Papur polisi

Cynllun gweithredu bioamrywiaeth ar gyfer yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) 2025 i 2030

Cyhoeddwyd 30 Ebrill 2026

Crynodeb gweithredol

Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) wedi ymrwymo i gynnal a gwella bioamrywiaeth ar draws ein hystâd. Cydnabyddir bioamrywiaeth fel dangosydd perfformiad amgylcheddol allweddol yn ein polisi amgylcheddol corfforaethol. Mae ein hymrwymiad parhaus yn adlewyrchu’r pwysigrwydd a roddwn ar stiwardiaeth amgylcheddol o’r ystâd.

Ers 2013, mae DVLA yn cyhoeddi cynllun gweithredu bioamrywiaeth (CGB) ar gyfer yr ystâd. Mae’r cynlluniau hyn yn darparu fframwaith cadarn sy’n tywys ein hymdrechion i gyflawni gwelliannau ystyrlon mewn bioamrywiaeth o fewn ffiniau’r hystâd sydd wedi’i lleoli yn Ninas a Sir Abertawe. Mae’r fframwaith yn ein galluogi i asesu, cynllunio a gweithredu camau gweithredu yn systematig sy’n elwa cynefinoedd a rhywogaethau lleol yn uniongyrchol.

Mae rhifyn diweddaraf ein CGB wedi’i gynllunio i hyrwyddo cyflawniadau’r blynyddoedd blaenorol. Mae’n nodi targedau clir a phenodol i wella cynefinoedd a chefnogi rhywogaethau penodol a geir ar un o’r safleoedd. Drwy adeiladu ar ein llwyddiannau parhaus, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar wireddu enillion bioamrywiaeth ychwanegol a sicrhau bod yr ystâd yn parhau i ddarparu manteision ecolegol gwerthfawr.

Nodau ein CGB yw:

  • sicrhau bod targedau cynefinoedd a rhywogaethau o adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Ymrwymiadau Llywodraeth Wyrddu, a chynllun gweithredu bioamrywiaeth lleol Abertawe yn cael eu trosi’n gamau gweithredu effeithiol ar yr ystâd
  • ymrwymo i greu a gwella cynefinoedd ar draws yr ystâd
  • datblygu partneriaethau effeithiol gyda staff a’r gymuned leol i sicrhau bod rhaglenni ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth yn cael eu cynnal yn y tymor hir
  • codi ymwybyddiaeth yn fewnol ac yn lleol o’r angen am gadwraeth bioamrywiaeth, a darparu canllawiau ar fioamrywiaeth
  • sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer cadwraeth a gwella bioamrywiaeth yn cael eu hystyried yn llawn drwy gydol gweithrediadau’r DVLA
  • monitro ac adrodd ar gynnydd mewn cadwra eth bioamrywiaeth

Mae’r cynllun gweithredu bioamrywiaeth hwn yn ddatganiad cyhoeddus gan y DVLA o’i hamcanion bioamrywiaeth a’r dulliau y mae’n bwriadu eu cyflawni.

Byddem yn croesawu cyfranogiad priodol yng nghyflawniad y cynllun gan sefydliadau, cwmnïau ac unigolion sydd â diddordeb.

Tim Moss, CBE

Prif Swyddog Gweithredol, DVLA

27 Mawrth 2026

1. Bioamrywiaeth a DVLA – cyflwyniad

1.1. Cyflwyniad

Mae DVLA yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth ar draws ein hystâd. Amlygir hyn fel dangosydd perfformiad allweddol yn ein polisi amgylcheddol corfforaethol. Rydym yn paratoi a chyhoeddi ein cynllun gweithredu bioamrywiaeth (CGB) ers 2013. Dyma’r pumed rhifyn ac mae’n cwmpasu’r cyfnod o fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2030.

Rydym wedi cynnal arolygon biolegol o’r ystâd ac wedi nodi cynefinoedd a rhywogaethau a fyddai’n elwa o reolaeth neu gamau gweithredu penodol gan yr asiantaeth. Mae’r CGB yn nodi amcanion ar gyfer cadwraeth a gwella bioamrywiaeth ac yn manylu ar dargedau a chamau gweithredu er mwyn anelu at gyflawni’r amcanion hyn. Y bwriad yw integreiddio bioamrywiaeth fel y bo’n briodol i’n gweithgareddau, megis rhaglenni cynnal a chadw blynyddol a phrosiectau gwaith cyfalaf.

Bydd y cynllun gweithredu yn helpu i ddiogelu bioamrywiaeth ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Gobeithir y bydd gweithredu’r cynllun yn cyfrannu at gyflawni targedau lleol a chenedlaethol ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd blaenoriaeth CGB y DU fel y bo’n briodol.

Mae’r cynllun gweithredu bioamrywiaeth yn cael ei esblygu’n gyson a bydd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru’n rheolaidd hefyd.

1.2. Diffinio bioamrywiaeth

Ym 1992, yn Uwchgynhadledd y Ddaear yn Rio de Janeiro, diffiniwyd bioamrywiaeth gan y Confensiwn ar Fioamrywiaeth fel a ganlyn:

Yr amrywioldeb ymhlith organebau byw o bob ffynhonnell, gan gynnwys ecosystemau daearol, morol a dyfrol a’r cymhlethdodau ecolegol y maent yn rhan ohonynt; mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o fewn rhywogaethau, rhwng rhywogaethau ac amrywiaeth ecosystemau.

Yn syml, bioamrywiaeth yw ‘amrywiaeth bywyd’ ac mae’n cwmpasu’r sbectrwm cyfan o organebau byw, gan gynnwys planhigion, adar, mamaliaid a phryfed. Mae’n cynnwys rhywogaethau cyffredin a phrin, yn ogystal â’r amrywiaeth enetig o fewn rhywogaethau. Mae bioamrywiaeth hefyd yn cyfeirio at gynefinoedd ac ecosystemau sy’n cynnal y rhywogaethau hyn.

1.3. Pwysigrwydd gwarchod bioamrywiaeth

Mae bioamrywiaeth yn adnodd hanfodol, ac mae’n rhaid cydnabod ei phwysigrwydd i’n bywydau ynghyd â’r ystod o fuddion y mae’n eu cynhyrchu, sy’n cynnwys:

  • rheoleiddio’r amgylchedd naturiol – rheoleiddio’r hinsawdd, rheoli llifogydd, atafaelu carbon, puro dŵr, a pheillio.
  • darpariaeth adnoddau – bwyd, meddygaeth, ynni, a deunyddiau crai
  • cefnogi’r prosesau ecolegol sylfaenol – cylchu maetholion, ffotosynthesis, a darparu cynefinoedd
  • gwella iechyd a lles
  • adnoddau addysgol, hamdden ac amwynderau

1.4. Fframwaith cynllun gweithredu bioamrywiaeth

Mae’r cynllun gweithredu bioamrywiaeth hwn yn rhan o fframwaith bioamrywiaeth llawer ehangach sy’n cwmpasu lefelau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol o gynllunio gweithredu a chadwraeth bioamrywiaeth.

Mae’r CGB wedi’i lunio gan gyfeirio at y ddeddfwriaeth cadwraeth natur berthnasol ganlynol a Fframwaith Bioamrywiaeth y DU y mae gwarchodaeth safleoedd, cynefinoedd a rhywogaethau yng Nghymru yn deillio ohono, a’r ddeddfwriaeth cadwraeth natur berthnasol ganlynol:

  • Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd) (Rheoliadau Cynefinoedd)

  • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’u diwygiwyd) (WCA)

  • Deddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad 2000

  • Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) 2006 (Lloegr)

  • Deddf Diogelu Moch Daear 1992

  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

  • Fframwaith Bioamrywiaeth y DU ar ôl 2010 (2011-2020) (JNCC a Defra, 2012)

  • Bioamrywiaeth 2020: Strategaeth ar gyfer bywyd gwyllt a gwasanaethau ecosystem Lloegr (Defra, 2011)

  • Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU (UKBAP)

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

  • Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Abertawe 2005

  • Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2010-2025

Eglurir cyd-destun a chymhwysedd pob eitem fel y bo’n briodol yn adrannau perthnasol yr adroddiad.

1.5. DVLA a bioamrywiaeth

Oherwydd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 mae’n ddyletswydd ar DVLA i warchod bioamrywiaeth. Fel corff cyhoeddus, rhaid inni roi sylw wrth gyflawni ein busnes craidd i ddiben gwarchod bioamrywiaeth. Mae’r ddeddf yn nodi bod gwarchod bioamrywiaeth yn cynnwys adfer neu wella poblogaeth neu gynefin. Wrth wneud hynny, dylem roi sylw i’r rhestr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o organebau byw a mathau o gynefinoedd sydd o bwys pennaf at ddiben gwarchod bioamrywiaeth. I bob pwrpas, y rhestr hon yw’r rhywogaethau a’r cynefinoedd sy’n flaenoriaeth i’r CGB ar gyfer yr ystâd.

Mae’r Ymrwymiadau Gwyrddio’r Llywodraeth (GGCs) yn nodi’r camau y bydd adrannau llywodraeth y DU a’u sefydliadau partner, yn eu cymryd i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Mae’r DVLA yn asiantaeth weithredol o’r Adran Drafnidiaeth (DfT) ac mae’n gorfod cadw at yr amcanion a nodir yn y GGCs.

Cynhyrchwyd CGB y DVLA i helpu i gyflawni’r gofynion hyn. Mae’n ceisio arddangos y nodau ac amcanion sy’n ategu CGB y DU a chynlluniau gweithredu bioamrywiaeth lleol.

1.6. Nodau cynllun gweithredu bioamrywiaeth y DVLA

Nodau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DVLA yw:

  • sicrhau bod targedau cynefinoedd a rhywogaethau o adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Ymrwymiadau Llywodraeth Wyrddu, a chynllun gweithredu bioamrywiaeth lleol Abertawe yn cael eu trosi’n gamau gweithredu effeithiol yn yr ystâd
  • ymrwymo i greu a gwella cynefinoedd ar draws yr ystâd
  • datblygu partneriaethau effeithiol gyda staff a’r gymuned leol i sicrhau bod rhaglenni ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth yn cael eu cynnal yn y tymor hir
  • codi ymwybyddiaeth yn fewnol ac yn lleol o’r angen o gael cadwraeth bioamrywiaeth, a darparu canllawiau ar fioamrywiaeth
  • sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer cadwraeth a gwella bioamrywiaeth yn cael eu hystyried yn llawn drwy gydol gweithrediadau’r DVLA
  • monitro ac adrodd ar gynnydd mewn cadwraeth bioamrywiaeth

2. Proses CGB DVLA

2.1. Meincnodi bioamrywiaeth

I gynhyrchu’r CGB, cafwyd gwybodaeth am y cynefinoedd a’r rhywogaethau sy’n bresennol ar yr ystâd yn wreiddiol o’r Asesiad Ecoleg Rhagarweiniol, a gynhaliwyd ym mis Awst 2024. Ar ben hynny, cynhaliwyd astudiaeth ddesg ac arolygon cynefinoedd a rhywogaethau ychwanegol.

2.2. Gosod nodau, amcanion a dangosyddion

Er mwyn cyflawni’r targedau cymharol a nodir yn GGCs, CGB DU, a’r CGB lleol, sefydlwyd 6 nod cyffredinol yn CGB y DVLA. Gosodwyd y nodau hyn er mwyn canolbwyntio rhaglenni gweithredu ac i nodi canlyniadau y gellir eu monitro i fesur cyflawniad. Ar gyfer pob nod, mae dangosydd wedi’i osod – nodwedd fesuradwy o’r nod fydd yn caniatáu asesu’r ddarpariaeth, o’i fonitro dros amser,

Er mwyn sicrhau’r effeithiolrwydd mwyaf posibl, mae’r holl nodau, amcanion a chamau gweithredu wedi’u llunio i ddilyn canllawiau SMART (Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Perthnasol ac Amser-gyfyngedig). Mae’r nodau’n uchelgeisiol ond yn gymesur ac yn ymarferol o ystyried yr adnoddau sydd ar gael.

2.3. Gweithredu

Mae amcanion cyffredinol y CGB wedi’u rhannu’n systematig yn wahanol amcanion, ac mae cynlluniau gweithredu penodol wedi’u datblygu i gefnogi cadwraeth a gwella cynefinoedd a rhywogaethau allweddol. Mae gweithredu’r nodau, yr amcanion a’r camau hyn yn hanfodol ar gyfer cyflawni’r cynllun gweithredu bioamrywi aeth yn effeithiol.

2.4. Monitro ac adrodd yn ôl

Bydd rhaglen fonitro yn mesur os yw amcanion y cynllun wedi’u cyflawni. Disgrifir y dulliau a ddefnyddir yn y cynllun.

Mae’n bwysig adolygu gweithrediad y CGB, ac asesu newidiadau yn statws cynefinoedd a rhywogaethau a hyfywedd cyffredinol y nodau a’r amcanion.

Mae’r cynllun yn nodi’r dulliau i adolygu cyflawniad yr amcanion a chyfleu cynnydd i staff a’r gymuned leol.

3. Amodau sylfaenol

3.1. Trosolwg

Mae’r gwerthusiad hwn wedi’i baratoi gan gyfeirio at ganllawiau arfer da cyfredol a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol, a’r Pwyllgor Cadwraeth Natur ar y Cyd.

Mae’r CGB hwn yn seiliedig ar y ffynonellau data canlynol:

  • CGB blaenorol y DVLA
  • astudiaeth ddesg ecolegol
  • arolwg cynefinoedd
  • arolwg rheoli coed
  • arolwg ymlusgiaid

3.2. CGB blaenorol y DVLA

Mae’r DVLA wedi cyhoeddi 4 CGB, y cyntaf ohonynt yn 2013, gyda’r nod o wella bioamrywiaeth ar ystâd y DVLA. Diben pob un yw meincnodi a gwella gwerth ecolegol ein hystâd a hyrwyddo manteision i’n staff.

3.3. Astudiaeth ddesg

Cynhaliwyd yr astudiaeth ddesg sylfaenol gan y prif ecolegydd, Grace Dooley, fel rhan o’r Gwerthusiadau Ecolegol Rhagarweiniol a gynhaliwyd gan Just Mammals Ltd ym mis Awst 2024. Pwrpas yr astudiaeth oedd adolygu gwybodaeth sylfaenol ecolegol sydd ar gael yn y parth cyhoeddus.

Gofynnwyd am gofnodion gan Ganolfan Cofnodion Bioamrywiaeth de-ddwyrain Cymru o fewn radiws o 1km a dychwelwyd cyfanswm o 1,018 o gofnodion ar draws safleoedd Treforys a diwydiannol y DVLA.

Chwiliwyd am safleoedd sydd â dynodiadau statudol o fewn 1km. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (NNR)
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC)
  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (SPA)

Chwiliwyd hefyd am safleoedd sydd â dynodiadau anstatudol o fewn 1km. Roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Ardaloedd o Goetir Lled-Naturiol Hynafol (ASNW)
  • Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS)
  • Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol (LWS)
  • Gwarchodfeydd Natur Lleol (LNR)
  • Safleoedd o Ddiddordeb i Gadwraeth Natur (SINC)

Cwblhawyd astudiaeth ddesg ychwanegol ar gofnodion herpetoffawna gan reolwr cynaliadwyedd ac amgylchedd hyfforddai graddedig, Katherine Stephens. Cyflwynodd yr astudiaeth wybodaeth yn ymwneud â gweithgaredd herpetoffawna yn sir Abertawe. Dogfennwyd tua 42 cofnod1 o welediadau herpetoffawna rhwng 1 Ionawr 2024 a 30 Mai 2025.[troednodyn 1].

Mae canfyddiadau’r astudiaethau desg wedi’u hymgorffori yn adran 3 o’r adroddiad hwn.

3.4. Arolwg cynefinoedd

Cynhaliwyd Cam 1 o arolwg cynefinoedd o’r ddau safle ar 5 Awst 2024, mewn tywydd cymedrol i dda. Archwiliwyd ac aseswyd pob ardal o fewn y safle am ddangosyddion o werth ecolegol, gan gynnwys presenoldeb neu arwyddion maes o unrhyw gynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig neu brin. Cynhaliwyd Cam 1 o’r arolwg cynefinoedd gan y prif ecolegydd, Grace Dooley, ar ran Just Mammals Ltd.

Lluniwyd rhestr o rywogaethau planhigion ar gyfer pob safle (Atodiad A).

Lluniwyd cynefinoedd a nodiadau ar fap o safle’r arolwg, a chynhyrchwyd map cynefin cam 1 lliw (gweler Atodiad B).

3.5. Arolwg rheoli coed

Cynhaliwyd archwiliad llawn o’r holl goed ar safle Treforys gan weithiwr proffesiynol coedyddiaethol profiadol a chymwys o gwmni Treecare Consulting yn ystod mis Chwefror 2025.

Cwblhawyd yr archwiliad ar brif safle Treforys fel rhan o amserlen archwilio barhaus i nodi coed neu nodweddion coed sy’n peri bygythiad neu niwsans sylweddol ar adeg yr arolwg ar y safle. Ni chafwyd unrhyw ganfyddiadau arwyddocaol yn ystod yr arolwg hwn, ond mae yna argymhelliad gwaith blaenoriaeth 1 i gael gwared ar rywfaint o eiddew o goed yr effeithir arnynt yng nghornel ogledd-ddwyreiniol ystâd Treforys.

Nid yw safle ein huned ddiwydiannol yn cael ei gynnwys yn yr arolwg coed ar hyn o bryd gan fod y coed sy’n bresennol yn ifanc i hanner-aeddfed ac nid yw iechyd yr un ohonynt yn dirywio.

3.6. Arolygon rhywogaethau gwarchodedig a rhywogaethau nodedig

Yn ailadroddiad blaenorol y CGB, cynhaliwyd arolwg ystlumod ac arolwg herpetoffawna i ddarparu llinellau sylfaen. Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau, ni chafodd unrhyw arolygon ystlumod eu cwblhau cyn cyhoeddi’r ailadroddiad hwn o’r CGB. Serch hynny, bydd arolwg ystlumod yn cael ei chynnal yn ystod y 5 mlynedd nesaf, a’r CGB yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.

Cwblhawyd arolwg herpetoffawna llawn gan aelodau hyfforddedig o’r tîm Katherine Stephens a Hilary Elliott rhwng mis Mai a mis Awst 2025. Darparodd adroddiad yr arolwg argymhellion i hyrwyddo poblogaethau herpetoffawna ar draws ystâd y DVLA ac fe’i defnyddiwyd i nodi camau gweithredu ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

4. Cynllun gweithredu bioamrywiaeth DVLA

4.1. Nodau

Nodau CGB y DVLA yw:

  • sicrhau bod targedau cynefinoedd a rhywogaethau adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Ymrwymiadau Llywodraeth Wyrddu, a chynllun gweithredu bioamrywiaeth lleol Abertawe yn cael eu trosi’n gamau gweithredu effeithiol ar yr ystâd
  • ymrwymo i greu a gwella cynefinoedd ar draws yr ystâd
  • datblygu partneriaethau effeithiol gyda staff a’r gymuned leol i sicrhau bod rhaglenni ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth yn cael eu cynnal yn y tymor hir
  • codi ymwybyddiaeth yn fewnol ac yn lleol o’r angen am gadwraeth bioamrywiaeth, a darparu canllawiau ar fioamrywiaeth
  • sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer cadwraeth a gwella bioamrywiaeth yn cael eu hystyried yn llawn drwy gydol gweithrediadau’r DVLA
  • monitro ac adrodd ar gynnydd mewn cadwraeth bioamrywiaeth

Er mwyn sicrhau bod y nodau hyn yn cael eu cyflawni, mae cynlluniau gweithredu penodol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau wedi’u datblygu i gynnal a gwella eu cyflwr ar yr ystâd. Yn ogystal, gall y CGB gyfrannu at amcanion bioamrywiaeth lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth.

Mae’r ystâd yn cynnwys 3 safle yn ardal Abertawe, ac 1 safle yn Birmingham sy’n darparu mathau gwahanol o gynefinoedd. Darperir disgrifiad byr o’r safleoedd hyn isod.

Mae ein prif safle, lle mae mwyafrif ein staff yn cael eu defnyddio, mewn lleoliad trefol yn ardal Treforys. Mae’r safle wedi’i amgylchynu gan eiddo preswyl i’r gogledd, dwyrain a’r de ac amlosgfa a mynwent Treforys i’r gorllewin. Mae’r safle hwn yn rhan o Ystâd y Goron.

Mae ein huned eilaidd nad yw’n swyddfa mewn lleoliad trefol o fewn ystâd ddiwydiannol ar ochr ogledd-orllewin Abertawe. Mae’r safle wedi’i amgylchynu gan unedau diwydiannol eraill ar bob ochr. Mae yna goridor o lystyfiant rhwng yr unedau i’r gogledd a’r gorllewin sy’n arwain at ardal o laswelltir gyda choetir i’r de. Er nad ydym yn berchen ar y safle hwn, mae gennym ymreolaeth gyffredinol wrth reoli’r adeilad a’r amgylchedd allanol.

Mae gennym drydydd safle, sy’n cynnwys ein canolfan gyswllt a’n cyfleusterau dysgu, sydd wedi’i leoli mewn lleoliad trefol gyda thai preifat ac ystâd ddiwydiannol o’i amgylch. Mae’r safle yn adeiladau swyddfa yn bennaf gyda maes parcio ac mae ganddo ychydig iawn o fannau gwyrdd. Ar ben hynny, nid ydym yn berchen ar y safle hwn ac nid oes gennym fawr o sgôp i ymgorffori amcanion bioamrywiaeth a fyddai’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r safle. Yn ogystal, mae ein pedwerydd safle, Baskerville House, hefyd wedi’i leoli mewn lleoliad trefol yng nghanol Birmingham. Mae’r safle yn adeilad rhestredig gradd II nad oes ganddo unrhyw fannau gwyrdd. O ganlyniad, nid yw’r safleoedd hyn wedi’u cynnwys yn y cynllun gweithredu ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau. Serch hynny, mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod yr holl staff ar draws yr ystâd yn cael eu cynnwys ac yn cymryd rhan yn y cynllun.

O ystyried maint cymharol fychan ein safleoedd, a’r amrywiaeth gyfyngedig o gynefinoedd a gefnogir o fewn ei ffiniau, mae’r CGB yn canolbwyntio ar 5 rhywogaeth a 6 chynefin. Mae unrhyw rywogaethau ymledol hefyd wedi’u cynnwys. Mae canlyniadau’r Asesiadau Effeithiolrwydd Creadigol (PEA), astudiaethau desg, arolygon herpetoffawna, a chofnodion y safle a gasglwyd yn flaenorol gan y DVLA wedi dylanwadu ar ddewis y rhywogaethau a’r cynefinoedd. Yn seiliedig ar y wybodaeth hon, cynhyrchwyd rhestr fer o rywogaethau a chynefinoedd.

Fe wnaethom ddewis rhywogaethau a chynefinoedd targed lle:

  • mae rhwymedigaeth gyfreithiol yn bodoli i amddiffyn y rhywogaeth neu’r cynefin
  • mae’r cynefin neu’r rhywogaeth eisoes yn bresennol ar y safle ond gellid gwella ei statws neu ei ddosbarthiad gyda rheolaeth dargedig
  • nid yw rhywogaeth wedi’i chofnodi ar y safle o’r blaen ond mae potensial y byddai gwella’r cynefin ar y safle yn cyfrannu at niferoedd lleol a statws cadwraeth y rhywogaeth dan sylw
  • mae rhywogaethau ymledol fel y’u rhestrir yn Atodlen 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn bresennol ar yr ystâd

4.2. Cynefinoedd y DVLA

Cynhaliwyd arolygon ecolegol yn ein safle yn Nhreforys a’r safle diwydiannol. Mae canlyniadau’r arolygon hyn yn dangos bod 7 math o gynefin cam 1 wedi’u nodi yn safle Treforys a 9 math o gynefin cam 1 wedi’u nodi yn y safle diwydiannol. Mae trefn y disgrifiadau cynefinoedd isod yn adlewyrchu eu trefn yn llawlyfr arolwg cynefinoedd Cam 1 ac nid yw’n adlewyrchu pwysigrwydd y cynefinoedd.

Yn seiliedig ar y meini prawf a drafodwyd uchod, mae’r cynefinoedd canlynol wedi’u dewis i’w cynnwys yn y CGB.

Math o gynefin Cynefin blaenoriaeth Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) Prif safle – Treforys Safle diwydiannol
Prysgwydd trwchus Rhostir iseldir
Parcdir a choed gwasgaredig cymysg Porfa goediog a pharcdir
Glaswelltir niwtral wedi’i led-wella Dolydd iseldir
Glaswelltir amwynder Na
Llwyn wedi’i gyflwyno Na
Gwrych cyfan o rywogaethau gwael Gwrychoedd
Gwrych a choed, gwael o ran rhywogaethau Gwrychoedd  
Coeden gynefinol dal Rhostir iseldir  
Dŵr llonydd mesotroffig Pyllau  
Ffos sych Na  

Cynllun Gweithredu Cynefinoedd 1 – HAP1

Cynefinoedd rhostir iseldir: prysgwydd trwchus a choed cynefinol tal.

Rhifau cyf Gweithredu Safle
HAP 1.1 Cyflwyno amserlen torri llysdyfiant a glaswellt dethol i gynnal cynefin (torri ar draws olyniaeth). Prif safle a safle diwydiannol
HAP 1.2 Atal colli cynefinoedd agored oherwydd goresgyniad prysgwydd. Prif safle a safle diwydiannol
HAP 1.3 Dileu prysgwydd ymledol o gynefinoedd pwysig. Prif safle a safle diwydiannol
HAP 1.4 Cynnal cydbwysedd cytunedig rhwng prysgwydd a chynefinoedd agored. Prif safle a safle diwydiannol

Cynllun Gweithredu Cynefinoedd 2 – HAP 2

Cynefin porfa coetir a pharcdir: parcdir a choed gwasgaredig wedi’u cymysgu.

Rhifau cyf Gweithredu Safle
HAP 2.1 Lle bynnag y bo modd, cadw’r elfennau pwysig sef coed marw a rhai sy’n pydru a phren marw wedi cwympo ac yn sefyll. Prif safle a safle diwydiannol
HAP 2.2 Ystyried asesiadau risg addas ar gyfer coed lle gall fod perygl i’r cyhoedd er mwyn atal torri neu gael gwared ar bren marw yn ddiangen. Prif safle a safle diwydiannol
HAP 2.3 Cynyddu poblogaeth coed gyda chyfundrefn blannu a reolir, gan gynnwys plannu llwyni ar gyfer neithdar. Prif safle a safle diwydiannol
HAP 2.4 Creu ardal amddiffyn gwreiddiau o amgylch coed aeddfed i osgoi rhoi gwrteithiau neu blaladdwyr, neu ganiatáu cywasgu pridd neu gloddio a fyddai’n niweidio gwreiddiau. Prif safle a safle diwydiannol

Cynllun Gweithredu Cynefinoedd 3 – HAP 3

Dolydd iseldir: glaswelltir naturiol wedi’i led-wella. Cynyddu amrywiaeth rhywogaethau.

Rhifau cyf Gweithredu Safle
HAP 3.1 Hybu adfywiad naturiol drwy gynnal amserlen torri gwair mewn ardaloedd priodol. Prif safle a safle diwydiannol
HAP 3.2 Cynyddu amrywiaeth y glaswellt gydag amserlen blannu briodol. Prif safle a safle diwydiannol

Cynllun Gweithredu Cynefinoedd 4 – HAP 4

Gwrychoedd.

Rhifau cyf Gweithredu Safle
HAP 4.1 Mapio a mesur yr holl wrychoedd i sefydlu mesuriad llinell sylfaen. Sicrhau nad yw cyfanswm hyd y gwrych ar y safle yn disgyn o dan yr hyd hwn. Prif safle a safle diwydiannol
HAP 4.2 Cynllunio a dylunio’r holl weithrediadau safle a gweithgaredd datblygu yn y dyfodol i osgoi colli neu fyrhau gwrychoedd. Prif safle a safle diwydiannol
HAP 4.3 Creu gwrych brodorol newydd sy’n llawn rhywogaethau. Prif safle a safle diwydiannol
HAP 4.4 Caniatáu i ddail crin gronni wrth waelod gwrychoedd ac mewn ardaloedd o brysgwydd er budd pryfed, adar a draenogod sy’n gaeafgysgu. Prif safle a safle diwydiannol
HAP 4.5 Osgoi torri gwrychoedd yn ystod tymor nythu rhwng mis Mawrth ac Awst. Er mwyn annog bioamrywiaeth, dylid amserlennu torri gwrychoedd ar gyfer mis Ionawr i fis Chwefror a mis Medi i fis Hydref. Prif safle a safle diwydiannol

Cynllun Gweithredu Cynefinoedd 5 – HAP 5

Glaswelltir amwynder a llwyni a gyflwynwyd. Ein nod yw gwella gwella gwerth bioamrywiaeth planhigion addurnol a chynefin glaswelltir.

Rhifau cyf Gweithredu Safle
HAP 5.1 Parhau i reoli ardaloedd o laswelltir fel ardaloedd bywyd gwyllt. Prif safle a safle diwydiannol
HAP 5.2 Cynnal amserlenni torri gwair er budd bioamrywiaeth mewn rhai ardaloedd a hau cymysgedd hadau blodau gwyllt brodorol. Prif safle a safle diwydiannol
HAP 5.3 Nodi ardaloedd o blanhigion addurnol o ddiddordeb bioamrywiaeth isel a’u disodli â rhywogaethau neu gynefinoedd mwy gwerthfawr. Prif safle a safle diwydiannol

Cynllun Gweithredu Cynefinoedd 6 – HAP 6

Pwll a ffos sych.

Rhifau cyf Gweithredu Safle
HAP 6.1 Clirio llystyfiant yn rhannol o byllau i greu golwg agored. Safle diwydiannol
HAP 6.2 Cynnal llystyfiant i 30cm trwy strimio ym mis Medi a mis Mawrth. Safle diwydiannol
HAP 6.3 Rheoli twf algaidd. Safle diwydiannol

4.3. Cynefinoedd DVLA

Dim ond pan fo eu hanghenion y tu hwnt i allu’r camau gweithredu a amlinellir yn y cynlluniau gweithredu cynefinoedd y mae camau gweithredu penodol wedi’u neilltuo i rywogaethau unigol (er enghraifft, nid oes cynllun gweithredu rhywogaethau ar gyfer brogaod cyffredin na llyffantod cyffredin wedi’i ddatblygu gan fod amcanion cynllun gweithredu ar gyfer y rhywogaethau hyn eisoes ar y gweill drwy’r cynllun gweithredu cyffredinol ar gyfer pyllau).

Tynnwyd sylw at bresenoldeb y rhywogaethau planhigion canlynol sydd ar Atodlen 9 yn ystod ymweliadau blaenorol â’r safle:

  • Canclwm Japan (Reynoutria japonica)
  • Crib y ceiliog (Crocosmia x crocosmiiflora)
  • Rhododendron (Rhododendron ponticum)
  • Rhywogaethau Creigafal (Cotoneaster sp.) nad oeddent wedi’u nodi i lefel rhywogaeth ac a allai fod yn un o’r rhywogaethau ar Atodlen 9

Mae’r rhain yn rhywogaethau estron ymledol (INNS) a rhaid peidio â’u lledaenu yn y gwyllt. Mae cynllun rheoli Clymog Japan llwyddiannus ar waith i ddileu clystyrau bach ohono sydd wedi’u cyfyngu i’r ffin ogledd-ddwyreiniol yn ein prif safle.

Yn seiliedig ar y meini prawf a drafodwyd uchod, mae’r rhywogaethau canlynol wedi’u dewis i’w cynnwys yn y CGB.

Rhywogaethau Rhywogaethau S.7 Prif safle – Treforys Safle diwydiannol
Ystlymod – Noctule (Nyctalus noctula)
Ystlymod - Leisler’s (Nyctalus leisleri)
Ystlymod* - Ystlum lleiaf (Pipistrellus pipistrellus)
Ystlymod* - Ystlum lleiaf Nathusius (Pipistrellus nathusii)
Ystlymod* - Ystlum lleiaf Soprano (Pipistrellus pygmaeus)  
Ystlymod - Ystlum hirglust brown (Plecotus auritus)  
Gwenyn Mêl    
Madfallod cyffredin (Zootoca vivipara)  
Neidr Wellt (Natrix Natrix Helvetica)  
Ffacbysen Coed (Vicia sylvatica)    
Cribau San Ffraid (Stachys officinalis)    
Canclwm Japan (Reynoutria japonica)    
Crib-y-ceiliog (Crocosmia x crocosmiiflora)    
Rhododendron (Rhododendron ponticum)    
Cotoneaster (Cotoneaster sp.)    

*Cafwyd hyd i bob un o’r 3 isrywogaeth Pipistrelle yn ystod yr arolwg ystlumod diwethaf a gynhaliwyd yn 2019.

Cynllun Gweithredu Rhywogaethau 1 – SAP 1

Ein nod yw annog y defnydd o’n safleoedd a darparu nodweddion clwydo i ychwanegol i ystlumod.

Rhifau cyf Gweithredu Safle
SAP 1.1 Lleihau gollyngiad golau o oleuadau allanol, yn enwedig ger coridorau tywyll, gwrychoedd ffiniol, a choed. Prif safle a safle diwydiannol
SAP 1.2 Nodi lleoliadau posibl ar gyfer creu clwydi gan gynnwys coed, adeiladau a strwythurau eraill. Prif safle a safle diwydiannol
SAP 1.3 Gosod blychau ystlumod neu nodweddion clwydo priodol ar draws nodweddion a nodwyd – amgylchedd adeiledig a naturiol. Prif safle a safle diwydiannol
SAP 1.4 Gosod coridorau o oleuadau cylch coch tywyll i ddarparu cysylltedd lle bo angen. Prif safle a safle diwydiannol

Cynllun Gweithredu Rhywogaethau 2 – SAP 2

Gwenyn.

Rhifau cyf Gweithredu Safle
SAP 2.1 Cynnal cychod gwenyn ar y safle. Safle diwydiannol
SAP 2.2 Darparu cynefin peillwyr ychwanegol gydag amserlen gynnal a chadw ddiwygiedig i ardaloedd penodol. Safle diwydiannol

Cynllun Gweithredu Rhywogaethau 3 – SAP 3

Madfallod cyffredin a nadroedd gwellt. Ein nod yw cynnal dwysedd y boblogaeth cynnal dwysedd y boblogaeth a sicrhau bod addasrwydd cynefinoedd yn cael ei gynnal.

Rhifau cyf Gweithredu Safle
SAP 3.1 Cynnal amodau cynefinoedd gydag amserlen cynnal a chadw flynyddol dargedig. Safle diwydiannol
SAP 3.2 Creu gaeafle lle bo’n briodol. Safle diwydiannol

Cynllun Gweithredu Rhywogaethau 4 – SAP 4

Dangosyddion coetir hynafol: ffacbys y coed a chribau San Ffraid

Rhifau cyf Gweithredu Safle
SAP 4.1 Rheoli cynefin i sicrhau nad yw’r planhigion yn cael eu haflonyddu. Prif safle
SAP 4.2 Gosod arwyddion i godi ymwybyddiaeth. Prif safle

Cynllun Gweithredu Rhywogaethaun 5 – SAP 5

Rhywogaethau ymledol.

Y rhywogaethau ymledol ar y safle yw:

  • Canclwm Japan (Reynoutria japonica)
  • Crib y ceiliog (Crocosmia x crocosmiiflora)
  • Rhododendron (Rhododendron ponticum)
  • Cotoneaster (Cotoneaster sp.)
Rhifau cyf Gweithredu Safle
SAP 5.1 Sicrhau cynnal cynllun rheoli clymog Japan a’i fod yn cael ei fonitro am effeithlonrwydd. Prif safle a safle diwydiannol
SAP 5.2 Sicrhau nad yw’r holl waith a wneir mewn ardaloedd lle mae rhywogaethau Atodlen 9 yn bresennol yn tarfu ar y planhigyn ac yn eu lledaenu. Prif safle a safle diwydiannol

4.4. Codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â’r gymuned

Mae ymgysylltiad staff a’r gymuned yn hanfodol i weithredu’r CGB yn llwyddiannus a bydd yn sicrhau bod yr holl randdeiliaid allweddol yn cael gwybod ac yn cyd-fynd â’r cynllun gweithredu.

Bydd ein hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o’r CGB yn helpu i greu amgylchedd cadarnhaol, yn meithrin ymdeimlad o fuddsoddiad ac yn ymwneud â bioamrywiaeth leol a’r amgylchedd naturiol.

Rydym hefyd yn gobeithio y gall llwyddiant y DVLA ymestyn y tu hwnt i’n hystadau ac i’r gymuned ehangach, – annog ymgysylltiad cadarnhaol trwy gyfathrebu â phartneriaid allanol a thrwy gynnal a mynychu digwyddiadau.

Er mwyn hyrwyddo ymgysylltiad staff a’r gymuned â bioamrywiaeth, dewiswyd y camau gweithredu canlynol i’w cynnwys yn y CGB.

Cynllun Gweithredu Ymwybyddiaeth ac Ymgysylltu â’r Gymuned 1 – ACEAP 1

Hyrwyddo bioamrywiaeth gyda staff ac ymwelwyr.

Rhifau cyf Gweithredu
ACEAP 1.1 Codi ymwybyddiaeth o arddio bywyd gwyllt i staff ac ymwelwyr.
ACEAP 1.2 Cynnwys ysgolion lleol yn niwrnod bioamrywiaeth ar y safle.
ACEAP 1.3 Creu llwybr gydag arwyddion i godi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth ar y safle.
ACEAP 1.4 Creu pwyllgor bioamrywiaeth i oruchwylio ac adrodd ar gynnydd.

5. Rhoi’r cynllun ar waith

5.1. Rôlau a chyfrifoldebau

Bydd tîm cynaliadwyedd y DVLA yn sicrhau bod amcanion ein CGB yn cael eu gweithredu. Ein prif swyddog bioamrywiaeth fydd yn gyfrifol am gydlynu. Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys gweithredu’r CGB, monitro, mesur a chofnodi cynnydd.

Er mwyn cydlynu gweithrediad y CGB mae grŵp llywio sy’n cyfarfod yn fisol. Mae’r grŵp hwn yn sicrhau ein bod yn cynnal momentwm ac yn parhau ar y trywydd iawn i gyflawni amcanion y CGB.

5.2. Monitro ac adolygu

Cyfrifoldeb ein prif swyddog bioamrywiaeth fydd monitro ac adolygu CGB y DVLA. Bydd y nodau’n cael eu hadolygu bob 12 mis fel y gellir monitro a chofnodi cynnydd, gyda pharatoadau digonol yn cael eu gwneud cyn gweithredu’r set nesaf o nodau.

Bydd ein CGB yn cael ei ystyried yn ddogfen fyw y gellir ei diwygio gydag amcanion ychwanegol. Yn yr un modd, mae’r amserlen i gyflawni amcanion hefyd yn hyblyg, felly dylid symud prosiectau i gyd-fynd ag adnoddau neu gyfleoedd. Lle nad yw amcanion wedi’u cyflawni neu nad ydynt yn gyraeddadwy, bydd y CGB yn cael ei ddiwygio yn unol â hynny. Gwneir hyn trwy adolygu’r dyddiad targed neu ddisodli’r amcan gyda cham gweithredu arall a fyddai o fudd i rywogaeth flaenoriaeth neu darged ar y BAP, LBAP neu’r CGB y DU.

5.3. Adrodd yn ôl

Mae gennym nifer o ofynion adrodd yn ôl sy’n cael eu cyhoeddi’n allanol gan eu gwneud yn hygyrch i bawb sydd am ddod yn gyfarwydd â’n cynnydd yn ystod y 5 mlynedd nesaf.

Rydym yn cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol a’n cyfrifon sy’n monitro ein cyflawniadau yn erbyn targedau ac amcanion. Yn ogystal, mae cyhoeddi adroddiad crynodeb Atodlen 6 yn allanol yn hanfodol, yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Atodiad A

Rhywogaethau planhigion a gofnodwyd

Prif safle

Prysgwydd trwchus A2.1.
Mieri Rubus fruticosus agg.
Ceirchwellt ffug Arrhenatherum elatius
Llysiau’r waun Lathyrus pratensis
Iorwg Hedera helix
Prifet Ligustrum vulgare
Helyglys pêr Epilobium hirsutum
Helyglys hardd Chamerion angustifolium
Dail tafol Rumex obtusifolius
Ffacbysen y coed Vicia sylvatica (TN8 AWI)
Marchrawn Equisetum arvense
Cotoneaster (Atod. 9 rhywogaeth o bosibl)
Llysiau’r swynwr Circaea lutetiana
Gwlyddyn y Perthi Galium aparine
Efwr cyffredin Heracleum sphondylium
Rhwymog y Clawdd Calystegia sepium
Parcdir a choed gwasgaredig wedi’u cymysgu A3.3.
Cerddinen Sorbus aucuparia
Pinwydden yr Alban Pinus sylvestris
Sycamorwydden Acer pseudoplatanus
Onnen Fraxinus excelsior
Leylandii (sp.) Cupressus x leylandii
Oestrwydden Carpinus betulus
Derwen Quercus robur
Bedwen bapur Betula papyrifera
Draenen wen Crataegus monogyna
Helygen ddeilgron Salix caprea
Planwydden Llundain Platanus × acerifolia
Pisgwydd dail mawr Tilia platyphyllos
Castanwydden bêr Castanea sativa
Ffawydden Fagus sylvatica
Cerddinen Sweden Sorbus intermedia
Helygen wen Salix alba
Gymwydden bêr Liquidambar styraciflua
Llarwydden Ewropeaidd ‎Larix decidua
Coeden y nefoedd Ailanthus altissima
Masarnen (sp.) Acer sp.
Afal Malus sp.
Celyn Ilex aquifolium
Collen Corylus avellana
Gwernen Alnus glutinosa
Gwernen Eidalaidd Alnus cordata
Glaswelltir niwtral wedi’i led-wella B2.2. (o amgylch y maes parcio gerllaw Ffordd Clasemont)
Ceirchwellt ffug Arrhenatherum elatius
Cawnen benwen Holcus lanatus
Meillionen troed aderyn Lotus corniculatus
Byswellt Dactylis glomerata
Efwr cyffredin Heracleum sphondylium
Mieri Rubus fruticosus agg.
Y goesgoch Geranium robertianum
Hocysen bêr Malva moschata
Ytbysen y waun Lathyrus pratensis
Meillionen hopysaidd fach Trifolium dubium
Pumbys ymlusgol Potentilla reptans
Pig yr aran hirgoes Geranium columbinum
Ffacbys copog Vicia cracca
Clust-y-llygoden gulddail Cerastium fontanum
Y feddyges las Prunella vulgaris
Iorwg Hedera helix
Glaswelltir niwtral wedi’i led-wella B2.2. (o amgylch bloc B)
Y feddyges las Prunella vulgaris
Llygad yr ych Leucanthemum vulgare
Cawnen benwen Holcus lanatus
Maeswellt cyffredin Agrostis capillaris
Rhygwellt parhaol Lolium perenne
Meillionen troed aderyn Lotus corniculatus
Pumnalen gyffredin Potentilla simplex
Llygad doli Veronica chamaedrys
Milfyw Luzula campestris
Ysgallen y gors Cirsium palustre
Blodyn-ymenyn ymlusgol Ranunculus repens
Marchysgallen Cirsium vulgare
Briallu Primula vulgaris
Meillionen goch Trifolium pratense
Rhwyddlwyn y coed Veronica montana (awi)
Clust-y-llygoden gulddail Cerastium fontanum
Dail tafol Rumex obtusifolius
Briallu Mair Primula veris
Llyriaid yr ais Plantago lanceolata
Dant y llew (sp.) Taraxacum sp.
Byswellt Dactylis glomerata
Y bengaled Centaurea nigra
Creulys y ffos Jacobaea vulgaris
Ffugalaw bach Hypochaeris radicata
Glaswelltir niwtral wedi’i led-wella B2.2. (ardal fach o amgylch TN14))
Ceirchwellt tal Arrhenatherum elatius
Marchwellt Elymus repens
Mieri Rubus fruticosus agg.
Dail tafol Rumex obtusifolius
Helyglys pêr Epilobium hirsutum
Rhedyn Pteridium aquilinum
Meillionen troed aderyn Lotus corniculatus
Pumnalen Potentilla sp
Cribau San Ffraid Stachys officinalis (awi) TN14
Glaswelltir amwynder J1.2.
Rhygwellt parhaol Lolium perenne
Maeswellt cyffredin Agrostis capillaris
Maswellt penwyn Holcus lanatus
Meillionen wen Trifolium repens
Llygad yr ych Leucanthemum vulgare
Meillionen troed aderyn Lotus corniculatus
Llaethysgallen arw Sonchus asper
Y feddyges las Prunella vulgaris
Llyriad yr ais Plantago lanceolataa
Blodyn-ymenyn ymlusgol Ranunculus repens
Ceirchwellt tal Arrhenatherum elatius
Llygad y dydd Bellis perennis
Byswellt Dactylis glomerata
Mapgoll Geum urbanum
Peiswellt coch Festuca rubra
Mwsogl (sp.)
Tafolen grech Rumex crispus
Meillionen hopysaidd fach Trifolium dubium
Ffugalaw bach Hypochaeris radicata
Clust-y-llygoden gulddail Cerastium fontanum
Gwrych cyfan, gwael o ran rhywogaethau J2.1.2. (o amgylch yr is-orsaf)
Leylandii (sp.) Cupressus x leylandii
Gwrych cyfan, gwael o ran rhywogaethau J2.1.2. (o amgylch y feithrinfa a’r maes parcio cyfagos)
Celyn Ilex aquifolium
Iorwg Hedera helix
Taglys y perthi Calystegia sepium
Llau’r offeiriad Galium aparine
Cartheig Lapsana communis
Y goesgoch Geranium robertianum
Ceirchwellt tal Arrhenatherum elatius
Maswellt penwyn Holcus lanatus
Elinog Solanum dulcamara
Mieri Rubus fruticosus agg.
Ysgaw Sambucus nigra
Onnen Fraxinus excelsior
Gwrych a choed, gwael o ran rhywogaethau J.2.3.2
Draenen wen Crataegus monogyna
Sycamorwydden Acer pseudoplatanus
Onnen Fraxinus excelsior
Prifet Ligustrum vulgare
Iorwg Hedera helix
Isdyfiant o rywogaethau prysgwydd trwchus yn bresennol
Llwyni a gyflwynwyd J1.4.
Y gynffon las Buddleja davidii
Rhosyn spp. Rosa spp.
Eithin Ulex europaeus
Rhosyn Saron Hypericum calycinum
Corhesgen Carex sp.
Cwyros Cornus sanguinea
Phorrmium sp
Spirea sp.
Rhododendron sp.
Mefus gwyllt Fragaria vesca
Tegeirian-y-gors ddeheuol Dactylorhiza praetermissa
Mahonia sp.
Pren bocs Buxus sempervirens
Jasmin sp. Jasminum sp
Calmia sp. Laurus sp.

Safle’r uned ddiwydiannol

Llwyni trwchus A2.1. (wedi’u lleoli yng ngogledd-orllewin y safle)
Eithin Ulex europaeus
Mieri Rubus fruticosus agg.
Ysgallen y maes Cirsium arvense
Helyglys pêr Epilobium hirsutum
Dail tafol Rumex obtusifolius
Tafol y gors Rumex palustris
Cwyros Cornus sanguinea
Rhosyn gwyllt Rosa canina
Draenen ddu Prunus spinosa
Peiswellt mawr Festuca gigantea
Ceirchwellt tal Arrhenatherum elatius
Maswellt penwyn Holcus lanatus
Cynffon y gath Typha latifolia
Helygen ddeilgron Salix caprea
Milfyw Luzula campestris
Y bengaled Centaurea nigra
Byswellt Dactylis glomerata
Ytbys y ddôl Lathyrus pratensis
Llwyni trwchus A2.1. (ar ochr ddwyreiniol y safle)
Mieri Rubus fruticosus agg.
Helygen ddeilgron Salix caprea
Eithin Ulex europaeus
Draenen ddu Prunus spinosa
Draenen wen Crataegus monogyna
Collen Corylus avellana
Dail tafol Rumex obtusifolius
Helygen wiail Salix viminalis
Collen Corylus avellana
Creulys y ffos Jacobaea vulgaris
Parcdir a choed gwasgaredig wedi’u cymysgu A3.3.
Onnen Fraxinus excelsior
Helygen ddeilgron Salix caprea
Helygen wiail Salix viminalis
Glaswelltir niwtral wedi’i led-wella B2.2.
Ceirchwellt tal Arrhenatherum elatius
Brigwellt garw Deschampsia cespitosa
Maswellt penwyn Holcus lanatus
Llysiau Ifan Hypericum perforatum
Y feddyges las Selfheal Prunella vulgaris
Pumbys ymlusgol Potentilla reptans
Dail arian Potentilla anserina
Ysgallen y maes Cirsium arvense
Byswellt Dactylis glomerata
Ytbys y ddôl Lathyrus pratensis
Marchrawnen y coed Equisetum arvense
Llyriad yr ais Plantago lanceolata
Y bengaled Centaurea nigra
Brwynen babwyr Juncus effusus
Llaethysgallen arw Sonchus asper
Helyglys pêr Epilobium hirsutum
Dail tafol Rumex obtusifolius
Maeswellt rhedegog Agrostis stolonifera
Helyglys llydanddail Epilobium montanum
Creulys y ffos Jacobaea vulgaris
Ysgall y gors Cirsium palustre
Marchysgallen Cirsium vulgare
Y goesgoch Geranium robertianum
Rhonwellt Phleum pratense
Brwynen galed Juncus inflexus
Marddanhadlen goch (sp). Lamium sp.
Rhedynen Fair Athyrium filix-femina
Byddon chwerw Eupatorium cannabinum
Llysiau’r-milwr coch Lythrum salicaria
Eithin Ulex europaeus
Mieri Rubus fruticosus agg.
Coeden gynefinol dal C3.1.
Ysgall y gors Cirsium palustree
Y bengaled
Brigwellt garw
Dail tafol Rumex obtusifolius
Panasen wyllt Pastinaca sativa
Brwynen galed Juncus inflexus
Brwynen babwyr Juncus effusus
Ffacbys y berth Vicia cracca
Llau’r offeiriad Galium aparine
Pumbys ymlusgol Potentilla reptans
Hesgen dywysennog fawr Carex vulpinoidea
Byswellt Dactylis glomerata
Peiswellt mawr Festuca gigantea
Brwynen bellennaidd Juncus conglomeratus
Marchwellt Elymus repens
Creulys y ffos Jacobaea vulgaris
Dŵr llonydd mesotroffig G1.2. (ffos wlyb)
Cynffon y gath Typha latifolia
Helyglys pêr Epilobium hirsutum
Dŵr llonydd mesotroffig G1.2. (pwll)
Cynffon y gath Typha latifolia
Tafol y gors Rumex palustris
Mwsogl sp.
Glaswelltir amwynder J1.2.
Mwsogl sp.
Meillionen wen Trifolium repens
Meillionen troed aderyn Lotus corniculatus
Y feddyges las Prunella vulgaris
Milfyw Luzula campestris
Peiswellt mawr Festuca gigantea
Dail tafol Rumex obtusifolius
Blodyn-ymenyn ymlusgol Ranunculus repens
Llygad y dydd Bellis perennis
Llyriad yr ais Plantago lanceolata
Ceirchwellt tal Arrhenatherum elatius
Maswellt penwyn Holcus lanatus
Clust y llygoden gulddail Cerastium fontanum
Dail arian Potentilla anserina
Marchwellt Elymus repens
Meillionen goch Trifolium pratense
Meillionen hopysaidd fach Trifolium dubium
Y bengaled Centaurea nigra
Llwyn a gyflwynwyd J1.4.
Pren bocs Buxus sempervirens
Berberis sp.
Cotoneaster gwych (rhywogaeth Atod. 9 o bosibl)
Collen Corylus avellana
Rhododendron Rhododendron ponticum (Atodiad 9)
Eithin Ulex europaeus
Afal Malus sp.
Helygen ddeilgron Salix caprea
Gwifwrnwydden y gors Viburnum opulus
Piswydd Euonymus europaeus
Calmia sp. Laurus sp.
Cerddinen wen spp. Sorbus spp
Rhosyn gwyllt Rosa canina
Gwrych cyfan, gwael o ran rhywogaethau J2.1.2.
Collen Corylus avellana
Helygen wiail Salix viminalis
Eithin Ulex europaeus
Cwyros Cornus sanguinea
Ffos sych J2.6.
Ffos sych yn llawn o laswelltir niwtral wedi’i led-wella a phrysgwydd trwchus – cyfansoddiad rhywogaethau a ddisgrifir yn y math o gynefinoedd a grybwyllwyd uchod.

Atodiad B

Mapiau cynefinoedd

Nodiadau targed cynefin

Prif safle

Nod targed Disgrifiad
TN1 Dwy goeden binwydd â’u cyflwr yn dirywio.
TN2 Ardal o laswelltir amwynder gyda choed gwasgaredig yn tyfu y tu allan i ddaliadaeth eiddo’r DVLA ond yn cael ei rheoli gennym. Mae’r un rhywogaethau’n bresennol ag ar gynefinoedd cysylltiedig y DVLA. Mae yna hefyd glwstwr bach o brysgwydd trwchus gydag eiddew a mieri yn tyfu drosto.
TN3 Ynn yn dangos arwyddion o glefyd gwywiad ynn.
TN4 Llwyfen Seisnig (Ulmus procera) o dan Orchymyn Cadw Coed (TPO) gydag eiddew drosti â’i chyflwr yn dirywio.
TN5 Pentwr bach o rwbel o fewn llystyfiant, a allai gynnig cynefin i ymlusgiaid.
TN6 Ardal o fewn prysgwydd a choed trwchus gyda phacbys y coed (Vicia sylvatica) sy’n gyffredin yn lleol, - rhywogaeth sy’n ddangosydd coetir hynafol.
TN7 Llwyn ceirchen goch (Crocosmia x crocosmiiflora) - rhywogaeth estron ymledol ar Atodlen 9
TN8 Coeden sengl (pinwydd du) o fewn y maes parcio gyda TPO arni.
TN9 Rhes o goed aeddfed wedi’u cynnwys mewn TPO.
TN10 Rhywogaeth Creigafal (Cotoneaster sp.) nad yw wedi’i nodi i lefel rhywogaeth ac a allai fod yn un o’r rhywogaethau ar Atodlen 9.
TN11 Pentwr o foncyffion a allai gynnig cynefin i ymlusgiaid ac infertebratau.
TN12 Cribau San Ffraid (Stachys officinalis) - rhywogaeth sy’n ddangosydd coetir hynafol.
TN13 Tegeirianau cors deheuol (Dactylorhiza praetermissa) yn tyfu rhwng planhigion phormium addurnol.
TN14 Blwch adar â’i gyflwr yn dirywio ar goeden binwydd.
TN15 Blwch adar ar fasarnen Norwy (Acer platanoides).