Policy paper

Ymladd Twyll yn y System Les: Cyfieithiad y Rhagair Gweinidogol a’r Crynodeb Gweithredol (Welsh)

Updated 26 May 2022

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu o dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored f3.0 oni nodir fel arall. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3.

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint gan drydydd parti bydd angen i chi gael caniatâd deiliaid yr hawlfraint dan sylw.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/official-documents

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn atom yn: fraudanderror.policyandlegislation@dwp.gov.uk

ISBN 978-1-5286-3294-2

E02740441 05/22

Rhagair Gweinidogol

Bydd unrhyw un sydd wedi dioddef twyll yn bersonol yn gwybod yn uniongyrchol pa mor niweidiol y gall yr effaith ariannol ac emosiynol fod. Yn yr un modd, nid yw twyll a gyflawnir yn erbyn y system les a’r sector cyhoeddus ehangach – boed gan unigolion neu gangiau troseddol – yn drosedd heb ddioddefwyr. Teimlir ei heffaith ar draws y gymdeithas, ar y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt a chan drethdalwyr gonest, gweithgar sy’n disgwyl gweld arian cyhoeddus yn cael ei wario ar y diben y’i bwriadwyd ar ei gyfer yn hytrach na mynd i ddwylo troseddwyr.

Mae’r ddogfen hon yn nodi ein cynllun hirdymor i frwydro yn erbyn twyll yn erbyn y wladwriaeth les, gan adeiladu ar ein hegwyddorion hirsefydlog a llwyddiannus i rwystro, canfod ac atal twyll budd-daliadau.

Rydym yn buddsoddi £613.0 miliwn dros y tair blynedd nesaf fel hwb i’n rheng flaen gwrth-dwyll, gan gyflwyno miloedd yn fwy o weithwyr proffesiynol gwrth-dwyll yn ogystal â mesurau i wella sut rydym yn defnyddio ac yn dadansoddi data i ymateb i fygythiadau sy’n dod i’r amlwg.

Mae rhywfaint o’r ddeddfwriaeth allweddol y mae DWP yn dibynnu arni bellach dros 20 oed. Rydym yn bwriadu moderneiddio a chryfhau ein pwerau. Yn amodol ar amser seneddol, byddwn yn deddfu ar gyfer pwerau newydd i helpu ein swyddogion i ymchwilio i dwyll posibl a gosod cosbau newydd i gosbi twyllwyr.

Gyda’r dulliau gweithredu a ddefnyddir gan dwyllwyr yn esblygu’n gyson, byddwn yn aros un cam ar y blaen drwy nodi sut y byddwn yn cymryd ymagwedd fwy cydgysylltiedig, gan weithio o fewn y llywodraeth a thu hwnt i fynd i’r afael â thwyll. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddod â grym llawn y llywodraeth ac arbenigedd y sector preifat ynghyd, gan weithio gyda’r Awdurdod Twyll Sector Cyhoeddus newydd a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn Natganiad y Gwanwyn.

Bydd y cynllun hwn yn ein helpu i atal pobl rhag manteisio’n anghyfreithlon ar ein system budd-daliadau, dal a chosbi twyllwyr ac adennill mwy o arian trethdalwyr.

Y Gwir Anrhydeddus Thérèse Coffey AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau

David Rutley AS, Gweinidog Cyflenwi Lles

Crynodeb Gweithredol

1. Mae twyll yn her barhaus yn y sector preifat a chyhoeddus.

2. Er bod yr economi ddigidol wedi dod â datblygiadau a manteision enfawr, gan gynnwys i’r ffordd yr ydym yn sicrhau budd-daliadau, mae hefyd wedi cynyddu cyfleoedd i droseddwyr gyflawni twyll ar raddfa a soffistigeiddrwydd nad oedd yn bosibl yn y gorffennol.

3. Yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae dyluniad digidol Credyd Cynhwysol (a digideiddio cynyddol budd-daliadau ehangach) wedi lleihau prosesu â llaw ac rydym wedi arloesi o ran sut y gallwn ddefnyddio data i gyflawni canlyniadau yn fwy effeithiol ac effeithlon. Mae defnyddio porthiant Gwybodaeth Amser Real uniongyrchol gan Gyllid a Thollau EF (HMRC) i asesu’n gywir enillion hawlwyr a dalwyd drwy’r system PAYE[footnote 1] wedi ein galluogi i fynd i’r afael â’r ffynhonnell fwyaf o dwyll yn ôl gwerth ariannol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau – datganiadau ffug am enillion ar gyfer budd-daliadau yn seiliedig ar brawf modd.

4. Cyn i’r pandemig daro, wrth i Gredyd Cynhwysol ehangu a dechrau disodli budd-daliadau ‘legacy’ yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chredydau Treth, roedd twyll a chamgymeriadau[footnote 2] ar draws system fudd-daliadau DWP a Chredydau Treth bron â bod yn is nag erioed.

5. Gwelodd y pandemig gynnydd sylweddol mewn twyll. Fe wnaethom flaenoriaethu cael arian i filiynau o bobl oedd ei angen fel rhan o’n hymateb brys. Yn anffodus, fel y gwelsom ar draws y llywodraeth ac yn rhyngwladol, ceisiodd rhai unigolion a grwpiau - yn gyfundrefnol ac oportiwnistaidd - fanteisio ar y sefyllfa a’r prosesau cyflymach ar gyfer cael cymorth a oedd ar waith dros dro.

6. Mewn ymateb, cymerwyd camau i nodi ac atal camddefnydd o’r system a oedd yn atal biliynau rhag mynd i’r dwylo anghywir, gan gynnwys atal £1.9 biliwn rhag mynd i grwpiau troseddol cyfundrefnol a oedd wedi dwyn hunaniaeth dinasyddion diniwed mewn ymgais i ddwyn arian trethdalwyr. Rydym hefyd wedi cynnal adolygiadau ôl-weithredol o hawliau a wnaed yn gynnar yn y pandemig i adnabod achosion twyllodrus. Yn 2020/21, lleihaodd ein hymyriadau golledion posibl tua £3.0 biliwn.

Ein cynllun i ddod â thwyll i lawr

7. Ein hymagwedd sylfaenol erioed fu atal twyll rhag dod i mewn i’r system yn y lle cyntaf, canfod a chael gwared ar dwyll pan fydd yn gwneud hynny, ac atal twyllwyr posibl drwy system gosbi gadarn, gan gynnwys adennill y ddyled sy’n ddyledus. Roedd yr egwyddorion hyn yn dod â thwyll i lawr cyn y pandemig a byddant yn parhau i fod yn sail i’n cynllun.

8. Fodd bynnag, rydym yn awr yn wynebu her twyll fwy o lawer na chyn y pandemig. Mae ein dadansoddiad yn dangos bod y meysydd allweddol lle mae twyll ar ei uchaf yn cynnwys: camgyfleu enillion gan gynnwys enillion hunangyflogedig; methu â datgan neu dangofnodi cyfalaf; methu â datgan partner sy’n cyfrannu at y cartref; adrodd anghywir am gostau tai; a methu â datgan symud dramor neu wneud cais anonest am fudd-daliadau tra’n byw dramor.

9. Er mwyn mynd i’r afael â’r risgiau allweddol hyn, byddwn yn cynyddu’r ffordd yr ydym yn brwydro yn erbyn twyll, gan ganolbwyntio ar dri maes:

  • Buddsoddi ym mhrif weithwyr proffesiynol gwrth-dwyll rheng flaen DWP a dadansoddwyr data. Trwy fuddsoddiad ychwanegol o £613.0 miliwn dros dair blynedd, rydym yn rhoi hwb o 75% i’n hamddiffynfeydd rheng flaen. Bydd hyn yn stopio colled amcangyfrifedig o £2.0 biliwn mewn twyll a chamgymeriadau dros y tair blynedd nesaf, a thros £4.0 biliwn o golled dros y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys 1,400 yn fwy o staff yn ein timau gwrth-dwyll, tîm newydd o 2,000 sy’n ymroddedig i adolygu hawliadau Credyd Cynhwysol presennol a dadansoddiadau data gwell i ddatblygu ffyrdd newydd o atal a chanfod twyll

  • Creu pwerau cyfreithiol newydd i ymchwilio i dwyll posibl a chosbi twyllwyr, yn amodol ar amser seneddol. Mae llawer o ddeddfwriaeth gwrth-dwyll DWP y mae ein swyddogion yn ei defnyddio i ymchwilio i dwyll posibl bellach yn ddegawdau oed. Yn amodol ar amser seneddol, byddwn yn deddfu i ddiweddaru eu pwerau i hybu mynediad at ddata gan drydydd partïon a chynnal arestiadau a chwiliadau a chipio tystiolaeth. Bydd hyn yn eu galluogi i weithredu’n gyflymach i adnabod, canfod ac amharu ar dwyll, yn enwedig gan gangiau troseddol trefniadol a throseddau economaidd ehangach. Byddwn hefyd yn cyflwyno cosb ariannol sifil newydd fel bod mwy o dwyllwyr yn talu am eu troseddau. Bydd hyn yn moderneiddio pwerau ymladd twyll yr Adran Gwaith a Phensiynau ac yn dod â nhw’n debycach i rannau eraill o’r llywodraeth sy’n mynd i’r afael â thwyll

  • Dod â grym llawn y sectorau cyhoeddus a phreifat at ei gilydd i gadw un cam ar y blaen. Byddwn yn gweithio gyda’r Awdurdod Twyll Sector Cyhoeddus newydd i ddod â grym llawn y llywodraeth i ddylanwadu ar dwyll yn y sector cyhoeddus. Byddwn hefyd yn creu Grŵp Cynghori Atal Twyll newydd i ddod ag arbenigwyr o’r llywodraeth ac allanol ynghyd i nodi a datblygu ffyrdd arloesol o fynd i’r afael â thwyllwyr, gan gynnwys drwy ddefnyddio data yn fwy hyblyg a rhagweithiol. Drwy’r Gronfa Atal Twyll newydd gwerth £30.0 miliwn, dros y tair blynedd nesaf byddwn yn ymchwilio, yn buddsoddi, yn profi ac yn treialu ffyrdd creadigol o fynd i’r afael â bygythiadau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg

10. Drwy gynyddu ein buddsoddiad, diweddaru ein pwerau cyfreithiol, a dwyn ynghyd y gorau o’r llywodraeth a’r sector preifat, byddwn yn arfogi ein hunain i amddiffyn y system les yn erbyn twyll am flynyddoedd i ddod.

  1. Mae’r system PAYE neu ‘talu wrth ennill’ yn cadw gwybodaeth am y cyflogau a delir bob mis i’r cyflogedig. Mae porthiant Gwybodaeth Amser Real PAYE a rennir rhwng CThEF a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn galluogi CThEF i drosglwyddo data enillion i DWP fel y gellir asesu hawliau Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar symiau incwm cyflogeion cywir. 

  2. Mae’r ffigwr twyll a gwall hwn yn cynnwys gordaliadau credydau treth. Mae gordaliadau Credyd Treth yn nodwedd o gynllun y gyfundrefn credydau treth, gan ei fod yn ddyfarniad blynyddol sy’n deillio o incwm y flwyddyn flaenorol. Mae dyfarniad credydau treth bob amser yn amodol hyd nes y caiff hawl ei gyfrifo a’i derfynu ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Mae hyn yn naturiol yn arwain at ordaliadau. O ganlyniad, nid yw gordaliadau wedi’u cynnwys yn asesiad CThEF o gamgymeriadau a thwyll. Yn lle hynny, diffiniad CThEF o dwyll a chamgymeriadau yw pan fo’r hawl terfynol yn anghywir (h.y., pan roddir gwybodaeth anghywir ar y diwedd). Gan fod hawl i Gredyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo’n fisol ar sail amgylchiadau hawlydd yn y mis hwnnw, diffinnir twyll a chamgymeriad yn y Credyd Cynhwysol fel unrhyw achos lle mae’r hawlydd yn derbyn budd-dal ar ddiwedd y mis nad yw’n adlewyrchu ei amgylchiadau’n gywir y mis hwnnw. Felly, mae gordaliadau Credyd Cynhwysol bob amser yn cael eu cynnwys yn ffigurau gwall a thwyll DWP