Cod Ymarfer Amddifadu o Ryddid
Mae’r Cod Ymarfer Amddifadu o Ryddid yn rhoi’r fframwaith cyfreithiol a’r trefniadau diogelu ar gyfer amddiffyn unigolion a allai gael eu hamddifadu o’u rhyddid o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r Cod Ymarfer Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yn rhan o fframwaith Deddf Galluedd Meddyliol 2005 ac mae’n rhoi canllawiau manwl ar sut dylid rhoi’r trefniadau diogelu ar waith yn ymarferol. Fe’i bwriedir ar gyfer gweithwyr proffesiynol a sefydliadau sy’n gyfrifol am ofal a thriniaeth unigolion a allai fod heb y galluedd i gydsynio i’w trefniadau gofal. Mae’r Cod yn egluro’r amgylchiadau lle gallai amddifadu o ryddid ddigwydd, y meini prawf cyfreithiol ar gyfer awdurdodi, a rolau a chyfrifoldebau awdurdodau rheoli, cyrff goruchwylio, a phartïon allweddol eraill sy’n ymwneud â’r broses. Mae hefyd yn amlinellu hawliau unigolion sy’n destun Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid, gan gynnwys eu hawliau i gael eu cynrychioli, i adolygu ac i herio drwy’r Llys Gwarchod.
Drwy nodi gweithdrefnau ac egwyddorion clir, mae’r Cod yn cefnogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i sicrhau bod unrhyw amddifadu o ryddid yn gyfreithlon, yn gymesur ac er lles pennaf yr unigolyn. Mae hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd diogelu unigolion agored i niwed a chynnal eu hawliau dynol.