Skip to main content
Papur polisi

Uchelgais strategol DVLA 2026 i 2030

Cyhoeddwyd 19 Hydref 2026

Helpu’r DU i adeiladu system drafnidiaeth well

Mae bywyd yn well pan all pobl a busnesau ddod at ei gilydd yn hawdd, yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), rydym yn darparu gwasanaethau gyrwyr a cherbydau dibynadwy i helpu i wneud i hynny ddigwydd. 

Ein huchelgais yw gwneud hyn mewn ffordd ragorol, bod yn enghraifft wych o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ac yn lle gwych i weithio ynddo.

Yn DVLA, mae angen inni gyflawni mwy, gwneud hynny’n well, a gwneud hynny’n fwy effeithlon. Y strategaeth hon yw ein hymateb i’r her hon, ac mae’n nodi sut byddwn yn symud ymlaen yn hyderus – gan ganolbwyntio ar y pethau’n sy’n bwysicaf i’n cwsmeriaid, ein pobl a’r sector cyhoeddus ehangach.

Mae cwsmeriaid yn disgwyl gwasanaethau sy’n syml, yn ddiogel ac yn deg, ac maent yn dymuno gwybod ein bod ni’n gwrando. Ar draws y llywodraeth, ceir ymgyrch bendant i sicrhau bod gwasanaethau’n fwy digidol, yn fwy cysylltiedig, ac yn haws i’w defnyddio.

Mae’r strategaeth hon yn amlinellu sut bydd DVLA yn cynorthwyo i gyflawni’r uchelgais honno, gan gydweithio â’r Adran Drafnidiaeth a phartneriaid eraill i wella dulliau darparu gwasanaethau, y defnydd o ddata a chydweithio, a diogelu’r seilwaith cenedlaethol hanfodol rydym yn ei ddarparu.

Rydym hefyd yn gweithio o fewn cyllidebau tynnach, yn addasu i dechnolegau newydd, yn ymateb i gyfreithiau sy’n newid ac yn bodloni disgwyliadau cynyddol i ddweud beth yn union rydym yn ei wneud a sut yn union rydym yn gwario arian cyhoeddus.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a chynorthwyo i gyflawni nodau cynaliadwyedd y DU, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif.

Mae hyn oll yn golygu ailystyried sut rydym yn gweithio, sut rydym yn defnyddio offerynnau a data, a sut rydym yn cynorthwyo ein pobl fel y gallwn sicrhau bod safonau’n uchel bob amser a chynnal ymddiriedaeth y cyhoedd.

Mae’r strategaeth hon yn amlinellu beth fyddwn yn ei wneud i gyflawni ein gweledigaeth a chaiff ei hategu gan gynlluniau manwl. Mae ein gwaith ynghylch ein gwerthoedd hefyd yn sail i hyn, a bydd hynny’n diffinio sut byddwn yn ei gyflawni.

Mae’n fwy na chynllun ar gyfer heddiw – dyma ein cyfraniad at lunio dyfodol gwasanaethau cyhoeddus.

Ein pwrpas yw darparu gwasanaethau gyrwyr a cherbydau dibynadwy.

Ein gweledigaeth yw darparu gwasanaethau cyhoeddus yn rhagorol a bod yn lle gwych i weithio ynddo.

Er mwyn cyflawni ein pwrpas a’n gweledigaeth ac i ymdrin â’n heriau, byddwn yn canolbwyntio ar 3 blaenoriaeth gysylltiedig:

  • darparu profiad rhagorol i gwsmeriaid

  • gwneud y mwyaf o werth ein data yn ddeallus ac yn gyfrifol

  • creu gweithle ble gall pawb ffynnu – ble caiff ein pobl yr amgylchedd, y sgiliau a’r offerynnau priodol wrth inni eu cynorthwyo i gyflawni eu gwaith gorau

Gyda’i gilydd, bydd y blaenoriaethau hyn yn trawsnewid sut mae DVLA yn gwasanaethu ein cwsmeriaid ac yn cynorthwyo i gyflawni blaenoriaethau ehangach y llywodraeth.

Ategir y strategaeth hon â chynlluniau manwl a fydd yn diffinio sut byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth a’n blaenoriaethau, gan droi ein gweledigaeth yn ganlyniadau ymarferol a’r camau gweithredu i’w cyflawni.

Byddant yn pennu blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf, gan egluro beth fyddwn ni’n canolbwyntio arno, ac i’r gwrthwyneb, beth na fyddwn ni’n canolbwyntio arno.

Byddant yn pennu dangosyddion perfformiad allweddol a cherrig milltir a byddant yn darparu manylion ynghylch sut y byddwn yn cydweithio i gyflawni canlyniadau ystyrlon a hirhoedlog ar draws y sefydliad, gan ddiffinio beth yn union fydd llwyddiant o ran canlyniadau a mesurau.

Y cynlluniau hyn fydd sail ein cynlluniau busnes manwl a byddant yn cael eu diweddaru’n rheolaidd.

Darparu profiad rhagorol i gwsmeriaid

Rydym yn newid sut mae cwsmeriaid yn profi gwasanaethau DVLA, gan sicrhau eu bod yn haws, yn gyflymach ac ar gael i bawb.

Pa un ai a fydd rhywun yn adnewyddu ei drwydded yrru neu’n cofrestru cerbyd, rydym yn canolbwyntio ar gynnig cymorth o ansawdd uchel sy’n hawdd ei ddefnyddio trwy gyfrwng sawl sianel y gall cwsmeriaid, busnesau a’r llywodraeth ddibynnu arno.

Rydym yn casglu treth cerbyd i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau bod ffyrdd yn fwy diogel trwy gofnodion cywir a’n cysylltiadau â gofynion yn ymwneud ag MOTs ac yswiriant.

Byddwn yn parhau i wneud pethau’n well drwy weithredu rheolau teg a chanllawiau eglur fel y gall cwsmeriaid gadw at ofynion y gyfraith yn hawdd. Yn anad dim, rydym yn canolbwyntio ar wrando ar ein cwsmeriaid a gwella ein gwasanaethau’n barhaus i ddiwallu eu hanghenion a bodloni eu disgwyliadau.

Byddwn yn:

  • darparu gwasanaethau cyson sy’n perfformio’n rhagorol gan fuddsoddi mewn arloesi sy’n diwallu anghenion esblygol ein cwsmeriaid

  • darparu gwasanaethau sy’n hawdd i bawb eu defnyddio ac sy’n cynnig gwerth am arian da

  • gwella amseroedd cyflawni, cynyddu nifer y ceisiadau sy’n gywir y tro cyntaf, a sicrhau bod mwy o bobl yn defnyddio ein gwasanaethau digidol

  • hyrwyddo gwelliannau parhaus gan sicrhau y bydd pob rhyngweithiad yn bwysig ac y bydd adborth gan gwsmeriaid yn sbarduno newidiadau

  • cyflawni’n well i’n cwsmeriaid a haeddu safle uwch ym Mynegai Bodlonrwydd Cwsmeriaid y sector cyhoeddus, sy’n mesur pa mor fodlon yw cwsmeriaid â’n gwasanaethau

  • gweithio tuag at ddatblygu’r fframwaith cyfreithiol i gynnal gwasanaethau digidol yn well

Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • fuddsoddi mewn technoleg fodern sy’n defnyddio systemau cwmwl ac adeiladu galluoedd digidol gan ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn gyfrifol i wella profiad y cwsmer

  • ychwanegu mwy o wasanaethau at y Cyfrif gyrwyr a cherbydau, gan gynnig mynediad i gwsmeriaid at eu gwybodaeth a’u gwasanaethau mewn un lle, a gweithio ar draws y llywodraeth i gynnig profiad mwy cysylltiedig a di-dor i gwsmeriaid

  • sicrhau bod ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn a chynnig cymorth i’r rhai y mae arnynt angen cymorth ychwanegol, yn enwedig pobl na all ddefnyddio technolegau digidol yn hyderus neu bobl na all fynd ar-lein

  • ceisio adborth gan gwsmeriaid yn weithredol, gwrando ar hynny, dysgu ohono, a chymryd camau gweithredu mewn ymateb i hynny er mwyn meithrin ymddiriedaeth, lleihau nifer y cwynion a gwella ein gwasanaethau’n barhaus

  • cyfathrebu’n eglur, yn dryloyw ac yn amserol â’n cwsmeriaid

Gwneud y mwyaf o werth ein data

Byddwn yn gwneud y mwyaf o werth ein data er mwyn darparu gwasanaethau gwell i gwsmeriaid, cynorthwyo i gyflawni blaenoriaethau hanfodol y llywodraeth, cyfrannu at yr economi a chreu ffyrdd mwy diogel i bawb.

Bob dydd, byddwn yn ymdrin â miliynau o ryngweithiadau sy’n cynnig mewnwelediadau gwerthfawr inni – yn amrywio o helpu pobl i adnewyddu eu trwyddedau gyrru yn gyflymach, i gynorthwyo ag ymchwiliadau’r heddlu sy’n cadw ein cymunedau’n ddiogel.

Drwy ddefnyddio data yn fwy deallus, gallwn sicrhau y gall cwsmeriaid gyrchu’r gwasanaethau y bydd eu hangen arnynt yn haws ac yn gyflymach. Byddwn yn cynnal y safonau uchaf o ran diogelwch, preifatrwydd a thryloywder. Byddwn yn esbonio pryd y byddwn yn darparu data heb unrhyw gost a phryd y byddwn yn codi ffioedd, gan sicrhau bod ymddiriedaeth y cyhoedd yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn.

Byddwn yn:

  • sicrhau bod ein data yn gywir, yn ddiogel ac yn ddefnyddiadwy ar draws y llywodraeth er mwyn darparu gwasanaethau di-dor

  • defnyddio AI ac awtomeiddio yn gyfrifol i gael mewnwelediadau defnyddiol o’n data sy’n ein helpu i wella gwasanaethau i bawb rydym yn gweithio gyda hwy

  • arwain gwaith i drawsnewid dogfennau ffisegol megis trwyddedau gyrru a thystysgrifau cofrestru cerbyd (V5CWs) yn fformatau digidol diogel a hygyrch

  • bod yn esiampl dda o ddefnyddio data mewn ffyrdd newydd clyfar i wella ein cynnyrch a’n gwasanaethau, a meithrin perthnasoedd cryf ac ymddiriedus ar draws y llywodraeth ac yn rhyngwladol

  • annog cydymffurfiaeth a chydweithio â phartneriaid i ddefnyddio pwerau gorfodi yn gyflym ac yn deg i alluogi cofnodion cyfredol a chynyddu casglu treth cerbyd

Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • sicrhau bod ein data yn gweithio’n dda â systemau eraill ac yn cyd-fynd â safonau a strategaethau’r llywodraeth ar gyfer gwasanaethau digidol, a pharhau i wella ein dull o wirio a gorfodi’r rheolau

  • defnyddio technoleg mewn ffordd ddibynadwy drwy gynnig hyfforddiant priodol i’n pobl a sefydlu rheolau a gwiriadau eglur

  • adeiladu ar ein gwaith i gynnwys trwydded ddigidol yn y GOV.UK Wallet ac yn ap GOV.UK drwy ddarparu dogfennaeth arall mewn fformatau digidol

  • meithrin partneriaethau cryfach â rhannau eraill o’r llywodraeth i helpu i lunio a datblygu gwasanaethau sy’n gweithio’n dda gyda’i gilydd er budd cwsmeriaid

  • sefydlu partneriaethau rhyngwladol i wella dulliau darparu gwasanaethau, galluogi cyfnewid data a sicrhau mwy o werth i’n cwsmeriaid

Creu gweithle ble gall pawb ffynnu

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar ein pobl sy’n dibynnu arnom ni i greu’r amodau priodol i alluogi pawb i ffynnu a chyfrannu eu gwaith gorau.

Rydym yn creu gweithle sy’n addas at y dyfodol, sy’n grymuso pobl, yn addasu yn unol â newidiadau ac yn ysgogi rhagori drwy amgylcheddau cynhwysol, diogel a chynaliadwy – â’r offerynnau, y lleoedd a’r systemau priodol i ategu ein dull o weithio. Gweithle ble caiff lles, gan gynnwys iechyd meddwl, ei flaenoriaethu bob amser.

Drwy wella’n barhaus, rhoi cynnig ar syniadau newydd a sicrhau bod pawb yn teimlo’n gartrefol ac yn cael eu grymuso, byddwn yn denu ac yn cadw pobl ddawnus o bob cefndir. Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos ag undebau llafur, grwpiau rhwydweithio a chymunedau i sicrhau bod lleisiau amrywiol yn llunio ein gweithle.

Byddwn yn:

  • creu gweithle ble bydd ein pobl yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u trin yn deg

  • cynorthwyo ein pobl trwy gynnig y sgiliau a’r cyfleoedd i ddysgu a datblygu gyrfa sydd eu hangen arnynt i dyfu

  • meithrin arweinyddiaeth gref a chynhwysol ar bob lefel sy’n ategu ein gwerthoedd ac yn cynnal y safonau uchaf

  • sicrhau bod DVLA yn lle y bydd ein pobl yn falch o weithio ynddo ac y bydd eraill yn dymuno ymuno â ni

  • gweithio gyda’n gilydd i adeiladu amgylchedd iachach, mwy diogel a mwy cynaliadwy wrth inni anelu at gyflawni sero net

Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • geisio adborth yn weithredol a gweithredu mewn ymateb i hynny, gan sicrhau y bydd hi’n haws i bobl weld pa mor dda y maent yn cyflawni, sut y gallant lwyddo, manteisio ar ein cyfleoedd dysgu eithriadol a chael profiad sy’n meithrin sgiliau, galluoedd yn y dyfodol a gyrfaoedd gwych

  • llunio ffyrdd hyblyg o weithio â rolau a threfniadau eglur ar gyfer timau, a fydd yn helpu ein pobl i weithio’n dda gyda’i gilydd, addasu’n gyflym ac ysgwyddo cyfrifoldeb

  • esbonio beth yn union y byddwn yn ei ddisgwyl gan ein holl bobl, annog diwylliant ble bydd pawb yn teimlo’n ddigon hyderus i siarad am risgiau a chyfleoedd, datblygu ffyrdd o gydweithio, a chryfhau dulliau datblygu arweinwyr

  • darparu’r offerynnau priodol, gan gynnwys dulliau digidol ac AI, i helpu i sicrhau y gellir gwneud tasgau cyffredin yn gyflymach ac yn haws, gan wella cynhyrchiant a sut mae’n teimlo i weithio yma, a chynnig ffyrdd teg a diddorol o ddathlu llwyddiannau a chydnabod perfformiad

  • adeiladu ar sylfaen ein gostyngiad o 52% yng nghyfanswm ein hallyriadau, o’r llinell sylfaen rhwng 2017 a 2018, a chyfrannu at helpu’r llywodraeth i sicrhau bod pethau’n decach ac yn fwy gwyrdd

DVLA yn 2030

Gweithio yn DVLA

Bydd DVLA yn lle gwych i weithio ynddo. Bydd offerynnau clyfar megis AI ac awtomeiddio yn ymdrin â thasgau cyffredin fel y gall ein pobl ganolbwyntio ar ddatrys problemau a gwella gwasanaethau. Bydd ein pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo a’u grymuso, pa un ai a fyddant yn gweithio o bell neu yn y swyddfa, a bydd cydweithio yn gryf. Bydd pawb yn cael cyfle i dyfu, teimlo eu bod yn cael eu cynnwys, rhannu syniadau a bod yn falch o fod yn rhan o sefydliad teg a blaengar.

Bod yn gwsmer DVLA

Bydd cwsmeriaid yn canfod bod gwasanaethau DVLA yn gyflym, yn syml ac ar gael, pryd bynnag y bydd eu hangen arnynt. Bydd technoleg glyfar yn eu tywys trwy dasgau yn eglur ac yn llyfn, a bydd awtomeiddio yn helpu i osgoi oedi. Bydd gwasanaethau’n cael eu cynllunio ar gyfer pawb, a bydd cymorth ar gael i’r bobl y bydd arnynt angen hynny. Bydd cwsmeriaid yn teimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn hyderus bod eu hamser a’u hadborth yn bwysig.

Gweithio gyda DVLA fel partner llywodraeth

Bydd DVLA yn cael ei ystyried yn bartner dibynadwy a modern. Bydd data yn cael eu rhannu’n ddiogel ac yn glyfar ar draws adrannau i helpu gwasanaethau i redeg yn well a gwneud penderfyniadau’n gyflymach. Bydd AI yn helpu i ganfod mewnwelediadau defnyddiol a bydd awtomeiddio yn lleihau gwaith ailadroddus. Bydd DVLA yn agored, yn hyblyg ac yn canolbwyntio ar nodau cyffredin, gan sicrhau y bydd hi’n haws i dimau’r llywodraeth gydweithio.