Adroddiad corfforaethol

Crynodeb Amddiffyn mewn Oes Gystadleuol

Diweddarwyd 30 July 2021

Bydd yr Adolygiad Integredig yn pennu’r llwybr ar gyfer maes Amddiffyn wedi’i foderneiddio, sy’n canolbwyntio ar fygythiadau ac sy’n gynaliadwy.

Cyfrifoldeb cyntaf y Llywodraeth yw amddiffyn ei dinasyddion ac mewn byd sy’n newid, rhaid i’r maes Amddiffyn gadw ar y blaen i’r bygythiadau sy’n datblygu i’n pobl, ein buddiannau a’n cynghreiriaid. Mewn cyfnod o her fyd-eang na welwyd ei debyg o’r blaen, mae’r Adolygiad Integredig (IR) yn nodi’r weledigaeth ar gyfer Prydain Fyd-eang mewn oes sy’n fwy cystadleuol, drwy integreiddio polisïau tramor, diogelwch, amddiffyn a datblygu. Drwy hyn, byddwn yn barod, fel un Deyrnas Unedig, i fynd i’r afael â bygythiadau yn yr unfed ganrif ar hugain a manteisio ar gyfleoedd byd-eang. Mae’r Deyrnas Unedig yn genedl sy’n datrys problemau ac yn rhannu baich, yn arweinydd byd-eang sy’n siapio trefn ryngwladol y dyfodol, yn cynnal ein mantais strategol drwy wyddoniaeth a thechnoleg, ac yn cryfhau diogelwch gartref a thramor. Mae amddiffyn yn ganolog i’r dull integredig o gyflawni’r weledigaeth hon o Undeb cryfach, mwy ffyniannus a chadarn, gan greu sylfeini newydd ar gyfer ein ffyniant ac addasu i fyd mwy cystadleuol.

Mae’r DU a’n cynghreiriaid yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth gyson a byd-eang nad yw’n parchu ffiniau na’r gwerthoedd rydym wedi’u cynnal dros y 70 mlynedd diwethaf. Bydd ein gwrthwynebwyr yn defnyddio unrhyw ffordd, a phob ffordd, i gyflawni eu hamcanion ac i danseilio ein buddiannau a’n gwerthoedd cyffredin.  Daw’r bygythiadau hyn mewn sawl ffurf: terfysgaeth, troseddau difrifol a chyfundrefnol, ymosodiadau seiber, rhyfeloedd procsi, twf ac ehangiad milwrol. Nid oes gwahaniaeth syml rhwng rhyfel a heddwch bellach. Mae ein gwrthwynebwyr yn anwybyddu normau cyfraith ryngwladol i gymylu’r ffiniau rhwng gwrthdaro a heddwch, a’i gwneud yn fwyfwy anodd gwahaniaethu rhwng ymladd a pheidio ag ymladd. Maen nhw’n defnyddio ein rhyddid ein hunain yn ein herbyn yn rheolaidd, drwy dwyllwybodaeth, gorfodaeth economaidd, busnesu etholiadol a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i greu rhaniadau. Yn y byd modern, mae’r gystadleuaeth yn ddidrugaredd, yn esblygu’n gyson ac wedi’i chuddio’n aml. Fel cenedl gyfrifol sydd â buddiannau byd-eang, rhaid i ni gamu ymlaen i chwarae ein rhan yn y byd hwn sy’n gynyddol gystadleuol ac ansefydlog.

Os methwn â mynd i’r afael â’r bygythiadau dwys hyn, mae perygl inni baratoi ar gyfer brwydrau ddoe yn hytrach na bod yn barod i drechu bygythiadau yfory. Os methwn â moderneiddio, mae perygl o amherthnasedd ac ansicrwydd. Bydd ein Lluoedd Arfog yn edrych yn wahanol oherwydd mae’n rhaid iddynt weithredu’n wahanol.

Mae’r cynnydd o £24 biliwn mewn gwariant ar y maes Amddiffyn yn ystod y llywodraeth hon yn gydnabyddiaeth o’r bygythiadau hyn a’r angen i foderneiddio ein Lluoedd Arfog yn gyflym, er mwyn iddynt allu parhau i sicrhau diogelwch, cadernid ac uchelgeisiau Prydain Fyd-eang. Bydd yn galluogi buddsoddiad yng ngalluoedd y genhedlaeth nesaf, yn cefnogi gweithlu mwy hyblyg a hylaw sy’n gallu gwarchod buddiannau’r DU yn fyd-eang, yn parhau i gryfhau cydweithrediad â’n cynghreiriaid ar ddiogelwch a gwybodaeth, wedi’i ategu gan gynghrair NATO a’n perthynas barhaus â’r Unol Daleithiau a phartneriaid 5 Eyes eraill. Yn hollbwysig, byddwn yn blaenoriaethu ac yn cyflymu mwy na £6.6 biliwn o ymchwil, datblygu ac arbrofi er mwyn i’n Lluoedd Arfog allu addasu i’r bygythiad gyda thechnoleg ddatblygedig, i gystadlu’n effeithiol, a brwydro’n benderfynol pan fo angen. 

Er mwyn cadw’r DU yn ddiogel yn y byd hwn sy’n newid, bydd y maes Amddiffyn yn fwy gweithgar ac yn ymgysylltu’n fyd-eang; gan weithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â’r heriau rydym yn eu hwynebu a diogelu’r buddiannau rydym yn eu rhannu. Rhaid i ni ganolbwyntio ar gyflymder, gan weithredu o dan drothwy rhyfel i atal gwrthdaro a datblygu gwytnwch, yn hytrach nag aros i ymateb i’w chanlyniadau. Gyda chydweithredu rhyngwladol a thechnoleg newydd yn ganolog i’n dull gweithredu, byddwn yn fwy gweladwy ledled y byd; yn chwarae mwy o ran wrth fynd i’r afael â bygythiadau, yn cefnogi ein partneriaid a hyrwyddo buddiannau’r DU; ac yn fwy craff o ran sut rydym yn defnyddio mesurau cyfathrebu a gwybodaeth i atal ein gelynion.

Rhaid gwneud hyn ar y cyd â’n cynghreiriaid a’n ffrindiau. Byddwn yn cyflawni mwy drwy gydweithredu a gwaith tîm nag y gallem byth ei wneud ar ein pen ein hunain, ac fel y gwariwr Ewropeaidd mwyaf yn NATO ac sy’n gyfrannwr mawr ar draws y pum parth, mae gennym gyfrifoldeb i sbarduno cynnydd a helpu’r Gynghrair yn ei chyfanrwydd i aros ar y blaen i’w chystadleuwyr.

Mae’r newid strategol hwn yn cael ei arwain gan ein Cysyniad Gweithredu Integredig newydd, y newid mwyaf sylweddol ym meddylfryd y maes Amddiffyn am genhedlaeth. Yn y gorffennol, rydym wedi trefnu Lluoedd Arfog y DU i frwydro mewn rhyfeloedd a’u haddasu i wneud popeth arall. Mae’r Cysyniad hwn yn cydnabod bod ein cystadleuwyr yn ceisio ennill heb orfod mynd i ryfel, felly byddwn yn cael ein strwythuro i gystadlu a’u trechu – gan barhau i allu ymaddasu i frwydro mewn rhyfel pan fo angen; yn fwy rhagweithiol, ar y blaen, yn gyson bresennol, ac wedi integreiddio gyda chynghreiriaid a phartneriaid i fynd ar drywydd ein hamcanion polisi tramor a llunio amodau ar gyfer sefydlogrwydd. Dim ond un enghraifft yw’r Grŵp Cludwyr Ymosod a aeth i’r Indo-Pasiffig eleni, o’r ymdrech mwy hyderus, dan arweinyddiaeth y DU, hynod dechnolegol a oedd mewn partneriaeth ryngwladol, i gryfhau ein cynghreiriau a’n buddiannau cenedlaethol mewn rhanbarth sy’n hanfodol i ffyniant a heddwch byd-eang.

Wrth i ni foderneiddio i fynd i’r afael â’r bygythiadau sy’n ein hwynebu, nawr ac yn y dyfodol, rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd a manteisio ar gyfleoedd technolegau a ffyrdd newydd o weithio. Bydd hyn yn arwain at newidiadau i’n pobl wrth i ni geisio gwneud y maes Amddiffyn yn un o’r lleoedd mwyaf cyffrous, addysgol, amrywiol a llawn boddhad i weithio ynddo. Dydyn ni ddim yn cefnu ar ein lluoedd confensiynol. Yn wir, rydym yn buddsoddi llawer mewn adeiladu llongau, cyrchoedd awyr, systemau tir, a’r gallu i’w cael i ble bynnag y mae angen iddynt fynd pan fydd angen iddynt fod yno. Byddwn yn cynyddu’r gallu i ymyrryd yn gyflym os yw ein buddiannau dan fygythiad, ac mae ein hymrwymiad i NATO - gan gynnwys i amddiffyn ar y cyd o dan Erthygl 5 - yn gadarn. Y pŵer grymus hwn sy’n sail i’n diogelwch ar y cyd.

Bydd y maes Amddiffyn yn cynnal ac yn datblygu arf niwclear ataliol annibynnol y DU i wrthsefyll y bygythiadau mwyaf eithafol i’n diogelwch cenedlaethol a’n ffordd o fyw, gan helpu i sicrhau ein diogelwch ni a diogelwch ein cynghreiriaid. Mae ataliaeth niwclear annibynnol, gredadwy, sylfaenol er mwyn cadw heddwch, atal gorfodaeth, rhwystro ymosodedd ac wedi’i neilltuo i amddiffyn NATO, yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch y DU a’n cynghreiriaid.

Mae Amddiffyn yn rhan annatod o gadernid ac adferiad y wlad yn sgil y pandemig presennol, gan gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, a darparu sgiliau, swyddi a ffyniant ar draws y DU: gan sicrhau 400,000 o swyddi, buddsoddi dros £20 biliwn yn niwydiant y DU bob blwyddyn, a chyfle cynyddol ar draws pedair gwlad yr Undeb. O’r gofod busnes i faes y gad, byddwn yn defnyddio sylfaen academaidd a diwydiannol o safon fyd-eang y DU, gan gydweithio â phartneriaid i ffurfio syniadau byd-eang a meithrin ffyniant ein gilydd. Bydd Strategaeth Ddiwydiannol newydd ar gyfer Amddiffyn a Diogelwch yn sbarduno partneriaeth fwy cynhyrchiol rhwng y llywodraeth a busnesau: gan ddarparu galluoedd o’r radd flaenaf, sicrhau gwerth am arian trethdalwyr, cryfhau ein cydnerthedd cenedlaethol, cefnogi swyddi sgiliau uchel a hyrwyddo allforion y DU. Ochr yn ochr â hynny, byddwn yn cyfrannu at amcanion hinsawdd y llywodraeth, gan roi strategaeth cynaliadwyedd uchelgeisiol ar waith i helpu i gyrraedd Sero Net erbyn 2050, wrth sicrhau bod ein gwlad yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Mae pobl yn ganolog i’n cynlluniau moderneiddio, gan ddarparu’r gweithlu eithriadol ar gyfer gweithrediadau milwrol sy’n fwyfwy arbenigol, ond yr un mor gorfforol. Byddwn yn buddsoddi yn y personél hynny – ein cyfalaf dynol – o brentisiaethau i’r offer digidol diweddaraf, gan eu harfogi â’r sgiliau, y ffyrdd o weithio, y manteision a’r dechnoleg ddiweddaraf i greu gweithlu modern sy’n cynrychioli goreuon y gymdeithas y mae’n ei gwasanaethu. Bydd y gweithlu hwn yn llai, ond yn fwy arbenigol a medrus, ac yn canolbwyntio ar y tasgau sy’n unigryw ac yn cael eu gwerthfawrogi fwyaf gan ein Lluoedd Arfog. Bydd defnyddio mwy ar ein Milwyr Wrth Gefn a thrawsnewid mwy hyblyg rhwng gweithluoedd milwrol a sifil yn sicrhau cyfraniad yr holl sgiliau a’r bobl hynny sydd eu hangen i amddiffyn y wlad a chyfrannu at gymdeithas.

Mae’r Adolygiad Integredig yn gyfle unigryw i foderneiddio ein Lluoedd Arfog, sy’n addas ar gyfer bygythiadau oes sy’n fwy cystadleuol a chyfleoedd Prydain Fyd-eang.