Guidance

Gwasanaeth diweddaru’r DBS: canllaw i ymgeiswyr

Updated 6 January 2026

Ynglŷn â’r Gwasanaeth Diweddaru DBS

Mae tanysgrifiad i’r Gwasanaeth Diweddaru yn costio £16 y flwyddyn, mae’n rhad ac am ddim os ydych chi’n wirfoddolwr.

Mae’r Gwasanaeth Diweddaru yn caniatáu i chi:

  • cadw’ch tystysgrif DBS yn gyfredol

  • mynd â’ch tystysgrif DBS o rôl i rôl – rhaid i’r rolau fod yn yr un gweithlu a’r un lefel o wiriad DBS

  • ychwanegu tystysgrifau DBS lluosog at eich cyfrif

  • gweld pa sefydliadau sy’n defnyddio’r gwasanaeth i wirio statws eich tystysgrif DBS

Mae’n caniatáu i’ch cyflogwr:

  • gwirio statws eich tystysgrif DBS yn gyflym ar-lein, gyda’ch caniatâd

Ar gyfer gwiriadau DBS safonol a manylach yn unig y mae’r Gwasanaeth Diweddaru. Ni allwch danysgrifio gyda gwiriad DBS sylfaenol

I ddefnyddio’r Gwasanaeth Diweddaru mae angen eich tystysgrif DBS arnoch.

Dylech gadw’ch tystysgrif DBS i’w dangos i gyflogwyr yn y dyfodol. Rhaid iddynt ei gweld cyn y gallant ddechrau gwirio statws eich tystysgrif gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Diweddaru. Nid oes angen iddynt weld eich tystysgrif bob tro y maent yn gwirio’ch statws. 

Dysgwch ragor drwy wylio ein fideo Gwasanaeth Diweddaru ar Youtube.

Ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru

Gallwch ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru yn ystod eich cais am wiriad DBS, neu ar ôl i’ch tystysgrif gwiriad DBS gael ei chyhoeddi. 

Gwnewch yn siŵr mai’r cyfeiriad e-bost rydych chi’n ei ddefnyddio ar gyfer eich tanysgrifiad yw eich cyfeiriad e-bost personol.

Ymuno ar ôl i’ch tystysgrif gael ei chyhoeddi

Gallwch ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru ar ôl i’ch gwiriad DBS gael ei gwblhau gan ddefnyddio rhif eich tystysgrif DBS.

Rhaid i chi ymuno o fewn 30 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi eich tystysgrif.

Os na fyddwch chi’n ymuno o fewn 30 diwrnod, bydd angen i chi gael gwiriad DBS newydd trwy’r sefydliad rydych chi’n gweithio iddo er mwyn gallu ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru.

Ymuno yn ystod eich cais

Bydd angen cyfeirnod eich ffurflen gais DBS arnoch chi. Gallwch gael hwn o naill ai:

  • tudalen flaen y ffurflen gais bapur

  • gofyn i’r person a gyflwynodd eich cais amdano

  • ein ffonio ni ar 03000 200 190 - os ydym wedi derbyn eich ffurflen gais

Os gwnaethoch gais am wiriad DBS trwy Gorff Cofrestredig e-swmp, gallwch ddefnyddio eich e-gyfeirnod. Bydd y Corff Cofrestredig yn gallu rhoi hwn i chi.

Rhaid i ni dderbyn eich cais am wiriad DBS o fewn 28 diwrnod i chi ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru. Pan fydd eich tystysgrif DBS yn cael ei chyhoeddi, byddwn yn ei hychwanegu’n awtomatig at eich cyfrif Gwasanaeth Diweddaru.

Os caiff eich cais am wiriad DBS ei dynnu’n ôl, byddwn yn canslo ac yn ad-dalu eich tanysgrifiad i’r Gwasanaeth Diweddaru o fewn 31 diwrnod.

Ymgeiswyr trawsryweddol

Os ydych chi’n drawsryweddol ac wedi defnyddio’r llwybr ceisiadau sensitif ar gyfer eich gwiriad DBS, ni fydd eich rhyw a’ch hunaniaeth flaenorol yn cael eu dangos i eraill os ymunwch â’r Gwasanaeth Diweddaru.

Gallwch gysylltu â’r tîm ceisiadau sensitif os oes angen cyngor arnoch drwy ffonio 0300 131 2784 neu anfon e-bost at sensitive@dbs.gov.uk.

Talu am eich tanysgrifiad

Mae’r tanysgrifiad yn dechrau o’r dyddiad y cyhoeddwyd eich tystysgrif DBS. Dim ond taliad trwy gerdyn debyd neu gredyd yr ydym yn ei dderbyn.

Talu gyda cherdyn rhywun arall

Gallwch ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd rhywun arall gyda’u caniatâd.

Os dewiswch yr opsiwn ‘adnewyddu awtomatig’, byddwn yn ceisio cymryd taliadau yn y dyfodol o fanylion y cerdyn a arbedwyd i’ch tanysgrifiad.

Os ydych chi’n talu gyda cherdyn rhywun arall ac os oes unrhyw broblemau, efallai na fyddwn yn gallu cysylltu’r taliad â’ch cyfrif. Gallai hyn arwain at ganslo’ch tanysgrifiad.

Gwirfoddolwyr

Mae tanysgrifiadau i’r gwasanaeth Diweddaru am ddim i bobl sy’n bodloni diffiniad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o wirfoddolwr.

Ni allwch ychwanegu tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer swydd â thâl at danysgrifiad Gwasanaeth Diweddaru gwirfoddol am ddim.

Os byddwch yn symud o swydd wirfoddol i swydd â thâl, mae angen i chi:

  • gwneud cais am wiriad DBS newydd drwy’r sefydliad rydych yn gweithio iddo

  • ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru eto

  • talu’r ffi flynyddol o £16 gyda cherdyn credyd neu ddebyd

Gallwch ychwanegu tystysgrif DBS ar gyfer gwirfoddolwr at gyfrif Gwasanaeth Diweddaru a delir.

Eich ID Gwasanaeth Diweddaru

Pan ymunwch â’r Gwasanaeth Diweddaru, byddwn yn rhoi ID unigryw i chi sy’n dechrau gyda’r llythyren C ac yna 10 rhif.

Er mwyn cadw’ch cyfrif yn ddiogel, rhaid i chi:

  • gwneud nodyn o’ch ID a’i gadw’n ddiogel – bydd ei angen arnoch i gael mynediad i’ch cyfrif

  • peidio â’i rannu ag unrhyw un arall

Os byddwch yn anghofio’ch ID Gwasanaeth Diweddaru gallwch ein ffonio ar 03000 200 190.

Adnewyddu eich tanysgrifiad

Rhaid i chi adnewyddu eich tanysgrifiad i’r Gwasanaeth Diweddaru bob blwyddyn i’w gadw’n weithredol. Bydd tanysgrifiadau ar gyfer y flwyddyn ganlynol yn dechrau’r diwrnod ar ôl i’ch tanysgrifiad presennol ddod i ben. Rydych yn sefydlu adnewyddiadau awtomatig neu â llaw pan ymunwch gyntaf.

Os na fyddwch yn adnewyddu cyn y dyddiad cau, byddwn yn canslo’ch tanysgrifiad. I ailymuno bydd angen i chi wneud cais am wiriad DBS newydd, trwy’r sefydliad rydych yn gweithio iddo, a chofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Diweddaru eto.

Bydd negeseuon e-bost am eich tanysgrifiad yn dod o ‘donotreply@dbs.gov.uk’. Gallwch ychwanegu’r cyfeiriad e-bost hwn at eich rhestr ‘anfonwyr diogel’ i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn yr e-byst.

Adnewyddiadau awtomatig

Os dewiswch adnewyddu awtomatig, byddwn yn e-bostio atoch bob blwyddyn pan fydd eich tanysgrifiad yn ddyledus.

Byddwn yn ceisio cymryd y ffi flynyddol o £16 gan ddefnyddio manylion eich cerdyn a gadwyd.

Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth oni bai bod angen i chi ddiweddaru manylion eich taliad.

Diweddaru manylion eich taliad ar gyfer adnewyddu awtomatig

Os yw manylion eich taliad wedi newid, gallwch eu diweddaru drwy mewngofnodi i’ch cyfrif a dewis ‘Adnewyddu tanysgrifiad’.

Dim ond os yw eich adnewyddiad yn ddyledus o fewn y 30 diwrnod nesaf y gallwch ddiweddaru manylion eich taliad.

Taliadau aflwyddiannus ar gyfer adnewyddiad awtomatig

Os bydd eich adnewyddiad awtomatig yn methu, byddwn yn e-bostio atoch ac yn ceisio cymryd y taliad eto.

Os bydd eich adnewyddiad yn methu oherwydd bod manylion eich cerdyn wedi newid, rhaid i chi mewngofnodi i’ch cyfrif a diweddaru manylion eich cerdyn.

Os bydd eich taliad yn methu eto, byddwn yn canslo eich tanysgrifiad. Bydd angen i chi wneud cais am wiriad DBS newydd, drwy’r sefydliad rydych chi’n gweithio iddo, a chofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Diweddaru eto.

Newid o adnewyddu awtomatig i adnewyddu â llaw

Gallwch ddiffodd adnewyddiadau awtomatig drwy mewngofnodi i’ch cyfrif a diweddaru manylion eich cerdyn. Yna gallwch ddewis yr opsiwn i beidio â chadw manylion eich cerdyn ar gyfer taliadau yn y dyfodol.

Adnewyddiadau â llaw

Os dewiswch adnewyddu eich tanysgrifiad â llaw, byddwn yn anfon nodyn atgoffa e-bost atoch 30 diwrnod calendr cyn bod eich tanysgrifiad yn ddyledus.

Os na fyddwch yn adnewyddu eich tanysgrifiad 14 diwrnod cyn y dyddiad dod i ben, byddwn hefyd yn anfon llythyr atgoffa atoch. Rhaid i chi gadw’ch cyfeiriad yn gyfredol yn eich cyfrif i sicrhau eich bod yn derbyn eich llythyr atgoffa.

Bydd angen i chi mewngofnodi i’ch cyfrif a gwneud taliad o fewn y 30 diwrnod cyn i’ch tanysgrifiad ddod i ben.

Os na fyddwch yn gwneud taliad cyn y dyddiad dod i ben, byddwn yn canslo’ch tanysgrifiad. Bydd angen i chi wneud cais am wiriad DBS newydd, drwy’r sefydliad rydych chi’n gweithio iddo, a chofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Diweddaru eto.

Newid o adnewyddu â llaw i adnewyddu awtomatig

Pan fyddwch chi’n adnewyddu â llaw gallwch chi ddewis newid i adnewyddu awtomatig. I wneud hyn, dewiswch yr opsiwn i gadw manylion eich cerdyn ar gyfer taliadau yn y dyfodol.

Adnewyddu ar gyfer gwirfoddolwyr

Mae tanysgrifiadau i’r Gwasanaeth Diweddaru ar gyfer gwirfoddolwyr yn rhad ac am ddim. Mae angen i chi adnewyddu bob blwyddyn o hyd.

Byddwn yn anfon nodyn atgoffa e-bost atoch 30 diwrnod cyn i’ch tanysgrifiad ddod i ben, rhaid i chi gadarnhau a ydych am adnewyddu neu byddwn yn canslo’ch tanysgrifiad.

Gwnewch yn siŵr mai cyfeiriad e-bost personol yw cyfeiriad e-bost eich tanysgrifiad. Gallwch ddiweddaru’ch cyfeiriad e-bost drwy mewngofnodi i’ch cyfrif.

Newid eich gwybodaeth bersonol neu fanylion cyswllt

Gallwch mewngofnodi i’ch cyfrif i ddiweddaru eich:

  • e-bost

  • rhif ffôn

  • cyfeiriad

Os bydd eich cyfeiriad presennol yn newid, mae eich tystysgrif DBS yn dal yn ddilys a gallwch barhau i ddefnyddio’r Gwasanaeth Diweddaru.

Os yw’r enwau ar dystysgrif yn eich cyfrif yn anghywir, nid yw’r dystysgrif yn ddilys a byddwn yn ei chanslo.

Os byddwch yn newid eich enw, rhaid i chi wneud cais am wiriad DBS newydd drwy’r sefydliad rydych yn gweithio iddo. Yna gallwch gysylltu’ch tystysgrif newydd â’ch cyfrif Gwasanaeth Diweddaru a chael gwared ar eich hen un.

Canslo eich cyfrif Gwasanaeth Diweddaru

Gallwch ganslo eich cyfrif Gwasanaeth Diweddaru ar unrhyw adeg. Ni fydd unrhyw dystysgrifau sydd ynghlwm wrth y cyfrif yn cael eu gwirio am newidiadau statws mwyach.

I ganslo rhaid i chi mewngofnodi i’ch cyfrif, dewis ‘canslo tanysgrifiad’ a dilyn y cyfarwyddiadau.

Ni fyddwn yn ad-dalu’r ffi tanysgrifio flynyddol oni bai eich bod wedi talu am adnewyddiad ac yna wedi canslo cyn eich dyddiad adnewyddu.

Ni fydd tynnu eich tystysgrifau DBS o’ch cyfrif Gwasanaeth Diweddaru yn canslo eich tanysgrifiad

Ychwanegu a thynnu tystysgrifau yn eich cyfrif

I ychwanegu tystysgrif at eich cyfrif, rhaid iddi fod yn eich enw. Gallwch ychwanegu tystysgrifau lluosog at eich cyfrif.

Os byddwch yn tynnu tystysgrif o’ch cyfrif Gwasanaeth Diweddaru, ni allwch ei hychwanegu eto na’i defnyddio i greu cyfrif newydd.

Monitro statws eich tystysgrif DBS

Pan fyddwch yn ychwanegu eich tystysgrif DBS at y Gwasanaeth Diweddaru, rydym yn chwilio’n rheolaidd i weld a oes unrhyw wybodaeth newydd.

Rydym yn gwirio:

  • gwybodaeth am euogfarnau cofnod troseddol a gwaharddiadau yn wythnosol

  • gwybodaeth yr heddlu ar gyfer gwiriadau manylach bob naw mis - nid yw’n cael ei ryddhau ar lawer o dystysgrifau DBS ac nid yw’n newid yn aml iawn

Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrifa gwirio statws eich tystysgrif ar unrhyw adeg.

Os oes gwybodaeth newydd, byddwn yn anfon llythyr atoch yn dweud wrthych beth sydd wedi newid a beth i’w wneud nesaf. Byddwn yn anfon y llythyr i’r cyfeiriad ar eich tystysgrif DBS.

Bydd statws eich tystysgrif DBS yn newid os nodir unrhyw un o’r canlynol:

Ar gyfer tystysgrifau Safonol:

  • euogfarnau newydd, rhybuddiadau oedolion a rhybuddiadau amodol heb eu disbyddu

  • unrhyw newid i euogfarn, rhybuddiad oedolion neu rybuddiad amodol heb ei ddisbyddu

Ar gyfer tystysgrifau Manylach:

  • euogfarnau newydd, rhybuddiadau oedolion a rhybuddiadau amodol heb eu disbyddu

  • unrhyw newid i euogfarn, rhybuddiad oedolion neu rybuddiad amodol heb ei ddisbyddu

  • unrhyw wybodaeth newydd, berthnasol gan yr heddlu

Ar gyfer tystysgrifau Manylach gyda Rhestr(au) Gwaharddedig:

-euogfarnau newydd, rhybuddiadau oedolion a rhybuddiadau amodol heb eu disbyddu

  • unrhyw newid i euogfarn, rhybuddiad oedolion neu rybuddiad amodol heb ei ddisbyddu

  • unrhyw wybodaeth heddlu newydd, berthnasol

  • rydych chi’n cael eich ychwanegu at y rhestr(au) gwaharddedig perthnasol

Os bydd statws eich tystysgrif yn newid ac nad ydych chi’n credu y dylai fod wedi newid, ffoniwch ni ar 03000 200 190 a byddwn yn ymchwilio.

Newidiadau i statws tystysgrif

Os bydd rhywbeth ar eich tystysgrif yn newid, dylech ystyried a oes angen i chi drafod hyn gyda’ch cyflogwr neu sefydliad gwirfoddol.

Gall eich cyflogwr neu sefydliad gwirfoddol:

  • gofyn i chi gael gwiriad DBS newydd

  • tynnu eu cynnig cyflogaeth yn ôl

  • terfynu eich cyflogaeth

  • eich symud i rôl arall nad oes angen gwiriad DBS ar ei chyfer

Os cewch eich rhoi ar restr waharddedig neu os cewch eich euogfarnu o drosedd a bod hyn yn cael ei ddileu ar ôl apelio, bydd y newid statws yn aros ar eich cyfrif Gwasanaeth Diweddaru. Bydd angen i chi wneud cais am wiriad DBS newydd, trwy’r sefydliad rydych chi’n gweithio iddo, oherwydd nad yw eich tystysgrif yn ddilys mwyach. 

Cyflogwyr a sefydliadau yn gwirio statws eich tystysgrif(au)

Dim ond os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol y gall cyflogwyr a sefydliadau wirio statws eich tystysgrif DBS gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Diweddaru:

  • gallent ofyn yn gyfreithiol am wiriad DBS ar gyfer y rôl y byddwch chi’n gweithio ynddi

  • mae ganddynt eich caniatâd

  • maent wedi gweld eich tystysgrif DBS wreiddiol yn bersonol – nid oes angen iddynt ei gweld bob tro y maent yn gwirio eich statws

 - maent wedi gwirio eich ID i gadarnhau eich hunaniaeth

Os nad ydych chi eisiau i gyflogwr neu sefydliad barhau i wirio statws eich tystysgrif(au), cysylltwch â nhw a dywedwch wrthynt eich bod yn tynnu eich caniatâd yn ôl. Os na fyddant yn rhoi’r gorau iddi, maent yn torri’r gyfraith trwy gael mynediad at ddata nad oes ganddynt hawl i’w gweld.

I wirio statws eich tystysgrif gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Diweddaru, bydd angen y canlynol ar y cyflogwr neu’r sefydliad:

  • Cyfeirnod 12 digid y dystysgrif DBS

  • cyfenw

  • dyddiad geni yn y fformat DD/MM/BBBB - os yw’r diwrnod neu’r mis yn ddigid sengl peidiwch â defnyddio sero, er enghraifft 1/7/1980

Pan fydd cyflogwr neu sefydliad yn gwirio statws eich tystysgrif DBS gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Diweddaru, byddant yn gweld un o’r canlyniadau canlynol: 

Ni ddatgelodd y dystysgrif DBS hon unrhyw wybodaeth ac mae’n parhau i fod yn gyfredol gan nad oes unrhyw wybodaeth bellach wedi’i nodi ers ei chyhoeddi.

Mae hyn yn golygu:

  • roedd y dystysgrif DBS pan gafodd ei chyhoeddi yn wag ac nid oes unrhyw wybodaeth newydd - gellir ei derbyn fel un gyfredol a dilys

Mae’r dystysgrif DBS hon yn parhau i fod yn gyfredol gan nad oes unrhyw wybodaeth bellach wedi’i nodi ers ei chyhoeddi.

Mae hyn yn golygu:

  • datgelodd y dystysgrif DBS wybodaeth, ond nid oes unrhyw wybodaeth newydd - gellir ei derbyn fel un gyfredol a dilys

Nid yw’r dystysgrif DBS hon yn gyfredol mwyach. Gwnewch gais am wiriad DBS newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae hyn yn golygu:

  • mae gwybodaeth newydd - bydd angen i chi wneud cais am wiriad DBS newydd i weld y wybodaeth newydd hon

Nid yw’r manylion a gofnodwyd yn cyfateb i’r rhai a gedwir ar ein system. Gwiriwch a cheisiwch eto.

Mae hyn yn golygu naill ai:

  • nid yw’r person wedi’i danysgrifio i’r Gwasanaeth Diweddaru

  • mae’r dystysgrif DBS wedi’i thynnu o’r Gwasanaeth Diweddaru

  • nid ydych wedi nodi’r wybodaeth gywir

Statws y Gwasanaeth Diweddaru

Statws tanysgrifio

Newydd Pan fyddwch chi’n gwneud cais gyda chyfeirnod ffurflen gais
Wedi’ch tanysgrifio Pan fydd eich tystysgrif DBS ynghlwm wrth eich tanysgrifiad
Wedi’i Ganslo Os byddwch chi’n canslo’ch tanysgrifiad
Wedi dod i ben Os na fyddwch chi’n adnewyddu’ch tanysgrifiad

Statws y cais (os ydych chi’n tanysgrifio gyda ffurflen gais gwiriad DBS)

Wedi’i Dderbyn Rydym wedi derbyn eich ffurflen gais gwiriad DBS
Heb ei dderbyn Rydym yn aros i dderbyn eich ffurflen gais gwiriad DBS
Wedi’i Phrintio Rydym wedi printio’ch tystysgrif DBS

Statws diweddaru (mae hyn yn dangos statws eich tystysgrif DBS)

Heb fod yn wag/Dim Gwybodaeth Newydd Yn dal yn gyfredol
Gwag/Dim Gwybodaeth Newydd Yn dal yn gyfredol
Gwybodaeth Newydd Ddim yn gyfredol mwyach – mae gwybodaeth newydd

Gwiriadau cadarnhau cynnar

Os bydd statws eich tystysgrif yn newid, gall eich cyflogwr gyflwyno gwiriad cadarnhau cynnar. Mae’r gwiriad hwn yn dweud wrthyn nhw a ydych chi wedi cael eich gwahardd rhag gweithio gyda phlant neu oedolion.

Dim ond os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol y gall eich cyflogwr gyflwyno gwiriad cadarnhau cynnar:

  • rydych chi wedi tanysgrifio i’r Gwasanaeth Diweddaru

  • mae gwiriad statws yn dangos bod gwybodaeth newydd ar eich tystysgrif

  • roedd eich tystysgrif yn cynnwys gwiriad o o leiaf un rhestr waharddedig

  • mae ganddyn nhw eich caniatâd i wneud y gwiriad

Os ydych chi wedi cael eich gwahardd ac angen cyngor, gallwch ffonio ein llinell gymorth gwahardd ar 03000 200 190.

Pam y gallai fod angen gwiriadau DBS lluosog arnoch

Os gofynnir i chi gael mwy nag un gwiriad DBS, gallai fod oherwydd:

  • mae eich cyflogwr wedi penderfynu peidio â defnyddio’r Gwasanaeth Diweddaru

  • mae gwybodaeth ar eich tystysgrif DBS wedi newid - yna bydd eich hen dystysgrif yn cael ei thynnu o’r Gwasanaeth Diweddaru

  • efallai y bydd angen math gwahanol o wiriad DBS ar eich rôl na’r un sydd gennych

  • rydych chi’n gweithio mewn swydd gartref

Swyddi gartref

Pan fyddwch chi’n gwneud cais am wiriad DBS ar gyfer swydd gartref, rydym yn cynnal gwiriadau ar y cyfeiriad fel rhan o’r cais. Ni fydd y Gwasanaeth Diweddaru yn parhau i gynnal gwiriadau ar y cyfeiriad fel rhan o’ch tanysgrifiad.

Dylech drafod hyn gyda’ch cyflogwr neu’r person sy’n gofyn am y dystysgrif.

Tystysgrifau â llaw

Weithiau nid yw’n bosibl i ni gynhyrchu tystysgrif DBS a gynhyrchir gan y system. Pan fydd hyn yn digwydd, rydym yn cyhoeddi tystysgrif DBS â llaw. Ni ellir defnyddio tystysgrifau DBS â llaw i ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru.

Cysylltu â DBS

Llinell gymorth y DBS 03000 200 190 E-bost customerservices@dbs.gov.uk

Os ydych chi’n anfon e-bost atom, darparwch 5 darn o wybodaeth, rhaid i hyn gynnwys:

  • enw llawn

  • cyfeiriad a ddatganwyd ar y ffurflen gais (gan gynnwys rhif y tŷ a’r cod post)

  • dyddiad geni

A dau o’r isod:

  • cyfeirnod cais y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

  • Rhif Yswiriant Gwladol

  • y swydd yr ymgeisir amdani

  • Enw’r cyflogwr

  • man geni (tref neu ddinas a gwlad)

  • cyfeirnod tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

  • Rhif Pasbort

  • Rhif Trwydded Yrru

  • cyfeiriad blaenorol