Papur polisi

Polisi amgylcheddol corfforaethol DVLA

Diweddarwyd 28 Tachwedd 2025

Datganiad polisi

Mae DVLA wedi ymrwymo i warchod yr amgylchedd, cyflawni sero net erbyn 2050 a gwella ein perfformiad amgylcheddol. Byddwn yn lleihau’r defnydd o ynni gydag arloesedd technolegol a gweithredol.

Disgrifiad

Mae gweithgareddau gweithredol DVLA a gweithgareddau ein staff yn effeithio ar yr amgylchedd. Nod y polisi yw cyfleu i bob parti sydd â diddordeb, gan gynnwys staff, contractwyr a chyflenwyr, yn ogystal â’r cyhoedd yn gyffredinol, fod DVLA wedi ymrwymo i leihau effeithiau amgylcheddol negyddol sy’n deillio o’n gweithgareddau, cynhyrchion a gwasanaethau wrth leihau’r defnydd o ynni ar draws ein hystad.

Ein polisi yw gwella ein perfformiad amgylcheddol ac ynni yn barhaus drwy:

  • weithio tuag at net sero erbyn 2050 drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’n hystad a theithio
  • lleihau gwastraff wrth wneud y mwyaf o’n cyfleoedd ailgylchu ac ailddefnyddio
  • monitro a lleihau faint o ddŵr a ddefnyddiwn
  • caffael cynhyrchion a gwasanaethau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon
  • gwella ein system rheoli amgylcheddol yn barhaus
  • sicrhau bod cynaliadwyedd wedi’i ymgorffori mewn prosesau caffael
  • diogelu a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau ein hystad
  • sicrhau dull gweithredu mwy cynaliadwy yn gyffredinol at ein defnydd o offer TG a gwasanaethau digidol

Cyflawni a monitro

Byddwn yn:

  • cyflawni ein rhwymedigaethau cydymffurfio mewn perthynas â’r amgylchedd, gan gynnwys perfformiad ynni, ac atal llygredd
  • bodloni neu ragori ar delerau polisi’r llywodraeth ar yr amgylchedd
  • gweithio tuag at gyflawni ein hymrwymiadau i wneud y llywodraeth yn fwy gwyrdd i ddiogelu’r amgylchedd lleol ac ehangach
  • coladu, monitro a dadansoddi data i fesur perfformiad yn erbyn ein targedau a’n hamcanion
  • annog staff, contractwyr a chyflenwyr i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd a’u defnydd o ynni yn weithredol wrth ddarparu cynnyrch a gwasanaethau inni ac o fewn eu sefydliadau eu hunain
  • defnyddio’r hierarchaeth ynni i flaenoriaethu gweithredu a buddsoddi
  • adnabod ac ystyried gweithredu prosiectau sy’n galluogi datgarboneiddio ystad DVLA
  • darparu sicrwydd i uwch reolwyr drwy fecanweithiau adrodd cymeradwy sy’n cynnwys datgeliadau ariannol sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd (Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd), adrodd ar berfformiad amgylcheddol a thrwy’r grŵp llywio cynaliadwyedd

Perchennog y polisi: Tim Moss

Enw’r dechreuwr: Andrew Lees

Dyddiad yr adolygiad diwethaf: Hydref 2025

Dyddiad yr adolygiad nesaf: Ebrill 2030