiwethaf cyn 30 Hydref 2020. Mae 29 diwrnod rhwng 2 Tachwedd 2020 a 30 Tachwedd 2020 (yn gynhwysol).

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 30 Hydref 2020.

Mae M Cyf yn cyfrifo 80% o gyflog y cyflogai:

  1. Dechreuwch gyda £2,400 (y cyflog sy’n daladwy i’r cyflogai yn ystod y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai).

  2. Rhannwch â 30 (cyfanswm nifer y diwrnodau yn y cyfnod cyflog y mae’r cyflogwr yn cyfrifo ar ei gyfer).

  3. Lluoswch â 29 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer).

  4. Lluoswch ag 80% – sef £1,856.

3.4 Enghraifft ar gyfer cyfrifo 80% o gyflogau ar gyfer cyflogeion amser llawn neu ran-amser ar gyfradd sefydlog ac ar gyflog os mai’r dyddiad cyfeirio yw 2 Mawrth 2021

Dechreuodd cyflogai weithio i gyflogwr ar 1 Rhagfyr 2020 a chaiff cyflog wythnosol rheolaidd ei dalu iddo. Cytunodd y cyflogai i gael ei roi ar ffyrlo o 17 Mai 2021 ymlaen. Talwyd £480 i’r cyflogai ar gyfer y cyfnod cyflog wythnosol diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn 2 Mawrth 2020.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 2 Mawrth 2021.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo 80% o gyflog y cyflogai:

  1. Dechreuwch gyda £480 (y cyflog sy’n daladwy i’r cyflogai yn ystod y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai).

  2. Rhannwch â 7 (cyfanswm nifer y diwrnodau yn y cyfnod cyflog y mae’r cyflogwr yn cyfrifo ar ei gyfer).

  3. Lluoswch â 7 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer).

  4. Lluoswch ag 80% – sef £384.00.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflog cyflogeion amser llawn neu ran-amser sydd ar gyfradd sefydlog.

3.5 Enghraifft o gyfrifo 80% o gyflogau ar gyfer cyflogeion amser llawn neu ran-amser sydd ar gyfradd sefydlog ac sy’n dychwelyd i weithio eu horiau arferol yn ystod y cyfnod hawlio os mai 19 Mawrth 2020 yw’r dyddiad cyfeirio

Mae gan gyflogai gyfnod cyflog mis calendr, ac fel arfer mae’n gweithio 40 awr yr wythnos. Talwyd £2,000 i’r cyflogai yn ystod y cyfnod cyflog misol llawn ddiwethaf cyn 19 Mawrth 2020. Caiff y cyflogai ei roi ar ffyrlo hyblyg o 1 Mai 2021 ymlaen, gan weithio 10 awr yr wythnos. Mae’r cytundeb ffyrlo hyblyg yn dod i ben ar 12 Mai 2021, ac mae’r cyflogai’n dod yn ôl i weithio ei oriau arferol llawn o 13 Mai 2021 ymlaen.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo 80% o gyflog y cyflogai:

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo 80% o gyflog y cyflogai:

  1. Dechreuwch gyda £2,000 (y cyflog sy’n daladwy i’r cyflogai yn ystod y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai).

  2. Rhannwch â 31 (cyfanswm nifer y diwrnodau yn y cyfnod cyflog y mae’r cyflogwr yn cyfrifo ar ei gyfer).

  3. Lluoswch â 12 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer).

  4. Lluoswch ag 80% – sef £619.35.

Dylai N Cyf anwybyddu unrhyw oriau arferol, oriau gwaith ac oriau ffyrlo ar ôl 12 Mai 2021 gan nad yw’r cyflogai ar ffyrlo mwyach ar ôl y dyddiad hwnnw, hyd yn oed os oes raid i N Cyf hawlio am gyfnod hirach megis 1 Mai 2021 i 31 Mai 2021 (er enghraifft i gysoni’r cyfnodau hawlio wrth hawlio ar gyfer nifer o gyflogeion).

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflog cyflogeion amser llawn neu ran-amser sydd ar gyfradd sefydlog.

3.6 Enghraifft ar gyfer cyfrifo 80% o gyflog eich cyflogai cyfradd sefydlog os nad yw wedi cael ei dalu am gyfnod cyflog llawn

Dechreuodd cyflogai weithio i O Cyf ar 21 Chwefror 2020 ac mae’n cael ei dalu ar ddiwrnod olaf pob mis. Caiff y cyflogai gyflog sefydlog. Nid oedd y cyflogai wedi cael cyfnod cyflog llawn hyd at 19 Mawrth 2020, ond talwyd £700 iddo fel pro-rata o’i gyflog ar 29 Chwefror 2020. Mae 9 diwrnod rhwng 21 Chwefror 2020 a 29 Chwefror 2020 (yn gynhwysol). Mae’r cyflogai’n cytuno i gael ei roi ar ffyrlo o 25 Mawrth 2020 ymlaen. Mae 7 diwrnod rhwng 25 Mawrth 2020 a 31 Mawrth 2020 (yn gynhwysol).

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

  1. Dechreuwch gyda £700 (y swm a dalwyd iddo yn ystod y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai).

  2. Rhannwch â 9 (nifer y diwrnodau yn y cyfnod hwnnw - gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio).

  3. Lluoswch â 7 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer).

  4. Lluoswch ag 80% – sef £435.56.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflogau os nad yw cyfnod cyflog diwethaf eich cyflogai cyfradd sefydlog, sy’n dod i ben ar neu cyn ei ddyddiad cyfeirio, yn gyfnod cyflog llawn neu os yw amlder y cyflog wedi newid.

3.7 Enghraifft o gyfrifo cyflog ar gyfer cyflogai cyfradd sefydlog y mae ei gyfnod cyflog cyntaf yn dod i ben ar ôl ei ddyddiad cyfeirio, os mai dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 30 Hydref 2020

Dechreuodd cyflogai weithio i EF Cyf ar 12 Hydref 2020 ac mae ganddo hawl i gyflog misol o £2,340 i gael ei dalu’n rheolaidd iddo ar ddiwrnod olaf pob mis.

Cytunodd y cyflogai i gael ei roi ar ffyrlo o 2 Tachwedd 2020 hyd at 30 Tachwedd 2020 ymlaen (29 diwrnod).

£1,620 yw tâl y cyflogai am y cyfnod rhwng 12 Hydref 2020 a 31 Hydref 2020 oherwydd i’r cyflogai ddechrau gweithio rhan o’r ffordd drwy’r cyfnod.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 30 Hydref 2020.

Mae EF Cyf yn cyfrifo 80% o gyflog y cyflogai:

  1. Dechreuwch gyda £1,620 (swm cyflog y cyflogai a gafodd ei gynnwys ar Gyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE diwethaf EF Cyf a gyflwynwyd i CThEM, ac a ddaeth i’w law, ar neu cyn ei ddyddiad cyfeirio).

  2. Rhannwch â 20 (nifer y diwrnodau yn y cyfnod cyflog y mae’r Cyflwyniad Taliadau Llawn Gwybodaeth Amser Real TWE yn ymwneud â nhw).

  3. Lluoswch â 29 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer).

  4. Lluoswch ag 80% – sef £1,879.20.

Darllenwch arweiniad ar gyfrifo cyflog ar gyfer cyflogai cyfradd sefydlog y mae ei gyfnod cyflog cyntaf yn dod i ben ar ôl ei ddyddiad cyfeirio.

3.8 Enghraifft o gyfrifo cyflog ar gyfer cyflogai cyfradd sefydlog y mae ei gyfnod cyflog cyntaf yn dod i ben ar ôl ei ddyddiad cyfeirio, os mai 2 Mawrth 2021 yw dyddiad cyfeirio’r cyflogai

Dechreuodd cyflogai weithio i’w gyflogwr ar 26 Chwefror 2021 ac mae ganddo hawl i gyflog wythnosol rheolaidd o £541 a delir iddo bob dydd Mercher.

Cytunodd y cyflogai i gael ei roi ar ffyrlo o 2 Mai 2021 hyd at 31 Mai 2021 ymlaen (30 diwrnod).

£463.71 yw tâl y cyflogai am y cyfnod rhwng 26 Chwefror 2021 a 3 Mawrth 2021 oherwydd i’r cyflogai ddechrau gweithio rhan o’r ffordd drwy’r cyfnod cyflog. Cyflwynodd y cyflogwr Gyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE, a ddaeth i law CThEM ar 1 Mawrth 2021 – swm y cyflog a oedd wedi’i gynnwys ar yr FPS RTI hwnnw oedd £463.71.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 2 Mawrth 2021.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo 80% o gyflog arferol y cyflogai ar gyfer y cyfnod cyflog 3 Mai 2021 i 9 Mai 2021:

  1. Dechreuwch gyda £463.71 (swm cyflog y cyflogai a gafodd ei gynnwys ar Gyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE diwethaf y cyflogwr a gyflwynwyd i CThEM, ac a ddaeth i’w law, ar neu cyn ei ddyddiad cyfeirio).

  2. Rhannwch â 6 (nifer y diwrnodau yn y cyfnod cyflog rhannol y mae’r Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE yn ymwneud â nhw).

  3. Lluoswch â 7 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer).

  4. Lluoswch ag 80% – sef £432.80.

Darllenwch arweiniad ar gyfrifo cyflog ar gyfer cyflogai cyfradd sefydlog y mae ei gyfnod cyflog cyntaf yn dod i ben ar ôl ei ddyddiad cyfeirio.

3.9 Enghraifft o gyfrifo 80% o’r cyflogau o’r un cyfnod mewn blwyddyn flaenorol am fis cyn mis Mawrth 2021

Mae P Cyf yn talu cyflogai ar sail wythnosol. Mae cyfnod cyflog y cyflogai’n dechrau ar 23 Mawrth 2020 ac yn dod i ben ar 29 Mawrth 2020. Cafodd y cyflogai ei roi ar ffyrlo am yr wythnos gyfan.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

3.10 Enghraifft o gyfrifo 80% o’r cyflogau o’r un cyfnod mewn blwyddyn flaenorol ar gyfer mis Chwefror 2021

Mae P Cyf yn talu swm amrywiol i gyflogai ar ddiwedd pob mis calendr. Mae cyfnod cyflog y cyflogai’n dechrau ar 1 Chwefror 2021 ac yn dod i ben ar 28 Chwefror 2021.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

3.11 Enghraifft o gyfrifo 80% o’r cyflogau o’r un cyfnod mewn blwyddyn flaenorol o fis Mawrth 2021 ymlaen

Mae P Cyf yn talu cyflogai ar sail wythnosol. Mae cyfnod cyflog y cyflogai’n dechrau ar 5 Ebrill 2021 ac yn dod i ben ar 11 Ebrill 2021. Cafodd y cyflogai ei roi ar ffyrlo am yr wythnos gyfan.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

3.12 Enghraifft o gyfrifo 80% o’r cyflog misol cyfartalog ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020

Dechreuodd cyflogai weithio i Q Cyf yn 2018, a chafodd ei roi ar ffyrlo ar 23 Mawrth 2020, gan gael cyflog o £15,000 rhwng 6 Ebrill 2019 a 22 Mawrth 2020 yn gynhwysol. Mae 352 diwrnod rhwng 6 Ebrill 2019 a 22 Mawrth 2020 (yn gynhwysol).

Mae Q Cyf yn hawlio ar gyfer 5 Mehefin i 13 Mehefin 2021. Mae 9 diwrnod rhwng 5 Mehefin ac 13 Mehefin 2021 (yn gynhwysol).

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

  1. Dechreuwch gyda £15,000 (swm y cyflog a oedd yn daladwy i’r cyflogai yn ystod blwyddyn dreth 2019 i 2020 hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf).

  2. Rhannwch hynny â 352 (sef nifer y diwrnodau ers dechrau blwyddyn dreth 2019 i 2020 – gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio – hyd at, a chan gynnwys, y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf, neu 5 Ebrill 2020 – pa un bynnag sydd gynharaf).

  3. Lluoswch â 9 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer).

  4. Lluoswch ag 80% – £306.82 yw hwn.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflog misol cyfartalog ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020.

3.13 Enghraifft o gyfrifo 80% o gyflog cyfartalog ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 os dechreuodd y gyflogaeth ar ôl 6 Ebrill 2019

Dechreuodd cyflogai weithio i R Cyf ar 1 Mai 2019, a chafodd ei roi ar ffyrlo ar 23 Mawrth 2020, gan gael cyflog o £15,000 rhwng 1 Mai 2019 a 22 Mawrth 2020 yn gynhwysol. Mae 327 diwrnod rhwng 1 Mai 2019 a 22 Mawrth 2020 (yn gynhwysol). Mae R Cyf yn hawlio ar gyfer 23 Mawrth i 31 Mawrth 2020. Mae 9 diwrnod rhwng 23 Mawrth a 31 Mawrth 2020 (yn gynhwysol).

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020.

  1. Dechreuwch gyda £15,000 (swm y cyflog a oedd yn daladwy i’r cyflogai yn ystod blwyddyn dreth 2019 i 2020 hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf).

  2. Rhannwch hynny â 327 (sef nifer y diwrnodau ers dechrau’r gyflogaeth – gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio –hyd at, a chan gynnwys, y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf, neu 5 Ebrill 2020 – pa un bynnag sydd gynharaf).

  3. Lluoswch â 9 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer).

  4. Lluoswch ag 80% – £330.28 yw hwn.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflog cyfartalog ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf.

3.14 Enghraifft o gyfrifo 80% o gyflog misol cyfartalog ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 os yw’r cyflogai wedi cymryd cyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol a bod yr hawliad ar gyfer cyfnod sy’n dechrau ar neu ar ol 1 Mai 2021

Dechreuodd cyflogai weithio i’w gyflogwr yn 2015, a chafodd ei roi ar ffyrlo ar 1 Ebrill 2021. Ni chafodd y cyflogai ei roi ar ffyrlo yn ystod blwyddyn dreth 2019 i 2020, a chafodd gyflog o £24,000 rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2020 (yn gynhwysol).

Roedd y cyflogai ar gyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol rhwng 1 Medi 2019 a 6 Hydref 2019 (yn gynhwysol) – sef 36 diwrnod.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020

Mae’r cyflogai’n hawlio ar gyfer y cyfnod cyflog 1 Mai 2021 i 31 Mai 2021.

Mae 366 diwrnod rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2020 (yn gynhwysol). Ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021, ni ddylai’r cyflogwr gynnwys y diwrnodau pan oedd y cyflogai ar absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol, gan adael 330 diwrnod. Hefyd, ni ddylai’r cyflogai gynnwys cyflogau sy’n ymwneud â chyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol – £1,500 oedd hyn, gan adael £22,500. Ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dod i ben ar neu cyn 30 Ebrill 2021, ni all y cyflogwr ddileu’r diwrnodau hyn na’r symiau cyflog hyn o’r cyfrifiad.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo 80% o gyflog arferol y cyflogai ar gyfer y cyfnod cyflog 1 Mai 2021 i 31 Mai 2021 fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch gyda £22,500 (swm y cyflog a oedd yn daladwy i’r cyflogai yn ystod blwyddyn dreth 2019 i 2020 hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf) – nid yw hyn yn cynnwys cyflog sy’n ymwneud â’r cyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol.

  2. Rhannwch hynny â 330 (sef nifer y diwrnodau ers dechrau blwyddyn dreth 2019 i 2020 – gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio (hyd at, a chan gynnwys, y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf, neu 5 Ebrill 2020 – pa un bynnag sydd gynharaf)) – nid yw hyn yn cynnwys y diwrnodau ar absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol.

  3. Lluoswch â 31 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer).

  4. Lluoswch ag 80% – £1,690.91 yw hwn.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflog misol cyfartalog ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020.

3.15 Enghraifft o gyfrifo 80% o gyflog cyfartalog eich cyflogai rhwng 6 Ebrill 2020 a’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020

Dechreuodd cyflogai weithio i S Cyf ar 3 Awst 2020, a chafodd ei roi ar ffyrlo ar 4 Tachwedd 2020, gan gael cyflog o £4,000 rhwng 3 Awst 2020 a 3 Tachwedd 2020 (yn gynhwysol).

Caiff y cyflogai ei dalu ar gyfer y cyfnod cyflog 15 Tachwedd 2020 i 28 Tachwedd 2020, ac mae S Cyf yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer yr un cyfnod (15 Tachwedd 2020 i 28 Tachwedd 2020).

Mae 93 diwrnod rhwng 3 Awst 2020 a 3 Tachwedd 2020 (yn gynhwysol).

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 30 Hydref 2020, felly’r dyddiad i gyfrifo hyd ato yw’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo, ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020 (3 Tachwedd 2020 yw’r dyddiad yn yr achos hwn).

Mae S Cyf yn cyfrifo 80% o gyflog cyfartalog y cyflogai rhwng 3 Awst 2020 a’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020:

  1. Dechreuwch gyda £4,000 (swm y cyflog a oedd y daladwy i’r cyflogai o 3 Awst 2020 hyd at (a chan gynnwys) y dyddiad i gyfrifo hyd ato).

  2. Rhannwch hynny â 93 (sef nifer y diwrnodau ers 3 Awst 2020 – gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio – hyd at (a chan gynnwys) y dyddiad i gyfrifo hyd ato).

  3. Lluoswch â 14 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer).

  4. Lluoswch ag 80% – £481.72 yw hwn.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflog misol cyfartalog arferol ar gyfer cyflogai cyfradd amrywiol y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020 neu 2 Mawrth 2021.

3.16 Enghraifft o gyfrifo 80% o’r cyflog misol cyfartalog sy’n daladwy rhwng 6 Ebrill 2020 a’r diwrnod cyn i’r cyflogai gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Mai 2021

Dechreuodd cyflogai weithio i’w gyflogwr ar 15 Tachwedd 2020, a chafodd ei roi ar ffyrlo ar 1 Mai 2021, gan gael cyflog o £10,000 rhwng 15 Tachwedd 2020 a 30 Ebrill 2021 yn gynhwysol.

Caiff y cyflogai ei dalu ar gyfer y cyfnod cyflog 3 Mai 2021 i 9 Mai 2021, ac mae’r cyflogwr yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer yr un cyfnod (3 Mai 2021 i 9 Mai 2021).

Mae 167 diwrnod rhwng 15 Tachwedd 2020 a 30 Ebrill 2021 (yn gynhwysol).

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 2 Mawrth 2021, felly’r dyddiad i gyfrifo hyd ato yw’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo, ar neu ar ôl 1 Mai 2021 (30 Ebrill 2021 yw’r dyddiad yn yr achos hwn).

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo 80% o gyflog cyfartalog y cyflogai rhwng 15 Tachwedd 2020 a’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Mai 2021:

  1. Dechreuwch gyda £10,000 (swm y cyflog a oedd y daladwy i’r cyflogai o 15 Tachwedd 2020 hyd at (a chan gynnwys) y dyddiad i gyfrifo hyd ato).

  2. Rhannwch hynny â 167 (sef nifer y diwrnodau roedd y cyflogai wedi’i gyflogi gennych ers 15 Tachwedd 2020 – gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio – hyd at (a chan gynnwys) y dyddiad i gyfrifo hyd ato).

  3. Lluoswch â 7 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer).

  4. Lluoswch ag 80% – £419.16 yw hwn.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflog misol cyfartalog arferol ar gyfer cyflogai cyfradd amrywiol y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020 neu 2 Mawrth 2021.

3.17 Enghraifft o gyfrifo 80% o gyflog cyfartalog eich cyflogai rhwng 6 Ebrill 2020 a’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020 os yw’r cyflogai wedi cymryd cyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol a bod yr hawliad ar gyfer cyfnod sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021

Dechreuodd cyflogai weithio i’w gyflogwr ar 3 Ebrill 2020, a chafodd ei roi ar ffyrlo ar 1 Mai 2021, gan gael cyflog o £23,000 rhwng 6 Ebrill 2020 a 30 Ebrill 2021 yn gynhwysol.

Caiff y cyflogai ei dalu ar gyfer y cyfnod cyflog 1 Mai 2021 i 31 Mai 2021, ac mae’r cyflogwr yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer yr un cyfnod (1 Mai 2021 i 31 Mai 2021).

Mae 390 diwrnod rhwng 6 Ebrill 2020 a 30 Ebrill 2021 (yn gynhwysol).

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 30 Hydref 2020, felly’r dyddiad i gyfrifo hyd ato yw’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo, ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020 (30 Ebrill 2021 yw’r dyddiad yn yr achos hwn).

Roedd y cyflogai ar gyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol rhwng 1 Rhagfyr 2020 a 31 Rhagfyr 2020 (yn gynhwysol) – sef 31 diwrnod.

Ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021, ni ddylai’r cyflogwr gynnwys y diwrnodau pan oedd y cyflogai ar absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol, gan adael 359 diwrnod. Hefyd, ni ddylai’r cyflogai gynnwys cyflogau sy’n ymwneud â chyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol – £1,250 oedd hyn, gan adael £21,750. Ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dod i ben ar neu cyn 30 Ebrill 2021, ni all y cyflogwr ddileu’r diwrnodau hyn na’r symiau cyflog hyn o’r cyfrifiad.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo 80% o gyflog cyfartalog y cyflogai rhwng 6 Ebrill 2020 (neu, os yw’n hwyrach, y dyddiad y dechreuodd y gyflogaeth) a’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020:

  1. Dechreuwch gyda £21,750 (swm y cyflog a oedd yn daladwy i’r cyflogai ers 6 Ebrill 2020 hyd at (a chan gynnwys) y dyddiad i gyfrifo hyd ato) – nid yw hyn yn cynnwys cyflog sy’n ymwneud â’r cyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol.

  2. Rhannwch hynny â 359 (sef nifer y diwrnodau roedd y cyflogai wedi’i gyflogi gennych ers 6 Ebrill 2020 – gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio – hyd at (a chan gynnwys) y dyddiad i gyfrifo hyd ato) – nid yw hyn yn cynnwys y diwrnodau ar absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol.

  3. Lluoswch â 31 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer).

  4. Lluoswch ag 80% – £1,502.51 yw hwn.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflog misol cyfartalog arferol ar gyfer cyflogai cyfradd amrywiol y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020 neu 2 Mawrth 2021.

3.18 Enghraifft o gyfrifo cyflog cyfartalog ar gyfer cyflogai sydd ar gyfradd amrywiol, y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020, ac y mae ei gyflog cyntaf yn daladwy ar ôl iddo ddechrau cyfnod o ffyrlo

Dechreuodd cyflogai weithio i GH Cyf ar 21 Medi 2020 ac mae’n cael ei dalu swm amrywiol bob mis. Mae cyfnod cyflog GH Cyf yn rhedeg o 16 Medi 2020 i 15 Hydref 2020, sy’n daladwy ar 2 Tachwedd 2020.

Cytunodd y cyflogai i gael ei roi ar ffyrlo o 1 Tachwedd 2020 hyd at 30 Tachwedd 2020 ymlaen (30 diwrnod).

Cyflog y cyflogai am y cyfnod rhwng 21 Medi a 15 Hydref 2020 yw £1,900.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 30 Hydref 2020, felly’r dyddiad i gyfrifo hyd ato yw’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo, ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020 (31 Hydref 2020 yw’r dyddiad yn yr achos hwn).

Mae GH Cyf yn cyfrifo 80% o gyflog cyfartalog y cyflogai:

  1. Dechreuwch gyda £1,900 (swm cyflog y cyflogai a gafodd ei gynnwys ar Gyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE diwethaf GH Cyf a ddaeth i law CThEM ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai).

  2. Rhannwch hynny â 41 (sef nifer y diwrnodau roedd y cyflogai wedi’i gyflogi gan y cyflogwr ers 6 Ebrill 2020 – gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio – hyd at (a chan gynnwys) y dyddiad i gyfrifo hyd ato).

  3. Lluoswch â 30 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer).

  4. Lluoswch ag 80% – sef £1,112.20.

Darllenwch arweiniad ar gyfrifo cyflogau cyfartalog ar gyfer cyflogai sydd ar gyfradd amrywiol y mae ei gyflog cyntaf yn daladwy ar ôl iddo ddechrau cyfnod o ffyrlo.

3.19 Enghraifft o sut i gyfrifo faint o isafswm y cyflog ffyrlo y gallwch ei hawlio

Mae cyflogai U Cyf wedi bod ar ffyrlo yn barhaus ers 15 Ebrill 2020. Caiff y cyflogai ei dalu bob mis calendr. Mae U Cyf yn gwneud hawliad ar gyfer 1 Tachwedd i 30 Tachwedd 2020. Mae U Cyf wedi cyfrifo mai £1,500 yw isafswm y cyflog ffyrlo ar gyfer y cyfnod hwn, sy’n 80% o gyflog arferol y cyflogai.

Gall U Cyf hawlio grant o £1,500 tuag at gyflog ei gyflogai, sef yr 80% llawn o gyflogau arferol. Mae’n rhaid i U Cyf dalu’r isafswm cyflog ffyrlo i’r cyflogai, sef £1,500, ac mae’n gallu dewis talu mwy na hyn ond does dim rhaid iddo wneud hynny.

Ni all U Cyf hawlio grant tuag at gost unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr na chyfraniadau pensiwn y cyflogwr.

3.20 Enghraifft o sut i gyfrifo faint o’r isafswm cyflog ffyrlo y gallwch ei hawlio ar gyfer mis Gorffennaf 2021

Mae cyflogai R Cyf wedi bod ar ffyrlo yn barhaus ers 1 Mai 2021. Caiff y cyflogai ei dalu bob mis calendr. Mae R Cyf yn gwneud hawliad ar gyfer 1 Gorffennaf 2021 i 31 Gorffennaf 2021. Mae R Cyf wedi cyfrifo mai £1,500 yw isafswm y cyflog ffyrlo ar gyfer y cyfnod hwn, sy’n 80% o gyflog arferol y cyflogai.

Mae R Cyf yn cyfrifo faint mae’n gallu hawlio ar gyfer cyflog ffyrlo ei gyflogai:

  1. Dechreuwch gyda £1,500 – dyma’r isafswm cyflog ffyrlo.

  2. Rhannwch ag 80.

  3. Lluoswch â 70 – oherwydd bod y cyfnod hawlio ym mis Gorffennaf 2021.

Mae R Cyf yn hawlio grant o £1,312.50 tuag at gyflog ei gyflogai. Fodd bynnag, mae’n rhaid i R Cyf dalu’r isafswm cyflog ffyrlo i’r cyflogai, sef £1,500, ac mae’n gallu dewis talu mwy na hyn ond does dim rhaid iddo wneud hynny.

Ni all U Cyf hawlio grant tuag at gost unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr na chyfraniadau pensiwn y cyflogwr.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo faint o isafswm y cyflog ffyrlo y gallwch hawlio.

Enghraifft arall o sut i gyfrifo faint o’r isafswm cyflog ffyrlo y gallwch ei hawlio ar gyfer mis Gorffennaf 2021

Mae cyflogai cyflogwr wedi bod ar ffyrlo yn barhaus ers 15 Ionawr 2021. Telir y cyflogai’n wythnosol. Mae’r cyflogwr yn gwneud hawliad ar gyfer 19 Gorffennaf 2021 i 25 Gorffennaf 2021. Mae’r cyflogwr wedi cyfrifo mai £400 yw’r isafswm cyflog ffyrlo ar gyfer y cyfnod hwn, sy’n 80% o gyflog arferol y cyflogai.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo faint mae’n gallu’i hawlio ar gyfer cyflog ffyrlo ei gyflogai:

  1. Dechreuwch gyda £400 – dyma’r isafswm cyflog ffyrlo.

  2. Rhannwch ag 80.

  3. Lluoswch â 70 – oherwydd bod y cyfnod hawlio ym mis Gorffennaf 2021.

Mae’r cyflogwr yn gallu hawlio grant o £350 tuag at gyflog ei gyflogai. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r cyflogwr dalu’r isafswm cyflog ffyrlo i’r cyflogai, sef £400, ac mae’n gallu dewis talu mwy na hyn ond does dim rhaid iddo wneud hynny.

Ni all y cyflogwr hawlio grant tuag at gost unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr na chyfraniadau pensiwn y cyflogwr

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo faint o’r isafswm cyflog ffyrlo y gallwch ei hawlio.

3.21 Enghraifft o sut i gyfrifo faint o’r isafswm cyflog ffyrlo y gallwch ei hawlio ar gyfer mis Awst 2021

Mae cyflogai R Cyf wedi bod ar ffyrlo yn barhaus ers 1 Mai 2021. Caiff y cyflogai ei dalu bob mis calendr. Mae R Cyf yn gwneud hawliad ar gyfer 1 Awst 2021 i 31 Awst 2021. Mae R Cyf wedi cyfrifo mai £1,450 yw’r isafswm cyflog ffyrlo ar gyfer y cyfnod hwn, sy’n 80% o gyflog arferol y cyflogai.

Mae R Cyf yn cyfrifo faint mae’n gallu’i hawlio ar gyfer cyflog ffyrlo ei gyflogai:

  1. Dechreuwch gyda £1,450 – dyma’r isafswm cyflog ffyrlo.

  2. Rhannwch ag 80.

  3. Lluoswch â 60 – oherwydd bod y cyfnod hawlio ym mis Awst 2021.

Mae R Cyf yn gallu hawlio grant o £1,087.50 tuag at gyflog ei gyflogai. Fodd bynnag, mae’n rhaid i R Cyf dalu’r isafswm cyflog ffyrlo i’r cyflogai, sef £1,450, ac mae’n gallu dewis talu mwy na hyn ond does dim rhaid iddo wneud hynny.

Ni all R Cyf hawlio grant tuag at gost unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr na chyfraniadau pensiwn y cyflogwr.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo faint o’r isafswm cyflog ffyrlo y gallwch ei hawlio.

3.22 Enghraifft o sut i gyfrifo 80% o gyflog ar gyfer cyflogai sydd â thâl blynyddol, ac y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020

Caiff swm sefydlog o £8,000 ei dalu i gyfarwyddwr V Cyf ar 31 Rhagfyr bob blwyddyn, ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr (y flwyddyn galendr).

Cafodd y cyfarwyddwr ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf ar 1 Ebrill 2020. Tra oedd y cyfarwyddwr ar ffyrlo, roedd V Cyf yn talu ei gyflog iddo yn fisol yn hytrach nag yn flynyddol. O ganlyniad, cafodd y cyfarwyddwr sawl taliad o enillion y rhoddwyd gwybod amdanynt mewn cyflwyniad RTI rhwng 20 Mawrth 2020 a 30 Hydref 2020.

Mae V Cyf yn rhoi’r cyfarwyddwr ar ffyrlo eto ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Tachwedd a 30 Tachwedd 2020, ac yn gwneud hawliad drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ar gyfer y cyfarwyddwr, ar gyfer y cyfnod hwn. Ei ddyddiad cyfeirio yw 19 Mawrth 2020.

Mae V Cyf yn cyfrifo 80% o gyflog y cyflogai:

  1. Dechreuwch gyda’r cyflog sy’n daladwy i’ch cyflogai yn y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai – os ydych yn hawlio am gyfnod cyflog llawn, ewch yn syth i gam 4. Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020, a’r cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn 19 Mawrth 2020 oedd y flwyddyn hyd at 31 Rhagfyr 2019 – y cyflog a oedd yn daladwy yn y cyfnod hwn oedd £8,000.

  2. Rhannwch â 366 (cyfanswm y diwrnodau yn ystod y cyfnod cyflog rhwng 1 Ionawr 2020 a 31 Rhagfyr 2020).

  3. Lluoswch hyn â 30 (nifer y diwrnodau ffyrlo ym mis Tachwedd).

  4. Lluoswch hyn â 80%.

£8,000 ÷ 366 × 30 × 80% = £524.59

Dysgwch sut i gyfrifo 80% o gyflog cyflogeion amser llawn neu ran-amser sydd ar gyfradd sefydlog.

Dysgwch sut i hawlio ar gyfer cyfarwyddwyr cwmni sydd â chyfnod cyflog blynyddol.

3.23 Enghraifft o sut i gyfrifo 80% o gyflog ar gyfer cyflogai sydd â thâl blynyddol, ac y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020

Caiff swm sefydlog o £7,500 ei dalu i gyfarwyddwr W Cyf ar 30 Mawrth bob blwyddyn, ar gyfer y cyfnod rhwng 6 Ebrill a 5 Ebrill (y flwyddyn dreth).

Ni ellir hawlio ar gyfer y cyfarwyddwr drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws cyn 1 Tachwedd 2020, oherwydd ni chafodd daliad o enillion yn y flwyddyn dreth 2019-2020 y rhoddwyd gwybod amdano drwy RTI erbyn 19 Mawrth 2020. Talwyd £7,500 iddo ar 30 Mawrth 2020.

Mae W Cyf yn rhoi’r cyfarwyddwr ar ffyrlo ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Tachwedd a 30 Tachwedd 2020, ac yn gwneud hawliad drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ar gyfer y cyfarwyddwr ar gyfer y cyfnod hwn. Ei ddyddiad cyfeirio yw 30 Hydref 2020.

Mae W Cyf yn cyfrifo 80% o gyflog y cyflogai:

  1. Dechreuwch gyda’r cyflog sy’n daladwy i’ch cyflogai yn y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai – os ydych yn hawlio am gyfnod cyflog llawn, ewch yn syth i gam 4. Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 30 Hydref 2020, a’r cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn 30 Hydref 2020 oedd y flwyddyn hyd at 5 Ebrill 2020 – y cyflog a oedd yn daladwy yn y cyfnod hwn oedd £7,500.

  2. Rhannwch â 365 (nifer y diwrnodau yn ystod y cyfnod rhwng 6 Ebrill 2020 a 5 Ebrill 2021).

  3. Lluoswch â 30 (nifer y diwrnodau ffyrlo ym mis Tachwedd).

  4. Lluoswch hyn â 80%.

£7,500 ÷ 365 × 30 × 80% = £493.15

Nid oes disgwyl i’r cyfarwyddwr gael ei dalu tan 30 Mawrth 2021, ond dim ond os yw’r gyflogres ar fin cael ei rhedeg y gall cyflogwyr hawlio grant ymlaen llaw drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws. Os yw W Cyf yn hawlio grant drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ar gyfer Tachwedd 2020 mewn perthynas â’r cyfarwyddwr hwn, bydd angen ei dalu (a gweithredu TWE) yn gynt nag arfer.

Dysgwch sut i gyfrifo cyflog ar gyfer cyflogai sydd ar gyfradd sefydlog y mae ei gyfnod cyflog cyntaf yn dod i ben ar ôl 30 Hydref 2020.

Dysgwch sut i hawlio ar gyfer cyfarwyddwyr cwmni sydd â chyfnod cyflog blynyddol.

3.24 Enghraifft o sut i gyfrifo cyflogau ar gyfer gwahanol fathau o gynlluniau pensiwn

Mae cyflogai’n gweithio i X Cyf ac yn ennill swm sefydlog o £2,000 y mis. Mae’r cyflogai’n cyfrannu 5% o hyn = £100 at gynllun pensiwn y cyflogwr, drwy drefniant Cyflog Net.

Mae’r cyflogwr hefyd yn gwneud cyfraniad o 3% = £60. Dylid cynnwys swm llawn enillion y cyflogai, gan gynnwys y swm y mae’n ei gyfrannu at ei bensiwn, yng nghyfrifiad y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws. Ni ddylid cynnwys cyfraniad y cyflogwr. Swm y cyflog y dylai X Cyf ei gynnwys yng nghyfrifiad y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yw £2,000.

Mae cyflogai gwahanol yn gweithio i Y Cyf. Ymrwymodd y cyflogai i gynllun aberthu cyflog yn 2018. Cafodd ei gontract ei ddiwygio a’i gyflog ei ostwng o £2,000 i £1,800 yn gyfnewid am gyfraniad pensiwn gan y cyflogwr.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020. Yn ystod y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn 19 Mawrth 2020, enillodd £1,800 y mis a gwnaeth y cyflogwr gyfraniad pensiwn o £200 ar ei ran. Swm y cyflog y dylai Y Cyf ei gynnwys yng nghyfrifiad y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yw £1,800.