Skip to main content
Guidance

Regulated activity with children (Welsh)

Updated 17 September 2026

Ymwadiad: Nid cyngor cyfreithiol yw hwn. Os oes angen help arnoch i wneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith, dylech siarad â chynghorydd cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r canllawiau hyn yn egluro beth sydd wedi’i gynnwys yn y diffiniad cyfreithiol o ‘weithgaredd rheoledig gyda phlant’, gan ddisgrifio’r gweithgareddau, sefydliadau a swyddi penodol sy’n gymwys ar gyfer gwiriad DBS Manwl gyda gwiriad Rhestr Gwahardd Plant yn y gweithlu plant. Mae hyn yn berthnasol p’un a yw’r unigolion yn cael eu talu neu heb eu talu.

Os yw’ch sefydliad yn cyflogi pobl nad ydynt yn bodloni’r holl amodau a amlinellir yn y canllawiau hyn, efallai y byddant yn gymwys i gael lefel wahanol o wiriad. Bydd angen i chi gyfeirio at ein gwefangwefan i edrych ar hyn. Os yw’ch sefydliad yn cyflogi pobl mewn rolau gwahanol sy’n cyflawni dyletswyddau tebyg i’r rhai a amlinellir yn yr enghreifftiau yma, dylech gyfeirio at ein canllawiau ar-lein gan y gallent fod yn gymwys ar gyfer yr un lefel o wiriad.

Gall unrhyw newidiadau ’’r rôl, neu’r gweithgareddau y mae person yn eu cyflawni, effeithio ar lefel y gwiriad sy’n berthnasol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllawiau cymhwysedd ar ein gwefan gwefan.

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i wiriadau cofnodion troseddol (gwiriadau DBS) yng Nghymru, Lloegr, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Gellir cael gwybodaeth am wiriadau sydd ar gael yn yr Alban gan Disclosure Scotland. Gellir cael gwybodaeth am wiriadau sydd ar gael yng Ngogledd Iwerddon gan Access NI.

2. Beth yw gweithgaredd rheoledig?

Mae gweithgaredd rheoledig yn waith na ddylai person gwaharddedi ei wneud. Fe’i diffinnir yn Neddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed 2006 (SVGA), sydd wedi’i diwygio gan Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012 (PoFA). Mae’n eithrio unrhyw weithgareddau a gyflawnir yn ystod perthnasoedd teuluol neu fel rhan o unrhyw berthynas bersonol, anfasnachol.

Plentyn yw unrhyw berson nad yw wedi cyrraedd 18 oed eto. Fodd bynnag, os yw gweithgaredd yn ymwneud â’u cyflogaeth yn unig, er enghraifft, hyfforddiant cynefino wrth ddechrau gwaith neu eu goruchwylio yn y gwaith, a’u bod yn 16 neu 17, yna ni fyddai’r hyfforddwr na’r goruchwyliwr mewn gweithgaredd rheoledig.

Os ydych chi’n cyflogi neu’n asesu rhywun i wneud gwaith sy’n cael ei reoleiddio gyda phlant, gallech ofyn am wiriad DBS Manwl, gyda gwiriad o’r Rhestr Gwahardd Plant.

Pan fyddwch yn gofyn am wiriad DBS i asesu rhywun i gynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant, mae hyn yn golygu eich bod yn ddarparwr gweithgareddau rheoledig (RAP).

Fel RAP, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i atgyfeirio unigolyn at DBS lle bodlonir yr amodau perthnasol.

I gael gwybodaeth am atgyfeiriadau, gallwch:

 Mae gweithgaredd rheoleiddiedig gyda phlant yn cynnwys naill ai:

  • pa weithgaredd y mae person yn ei wneud fel rhan o’i swydd a pha mor aml maen nhw’n ei wneud

  • ble mae’r gwaith yn digwydd a pha mor aml y bydd y person yn gweithio yno

  • gweithio mewn swyddi penodedig (yng Nghymru yn unig)

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn sy’n gyfystyr â gweithgaredd rheoledig gyda phlant yn y tabl isod.

3. Gweithgareddau penodol gyda phlant a’r hyn y mae angen i chi ei ystyried:

Gweithgaredd Cyflwr cyfnod Oedran y plentyn
Addysgu, hyfforddi, neu gyfarwyddo, gofalu am, neu oruchwylio plant Ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod, neu unwaith dros nos rhwng 2am a 6am gyda’r cyfle i gysylltu wyneb yn wyneb â phlant O dan 18 oed – ond nid os yw’r gweithgaredd mewn perthynas â chyflogaeth â thâl neu ddi-dâl y plentyn a’u bod yn 16 neu 17 oed
Cyngor neu arweiniad a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant ynglŷn â’u lles addysgol, emosiynol neu gorfforol Ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod, neu unwaith dros nos rhwng 2am a 6am gyda’r cyfle i gysylltu wyneb yn wyneb â phlant O dan 18 oed – ond nid os yw’r gweithgaredd mewn perthynas â chyflogaeth â thâl neu ddi-dâl y plentyn a’u bod yn 16 neu 17 oed
Cymedroli gwasanaeth gwe yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer plant Ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod O dan 18 oed
Gyrru cerbyd i blant Ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod O dan 18 oed
Gofal iechyd neu ofal personol Dim gofyniad - mae unwaith yn ddigon Dan 18
Cofrestru i fod yn ofalwr maeth neu’n ofalwr maeth preifat Dim gofyniad O dan 18 oed
Cofrestru i fod yn warchodwr plant neu ddarparwr gofal plant, gan gynnwys cofrestru gwirfoddol Dim gofyniad Yn unol â rheoliadau
Rheoli rhywun mewn gweithgaredd rheoledig gyda phlant o ddydd i ddydd Dim gofyniad O dan 18 oed

4. Sefydliadau penodedig gyda phlant

Bydd pobl sy’n gweithio yn y sefydliadau penodedig hyn yn cynnal gweithgareddau rheoledig gyda phlant os ydynt yn bodloni pob un o’r 5 maen prawf canlynol:

  • Maent yn gweithio yn y sefydliadau ar fwy na 3 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 30 diwrnod, neu unwaith dros nos rhwng 2am a 6am gyda’r cyfle i gysylltu wyneb yn wyneb â’r plant

  • Maent yn cael y cyfle, oherwydd eu swydd, i gael cyswllt â’r plant yn y sefydliad

  • Maen nhw’n gweithio yno at ddibenion y sefydliad

  • Nid yw’n waith dros dro nac achlysurol

Y sefydliadau penodedig yw:

  • sefydliad addysgol yn unig neu’n bennaf ar gyfer darparu addysg amser llawn plant

  • uned atgyfeirio disgyblion

  • Academi darpariaeth amgen, yn Lloegr yn unig

  • darparwr addysg feithrin

  • canolfan gadw i blant

  • gwasanaeth llety diogel i blant, yng Nghymru yn unig

  • cartref plant neu gartref a ddarperir o dan Ddeddf Plant 1989

  • cartref gofal i blant yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant, yng Nghymru yn unig

  • canolfan blant

  • Adeiladau gofal plant perthnasol

5. Swyddi penodedig yng Nghymru yn unig

Mae’r swyddi hyn yn bodloni’r diffiniad o weithgaredd rheoledig gyda phlant oherwydd teitl y swydd neu’r cyfrifoldebau, ac nid oes angen eu cyflawni ar nifer benodol o weithiau:

  • swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru a Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru

Mae’r swyddi canlynol mewn gweithgaredd rheoledig gyda phlant dim ond os oes gan ddeiliad y swydd y cyfle, oherwydd y rôl a gynhelir, i gael cyswllt â’r plant:

  • swyddogaethau Gweinidogion Cymru i arolygu sefydliadau neu asiantaethau cofrestredig, corff y GIG neu unrhyw un sy’n darparu gofal iechyd i’r corff

  • swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygu asiantaethau gwarchod plant, neu asiantaethau maethu, canolfannau teuluoedd preswyl, asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol, asiantaethau cymorth mabwysiadu

  • swyddogaethau sy’n ymwneud â lles plant mewn ysgolion preswyl

  • swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygiadau o hyfforddiant athrawon, awdurdodau addysg lleol, ysgolion annibynnol cofrestredig, ysgolion preswyl a cholegau

  • swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiad neu ymchwiliad i swyddogaethau awdurdodau gwasanaethau plant

  • swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygu gwasanaethau gyrfaoedd

  • swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygu addysg grefyddol

  • swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygu cyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol gan awdurdodau lleol

6. Dolenni

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan DBS. Efallai bydd y tudalennau canlynol yn ddefnyddiol

www.gov.uk/government/publications/dbs-workforce-guidance

Mae gwybodaeth am weithgaredd rheoledig gyda phlant hefyd ar gael gan yr Adran Addysg (DfE)

https://www.gov.uk/government/publications/keeping-children-safe-in-education–2

Mae gwybodaeth am weithgaredd rheoledig gydag oedolion hefyd ar gael gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC)

www.gov.uk/government/publications/new-disclosure-and-barring-services

Mae cyflogwyr y GIG yn darparu ystod o ganllawiau penodol i’r sector ar eu gwefan ac mae ganddynt offeryn cymhwysedd ar gyfer rolau’r GIG

www.nhsemployers.org/case-studies-and-resources/2017/04/dbs-eligibility-tool

Cysylltiadau gwasanaeth Allgymorth DBS

www.gov.uk/guidance/the-dbs-regional-outreach-service

7. Cysylltiadau

Ymholiadau cyffredinol: customerservices@dbs.gov.uk

Ffôn: 0300 020 0190

Llinell Gymraeg: 0300 020 0191

Gwefan: www.gov.uk/dbs