Canllawiau

Telerau setlo tâl cuddiedig 2020 ar gyfer ymgynghorwyr neu asiantau treth

Diweddarwyd 11 April 2023

1. Trosolwg

Mae’r arweiniad hwn wedi’i ysgrifennu ar gyfer asiantau. Os ydych yn rhan o gynllun tâl cuddiedig, mae arweiniad ar setlo eich materion treth eich hunan.

Defnyddiwch y canllaw hwn i helpu’ch cleientiaid i ddeall sut y bydd eu rhwymedigaethau tâl cuddiedig yn cael eu cyfrifo o dan delerau setlo newydd 2020. Maent yn ystyried newidiadau i’r tâl ar fenthyciad, yn dilyn yr adolygiad annibynnol i’r tâl ar fenthyciad (yn Saesneg), ond dylid eu defnyddio ar gyfer setliadau mewn perthynas â phob rhwymedigaeth tâl cuddiedig.

Gall y tâl ar fenthyciad fod yn berthnasol os oes gan eich cleient fenthyciadau tâl cuddiedig, heb eu had-dalu, a wnaed rhwng a chan gynnwys 9 Rhagfyr 2010 a 5 Ebrill 2019. Os yw’n berthnasol, gellir ystyried y tâl ar fenthyciad fel rhan o sefyllfa’r setliad terfynol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y tâl ar fenthyciad yn adran 14 yr arweiniad hwn ac yn Rhoi gwybod am eich tâl ar fenthyciad tâl cuddiedig a rhoi cyfrif amdano (yn Saesneg).

Mae’r modd y gall eich cleient ddisgwyl setlo yn dibynnu ar y math o gynllun a ddefnyddiwyd ganddo ac a yw’n cael ei ystyried gan CThEF, at ddibenion y telerau setlo hyn, yn:

  • contractwr

  • cyflogwr

  • cyflogai

Os yw’ch cleient wedi defnyddio mwy nag un math o gynllun, bydd angen i chi edrych ar yr arweiniad ar gyfer pob math er mwyn pennu’r sefyllfa derfynol bosibl o ran setlo.

Mae CThEF yn cydnabod y gall trefniadau tâl cuddiedig fod yn eang ac amrywiol. Felly, mae’r canllaw hwn yn esbonio’r egwyddorion cyffredinol sy’n berthnasol i gynlluniau tâl cuddiedig, gan nad yw’n bosibl ymdrin â sut mae’n berthnasol ym mhob sefyllfa benodol.

Bydd pob setliad yn destun gweithdrefnau llywodraethu arferol sydd wedi’u teilwra yn ôl maint yr achos. Mae hyn er mwyn sicrhau cydymffurfiad â chyfrifoldebau CThEF o dan bwerau casglu a rheoli a’r Strategaeth Ymgyfreitha a Setlo (yn Saesneg).

Efallai na fydd y telerau setlo yn yr arweiniad hwn ar gael os yw apêl eich cleient wedi’i chyfeirio at dribiwnlys.

1.1 Ymholiadau agored

Bydd angen i flynyddoedd treth sy’n destun asesiad neu ymchwiliad agored gael eu datrys, naill ai drwy gytundeb gyda CThEF o dan y telerau a amlinellir yn yr arweiniad hwn neu drwy ymgyfreitha. Pan fyddwch yn datrys eich materion treth, byddwn yn ystyried unrhyw hysbysiadau i wneud taliadau cyflymedig rydych wedi’u talu ac a oes angen i ni gasglu unrhyw dreth weddilliol sy’n ddyledus.

2. Contractwyr

At ddibenion y telerau setlo hyn, mae contractwr yn rhywun sy’n darparu gwasanaethau i gleientiaid nad ydynt yn ymgysylltu ag ef yn uniongyrchol. Efallai ei fod yn darparu ei wasanaethau drwy:

  • cwmni ambarél

  • asiantaeth

  • partneriaeth

  • ei gwmni ei hun

Gellir ystyried bod contractwyr naill ai:

  • yn gyflogedig – bydd ganddynt gontract cyflogaeth, a byddant yn aml yn darparu eu gwasanaethau trwy gyflogwr alltraeth

  • yn hunangyflogedig – bydd ganddynt gontract ar gyfer gwasanaethau, sy’n golygu eu bod yn darparu eu gwasanaethau ar sail hunangyflogedig

Mae rheolau treth gwahanol yn berthnasol i’r gwahanol ddefnydd a wneir o’r cynlluniau. Amlygir y prif wahaniaethau o ran y telerau setlo yn yr arweiniad hwn. Os nad ydych yn siŵr a yw’r cynllun y mae’ch cleient wedi’i ddefnyddio yn golygu ei fod yn cael ei ystyried yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig, anfonwch e-bost at: gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk.

2.1 Telerau setlo’r contractwr

Bydd y setliad ar sail ‘net o ffioedd’. Bydd Treth Incwm yn cael ei chymhwyso ar yr holl fenthyciadau tâl cuddiedig neu’r taliadau a gafwyd gan y cleient. Mae hyn yn golygu na fydd y ffioedd a ddidynnir o’r swm gros gan gyfryngwyr (treuliau’r cynllun) yn cael eu trethu fel rhan o incwm nac elw.

Mae Treth Incwm yn ddyledus ar gyfer blynyddoedd:

  • pan dalwyd benthyciadau tâl cuddiedig, neu pan ddaeth taliadau eraill i law

  • pan fo gan CThEF asesiad ar waith neu pan fo amser o hyd i wneud asesiad (y cyfeirir ato yn yr arweiniad hwn fel ‘rhwymedigaethau sydd wedi’u diogelu’)

Cyfrifir y dreth ar y cyfraddau a’r haenau sy’n gymwys ym mlwyddyn y benthyciad neu’r taliad.

Yn ogystal â’r angen i dalu rhwymedigaethau sydd wedi’u diogelu i ddatrys ymholiadau ac asesiadau agored, a darparu rhyddhad trethiant dwbl, gall contractwr cyflogedig ddewis talu iawndal gwirfoddol am rwymedigaethau heb eu diogelu er mwyn atal taliadau ar dâl cuddiedig yn y dyfodol. Os caiff iawndal gwirfoddol ei gynnwys mewn cytundeb setliad, mae’n cael ei orfodi’n gyfreithiol ynghyd â gweddill y rhwymedigaethau a gynhwysir yn y setliad.

Mae llog am dalu’n hwyr yn ddyledus ar gyfer rhwymedigaethau sydd wedi’u diogelu. Ni fydd llog am dalu’n hwyr yn daladwy ar iawndal gwirfoddol. Codir llog am dalu’n hwyr o’r dyddiad yr oedd y dreth yn ddyledus yn wreiddiol tan ddyddiad disgwyliedig y setliad. Gellir gwneud taliad ar gyfrif o’r dreth sy’n ddyledus er mwyn atal rhagor o log am dalu’n hwyr rhag cronni. Dylech gysylltu â ni os hoffech wneud taliad ar gyfrif.

Gall unrhyw un nad yw’n dymuno setlo rhwymedigaethau sydd wedi’u diogelu ddewis apelio yn erbyn asesiadau neu gasgliadau ymholiadau perthnasol a chymryd camau ymgyfreitha mewn perthynas â’i achos.

Gall Treth Etifeddiant fod yn ddyledus hefyd, yn dibynnu ar natur y cynllun a’r symiau a roddir drwy’r ymddiriedolaeth.

2.2 Cyfraniadau Yswiriant Gwladol — contractwyr cyflogedig

Ni fydd yn rhaid i gontractwyr cyflogedig dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn bersonol, ond gall CThEF fynd ar ôl eu cyflogwr neu barti atebol arall.

2.3 Cyfraniadau Yswiriant Gwladol — contractwyr hunangyflogedig

Bydd angen i gontractwyr hunangyflogedig dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 4, fel y bo’n briodol, ar yr holl fenthyciadau tâl cuddiedig neu daliadau eraill.

Caiff cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 4 eu cyfrifo gan ddefnyddio’r cyfraddau a’r haenau yn y blynyddoedd y gwnaed y benthyciadau.

2.4 Ffioedd y Llys Sirol

Os cyhoeddodd CThEF hawliad Llys Sirol i fynd ar drywydd y rhwymedigaeth o ran cyfraniadau Yswiriant Gwladol a gododd o ganlyniad i gontractwr yn defnyddio cynllun tâl cuddiedig, bydd angen cynnwys y ffi ar gyfer cyhoeddi’r hawliad hwnnw yn swm y setliad.

2.5 Benthyciadau a ddatgenir o dan ddeddfwriaeth buddiannau

Gall y swm sy’n cael ei setlo gael ei ostwng gan unrhyw Dreth Incwm y mae’r contractwr wedi’i thalu oherwydd iddo ddatgan buddiant ar sail cael benthyciad buddiannol (yn Saesneg). Mae’r gostyngiad hwn ar gael dim ond os yw’r flwyddyn dreth honno mewn pryd i gael ei diwygio neu os yw mewn pryd i hawliad am ryddhad gordaliad gael ei wneud. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn hawliad am ryddhad gordaliad (yn Saesneg).

2.6 Setliadau blaenorol

Roedd rhai cynlluniau benthyciadau contractwyr sy’n seiliedig ar gyflogaeth yn gweithredu hyd at 5 Ebrill 2011. Os gwnaeth rhywun setlo’i ddefnydd o’r cynlluniau hyn erbyn 16 Mawrth 2016, nid oes angen iddo dalu unrhyw Dreth Incwm na chyfraniadau Yswiriant Gwladol pellach i gael rhyddhad rhag tâl ar dâl cuddiedig yn y dyfodol. Nid yw hyn yn berthnasol i unrhyw gynllun y bu iddo ofyn i CThEF ei eithrio o’r setliad.

Ar gyfer unrhyw setliad ar ôl 16 Mawrth 2016, neu unrhyw setliad ar gyfer cynllun a weithredwyd ar ôl 5 Ebrill 2011, bydd symiau’r rhyddhad rhag tâl ar dâl cuddiedig yn cael eu cyfyngu i’r rhai a bennir yn y cytundeb setlo.

3. Cyflogwyr

Mae cyflogwr, at ddibenion y telerau setlo hyn, yn rhywun sydd wedi ymrwymo i gynllun tâl cuddiedig er mwyn gwobrwyo ei gyflogeion.

3.1 Telerau setlo’r cyflogwr

Bydd angen i gyflogwr dalu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 sylfaenol ac eilaidd ar y swm a gyfrannwyd i’r cynllun neu, yn dibynnu ar y ffeithiau, y swm a ddyrannwyd o fewn y cynllun. Bydd angen iddo dalu pob rhwymedigaeth lle mae gan CThEF naill ai:

  • dyfarniad TWE neu hawliad cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwarchodol ar waith (fel sy’n briodol)

  • amser i wneud penderfyniad neu gyhoeddi hawliad gwarchodol

Cyfeirir at y rhain fel ‘rhwymedigaethau sydd wedi’u diogelu’.

Mae angen i gontractwr cyflogedig dalu rhwymedigaethau sydd wedi’u diogelu i:

  • datrys asesiadau ac ymholiadau agored

  • darparu rhyddhad trethiant dwbl

Gall ddewis talu iawndal gwirfoddol ar gyfer rhwymedigaethau sydd heb eu diogelu i atal taliadau ar dâl cuddiedig yn y dyfodol.

Os caiff iawndal gwirfoddol ei gynnwys mewn cytundeb setliad, mae’n cael ei orfodi’n gyfreithiol ynghyd â gweddill y rhwymedigaethau a gynhwysir yn y setliad.

Lle telir iawndal gwirfoddol am daliadau tâl cuddiedig a geir gan gyfarwyddwr, gall y cyfarwyddwr ddod yn agored i dâl treth o dan adran 223 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003.

Ni fydd yn rhaid i gyflogwr dalu Treth Incwm na chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar unrhyw gyfraniadau neu ddyraniadau:

  • os yw Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol eisoes wedi’u talu

  • o dan rai amgylchiadau os ydynt wedi cael eu defnyddio i dalu treuliau’r cynllun, er enghraifft, ffioedd ymddiriedolwyr

Gall unrhyw rwymedigaethau sydd wedi’u diogelu ac sydd heb eu setlo fod yn destun ymgyfreitha yn y dyfodol.

Os yw’r weithred ymddiriedolaeth yn caniatáu hynny, a bod y cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd yn cael eu talu i CThEF o’r arian a gyfrannwyd i’r cynllun, bydd CThEF yn trin y cyfraniad i’r cynllun fel enillion ynghyd â chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd ar yr enillion hynny. Bydd hyn yn gostwng swm yr enillion y mae Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn daladwy arnynt.

Caiff Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol eu cyfrifo gan ddefnyddio’r cyfraddau a’r haenau yn ystod y blynyddoedd y cyfrannodd y cyflogwr i’r cynllun neu pan ddyrannwyd y symiau o fewn y cynllun, yn dibynnu ar y ffeithiau.

Bydd angen i gyflogwr dalu llog am dalu’n hwyr ar gyfer unrhyw rwymedigaethau sydd wedi’u diogelu. Codir llog am dalu’n hwyr o’r dyddiad yr oedd y dreth yn ddyledus yn wreiddiol tan ddyddiad disgwyliedig y setliad. Mae hyn yn unol â’r llawlyfr Arweiniad Gweithredol o ran Cydymffurfiad COG908170 a COG915075. Ni fydd llog am dalu’n hwyr yn daladwy ar iawndal gwirfoddol. Gellir gwneud taliad ar gyfrif o’r dreth sy’n ddyledus er mwyn atal llog am dalu’n hwyr rhag cronni.

Lle bo’n briodol, bydd cosbau yn gymwys.

O dan rai amgylchiadau, bydd angen talu Treth Etifeddiant. Bydd hyn yn dibynnu ar natur y cynllun a’r symiau a roddir drwyddo.

Gellir gostwng y swm sy’n ddyledus wrth setlo gan unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol a delir gan y cyflogwr, ac unrhyw Dreth Incwm a delir gan ei gyflogeion ar sail cael benthyciad buddiannol drwy’r cynllun a datgan buddiant (yn Saesneg). Mae’r gostyngiad hwn ar gael dim ond os yw’r flwyddyn dreth y datganwyd y buddiant ynddi mewn pryd i gael ei diwygio neu mewn pryd i ordaliad gael ei hawlio.

Bydd angen i gyflogeion lenwi gorchmynion hefyd, sy’n caniatáu i’w had-daliadau treth gael eu gosod yn erbyn rhwymedigaeth y cyflogwr. Bydd CThEF yn rhoi copi o’r gorchmynion i’r cyflogwr.

Os cafodd cyfraniad i gynllun buddiant tâl cuddiedig cyflogai ei wneud cyn 1 Ebrill 2017 a bod y Ffurflen Dreth Gorfforaeth berthnasol yn agored neu’n gallu cael ei diwygio, bydd cyflogwyr yn gallu hawlio didyniad ar gyfer y cyfraniad, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny.

Mae’r rheolau yn adran 1290 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009, sy’n pennu amseriad y rhyddhad ar gyfer cyfraniadau i gynllun buddiant cyflogai, wedi newid ar gyfer cyfraniadau a wnaed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017. Os cafodd cyfraniad ei wneud ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017, dim ond ar y sail statudol ddiwygiedig y bydd rhyddhad ar gael.

Os yw’r Ffurflen Dreth Gorfforaeth berthnasol yn agored neu’n gallu cael ei diwygio, bydd cyflogwyr yn gallu hawlio didyniad ar gyfer ffi’r hyrwyddwr a dalwyd mewn cysylltiad â defnyddio’r cynllun, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny.

Bydd cyflogwyr yn gallu hawlio didyniad at ddibenion Treth Gorfforaeth, ar gyfer y Dreth Incwm a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol y maent yn eu talu o dan y cytundeb setlo, yn y flwyddyn y gellir rhoi cyfrif am y draul o dan Arfer Cyfrifyddu a dderbynnir yn Gyffredinol, (GAAP), yn amodol ar unrhyw reolau treth sy’n diystyru hynny.

3.2 Caniatáu didyniadau at ddibenion Treth Gorfforaeth ar gyfer cyfraniadau gan gyflogwr i gynllun lle na hawliwyd didyniadau

Yn hanesyddol, mae rhai trefniadau tâl cuddiedig lle na hawliwyd didyniad Treth Gorfforaeth ar gyfer y cyfraniad i’r cynllun pan wnaed y cyfraniad. Mewn rhai achosion, nid oes ymchwiliad agored ar gyfer y flwyddyn berthnasol ac mae’r terfyn amser ar gyfer rhyddhad gordaliad wedi dod i ben. Erbyn hyn, does dim ffordd statudol o hawlio rhyddhad ar gyfer y cyfraniad yn y flwyddyn y gwnaeth y cyflogwr y cyfraniad.

Mewn achosion pan wnaed y cyfraniad i’r cynllun cyn 1 Ebrill 2017, os caiff cam perthnasol o dan Ran 7A o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 ei sbarduno yn y flwyddyn bresennol, a bod y Dreth Incwm a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar y cam perthnasol hwnnw yn cael eu talu, gall CThEF hefyd ganiatáu i’r cyflogwr wneud didyniad ar gyfer Treth Gorfforaeth yn y flwyddyn bresennol ar gyfer y cyfraniad gwreiddiol cyfatebol.

Os cafodd y cyfraniad i’r cynllun ei wneud ar ôl 1 Ebrill 2017, dim ond ar y sail statudol y bydd rhyddhad ar gael.

3.3 Penderfyniadau Rheoliad 80

Mewn rhai achosion, mae CThEF wedi cyhoeddi penderfyniadau Rheoliad 80 (Rheoliadau Treth Incwm (TWE) 2003) i godi treth ar y gyfradd sylfaenol (BR) yn unig ar dâl cuddiedig. Gall hyn fod oherwydd nad oedd gan CThEF ddigon o wybodaeth i allu gwneud penderfyniad arall neu, mewn rhai achosion prin iawn, oherwydd bod cod treth cyfradd sylfaenol wedi’i roi i gyflogai.

Er mwyn atal taliadau ar dâl cuddiedig yn y dyfodol, mae angen talu treth cyfradd sylfaenol ac unrhyw dreth ar y gyfradd uwch. Ni fydd llog am dalu’n hwyr yn daladwy ar swm y dreth a dalwyd ar y gyfradd uwch.

3.4 Adran 222 a 223 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003

Os bydd defnyddio cynllun tâl cuddiedig, neu os bydd setlo rhwymedigaethau o’r cynllun, yn arwain at dâl oherwydd adran 222 neu 223 o’r Ddeddf hon, bydd angen talu hyn hefyd. Ar gyfer y ddau, mae’r tâl treth yn cael ei godi ar y cyflogai, ac nid y cyflogwr.

Mae tâl adran 222 yn codi pan fo’n ofynnol ar y cyflogwr i roi cyfrif am y dreth ar daliad tybiannol, ac nid yw’r cyflogai’n gwneud yn iawn am y dreth cyn pen yr amser a ganiateir. Bydd hyn yn dibynnu ar y flwyddyn dreth y mae’r tâl yn codi ynddi.

Er mwyn i dâl adran 222 fod yn daladwy, mae angen cael ymholiad agored neu asesiad ar gyfer y flwyddyn gynharach berthnasol ar gyfer y cyflogai unigol. Os yw’r flwyddyn berthnasol ar agor, mae CThEF yn disgwyl y rhoddir cyfrif am dreth adran 222 yn setliad y cyflogwr neu drwy ddiwygiad i Ffurflen Dreth bersonol yr unigolyn. Os yw’r flwyddyn honno ar gau, neu os na ellir ei diwygio, nid oes angen talu treth adran 222.

Ni fydd tâl adran 222 yn codi os, cyn pen yr amser a ganiateir ar gyfer gwneud yn iawn (sy’n dibynnu ar y flwyddyn dreth y mae’r tâl yn codi ynddi), mae ymrwymiad y gellir ei orfodi’n gyfreithiol cyn pen yr amser a ganiateir (yn dibynnu ar y flwyddyn dreth y mae’r tâl yn codi ynddi), ar ran yr ymddiriedolwr er mwyn digolledu’r cyflogwr am unrhyw dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus o ganlyniad i’r dyraniad. Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwr neu’r cyflogai roi cyfrif am y dreth a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd wedi’u cynnwys yn y setliad. Mae CThEF yn derbyn bod hyn yn ‘gwneud iawn’ at ddiben adran 222.

Mae adran 223 yn codi pan delir Treth Incwm gan y cyflogwr ac na chaiff ei didynnu oddi ar y cyfarwyddwr cyflogedig. Pan fydd CThEF mewn pryd i gasglu hyn, codir treth o dan adran 223 ar gyfer blynyddoedd sydd wedi’u diogelu ac sydd heb eu diogelu am unrhyw swm nad yw’r cyfarwyddwr wedi gwneud iawn amdano.

Gall cyflogwr ddewis setlo naill ai tâl adran 222 neu dâl adran 223 ar ran y cyflogai. Bydd setlo un neu’r ddau dâl yn arwain at dâl pellach ar Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol y bydd angen ei gynnwys yn swm y setliad hefyd.

3.5 Ffioedd y Llys Sirol

Os cyhoeddodd CThEF hawliad Llys Sirol i fynd ar drywydd y rhwymedigaeth o ran cyfraniadau Yswiriant Gwladol a gododd o ganlyniad i gyflogwr yn defnyddio cynllun tâl cuddiedig, bydd angen cynnwys y ffi ar gyfer cyhoeddi’r hawliad hwnnw yn swm y setliad.

3.6 Setliadau blaenorol

Mae llawer o gyflogwyr wedi setlo eu holl rwymedigaethau o ran Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol, neu ran ohonynt, a gododd o ganlyniad i’w defnydd o gynllun tâl cuddiedig fel rhan o Gyfle Setliad Ymddiriedolaeth Buddiannau’r Cyflogeion (EBTSO), a ddaeth i ben yn 2015. Gwnaeth llawer o gyflogwyr eraill setlo’u holl rwymedigaethau, neu ran ohonynt, cyn 1 Ebrill 2017 i elwa ar ryddhad Rhan 7A ar y twf mewn buddsoddiadau y darperir ar ei gyfer ym Mharagraff 59 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyllid 2011.

Ar yr amod bod telerau talu’r cytundebau hynny’n cael eu bodloni, ni fydd Treth Incwm na chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogedig pellach yn cael eu cynnwys yn y setliadau hynny i dalu ar gyfer cyfraniadau na dyraniadau. Bydd hyn yn golygu na fydd unrhyw dâl Rhan 7A yn berthnasol i fenthyciadau a wnaed o’r cyfraniadau neu’r dyraniadau hynny.

Fodd bynnag, ar gyfer setliadau rhwymedigaethau Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogedig a wnaed ers i’r EBTSO gau, bydd tâl Rhan 7A posibl ar unrhyw dwf ar y cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd a ddelir yn y cynllun. Pan wnaed y setliadau hynny ar ôl 31 Mawrth 2017, bydd tâl posibl ar dâl cuddiedig mewn perthynas ag unrhyw dwf a ddelir yn y cynllun.

Os mai setliad rhannol yn unig oedd dan sylw, gall y cyflogwr ddal i setlo’r rhwymedigaethau sy’n weddill o dan delerau 2020.

4. Cyflogeion

At ddibenion y telerau setlo hyn, cyflogai yw rhywun sydd wedi cael ei dalu drwy gynllun tâl cuddiedig y gwnaeth ei gyflogwr ymrwymo iddo, ac nid yw’n gontractwr. Os nad yw ei gyflogwr eisoes wedi setlo, ac nad yw’n dymuno setlo, gall y cyflogai setlo hebddo ond bydd angen iddo fod yn rhan o’r cytundeb. Ni all trydydd parti, er enghraifft yr ymddiriedolwr, setlo ar ran y cyflogai.

4.1 Telerau setlo’r cyflogai

Bydd yn rhaid i’r cyflogai dalu’r un swm o Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ag y byddai ei gyflogwr wedi’i dalu pe bai’n setlo ar y swm a gyfrannwyd i’r cynllun neu, yn dibynnu ar y ffeithiau, y swm a ddyrannwyd o fewn y cynllun er ei fudd. Os nad yw’r cyflogwr yn bodoli mwyach, ni fydd yn rhaid i’r cyflogai dalu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Bydd yn rhaid talu llog am dalu’n hwyr ar unrhyw rwymedigaethau sydd wedi’u diogelu. Mae hyn yn unol â’r Arweiniad Gweithredol o ran Cydymffurfiad COG908170 a COG915075. Ni chodir llog am dalu’n hwyr pan wneir iawndal gwirfoddol. Gellir gwneud taliad ar gyfrif o’r dreth sy’n ddyledus er mwyn atal llog am dalu’n hwyr rhag cronni.

Lle bo’n briodol, bydd yn rhaid talu cosbau.

Gall Treth Etifeddiant fod yn ddyledus hefyd, yn dibynnu ar natur cynllun y cyflogwr a’r symiau a roddir drwy’r ymddiriedolaeth.

Gall cyflogeion ostwng swm y setliad gan unrhyw Dreth Incwm y maent wedi’i thalu oherwydd iddynt ddatgan buddiant ar sail cael benthyciad buddiannol (yn Saesneg). Mae’r gostyngiad hwn ar gael dim ond os yw’r flwyddyn dreth honno mewn pryd i gael ei diwygio neu os yw mewn pryd i hawliad am ryddhad gordaliad gael ei wneud.

Ni all cyflogeion ostwng swm y setliad gan unrhyw ryddhad Treth Gorfforaeth nac ad-daliad cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y gall eu cyflogwr fod â hawl iddo o ganlyniad iddynt setlo’u rhwymedigaeth.

Mae gwybodaeth am setliadau blaenorol hefyd yn adran 3.6 o’r canllaw hwn.

5. Rhyddhad trethiant dwbl

Gall cynlluniau tâl cuddiedig arwain at fwy nag un rhwymedigaeth o ran Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar yr un incwm sylfaenol. Er enghraifft, gall rhwymedigaeth godi pan fydd y swm yn cael ei gyfrannu i’r cynllun ac eto ar ddyddiad diweddarach pan fydd tâl Rhan 7A yn codi.

Mae Rhan 7A yn cynnwys darpariaethau rhyddhad cynhwysfawr i sicrhau nad oes trethiant dwbl ar yr un swm neu ased ar gyfer incwm o gyflogaeth. Mae Adran 23H o Ddeddf Treth Incwm (Masnachu ac Incwm Arall) 2005 yn cynnwys y darpariaethau i atal trethiant dwbl ar incwm masnachu.

Bydd y rhyddhad trethiant dwbl sydd ar gael mewn setliad yn cael ei gyfrifo yn ôl ffeithiau’r achos.

6. Treth weddilliol

Ar gyfer asesiadau ac ymholiadau agored sy’n ymwneud â benthyciadau sy’n agored i’r tâl ar fenthyciad, byddwn syn ystyried faint o dâl ar fenthyciad sydd wedi’i dalu. Os oes swm ar ôl er mwyn setlo’r ymholiadau a’r asesiadau hyn, mae CThEF yn cyfeirio at y swm hwn fel ‘treth weddilliol’. Mae treth weddilliol yn cynnwys Treth Incwm, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a llog am dalu’n hwyr.

Ni fyddwn yn casglu treth weddilliol unigolyn pan fodlonir yr holl feini prawf canlynol:

  • bod y tâl ar fenthyciad wedi’i dalu neu wedi’i gynnwys o fewn y setliad

  • bod yr incwm blynyddol ar gyfartaledd a ddarperir i’r unigolyn drwy gynllun tâl cuddiedig yn £75,000 neu lai ym mhob blwyddyn dreth

  • nid oes ymgyfreitha wedi’i ddechrau gerbron llys neu dribiwnlys mewn perthynas â’r dreth weddilliol neu’r tâl ar fenthyciad

Pan na chaiff yr amodau hyn eu bodloni, bydd angen talu treth weddilliol i setlo asesiadau ac ymholiadau agored ar gyfer y blynyddoedd y gwnaed y benthyciadau ynddynt.

7. Cosbau

Gall cosbau fod yn berthnasol pan fydd person wedi cyflwyno Ffurflen Dreth sy’n cynnwys anghywirdeb a hynny’n arwain at danddatganiad o rwymedigaeth i dalu treth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol (atodlen 24 o Ddeddf Cyllid 2007). Nid oes cosb yn daladwy os gwnaed yr anghywirdeb er i’r person gymryd gofal rhesymol.

Mae cosbau yn seiliedig ar y swm ychwanegol o dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n daladwy o ganlyniad i gywiro’r anghywirdeb ar y Ffurflen Dreth. Gall cynlluniau tâl cuddiedig arwain at ddefnyddwyr yn cyflwyno mwy nag un Ffurflen Dreth anghywir sy’n cynnwys tanddatganiad o dreth ar yr un incwm neu enillion.

Os oes mwy nag un Ffurflen Dreth anghywir a rhwymedigaeth treth yn ymwneud â’r un person ac enillion, a bod y rheolau rhyddhad trethiant dwbl cynhwysfawr yn Rhan 7A yn gymwys, bydd CThEF yn codi un gosb am anghywirdeb yn unig.

Bydd CThEF yn dilyn yr un dull os yw’r gosb yn daladwy o dan adran 98A(4) neu adran 95 o Ddeddf Rheoli Trethi 1970, lle mae trethdalwr wedi bod yn esgeulus neu’n dwyllodrus wrth gyflwyno Ffurflen Dreth a oedd fod i gael ei chyflwyno cyn 1 Ebrill 2009.

Mae’r ddeddfwriaeth ar gosbau am ddefnyddio cynlluniau arbed treth wedi’i diweddaru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn llawlyfr cydymffurfio CThEF (yn Saesneg).

8. Treth Etifeddiant

Mae llawer o gynlluniau tâl cuddiedig yn defnyddio ymddiriedolaeth fel y trydydd parti, ac felly gall taliadau Treth Etifeddiant godi.

Gall tâl Treth Etifeddiant godi pan fo taliad, neu warediad, yn arwain at golli gwerth i ymddiriedolaeth. Mae hyn yn cynnwys taliadau neu ddosbarthiadau llwyr i fuddiolwyr, ac achlysuron pan nad yw eiddo setledig bellach yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth sy’n cydymffurfio ag adran 86 o Ddeddf Treth Etifeddiant 1984.

Mae hefyd yn cynnwys achosion lle mae benthyciad yn cael ei ryddhau ac, mewn rhai amgylchiadau, lle gwneir benthyciad, yn ogystal ag achlysuron eraill pan godir tâl lle gwneir taliadau a dosbarthiadau i gyfranogwyr a setlwyr.

Efallai y bydd taliadau Treth Etifeddiant yn cael rhyddhad os yw’r taliad gan yr ymddiriedolaeth sy’n arwain at y tâl hefyd yn cael ei drin fel incwm. Felly, os yw arian sy’n gadael yr ymddiriedolaeth neu sy’n symud i is-ymddiriedolaeth hefyd yn cael ei drin fel incwm ar yr un pryd, efallai y bydd rhyddhad yn erbyn y tâl Treth Etifeddiant yn ddyledus.

Fodd bynnag, bydd angen talu unrhyw dâl Treth Etifeddiant os nad yw arian sy’n gadael ymddiriedolaeth yn incwm ar yr un pryd. Er enghraifft, gall taliadau godi o dan adran 72 o Ddeddf Treth Etifeddiant 1984 os caiff cyfraniad i ymddiriedolaeth ei drethu fel enillion ar yr adeg honno a bod eich cleient wedi trosglwyddo arian i is-ymddiriedolaeth fwy na 3 mis ar ôl y dyddiad hwnnw.

Nid oes unrhyw ryddhad o dan adran 70(3) o Ddeddf Treth Etifeddiant 1984 gan nad yw’r arian a drosglwyddwyd, ar yr ail ddyddiad hwnnw, yn incwm ac ni fydd yn dod yn incwm at ddibenion rhyddhad Treth Etifeddiant ychwaith.

Gall taliadau pellach godi o dan adran 64 o Ddeddf Treth Etifeddiant 1984 lle mae symiau wedi’u dal mewn strwythur ymddiriedolaeth nad yw’n cydymffurfio ag adran 86 o Ddeddf Treth Etifeddiant 1984 am fwy na 10 mlynedd. Cyfrifir y dreth hon ar werth yr asedion a ddelir yn yr ymddiriedolaeth ar 10fed pen-blwydd y setliad. Bydd angen i’ch cleient gytuno ar werth yr asedion a’r dreth sy’n ddyledus gyda CThEF, gan fod yn rhaid cynnwys hyn yn swm unrhyw setliad.

Os yw’ch cleient yn bwriadu diddymu ei strwythur yn syth ar ôl setlo gyda CThEF, mae CThEF yn hapus i gyfrifo taliadau ymadael ar gyfer Treth Etifeddiant. Bydd y rhain yn cael eu cyfrifo ar sail gwerth yr asedion sy’n gadael yr ymddiriedolaeth, a bydd angen i CThEF gytuno ar y gwerth hwnnw os yw’ch cleient eisiau cynnwys y trethi o ddirwyn yr ymddiriedolaeth i ben fel rhan o swm y setliad.

O dan rai amgylchiadau, gall fod taliadau ‘mynediad’ ar gyfer Treth Etifeddiant ar gyfranogwyr cwmnïau caeedig pan fydd y cwmni’n trosglwyddo gwerth, fel arfer pan wneir taliad i ymddiriedolaeth.

Rhaid i rwymedigaethau Treth Etifeddiant, sy’n dod yn ddyledus ar y dyddiad y bydd eich cleient yn setlo gyda CThEF, gael eu talu fel rhan o swm y setliad.

9. Llog sydd wedi cronni

Mae llawer o gynlluniau tâl cuddiedig yn cynnwys benthyciad i’r cyflogai gan drydydd parti. Mae rhai o’r benthyciadau hyn yn dwyn llog ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sy’n benthyg (y cyflogai) dalu llog i’r sawl sy’n rhoi benthyg, yr ymddiriedolwr. Yn aml, ni chaiff y llog hwn ei dalu ac mae naill ai’n cronni neu’n cael ei ychwanegu at falans y benthyciad (wedi’i gyfalafu).

Pan fydd cynllun tâl cuddiedig yn cael ei gau, gall yr ymddiriedolwr ryddhau neu ddileu balans y benthyciad sy’n weddill. Bydd hyn yn arwain at dâl Rhan 7A ar y llog sydd wedi cronni ac sydd wedi’i gyfalafu, p’un a yw hyn wedi’i dalu ai peidio.

Fel rhan o’r telerau setlo hyn, bydd CThEF yn caniatáu rhyddhad yn erbyn y tâl Rhan 7A a fyddai fel arall yn codi mewn cysylltiad â llog sydd wedi cronni. Mae hyn ond yn berthnasol lle mae’r ymddiriedolaeth wedi cau, neu wedi ei diddymu, fel rhan o’r setliad.

Mae Treth Etifeddiant yn gymwys i gyfalaf yn yr ymddiriedolaeth, ond yn gyffredinol caiff ei dileu pan fydd tâl Treth Incwm yn codi ar yr un trafodyn. Mae rhai sefyllfaoedd lle gall yr ymddiriedolwyr ryddhau neu ddileu dyled, gan arwain at Dreth Etifeddiant er bod tâl Treth Incwm yn ddyledus. Yn absenoldeb tâl Treth Incwm, mae Treth Etifeddiant yn ddyledus.

Fel rhan o’r telerau setlo hyn, ni thelir Treth Etifeddiant ar log sydd wedi cronni. Mae hyn yn berthnasol dim ond pan fydd yr ymddiriedolaeth wedi cau neu wedi ei diddymu fel rhan o’r setliad. Mae hyn yn amodol ar dalu, fel rhan o’r setliad, yr holl rwymedigaethau Treth Etifeddiant eraill sydd eisoes yn ddyledus, neu a fydd yn codi wrth gau neu ddiddymu’r ymddiriedolaeth.

Mae’r driniaeth hon o Ran 7A a Threth Etifeddiant yn berthnasol i log ar fenthyciadau a wneir i gyflogeion neu gontractwyr. Gall hefyd fod yn berthnasol i log ar fenthyciadau a wneir i’r cwmni sy’n cyflogi, os nad yw’r llog wedi’i dalu ac os na ofynnwyd am ddidyniad treth ar gyfer y llog.

Pan fydd arian a ychwanegir at ymddiriedolaeth wedi’i fuddsoddi mewn unrhyw ffordd arall, bydd unrhyw dwf mewn buddsoddiadau yn agored i dâl Rhan 7A a Threth Etifeddiant fel rhan o’r setliad neu pan fydd yr arian yn cael ei ddosbarthu o’r ymddiriedolaeth.

10. Llog am dalu’n hwyr

Bydd llog am dalu’n hwyr yn gymwys o’r dyddiad yr oedd y dreth yn ddyledus tan ddyddiad disgwyliedig y setliad. Gellir gwneud taliad ar gyfrif er mwyn osgoi llog sydd wedi cronni.

11. Taliadau cyfalaf a buddiannau

Mae’r adran hon yn ymwneud â thaliadau cyfalaf a buddiannau a gafwyd gan fuddiolwyr lle mae incwm buddsoddi wedi codi o fewn yr ymddiriedolaeth.

Os yw’ch cleient yn cael taliad cyfalaf gan yr ymddiriedolaeth a bod incwm perthnasol heb ei baru, gall y taliad cyfalaf fod yn agored i Dreth Incwm o dan adran 731 o Ddeddf Treth Incwm 2007 i’r graddau y gellir ei baru â’r incwm perthnasol.

Ar gyfer y rhan fwyaf o drefniadau tâl cuddiedig, ni fydd unrhyw dwf cyfalaf yn agored i Dreth Enillion Cyfalaf. Fodd bynnag, lle gellir paru’r dosbarthiad cyfalaf yn erbyn incwm perthnasol o fewn y strwythur, efallai y bydd rhwymedigaeth Treth Incwm o dan adran 731 ar y dosbarthiad.

Lle nad oes unrhyw dwf ar y cyfraniad gwreiddiol i’r cynllun, neu os yw’r twf yn gyfyngedig i log sydd wedi cronni ar fenthyciadau i gyflogeion, ni fydd rhwymedigaeth Treth Incwm o dan adran 731.

Os cyrhaeddir setliad ar y sail bod cam perthnasol o dan Ran 7A wedi digwydd ar ôl 5 Ebrill 2011, a bod ei werth yn cynnwys incwm ac enillion yr ymddiriedolaeth, bydd y rhain yn cael eu trethu fel rhan o’r tâl ar dâl cuddiedig.

12. Iawndal gwirfoddol

Mae iawndal gwirfoddol yn daliad o rwymedigaeth sydd wedi codi, ac nid oes gan CThEF y canlynol ar ei gyfer:

  • asesiad ar waith, penderfyniad TWE neu hawliad cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwarchodol ar waith (fel sy’n briodol)

  • amser i wneud asesiad, penderfyniad neu gyhoeddi hawliad gwarchodol

Gellir cynnwys iawndal gwirfoddol am rwymedigaethau sydd heb eu diogelu mewn cytundeb setlo fel y bydd rhyddhad trethiant dwbl ar gael i’w osod yn erbyn unrhyw daliadau Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y dyfodol.

Pan fo mwy nag un tâl Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn codi ar yr un incwm sylfaenol, a bod un o’r taliadau hynny wedi’i ddiogelu neu un yr ydym mewn pryd i’w ddiogelu, bydd angen talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn llawn.

Bydd rhyddhad trethiant dwbl ar gael i sicrhau na thelir treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ddwywaith ar yr un incwm.

13. Trefniadau rhandaliadau

Bydd CThEF yn cytuno ar drefniadau rhandaliadau gyda’r unigolion hynny sydd heb asedion y gellir eu gwaredu/gwario ond sydd ag incwm sy’n llai na £50,000 yn y flwyddyn dreth gyflawn ddiwethaf y mae gwybodaeth ar gael ar ei chyfer, a hynny heb angen i’r unigolion ddarparu gwybodaeth am incwm a gwariant. Bydd trefniadau’n cael eu cytuno am o leiaf 5 mlynedd i unigolion sydd ag incwm sy’n llai na £50,000 yn y flwyddyn dreth gyflawn ddiwethaf y mae gwybodaeth ar gael ar ei chyfer, ac am o leiaf 7 mlynedd i unigolion sy’n ennill llai na £30,000 yn y flwyddyn dreth gyflawn ddiwethaf y mae gwybodaeth ar gael ar ei chyfer.

Ar gyfer y rhai sy’n ennill mwy na £50,000 neu sydd angen mwy na’r tymor lleiaf i dalu, yna byddwn yn gofyn am wybodaeth am incwm a gwariant, er mwyn i ni allu trefnu cynllun talu am y cyfnod cywir.

Ni fydd y rheiny sydd angen trefniadau rhandaliadau yn talu mwy na 50% o’u hincwm gwario, oni bai bod ganddynt lefel uchel iawn o incwm gwario. Bydd y swm y bydd rhywun yn ei dalu i mewn i drefniant bob mis yn dibynnu ar ei amgylchiadau unigol ei hun. Nid oes terfyn amser ar gyfer trefniadau rhandaliadau ond bydd llog yn cael ei ychwanegu ar gyfer cyfnod y trefniant.

Gellir cynnwys trefniadau rhandaliadau i dalu’r tâl ar fenthyciad y cytunwyd arnynt eisoes mewn cytundeb setliad. Gellir trafod hyn yn ystod trafodaethau setlo.

Gweler rhagor o wybodaeth am drefniant amser i dalu.

14. Setliadau a’r tâl ar fenthyciad

Gall y tâl ar fenthyciad fod yn berthnasol os oes gan eich cleient fenthyciadau tâl cuddiedig, heb eu had-dalu, a wnaed rhwng a chan gynnwys 9 Rhagfyr 2010 a 5 Ebrill 2019. Os yw’n berthnasol, gellir ystyried y tâl ar fenthyciad fel rhan o sefyllfa’r setliad terfynol. Byddwn yn ystyried swm y tâl ar fenthyciad a delir er mwyn penderfynu ar y rhyddhad trethiant dwbl sydd ar gael.

14.1 Dewis rhannu dros 3 blwyddyn

Pe bai unigolyn yn gwneud dewis dilys i rannu balans ei fenthyciad sydd heb ei ad-dalu (yn Saesneg) yn gyfartal ar draws 3 blwyddyn dreth (2018 i 2019, 2019 i 2020 a 2020 i 2021), gall gynnwys y trefniant hwn yn ei setliad.

Mae’r ffordd y mae dewis rhannu dros 3 blwyddyn ddilys yn cael ei ystyried yn dibynnu ar p’un a gafwyd y benthyciadau tâl cuddiedig drwy gynllun sy’n seiliedig ar gyflogaeth neu gynllun sy’n seiliedig ar fasnach. Ar gyfer cynlluniau sy’n seiliedig ar gyflogaeth yn ogystal â chynlluniau sy’n seiliedig ar fasnach, bydd symiau tâl ar fenthyciad a dalwyd yn cael eu cynnwys mewn setliad, a rhoddir rhyddhad trethiant dwbl.

14.2 Adran 222 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 — rhyngweithio â’r tâl ar fenthyciad

Gellir codi tâl adran 222 ar y tâl ar fenthyciad pan fo’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • mae unigolyn wedi defnyddio cynllun sy’n seiliedig ar gyflogaeth
  • roedd angen i’w gyflogwr roi cyfrif am y dreth o dan TWE ar yr incwm o’r tâl ar fenthyciad
  • ni wnaeth yr unigolyn, fel cyflogai, ‘yn iawn’ am y dreth cyn pen yr amser a ganiateir

Ni fyddwn yn casglu unrhyw dâl adran 222 ar yr incwm o’r tâl ar fenthyciad lle mae’r unigolyn yn setlo o dan y telerau canlynol ac os caiff yr holl amodau eu bodloni:

  • mae’r tâl ar fenthyciad yn codi ar swm sy’n destun rhwymedigaeth Treth Incwm gynharach, ac ni wnaeth y rhwymedigaeth gynharach honno arwain hefyd at dâl adran 222
  • mae’r tâl ar fenthyciad wedi’i dalu neu wedi’i gynnwys o fewn y setliad gan gyflogai unigol
  • mae’r incwm blynyddol ar gyfartaledd a ddarperir i’r unigolyn drwy gynllun tâl cuddiedig yn £75,000 neu lai ym mhob blwyddyn dreth
  • ni ddechreuwyd ymgyfreitha gerbron llys neu dribiwnlys mewn perthynas â’r dreth weddilliol neu’r tâl ar fenthyciad

Pan na chaiff yr amodau hyn eu bodloni, neu os bydd cyflogwr yn setlo o dan yr amodau hyn, bydd yn rhaid talu unrhyw dâl adran 222 ar y tâl ar fenthyciad.

15. Argaeledd y telerau hyn

Mae CThEF yn cadw’r hawl i ddiwygio neu dynnu’r telerau hyn yn ôl ar unrhyw adeg, gan gynnwys adlewyrchu unrhyw gynseiliau mewn cyfraith achosion, neu newidiadau yn y gyfraith.

16. Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni dros y ffôn: 0300 200 1900 – ar gyfer cynlluniau benthyciadau contractwyr.

Ar gyfer holl ddefnyddwyr eraill y cynllun tâl cuddiedig, siaradwch â’ch cyswllt arferol yn CThEF neu e-bostiwch: gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk.