Canllawiau

Enghreifftiau llawn o sut i gyfrifo’r swm y dylech ei hawlio ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg

Diweddarwyd 29 October 2021

Daeth y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws i ben ar 30 Medi 2021.

Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos y camau cyfrifo llawn y mae’n rhaid i gyflogwr eu cymryd wrth hawlio drwy’r cynllun.

Mae’r enghreifftiau wedi’u seilio ar gyfnodau hawlio gan ddefnyddio sefyllfa gyffredin lle mae gan y cyflogai gyflog misol sefydlog, oriau gwaith sefydlog, ac mae ar ffyrlo hyblyg. Mae’n bosibl na fyddant yn adlewyrchu’ch amgylchiadau’n uniongyrchol, er y gallai fod yn ddefnyddiol i chi weld enghreifftiau o gyfrifiad llawn.

Enghraifft lawn sy’n dangos sut i gyfrifo’r swm y dylech ei hawlio ar gyfer cyflogai a oedd ar ffyrlo hyblyg yn ystod mis Mehefin 2021

Mae cyflogai wedi gweithio i F Cyf ers 2016, gan weithio 40 awr yr wythnos. Telir cyflog misol o £3,000 iddo.

Rhoddwyd y cyflogai ar ffyrlo’n wreiddiol o 25 Ebrill 2020 i 31 Awst 2020. Nid oes ychwanegiadau at y cyflog, nac ychwaith bonws, comisiwn na chyflog ychwanegol arall.

Ar 28 Mai 2021, mae F Cyf a’r cyflogai yn dod i gytundeb ffyrlo hyblyg sy’n dechrau o 2 Mehefin 2021 ymlaen, lle bydd y cyflogai, yn sgil y cytundeb, yn gwneud y canlynol:

  • yn gweithio hanner diwrnodau o 2 Mehefin 2021 hyd at, a chan gynnwys, 7 Mehefin 2021 (bydd y cyflogai i ffwrdd o’r gwaith am 2 o’r diwrnodau hyn, felly bydd yn gweithio 4 hanner diwrnod yn ystod y cyfnod hwn)
  • yn peidio â gweithio ac ar ffyrlo o 8 Mehefin 2021 tan 5 Gorffennaf 2021

Nid oes unrhyw gyflogeion eraill ar ffyrlo ym mis Mehefin 2021.

Bydd yn gwneud hawliad ar wahân yn hwyrach ar gyfer diwrnodau ffyrlo mis Rhagfyr.

Mae’r cyflogai hwn yn cael ei roi ar ffyrlo hyblyg o 2 Mehefin 2021, felly mae F Cyf yn cyfrifo oriau arferol y cyflogai. Mae gan y cyflogai oriau sefydlog a chyflog nad yw’n amrywio yn ôl nifer yr oriau a weithiwyd, ac mae F Cyf yn canfod y cyfrifiad perthnasol yn yr arweiniad.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020. Y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn y dyddiad hwnnw oedd y mis a ddaeth i ben ar 29 Chwefror 2020.

  1. Nifer yr oriau yr oedd y cyflogai wedi’i gontractio ar eu cyfer ar ddiwedd y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai – y mis a ddaeth i ben ar 29 Chwefror 2020 – oedd 40 awr yr wythnos.

  2. Rhannwch hwn â nifer y diwrnodau calendr yn y patrwm gwaith ailadroddiadol. Mae’n batrwm wythnosol, felly rhannwch hwn â 7.

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau yn y cyfnod cyflog, neu’r cyfnod cyflog rhannol, y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer. Oherwydd na roddwyd y cyflogai ar ffyrlo tan 2 Mehefin, lluoswch â 29.

  4. Mae hyn yn 165.71 awr sydd, oherwydd ei fod wedi’i gyfrifo ar gyfer y cyfnod hawlio cyfan, yn talgrynnu i 166 awr.

Yna, mae F Cyf yn cyfrifo nifer yr oriau gwaith a’r oriau ffyrlo. Bydd y cyflogai’n gweithio 4 hanner diwrnod, bob un yn 4 awr, felly 16 yw nifer yr oriau a weithiwyd. Cyfrifir oriau ffyrlo fel a ganlyn:

  1. Nifer yr oriau arferol, sef 166.

  2. Tynnwch yr 16 awr a weithiwyd, 166 - 16 = 150 o oriau ffyrlo.

Yna, mae F Cyf yn canfod yr uchafswm cyflog ac 80% o gyflog arferol y cyflogai i gyfrifo’r cyflog ffyrlo a swm y grant cyflog y mae’n gallu hawlio.

Y cyfnod hawlio yw 29 diwrnod ac mae’r cyflogai’n cael ei dalu bob mis calendr, felly mae’n rhaid i F Cyf ddefnyddio’r ffigur dyddiol i gyfrifo’r uchafswm cyflog: 29 diwrnod x £83.34 (uchafswm cyflog dyddiol ar gyfer mis Tachwedd) = £2,416.86.

Mae’r cyflogai ar gyflog sefydlog, felly mae angen i F Cyf canfod y dyddiad cyfeirio cywir cyn cyfrifo’r cyflog arferol.

  1. Y cyflog a oedd yn daladwy i’r cyflogai yn ystod y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai, yn yr achos hwn y mis hyd at 29 Chwefror 2020, oedd £3,000.

  2. Rhannwch â nifer y diwrnodau yn y cyfnod cyflog y mae’r cyflogwr yn hawlio ar ei gyfer, sef 30 diwrnod yn ystod cyfnod cyflog mis Mehefin.

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau ffyrlo, sef 29.

  4. Lluoswch hwn ag 80% = £2,320.

Yn olaf, mae’n rhaid i F Cyf gyfrifo’r isafswm cyflog ffyrlo, a hwn hefyd fydd swm y grant ffyrlo y gall ei hawlio.

Bydd F Cyf yn defnyddio’r lleiaf o’r canlynol:

  • 80% o’r cyflog arferol, sef £2,320
  • yr uchafswm cyflog, sef £2,416.86
  1. Y swm lleiaf yn y gymhariaeth hon yw 80% o’r cyflog arferol, sef £2,320.

  2. Lluoswch hwn ag oriau ffyrlo’r cyflogai, sef 150.

  3. Rhannwch ag oriau arferol y cyflogai, sef 166 = £2,096.39.

Dyma’r isafswm y mae’n rhaid ei dalu i’r cyflogai ar gyfer yr oriau ffyrlo (mae’n rhaid i’r cyflogai gael ei dalu am yr oriau gwaith, yn ychwanegol i hyn, ar ei gyfradd gontractiol lawn).

Gan fod yr hawliad ar gyfer mis Mehefin 2021, gall F Cyf hawlio grant am y cyflog ar gyfer yr isafswm cyflog ffyrlo cyfan.

Ar gyfer mis Mehefin 2021, nid oes grant ar gael tuag at gostau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr na chostau pensiwn y cyflogwr, felly dyma ddiwedd y cyfrifiad.

Mae F Cyf yn gwirio pryd y gall hawlio, sef dim mwy nag 14 diwrnod cyn diwedd y cyfnod hawlio (16 Mehefin 2021 ar gyfer cyfnod hawlio sy’n dod i ben ar 30 Mehefin 2021) a, chan fod yr hawliad ar gyfer diwrnodau ffyrlo ym mis Mehefin 2021, dim hwyrach nag 14 Gorffennaf 2021.

Bydd angen i F Cyf wneud hawliad ar wahân ar gyfer y diwrnodau ffyrlo ym mis Gorffennaf 2021.

Enghraifft lawn sy’n dangos sut i gyfrifo’r swm y dylech ei hawlio ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg yn ystod mis Gorffennaf 2021

Mae’r cyflogai wedi gweithio i F Cyf ers 2016, gan weithio 40 awr yr wythnos. Telir cyflog misol o £3,000 iddo.

Rhoddwyd y cyflogai ar ffyrlo o 25 Mai 2021 i 30 Mehefin 2021 ac roedd wedi bod y gweithio hanner diwrnodau ers 1 Gorffennaf 2021. Mae’r cyflogai’n dechrau gweithio diwrnodau llawn (8 awr) ar ddydd Llun, gan barhau i weithio hanner diwrnodau (4 awr) o ddydd Mawrth i ddydd Gwener.

Mae F Cyf yn paratoi ei hawliad ar gyfer 1 Gorffennaf 2021 i 31 Gorffennaf 2021. Mae F Cyf yn canfod mai’r uchafswm cyflog yw £2,500 ar gyfer yr hawliad ar gyfer y cyfnod hwn ar gyfer y cyflogai hwn. Nid dyma’r uchafswm y gall F Cyf ei hawlio ar gyfer y cyfnod hwn ar gyfer y cyflogai hwn, ond mae angen i F Cyf nodi hyn at ddibenion y cyfrifiad hwn.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020. Y cyflog a oedd yn daladwy i’r cyflogai yn ystod y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn 19 Mawrth 2020 (yn ystod cyfnod cyflog mis Chwefror 2020) oedd £2,400.

Oherwydd bod cyfnod hawlio’r cyflogwr ar gyfer mis Gorffennaf 2021 yn wahanol hyd i’r misoedd blaenorol (cyfnod hawlio’r cyflogwr ar gyfer mis Gorffennaf yw 31 diwrnod), bydd angen i’r cyfrifiad o’r oriau arferol gael ei wneud eto ar gyfer y cyfnod hawlio hwn.

  1. Nifer yr oriau yr oedd y cyflogai wedi’i gontractio ar eu cyfer ar ddiwedd y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai (19 Mawrth 2020). Roedd hyn yn 40 awr yr wythnos.

  2. Rhannwch hwn â nifer y diwrnodau calendr yn y patrwm gwaith ailadroddiadol. Mae’n batrwm wythnosol, felly rhannwch hwn â 7.

  3. Lluoswch hwn â nifer y diwrnodau yn y cyfnod cyflog. Mae yna 31 diwrnod ym mis Gorffennaf, felly lluoswch hwn â 31.

  4. Y canlyniad yw 177.14, wedi’i dalgrynnu i 178.

Yna, mae F Cyf yn cyfrifo nifer yr oriau gwaith a’r oriau ffyrlo. Bydd y cyflogai’n gweithio 18 hanner diwrnod a 4 diwrnod llawn yn ystod mis Gorffennaf 2021 (4 ac 8 awr yn y drefn honno), felly 104 yw’r oriau a weithiwyd mewn gwirionedd. Yna cyfrifir oriau ffyrlo fel a ganlyn:

  1. Nifer yr oriau arferol (178).

  2. Tynnwch nifer yr oriau a weithiwyd mewn gwirionedd (104) gan roi 74 o oriau ffyrlo.

Mae’r cyflogai’n gyflogai sydd ar gyflog sefydlog. Mae F Cyf yn cyfrifo 80% o gyflog arferol y cyflogai:

  1. Dechreuwch gyda £2,400 (y cyflog sy’n daladwy i’r cyflogai yn ystod cyfnod hawlio mis Chwefror 2020 – gan fod y cyflogwr yn hawlio ar gyfer cyfnod cyflog llawn, mae’r cyflogwr yn mynd yn syth i gam 4).

  2. Rhannwch â chyfanswm nifer y diwrnodau yn y cyfnod cyflog yr ydych yn cyfrifo ar ei gyfer – mae’r cam hwn yn cael ei hepgor.

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio ar ei gyfer – mae’r cam hwn yn cael ei hepgor.

  4. Lluoswch hwn ag 80% = £1,920.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo isafswm cyflog ffyrlo’r cyflogai:

  1. Y lleiaf o’r uchafswm cyflog (sef £2,500 yn yr enghraifft hon) ac 80% o’r cyflog arferol (sef £1,920 yn yr enghraifft hon).

  2. Lluoswch hwn ag oriau ffyrlo’r cyflogai, sef 74.

  3. Rhannwch ag oriau arferol y cyflogai, sef 178 = £798.20.

Dyma’r isafswm y mae’n rhaid ei dalu i’r cyflogai ar gyfer yr oriau ffyrlo (mae’n rhaid i’r cyflogai gael ei dalu am yr oriau gwaith, yn ychwanegol i hyn, ar ei gyfradd gontractiol lawn). Mae cyfraniad y grant at y cyflog ffyrlo yn gostwng o 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, felly mae angen cam pellach er mwyn cyfrifo faint i’w hawlio.

  1. Dechreuwch gyda’r isafswm cyflog ffyrlo, sef £798.20.

  2. Rhannwch ag 80.

  3. Lluoswch â 70 (ar gyfer mis Gorffennaf 2021) = £698.43.

Bydd rhaid i F Cyf dalu o leiaf £798.20 i’r cyflogai ar gyfer yr oriau ffyrlo, ac mae’n gallu hawlio grant o £698.43 tuag at hyn.

Ar gyfer mis Gorffennaf 2021 nid oes grant ar gael tuag at gostau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr na chostau pensiwn y cyflogwr, felly dyma ddiwedd y cyfrifiad.

Enghraifft lawn sy’n dangos sut i gyfrifo’r swm y dylech ei hawlio ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg yn ystod mis Awst 2021

Mae cyflogai wedi gweithio i C Cyf ers 2016, gan weithio 40 awr yr wythnos. Telir cyflog misol o £3,000 iddo. Nid oes ychwanegiadau at y cyflog, nac ychwaith bonws, comisiwn na chyflog ychwanegol arall.

Mae’r cyflogai wedi bod ar ffyrlo hyblyg ers 25 Hydref 2020. Mae C Cyf yn gofyn i’r cyflogai gynyddu’i oriau gwaith o 12 Awst 2020 ymlaen, felly ym mis Awst 2021 mae’r cyflogai’n gweithio’r oriau canlynol:

Yr wythnos sy’n dechrau Patrwm gwaith
26 Gorffennaf 2021 Dim diwrnodau gwaith ym mis Awst 2021 (heb gynnwys diwrnodau ym mis Gorffennaf 2021)
2 Awst 2021 1 diwrnod llawn, 4 hanner diwrnod
9 Awst 2021 2 ddiwrnod llawn, 3 hanner diwrnod
16 Awst 2021 3 diwrnod llawn, 2 hanner diwrnod
23 Awst 2021 4 diwrnod llawn, 1 hanner diwrnod
30 Awst 2021 1 diwrnod llawn (heb gynnwys diwrnodau ym mis Gorffennaf 2021)

Nid oes unrhyw gyflogeion eraill ar ffyrlo ym mis Awst 2021.

Mae C Cyf yn paratoi ei hawliad ar gyfer 1 i 31 Awst 2021. Ni all C Cyf hawlio ar gyfer unrhyw ddiwrnodau ym mis Gorffennaf 2021 na mis Medi 2021 yn yr hawliad hwn. Bydd yn gwneud hawliad ar wahân yn hwyrach ar gyfer diwrnodau ffyrlo mis Medi 2021.

Mae C Cyf yn canfod mai’r uchafswm cyflog yw £2,500 ar gyfer yr hawliad ar gyfer y cyfnod hwn ar gyfer y cyflogai hwn. Nid dyma’r uchafswm y gall C Cyf ei hawlio ar gyfer y cyfnod hwn ar gyfer y cyflogai hwn, ond mae angen i C Cyf nodi hyn at ddibenion y cyfrifiad.

Dyddiad cyfeirio’r cyflogai yw 19 Mawrth 2020. Y cyflog a oedd yn daladwy i’r cyflogai yn ystod y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn 19 Mawrth 2020 (yn ystod cyfnod cyflog mis Chwefror 2020) oedd £3,000.

Mae’r cyflogai hwn ar ffyrlo hyblyg felly mae C Cyf yn cyfrifo oriau arferol y cyflogai. Mae gan y cyflogai oriau sefydlog a chyflog nad yw’n amrywio yn ôl nifer yr oriau a weithiwyd, ac mae C Cyf yn canfod y cyfrifiad perthnasol yn yr arweiniad.

Y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai (19 Mawrth 2020) oedd y mis a ddaeth i ben ar 29 Chwefror 2020.

  1. Nifer yr oriau yr oedd y cyflogai wedi’i gontractio ar eu cyfer ar ddiwedd y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai – y mis a ddaeth i ben ar 29 Chwefror 2020 – oedd 40 awr yr wythnos.

  2. Rhannwch hwn â nifer y diwrnodau calendr yn y patrwm gwaith ailadroddiadol. Mae’n batrwm wythnosol, felly rhannwch hwn â 7.

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau yn y cyfnod cyflog, neu’r cyfnod cyflog rhannol, y mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer. Roedd y cyflogai ar ffyrlo drwy gydol mis Awst 2021, felly lluoswch â 31.

  4. Mae hyn yn 177.14 awr sydd, oherwydd ei fod wedi’i gyfrifo ar gyfer y cyfnod hawlio cyfan, yn talgrynnu i 178 awr.

Yna, mae C Cyf yn cyfrifo nifer yr oriau gwaith a’r oriau ffyrlo. Bydd y cyflogai’n gweithio 11 hanner diwrnod a 10 diwrnod llawn (4 ac 8 awr yn y drefn honno), felly 124 yw’r oriau a weithiwyd. Cyfrifir oriau ffyrlo fel a ganlyn:

  1. Nifer yr oriau arferol, sef 178.

  2. Tynnwch nifer yr oriau a weithiwyd mewn gwirionedd, felly tynnwch 124 = 54 o oriau ffyrlo.

Mae’r cyflogai’n gyflogai sydd ar gyflog sefydlog. Mae C Cyf yn cyfrifo 80% o gyflog arferol y cyflogai:

  1. Dechreuwch gyda £3,000 (y cyflog sy’n daladwy i’r cyflogai yn ystod cyfnod cyflog mis Chwefror 2020 – gan fod y cyflogwr yn hawlio ar gyfer cyfnod cyflog llawn, mae’r cyflogwr yn mynd yn syth i gam 4).

  2. Rhannwch â chyfanswm nifer y diwrnodau yn y cyfnod cyflog yr ydych yn cyfrifo ar ei gyfer – mae’r cam hwn yn cael ei hepgor.

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio ar ei gyfer – mae’r cam hwn yn cael ei hepgor.

  4. Lluoswch ag 80% = £2,400.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo isafswm cyflog ffyrlo’r cyflogai:

  1. Y lleiaf o’r uchafswm cyflog (sef £2,500 yn yr enghraifft hon) ac 80% o’r cyflog arferol (sef £2,400 yn yr enghraifft hon).

  2. Lluoswch hwn ag oriau ffyrlo’r cyflogai, sef 54.

  3. Rhannwch ag oriau arferol y cyflogai, sef 178 = £728.09.

Dyma’r isafswm y mae’n rhaid ei dalu i’r cyflogai ar gyfer yr oriau ffyrlo (mae’n rhaid i’r cyflogai gael ei dalu am yr oriau gwaith, yn ychwanegol i hyn, ar ei gyfradd gontractiol lawn). Mae cyfraniad y grant at y cyflog ffyrlo yn gostwng o 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, felly mae angen cam pellach er mwyn cyfrifo faint i’w hawlio.

  1. Dechreuwch gyda’r isafswm cyflog ffyrlo, sef £728.09.

  2. Rhannwch ag 80.

  3. Lluoswch â 60 (ar gyfer mis Awst 2021) = £546.07.

Bydd rhaid i C Cyf dalu o leiaf £728.09 i’r cyflogai ar gyfer yr oriau ffyrlo, ac mae’n gallu hawlio grant o £546.07 tuag at hyn.

Ar gyfer mis Awst 2021, nid oes grant ar gael tuag at gostau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr na chostau Pensiwn y cyflogwr, felly dyma ddiwedd y cyfrifiad.